Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Ffetan y Gol. ]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. ] < Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan ,• mai dyma'r gair sydd ar ei genau.- NITHIO'B GAU A NYTHU'R GWIR. Yr All Dyn. I At Olygydd Y BRYTHON J $YR,—Ymddengys y frawddeg uchod yn y feennod gladdu," fel y'i gelwir, 1 Cor., xv, 47— yr ail dyn, yr Arglwydd o'r nef." Gofynnwyd i mi'n ddiweddar-nid am y tro cyntaf—pa eglurhad a roddir am y llythyren wreiddiol yn dyn yn hytrach na'r llythyren feddal fel y clywir yn fynych, os nad ymron yn ddieithriad yn ein dyddiau ni, nid yn unig .gyda geiriau o'r genedl fenywaidd, ond gyda geiriau o'r genedl wrywaidd, megia ail geffyl, ail ben, ail frawd, etc., yn ogystal ag ail gaseg, ail wl-aig, etc. Y rheol ynghylch hyn yw, fel y gooodir gan y gramadegwyr, fod ail i'w ddilyn, fel y lleill o'r trefnolion (ordinals) gan y llyth- yren wreiddiol pan fo'r enw yn wrywaidd, a cllan y feddal pan fo'r enw yn fenywaidd. Dyma'r canon a osodir gan Silvan Evans yn ei Eiriadur (s. v. ail), ond ychwanega'r Canghellor but many recent writers disregard this distinction, preferring the soft sound in both cases, and thus making ail in this respect an exception to the other ordinal numbers." Os troir i'r Beibl, gwelir fod hwnnw'n dilyn y rheol fel y'i gosodir gan y gramadegwyr—o'r hyn lleiaf, mewn llawer o fannau, fel y dengys yr enghreifftiau canlynol Yr hwyr a fu a'r bore a fu, yr ail dydd (Gen. i) yr ail bustooh" (Jos. vi. 25); yr ail cerbyd (2 Chron. xxxv, 24). Felly yn yr Apocrypha (i Macc. xiii, 51)—" trydydd dydd ar hugain o'r ail mis ail mis (Gen. vii, 11) "ail dydd ar bymtheg (eto, viii. 4,14). Ond gyda geiriau benywaidd eu cenedl, gwelir y sain feddal ail (Ios. v. 2) ail flwydd- yn (Ezra iii, 8) wedi un ac ail rybudd (Titus iii. 10); "ail farwolaeth (Dat.); 44 yr ail res (Eesod. xxviii. 18) ail wyliad- wriaeth" (Luc ac Actau) Ceir, modd bynnag, yr eithriadau canlynol yr ail gydiad (Ecsod. xxvi. 4) ail lythyr y Pwrim hwn (Esther ix, 29); yr ail goel- bren (Ios. xix. 1). Ond y mae'r Beibl hefyd yn anghyson ag ef ei hun mewn mannau y buasid yn disgwyl iddo fod yn berffaith gyson. Ceir enghreifftiau nodedig yn y mannau can- lynol Troer at deitl ac is-deitl I Samuel, a gwelir, i'n syndod, Ail LLyfr Samuel, yr hwn a elwir hefyd ail lyir y Brenhinoedd. Ac os troi* i deitl II Brenhinoedd, canfyddir—" Ail lyfr y Brenhinoedd, yr hwn a elwir hefyd pedwerydd llyfr y Brenhinoedd." Yn yr Apocrypha, cawn Ail llyir y Maccabeaid," ond Ail lyir Esdras. Fe ddichon fod eraill o'ch darllenwyr wedi sylwi ar anghyson- derau eraill o gyffelyb natur. Ab&rystivyth DAVID SAMUEL Dafydd ap Gwilym. At Olygydd Y BRYTHON SYR.