Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
o DDIDDORDE B MAWR DROS BEN I GYMRY- CREAMER S ANNUAL SALE OF :FURS: Of every reliable description is now in progress. 4/- tp 9/= in each £ reduction COATS ULSTERS STOLS WRAPPERS MUFF FOOT MUFFS TIES Etc., Etc. ELEGANT SELECTION OF FURS. BARGEINiON DIGYFFELYB AR HYD YR WYTHNOS. 56 BOLD ST., Liverpool. 56 ARGRAFFU LLYFRAU Mae cyhoeddwyr y "fBrython" wedi ennill enw iddynt eu hunain fel Argraffwyr Llyfrau. Ni wneir gwell gwaith mewn unrhyw Swyddfa yng Nghymru na Lloegr. Da fyddai i rai sydd ganddynt Lytrau i'w hargraffu, anfon am y prisiau ar unwaith, ac id aros hyd nes bo'r Rhyfel drosodd pan fydd lIawer o bethau wedi codi, fel y galluoger ni i gadw y gweithwyr mewn llawn waith yn wythnosau dyfodol, ac felly wneud ein rhan i gadw Masnach ar fynd. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa* r 'Brython,' 356-8 Stanley Road, Liverpool, TELEPHONE 591 BOOTLE
. FFETAN Y GOL.
FFETAN Y GOL. Cofied pau-b fo'n anfon t r Ffetan mai dj)nia'r gaii- sydd ar ei genan NITHIO'R GAU A NVTHU'R GWIR. Dowch i Hela'r Twrch. At Olygydd Y BRYTHON SYB,—Yn eich rhifyn am Rhag. 17eg, 1914,. ysgrifennwch sylwedau ar Hela'r Twrch Trwyth ac er i chwi ei gael i'w dwll, ni laddasoch ef. Daliwch ati, wr glew, hyd nes y maeddir ef yn llwyr, fel y eaffo plant y cewri eu llwybr yn rhydcl a diogel at eu heiddo. Nid oes eto yn y Llyfrgell Genedlaethol berson fedr ateb unrhyw gwestiwn ynglyn lVn llenyddiaeth, fel ag i fod yn gynhorthwy i'n hefrydwyr. Rhaid i wr fynd yno fel ped ai at y mor, a mentro'i siawns. Pe'r ai at fwrdd y darllenydd a gofyn am arweiniad er cael goleuni ar unrhyw bwnc, o edrych, amheuwn fod yno un a fedr gynorthwyo. Wrth gwrs, gwna pob aelod o'r staff bopeth o fewn cyrraedd eu gallu. Ein cwyn yw nad oes yno neb a gallu mwy na'r cyffredin o'r dosbarth geir yn mynychu lleoedd o'r fath. Yn lie Mr. Richard Ellis, M.A., ceir geneth ieuane. Geneth ymdrechgar a chroesawgar ddigon. Ond pan ddywed un ei angen, er ei holl ymdrech a'i charedigrwydd, teimla gwr mai difudd yw ei daith, a honno weithiau yn weddol hir. Y dydd y bum yno yr oedd stol Gwyn Jones yn wag, a mawr oedd fy ngholled. Nid oedd Miss Evans chwaith yn ei lie fel cynt. Wnewch chwi, Mr. Gol., anfon nifer o Gymry gwladgar lerpwl i lenwi'r gwelgleoedd hyn ? Y Saesneg hefyd yw iaith y llyfrgell A meddyliwch yn wir! Rhaid gofyn am weithiau'r Gogynfeirdd yn Saesneg Sefyd- t liad Cymreig y w'r llyfrgell. Sefydliad cenedl- aethol yw, onite ? Trysorgell y werin. Ac anghyfiawn yw goddef cyrraedd un amcan arall ar draul anes hon. Aed y mawrion i Hades cyn y goddefer i'r Sefydliad na'r wlad ddioddef. Chwi fu'n taflu eich ceiniogau i'r drysorfa. Chwithau fu'n anfon eich llyfrau yno. Chwithau wyr flas darllen yno ar droion, dewch i hela'r Twrch. Boed cywilydd i ni oddef y fath wall yn ein Priflys. Dim un yigolor Cymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol Dim un lienor Cymreig i ofalu am ein Llen- yddiaeth Dim un gwladgarwr