Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
CAMPBELL & LUMBY | +.¿¡. Û DIAMOND, :OJ:)I ?0  RUBY, EMERAL D, "?? ??? PEARL, et<c, etc.  ? RINGS "> "? ,??? VS/^N. are OUr I ,GJ\r PECIALITY. ,? V", r   OLD POST OFFICE PLACE °-j 3075 Royal StreeL II
-Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Cymraeg yn China Mit. GOL.-Pan yng Nglanaman, y dydd o'r blaen, danghosodd cyfaill imi lythyr a dderbyniasai y bore hwnnw o Shanghai. Ar un ddalen yr oedd clwstwr o enwau Cymry— yn eu plith Dr. Hopkin Rees a Dr. Timothy Richards-yn eu Haw hwy eu hunain. Hysbysid ddarfod i Wyl Gymreig gael ei chynnal yno ddechreu'r flwyddyn hon, ac amgaeesid arwyddnod (badge) a wisgid ar yr achlysur-uri o'r pothau destlusaf o'r fath a welais erioed. Damweiniodd y llythyr gyr- raedd pen ei daith y dydd y cynhelid Gwyl Ddewi yng Ngwmaman. Heblaw hyn oil, hysbysid fod cwrdd pregethu Cymraeg i'w gynnal yn Shanghai bell ar Sal Gwyl Dewi. Mae darllenwyr Y BRYTHON yn ddigon call a gwladgar i ddeall a gwerthfawrogi y ffeithiau syml hyn.—Yr eiddoch, etc. PEDROG. 11 Dyna i chwi Gyswynair Tlws At Olygydd Y BKYTHON JBFWYL SYR,— Ni thramwyaf drwy'r byd hwn ond un- waith gan hynny, unrhyw weithred dda a allaf ei chyflawni neu unrhyw garedig- nrydd a allaf ei wainyddu i unrhyw fod dynol, bydded i mi ei wneud yn awr. Na fyddod i mi ei ohirio na'i esgeuluso, canys ni thramwyaf y ffordd hon eto." i Mae'r geiriau hyn i'w gweled ar un. o furiau'r ysbyfcy cenedlaethol i gtefvdau'r galon yn Llundain. Pan agorwyd rhan newydd yr adeilad yn ddiwoddar gan y Tywysog Arthur (Connuaght), gofynnodd i amryw o'r medd- ygon pwy oedd yr awdur, ond 'doedd neb yn gwybod. Cyhoeddwyd y cwestiwn gan y Daily Sketch, a chafwyd lluaws o atebion, y mwyafrif yn priodoli'r geiriau i Stephen Crellet, Crynwr Americanaidd a anwyd yn 1773, ond ereill yn eu priodoli i R. L. Steven- son, Carlyle, Abraham Lincoln, Marcus Aurelius, Tom Paine, Ruskin, Ouida, Henry Drummond, Rowland Hill, Keble, A. B. Hegeman, y Parch. H. E. Eardley, Thomas Elwood, David Starr Jameson, Emerson, Old Moore's Almanack, Y Koran. Caniatewch i mi ofyn drwy eich colofnau a all rhai o len- orion Cymru ateb yn bendant a phrofadwy ?' Dywed gohebydd o Ashbourne fod y geiriau wedi eu mabwysiadu fel cyswynair (motto) gan amryw o'r cymdeithasau yno, ac ei gwelir ar gerdyn gwyn mewn llawer o dai'r pentrefi. Pwy bynnag yw'r awdur, onid da fyddai i'w gymhelliad ardderchog gael ei osod ar furiau pob ty a addoldy yng Nghymru, gan fod lie i ofni fod gormod o bregethu ar gyfiawnhad trwy ffydd, a rhy fychan o bregethu mai ffydd wedi marw yw ffydd heb weithredoedd ?—Yr eiddoch, ROBERT EVANS. 