Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
W A j. VENMORE, Lstate Agents & Valuer:* 200 SCOTLAND RO. tt\fer(>t)l Wmxmms Mo, 61 es Roys* "Ie Lloyd Jones, & < o, I mTATM AGENTS, I 6 LordStree'¡',Lfver:p(H' rajuw&oMB G. W. itUGHLS,)'- & i.T.s.i (Anogavdd i Cam put gehoval rriow Read Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arhnlwr. Parotoir I mgeiswyr at Dyttysprifau vweha, C-ito v tioljfa. Hen Nodiant a solffa j 70 KINGSLEY ROAD LZRPVV I W. DAVIES, Conductor, Adjudicator, Accompanist, faaoaer of Slaging, vt<>IH1. 3 i'iH1J!U.te Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodau. At HAFOD. DEGANWY, N Wales Y DDRAIG GOCH." THOMAS 0 JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW MILL fopposite Midland Adelphi Hotelj. A Large stock of Welsh Books, new ane second hand P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pooL TELEPHONE-261 BOOTLIL TELEPHONE-575 Anfield.3  J. T JONES, Fiifierai Undertaker, EVERTON, LIVERPOOl., Funerals personally arranged to all parts. Telephone-215 Old Swan." 16 Whitland Rd.. near Shell Rd., Fairlield R. W. EVANS Funeral and Wedding Director, (Agent for Thomas Porter & Sons, Ltd.). All orders personally attended to throughoct at moderate charges. Highest testimonials car be seen. HARTLEY & CO., Liverpool 202 LONDON ROAD. SALES BY AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHTS AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF All DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONORTES, LARGE VARIETY OF BED8TEADS BEDDING Ac EVBRY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST 80 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION 01 SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK AND ANYTHING MAY BE PUROHASEI BY PRIVATE TREATY GOODS STORED. On view 8.30 a.m. to 0.30 p.m.: Saturday 1 p.1D Telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALI OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESY SALES. BEST RESULT GUARANTEED. ALLAN Mis' LINE ?! m?L To CANADA LIVERPOOL, GLASGOW, LONDON & HAVRE TO CANADA, NEWFOUNDLAND & U.S.A. I ALLAN'S, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspur St., S.W., and 103 Leadecball St., London,E.O. Tair C&n Newydd gan J. PRYCE HjgqES, L.T.S.C. (Awdur" Arylwydd arwain drwy'r anialwch." dt c.) GOLEUNI YN YR HWYR (Light at Eventide.Cysta leuol yn y prif Eistedd fodau (Buddugrol yu Utica, N. Y.), i S. nea T- Drwyr pos;, I /Oj. HOFF BfiNILL FY NHAD (Er eM), I unrhyw lais. Drwy'r P'}8, (Uch. BYDDIN LLWYD 0 WYNHDD." I Faritone. Prim 6j-ch. Llawn ^wlidgarwch ttnbaid. Cyfhvynedig i Mr. Lloyd George., ac fe'i cenir yn y Cyfarfodydd Ymrestru. I'w cael (gyda. bSaeucLfcl: g" y Cyfansoddwr^ LILY HOUSE, COKDPOETH, WBEXHAJT, ANWYD, t'F;WCH, INFLUENZA.—Mae :hai'n ityia ni bob aniBer, Pair hinjmv-dd gyf oew- idiol fed Httwer u ddioioef oddi wrth Be-swohf Bl pohitis, Pas, Dolor Gwddf, Crygiii, Gðdre, Diffyg Anadl Y mae vr beo feddyjrinisetfc f 'AVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y Maea, ac yn cool ei jrw^rthfawrogi yn fwy nap erioed, boh atcser wrth law, yn felys, VD cynhssc y frest, no.Nu rbvddhau y phlegm. Bydrl doso mewn pryd vu ,!rligaD. Is. Ho, a 2s. 9o. (postage, 3c.).