Cymreig i arwain ein meddyliau ieuainc i'r ystorfa gyfoethog a gasglwyd gan ein caredigion Dim un o facwyaid y deffroad yn agos i'r terfynau Dim un o aelodau'r Orsedd i ofalu am eu siarter Dim un Eisteddfodwr o fewn y lie Mewn gwirionedd, neb bron a hidiai fotwm corn pa an ai byw ai rnarw fydd ein hiaith a'n cenedl Cywilydd Cywilydd Symuder eto yr hen lyfrgasglydd emvog o Lanbedr,Ceredigion. a bydd y gwaith yn orffenedig, a bydd Cymry 1915 wedi ymberffeithio mewn gwas- eidd-dra.—Yr eiddoch, Mr. Gol., er gwaetha' popeth, CYMRO Gloewi'r Gymraeg. I SYR,—Yn ei ysgrif yn Y BRYTHON, y mae Mr. Tecwyn Evans yn llawdrwm ar y neb a ysgrifenno dyddordeb, a'i faen prawf yw llafar gwlad. Ar ba adeg ar ei oes y daw dyn fwyaf o dan ddylanwad llafar gwlad ? Onid pan yn blentyn ? Pan fyddai ar y diweddar Mr. Thomas Darlington eisiau gwybod pa fodd y seinid gair mewn ardal, holai'r plant. Ac yr oedd yn llygad ei le. Hoffai llawer, heblaw fi, wybod ym mha ardal y clywir diddordeb neu duddordeb. Pa Lan sydd wedi disodli Llanuwchllyn ? Cyhoeddwyd Ilyfr o'r enw Welsh Orthography flynyddau yn ol. Y mae argraffiad 1905 ger fy mron. Y mae Syr John Rhys, Mr. O. M. Edwards, yr Athro John Morris Jones, a gwyr cyfarwydd eraill, yn gyfrifol am gynnwys hwnnw,-lie y dysgir ni fod lliaws o eiriau y dylid defyyddio di- ac nid dy- ar eu dechreu. Ond nid yw diddordeb na diddorol yn eu mysg. Mewn geirfa ar ddiwedd y llyfr ceir dyddorol. Mewn ysgrif yn Ysbryd yr Oes am Chwefrol lofed, 1906—ysgrif a'i phendantrwydd yn ddigon i yrru iasau drwy ddyn, rhydd Mr. Tecwyn Evans res o eiriau a'r rhag-ddodiad di- iddynt, yr un geiriau ag a geir yn y llyfr a enwais. Difynnaf frawddeg i ddangos wreiiddioled gwr yw Mr. Evans.— Diben was always so written before Dr. Pughe's time and those who follow him and spell dyben should consider that "if this is the correct spelling, the correct pronunciation is dyben, in which the first syllable is identical with the first syllable of the English word dubbing. Welsh Orthography, p. 45. Dylai'r rhai sydd am ddal i ysgrifennu dyben gofio y dylent ei ynganu fel y sill "gyntaf yn y gair Saesneg dubbing— Ysbryd yr Oes. Yn yr un ysgrif y mae ganddo frawddeg yn dechreu fel hyn: "Dyddorol yw sylwi." Yn Ysbryd yr Oes am y mis blaenorol, y mae ganddo'r frawddeg yma "Ein hamcan yn anfon y nodiadau yw creu dyddordeb yn yr heniaith hyglod, a deffro cywreinrwydd a sylw'r darllen wyr." Dyddorol dros ben Mr. Gol., ac am iddo ddeffro fy nghywrein' rwydd yr wyf yn gofyn iddo paham yr ysgrif" ennai dyddorol yn 1906 os diddorol a glywai'n wastad. Amlwg yw mai at y glust ac nid at. hen lyfr yn y byd yr apeliai awduron y Welsh Orthography o'i fiaen. We write di- where di- is pronounced as in diben, disgwyl, difyr, distaw, and dy- where dy- is pronounced, dyfal, dybryd." Pwy biau'r clod, neu'r anghlod, o ddatguddio mai diddordeb sydd gywir eleni '? A yw yr Athro J. M. Jones am droi ei gefn ar dyddorol ? Efe biau'r frawddeg hon Ond mwy dyddorol i lawsr na'r orgraff fytld y ffurfiau hynod a geir ym Mrut Sieffre ar enwau priod a thermau Ysgrythyrol." Y mae ger fy mron ysgrifau o waith Syr John Rhys a Mr. O. M. Edwards, a dyddorol sydd ganddynt hwythau. Pa bryd, Mr. Gol., y bu'r "cyfiiewidiad rhyfedd ? Ai tybed fod a wnelo Ymadawiad Kuno a thynged yr y ? Ai Belgium arall hi ? Ai "scrap of paper yw'r Welsh Orthography, yntau ?