Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y FRWYDR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y FRWYDR. PRIF ddigwyddiad etholiadol yr wythnos ddiweddaf yn Nghymru, yn ddmu, ydoedd y gynnadledd fawr Ryddfrydig yn Nghaer- narfon. Oeir adroddiad cyflawn o'r gweith- rediadau oddi wrth ein Gohebydd Arbenig mewn colofnau eraill yn y rhifyn hwn. Pan ystyriom ddifrifwch y sefyllfa, nifer y cynnrychiolwyr o bob parth o'r Dywysog- aeth, a'r brwdfrydedd yn gystal a'r unfryd- edd gyda pha rai y pasid yr holl benderfyn- iadau, rhaid edrych ar y gynnadledd fawr- eddog hon, a'r cyfarfod cyhoeddus a'i dilyn- odd, fel yn meddu pwysigrwydd anarferol, a disgwyliwn effeithiau daionus iawn i ddilyn yr arddangosiad. Llywyddid y gweithred- iadau yn y gynnadledd gan y Gwir Aurhyd- eddus D. LLOYD-GEORGE hyd nes y gorfu iddo ymadael er mwyn myned i Lundain, pryd y cymmerwyd y gadair gan Syr ALFRED THOMAS. Gwelir oddi wrth ein hadroddiad fod y penderfyniadau yn cymmeryd i mewn yr holl gwestiynau ag y mae llygad a chalon Oymru arnynt yn y dyddiau presennol; a'u bod, o'u cymmeryd oil gyda'u gilydd, yn ffurfio rhaglen o'r fath fwyaf ardderchog i wynebu y frwydr fawr yr ydys weithian yn ei chanol. Nid oedd yr ychydig ddiffyg cydolygiad a ddangoswyd yn y prydnawn, yn enwedig ynglyn a chadw y Beibl allan o'r ysgolion dyddiol, yn arwyddo unrhyw ymrwygiad yn y blaid. Yr ydym yn sylwi befyd gyda llawenydd ar y safleoedd' a roddid i'r gwahanol fesurau yr ydys yn disgwyl am danynt; neu, mewn geiriau eraill, y drefn yn mha un y dymunai y gyn- nadledd hon eu gweled yn cael eu dwyn ger bron a'u pasio yn y Senedd. Diwygio y Ddeddf Addysg—gosod rheolaethyr ysgolion yn llaw y cyhoedd; diddymu y proflwon i'r athrawon, &c.—yn mlaenaf oil ydoedd barn unfryd unllais yr holl gannoedd cynnadledd- wyr hyn. Unwaith yn rhagor y mae ei fawrhydi wedi gweled angenrheidrwydd am anfon gair pendant allan, trwy ei ysgrifenydd cyf- rinachol, i'r perwyl nad yw efe, mewn un modd, yn dymuno am i'r arwyddluniau neu arfbeisiau brenhinol i gael eu defnyddio gan y naill na'r llall o'r pleidiau politicaidd yn y frwydr hon. Gwyr y Brenin EDWARD cystal a ninnau mai y Torïaid ydyw y pechaduriaid mwyaf yn yr haerllugrwydd digywilydd hwn. Byth ni cheir y Rhydd- frydwyr, Plaid Llafur, na Gwladgarwyr yr Iwerddon, yn euog o hono. Ond, o'r bron yn mhob etholiad ceir ymgeiswyr Undebol yn ddigon hyfion a dibetrus i hani yr arwyddluniau hyn fel eu heiddo arbenigol hwy, mewn rhagddisgwyliad am i'r olwg arnynt ar eu hysbysleni a'u hanerch- iadau gario dylanwad ar yr etholwyr, ac awgrymu yn ddi awdurdod iddynt mai gyda hwy y mae barn a theimlad y penadnr. Yr hyn a wnaeth y llythyr hwn yn angenrheid- iol yn awr ydoedd gwaith Mr. CONINGSBY DISRAELI, yr aelod Toriaidd dros ranbarth Altrincham, yn defnyddio cerdyn politicaidd wedi ei addurno & dau Union Jack a llun y goron frenhinol. Yn y defnydd hwn o'r arwyddluniau hyn nid oedd