Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
YSTAFELL Y BEIRDD
YSTAFELL Y BEIRDD Y eynhjrchion gogyfer a'r golofn hon i'w oyf- eirio :-PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool. T Set Fawr.—Drwg gennyf nad yw'r englyn yn drwydded dilys i fynd iddi. Mae o'n rhy wallus i hynny. Ond gallai mwy o astudiaeth ar y gynghanedd ennill hawl blaenor i'r awdur. Y llinell gyntaf ac .1af sy wallus. Y Diweddar W.R.-Englynion cryfion. ftmpus yw,— Goleuni clir glannau Clwyd 0 wedd ffyddiog ddiffoddwyd. À. eto,- Acennu llwythog gwynion Am fy mrawd y mae fymron. Croeso i fewn. Isallt yn 75.-Croeso i Lysfoel a'i englyn- ion, a Rolant Wyn a'i gan—ar y testnn di- ddorol a theilwng. IfPwyso Pregethwyr.-Gellid meddwl fod y gwaith yn beth newydd dan yr haul, wrth yr helynt a wneir. Mae pwyso pregethwyr aaor gyffredin a hawdd a phwyso moch, neu lo (glo, cofier !) neu faco. Dowch i fewn. Alafon ar R.H. W.-O'r gore rhyngoch shwi a'ch gilydd yn y fan yma. Rhaid^cau'r drws am heno. PREN MELLTITH. DRUAN bren, di-raen ei bryd,—tan fellten Fe holltodd trwy'i fywyd Mor groenllwm ei wawr grinllyd,— < j Âcmae o'n gam iawn i gyd 1 PEDBOG. PWYSO PREGETHWYR. th.YNi bawb Ti Ec, yn y bon !-gwir yw- Digri' iawn, Alafon Arwr geir a rhagorion Mwya' o'r myrdd wyr mawr M6n. Dinorwig. T. JONES-PARRY. CWYN COLL Am y diweddar J.Mr.- William Roberts,"Diacon, ac awdur Hanes Eglwys L6n Swan, Dinbych. GERWIX gur, a deigryn gwyd,—o wybod Marw'r Roberts hoffwyd Goleuni clir glannau Clwyd 0 wedd ffyddiog ddiffoddwyd. Rhed dygyfor atgoflon-yn doretk 0 ddyfnderau calon Acennu llwythog gwynion Am fy mrawd y mae fy mron. Haul i'n hoes oedd yn L6n Swan ;-yr Goruchel gai'i anian Achos Y gwynfyd na wnai gwynfan Fu ddoeth reddf a ddaeth i'w ran. Hynaws eilun, o sylwedd—arwrol Yr eirian wirionedd E bery'n ei wyn buredd Yn rhin byw, er hdn y bedd. West Kirby. A. R. FOX. TRIDIAU GYDAGfANGAUj AR LAN I AFON [MARWOLAETH. CYDGERDDAIS, dro yn ol, l. Ag Angau du; Fe fynnai'm cael i'w gol, Ond diengais i. x Paham-nis gwn yn glir Pa fodd-mi wn yn wir- Drwy'r niwl y Nefol Dir Sy'n lleddfu pob rhyw gur < A welsom ni Ond oedodd e'n rhy hir- A chollodd ii. Wrth rodio fraich ym mraick Hyd draeth y Lli', A chofio pwysau'r baich Ar f'ysgwydd i. Dychmygais weled blaen Ei gleddyf a'i ystaen Yn dod yn rhydd o'i wain daeth y Bedd a'r Maen I'm meddwl i, A phlethu'r Goron Ddrain- A chollodd d. Irid ofnais Angau ddim Ar draeth y Lli', Br nerth ei fraich a'i grym, A'm gwendid i. Er disgwyl cael fy medd Yn nyfnder mor di-hedd, Jíid ofnais flo ei gledd Yn meddwl am y 11 Wledd Yr oeddwn i, Ac yntau am ei Sedd— A chollodd fi. < MARSIANT. Ytbyty Li8bon, Rhag. 22, 1913. Y DYDD HWNNW. J TN swn y floedd, colofnau'r ddae'r Ymhyllt yn fyrdd o ddarnau Yr haul a gyll ei oleu claer, Try'r lloer yn goch ei