—Yr eiddoch yn bur, T. J. CYNFE Yr YsgoT. Prenteg, Porthmadog, ";Dan law Duw. dyna le da." I I At Olygydd Y BRYTHON I I1 ANNWVL SYR.-—Carwn trwy gvfrwng Y BRYTHON wybod rhywbeth ynglyn ag awdur hen lyfr y ccfais ei fenthyg y dydd o'r blaen. Ceir a ganlyn yn deitl iddo Prydnawgwaith y Cymry. Neu Fer hanes o Lywodraeth yTywysogion Cym- reig ar Cymru. Yr hon a Barhaodd o'r flwyddyn o Oed ein Hiachawdwr 686 hyd y flwyddyn 1288 a amcanwyd megis cyflenwad i'r llyfyr a elwir Drych y Prif Oesoedd. a ysgrif en wyd gan William Williams Llandegai Arfon Efe sydd yn syinmud Brenhinoedd ac yn gosod Brenhinoedd." Gwyndodwryf Trefriw Argraffwyd gan I. Jones 1822 Pris 2/6. Dyma ddywed ar ddiwedd ei Rhagarawd Yr ydym yn darllen Croniclau yr Hen luddewon gynt yn yr hen Destament, ac yn cyfrif yr hanesion hyny drwy yr holl ddarnweiiiiati a fynegir ynddynt megys gwyrthiau a threfniadau yn ddeilliaw yn || ( union o law yr Hollalluog, a diammeu ei bod felly ond nid mwy nag yn hanesion ."ceiihedlooddera,ill. Y Cymro ystyriol a || wel gymmaint o'i ragluniaethol ymyraeth yn hanes ei gyn .dadau ag y mae dichon i "neb weled mewn un hanes arall yn y byd. Ac yn ddiammeu pan ddarilenom heddyw hanesion y dyddiau presenol heddyw, "hanesioit y dyddiau presennol mewn |^ | papurau newyddion, ni a ganfyddwn yn eglur yr un goruchwyliaeth yn gweithredu ac yn dwyn ymlaen megys cynt, achosion (i i derfynu i ddibenion pwysfawr a phob errtser er rhyw ddaioni cyf/redinol a I-ieilltiiol. Gan hynny ofer y dywedir i mi t ( fod Duw yn gwneuthur mwy o wyrthiau yn yr hen oesoedd gynt yn mysg cenhedl t: yr luddewon neu genhedloedd era,ill, "nag y mae yn en cyflawni yn yr oos "bresenol. Mae ei law Ef heddvw mor amlwg ag yn yr oesoedd hynny pa rai bynnag. Ac y mae yn ddiammou yn gweitliio felly mewn achosion neilltuol dyn. gystal a chyffredinol. Dyweded Pope ae anghredinwyr eraill a fynnant yn wrthwyneb i hyn. Yr wyf fi yn |t| | hysbys o hyn, gan i mi weled mor ami ei dadol law Ef mor eglur yn trefnu mor "ryfedd fy namweiniau byebain fy hun." Da. fawn yr hen Williams, onite ? Gresyn na fuasai mwy o'i ganlynwyr yn byw heddvw. Os bydd gofod hwyrach y ceir yr uchod yn Y BRYTHON a thrwy hynny ddwyn i'n cof fel Cymry mai Llaw ein Tad sydd wrth v lly w o hyd.—Gwyn a braf eich byd,—Yr eiddoch yn wladgar, G. LLOYD PUGH Glanogwen, Bartli y Gest. Emynwyr Cymru. j At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-Tybed nad oes ymhlith darnenwyr Y BRYTHON clodfawr rywun yn meddu ar gopi o Hanes Emynwyr Cymrv. Dywedir i mi fod Mr. Gwenlyn Evans, Caernarfon, wedi dwyn trwy'r wasg lyfr ar yr uchod ryw dro yn ol, ond ei fod yn awr allan o brint. Buasem yn dra diolchgar o wybod gan rywun am gopi ar werth neu un y geIIid ei gael yn fenthyg.