38 Whitebrook Road, Herne Hill, London, S.E. Huw Morus Gwerinwr, wir! At Olygydd Y BBYTNON. SYB,—Beth amser yn ol, caed anerchiad rhagorol yn Llangollen ar Robert Owen o'r Drefnewydd, gan fy nghyfaill Mr. A. Parry Morgan. Wrth ddiolch iddo, digwyddais ddweyd fod yn syn meddwl mai Cymro oedd tad Sosialaeth synhwyrol, fel y'i coleddir gan gorff y bobl ym Mhrydain heddyw, gan nad oes gennym brawf fod dim yn awyrgylch gymdeithasol Cymru, nac yn ein llenyddiaeth farddonol, oedd yn fanteisiol i feithrin Sosial- aeth, a dywedais mai mawrygu'r mawrion cyf- oethog a wnai'r hen feirdd am ganrifoedd. Hnwais Huw Morus o Bont y meibion fel -onghraifft. Trwy rliyw anffawd, aeth adrodd- iad heb fod yn hollol gywir i'r papurau Saesneg 40 oddiyno, y mae'n debyg, i'r BRYTHON am Chwefrol 19eg. Wedi dyfynnu rhai o'm sylwadau, gofynnai gwr y golofn Ar Gip gwestiwn mewn ysbryd addfwyn a theg, ac amheuai a oeddwn yn gywir. Atebaswn of cyn hyn onibae imi fod ar grwydr oddicartref. Yr wythnos ddiweddaf, wele dan yn ennyn" mewn rhyw ddau arall, ac ymosodant arnaf mewn ysbryd pur wahanol i'm beirniad oyntai, dan fiugenwau. Nid wyf yn cofio i mi golli amser i ateb ymosodiad dienw o'r blaen mown papur newydd, ond rhag y dichon fod i'r mater a godwyd gan ddyn "Ar Gip" ddiddordeb cyffredinol, erfyniaf eich gofod i draethu ychydig arno. Gallwn farnu oddiwrth y ffugenwau sydd wrth y llythyrau a ymddanghosodd yr wythnos ddi- weddaf i eu bod yn ystyried eu hunain yn feirdd, ac mai angenrhaid a osodwyd arnynt i amddiffyn eu hurdd. Gwyddwn fod beirdd yn groen-dene{i enbyd, ond tybiwn eu bod yn rhyfonheddigiawgrymufod dyn na wyddant odid ddim amdano yn bigwr llogellau ac yn anwybodus. Gadawaf y cyhuddiad o bigo llogellau, ae af ymlaen at y cyhuddiad arall. Gwn fymryn bach am farddoniaeth Gymraeg gwn, er enghraifft, mai tua'r flwyddyn. 1819 y cyfansoddwyd Awdl EJusengarwch" gan fardd y Gaerwen, a bod Robert Owen yr adeg honno tua 48 oed, ac ynghanol ei gynlluniau Sosialaidd yn New Lanark, ac felly prin fod Awdl Dewi Wyn wedi dylanwadu arno. Nid wyf lawn mor hyddysg yn hanes beirdd diweddar, ond y mae argraff ar fy meddwl fod T. E. Nicholas-tafod y werin Gymreig, yn ei flodeu tua dechreu'r 20fed ganrif, a phrin y gwyddai Robert Owen, a fu farw yn 1858 pernor amdano, er craffed gweledydd ydoedd. Yr unig fardd a enwais oedd Huw Morus, ac wedi ail-daflu cipoiwg dros y gyfrol gyntaf o'i weithiau a gyhoeddwyd yn 1823, ni welaf reswm dros newid fy mam. Hysbys i bawb mai gwerinwr oedd Olifer Cromwel," a dylai pawb wybod mai gwr ffyddlon, i'r Frenhin- iaeth oedd Huw Morus. Bu fyw, ebr yr hanes, dan deyrnasiad chwe theyrn ac er na choleddent yr un syniadau am grefydd a chyf- iawnder, bu'r bardd yn deyrngar i'r cwbl, heb wneud cam a'i gydwybod. Rhyw fath ar Vicar of Bray Cymreig ydoedd. Nid oedd Siarl yr Ail a'i lyswyr yn rhyw saint disglair iawn, ond dywed H.M. iddynt- ddod o'r drysni a'r drain, Fel gwmwydd firaethwydd ffrwythau] Rhinweddau Duw i'r rhain a dengys yr aflwydd a ddaw ar hil Brutus :— Os byddwch anffydldon i Charles eich cyd- Gristion. Nid oes amheuaeth na wnaeth Huw Morus ei ran i geisio lluddias y werin i ddod i'w theyrnas trwy ganu yn erbyn deffroad gwerinol Crom- well. Yr oedd Huw Morus hefyd yn Eglwys- wr rhonc, ac yn elyn anghymodlon i Ymneill- tuaeth. Cerddai bum milltir i Eglwys Llansilin a'r pryd hynny, arferai pawb fynd allan o'r moddion yn ol ei radd gymdeithasol. Megis yr oedd yn weddus, ai'r oifeiriad allan gyntaf, fel rheol, ond