Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

-I Chwaneg o Gymariaethau'r…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Chwaneg o Gymariaethau'r Hen I Feirdd. VI.—« Sieb Seid." I MAE'R uchod yn gymhariaeth a ddefnyddir gan luaws o'r hen feirdd, a chan amryw ohonynt yn fynych. Cymreigiad trwsgl o'r gair Cheapside, mae'n debyg, yw'r enw. Megis ag yn bresennol, felly hefyd gann6edd o flynyddoedd yn ol, yr oedd Cheapside yn heol ardderchog o ran ei hadeiladau, a mawr ei ehyfoeth, etc., yn ninas Llundain a diau ei bod yn destyn rhyfeddod, ac yn wrthrych edmygedd mawr y rhai hynny o'r hen frodyr diddan allai fforddio siwrne i'r Brifddinas yn awr ac yn y man a bod y gweddill ohonynt, na. allent Sorddio hynny, yn cymeryd gair y lleill am rwysg ac ardderchowgrwydd y lie. Ond wrth ddarllen yr hen gywyddau deniol, mia gallaf lai na meddwl fod amryw o'u hawduron yn golygu Llundain i gyd pan yn defnyddio'r enw "Siêb Seid." Defnyddir y gair gan Iorwerth Fynglwyd yn ei gywydd Dyhuddiad i Rys ap Sion o Lyn Nedd." Yr oedd Rhys wedi bod yn cyfreithio efo rhywun (Sais, feddyliwn) ac wedi colli'r dydd, a chael ei fwrw i garchai. Myn y bardd fod Rhys wedi cael cam dirfawr, ac mai trwy lwgrwobrwyaeth yr enillodd y Sais y gyfraith. Egyr ei gywydd gyda phedair Mmell yn datgan ei hiraeth amdano :— Pa'nd hir na welir ond nos Pe byrr, hir yw pob aros Os hir cau-nos i orwedd, Hwy yw blaen awr heb Lyn Nedd. Ymddengys fod y Barnwyr a wrandawent yr achos yn eithafol o elynol i Gymru, Cymro, a Chymraeg, canys dywed y Mynglwyd :— Ond trwy swydd yr Arglwyddi Ni thalai dim o'th wlad di- yn enwedig felly y Gymraeg eaewyd hI allan o'r Ilys yn hollol. Ond er hyn i gyd' mae'r hen fardd yn ddigon cryf ei ffydd a'i obaith i fedru profiwydo mewn geiriau clir :— Er rhoi niwl ar yr hen iaith, O'r un niwl troi wna eilwaith. Bradwyr y Bala. I Rhwng cromfachau, megis, a gaf fi yn barchus gyflwyno proffwydol iae th Iorwerth Fynglwyd i sylw Cyngor Dinesig tref y Bala ? Digwyddodd yr amharch uchod i'r hen laith tua phum cant a hanner o flynyddoedd yn ol Er hynny, y mae hi heddyw yn fyw ac lach, ac yn llawer cryfach, wedi'r cwbl, nag oedd hi y pryd hwnnw. Ffynnai llwgrwobrwyaeth yn aruthr yn y wlad yr adeg honno. Nid oedd modd cael swydd, wladol nac eglwysig, ond yn y dull hwnnw :— Swyddau gwlad sy' heddy-w gloff, A swydd Eglwys sydd ogloff A phob cyfraith effaithiawl, A llw dyn, aeth yn llaw diawl. Ymddengys nad oedd Rhys, er ei fod yn wr bonheddig Cymreig, ond tlawd mewn cym- Jaariaeth a'r gwr yr ymgyfreithiai, ag ef gosodai hynny ef dan anfantais fawr, a dywed y bardd wrtho :— Tydi'r gwan, taw di a'r gwir, Arian da a wrandewir. Mae y cwpled yna yn un on diarhebion goreu, onid yw ? Ond at y defnydd a wna'r bardd o'r gair 4' Sieb yr oeddwn yn cyrchu. Yn yr helynt eyfreithiol uchod, dywed y bardd :— Aeth anwir ar faeth ennyd, Aeth y gwir ar feth i gyd." Ac yna defnyddia'r ddameg hysbys y blaidd a'r oen," i ddangos yr anghyfiawnder a wnaed a, Rhys Blaidd ag Oen (ble ydd a gwanwr ?) Hwynt-hwy ddau, aent gynt i ddwr Oen a las, yn ol i wir, Am i'r Oen ammau'r anwir. Ac er mwyn tipyn o gysur i'w gyfaill a'i gy- J mwynaswr, oedd yn y carchar, efe a ddywed wrtho Yr un gair a'r Oen gwirion, Trwy Sieb sy' it, Rys ab Sion. Rhywbeth rhyfedd iawn fuasai ceisio ei ddyhuddo trwy ddweyd fod rhyw un heol, neu un ran, fanwl ddeffiniedig,o'r ddinas, gan nad pa mor ardderchog oedd y rhan honno, yn cydymdeimlo ag ef, ac yn ystyried ei fod wedi cael cam. Credu'r wyf fi fod y Bardd yn meddwl y ddinas i gyd