- Yr eiddoch yn gywir, R. TYNEWYDD "Y L;iwryf gwvrdd. I I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-Nid wyf yn foddlon ar yr eglurhad ar y frawddeg uchod, er cystal yw, a gynhygir yn eich rhifyn yr wythnos ddiweddaf gan eich gohebydd, R.M.P. Oni fuasid vn disgwyl llawryf gyda 11 ac nid lawryf; oblegid 11 ac nid I yw llythyren flaen geiriau eyffelyb yn y Gymraeg; er enghraifft, llaeth (lact-), llafur (labor-), llid (lit-), etc. Ac os felly, paham yr ysgrifennir y frawddeg uchod gydag un I ac nid 11 ? 'Rwy'n gweled nad YW'1' geiriaduron yn ein helpio rhvw lawer. os dim. Os edrych- ir i Eiriadur ekmpus Bodfan Anwy], ceir • "LIawrwydd, n.p. n.f.), IaunI. llywryf, n., laurel." Fe welir nad yw Radfan yn penderfynu cenedl na rhif y gair Uawruf er y gellir casglu mai unigol ydyw yn ol ei syniad ef. Yng Ngeiriadur Spurrell, can- fyddir yr un ansicrxvydd ynglyn a'r pwnc oddigerth (yr hyn nad amheuir gan neb), mai Iliosog yw "llawrwydd," ac mai common noun yw "Ilawryf." Ond v mo('r hyn a ddywedir ymhellacb yn y geiriadur hwn yn hynod o amwys ac aneglur, gan nad yw'n penderfynu a yw'r chwanegiad a roddir, sef en, noun fem. i'w osod yn ol-ddawd ar ol llawrwydd, neu ynteu llawryf. Edrychais i eiriadur Welsh-English gan Silvan Evans; y mae hwn yn traethu fel hyn :— « Bay (bay-tree), llawryf, llawrwyddert (pl. llawrwydd) bay-berry, ffrwyth v llawryf (sylwrer mai II sydd yma, ac nid I a bod y gair yn unigol o ran ei rif) bay' llawryf etto yn unigol the poet's bays 1 llawryf y bardd (fel pe bae'r ceiriadurwr yn edrych ar y gair fel lliosog); like a green || bay-tree, fel y llawryf gwyrdd." Gwelir mai llawryfsydd. gan Silvan Evans yn y I frawddeg olaf a ddyfynnwyd, ac nid lawryf a gwelir hefyd fod y gair yn cael edrych arno yn wrywaidd. Yr anhawster yw hyn,—os y lawryf gwyrdd sy'n briodol, paham nad yw'r gair yn eydweddu ag arfer enwau pren- nau yn Gymraog ? Onid gwell yw dweyd ar xmwaith ac yn ddiymdroi, rna-i cainbriiit yw y frawddeg y lawryf gwyrdd a geir yn y Beibl Cymraeg (Salm xxxvii, 35), ac mai'r I ffurf fwyaf cywir fuasai y llawryf werdd," neu v llawryfydden werdd"? Os cymerjr llawryf i fod yn air lliosog, yna'r ffurf oreu yw "y llawryf gwyrdd neu gwyrddion ac vna gellir troi'r frawddeg i'r rhif unigol fel hyn, "y llawryfen werdd." Traethed y doethorion eu lien vmhellach. D.O.G. Pwy eu piau ? I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—-Yn eich newyddiadur hyglod yr wythnos hon, ymhola Mr. 11. E. Williams am awdur y ddau bennill :— "Pc bai'r holl foroedd mawrion," etc. A'r byd i gyd yn bapur," etc. Nis gwn pwy ydyw yr awdur, ond credaf mai cyfieithiad ydyw'r ddau bennill, a hwnnw heb fod yn gyfieithiad da ychwaith. Tarewais fy llygad ar y ddau bennill yn Saesneg mewn llyfr o'r eiddof flynyddoedd yn ol, a dyna yr unig olexxni fedraf roddi arnynt. Gall arall, hwyrach, roddi gweU goleuni. Ond dyma fel y maent yn y llyfr y cyfeiriais ato :— The following lines, composed by a, lunatic, were found written on the wall of his cell after his death Could we with ink the ocean fill, And were the skies of parchment made, Were every stalk on earth a quill, And every man a scribe by trade To write the love of God above Would drain the ocean dry Nor could the scroll contain the whole, Tho' stretched from sky to sky." Morfa Nevin E. T. EVANS Pwt arall. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Gofyn Mr. H. E. Williams, Olinda, Baaumaris, yn Y BRYTHON yr wythnos ddi- weddaf, pwy yw awdur y pennill ar y testun "Cariad Duw," a ganfu amser yn ol ymysg hen lyfrau. Nid fel y mynega ef y cyfryw y dysgais i ef, yn ages i banner can mlynedd yn ol, ond fel a ganlyn,— Pe byddai'r moroedd mawrioll Yn inc o'r du ei liw, A'r tywod dirifedi I gyd yn ddynion byw A'r byd i gyd yn bapur, Bob un a'i ysgrifbin Ni allent gynnwys cariad Yr Oen fu ar y bryn. Yr eiddoch, < tc. Bootle JONATHAN HUGHES Eto fyth At Olygydd, Y BRYTHON ANNWYL Syp.Mewiiatebiadi H. E. Will iams, Beaumaris, a ofyn yn eich rhifyn di- weddaf am oleuni ar y pennill Cariad Duw," credaf mai math ar ryddgyfieithiad yw o'r hen bennill Seisnig a ganlyn LOVE OF GOD. I Could oceans, rivers, springs, and lakes, All that the name of water takes, Beneath th' expanded skies, Be turned to ink of blackest hue, And all the drops of falling dew, To make the wonder rise; 2 A book so large could we suppose, Which thinnest paper could compose, As the whole earthly ball; Was ev'ry shrub and ev'ry tree, And ev'ry blade of grass we see A pen to write withal: « • • « 5 And then to tell his love, 0 then Angels above as well as men Archangels e'en would fail; Nay, till eternity shall end, A blest eternity we'll spend, Nor then have told the tale Hefyd, wrth chwilota, fel H.E.W., ymhlith nifer o hen lyfrat-rhai ohonynt yn hen iawn—rhwng dalennau un ohonynt, cefais a ganlyn mewn Uawysgrif lan a chlir heb enw neb wrthynt. A oes ymhlith eich beirdd a'ch llenorion a all roddi goleuni ar eu hawduriaeth ? WARD WILLIAMS Grey Holt, Gwrecsam Dyma'r penhillion YMFFROST Y CRISTION YN Y GROES. Os bydolddyn a ymffrostia Yn nhegannau gwael y Ilawr, Ymffrost Cristion a'i orfoledd Sydd yng nghroes ei Geidwad mawr; Pan bo deddf y Nef yn bygwth Nes y tcirnla'r galon loes, Nid oes ganddo yn ei hwyneb Ond ymffrostoi yn y groes. Os cyferfydd ag ystormydd Blinion, geirwon, ddyddiau'i oes, Nid oes ganddo gysgod diddos Ond yn angllu Crist a'i groes; Dyma'r fan y cara lechu 'N wyneb gwg a gwen y byd, Ac ymffrostia' nghroes yr lesu Fel ei noddfa dawel, glyd. Dyma destun mawr ei ymffrost, Wrth wynebu brenin braw, Pan yn rhydiau'r hen Iorddonen Ar gyffiniau'r byd a ddaw r Dyma unig sail ei obaxth Am fwynhad y nefol wlad, Ac i uno yn yr anthem Sy'n dragwyddol ei pharhad. DiscfiWreiddiol Llanidloes* I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL Syiz.