-HUGk DAVIES, Chemist. MACHYN. LLETH. GWVIMB PRTDFIERTH, Swzine Blood Mixture" at. glirio y croen, a phcro y gwaed. Y map yn myned at wraidd y drwg, ymlid yraaith bob m&th o pimc-lea, cocbni, ysfa, Pearvy, pea. ddynod. GweUtt ben ddûluMo. ooemn drwg, CrydgymalRU, gan &dter y croen i'w harddw? naturiol. 2s 6c y botel gan bob Druggist;: 1 1Tn ychwanegol gvda'r poet.—HUGH TJAVIES hemist. MACHYNLLETH. Coupon Rhad-Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd> BYDD J'A GRESHAM fire and Accident lnst, riance S-oclety Ltd St- Mildred's House, Poultry CNDON, E.C. dalu R)OO (can punt) i gyn^yc* i-^lv-i ■» cyfreitbie a phersonol y 8"wl a 'o'n ddi ,Us-dd Ii\>. r y coupon hwn, of y bo iddo fo neu hi gael Pu lladd yn hollol ac yn uniong\reh ;1 "IWy d em -ain o fewn y Deyrnas Gyfunol » dren m-ryw Ow-m. i Peiiffordd, Trainccir, Omnibus, Cab, neu (,- ibvd Trwv'* ddAdig a Llog ya j r h*n y bo'r dal wr yn cael ei gludo fel teitt-iwr toryn a chlud, vn ddluostvn" edig bob amser i'r amodau arbeun g a anl:vn sydd i'w ystyried fel rhan a chyfran o'r cvtundeb (1) F',d y marw'n digwydd o fewn deng niwrnod ar Sti.ain wedi'r ddamwain b) fod rhybudd (.hOl¡i n cael ei roi i" G, mdeithas o fe-»n saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ya LIun ain (c fod y cyfryw dystiolaeth Jes- ymol parth achos y far olaeih yn cael ei gyfiwyno ag fo'r Gymdeithas yn ei nfyn (d) fod y daliwr we-ji 'sgrifennu ej arwydd- enw arferol, cyn i'r ddhmwain ddiewydd, fig inc yii y lie darpa edig gogyfer a hynny (e.) na bo'r Gymdeithas yn tyfrifol i fwy nag na person parth mwy nag un coupon yn y papar hwn a'r un cyhoeddiad arali (f) na bo'r ya- wiriaeth hwn ddim yn gafiaeladwy i bersonaa tan dc'eu ideg na thr< s-ddega thruain mlwydd oed. ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 5 2 o'r gloch y dydd y'i codir. Arvyddnod y I-aii-tri I Danyagrifwyr, RaM i dtierk7awyr cyson y papur hwa arwyddo'r Coupon os ca'r Gvmdeithas gwb1 sicrwydd a phrawfei fodya cael eu anfon iddynt yn ddifwlch. GERAIIVT AC ENID A Chaniacfau Eraill GAN Machreth. Cynhwysiad: DARNAU CYNGANEDDOL.-Geraint 8C Enid.—Y Celt.—Telynau Duw.—Y C6p Asgellog.—Miri enwi'r ffyrdd ym Mangor.- I'r Athro J. Morris Jones, M.A., ar ol darllen ei Ganiadau.—Dychweliad Arthur.- Elis Wyn o Wyrfai.-Dr. John Thomas.— Herber.—Yng Ngorsedd Eisteddfod yRhyt —Gorseddu Dyfed yn Archdderwydd.- Telyn Cymru.—Peroriaeth.—Yr Ehedydd. —Can yr Angylion.—Y Parch. William Nicholson.—Nac Oeda.-Edifeirweh.- -Wrth fynd i orffwys.-Ar ol Noswaith Dymhestlog.—Gwynt Garw.—Y Tri LIane. -Yr Wybren Hwyrol.—Dau Weinidog. Alawon Cymru.—Y Gwynfryn.—Ci y Bugail.—Ewyllyg Adda i'w Blant. D YRIA U.-Taith ac Oedfa. Derwea Arthur.—Crwydro Bum.—Y Delyn Friw.- Wyt Ti'n Cofio.—Morfudd.—Hwiangerdd» —Can y Forwynig.-Palmwydd a Relyg.- Cyfaill y Tlawd wyt Ti.—Emvn Priodas. GYFIEITHIADAU AC EFELYCHIAD- A U.-Hervé Riel.—Y mae Gwrid at ruddiau'r Rhosyn.—Mae'r Ffrwd yn llifo?n gref, fy mun.—Y Bardd a'r Baban.—Y Nefol Gan. Ychydig gopiau yn weddill. Cjhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, Swyddfa'r 11; Brython," Lerpwl, Ar werth gan y Llyfrwerthwyr. Llian Pris 2/6 LIais 0 LuntfalD. YSGRIFAU MYFYRDOD GAN PETER HUGHES GRIFFITHS 2/= nett. HUGH EVANS A'I FEIBION
WR ru DDARLLEN A MEDDWL.I
