Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DAU TU R AFON. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAU TU R AFON. I CYMDEITHAS POBL IEUAINC ANFIELD RD.- Dathlwyd Gwyl Sant Dewi mewn modd trwyadl Gymreig nos Wener ddiweddaf. 0 dan lywyddiaeth siriol Mr. John Edwards, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol o ganu, adrodd, ac yn y blaen. Y cantorion oedd Miss Maggie Morris, a Mr. Jas. Williams, gyda I" Mr. Edward Jones yn adrodd, a Mr. Arvon Hope fel ysmaliwr. Rhaglen ragorol, yn rhoddi boddhad dirfawr, yn neilltuol felly unawdau Mr. Williams. Hefyd ffafriwyd ni Ag emyn yn iaith y Khasiaid, gan Mrs. E. H. Williams, y genhades. Unwyd i ganu amryw alawon Cymreig, o dan arweiniad medrus Mr. W. Corny w Jones. Cafwyd seib- iant i fwynhau Coffee Supper darparedig gan foncddigesau caredig y Gymdeithas. Trwy garedigrwydd Miss Lily Vaughan Roberts, an- rhegwyd pawb yn bresennol a chennin Bedr i'w wisgo fel arwydd o'r achlysur. Y mae clod yn ddyledus i'r ysgrifenyddion—Miss Cissie Jones a Mr. Alun Roberts-am eu llafur a'u trefniadau esmwyth. Diolchwyd i bawb wasanaethodd gan y Parch. John Owen a Mr. Lewis Edwards. Miss Jennie Hughes, A.T.C.L., a gyfeiliodd a'i medr hysbys. Y DIWEDDAB BARCH. W. OWEN LERPWL. —Gyda galar a gofid dwys y cofnodwn farwol- aeth y Parch. W. Owen, curad mewn gofal S. Asaff, Kirkdale. Teimlai oddiwrth ryw anhwyldeb ers wythnosau, ond ni chredodd neb fod amser ei ymddatodiad mor agos. Ni fu'n gorwedd ond am ryw bythefnos, a hunodd yn dawel yn yr Iesu nos Iau, Chwefrol 25ain. Ychydig funudau cyn ymadael a'r fuchedd hon, archodd i'w briod ddwyn ych- ydig bapur a phensil iddo, a'r geiriau a ysgrif- enodd arno oedd Gwisg newydd. Ai tybed ei fod wedi cael cipolwg ar y wisg a rydd yr Arglwydd a'r Barnwr Cyfiawn i'r rhai a'i carant Ef ? Ein gobaith a'n cred yw ei fod; a'i fod heddyw yn ei gwisgo hi. Yn ystod y tair blynedd diweddaf gofalodd am Eglwys Gymraeg S. Asaph, a mawr oedd ei barch yno. Cyflawnodd waith ardderchog ymhlith Cymry dwyreinbarth Lerpwl, ac y mae'r olwg lewyrchus a welir ar yr eglwys hon yn awr yn adlewyrchu clod nid bychan arno, ac yn brawf diymwad o'r parch a'r edmygedd a goleddai ei braidd tuagato. Bu mewn gofal o'r eglwys hon o'r blaen, ac oherwydd ei weith- garwch yno rhoddwyd iddo fywoliaeth Llan. frothen gan Esgob Campbell, Bangor. Bu'n ddiwyd iawn yno hefyd, a chasglodd lawer iawn o arian i chwanegu at werth y fywoliaeth. Oddiyno dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llan- gelynin, ger Conwy, a threuliodd 16 o flyn- yddoedd yn brysur iawn yn y plwyfi hyn. Dychwelodd i Lerpwl rhyw chwe blynedd yn ol. Yr oedd yn bregethwr Cymraeg ardderch- og. Yn wir, pan yn ieuanc yn y weinidogaeth rhestrwyd ef ymhlith goreuon, a daliodd i bregethu'r genadwri gyda nerth hyd y diwedd, Caiff eglwys S. Asaph golled nid bychan ar ei ol, ac nid hawdd fydd cael un i lenwi'r bwlch, oherwydd fel pregethwr a bugail gofalus nid oedd dichon ei well. Gad weddw ac wyth o blant i alaru ar ei ol. Cyflwynwn ein cyd- ymdeimlad cynnes iddynt. Y mae y pedwar bachgen