-Gwelaf -fod rhai yn holi,yn eich rhifynnau diweddaf, am athro gohebol i ddysgu Cyrnraeg iddynt. Carwn. ddwyn i'w sylw enw brawd o Lanidloes yma wna waith rhagorol yn y dull hwn, sef Mr. J. H. Manuel. Honna Mr. Manuel iddo ddarganfod ffordd i syxnleiddio' dysgu'r iaith i rai dieithr iddi. ac y mae ganddo ddosbarthiadau lliosog, sef 93 o ddisgyblion, yn yr ysgol nos, o dan y Pwyllgor Addysg yn y dref hon, sy'n rhoi prawf llwyddiannus ar ei gyfundrefn. Wedi y gorffenno'r tymor profi hwn ar y gyfundrefn, bwriada'n cyfaill argraffu llyfr i'w hegluro. y maedyfais Mr. Manuel yn wreiddiol iawn, a chredaf fod llwydd mawr yn ei haros. Y peth cyntaf wna ydyw svmud ymaith yr h, oll ariawsterau ynglyn a 'r treigliadau. Gwna hyn a- r Welsh Mu ation Disc "creadigueth wreiddiol neilltuol o'i eiddo'i hun, eithr nid yw pwnc y treigliadau ond peth eilradd i brif egwyddorion y gwaith. Arweinia'r disgybl trwy holl faes cystrawen mewn parsing ac analysis yn y dull canlynol. Cymerwn I1j'n liollol fel y mae ganddo yn y syllabus (1) Equivalent Terms; (2) Grammar- Parsing and Analysis; (3) Conversation, based upon an Analytical Knowledge of the Language. Dylid dweyd i'r diweddar Syr Edward Aawyl weld yr holl waith yn fanwl, ac iddo gael sel ei gymeradwyaeth. Bydd ein cyfaill yn falch iawn clywed oddiwrth unrhyw un a gymer ddiddordeb yn y pwnc. Ei gyfeiriad ydyw: Gorn View, Llanidloes, Mont.—Yr eiddoeli, 178gol Glan Dwr, D. ROWLANDS Llanidloes 7Q y ca-it a Phlicio Tatws. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR,-OS heb gollfarnu'r pwnc uchod, fel yn annheilwng o sylw pellack, dichon y bydd a ganlyn o ddiddordeb i'r BRYTHONiaid, ac yn rhoi goleu ar y pwnc. Fel y nrne n hysbys, ymunodd cannoedd o Forgarunvg (er dechreu y rhyfel) a'r Fyddirt- rhan fawr ohonynt yn Ogleddwyr, a bu ugein- lau ohonynt gartref tua'r Givyliaii, a, clies gyfle i holi profiad amryw ohonynt. Yn eu plith, ca-rddais a llanc o Sir Fôn, YmneilItuwr o'i febyd (a Methodist wrth gwrs). Ymhlith pethau eraill, holais ef am y cyfleusterau oref. yddol yn y dref Seisnig lie yr arhosai. O," ebai, mae acw amryw o gapeli, ond i'r eglwys y bydd y rhan fwyaf o'r boyi yn myiid." Sut hynny ? gofyiknais. 0 deall y game," ebai, dechreuir yn yr ti eglwys am 8 yn y bore, a ehan fod y ddis- gybia?th mor galed a seibiant mor brin, II mae'n gyfle da i gael bod yn rhydd tan gimc>' o wyth yn y bore, a rhaid i?hosia'r capeli blicio tatws a hwylio cinio o wyth "liyd dd,g, a'r oedfa o ddeg hyd ginio." Dichon y dyry'r uchod eglurhad ar honied yr it>sgob ond dylai gwr o'i safle ef hysbyau yr holl wir, a chymryd Plicio'r Tatwa" i ystyriaeth.- Y l' eiddoch, Caerphilly CELYN I Awgrymu Athro. I At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL GYHRAWD,—Gyda golwg ar y llythyrau aymddangoscdd yn Y BRYTHON yn ddiweddar mewn perthynas a'r Correspond- ence Lessons yn Gymraeg, dymunaf gymerad- wyo i'ch sylw y Parch. D. C. Herbert, gwemidog gyda'r Annibynwyr ym Mryn- siencyn, fel un sydd yn hyddysg iawn yn y Gymraeg ac, yn ddiddadl, yn un sydd yn feddiannol ar allu arbennig i gyfmnnu addysg mewn Correspondence Lessons. Yn ddiameu, yr ydych yn gynefin ag enw Mr. Herbert, gan iddo ysgrifennu ami lythyr ich papur. Mae ei enw yn by&- bys iawn ym Mon fel bardd a lienor gwych. Os gohebwch ag ef, mae'n debyg y cewofe yr holl fanylion ganddo.