Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SEVERN ROAD, CAERDYDD -Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys hon y Saboth, Medi 16eg, a'r nos Lun ganlynol. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. H. T. Jacob, Abergwaun, ac O. Lloyd Owen, Pontypridd. Dywenydd gennym oedd gweled y Parch. J. Stephens, jjwynyrhwrdd, yn ein plith ac yn llywyddu yr odteuon.
Marwolaeth Lieut. James H.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marwolaeth Lieut. James H. Parry, IL &, B.Sc. Yr wythnos ddiweddaf crybwyllasom fod Lieut. James Hywel Parry, mab ieuengaf v Parch. J. Hywel Parry, Llansainlet, wedi ei glwyfo yn drwm, a'i fod mewn ysbyty yn Ffrainc. Erbyn hyn mae'r newydd galarus wedi cyrraedd ei dad ei fod wedi huno yn yr angeu mewn canlyniad i'w glwyfau trymion. Yn wir, yr oedd wedi niarw pan oeddym yn ysgrifennu'r nodiad hwnnw, ond fod yr hysbys- rwydd heb gyrraedd y wlad hon. Bachgen rhagorol ac annwyl oedd James, yn llawn talent, sirioldeb a nwyfiant. Yr oedd wedi cwblhau cwrs disglair o addysg yng Ngholeg Caerdydd, ac wedi graddio yn B.Sc. gydag anrhydedd mewn Applied Mathematics. Mae'r ergyd yn un eithafol drom a chwerw i'11 hannwyl frawd, canys nid oes ond ychydig fisoedd er pan roddodd Lieut. Tom Parry, ei fab hynaf, ei fywyd yn aberth dros ei wlad. O'r tri mab aeth allan yn ddewr a siriol i Ffrainc yn gynnar yn 1915, nid oes yn aros ond Lieut. Enirys Parry, B.Sc., ae lllac yntau yn wael mewn ysbyty yn y wlad hon wedi gweled ohono frwydro caled yn y ffosydd am amser maith. A diau fod ymad- awiad ei*ddau frawd yn ycliwanegu yn ddirfawr at ei wendid a'i boen. Ni bu brodyr erioed hoffusach o'i gilydd, na meibion erioed yn anwylach o'u tad, a hawdd gennym gredu a dirnad geiriau Mr. Parry wrthym, ei fod fel aderyn wedi ei glwyfo yn ceisio llwyn i ymguddio ynddo, Ond da gennym ei fod A 11 gallu ych- wanegu fod cysgod cyfeillion a pherthynasau yn rhyw help i godi i'r cysgod mwy a gwell.' Dymuuiad a gweddi mwyaf diffuant ei liaws cyfeillion yw ar iddo ef a'i fab Entry s brofi yn helaetli o'r cysuron a'r nerth sydd i'w cael dan gysgod clyd yr ad'en dd wyfol.