buasai tipyn o bwys yn hynny. Dywed Sion Tudur wrth lywun :— Paun y ddwy-wlad, pan ddelych Bu windai'r Sieb yn dir sych. "Paun" ofnadwy oedd y gwr, pwy bynnag oedd, yn gallu prynnu, ac efallai yfed, hynny o win oedd yn Sieb i gyd Ac arfer iaith gyffredin, celwydd ywhyn i gyd ond celwydd bach iawn ac os mai Cheapside yn unig a feddylir wrth Sieb," prin y gallaf gredu y » buasai Sion Tudur, yn anad neb, yn defn- yddio'r gair o gwbl. Yn hytrach tybiaf ei fod yn ei ddefnyddio i arwain y meddwl i Lundain, > ac mai Llundain i gyd oedd wedi mynd yn dir sych," ac nid rhan fechan ohoni. Buasai hynyna yn gelwydd digon mawr i fod yn farddoniaeth deilwng. Eto, ceir fod Bedo Havesp yn cyfarch rhyw foneddwr o'i ardal ef, Llanfair Caereinion, o'r enw Sion," trwy ddweyd :— Yn ben cyngor i'r Goron, Ar weilch Siêb yr elych, Sion. Prin y buasai'n werth i'r bardd ddymuno am i Sion gael mynd yn Ben Cyngor i'r Goron ar drigolion un heol tebycach lawer yw mai ar Lurdain i gyd, fel prifddin as y deymas, y carasai ei weled yn Ben Cyngor," i'w Fawrhydi y Brenin. Credaf hefyd mai'r un ystyr sydd i'r gair yn y llinellau hyn, gan yr un bardd, ac i'r un gwrthrych Llew Seisyllt, llywia Saeson- Ti biau Sieb im tyb, Si6n. Drachefn, mewn cywydd o foliant i Sienkyn Gwynn. o Lanidloes," dywed yr un Bedo Kwrt gwyn i'ch Kerti gwinoedd, Kyfliw a Sieb," kyfleus oedd. Dichon fod ystyr gyfyngach i'r gair yn y fan non. Anodd fuasai bod yn gyfliw a Llundain i gyd. Gallai fod cyd-ddealltwriaeth rhwng I preswylwyr Cheapside o,'i gilydd, gyda golwg ar liw'r adeiladau, ac mai gwyn oedd hwnnw. Fodd bynnag, yr oedd Bedo am le gwyn a glan i'r kerti gwinoedd yn Llan- idloes. Mae Tudur Aled yn defnyddio'r enw'n llawn, mewn cywydd galar o'i eiddo ar ol un o foneddigion y Rhiwaedog yma :— Mal mor ymylau Meirion, Marw Sieb Seid," Morys ab Sion. Mae'n bur debyg na fuasai waeth gan Tudur Aled pa un a feddyliem ai Cheapside yn unig, ynteu Llundain i gyd a chredaf na fuasai byth yn defnyddio cymhariaeth mor ryfedd onibai am y gynghanedd ragorol sydd yn y llinell. Un dyfyniad eto, a byddaf yn darfod a Sieb Seid." Yn amser y bardd leuan Tew, codwyd palas mawr ac ardderchog yn ardal y Bala, a ddisgrifid gan Edward ap Huw fel Twr gwyn uwchben tir gwenith, Teg lawr braf, ty eglur brith. Ymddengys fod i'r adeilad nifer o dyrau uchel' canys dywed leuan Tew eu bod Wyth ris uwch na thyrau Sieb. Pam yr wyth. tybed ? Dyna ddarfod & Sieb ond y mae'r gair cyntaf yn y llinell olaf yna'n awgrymu cwestiwn arall y buasai'n dda gennyf gael goleu arno. Beth yw y rheswm fod yr hen feirdd yn gwneud cymaint defnydd o'r gair "wyth" yn eu gweithiau ? Pe defnydd- iasent y nifer saith," buasai gennyf ryw amcan am y paham, ond y mae'r wyth yma o hyd o hyd yn fy nrysu'n lan. Tybed y rhaid mynd yn ol mor bell a'r dilyw i gael y rheswm amdano ? Cof gennyf i mi anfon y cwestiwn hwn i'r BRYTHON neu'r Cymro, nid wyf yn cofio pa un, flynyddoedd yn ol, gan ei gyfeirio at wr dysgedig a charedig sydd eto'n byw yn Lerpwl yna ei ateb oedd fod y cwestiwn yn agor maes eang a diddorol ond gan ei fod ef yn yWerddon ar y pryd, ei bod yn anodd iddo'i ateb, ond yr edrychai i mewn iddo pan ddychwelai, ond i mi ei atgofio ohono. Aeth y peth yn hollol o'm cof hyd nes y dechreuais ysgrifennu'r llithoedd hyn. Hwyrach y bydd y boneddwr garediced a'm goleuo i ac ereill, os yw wedi digwydd edrych i mewn i'r peth. I orffen y Ilith, tybiaf mai difyr fyddai cy- hoeddi nifer o gwpledau i ddangos gymaint oedd casineb yr hen feirdd at y Saeson ac nid yn umg eu casineb