Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Mistar\ Poeth am Newid Pethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mistar Poeth am Newid Pethau. Y MAE amryw byd o grefyddwyr Cymreig Glannau Mersey yma yn ysu am gael newid ac amrywio tipyn ar drefn a dull moddion y Saboth yn y capeli, sef o flaen y bregeth yn fwyaf neilltuol. Gwyddis fod rhai o'r eglwysi wedi newid eu dull era peth amser, a dwyn ambell beth newydd i fewn ond a barodd hynny rywfaint mwy o fywyd ac o flas ar y pethau, ni chlywsom. Sut bynnag, daeth y peth yn bwnc dadl eirias yng N ghymdoithas Lenyddol Laird Street,Birkenhead,nos Fercher ddiweddaf, lie y dadleuai pleidwyr y newid ei bod yn hen bryd cynhyrfu tipyn ar y dwr rhag iddo sefyll a mynd yn ferfedd. lawn i'r pregethwr, ebent hwy, ydyw pregethu a chyhoeddi'r Cymod,—dyna'i waith a'i fraint fendigaid ef diolch i Dduw am ddal i godi rhai fedr wneud hynny mor effeithiol; a nyni a wrandawn arnynt yn astud a chyda chalon eiddgar i dderbyn yr had fel y ffrwytho ar ei ganfed, os gallwn. Ond parth y darllen a'r gweddio a phethau eraill y moddion, dylai'r gynulleidfa gael mwy o ran yn y rheiny. Lie i addoli ydyw Ty Dduw, yn anad dim, ac i gyd-addoli. Ac os am gyd-addoli, rhaid cyd-gymryd rhan. Yr ydym yn cyd-ganu; dylem, gyd-ddarllen hefyd—(ond cyd-adrodd y buasai'n tadau cofus a chadarn yn yr Ysgrythyrau). Lie y byddo darllenwr da, gosoder hwnnw i fynd dros y bennod, neu ynteu'i hadrodd, canys 'does dim tebyg i ddarllen neu adrodd iawn am ddangos gogoniant y Beibl, a gyrru ei wirionedd adref. Mynner ambell gan gysegredig hefyd; adrodd ambell ddarn o farddoniaeth neu ryddiaeth fyddo'n ysbrydol ei neges, gan ddoniau goreu'r eglwys. Caffer pregeth arbennig i'r plant hefyd, fel a geir am ddeng munud yn yr eglwysi Seisnig. Y mae llawer dawn a thalent yn yr eglwys, ac fe ddylid eu cael a'u cysegru i gyd i flasu'r moddion ac i gael Duw a dyn at ei gilydd. Dyna ichwi rhyw fras-amcan o rediad dadleuon pleidwyr y newid a'r amrywio, fel y codent y'naill ar ol y llall yn Laird Street nos Fercher ond yr ochr arall-sef dros adael pethau fel y maent—aeth a hi yn y bleidlais ar y diwedd, ac wele faich a rhediad papur y dyn a ddadleuai dros i'r hen drefn gael llonydd :— Newidiwch y Dyn, ac nid y Drefn. Y mae rhyw nifer o bobl ymhob oes sydd yn anesmwyth ar bethau fel y bydd- ont, ac yn cwyno a thuchan am rhyw gyf- newidiad neu ei gilydd yn yr achosion neu'r sefydladau y byddont yn dal per- thynas a hwy neu yn teimlo diddordeb ynddynt. i Ni waeth pa Lywodraeth fyddo mewn awdurdod, pa un ai Gweinyddiaeth Geid- wadol neu ynteu un Ryddfrydol, fe geir rhyw nifer o bobl anfoddog eu hysbryd, ac anwadal eu barn a'u teimladau, bob amser yn erbyn y Llywodraeth honno,— nid am fod dim byd allan o le ynddi hi, ond am fod rhywbeth y mater arnynt hwy, a'u bod yn tybio nad oes dim lies o fod yn llonydd. Y mae rhyw flas i rai pobl ar fod yn erbyn pob peth yn hytrach na bod o blaid dim. Y mae gwrthryfel yn eu gwaed, ac y maent yn gwbl analluog i weled daioni mewn dim os y bydd o yn aros yn hir yr un fath ac heb newid. Gwyn pob newydd, ydyw nodwedd a gogwydd y boblach hyn, sydd yn ysu byth ac yndragywydd am weld pob rhyw olwyn yn troi, pa un bynnag a oes blawd yn y felin ai peidio. Y mae'r bobl hyn yn blino ar bob gwir- ionedd, hyd yn oed rhai goreu a phwysicaf yr Efengyl, yn eu tro ac yn meddwl fod pob dim yn sych a hysp os na fydd yno ddigon o drochion cyffro a chyfnewidiadau las o'r un ysbryd a hwn sydd wrth wraidd yr anesmwythyd yma am gael newid trefn a ffurf moddion gras. Y mae'r dull presennol yn rhy hen a chyffredin ganddynt, a thybiant yr elai'r Achos yn ei flaen yn well, ac y byddai gwell bias ar bethau pe newidid rhyw gymaint ar eu trefn ac y dygid mwy o amrywiaeth i'r gwasanaeth. Eithr na, nid felly ychwaith. Nid ar y moddipn y mae'r bai, ond ar galonnau'r bobl a ddaw iddynt. Pan fo dyn yn llesg ac afiach y bydd o yn Iladd ar ei fwyd, ac yn tuchan am bob llymaid a Iluniaeth a roddir o'i flaen. Ond gadewch iddo wella a dod ato'i hun, ac i'w gylla archwaethu bwyd fel cynt, a dyna fo'n claddu'r cinio yn