car yr hen ilaenor Toriaidd enwog yn gwneyd dim, fel I yr awgrymwyd, ond a wnaed laweroedd o weithiau mewn etholiadau blaenorol gan aelodau y blaid sydd yn galw ei hun mewn modd arbenfg 4 y Blaid Gyfansoddiadol.' Diolch i'n teyrn di-bartiaelh am anfon ei waharddiad allan mewn dull mor bendant, ac mor ebrwydd. Nid ydyw bron yn bossibl y meiddia yr un Tori droseddu chwaneg yn y modd hwn. Ar bob cyfrif, dylai yr Orsedd gael ei chadw yn glir o bob cyssylltiad a 1 chynnen y pleidiau.' Bu Mr. LLOYD-GEORGE yn dra phrysur ar ol cynnadledd Caernarfon yn rhoddi ei gymmhorth cryf i ymgeiswyr Rhyddfrydig mewn gwahanol ranau o Loegr, yn eu mysg i'n eydwladwr pybyr, Mr. TIMOTHY DA VIMS, yn Fulham, Llundain Nos yfory (Iau) dis- gwyliwn ninnau gael arawd ganddo yn Ninbycb, mewn help i Mr. CLEMENT EDWARDS. Digwydda peth hynod ynglyn a'rcyfarfodhwn. 0 herwydd fod y Drill Hall wedi ei llogi am y noswaith hono gogyfer a rhyw chwareu yn y prydnawn, ac na cheid mo honi yn yr hwyr ganddynt (Toriaid ydynt), appeliwyd at swyddogion y Capel Mawr-yr adeilad fiangaf yn y dref, a lie y gall dros ddwy fil o bobl ymgynnull ynghyd (nid rhyw saith gant fel yn yr hall a nodwyd). Mae yr addoldy yn awr yn myned dan adgyweiriad. Am nad ydoedd y cymmerwyr yn codi unrhyw wrthwyneb- iad, cydsyniodd y swyddogion i'r Gym- deithlls Ryddfrydig gael ei fenthyg am y noswaith; ad am hyn teimlir yn ddiolcbgar iddynt. Y ffaith nodedig ynglyn & hyn y eyfeiriaaom ati ydyw mai yn y capel hwnj ar achlysur cyflwyniad ei dysteb i'r diweddar Mr. GEE, y gwnaeth y boneddwr gwir anrhydeddus ei ymddangosiad diweddaf yn ein tref. Hyfryd genym allu hysbysn fod y Prifweinidog, hefyd, yn myned i roddi ei gymmhorth i Mr. GLRHENT EDWARDS. Traddoda Syr HENRY OAMPBELL BANNERMAN araeth yn Ngwrecsam ar ei ffordd o Liverpool i'r Amwythig, prydnawn heddyw, a chaiff dderbyniad tywysogaidd yr ydym yn sicr. Achos cwyno, modd bynag, sydd gan y Mri. BALFOUR a CHAMBERLAIN am nad yw y derbyniad a roddir iddynt hwy mewn cyfarfodydd yr hyn y tybiant y dylai fod. Bu holi a ohroesholi-htek ling difrifol ar yr Apostol yn ei ranbarth ei hun yn Birmingham y nos o'r blaen. Nos Wener aeth y cyn-Brifweinidog i'w ranbarth yn Nwvrain Manchester i agor ei gid-ymgyreh. Cafodd wrandawiad, y mae yn wir—o'r fath ag ydoedd. Ond, torai ei wrandawyr ar ei draws yn ami, a gofynenb gwestiynau Ilawn o elfenau dyryswch iddo, gan ddangos yn eglur na chymmerent bob peth ar ei air noeth hyd yn oed ef. Mawr syndod a barai hyn iddo. Er enghraifib, pan y ceisiodd efe eu dychrynu a bwgan ymreol- aeth i'r Iwerddon, gwaeddwyd arno i ddyfod at gwestiynau y dydd.' Mwy nag unwaith y bu yn methu myned yn mlaen o herwydd trwst. Yn ffodus iddo, efe a fu yn ddigon call i gadw ei dymmer, ac i hyny yn unig y dylai ddiolch ei fod wedi llwyddo i ddiweddu ei arawd fel yr arfaethasai. Ei frawd, yn Leeds yr un noswaith, a osodw. d dan oruchwyliaeth chwerwach fytb. Anerch ei etholwyr yr oedd