WR ru DDARLLEN A MEDDWL I "Canys sang yw'y porth a llydan I yw y ffordd," etc. YB wythnos ddiweddaf y dacth y Geninen I' am Ionawr i'm Ilaw. Nid ei bai hi oedd hynny, wrth gwrs, eithr yr eiddof fi. Yy wyf yn sylwi fod y rhifyn hwn, fel popeth arall y dyddiau hyn, wedi ei gyffwrdd f yn drwrri gan ysbryd milwrol, a bron yr holl ysgrifau yn dwyn perthynas a rhyfel y Cyfan- dir a'r rhai nad ydynt yn dwyn perthynas a'r rhyfel hwnnw, aroglant ryfel mewn cyfeir- iadau eraill. Llenorion rhyfelgar iawn geir yn y Geninen hon, a rhai o'r boirdd yn anfarddonol ac anfaddeuol o waedlyd. Y* wyf yn sylwi hefyd na raid i neb gwyno oherwydd gorthrwm orgraff; caiff pawb ysgrifennu yn ei orgraff ei hun, neu heb orgraff o gwbl, os mwy dewisol hynny a cheir ambell un yn manteisio ar y rhyddid gogon- eddus hwnnw, oblegid dyma fwy nag un orgraff weithiau yn yr un ysgrif. CrybwyUir am ryw ddyddiau yn hanes cenedl Israel, pryd nad oedd brenin arnynt. ond pob un a wnai yr hyn oedd union yn ei olwg ei hun. Dyna ddyddiau'r Geninen eto. Nid oes frenin ami caiff pawb o'r ysgrifenwyr eu ffordd eu hunain. Mae'r pyrth yn llawn agored, ac mae'r diddorol a'r dyddorol yn mynd i mewn ochr yn ochr caiff pawb fynd trwodd fel eu gilydd neu ei gilydd," ond i bob un ofalu mynd trwodd ar ei gost ei hun. Bag'u ar draws Cromfackciu. Testynyr ysgrif gyntaf ydyw "Athroniaeth Germani a'r rhyfel presennol." Mae hon yn yagrif ragorol. Dengys yr awdur dysgedig ei fod yn deall ei bwnc yn drwyadl, a g\vyr yn dda pa fodd i'w drafod. Argyhoeddir ni ei fod yn gyfarwydd iawn yn hanes athronwyr a meddylwyr mawr Germani, ae ysgrifenna'r hanes hwnnw gyda llawer o brydfcrthwch a swyn. Efallai mai diffyg yr orthygl ydyw ei bod yn cario gormod o faich ymdrechir gwthio gormod o fater i ry ychydig o le gwell fuasai chwaneg o ofod, ac ysgrifennu'n llawnach. Un o frychau'r ysgrif, hefyd, ydyw'r cromfachau diddiwedd a geir ynddi. Yn sicr, dylai Ilenor medrLiF, allu gwneud ar lai o'r pethau ceimion, diangenraid hyn. Os nad all dyn ysgrifennu ei feddwl yn eglur y tu- allan i gromfachau, nis gall wneud hynny ychwaith o'r tufewn iddynt. Dylid, hefyd, roi peth credyd i ddealltwriaeth y darllen ydd modd bynnag, llai cosbedigacth fyddai mynd i'r niwl ambell dro, na maglu'n dragywydd ar draws cromfachau. Pwy ey'n hollalluog ? Togf,yn-yr ysgrif nesaf ydyw Gweddi a, Rhyfel." Ysgrif fyw, ergydiol, a llawer o asbri llenyddol yn rhedeg drwyddi, yn go- gwyddo weithiau, hwyrach, at fod yn rhy smart o leiaf, daw hynny i'r golwg yrwan ac yn y man, a dichon fod eyffyrddiad o ryw fath ar ddibristod mewn ambell frawddeg, y buasai'n. well rhoi genfa iddo. Mater o opiniwn ydyw hyn, 'rwy'n cyfaddej. a thebyg nad yw dweyd fel yma, yng nghyfrif arall, ond traethu dychmygion ofer a disail. Boed a fynno, dyna'r argraff arnaf fi. Nid gweddus iawn ydyw bod yn rhy bend ant beth all, neu beth na all yr Anfeidrol ei gyflawni. Gellid meddwl oddiwrth yr ysgrif hon mai dyn, ac nid Duw, sydd i fod yn hollalluog o hyn ymlaen. Mae Duw wedi ei rwymo a rhyw ddeddfau caethiwus, fel na all syrmid ond o'r tufewn i 'r pethau ereulon hynny. Beth yw'r deddfau hyn, tybed ? Pwy a'u gosododd ? Os Duw a'u gosododd, onid ydyw'n rhyfedd iddo garcharu ei hun