gruddiau dul angladd amser glywa'r byw, Nes gyrru'r byd yn ferw Ac egyr dor dialedd T)uw Ar annuw'r diwrnod hwnnw. Ofnadwy ddydd 0 archoll ddofn A gaiff yr annuwiolion Y gliniau'n euro 'nghyd, ac ofn Yn cwyso'r gruddiau gwelwon Cymysglyd gri gweddiau croch Torf anwir fawr ei thwrw, A'r wys i'r farn fel taran ffroch Yn treiddio beddau'r meirw. Fendigaid ddydd i deulu'r lor Cyflawnir eu gobeithion Cydgasglant oil, o dir a mor, Yn iach o fro'r marwolion Cydeiliant oil y freiniol gan (Heb unrhyw nodyn chwerw), Ar belmynt aur y Wynfa lan, Ar fore'r diwrnod hwnnw. Drugarog Dduw, a Llywydd mawr Y nef a'r ddaear isod, Cyfeiria holl dylwythau'r llawr I fewn i gylch y cymod A chymorth finnau, eiddil gwan, I ddwyn yn glir Dy ddelw, Fel byddwyf gyda'r da eu rhan Ar fore'r diwrnod hwnnw. Y MWNWR. TRAIDD hell ddaeargell ddirgel,—a chura Drwy erch oror ariwel 'E fyn y cain fwnau eel, Ddewr arwr,—haedda'r oriel. Lerpwl. -0- W.M.
I A'R GIP.
A'R GIP. ACH A FO !-Mewn ocsiwn ddodrefn ym Mhwllheli ddydd Mercher diweddaf, gwerth- wyd llun Mr. Evan Roberts y diwygiwr am swllt a'r dyn oedd piau'r llun wedi ei dynnu oddiar y pared a'i yrru i'w werthu am waith y diwygiwr yn gwrthod mynd i weld ei fam cyn ei maiw. I OERA PALF: PALF PLISMON.—Y mae'r Heddwas Daniel Thomas wedi cael ei anfon yr holl ffordd o Aberystwyth i, New Zealand, i nol Mr. Clias. Massey (cyn- gyfrifydd y dref sydd yn y ddalfa'r fan honno ar y cyhuddiad o dwyll ariannol). Bydd yn fis Mehefin neu Orffennaf cyn y daw'r ddau gartref ac wrth weld y gwr glas ei got yn dynesu ato i afael yn ei wegil, diau mai ei deimlad fydd mai oera palf, palf plismon. •<- TAN SBIO AR Y MOR.-Y mae'r Capt. Tom Rees y Borth wedi rhoi goreu i'r mor, ar ol hwylio drosto ers 33 mlynedd yng ngwasanaeth Llinell yr Hough, Lerpwl ac am 22 mlynedd y fo oedd cap ten hyna'r llynges honno, ac ni chafodd yr un ddamwain nac anghaffael ar hyd y 22. Anrhydeddwyd ef a chinio gan y cyfarwyddwyr, ac er mai ar y lan y bydd o byw o hyn ymlaen, diau mai tan sbio ar y mor y treulia'i brynhawn. DILYNYDD SYR EDWARD ANWYL. —Dyma'r rhai a enwir fel ymgeiswyr am le Syr E. Anwyl fel Athro'r Gymraeg ym Mhrif- ysgol Aberystwyth :—Mr. Timothy Lewis, Aberystwyth Mr. Ifor Williams, M.A., dar- lithydd Cymraeg Coleg Bangor Mr. W. J. Gruffydd, cvffelyb ei swydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr. T. H. Parry-Williams, bardd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Gwrecsam, 1912. LLAWENYDD YN LLADD.-Wrtli glywed y feirniadaeth yn cael ei darllen ar draethawd yn Eisteddfod Bethania (A.), Ton Pentre, Cwm Rhondda, nos Fawrth yr wyth- nos ddiweddaf, a chael mai efe oedd i ennill y wobr, cyffrodd calon wan Eben. Williams, llencyn deunaw oed, gymaint nes y bu farw yn y fan, a gohiriwyd yr Eisteddfod ar unwaith. Mor frau yw prwydydd y gal on gnawd yma a chyn hawdded ei rhwygo gan orlawenydd a ohan or-dristwch neu fraw. DWR OER Y PERSON.