yn dal swyddi anrhydeddua ar y m6r, a daeth dau ohonynt gartref y noson cyn i'w tad farw. Duw a'u cynhalio o dan y brofedig- aeth chwerw, a boed yn Farnwr y weddw ac vn Dad yr amddifaid iddynt. Claddwyd ddydd Llun ym mynwent Anfleld. Cymerwyd rhan yn eglwys S. Asaph gan y. Parchn. R. D. Hughes, Ficer yr Eglwysi Cymraeg J. W. Baker, S. Ambrose, Everton a George Salt, Bodfean. Canwyd ei hoff emynau, a chwar- aewyd y Dead March gan yr organydd, Mr. Raymond Jones. Gweinyddwyd ar Ian y bedd gan y Parch. R. D. 'Hughes. Ac yno, gwelwyd hefyd yr Hybarch Archddiacon Spooner, y Parchn. W. Bodycombe, Dr. Devinney a'r Parch. W. Thomas (A.) a llu o gyfeillion o Eglwys Dewi Sant a Deiniol Sant. Cynhelir oedfa goffa yn S. Asaph nos Sul nesaf. Heddwch i'w Iwch hyd fore'r Adgyf- odiad Mawr. Dengys yr hysbysiad ar tudal. 8 fod Madam Gladys Williams a'i macwyaid yn cadw'u chweched cyngerdd blynyddol yn y Y.M.C.A. nos Lun nesaf, ac fod yr holl elw i'w drosglwyddo at glydwch a chysur y Bantams. OAKFIELD (MT.).-O dan nawdd y Gym- deithas Ddiwylliadol gysylltiol a'r addoldy yma, fe ddathlwyd Gwvl Ddewi fel arfer gyda chyngerdd hollol Gymreig. Yn absenol- deb Mr. W. T. Howell (yr hwn, yn ol ei arfer, a gyfrannodd yn hael) cymerwyd y gadair gan y Parch. T. Isfryn Hughes. Datganwyd gan Miss Gwladys Thomas (Soprano), Mr. Griffith Hughes (tenor), Mr. J. Price Jones (baritone), ac hefyd triawd gan Mrs. J. H. Jones a Misses M. J. Roberts a Kate Jones. Adroddwyd gan Mr. Glyn Davies. Perfformiwyd drama Gymraeg, Nid da bod dyn ei hunan gan gwmni capel Chatham Street (M.C.). Cvfeiliwyd gan Miss M. J. Roberts. Diolchwyd i'r cyfeillion a gymerodd ran gan y Mri. J. E. Simon a Thomas Roberts (Hornsey Road), is-lywydd- ion y Gymdeithas. Yr ystafell yn orlawn, ac yn amlwg fod pawb wedi mwynhau'r cyfarfod. Terfynwyd trwy i Miss Doris Hopkins (oedd wedi ymwisgo yn yr hen ddull Cymreig) ganu Hen Wlad fy Nhadau, a phawb yn uno yn y cydgan gyda hwyl anarferol. Nos Sul, Chwefrol 28ain, bu farw Mrs. Morris, gweddw'r diweddar Mr. Rd. Morris, Bootle, yn 76 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. Morris yn un o aelodau hynaf y Bedyddwyr yn Bootle, a bu'n weithgar iawn gyda'r achox pan yn ei fabandod. Bu hi a'i phriod yn gofalu am dy'r capel am rai blynyddoedd yn Brasenose Road ond ers peth amser bellach, yr oedd wedi symud i fyw gyda'i mab, Mr. Robert Morris, 35 Singleton Avenue, Prenton, ac wedi ymaelodi yng nghapel yr Woodlands, Birkenhead. Gedy ddau fab i alaru ar ei hoi Mr. John Morris, Downing Road, Bottle, sydd yn flaenor yn ei hen gapel yn Bootle a Mr. Robert Morris, a enwir uchod sydd yn weith- gar gyda'r achos mawr yn Birkenhead. RocKf Ferry. ? I Bu angau yn neilltuol o drwm ei law ar aelodau eglwys y Methodistiaid yn y lie uchod yr wvthnosau diweddaf. Y dydd olaf o'r flwyddyn ddiweddaf, bu farw Capten Owen Jones, Morecroft Road. Cymerwyd ef yn glaf pan ar ei fordaith i Awstralia, a bu farw mewn ysbyty yn y wlad bell honno. Brodor o gymdogaeth Harlech oedd Capten Jones, a gwr nodedig o hoffus. Gadawodd briod a thri o blant ar ei ol. Nid oes ond deufis wedi myned heibio o'r flwyddyn hon, ac yr ydym eisoes wedi colli tri o frodyr-dynion mewn oed. Anfynych, o drugaredd, y gelwir ar eglwys i dreulio tair seiat yn olynol i goffhau am frodyr ymadaw- edig. Y cyntaf a gymerwyd ymaith oedd Mr. William Pearce, Howson Street—nai fab brawd i'r diweddar Barch. William Pearce, Rhosesmor. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd ym Mhwllheli. Ychydig flynyddau yn ol, torrodd ei iechyd i lawr, a daeth ef a Mrs. Pearce yma i fyw at ei ferch a'i fab-yng- nghyfraith, a fu'n neilltuol o garedig wrthynt. Y mae iddo chwaer yn aelod ffyddlon o eglwys Bolton. Bu farw yn 65 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Bebington. Ymhen yr wythnos ar ol hynny, daeth y newydd galarus am farwolaeth Iydyn Capten Dutton, oedd mewn gofal o un o lestri'r Mri. Elder, Dempstey & Co., o malarial fever ar lannau dwyrain Affriea. Brodor o'r Borth, ger Aberystwyth, ydoedd, a daeth ef a'i briod yma i drigiannu tua dwy flynedd yn ol. Gwr byr o gorfl, bywiog a siriol ei ysbryd, a nodedig o garedig, ydoedd Capt. Dutton. Chwith iawn gennym ei golli, ac y mae tin cydym- deimlad yn ddwfn a'i annwyl briod sydd wedi ei gadael yn unig. Tra'r oeddym yn cydalaru am Capt. Dutton wele'r newydd fod un arall wedi ei gymryd ymaith cyn ri lawer ohonom vrybod am ei afiechyd-ein hannwyl frawd Mr. John Roberts, Highfield Grove, neu Roberts y guard," fel yr adnabyddid ef yn gyffredin. Bu am 42 o flynyddau yng ngwasanaeth y Great Western Railway. Nid oedd ond tua mis er pan oedd wedi ymneilltuo ar flwydd- dal, wedi ennill iddo ei hun barch uchaf y rhai yr oedd yn eu gwasanaeth, yn gystal a'i gyd- weithwyr o bob gradd. Deallwn fod sy- mudiad ar droed i wneud tysteb iddo ar ei ymneilltuad, er dangos eu parch iddo. Yr oedd eisoes wedi dechreu ar ddyledswyddau newyddion ysgafnach yn yr Exchange News Room yn Lerpwl, ond pan yn rhoddi ei uniform, newydd amdano am y waith gyntaf, tarawyd ef yn glaf cymerwyd ef adref, ac oddiyno i'r Birkenhead Borough Hospital, ac yno, ymhen ychydig gydag wythnos, y bu farw, yn 62 oed. Genedigol o Fwlch gwyn, ger Gwrecsam, ydoedd. Bu ei dad, Mr. Adam Roberts, yn flaenor am lawer blwyddvn ym Mheniel, Bwlch gwyn, ac y mae brawd iddo, Mr. Seth Roberts, yn flaenor yn awr yn Peel Road, Bootle. G-wr tawel, distaw, diymhon- gar, boneddigaidd, ydoedd Mr. Roberts, a charedigrwydd lond ei natur, ac yr oedd ei garedigrwydd a'i foneddigeiddrwydd yn ei wneud yn hoffus gan bawb. Yr oedd yn gymeriad hawddgar—hawdd-ei-garu. Fel crefyddwr yr oedd yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll." Er na wnai nemor stwr gyda'i grefydd, yr oedd yn ei alluogi i wynebu angau pan ddaeth gyda thawelwch a hyder. Gadawodd weddw, tri mab, a merch, i alaru am briod hoff a thad cariadus. Cyd ymdeimlwn yn fawr a. Mrs, Roberts yn ei galar a'i cholled, a hynnv pan y rdag Ai hunan ers misoedd mewn llesgedd mawr. Nawdd y Nef a fyddo drosti, a thros y teulu i gvd. Claddwyd prynhawn dydd Sadwrn, Chwefrol 27ain. Wedi gwasanaeth bvr yn y tfr, aeth- pwyd a'r corff i gapel Rock Ferry. Yno dar- llenwyd rhannau o'r Ysgrythyr, ac anerchwvd y gynulleidfa yn Saesneg gan y Parch. O. J. Owen, M.A. gweddiwyd gan y Parch. R. W Roberts, B.A.,B.D., Bootle. Wedi canu pennill, aethpwyd tua mynwent Bebineton. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch. O. J. Owen. Heblaw y teulu agosaf, yr oedd nifer mawr o berthynasau yn bresennol o bob cwr i'r wlad hefyd nifer liosog o swyddogion I y rheilffordd yn cydgerdded dan olal Mr. James Pugh. Cynrychiolid ewmni'r Great Western gan Mr. Morris Parry, Caer, un o'r goruchwylwyr, a'r Liverpool Newsroom gan Mr. Parks, a chynrychiolid eglwvs Rock Ferry, o'r hon y bu yn aelod am 22 o flyn- yddau, gan liawri o frodyr a chwiorydd, a diau y buasai llawer ychwaneg yn bresennol pe'n gwybod am y claddedigaeth. Dymuna'r Parch. Gwilym H. Havard gyd- nabod yn ddiolchgar iawn dderbyniad box ardderchog o ddillad cynnes i filwyr Cymreig yn y Rhyl, oddiwrth eglwys Stanley Road, Bootle. Nis gall gweithred eithriadoi garedig a haelionus fel hon beidio a gadael ei h61 ar feddyliau a chalonnau ein milwyr dewr. Gogoneddir ein Tad yr hwn sydd vn y nefoedd o'i herwydd. TABERNACL, BELMONT ROAD.—Nos Fer- cher ddiweddaf, cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod eglwysig blynyddol, yn cael ei flaenori gan gwpaned o de blasus, dan ofal Mrs. Evan Morgan, Edge Lane. Cymerwyd y gadair gan y gweinidog, y Parch. O. L. Roberts; darllenodd Mr. Rd. Williams ei adroddiad fel ysgrifennydd, yn dangos cyn- nydd o 11 yn rhif yr aelodau. Wedi hynny, cafwyd adroddiad manwl gan y trysorydd ffyddlon, Mr. William Jones, Hayman's Green, yn dangos fod yr eglwys wedi casglu'r swm anrhydeddus o E633 yn ystod y flwydd- yn, a E115 o'r swm yna at achosion allanol. Dangosai fod y gras haelioni yn amlwg ymhlith yr aelodau. Cafwyd hefyd adrodd- iad Mr. Evan Morgan, trysorydd y Basar, a gynhaliwyd fie Tachwedd, 1913, ac erbyn hyn mae'r cyfrifon wedi eu cau, ae yn dangos fod cyfanswm y derbyniadau yn £2,052 11a. id. Pasiwyd pleidlais o ddiolch cynnes i holl swyddogion y BasAr a phawb fu a rhan-yn enwedig y chwiorydd—i ddwyn yr ymgyrch fawr i derfyn mor hapus, ac i elw mor syl- weddol. Pasiwyd yn unfryd ein bod yn cynnal Sale of Work Mawrth 26 a 27, 1915, ar weddill nwyddau Basar 1913, a rhai a ych- wanegir atynt, ac erfyniwyd am gynhorthwy yr un swyddogion i gario'r gwaith hwn allan yn llwyddiannus. Nos Saboth, Chwefrol 28, I cwblhai y Parch. O. L. Roberts ddeunaw mlynedd fel gweinidog y Tabernael.-Rhyd- wenydd. TRINITY ROAD (A.). Dyma fel y treul- iwyd Gwyl Ddewi yn y lie uchod. Yn absen- oldeb y Parch. W. Roberts, cymerwyd v gadair gan Mr. J. Jones, Hero Street. Dyma'r rhaglen Cydganu, Hen Wlad fy Nhadau. Adrodd, Robin Goch Glyn Roberts. Adrodd, Helynt yn Set y Gornel, Myfanwy Thomas. Can, Bachgen bach o Gymro Glyn Roberts. Adrodd, Fy ngwlad W. J. Rowlands. Deuawd, Gwalia annwyl Coridwen a Maggie Rowlands. Anerchiad i'r plant, Ein hiaith Mr. J. Jones. Adroddiad, Iaith ein Gwlad Ceri Rowlands. Deuawd, Y gan ddirwestol Freda Jones a Trefor Thomas. Adrodd, Dewi Sant: C. Rowlands. Can, Y Deryn Pur: Miss Bella Jones. Adrodd, SaJ i fyny droa dy wlad Freda Jones. Can, Benditk*,ed Duw blant bychain, gan y Plant. CYMDEITHAS CYMRU FYDD, UPPER PAR- LIAMENT STREET.