tufewn i ddeddfau oedd .yn ei ysbeilio o'i hollalluowgrwydd ? Nis gall Duw roi terfyi-i ar y rhyfel presennol, mwy nag y gallsai ei gychwyn ac nis gall Duw ateb gweddlau neb ond trwy ganiatad y gweddiwr ei hun. Os felly, pa les i neb weddio o gwbl ? Gwell gennyf fi adael y briodoledd o Hollalluowgrwydd, neu beth bynnag y'i gelwir, yn y fan lie y mae wedi bod erioed, a'r fan yr erys byth, gredaf fi. Wedi'r cyfan, y mae hon yn ysgrif swynol dros ben, yr unig beth yr ydys yn cweryla fig ef ydyw y duedd at fod yn oraclaidd uwchben pethau y dylid eu trin gyda gochelgarweh a gwyleidd- dra. Onid gwell yw Duw na dyn hollalluog ? Dengys hanes y dyddiau hyn nad fyw 'n debyg y gorffwysai dyn hollaIluog nes bod yn ddiafol hollalluog. Brwmstan y Corn Parddu. Yn nesaf, daw'r "Cyrn Pres." Ym- ddengys i mi i'r erthygl hon gael ei hysgrifennu ar erchwyn y pwll diwaelod, ac mae arogl y dyfnder hwnnw'n drwm ami, o'r dechreu i'r diwedd. Nid yw rhoi lie i ysbwrial gwenwyn ig fel yma yn deilwng o gyhoeddiad sydd yn honni ei fod yn gylchgrawn cenedlaethol, a bod llenorion goreu'r genedl yn ysgrifennu iddo. Nid y Parch. Tecwyn Evans oedd yr unig un a ddyrchafodd ei lef yn Y BRYTHON yn erbyn y Pulpud Pres." Ysgrifennwyd pethau cryfach o lawer gan y Parch. W. Parri Huws. Paham y distawrwydd ynghylch yr hyn a ddywedwyd ganddo ef ? Ysgrifennodd y naill a'r llall, ond paham y gwagheir phiolau'r felltith am ben un, a hwnnw'r mwyaf diniwed o'r ddau ? Mae'n debyg fod rhes- ymau digonol dros hyn. Gwyddai'r cawr o Ddolgellau beth yr oedd yn ei gylch pan yn ysgrifennu ei lythyr miniog i'r BRYTHON, a diau y gwyr ysgrifennydd corniog y Geninen m:t i gwaeth nag ofer fuasai ceisioei wrthbrofi. Nid fy amcan yw amddiffyn Tecwyn mae'n abl iawn i amddiffyn ei hun pan fydd galw am hynny. Ni allaf fi honni unrhyw adna- byddiaeth arbennig ohono, ond yn unig yn ei weithiau llenyddol, a byddaf yn anghytuno yn fynych ag ef ar lawer pwynt. Ond tae waeth am hynny, aeth i fyny gryn lawer o raddau yn fy ngolwg ar ol darllen y Cyrn Pres. Gall y gwr amryddawn gysgu'n berffaith dawel, 'does fawr o berygl i'w lestr oddiwrth y submarine brwmstanaidd hwn, ac mae'r un peth yn wir am Newman Jeffrey. Yn ffodus, mae'r fath beth a chydwybod gyhoeddus yn bod, ac ni oddefa honno i enw da ein gwyr cyhoeddus gael ei gymylu gan beth fel hyn. Mae edmygwyr Tecwyn yn lliosocach o gryn lawer er pan ddaeth Geninen Ionawr o'r wasg. LIymrig a Hipa tuhwnt. Mae gan y Golygydd ol-nodiad, ar ddiwedd yr ysgrif dan sylw, sydd yn un o'r pethau mwyaf llymrig ddarllenais ers tro. Sonia am feirniadu pregethwyr. Popeth yn iawn. Hyd y gwn i, 'does gan bregethwyr ddim ofn beirniadaeth, ae mae'n sicr nad oes yr un dosbarth o ddynion yn amlach yn y glorian. Mae'r lleiaf o'r saint, a'r mwyaf o'r pechadur- I iaid, yn tybio fod ganddynt hawl i fcirniadu pregethwyr, ac nid ydynt yn ol o'i harfer. Mae beirniadaeth deg yn beth iach a bendith- iol. Ond, atolwg, ai beirniadaeth ysgrif y Cyrn Pres, a phethau o'r un tras, a gyhoeddir mor ffyddlon ar ddalennau'r Geninen Atebed y gelynion. Onid yw beirniadaeth i gymcryd i sylw yr hyn sy'n gymeradwy, yn gystal a'r hyn sydd wallus ? Gwn, ysywaeth, fod Ilawer o feiau mewn pregethwyr fel ym mhawb