—Difyr iawn' i mi oedd adolygiad Peredur, ar gyfrol gyntaf Cyfres y Cywyddau. Ysgrifenna'n deg a diragfarn ar y pynciau a fu gennym dan sylw ynddi, a dengys ei fod, i raddau canmoladwy, yn amgyffred yr anaws- torau oedd ar ein ffordd. Ond y prif reswm dros y mwyniant a'r hyfi-ydwch a ges wrth ddarllen ei lith yw ei fod bron ar bob pwnc yn sefyll ar safbwynt gwahanol i mi. Gan fod cymaint o wahanol ochrau i'r cwestiynau sydd ynglyn a pherthnasau llenyddol Dafydd ap Gwilym, goreu po amlaf fo'r ysgolheigion i odrych arnynt, ac i ddatgan yn groyw beth a welant. Hoffwn drafod yn helaeth gyda Pheredur ei gyBiad na ellir cydio Dafydd a'i waith wrth y Goliardi a'u cynyrchiom. Yn ol fy syniad i, iaid oedd yr ysgolheigion crwydraidd ond un p'r sianelydd.i ddwyn testynau a dulliau canu Ffraanc i Gymru. Prin medrir gwahan- iaethu rhwng y jongleur a'r gwr eglwysig afradlon. Ac y mae dyled Dafydd iddynt ill dau mewn llawer modd uwchlaw amheuaeth. Seiliaf fy nadl nid ar debygrwydd llinellau,ond ar unrhywiaeth dulliau telynegol. Ond gan fy mod eisoes, ar ol ysgrifennu'r rhag- ymadrodd i'r llyfryn sydd dan sylw, wedi ymhelaethu ar y pynciau hyn mewn lie arall, gadawaf hyn am y tro. Carwn, gyda'ch cennad, egluro pwynt neu ddau y cyfeiriodd eich adolygydd atynt. Dyfynnaf ei eiriau :— Gyda golwg ar anhawster Mr. Williams (tud.lxxi) ynghylch ystyr com-fid, ni raid ond dangos mai having the same stave ydyw, yn union fel y dywed Dr. Meyer amrywiadau diweddarach yw'r ystyron oraill. Ni welaf y pelydryn lleiaf o oleuni ar fy anhawster yn y sylw hwn. Weithiau daw ias 8 ofa arnaf fy mod yn ddylach na'r gweddill o feibion dynion. Ac ni waeth i mi heb a eheisio celu hynny, y mae'r ias honno yn fy agherdded yn awr. Wrth olrhain dechreu a elianol taith y gair cywydd yn Gymraeg, a'i gymharu a'r gair Gwyddelig, cubaid (com-fid) deuthum ar draws esboniad Dr. Meyer ar yr olaf yn llyfr Mr. J. Glyn Davies, sef, mai having the same stave ydoedd. Addefais ror unwaith nad oeddwn yn ei ddeall. Nid ydwyf eto chwaith, ar fy ngwir, achos ni wn pa ystyr roddai Dr. Meyer i stave. Nes gwy- bod hynny, ni fedraf wneuthur dim a'i esbon- iad, na chytuno nac anghytuno ag ef. Yn fy wgeiriadur i y mae pump neu chwech o ystyr- on i 8tave. Defnyddir, neu defnyddid ef, am staff, pastwn, am ffyn ysgol, am bren wedi ei drin mewn ffordd neilltuol, am bennill, ac hefyd fel term cerddorol. Pa'r un oedd ym meddwl y Dr. Meyer ? Ai pren yntau pennill ? Os cymerir mai esbonio cubaid fel term bardd- onol oedd ei amcan, temtir dyn i dybio mai'r ystyr ganddo ydoedd fod yr hyn a elwir cubaid yn fiurno pennill neu ran penodol o'r gerdd. Os mai pren oedd yn ei feddwl, beth yw ystyr mtbaid ganddo ? Bum yn ceisio cymharu hen air y Cymry am ychen dan yr un pren neu iau, eu bod yn gyd-premiog, heb wadu na allai'r gair prain gwledd wneud y tro i egluro hynny. Os dyma'r modd yr ydym i ddeall yr esboniad tryloew, saif cubaid (a chywydd) am yr hyn a ieuwyd ynghyd, neu a weddwyd ynghyd. Ond nid yw stave heddyw yn awgrymu iau i mi. Os mai pren yn gyfEredinol a feddyliai'r Doethawr, gan fod i fid fel "gwydd" yn Gymraeg, yn golygu hynny, pam yr arferodd air mor amwys heb ei egluro ? Trois i lyfr Thurneysen ar yr Hen Wyddeleg (Handbuch, etc.) ac yno cefais ddatganiad clir o'i farn ef ar y gair cubaid. Dyry i ddechreu fid Buchstabe,' sef