cymaint oedd parch ebrwyad Llansilin i'r Eos a groesawid gan deuluoedd Castell y Waen, Brogyntyn, Glas- coed a'r Plas Newydd, fel y rhoddai'r flaenor- iaeth iddo ef dilynid ef gan y person ei hun, ac i lawr o ris i ris hyd nes yr elai'r dynionach o glai gwaelach trwy borth yr Eglwys i fysg y beddau, lle'r oedd pawb yn gydradd. Dyna un o ffyrdd Huw Morus o ddysgu'r werin i iynnu eu hawliau. Heddyw, wrth gwrs, y mae Eglwys Loegr yn achles ac yn dwr o am- ddiffynfa i'r werin (?), ond nid dyma'i hanes yn y gorffennol. A oes Cymro a faidd wadu nad Ymneilltuaeth a ymladdodd frwydrau ein rhyddid gwladwriaethol ? Gallaf brofi mai gelyn tost i Ymneilltuaeth oedd H.M. Yn y farwnad a ganodd Ed. Samuel i fordd y Glyn, dywed am Huw Gordd ydoedd i'r gau blaid orwag ei bloedd. Acjymhellach :— A gelyn cyndyn ei caid, Clau fy, n-Ares, i'r Calfiniaid. Awgryma'r bardd ei hun fod y syniad o weithiwr cyffredin yn pregethu yn wrthun Rhyw fudryn heb fedru bedyddio na cliladdu A geisia bregethu a'n barnu gerbron Eto Rhai a ddywed yn dduwiol mai'r Gof sydd ysbrydol, Ac ereill modd gwrol a ganmol y gwydd A rhai sy'n deisyfu y crydd i'w ceryddu, A'r lleill yn moliannu'r Melinydd. Gwna i'r Eglwys gwyno a dweyd Hawdd heddyw fy hebgor, mae ambell ys- gubor Yn gystal am onor a minnau. Os gall fy meirniaid brofi fod yr EglwysWladol yn amser H. Morus yn amddiffyn. y werin, cydnabyddaf yn rhwydd imi wneud cam a'r hen Sosialydd awenyddoL Gellid ysgrif- enu cyfrol ddiddorol or ategu'r syniad am nodwedd wrth-werinaidd y bardd o Bont y meibion, ond nid oes mo'r gofod i ddadleu ar fater mor eglur mewn papur newydd, canys byddai raid dyfynnu bron y cwbl o'i waith. Dywed Glan Ogwen i H.M. ganu 8 cywydd, a 18 o ganeuon, er mwyn, y bobl gyffredin, ond yn enw popeth sy'n gyfiawn, paham na nodasai mai gofyn cardod neu gymwynas i'r tlawd a wnai bron yn ddieithriad. Ond fel y dywed Ei Ifed-un arall o "hen feirdd" yr 17eg ganrif! "Y mae dyn yn rhy fawr i gardod. Y camddefnydd mwyaf a wnaeth yr hen feirdd o'u dwyfol ddawn oedd ei harfer i ofyn cardodau i'r tlodion a seboni'r cyfoeth- ogion. Dyma chwe cywydd begio am gap i Rolant y Cobler, miliast i John Llwyd, par o ddillad i Tomos Ed. Morus, cerwyn darllaw i Huw ab Robert a Beibl dros un arall. Ym- ataliaf rhag dyfynnu ei faldordd sebonllyd i'w noddwyr, gan y gall Olan Ogwen ddarllen ei gopi ei hun o weithiau y bardd, a'i anfon wed- yn i Cybi, osna ddarllenodd ei farddoniaeth eisoes, canys prin yr amheua neb fu'n darllen y farddoniaeth, yn gystal a chyfrif y teitlau, fod fy honiad yn anghywir. Yn y caneuon dra- chefn, begera i'r tlawd a wna'r bardd hwn yn wastad am gawell pysgota, am bardwn i felinydd a heliwr, am goron i brynnu Beibl, am gist, am elusen Ii iliws Jones, arti geffyl, cyfrwy, aradr, neu rhyw gardod o'r fath, a thai warogaeth I'r Ysgweier a'r wisg arian—Can..1 9. Yr Ysgweier ar wisg euraid, Sal'bri enwog sail barwniaid.—can. 16. Risiart Fychan wrth eich enw,t Goreu Ysgweier man y'ch gweler mae'n eich galw—can. 12. Wrth fegio am goron i gael Beibl i rliyw ddyn tlawd, cenmyl Syr Wm. Williams o'r Glas- coed Am gasglu cyfoeth odiaith ydych, Cadw arian lond cod eurych.