-Ddydd Mer- cher diweddaf, aeth Dr. Lloyd Owen a bagad o Gymry gwladgar Porthmadog ar bererindod i fynwent Ynys Cynhaearn, i gadw cyfarfod uwchben bedd Dafydd y Garreg Wen, y telynor dihafal glywodd yr alaw ddiail honno o'r Nef wrth farw, ac a'i canodd ar ei delyn wrth fynd iFyny ond gyda'u bod yn cyrraedd at y garreg, dyma'r rheithor, v Parch. Hugh Williams, yno i'w rhwystro, ac i ddweyd nad oedd dim cyfarfod o'r fath i'w gynnal heb ganiatad blaenorol. A mynd yn ol fu raid tuallan i fur y fynwent, a chynnal y cyfarfod fan honno, heb ddim ond cael rhoi torch flodau ar fedd y telynor. Fu 'rioed mo fath personiaid yr Hen Fam am daflu dwr oer ar bopeth cynnes yr Hen Wlad. -9- STORI IAR A CHYW.—Un o bethau goreu Cymrll bob mis yw atebion y Golygydd i'w ohebwyr a hwdier hwn yn enghraifft o rifyn Mawrth S,-Ni ragorwch yn y cwrs a gymeras- och, faint bynnag fydd eich dyfalbarhad. Yr ydych wedi dewis hadau nas gallwch eu ffrwythloni, wyau nas gellir eu deor ni ddaw ond siomedigaeth i chwi yn y "cyfeiriad hwn. Y mae eich llythyr drwyddo yn fy atgoffa am gywen y dar- Ilenais ei hanes unwaith mewn cylch- "grawn Americanaidd. Gwelai dwy hen iar aden lipa a galarus gywen ieuanc yn rhygyn-gu cerdded yn dalog heibio I iddynt. A welsoch chwi falchter y gywen acw ? e be'r naill hen iar wrth y llall. Ie,' atebai honno, ond gadewch 1 iddi deimlo rhai o siomedigaethau bywyd, ac ni fydd mor dalog wedyn gadewch j' :t iddi orfod gwneud y peth wnes i eistedd am bythefnos ar wy china a dau glap drws.' TRYMA' PWYS: PWYS MEDDWL. —Trist iawn clywed am farwolaeth Mr. W. H. Evans, y siopwr dillad hysbys o Borthmadog j' a gaed yn farw ar y Ion rhwng Chwilog a Llanystumdwy'r wythnos ddiweddaf. Oddi- I wrth y trengholiad, ymddengys fod rhywbeth I yn pwyso ar ei feddwl, ac iddo ymollwng i yfed potelaid o prussic acid ddigon, ebe'r meddyg, i ladd wyth o ddynion. 'Doedd enw'r fferyllydd a'i gwerthodd iddo ddim ar y botel, ac wedi methu a'i gael y mae'r heddgeidwaid hyd yma. Yr oedd Mr. Evans yn Eglwyswr a Cheidwadwr amlwg, ac yn siaradwr mynych a chymeradwy yn erbyn Datgysylltiad. GWYR Y FFORDD I LAWR AR Y DDIOD.-Daeth yr hanes hwn yma oddiwrth un oedd yn y cyfarfod ac y mae'n hyfrydwch gennym ei gyhoeddi am fod ynddo newydd mor dda fod y commercials gymaint i lawr ar y diodydd meddwol. Popeth fo i lawr arni hi, I rhown le iddo Mr. R. J. Williams, Y.H. Maer y ddinas, gyfarchai Deithwyr Mas- nachol Gogledd Cymru yn eu cyfarfod chwar- terol ddydd Sadwrn diweddaf yng ngwesty'r British, Bangor. Gwahoddwyd y Maer, a'r Henadur Matthews, Y.H.y ddau yn deith- wyr masnachol adnabyddus trwy Ogledd Cymru-i de gyda chynrychiolwyr y Gym- deithas uchod. Y llywydd ydoedd