llythyren; neu os myn- nwch Book-stave,' gan mai stave mewn Saes- neg a gyfetyb i Stab mewn Ellmyneg. Yna dyry cubaid reimend, harmonisch,' yn odli, mewn harmoni (td. 211). Ai stave yn yr ystyr o Book-stave oedd ym meddwl y Dr. Meyer ? Os felly, dywedaf innau na ddefn- yddir byth mo'r gair am lythyren mewn Saesneg heddyw. Bu hynny yn wir rywdro, y mae'n sicr, ond darfu'r defnydd hwnnw. Yng ngeiriadur Bosworth o'r Anglo-Saxon o dan staef ceir yr ystyron hyn (1) staff, stick, (2) a written character, letter; (3) letter (sef llythyr neu epistol) (4) letters, booklearning." Eglura y cam o'r (1) i'r (2) trwy nodi y torrid llythrennau gynt ar staves. Un ffordd mewn Gwyddeleg hefyd o enwi'r llythrennau-yn y Wyddor oedd galw pob llythyren ar enw pren oedd yn dechreu gyda'r sain honno (sef y Bethluimion Alphabet). Meddylier ein bod ni yn galw b yn Bedwen, c yn Collen, d yn Derwen, ac fe geir yn union y dull yma o enwi'r Abiec. Ond damweiniol ydoedd hyn, canys defnyddiai'r Gwyddyl weithiau enwau Beiblaidd, i'r un pwrpas. Yn anffodus, nid oes a wnelo'r gair Cymraeg Gwyddor ddim o gwbl a'r gair gwydd, ond daw o air Lladin, neu gellid dwyn Cymraeg hefyd i'r rheng. Hwyrach fod yr uchod yn ddigon i ddangos y cysylltiad rhwng llythyren a phren. Os cymerir esboniad Thurneysen gwelir ei fod yn egluro cubaid fel yn golygu i ddechreu meddu'r un llythyren," ac yna daw odli," etc., yn bur naturiol ohono. Efallai mai dyna oedd barn Dr. Meyer hefyd. Pwy wyr ? 0 leiaf, nid myfi a fedr benderfynu. Gwelwch fy chwys a'm llafur yn cynnyg. Ac nid dyna'r unig anhawster sydd ynglyn a r gair cubaid. Ond gwarchod pawb, cymerwn hanner Y BRYTHON i egluro'r pwnc hwnnw Am y man bwyntiau eraill Ile'r ymwahan- iaetha Peredur a mi, ni ddywedaf fawr. Nid camargraff yw cwfl o'r Saesneg cowl ond cam- gymeriad. Gwell fuasai gennyf bellach ei gydio wrth y Saesneg Canol, cuuel. Diolch hefyd am taefle bred ond ni roddai bred bwrdd yn Gymraeg. Daw hwnnw o bord mewn Anglo-Saxon. Ni fedraf ymdawelu i wrthod JJlwch, JJlach, a llach, o'r Saesneg fitish, flash, a lash, er addef yr anawsterau sydd ynglyn ag ystyr y ddau air cyntaf. Nid cam- gymeriad yw rhoddi ysbyd fel lluosog osb, ac nid o hospithim y daw chwaith, ond o hospites. Dyry Peredur hefyd yr ystyr o adfail i ffaling, ond ni wna'r tro yng nghywydd Deio ap leuan Du i'r paun (Gorchestion Beirdd Gymru) :— A ffaling wrddling werddlas, A phinagl aur, a phen glas, A chob gled i achub glaw, A chlog fawr werthiog wrthaw. Gwelir fod cob, clog, a ffaling yma yn gyf- ystyron am rywbeth fel mantelL" Y mae geirfa Dafydd ap Gwilym eto heb ei gweithio yn ddigon gofalus, a charwn yn fawr gael awgrymiadau eraill i sicrhau yn fanylach y cynhygion a wnaeth Mr. Roberts a minnau ar amryw eiriau. Yn raddol fe ddaw'r goleuni fel y cesglir enghreifftiau ond hyd yn hyn, erys llaciau tywyll iawn. Unwaith eto, diolchaf i Beredur am ei gar- edigrwydd yn ymdrafferthu cymaint. Beth yw ei farn am eddyl tybed ? Ansicr iawn wyf i. IFOR WILLIAMS At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Dengys