Yr Arfogaeth Ysbrydol. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr Arfogaeth Ysbrydol. I GAN MR. G. P. BIDDYR, GLANYMOR, ST. DOGMAEr/S. Yn Ephesiaid vi. 13-17 cawn hen gadfridog ym myddin Iesu Grist yn cyfarwyddo milwyr eraill yn yr vox fyddin pa fodd i filwrio'n llwyddiannus ac y mae'r amgylcliiadau presennol yn cymell sylw arbennig i'w gyfarwyddiadau. Paul yw'r lien gadfridog yr Ephesiaid a'r Cristionogion yn gyffredinol yw'r milwyr eraill. Bu Paul ar un adeg yii milwrio dan dywysog arall, sef tywysog llywodraeth yr awyr.' Ond ar ddiwrnod mawr yn ei hanes, pan ym mhoeth- der y frwydr yn erbyn Brenin y nef, clybu lais yn gofyn iddo Saul, Saul, paham yr wyt yn Fy erlid I ? Yna etyb yntau trwy ofyn Pwy wyt Ti, Arglwydd ? Gyda hyn try yr Iesu y searcnhght arno— Goleuni a ddisgleiriodd o'i amgylch ac yn y goleuni talibaid a threiddiol hwn gwelodd yn erbyn pwy yr ymladdai. Yr oedd Saul yn flaenorol i hyn yn ymladd yn v tywyllwch yn ei anwybodaeth ond pan y cafodd olwg ar Freniii y nef yn Ei ogoriant, yn y fan taflodd ei arfau i lawr, diosgodd filwrwisg y diafol, ymunodd a byddin yr Oen, a gwisgodd am dano holl arfogaeth DllW. Dyma un o gad- fridogion y diafol wedi ei adael, a throi i'w wrth- wynebu. Bu Paul yn ffyddlon iawn ym myddin y diafol, yn erlid, llusgo, carcharu ac anrheithio milwyr Iesu; ond bu yn fwy ffyddlon ac ym- drechol ym myddin Iesu-mor ffyddlon fel y gallodd ddweyd ar derfyn ei filwriaeth, Mi a ymdrechais ymdrech deg.' Yn awr, pwy yn fwy cymwys i gynghori a chyfarwyddo milwyr eraill na'r Apostol hwn ? Yr oedd efe wedi ymladd llawer brwydr a'r gelynion, ac felly trwy brofiad yn gwybod bron popeth am y gelynion, eu rhifedi, eu nerth a'u dichellion. Ac fel hen filwr profiadol a llwydd- iannus y mae efe yn gymwys i gyfarwyddo mil- wyr eraill pa fodd i filwrio milwriaeth dda. Nid yw son am filwyr a milwrio yn beth hyfryd i glust yr un gwir Gristion, ond ei iaith a'i deimlad yn hytrach ydyw, Gwasgarer y rhai sydd dda ganddynt ryfel,' a Brysied y bore hyfryd i ben pryd na byddo son am ryfel, pryd y troir y cleddyfau yn sychau, a'r gwaywifyn yn bladuriau, ac y byddo heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonnau y mor.' Ond y mae un filwriaeth nas gall beidio ymhyfrydu ynddi, ac yn yr hon ni raid i neb ofni ymuno, a honno yw'r unig filwriaeth dda ar wyneb y ddaear. Ac fel proffeswyr crefydd yr ydym ni wedi ymrestru mewn ymladdfa lawer mwy pwysig nag a berthyn i'r ddaear hon. Gan nad pa mor fawreddog ac arswydlawn yw byddinoedd y ddaear, eu hymladdfeydd a'u buddugoliaethau -ac y maent yn ofnadwy felly, fel y gweUr heddyw-nid ydynt ond pethau plentynaidd o'u cymharu ag ymladdfeydd a buddugoliaethau Eglwys Dduw, byddin yr Oen. Y mae'r filwr- iaeth hon o ran ei natur yn ysbrydol. Ysbrydol yw popeth a berthyn iddi ysbrydol yw'r arfog- aeth—' Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol' ysbrydol hefyd yw'r gelynion yr ymleddir a hwy-' Oblegid nid yw ein hym- drech ni yn. erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.' Yn yr adnodau y cyfeiriwyd atynt gesyd Paul ger ein bron elfennau yr arfogaeth ysbrydol, y rhai y mae'n anhepgorol angenrlieidiol i filwyr Duw eu gwisgo