—Can. 9. Mewn can ddiolch i Madam Wynne o Franas, merch Arglwydd*Bulkeley, am ei myned i'r gost o iachau aelod dyn tlawd o Nantyr, dwed Pwy mor fwyn a merch Argl nydd, A merch i Dduw mor wych ddiawydd— Can. 3 Mewn un gan y mae'n ddigon beiddgar i ganu mawl i Of ond yn ol y gan hon, gellid meddwl mai ei brif werth ydyw nid fel dyn ond yn hytrach i wasanaethu ei uwchaflaid Pa fodd y ceiff brenhin ar bilyn ei barch, Heb gyfrwy, na gwarthol, na phedol, na pharch ? Heb gyngor y Go'— Gellid meddwl mai'r unig beth a barchai yn fwy na thras a chyfoeth ydyw cariad :— Gwell i barhau yw dwy galon glau, Na dwy fil o bunnau yn dyrau rhwng dau. Ond yn ei ganeuon serch hyd yn oed, rhaid iddo gael gwyntyllio ei snobeiddiwch, canys yn ei gynghorion i ddewis gwraig dywed:- Na rusa'r fonheddig, rodd lawnfrig, rudd lwys, Gwell gwenith difrychau nag efrau yn y gwys Rhywiogi wna ei phobol, dda reiol o ryw, Cei barch ac anrhydedd o fawredd i fyw. Ar wahan i ofyn tipyn o gardod a chyfansoddi ambell lythyr caru i lanciau anllythrennog, ni welaf iddo helpu fawr ar y werin. Yng Ngweledigaethau y Bardd Gwsc, a gyhoeddwyd rhyw chwe blynedd cyn rnanv Eos Ceiriog, cwynir am waith yr ysweiniaid yn dwyn tir y mynydd oddiar y werin, a chondemnir an- onestrwydd eu hystiwardiaid ond a godir cri gan fardd y Glyn yn ei weithiau ? Diolchaf am yr adnod a'r bennod. Ni ddywedais air am duedd ddyrchafol ei ganu i foesoldeb a phurdeb, a datguddiwn anwybodaeth dybryd pe ceisiwn fychanu'r Eos fel bardd ond nid dyna'r ddadl. Diolchaf os gall fy meirniaid wrthbrofi fy ngosodiad trwy ffeithiau ac nid trwy fonclustio.—Yr eiddoch yn bur, Llangollen. W. R. ROBERTS. O.Y.—Gellir mynd at Iolo Goch, a "hen feirdd ereill "—megis Dyfed a Derfel, wedi gorffen a Huw Morus. Cais fDefynnogi I At Olygydd Y BRYTHON. I SYR,—Yn adioddigd gwerthfawr y Bwrdd Addysg ar yr Ysgol Haf Gymraeg, awgrymir y dylid cefnogi sefydlu Uyfrgelloedd ynglyn ag ysgolion dyddiol drwy arddangos casgliad o lyfrau cyfaddas yn yr Ysgol Haf nesaf. Mabwysiadwyd yr awgrym gan Gyngor Cym- deithas yr laith Gymraeg, ac awdurdodwyd yr ysgrifennydd i gymeryd mcsurau er sefydlu llyfrgell o'r fath, ac i arddangos y llyfrau ddetholir gn yr Ysgol Raf yn Aberhonddu ym mis Awst. A gaf fi gan hynny apelio drwy eich colofnau am gynhorthwy caredig awduron a chyhoeddwyr i wneud y rhestr mor berffaith ag sv fodd ? Ni chyfyngir y rhestr o angen- rheidrwydd i lyfrau Cymraeg, ond bydd lie yn y llyfrgell i lyfrau Saesneg cyfaddas yn ymdrin a, hanes, lien, chwedlionaeth, etc., perthynol i Gymru. D. JAMES (Defynnog). Ysgrifennydd Cymdeithas yr laith Gyrnrraeg. Treherbert Hesgin a Cbymraeg Gwerln. At Olygydd Y BRYTHON. MrSTAR GOLYGYDD.