llythyr Mr. Williams nad I ellir dewis ar hyn o bryd rhwng gwahanol ystyron stave, ac o ganlyniad nad ellir pen- derfynu ystyr *com fid yn bendant. Ym- ddengys ei fod yn meddwl mai dyna amcan Dr. Meyer yn y nodyn ar dud. 10 Welsh Metrics Mr. Glyn Davies, ond nid egluro com-fid a geisiodd Dr. Meyer, eithr ei gyfieithu. Defn- yddiai'r Gwyddyl lawer metaphor yn eu termau barddonol, a metaphor na wyddom yn awr ei wir ystyr oedd fiid. Cymharer fid chel =gwyddbwyll. Mae'n amlwg fod a wnelo I,fid a. gwydd neu ddarn o bren ar rhyw fath, ond dyna'r cwbl a wyddom. Gellir dywedyd yn gyffelyb am staef, a naturiol felly i Dr. Meyer ddefnyddio stave wrth gyfieithu fid. Nid yw hyn yn egluro ystyr *corn fid, ond credaf ei fod yn egluro nodyn Dr. Meyer. Cyfieithiad diguro ydyw o'r metaphor gwyddelig. Gwir a ddywed Mr. Williams na thai yr ystyr a awgrymais i ffaling yn y llinellau a ddyfynna fel y dywed, rhaid mai rhywbeth tebyg i glog ydyw. Gyda golwg ar fflwch," sonnir yn Lleyn weithiau am eneth fod ei gwallt yn fflwch am ei phen awgrymai hyn y Llad. floccus. I mi, fel i Mr. Williams, mae eddyl yn ganz dunlcel digwydd yr ymadrodd eddyl Buddug yn rhywle (Llyfr Taliesin ?) nad allaf ddod o hyd iddo'n awr dichon mai ffurf arall ar addoli ydyw eddyl," o adoleo, a'i ystyr ar dud. 57 hwyr- ach ydyw devotions, Digon gwir ydyw cred Mr. Williams fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y jongleur a'r goliardus, ae anhawddach na hynny ydyw gwahaniaethu rhwng y goliardi a'u cynnyrch cyntaf ar y naill law, a chynnyrch llawer o breswylwyr crefydd-dai gorllewin Iwrop ar y llaw arall. Canai'r gwyr hynny ar lawer o destynau'r goliardi, a thebyg y deuai'r beirdd o hyd iddynt fel y daw niferoedd heddyw o hyd i'r hyn a ollyngir drwy 1 gor y colegau. Effeithiodd maswedd y mynachod a'r goliardi yn ddiameu ar lenyddiaeth Cymru, ond methaf eto a chanfod sail i gredu fod Dafydd ap Gwilym wedi benthycio'n union- gyrcholt ganddynt. Credaf i eraill ganu ar yr un testynau yn Gymraeg o'i flaen, testynau a gafwyd gan y goliardi neu'r mynachod yn y dechreu cyntaf hwyrach, ond anodd fyddai dangos, ac ni ddangbsodd Mr. Williams, i Ddafydd ap Gwilym fenthycio gan ysgolorion crwydrol ei oes. Yn sicr, nid oes rhithyn o brawf ei fod yn un ohonynt (tud. Iv. Rhag- ymadrodd Mr. Williams). Efallai mai efel- ychiad neu gymysgiad a'r goliardi a roddodd fod, efallai, i urdd y gler yng Nghymru, ond ni ellir galw clerwr yn goliardus, er y dichon fod cryn debygrwydd rhyngddynt. Yn fyr, hwyrach fod Dafydd ap Gwilym a goliardi ei ddydd yn zusammengefallen, ond rhy niwlog yw'r cyfnod i ni allu dywedyd fawr ymhellach. Mae'n rhyhwyr glas cael helaethach gwybod- aeth am faswedd (profane art) y mynach- dai a'i 61 ar ein hen lenyddiaeth, a hefyd am ddulliau telynegol y gler a'i goliardi, eu tebyg- rwydd, a'r hyn sydd mor bwysig a hynny, eu gwahaniaethau. Diolch cynnes i Mr. Williams am drafod- aeth deg a rhoddi cyfle i godi'r cwestiynau hyn i'r gwynt. 