Mr GERALD BALFOUR, hefyd. Y noson flaenorol, cynnyg- iwyd pleidlais o ymddiried ynddo, ac nid yn unig fe'i collwyd, ond, hefyd, cynnyglwyd pleidlais o ddiftyg ymddiried ynddo, a char- iwyd hono. Nos Wener I heclwyd' ef gan yr Iuddewon sydd yn lliosog yn mysg etholwyr Leeds ynghylch Deddf yr Estron- iaid Annymunol. Ond, ni fynai efe siarad ar y cwestiwn hwnw o gwbl. Am hyny, rhwystrwyd iddo gael siarad ar unrhyw gwestiwn arall. Yr ydys yn mawr hyderu I y tynir ei bedolau ef gan etholwyr Leeds. Mr. JOHN MORLEY yn Arbroath, a Mr. LLOYD-GEORGE yn Croydon, yr un noswaith, a gawsant dderbyniad a gwrandaw:ad anrhydeddus. Pwynt penaf arawd Llywydd y Bwrdd Masnach ydoedd am i holl nerth oedd Plaid Cynnydd gael, eu huno ynghyd yn y frwydr bresennol. Appeliai yn neill- duol at Blaid Llafur (&'r hon y mae ganddo ef y cydymdeimlad dyfnaf) i beidio rhanu y Blaid Ryddfrydig yn yr etholaethau nas gall eu gwaith gyrhaedd unrhyw amcan ond gwneyd lie i Dori lithro i mewn rhwng yr ymgeiswyr. Yn ystod yr wythnos gwnaeth yr Argl- wydd HUGH CECIL ymosodiad llawdrwm ar Mr. CHAMBERLAIN a'i ddiwygwyr y tariff am eu gwaith yn dwyn allan ymgeisydd yn Greenwich yn ei erbyn yn unig o her- wydd ei sel ef o blaid Masnach Rydd. Mewn llythyr atteb dywed Mr. CHAMBERLAIN nad oedd a wnelat efe yn bersonol ddim a dygiad yr ymgeisydd gwrthwynebol yn mlaen. Gallai hyny fod; ond, yr un mor wir mai dan ei nawdd, ac er mwyn hyrwyddo ei fympwy ef, y mae y dyn hwnw yn 'rhedeg.' Heb law hyny, rhydd ei fendith benaf ar ei ymgeisiaeth a dywed yn ei lythyr bethau cieiddlyd am yr Arglwydd HUGH, Y gred gyffredin ydyw y bydd gwaith y gwr o Firmingham' yn cael effaith hollol groes i'w ddymuniadau ef ar yr etholwyr. Mae yn y Blaid Undebol lawer o Ryddfasnachwyr nad ydynt un amser yn mynychu cyfarfod ydd politicaidd, ond er hyny ydynt nydd- lawn i gofrestru eu pleidleisian. Ar y rhai hyn bydd y driniaeth annheilwng tuag at yr Arglwydd HUGH yn sicr o gael effaith gref. Nid ydyw yn syn fod Mr. CHAMBER- LAIN yn ymddwyn fel y gwna efe tuag at ei arglwyddiaeth. Oddi ar ei safbwynt ef nid ydym yn gweled pa fodd y gallasai efe ymddwyn yn wahanol. Pa fodd i esbonio ymddygiad y cyn Brifweinidog tuag at ei gefnder sydd gwestiwn gwahanol. Nid ydyw efe wedi dyweyd gair o'i blaid, nac yn erbyn y driniaeth gywilyddus tuag ato. I Mae efe wedi gommedd yngan gair drosto mewn unrhyw fodd. A oes rhyw esboniad i'w roddi ar hyn heb law fod ganddo ofn yr Apostol 1 Modd bynag, ni ddylem ni, fel Rhyddfrydwyr, gwyno gronyn o herwydd y gynnen deuluaidd hon. Bydd yn foddion i sicrhau Rhyddfrydwr dros Greenwich yn Nby y Cyffredin. Collir talent ddisglaer o'r frf trwy hyny, y mae yn wir. Ond, goreu oil i ni, canys yn ein herbyn ar bob peth, ag eithrio Masnach Rydd. yn unig, yr oedd y dalent ddisglaer hono yn cael ei defnyddio yn llawn ar bob achlysur.

Y FRWYDR YN POET HI.

YMWELIAD SYR H. CAMPBELL -…

DINB YCH.

SIR DREFALDWYN.

[No title]

TRAMOB.