—MI rydw i'n dorbyn Y BRYTHON bob wsnos, ac mi 'roedd yn dda iawr ger i weld yr y rhifyn dwytha fod Hesgin wedi cael i wynt ato unweth eto ac wedi ail ddechreu deud y drefn. Mi fyddwn i yr cael bias ofnatsen ar i sgrife fo es talwm, ac mi rown i'n meddwl mod i'n dallt y cwbl ond y darne Sasreg rheini. Mi fydde John y bach- gen yma yn trio sbonio dipyn ar y Saesneg hwnnw ar ol gorffen i lesyns, ac am wn i na fydde fo'n deud weithie i fod o'n sgwenu gwell Sasneg na dim oedd o'n weld yn llyfre'r Cownti Scwl. Yn i lythyr dwythaf mae Hesgin yn deud na wydde fo ddim ar y ddaear beth oedd I arddull pan yn sgwenu y llythyre rheini tua phedair blynedd yn ol. Wel, dydw i ddim yn siwr y gwn i eto beth ydi arddull, ond a barnu oddiwrth i lythyr o yr wsnos o'r blaen, y gwahaniaeth mwya ydw i yn i weld yno fo ar ol iddo ddysgu'r arddull yma ydi, mai sgwenu llith heb air Sasneg yni hi ydi'r mater pwysig. Wrth gwrs, Mistar Golygydd, mi rydw i'n dallt fod pobol y colej ma yn credu llawer mewn rhoi tipyn o sos Sasneg yn y sgrife ac arfer hen eirie anystwyth end all neb gy- huddo Hesgin o'r arfer dwytha a enwes i, hyd yn oed pan oedd o yn sgwenu heb arddull, ac wedi iddo ddarllen y llyfr yr oedd o'n son amdano y mae o wedi gweld mai iaith y werin ddylid i sgwenu. A dyda'n ni'r werin ma ddim yn licio clywed neb yn iwsio geirie Sasneg. Wel, mi liciwn ine gael gafel ar lyfr y Tolstoi yna, end y cebyst ydi hi na fedra i ddim Sasneg fel y dywedes i. A phan ofynes i i John yma wydde fo am y llyfr yr oedd c'n deud nad oedd o ddim yn cofio'i weld o, ond i fod o'n meddwl mai rhyw Rwsiad ne Ffrancwr ne rwbeth tebyg ydyw'r dyn, er fod g ydy-,v'r dyn, er fod Hesgin yn deyd yri blaun mai What is Ar ydi enw'r Ilyfr. Ond fase tramorwr ddim yn sgwenu yn Sasneg dybyga i, ac yn enwedig a fynte yn sgwenu ar arddull. 'Roedd yn dda gen i glwed fod O.M." wedi deud tipin run fath a Hesgin, Mistar Golyg- ydd. Ac mi glwes i rywun yn son fod O.M. yn deud yn rhywle mai iaith gwerin ochre'r Bala yne ydyw'r Cymraeg gore yng Nghymru. Wel un o Gwmtirmynach oedd fy hen nain inne, a deud y gwir i chwi mae'n well gen inne ihiaithhi na iaith yr un o fy hen-neinie erill i. A chan mai iaith y werin sydd eisio a honno'n bur, iaith y Bala amdani hi. Yn wir, wath gen i i fechgyn y colej ma sgwenu i Sasneg a'u geirie mawr na sgwenu yn iaith pobol Morgannwg ne Sir Berteifi ne Sir Drefaldwyn. Ond oes gen y rheini gymaint o eirie nad yden nhw ddim yn y Dicsionari. Ac am iaith "llenorion mwyaf colegaiddjCymru, "fel y geilw Hesgin nhw, rhaid i chifod mor gyfarwydd a'r Dicsionari ag a'ch Beibl bron i allu dealI nhw. Ac nid peth clen, pan fyddwch chi wedi 'iste yn ych cader freichie wrth danllwyth o dan, ydi gorfod codi i ystyn Dicsionari. A dallwch chi ddim bod yn siwr bob amser mai yr un Dicsionari oedd y bardd yn i iwsio a'r un sydd gynoch chi. Ond waeth heb son Ie, hen fardd dan gamp oedd Dewi Wyn o Eifion yr oedd Hesgin yn son amdano. Dyffeia i o am iwsio iaith y dealla'r werin hi. Fel y mae o'i hun yn deud ar ddechre'r awdl Elusengarwch Geiriau Elusengarwch, Pob paladr yn ffladr a ffiweh. A sylwch fel y mae geiriau'r werin yn rhoi graen ar yr awdl :— Daw'r amser da'r adfer Duw ryw oedfa (Pwy ?) Hen eglwysydd penigol Asia Cenhadon can' eu hwda-o fyned Neud drws agored, nid rhyw segura Fuase beirdd y colej ma byth yn meddwl am air fel "hwda," mi