Mr. J. R. Griffith, Rhyl, yn cael ei gynorthwyo gan y cyn-lywyddion canlynol y Cynghorydd E. George Evans, Dr. Doughty-Davies, Mr. J. W. Roberts, ae ereill. Sylwodd y Maer ar y cyfnewidiadau mawrion sydd wedi digwydd ym mywyd toithwyr masnachol yn ei adeg ef. Byddai dyn yn myned i Leyn fel pe buasai yn ) myned o olwg y byd, nid oedd tren yn mynd ymheHach na Phorthaethwy i gyfeiriad 'Pwllheh yn yr adeg honno gelmd y tra- faeliwr yn rider, ar gefn ceffyl y byddai'r tra- faelwyr te yn mynd y rhan amlaf, am y byddai y ffyrdd mor ddrwg. Byddai raid i bob trafaeliwr dalu am win gyda'i ginio, prun bynnag a'i hyfai ai peidio,—yr ydoedd hyn yn demtasiwn fawr i'r dyn ieuanc ar y ffordd, ond erbyn heddyw gellir eistedd i lawr mewn gwesty, gyda dwsin neu chwaneg yn ciniawa, a dim diferyn o wirodydd meddwol yn agos ato. Sylwodd ei fod yn cofio Ffestiniog heb yr un steam engine yn dyfod i'r lie, a diwrnod bythgofiadwy oedd y diwrnod y daeth y tren cyntaf trwy'r twnel i orsaf Blaenau Ffestiniog. Byddai'r holl drafnidiaeth trwy'r Port, llusgid nwyddau i fyny ar y line bach, gyda cheffylau, yna wedi cyrraedd pen y siwrnai, dodid y ceffylau i mewn yn y cerbydau, a gollyngid hwy yn ol i'r Port. Siaradodd yr Henadur Matthews i'r un cyfeiriad, a dywedodd ei fod ef a dau arall wedi mynd ar strike a gwrthod talu am y gwin nad oeddynt yn ei yfed ac mae'n ddiameu fod gwaith dynion fcl yr Henadur a'r Maer yn troi'r arferiad yma i lawr wedi jiod o fendith i gannoedd o ddynion sydd ar y ffordd heddyw. Ar ol y te, aed yn ol at waith y gymdeithas, pawb yn yr hwyl goreu wedi cael awr o gwmni diddan y Maer a'r Henadur. CANU CYWIR YNTEUfCANU BYW. —Mr. Wm. Jones, A.S., lywyddai gyfarfod Gwyl Ddewi yng nghapol Bedyddwyr Castle Street, Llundain a dyma ddywedodd, yn ei ffordd goeth ac eirias ei hun Fod cryn berygl, heddyw—yn y pwys a osodir ar ddis- gyblaeth a chanu celfydd a chywir-i ysbeilio'r naws a'r anian Geltaidd o'r tan a'r enaid sy mor nodweddiadol ohoni. Rhyfel. gyrch Gwyr Harlech oedd y gan-ymdaith gyda'r oreu yn y byd, er mai Marsellaise y Ffrancod oedd oreu ganddo ef. A phan oeddwn yn y Durbar yn yr India, ac yn sefyll yn agos i Arglwydd Kitchener, fe glywais hwnnw'n datgan ei syndod hefyd wrth glywed ymdeithgan y Royal Welsh Fusiliers, ac yn dweyd nad oedd syndod yn y byd fod y bob! hyn yn marchio mor odidog, a chanddynt hwythau march mor odidog." Ac ebe'r Kitchener ymhellach, 'Roedd hyd yn oed y bwch barfog ar flaen y gatrawd yn cadw'r amser i drwch y blewyn." Stori dda iawn, Mr. Jones, a diolch i chwi am ei dweyd a chan croeso i'r Saeson swrth o'u canu cywir gadewch lonydd i ninnau'r Cymry gyda'n canu byw a thipyn o sug yr Ysbryd a'i ar- ddeliad arno. Ac y,ma,i'r beirniaid yna sydd yn beirniadu'r ddau ganu a'r un lathen yn I dangos diffyg dyfnder. -0
ICefn Mawr.