—Yn gywir iawn, O. T. JONES (Private), 13th R. W.F. Tegwel, The Parade, Llandudno. I Percbi'r Beibl a Chadw'r Sul. I At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR, Y Lleifiad a ddywedodd, yr wyf yn meddwl, neu wr y Tusw Brith, fod y ddrama Gymreig wedi mynd o'r neilltu ac i'w ehwpwrdd nes bo'r rhyfel ar ben. Nid yw pob man felly. Nos Nadolig, bu ewmani o Nefyn yn chwarae drama boblogaidd Beddau'r Projfwydi yn Neuadd Madryn. Yr oedd yr adail yn orlawn. Gwnaetli y cwmni eu gwaith yn ardderchog. Ac yn he rwydd eu chwarae canmoladwy, a dywnin- iad taer y rhai a gollodd y wledd, bwriadant ei pherfformio eto nos yfory. Mor debyg i ddameg Treforris y aoniai Meudwyr Mor amdani yn Y BRYTHON di weddaf ydyw yr hanesyn a ganlyn, o hea lyfr wedi colli amryw o'i ddalennau cyntaf Ni fuaswn i yn synnu dim nad rhywbeth fel hyn ydyw ei deitl Tystiolaethau o blaid gwirionedd y grefydd Gristionogol." -Part ydoedd Dr. Goodwin yn llanc, ac yn ysacrlhnirr yng Nghaergrawnt, clywsai lawer o ad* am Mr. Rogers, o Dedham, ac efe a gymerai daith i'w wrando n pregethu un o'i ddarlithoedd wythnosol, i wrando'r rhai yr oedd cyrchu mawr iawn. Yr oedd Mr. Rogers yL hynny yn traethu ynghylch yr Y sgrythyrau ac ar yr achlysur hwn yn ymresymu a'i wrart dawyr ynghylch eu hesgeulustra o'r Beibl- megis yn cynrychloli y MAWREDD, dywedai wrthynt MI a ymddiriedais fy Meibl yn hir i ehwi; chwithau a'i diystyrasoch; mas yn gorwedd yn eich tai yn orchuedddig gan Iwch a gwaith y pryf copyn nid ydych yn gofalu am edrych i mown iddo. Ai fel hyn yr ydych yn ymddwyn at fy Meibl ? 0'1' goreu, nis cewch mo fy Meibl i ddim yn hw" y." Yna cymerai y Beibl oddiar y glustog, ac ymddanghosai fel pe buasai yn mynd ag ef ymaith oddi wrthynt; ond yn ddisymwth troai drachefn, ac megis yn personoli'r bobl gerbron y GORUCHAF, syrthiai i lawr ar ei liniau, gan wylo a dadleu yn y modd mvryaf difrifol "0 Arglwydd, pa both bynnag a wnai i ni, na chymer y Beibl oddiarnom Lladd ein plant, llosga ein tai, distrywia ein heiddo, yn unig arbed i ni y Beibl." Yna llefarai wrth y bobl megis trcs Ddnn, Ydych chwi yn dywedyd feHy ? Pu^ mi a roddaf brawf arnoch eto ychvdio- y? hwy a dyma fy Meibl i chwi. Mi f f?,? oto weled pa fodd yr ymddygwch tu?ato- pa un a fydd x chW1 ei garu yn fwy; p2un wnewch chwi ddal arno yn well; pa un a wnewch ei ddilyn yn fwy, a byw yn fwy unol ag Trwyj. ^nudiau hyn, parai wylo cyffredinol ymhlith y gynulloidfa. Y Dr. Goodwin ei hun, pan aeth o'r neilltu i gymryd ei genyl, a bwysai ar ei wddf gan wylo am gryn chwarter awr, cyn bod ynddo north i iyned ar oi gefn, gymaint ydoedd yr argraff a wlleutbid ar ei feddwl, trwy ddannod iddo yn y modd hwn ei esgeulustra o'r Beibl. Colled fawr ydoedd i ni golli'r dramaHtt o'r pulpud, Mr. Gol.