fuaso raid iddy nhw gael dweud moes ac yn hytrach na sgwenu gair llafar fel neud," rydw i'n sicr mai gair cymin, ddwywaith fel gwneuthur" roise nhw yma—dydi gneud ddim yn air y coleg, welweh ;chi. A dyma ddywed Dewi Wyn ar ddiwedd ei awdl Yr wyf yn ystyried y buasai yn dra buddiol i'r darllenwyr fod esboniadau byrion ar gannoedd o bethau yn yr awdl hon, ond gan y chwyddasai hynny y llyfryn i gymmaint arall o faintioli, ni wnaf o'nd cyfeirio'r ymofyngar at y llyfrau Cymraeg diweddaraf, megys Daearyddiaeth R. Roberts Caergybi, a'r amrywiol hanesion perthynol i'r Gymdeithas Feiblaidd a Chenadawri," etc. Fuase beirdd y colej yma yn dweyd hyn, tybed ? Na, choelia i fawr. Dyna awdl ardderchog ydi Marwnad Arglwydd Nelson gan Dewi Wyn. Rydw i'n siwr mai diffyg amser oedd gan Hesgin i gyfeirio ati hi. Wrth annerch i awen, dyma fely mae Dewi Wyn yn deud :— Y ddynawl ber awen oedd gyfrgwbl yn Eden Cyngrabad a choron yr anian ddisgywen. Rydw i'n meddwl mai iaith gwerin Eifion. ydyw cyngrabad no fase'r lien fardd byth yn i iwsio fo. Mi wyddoch chi amdano fo rwy'n siwr, Mistar Golygydd. Fuase'r papure ma ddim yn son am rhyw ffwlbri fel geiriadur safonol pe buasai'r beirdd colegol yma yn sgwenu mor blaen a hyn Y rhelyw urddasol o Nelson gyfenwawl Gwasgodwyd yn nyfysg a'r creiriau peryfawl Tawedawg mae'n huno mewn twll yn Cloro, A'i lawrwydd .yn orleis, a'i Saw yn blaguro. Newch chi ofyn i Hesgin, Mistar Golygydd, anfon enw llyfr y Mistar Dwli hwnnw mae o'n s6n amdano yn niwedd ei lythyr. 'Does dim heddwch i ddyn gael nes prynnu copi i John ma. Dyma'n adres i,— PITAR HUWS, Y Gelli Fawr, Llanarfor.
Advertising
WILLIE REES. Tenor Vocalist Choirmaster. Winner of Tenor Solo at New Brighton Tower Eisteddfod, 1913; also winner of 38 champion solos, and over 100 other prizes. Terms for Festivals, Concerts and Eisteddfodau. Apply at 44 ASH GROVE, SHOTTON, CHESTER NOW READY.-479 pages, Cr. 8vo. Sold by all Booksellers and the Railway Bookstalls. THE North Wales AND -CHESTER OFFICIAL Year Book for 1914. Paper cover 2s. net. Cloth Covers 3s. net. A handy reference book for North Wales includ- ing full information relating to County. Municipal, Urban Districts, etc., Churches & Chapels, Schools, Associations, etc., also WHO'S WHO" in North Wales. LITTLBBURY BROS., Publishers, 3 Crossball st, Telephone 6785 Central. Liverpool.  HUGHES, \2° Oxton Rd„ V-NvBirkenM. Z- Tel. No. 157y For (3^ Present Season in ??? the Newest Shades. ??\ Best Materials, Latest ?9- Style & WorkmanshiP  MODERATE PRICES W. & J. VENMORl, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RD., Liverpool Mariffo" No. 5163 Rojai J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6-Lord Street, Liverpool TMLMPMOMM ttlt MAMKCi^ ALLAN RMill LINE To CANADA. ALSATIAN and CALGARIAN 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamen ExoressBWeehly Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. LARGEST and FASTEST to CANADA. CHEAPEST way to Canada; shortest to W Amerios Regular Sailings from Glasgow, Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LINE, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspo St., S.W., and 103 Leadenhall tit., London, E.O. CANU GYDA'R DELYN. Mr. fi. OSBORNE DAVIES, Athraw ar Ganu Penhillion Telyn.' 