lie lladd arno, ac yn dod at y bwrdd yn ddyn diddig ei ysbryd, ac yn canmol ei mwynhau pob peth a arlwyir o'i flaen. Yr un fath yn union yn grefyddol ac eglwysig. Pan fo'r saint wedi mynd yn arwynebol eu profiadau, ac wedi mynd i hoffi dysgleidiau amheus a melysion y byd yn fwy na seigiau gras a bendithion y Drefn, y maent yn blant misi ac anodd eu trin a'u boddio. Dechreuant ladd ar eu bwyd a'r bobl sydd yn ei arlwyo y mae'r Seiat yn hen ffasiwn ac ymhell ar ol yr oes y mae'r Ysgol Sul yn sych a rhy lawn o safonau y mae'r Cyfarfod Gweddi yn rhy faith a rhy feichus y mae'r oedfaon yn rhy undonog ac ystrydebol; a'r gweinidog a'r swyddogion yn rhy doriaidd a chyndyn i symud gyda'r amseroedd. Y mae eisiau chwip Dysg a Diwylliant i'w deffro a'u codi allan o'u hen rychau,—allan or trenches llaith a y llechant ynddynt. Ond ni ddaw hi ddim ffordd yna chwaith. Digon hawdd Iladd ar bob peth, a dondio ac edliw ein toriaeth gref- yddol ac eglwysig inni. Nid oes dim yn medru effeithioli a bywhau moddion gras ond y gras a'u dygodd i fod. Os mai I llanvv'r Diwygiad a roddodd fod i'r Seiat a'r Ysgol Sul a'r cyfarfod gweddi a'r bregeth ac yn y blaen, y llanw hwnnw hefyd a'u ceidw'n fyw ar ol rhoi bod iddynt. Boddio chwaeth a chywrein- rwydd anianol y mae newid ffurfiau, ac nid dim dyfnach na hynny. Ond os blino ar un ffurf a wna'r enaid, fe flina hwnnw ar bob ffurf newydd hefyd cyn bo hir. Nid yw gwreiddyn y mater ganddo, onite ni flinai byth. Nid yw ei gylla ysbrydol yn y cyflwr iawn y mae pwl o ddiffyg treuliad ar y dyn, acffelly 'does dim plesio arno. Pe digwyddai i rai o'r cwynfanwyr hyn gael mynd i'r Nefoedd,—ar ddamwain felly—nid yn hir y byddent yn y fan honno hyd yn oed nag y teimlent fod y moddion yn feichus fod y ffordd o ddwyn ymlaen j Gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf- anedig yn rhyw ddull hen ffasiwn a rhyd- lyd anghyffredin, ac fod yn hen bryd i un o waredigion yr hen ddaear godi ar ei draed a chynnyg gwrelliant. Ond gwyliwch chwi pa beth yr ydych yn ei wneud, fy mhobol i, canys pan gododd Satan a'i lu mewn gwrthryfel yn erbyn trefn a gosodiadau y Nef, fe'u hyrddiwyd o'u Cartref i'w penyd tragwyddol, lie nad oes neb yn cael cyfle i gynnyg gwelliant byth. Y mae rhyw duedd yn rhai o'n heglwysi Ymneilltuol i efelychu defodaeth gwas- anaeth yr Eglwys Wladol. Codant ar eu traed i gyd-ddarllen pennod neu gyd- adrodd Salm llafar-ganant yr un fath ag y gwna pobl y Llan a dygant amryw bethau newydd a dieithr eraill i geisio galfaneisio a hybu a rhoi ail fywyd yn yr oedfaon. Crea hyn dipyn o gyffro a diddordeb am rai misoedd ond ni bydd raid i chwi aros yn hir cyn gweled mai'r un bobl ag a grawciodd am y cyfnewid- iadau uchod oedd y rhai cyntaf i ddechreu blino arnynt ac i weiddi am ryw fath arall yn eu lie. Dyna fel y mae plant bob amser,—yn blino ar eu tegan, yn gwneud twll trwyddo nes i'r gwynt fynd allan ohono hwnnw'n fflatio a mynd yn edlych o beth yn dda i ddim i chwarae ag o mwy ac yna brefu a nadu ar ei dad am degan newydd wedyn. Credwch fi, ffrindiau annwyl, nid eisiau newid y gwasanaeth sydd, ond newid y galon. Pan gaffo honno flas ar y sug ysbrydol sydd yn yr Efengyl, ni flina hi byth ar y llestr sydd yn ei gadw a'i- ddal. Y dwr a roddwyf fi iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr, yn tarddu i fywyd tragwyddol," ebe'r Iesu. A dyma'r gwir am y bobl yma sy'n tuchan am gael newid y moddion, wedi mynd yn sych a rhy bell oddiwrth Ffynnon yr lechydwriaeth y maent, ac yn ceisio eu d'sychedii eu hun- ain allan o byllau'r byd. Gweddiwn am gael ein newid ein hunain yn iawn oddi- fewn, ac yna ni fydd fawr o weiddi wedyn am newid y moddion. Y mae hen arlwy'r lechydwriaeth yn para'r un o hyd y ni sy'n edlychod rhy afiach a misi i ymborthi ac ymgryfhau arno.. Yn sbio allan o hyd ac o hyd, a lladd ar y pethau sydd o'r tuallanini. Dechreuwn droi ein dau lygad tuag i mewn am dro, i sbio ar gyflwr ys- brydol y galon. Gwlithwn y Dyn New- ydd a digon o ddyfroedd Duw, ac ni chwyna hwnnw byth wedyn fod y modd- ion yn sych a beichus ac aneffeithiol. --0--

Ein Csnedl ym Manceinion.

Advertising