I Cefn Mawr. GWYL DDEWI.—Dathlwyd Gwyl Ddewi yng Nghefn Mawr yn Neuadd George Ed- wards, ar y 4ydd cyf. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r Wyl gael ei chadw mewn modd arbennig yn y fro hon, a mawr y canmol sydd ar y cyrddau. Caed cyfarfod llenyddol ac Eisteddfod o dro i dro ar y dyddiad o'r blaen, ond cadw'r Wyl fel ail beth oedd hynny, yr oedd mantais i dalent datblygu, a gwneud arian yng nghesail peth felly ond y tro hwn cadwyd yr Wyl er mwyn cadw'r Gymraeg yn fyw a graenus. Hen ardal wedi ac yn ymladd yn galed yn erbyn dylif y Saesneg ydyw'r Cefn Mawr. Mae yma filoedd o .Gymry yn siarad ac yn meddwl yn Gymraeg, mae yma filoedd yn siarad Cymraeg ac yn I meddwl yn Saesneg, ac hefyd mae yma beth wmbredd o Saeson pur yn trigiannu yma. Gresyn fod cynifer o Gymry yn meddwl yn Saesneg,—dyma'r modd effeithiolaf i ladd ein priod-ddull o fynegi ein meddwl, a cholled fawr yw hynny. Mae'r tan sydd yn llosgi ein calon at yr iaith, a'r awydd sydd mewn. ereill am ei dysgu, a hithau yn cerdded yn raddol i'r ysgolion dyddiol, yn ein llonni'n fawr ac wrth roi popeth at ei gilydd, credwn fod y Gymraeg i fyw yn hir yma. Yn y pryn- hawn, cafodd trichant helaeth helaethrwydd ar eu cyfer ar y byrddau, o fara, cig, menyn, teisenau, a the blasus, ac yr oedd y boneddig- esau oedd yn gweini yn rhai rhadlon, bodlon a byw. Yr oedd y gerddorfa a'r delyn ac Alaw Maelor yn canu'n ber yn y prynhawn. Llywydd y pwyllgor oedd cadeirydd yr hwyr, y Parch. D. R. Owen, a rhoes anerchiad toilwng ohono'i hun fel Cymro o Fon rhoes gyweirnod iawn i'r cwrdd. Wedyn caed detholion o alawon Cymreig gan gerddorfa Mr. Goronwy Bowen. Cynhygiwyd llwnc destun Dewi Sant gan y Parch. J. W. Thomas, M.A., Ficer Rhos y medre yr oedd ei araith yn un o bethau goreu'r cyfarfod. Llwnc destyn Abon oedd "Yr Iaith Gymraeg," a gwnaeth ei waith yn gryf ac yn fedrus. Canwyd y delyn a'r penhillion bob tro gan Delynor Mawddwy, ac yn ddios mae'n gampwr gyda'r gwaith. Llwnc destyn Ustus- iaid a chynghorwyr y cylch, y Parch. T Gwilym Roberts er mai testyn sych oedd (chwedl yntau), rhoes felyster ynddo. Ateb- wyd gan yr Henadur C. Jones, a'r Cynghorydd Gethin Davies, yn wresog. Yna daeth prif atynwr y cyfarfod ymlaen i roi araith, sef Golygyddfdiail Y BRYTHON, arypwysigrwydd o gadw'r Gymraeg yn fyw ac arawd raenus, iachus oedd hi hefyd. nid ydym am ddyfynnu rhag ofn i ni wneud cam a hi. Ond goddefwch hyn o sylw, Syr, anghofia pobl y Cefn mawr mohonochi byth brysiweh yma eto, wnewch chwi, dynaf"deimlad pawb, nid y fi yn unig. Hwn oedd y tro cyntaf i mi eich gwold a'ch clywed yn y fargen, ac mi edrychais ar eich wyneb ddigon i'ch nabod y tro nesaf pe baem yn cydgwrdd yn y man y bu farw Capten Scott. Mr. R. Bates (trysorydd) a gynhygiodd lwnc destyn Clerigwyr a Gweini- dogion y cylch, yn ddoniol iawn atAbodd y Parch. E. K. Jones mewn araith fer, mor sylweddol a thorth o fara. Y Parch. E. J. Williams ei lwne ef oedd Beirdd y Cylch, ac yr oedd yn ddeheuig iawn atebodd BnTwyn a Chefnydd, gyda phenhillion ac englynion a mynd ynddynt. Y