0- Telerau Bhesymol. Ymofyner yn 4 Exeter Road, Bootle. ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.-M" rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnew- idiol fod llawer o ddiojdef oddi wrth Beswoh, Bi-nobitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Csethdra, Diffyg Anadl Y mae yr hen feddygiDiaeth "DAVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn oynhesa y frest, ac yn rhyddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd yn ddigon, Is. lie, a 2s. 9c. (postage, 3c.).-HUGH DAVIES, Chemist. MACHYN- LLETH. GWYNEB PRYDFERTIEL-" Sarzine Bloo4 Mixture at glirio y oroen, a phnro y gwaed. Y mae yn myned at wraidd y drwg, ymlid ymaith bob math o pimples, coohni, ysfa, sonrvy, peo- ddynod. Gwella hen ddoluriau. coesau drwg, crydgymalau, gan adfer y owen i'w harddw<? naturiol. 2s 60. y botel gan bob Druggist; So vn ychwanegol gyda'r post.—HUGH DAVIES hemist. MACHYNLLETH. PALAIS DE LUXE, LIME ST.' LIVERPOOL. LLUNIAU BYW SYMUDOL Chwaethus, dyddorol, ac adeiladol ac YN BARHAOL. 0 2.0 hyd 10-30 "bob diwrnod o'r wythnos. Denwch pan y mynnoch, 80 arboawch cyhyd ag y dymunoch. X, yn rhad heb dal rhwng 4 a 6 yn yr Orehettr Stall*, Pit Stallt, a'r Dren Circle. Mynediad. I i. a 6ch T "■ Couponri Rhad-Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). t IBYDDEM! GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Lta St. Mildred's House, Poultry. LONDON. E.C. dala tIOO (can pant) i gynrychiolydd oyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eulladd yn hollo ac yn nniongyrohol drwy ddamwain 0 fewn v Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwmni Reilffordo. Tramcar, Omnibus, Cab, nen Gerbyd Trwyddedig a Llog yn yr hwn y bo'r daliwr yn oael ei glado fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a ohyfran o'r cytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn dens niwmod ar'hu,gain wedi'r ddamwain; (b) foe rhybudd ohoni n cael ei roi i'r Gymdeithas o fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ym Llundain; (c) fod y cyfryw dystiolaeth rea- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyflwynoag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennn ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, as inc yn y lie darparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag an person parth mwy nag un coupon yn y papur hwn na r un cyhoeddiad arall (f) na bo r yø. wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonan tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y'i oodir.1 At-wy4nod y Daliwr -Trigfo4 I Danysgrlfwyr, Raid i dderbynwyr cyson y papur hwn ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl sicrwydd a phrawf el fod yn cael ow anfon Iddynt yn'ddifwlch. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116,118 0 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL Telephone 2137 Royal J I