hwy, ond eiddo eu meistriaid a'u noddwyr hefyd, sef y boneddig- ion Cymreig y pryd "hwnnw, o dri i chwe chan mlynedd yn ol. Wrth gwrs, nid oes ar gael ddim i brofi fod y boneddigion yn cashau'r Saeson, ond credaf na oddefasai yr un ohonynt i'w fardd teulu, neu fardd cler, ddweyd y pethau a ddywedent pe buasent yn teimlo'n garedig at bobl yr ochr arall i'r Clawdd. Cyfarchai Richard Cynwal un o foneddigion y Rhiwaedog fel hyn Nid oes isel waed Saeson Na deifr waed o fewn dy fron. Er fod Harri'r Wythfed wedi crogi dros ddeunaw mil a thrigain o grwydriaid yn ystod ei deyrnasiad, yr oedd y wlad yn heidio ohonynt yn amser Sion Brwynog, ac ym- ddengys mai Saeson oedd y nifer mawr ohon- ynt, canys dywed yr hen fardd wrth un o ustusiaid Penllyn Elis, gyrr blant Alis gau, Er eu taered, i'r tyrrau. Plant Alis y gelwid y Saeson gan y Cymry am ganrifoedd ac wrth y tyrrau" y golygid carcharau'r wlad. Prin y buaswn yn disgwyl cael cwpled fel hwn gan Tudur Aled Bonedd Gwynedd a genais, Blodau'r Sir, heb ledryw Sais. Er i mi ddyfynnu'r cwped canlynol o waith Bedo Havesp mewn cysylltiad arall, mae'n llawn mor briodol yn y cysylltiad hwn hefyd, os nad yn fwy felly :— Yn ben cyngor i'r goron, Ar weilch Sieb, yr elych, Sion. Efe hefyd gyfarchodd yr un boneddwr fel y canlyn, pan oedd swydd wladol bwysig yn wag, a Sais yn ceisio amdani:— Ewch i alw swydd uwchlaw Sais, Hyd y man y dymunais. Ac eto, Bedo ddywedodd, Llew Seisyllt, llywia Saeson, Ti biau Sieb i'm tyb, Sion. Bardd gwych oedd Howel Cilan, ac fe ddy- wedodd am y milwr dewr, Rheinallt o'r Twr Ef a ddial bob malais, Ef wna a'i sel ofn i Sais. Llawer un, ol llaw Reinallt, A lliw'r gwin oil ar eu gwallt. Ef a roes hwnt, heb fawr son, Galenig i'r gelynion. Dyfynnais, er dechreu'm cyfres llithoedd, amryw ddarnau o waith Hywel ab Rheinallt, bardd rhagorol iawn ac yr oedd yntau, a'r boneddwyr a'i noddent, yn cashau'r Saeson a chas cyflawn. Un o'i noddwyr oedd leuan ab Robert, a chanodd y bardd gywydd i fwyell ofnadwy yr ymladdwr hwnnw, lie dywed Gwnaeth hen gig, a gwaed ddigawn, Gwnaeth gigfrain llydain yn llawn. A chan bersonoli y fwyell, mae yn datgan yn gryf yr hyn y dymunai ef iddi ei wneud ymhellach Torred ei syched ar Sais, Wtresed ar waed tri-Sais. Botwm Michael Jones. Dim ond un dyfyniad eto y tro hwn a I hwnnw o waith Tomos Gwynedd. Amlwg yw oddiwrth yr hen gywyddau fod trigolion y wlad, gynt, hyd yn oed ei boneddigion, yn gwisgo yn unig ddillad wedi eu gwneud gartref. Ceir darnau meithion o'r cywyddau yn disgrifio'r melinau gwlan a'r pandai llu- osog oedd mewn llawer ardal. Dywed y bardd a enwais wrth y boneddwr pennaf yn yr ardal lle'r oedd yn byw :— Yn iawn waith, ni wn wythen, Yn dy bais, a wnaeth Sais hen. Neu, ag aralleirio'r cwpled, Nid wyf yn gwybod fod yr un ede, na phwyth, o'r got sydd amdanat, wedi cael eu gwneud gan Sais." Diau y gwyr darllenwyr Y BRYTHON mai pais oedd yr enw ar got yn yr hen amser. Dywed Gruffydd Hiraethog am y Ceiliog Bronfraith, Pais fraith o gwmpas ei fron. Mae hyn, sef y dyfyniad uchod, yn atgoflo i m] sylw a ddywedwyd wrthyf gan y Parch. M. D. Jones, ar waelod Rhiw Ffrydau, flynyddoedd lawer yn ol. Meddai, Mae'n dda gen i 'nawr weled ych bod chi yn ddigon call i wisgo dillad o frethyn cartre. Wn i ddim beth sydd ar bobl, yn gwerthu gwlan eynnes eu gwlad eu hunain, ac yn prynnu yn ei le fo hen frethynod meinion, diberfedd, ac oerion, y Saeson rheibus yna. Dyma fi'n awr, 'does gen i'r un mymryn o ddim yn agos ataf o waith Sais ond yn unig botwm." -0-

I MINION MENAI. I

Advertising