Parch. H. H. Williams ei Iwnc yntau oedd Cerddorion y cylch, a gwnaeth yn ddestlus iawn atebodd Mr. G. W. Hughes, G. & L., fel y gall G.W. wneud, gwyddoch chwi yn L°rpwl amdano. Y Parch. W. H. Parry Masnach y cylch, yr oedd yntau'n wrpsog ac mrwn hwyl atebodd y Cynghorydd H. Ellis yn bert a naturiol. Yna cyflwynodd yr Henadur C. Jones dystysgrifau y Gymdeithas Ddyngar i Mri. E. Rogers, J. Hopwood, J. Lloyd a S. Lp,c-y, am wrhydri yn ceisio achub llanc a fygwyd mown hen bwll clai yn Acrefair. Diolchwyd gan Mri R. T. Williams a John Lrwis; ysgrifennydrl y mudiad yw Mr. Taliesin G. Ll. Jones, a phe chwiliem yr holl wlad am ei debyg, anodd fyddai ei gael, iddo ef yn bennaf y priodolwn Iwyddiant y dathliad. T^rfynwyd cyfarfod rhagorol drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau, a Mr. G. W. Hughes yn arwain.C. S
Advertising
Telephone Royal 1167 Established 1864 ROBERT ROBERTS ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let In various parts of the own. Mortgages arranged. Valuations made Established 1884 'Phones 205 Bootle —— 547 T. WOOSNAM ROBERTS, F.A.I., Estate Agent and Valuert Bootle Estate Office, Praotioal, Prompt and Reliable Management of all Practical, =of Real Estate. 52 STANLEY ROAD, BOOTLE, (2 doors from Bedford Road). Telegrams: "WOOSNAM, BonL H Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATl 4GENT 4 VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents per- sonally collected. Purchases and Sales ne- gotiated. Mortgagee arranged and Insurance, effected. THOMAS a JONES, ESTATE AGENTS VALUERS. INVBSTMBMT BUILDIMOS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No. -3868iBank. Properties Bought and Sold. Mortgagee arranged. Valuations made. Rents collected, TEL. Sf 7 AHXIBIJX ESTABLISHED 1872. Stephen Roberts & Son, BSTATS AGENTS A VALUERS. 137 Everton Road, Liverpool. Properties carefully managed. Rents per- sonally Collected. Purchases and Sftlee negotiated. Mortgages arranged and In- surances affected. Henrv Jones. of 7 ESTATE AGENT, VALUER &.PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool TAL: BAmic 4084. Excellent Building Land for Sale in the Vale of Clwyd. Lewis & Bromley Edwards, ESTATE AGENTS* 102 Kirhdale Rd. Liverpool Tel. 1840 Royal 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., ESTATE AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 1885. Telephone: 567 Royal. Telephone 8586 Bank JONES êfJ HUGHES. ESTATE AGENTS, 13 Whitechapei, Liverpool PROPERTIES CAREFULLY MANAGED Rents Collected. R. E. HUGHEb, Estate Agent, Surveyor iJ1 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'bead. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. D. GRIFFITHS & SON. 221 BrecH Rd, Upool Flits AND UKUAN.8 from Bv allthe Q PER leading <333// » MONTH makers. Tf.LEPHONf. -<4^6 Anne) < LA D I S S BLANCH4R0 PILLS Are unrivalled for all Irrejmiaritleg, &o.. they epeedt ty afford rellet and tifver fall to alleviate an sufferings They 8iij>«r»ede Pennyroyal. PlI Oochia, Bitter Apple, &0 BLA\CnARD'S art the best nf all Pill for Women, sold in boxes. In by BOOTS' Branches, TAYLOR'S Brunches aDd all Chemist* or post frae, 881.116 price, from f: -1 IF TV^ l.te Chemists.34 Dgiston i ones Lundon. Mr. HARRY EVANS, Conductor, Adjudicator, Organist Teacher of Singing, 26 Princes Avenue. Liverpool 6, W. HUGHES,o. & L.T.S.C (Anvoinydd v Canu yng Nghapd M.C. Prinew Ready Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir mgeiswyr at Dystysgrifau uwehaJ Coleg y iSolffa, Hen Nodiant a solffa, 70 KINGSLEY ROAD, LERP" "An Accomplished Elocutionist. Wallasey U.1, E. KINGSTON JONES, Gold Medallist-Winner at Royal National Eisteddfod. ELOCUTIONIST. ENTERTAINER. ADJUDICATOR. Pilot's Concert, Philharmonic Hall :—" Mr. Kingston Jones was responsible for some of the best features of the entertainment. Liverpool Courier. Adroddiadau Cymraeg a Saesneg. Concerts, Part or Entire Evening. Lessons given. Apply 27 Olifton Road East, Tuebrook, Liverpool Madame filadys Williams, PROFESSOR of ELOCUTION, Deportment, Gesture, Voice Culture, Defects of Speech, &c. ADJUDICATOR leading Eisteddfodau, including Royal National, Bangor, 1914. ENTERTAINER principal Welsh & English Concerto. 35 Hamilton Square, Birkenhead W. DAVIES, Conductor, Adludicator, Accompanist, Teacher of Singing, Violin, & Piaaofarte Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodam. At HAFOD, DEGANWY, N. Wales Y DDRAIG GOOH." THOMAS JONES, I Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adelphi Hotel). Large selection of Books in various subjects and languages, new and second hand; also the follow- ing-Y Brython, Y Beirniad, Cymru, Y Liusiarn, Welsh Outlook, Cojidm t 5 ho mo. s Gee, Almanac Caergybi. Orders received for all kinds of Welsh Books and Magazines. P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELEPHONE-261 BOOTLE. TtUpbcu 751 Anflold. JOHN JONES, a FUNERAL FURNISHER. 19 Preston Grove,fvlKrvoi. stylo.1 Quality. Economy, Attention. SUPERIOR WJBDDING BROUGHAMS BjiswsJw oihl charges on MODER-Ned oras unrhyw sytoylitfadlrhvnv sac *g irail a ? un ntf, Telepboae—S7S Anfleld T '? ? Y???t'N??? J. T. JONES, Ftioerol Undertaker, 55 & 51 Breck. Road, L'pooi Funerals personally arranged to all parts. Telephone-215" Old Swan." 16 Whitland Rd., near Shell Rd.. Fairfield. R. W. EVANS Funeral and Wedding IDirector, (Agent for Thomas PorteT & Sons, Ltd.). All orders personally attended to throughout at moderate charges. Highest testimonials can be seen. NO PEELIMINARTOFHK8 J MONEY LENT PRIVATELY In large or small sums (not less than CIO) ON^BORROWER'S OWN PROMISSORY NOTB ESTABLISHED FORTY-THREB YEARS and now lending UPWARDS OF £ 80.000 ANNUALLY. torq Prospectus and Terms apply to GEORGE PAYNE & SONS 3 CRESCENT ROAD, RHYL, AND 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL. Attendance every Thursday afternoon at 15 KING STREET, CHESTER. mwiiiiams & sons, COAL, COKE AND CANNEL MERCHANTS Head Office: 7 Rumford Street Depots- Marsh Lane, L. C4 Y- Ry. 217a Crown Street, and 3 Jackson ,Street,Birkenhead. Special Prices for Dealers, Write for Termc