5 GWILYM PEREDUR JONES Jiwbil Fitzclarence Street At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Cwrdd diddan a buddiol dros ben gaed yno nos Sadwrn ddiweddaf. Adrodd- wyd ami stori ddoniol am yr hen bererinion, a dangoswyd eu nodweddion yn deg. Ond os nad yw fy nghlyw yn pallu, dywedwyd dau beth o leiaf nad ydynt, fel cwestiwn o hanes, yn gywir. Ebe llywydd y Cyfarfod Misol "Y chwi yma (Fitzclarence) yw'r unig eglwys sydd wedi cartrefu yn yr un lie am 50 mlynedd. Y chwi sy'n cadw eich Jubili cyntaf yn y cylch." Onid yw eglwys Park- field wedi dathlu ei Jubili ers chwe blynedd, a Chatham Street ers pedair blynedd ? canys adeiladwyd y capelau presennol yn 1859 ac 1861. Bu capel Bedford Street yn gyrchfan i'r saint am 62 mlynedd (1806-1868) a'r hen deml yn Pall Mall yn noddfa i lawer enaid am dair cenhedlaeth (1787—1878). Ebe llywydd y Gymanfa Gyffredinol Yr oedd yr hen bobl yn ffyddlon iawn gyda'r achos, a chymer- wyd dau neu dri o honynt i'r ddalfa ar amheu- aethjgeu bod wedi dwyn coed i adeiladu capel Rose Place Onid cymysgu hanes adeiladu Pall Mall a Rose Place yr oedd Mr. Evans wrth ddweyd fel yna ? Gwir i'r hen bregethwr John Dafis a dau arall (Thoa. Edwards a Wm. Llwyd, mae'n debyg) gael eu cloi i fyny ar y dybiaeth eu bod wedi dwyn coed pan adeil- adwyd Pall Mall, ond yr oedd yr amgylchiad yna wedi digwydd deugain mlynedd namyn un cyn adeiladu capel Rose Place. Os wyf wedi gwneud cam a'r gwyr parchedig, yr wyf yn foddlon i ymddiheuro ac edifarhau.—Yr eiddoch, etc., Birkenhead ISAAC DAVIES Emyn y Bryniau. I ANNWYL OLYGYDD.—Dyma gyfieithiad arall o emyn Bryniau Caersalem, y cawsom eisoes dri gwahanol gennych yn Y BRYTHON. Gwaith fy nghymydog Mr. John Francis, Y.H., Nythfa, Gwrecsam, ydyw hwn, sef y J. F. sydd yn Y Oaniedydd Cynulleidfaol: From Salem's fair hills shall we view them Our paths in the desert behind And the varied events of the journey We'll sweetly recall to the mind The storms and their terrors reviewing, The horrors of death overpast Secure from their reach we shall anchor In love's peaceful haven at last. Y r eiddooh yn gywir, R. H. ROBERTS 2 Bersham Road, Gwrecsam. Eto. At Olygydd mwyn Y BRYTHON ANNWYL SYR.-Dyma ymdrech wan arall. Yn ol fel y ceir yr emyn yn llyfr hymnau'r Wesleaid. From the hills of Salem shall I see The desert's dreary journey, Behold the sufferings of the past With joys immortal now at last Shall look on the strivings and sorrows, The darkest abyss and the gloom, And dwell on the heights with my Saviour, Triumphant o'er death and the tomb. Y r eiddoch yn gywir, ACHLUST ACHLU, ST fAwgrymfi Fangor. SYR,—Hyderaf y bydd i Bwyllgor Cyffred- inol yr Eisteddfod gadarnhau'r dyddiad a awgrymir gan y Pwyllgor Ariannol i gynnal yr wyl yr wythnos gyntaf yn Awst, gan fod cannoedd mwy o bobl o drefi mawr Lloegr yn yr Hen Wlad yr adeg honno, yn hytrach nag ym Medi, gan y bydd masnach yn ei gwahanol ganghennau yn dechreu adfywio yn gyflym ar gyfer y gaeaf. yn gynnar iawn ym Medi, ac felly yn amhosibl iddynt fanteisio ar yr wyl. EISTEDDFODWR I

Advertising