a'u defnyddio. Rhaid yw i fil- wyr dacarol, mewn trefn i filwrio'n dda, fod yn feddiannol ar arfau da. Mae gan y fyddin Grist- lonogol arfau rhagorol, wedi dyfod o arfdy y nef ac wedi eu cynllunio gan y Cadfridog Dwyfol Ei Hun. Gwnaeth un o filwyr Iesu Grist gam- gymeriad unwaith gyda golwg ar natur yr arfau hyn, sef Pedr yn yr Ardd. Diosgodd efe ei gleddyf dur, a dechreuodd daro ag ef ond caf- odd gerydd llym gan ei Dywysog am hynny Dod dy gleddyf yn y wain.' Ond erbyn dydd y Pentecost yr oedd Pedr wedi deall natur yr arfogaeth yn dda, ac yn medru ei defnyddio gyda deheurwydd mawr. Ar y dydd nodedig hwnnw cymerodd efe gleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw Gair Duw, ac ag ychydig ergyrlion a'r cleddyf hwnnw lloriodd dair mil o elynion y Brenin, Ond y mae i'r arfogaeth ysbrydol fwy na chleddyf, a chyfeiria Paul at yr holl arfogaeth, gan cnwi pob darn ohoni ar wahan. Perthyn iddi helm yr iachawdwriaetli i gadw y pen, dwyfronneg cyfiawnder i amddiffyn y galon, tarian y ffydd i gadw'r saethau draw ac i ddiffodd holl bicellau taiillyd y fall, gwregys gwirionedd am y lwynau, ac esgidiau paratoad Efengyl tangnefedd am y traed. Dyma'r arfog- aeth gyfiawn. Nid oes achos i ni synnu dim fod yr Apostol yn manylu cymaint ar yr holl arfogaeth, pan gofiwn ei fod yn rhwym wrth filwr nos a dydd. Gwyddai gyuiaint am wisg y milwr ag am ei ddillad ei hun. A chan mai yn yr ysbrydol yr oedd efe yn byw fwyaf, naturiol iddo oedd ei hysbrydoli a rhoddi enwau ysbrydol ar ei rhan- nau oil. Ond o'r holl ddarnau perthynol i'r arofgaeth, nid y llciaf pwysig oedd, ac ydyw, y 'gwregys.' Yn wir, y mae ystyr yn yr hwn y gellir ei gyfrif y pwysicaf o'r darnan oil. Onid hyn barodd i'r Apostol ei enwi yn gyntaf ? Yr oedd y gwregys o gymaint pwys fel y mae mewn rhai mannau o'r Ysgrythyr yn cael ei gymryd fel i arwyddo'r wisg yn gyfan. Y mae ymwregysu yn golygu gwisgo'r holl arfogaeth, a datod y gwregys yn golygu ei rhoddi heibio. Gyda dillad rhyddion, llaesion y Dwyreinwyr yr oedd gwregys yn an- hepgorol. Felly y mae'r ymadrodd gwregysu Iwjaiau yn gyfystyr ag ymbaratoad ac yrngyf- lwyniad cyflawn i ryw orchwyl a datod gwregys, o'r tn arall, yn arwyddo ymollyngiad oddiwrth waith i syrthni a diofalwch. Sefwch gan hynny,' meddai Paul, wedi amgylch-wregysu eich lwynau a gwirionedd.? Y mae y sefwch gan hynny yma, felly, yn arwyddo scfyll yn barod i frwydr. Sefyll yn wyneb y gelyn, sefyll yn hyderus o oruchafiaeth ar y gelyil-hynny ydyw, cymryd safie ymwyb- odol a phendant yn erbyn diafol. a phechod. Yr hyn oedd gwregys i'r milwr ydyw gwirionedd i'r Cristion. Ond gyda bod yn gryfder iddo, yr oedd gwregys y milwr yn harddwch iddo cadwai ei ddillad yn daclus am dano, a'i lwynau ynghyd gyda'i gilydd. Gwirionedd yr Efengyl yw addurn a chryfder gallnoedd y meddwl. Nis gall dyn ddal ei dir a glynu yn ei broffes heb fod gwir- ionedd ganddo ac ynddo, sef gwirionedd nid fel datguddiad dwyfol yr Ysgrythyrau, ond fel egwyddor o uniondeb calon ac ewyllys, neu gwirionedd fel elfen hanfodol mewn cymeriad- gwirioneddolrwydd, cywirdeb, symlrwydd; y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, ac fel y mae yn Nuw, wedi ei sylweddoli gan y Cristion. Mae cofio'r gwahaniaeth hwn yn bwysig, oblegid .gwirionedd yn y galon, yr hwn sydd yn rhan o gymeriad, yn unig a ysgafnha ein beichiau, a wna ymladd y 11 hawdd, ac a'n lleinw a brwd- frydedd milwyr y groes. 'Am wirionedd boed ein gweddi, Am wirionedd boed ein nef:
< RHAGOLYGON CREFYDD.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ddylai fod. ofrTar neb i adael tynged dra- gwyddol pob un ohonynt yn Haw y Tad sy'n dynerach na phawb. Er hynny Tad sanctaidd ydyw, ac yr oedd lawn y Groes yn angeitfheidiol yn Ei olwg Ef er cadw pechadur, ac nid oes dim byth i gytniyd ei le. Ac ymadawiad oddiwrth y ffydd yw pob ymgais i wneud hynny, boed hi y fwyaf naturiol a thosturiol posibl. Ac un o'r prif alwadau ar yr Eglwys a'r pul- j pud heddyw yw pwysleisio hanfodion yr Efengyl. Awgryma Dr. Orchard yr a hyn oil heibio cyn hir wedi i'r rhyfel ddarfod, gan tnai perygl allanol sydd fel rheol yn ennyn y math yma ar wladgarwch, ac yn ei orseddu yn y cysegr, a phan dderfydd y perygl allanol derfydd hefyd am y perygl mewnol hwn. Gwir iawn; ond ofnwn y bydd eisoes wedi gwneud difrod anadfer- adwy ar yr Eglwys fel y cyfryw os nad ofelir yn awr am gadw Crist yn barhaus ar Ei orsedd. Mae ein gofod wedi mynd, fel nas gallwn nodi'r degwm o'r niwed a ddeillia o'r rhyfel os na ddeffry'r Eglwys. Digon yw dweyd fod y darlun yn un du iawn. Ond ai dyna'r cwbl ? Nage, canys gwel yr awdur tu ol i'r cymylau os cyfaddasa'r Eglwys ei hun ar gyfer y galw mawr wneir arni. A'r cyfaddasiad cyntaf a phennaf yw dwyn Crist yn ol i'w unben- naeth brenhinol yn holl gylchoedd crefydd. Y foment y diorseddir Ef fel safon bywyd a gwirionedd nid oes ddewis ond disgyn i byllau isaf llygredigaeth Germani. If you cannot trust yourself to God and follow Christ's way. then you must pre- pare for war, and for any kind of war you must watch your enemies, you must J spy out their defences, you must invent new devilries, and when trouble is brewing you must strike first and strike hard all else is weakness. The logic of hell ? Cer- tainly. But it is logic and" the only alternative must be as logical in the other direction.' Hynny yw, rhaid bod yr un mor gyson yn ein hufudd-dod i deyrnas- iad unbenaethol Crist. What does Christ- ianity stand for ? It stands for the absoluteness of Christ.' Ac a'r awdur ymlaen i ddatblygu hyn, gan roi lie gogon- eddus i Groes Crist a'r gwaith prynedigol. Nid yr un lie ag a rydd Dr. Forsyth, ond y lIe uchaf er hynny. Pan ddeuir i drafod. y ffordd ymarferol i gario hyn allan lliwir barn ac awgrym- iadau Dr. Orchard gan ei safbwynt eglwysig, a rhaid i ni ddweyd nas gallwn gytuno ag ef mewn llawer o bethau. Gwir n-tai angen mawr yr Eglwys vw catholigrwydd a sancteiddrwydd ac eang- frydedd. Ond mae cyfuno'r Pabydd a'r Piwritan a'r Modernist mewn un Inter- national Church yn debyg o dorri i lawr yn yr un man yn union a Rhufain, er nad yn yr un dull efallai. Eisiau mwy o argyhoeddiad, a mwy o ffyddlondeb i Grist, a mwy o gydweithrediad rhwng enwadau, a mwv o gymhwysiad o egwydd- orion y Groes at bechod a bywyd y byd y sydd, a chredwn y gwelir mwy o hynny ar ol y rhyfel nag erioed. Llyfr gwir fawr yw hwn, a dylai pawb ei ddarllen.