—Nos Sadwrn, Chwefrol 27, dathlwyd Gwyl Ddewi gan aelodau a chyfeill- ion y Gymdeithas uchod trwy gynnal cyng- erdd a mwynhau ymgomwest. Ar noswaith oer a drycinhog fel nos Sadwrn, dymunol odiaeth oedd cynlusrwydd a chlydwch ystafelloedd y Gymdeithas a sirioldeb y cwmni gwladgar, o'r ddau ryw. Addurnwyd neuadd y cyngerdd gyda baneri chwaethus a blodau tlyaion y cylfinog (daffodils). Y datgeiniaid oedd Miss Myrtle Jones, Mri. Griff Owen, Frederic George, a J. O. Williams (Wyr yr Eos), a dau fachgen ieuanc o'r enw John a Be* Williams. Cyfeiliwyd i'r pedwar cyntaf ga. Miss Edith Jones, A.R.C.O.,L.R.A.M., ae i'r ieuenctyd gan wr arall ieuanc, sef Bortio Thomas. Gwnaeth ydatgeiniaidprofedigou rhan yn rhagorol, a mawr fwynhawyd y bechgyn talentog, a feddant leisiau campus M arddull dra dymunol. Cadeiriwyd yn dde- heig gan Mr. J. J. Williams, cadeirydd y pwyllgor. Yng nghanol y cyngerdd. cafwvd anerchiad priodol i'r achlysur gan lywydd poblogaidd T Gymdeithas, Mr. R. Lloyd Phillips. Datganodd foddhad y Gymdoithas fod Cymru wedi ymateb mor ardderohog i alwad y brenin a'r deyrnas yn yr argyfwnj presennol. Tra'n edmygu gwladgarweh y rhai sydd wedi ymuno dan y faner, atgofiai'r rhai a arhosant adref oherwydd amgylchiadau digonol fod rhwymedigaeth yn gorffwys arnynt i helpu'r rhai sydd wedi ymrestru, ac i gario masnach ymlaen yn y wlad. Calondid iddo oedd hysbyau fod rhif aelodau'r Gym- deithas wedi cynhyddu'n sylweddol yn ystod y flwyddyn. Eto y mae lie i ychwaneg, ac anogai ieuenctyd Cymreig i ymuno a'r Gym- deithas. Dymunai atgofio apel y llywydd. Mewn dinas fawr fel hon, lie mae cymaint o. demtasiynau i ieuenctyd o'r wlad, amhosibl cael lie diogelach a man cyfarfod mwy dy- munol iddynt. Glaned yw amgylchedd a gweithrediadau'r Gymdeithas, fel y gellir ei rhestru yn Uawforwyn i'r eglwys. Ar ganol y cyngerdd, cafwyd ymgomwest gartrefol yn yr ystafelloedd eang uwchben y neuadd. Parat- owyd danteithion blasus, a llawnder ohonynt. Ymddangosai pawb yn siriol a chymdeithas- gar, ac nid oedd neb yn fwy felly na'r llywydd a swyddogion eraill y Gymdeithas. Ag ef yn boatswain's mate y Cornishman, M- turiodd Mr. Richard Hughes, 25 Wordsworth Street, ei fywyd ynghanol ystorm ar y m6r i achub criw Hong ar suddo. Llwyddodd ef ag eraill i waredu'r holl ddwylo, ac anrhydedd- wyd y dewrion drwy'u galw i Buckingham Palace i gael bathodyn o law'r Brenin ei hun. Dyma englyn Ap Lleyn, sef ei athro Ysgol Sul ym Mheel Road, i'r achubwr dewr :— Un ail i angau'n elyn-ni welwyd, Mae'n elach gwir gyndyn A chrand yw na cheir undyn Heb ei dal am achub dyn, EGLWYS M.C. STANLEY ROAD, SOOTLB?.- Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol nos Fereher, Chwefrol 24, i dderbyn yr adroddiad am y flwyddyn ddiweddaf. Cyfarfu nifer o'r ael- odau i yfed te, ac ymgomio ac ymgydnabydda ychydig a'i gilydd. Rhwng y te a'r cyfarfod, caed cyngerdd, dan arweiniad y Mri. Robert Jones ac R. Vaughan Jones, a Miss L. Kyffi. Williams wrth yr organ. Canodd Miss Anni* M. Jones a Miss Laura Jones, Mr. R. Vaughan Jones a Mr. Joseph Jones. Cymerwyd y gadair yn y cyfarfod ar ol gan Mr. Elias Morris -blaenor hyna'r eglwys. Dechreuwyd gan r Mr. Cadwaladr Evans. Galwodd y cadeirydd ar Mr. R. 0. Jones, yr archwiliwr am y flwyddyn, i sylwi ar yr adroddiad, yr hy* a wnaeth yn ddeheig ac eglur, gan gymharu'r eglwys yn ei gwahanol agweddau a'r hya oedd flynyddau'n ol; dygodd dystiolaeth i gywirdeb y cyfrifon, a'i edmygedd o'r dull glan a destlus y cedwir y llyfrau gan y gwa. hanol drysoryddion. Perthyn i'r eglwys gy nifer a 17 o bwyllgorau, etc., a thrysorydd yn perthyn iddynt; ac eleni, mae gweddill yn llaw pob un ohonynt, a gweddill sylweddol iawn yn llaw'r trysorydd cyffredinol, yn- dangos fod y sefyllfa ariannol yn hynod foddhaol. Hefyd, deil yr eglwys i gynhyddu mewn rhif. Nid oedd cynnydd y flwyddya ddiweddaf gymaint a'r ddwy flynedd o'r blaen, ond pan gofir yr amgylchiadau, syndod yw fod y cynnydd gymaint, sef 15. Mae'r eglwys erbyn hyn yn rhifo 785. Cynhygiwyd derbyn yr adroddiad gan Mr. Robert Griffiths, Westminster Road cefnogwyd gan Mr. John Williams, Keble Road, a phasiwyd yn unfryd. Yna agorwyd trafodaeth ar Crediniaeth yn Nuw gan Mr. Lewis Roberts, a dilynwyd gan Mr. Robert Parry (Madryn) a'r Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. Cyfarfod gwir dda. Diolchwyd i'r chwiorydd am eu llafur gyda'r te gan Mr. Llewelyn Roberts, a Mr. Johx Davies, Beatrice Street. Nos drannoeth rhoddwyd te i'r plant, a chaed cyfarfod gyda'r llusern ledrith, tait lywyddiaeth y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D. TEML GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrtk ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod agored rhag- orol yngtyn a'r uchod. Llywyddwyd gan y Br. G. Davies. Agorwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wladfy Nhadau, y Br. D. J. Morris yn arwain. Adrodd Wil Bryan a'r Cloc, y Br. Lloyd, nes rhoddi cyweirnod da i'r cyfarfod. Sketch, Spring Onions, gan y Chwiorydd Nellio a Mary Roberts. Can, illae William ar ol, y Br. D. J. Morris. Adrodd Y Dedwydd Dri, Miss Myfanwy Morris (Newsham Park). Parti meibion, 0 mor ber, yn y man, dan ofal y Br. Eddie Evans. Ymgom, Recruiting, dan ofal y Br. D. Evans, O. Lewis a P. Roberts. Can, Gwlad y Delyn, y Br. R. O. Parry, a bu raid iddo ail ganu, Canu penhillion gan y Br. W. Morris ac Eddie Evans. Adrodd The Fashionable Choir, Miss Myfanwv Morris, a chafodd encor. Parti, Y Delyn Aur, Mr. Eddie Evans. Deuawd, Y ddau forvrr. y Br. D. J. Morris ac Eddie Evans. Diolchwyd i'r cadeirydd a'r rhai wasanaethodd gan y Br. H. Davies a H. Ifor Jones. Dibennwyd gyda chanu'r Anthem Genedlaethol, Mr. R. O. Parry'n arwain. Y mae eglwys M. C. Edge Lane wedi rhox mis o ollyngdod o'i gyhoeddiadau i'r gweini- dog, y Parch. David Jones, i fynd i bregethu i'r Fyddin Gymreig draw ac yma. Terfynid tymor Cymdeithas Lenyddol M.C. Princea Road nos Fawrth yr wythnos hon a bu'r llywydd, Mr. R. Lloyd 'Phillips, a'r Parhad ar tudal. 8.

Advertising