arall, ond nis gallaf gredu eta fod pregethwyr Cymru wedi dirywio i'r fath radd- au nes bod yn un pentwr o ddiffygion a phechodau. Gelynion crculonaf y weinidOg-1 aeth heddyw ydyw y rhai sydd wedi bod yn fethiant ynddi eu hunain, ynghydag ambell un yn eu plith y barnodd yr eglwysi fod budd- iannau uchaf yr efengyl.yn galw am gau drws y pulpud yn ei erbyn, pan gurai am gael mynd i mewn. I | Breuddwyd uno'r Enwad^u. I Ysgrif alluog ydyw yr un ar Uniad yr Enwadau o safbwynt Bedyddiwr." Anodd fuasai gwneud y safbwynt hwnnw yn gliriach nac yn gryfach nag y gwneir yn yr ysgrif hon. 'Does neb yn doall ei egwyddorion ei hun yn well na Bedyddiwr, na neb yn fwy pybyr i ymladd drostynt. Efallai fod rhai ymhlith y Bedyddwyr, fel ymhlith yr enwadau eraill, yn fwy selog nag o wybodus, a gwyddom fod y rheiny yn anghristnogol o gul. Yr wyf yn cofio hen frawd yn Sir Drefaldwyn nad oedd dim a'i cythruddai'n fwy nag awgrymu y byddai rhywun yn y nefoedd heblaw Bedydd- wyr. Mae'r hen bererin wedi cyrraedd yno bellach ers blynyddoedd. Faint oedd ei syndod, tybed, pan ganfu fod llawer o'i gym- dogion "difedydd wedi cyrraedd o'i fiaen ? Ond diau gennyf fod ei lawenydd mor fawr wrth eu gweled yn y nefoedd ag oedd ei ofn rhag iddynt fynd yno gynt, ei wybodaeth i weithian gymaint a'i sel. Ond mae'r Bedydd- wyr, erbyn hyn, a'u cymryd at ei gilydd, y mwyaf goleuedig o'r JIwythau ar eu pwnc gwahaniaethol fel en wad. Gofynner i Fed- yddiwr paham y deil fedydd y crediniol, drwy droehiad, a cheir gweld ar unwaith mai nid mewn tywod y mae sylfeini ei gyffes ffydd yn gorffwys. Gwyr am bob adnod o'i blaid, drwy'r Testament Newydd i gyd, a gall eu defnyddio i bwrpas er amddiffyn ei olygiadau ac at hynny, mae'n hysbys o dystiolaethau'r prif ysgolheigion Beiblaidd a lefarodd yn ei ffafr yn ystod y ganrifoneii ddwy o'r blaen. Na, nid peth hawdd cwrdd, v bellach, a, Bedyddiwr na wyr yn glir paham y porthyn i'r enwad hwnnw rnwy na rhyw enwad arall ac mae gan y Bedyddwyr amddiffynnydd glew yn awdur yr ysgrif lafurfawr hon. Gwir nad oes ynddi ddim byd newydd, ac hwyrach nad oes dim byd newydd mwyach i'w ddisgwyl. Yr hen ddadleuon dros aros ar wahan sydd yma, ond gwneir y defnydd goreu ohonynt. O'm rhan i, mae'r ysgrif yn afresymol o hir. Ofnaf y gall ei meithter fod yn ddychryn i lawer, ac y rhaid cael dyfalwch Bedyddiwr i'w darllen drwodd. Sonia'r awdur gryn lawer am gydwybod mi wnes innau gydwý- bod o'i darllen i gyd, a rhaid i mi ddweyd fy mod yn dechreu llesghau erbyn cyrraedd y gair olaf. Gallesid ei berwi i lawr i'r hanner heb adael dim ohoni allan, a buasai hynny yn fantais glir i'r safbwynt y dadleuir mor egniol drosto. Mae'n amlwg fod yr ysgrifennydd yn credu'n ddiderfyn yn ei safbwynt ei hun, ac mai diogelwch pawb arall yw cymryd eu 110 ar yr un safbwynt ag yntau. Mor bell ag y mae'r Bedyddwyr yn y cwestiwn y mae'r mater, yn ei bethau mwyaf hanfodol," wedi ei benderfynu ymlaen llaw. Efallai mai rhyw don braidd fel viia sy'n tynnu ychydig oddi- wrth werth yr ysgrif. Os ydyw uno'r enwad- au yn golygu fod rhywun neu rywbeth i gael ei aberthu, m.ae'n ymddangos mai nid y Bedyddwyr sy'n mynd i wneud hynny. Hyd y gwelaf fi, nid yw uno'r enwadau ond breuddwyd gwag, o leiaf hyd yn hyn. Fe sonnir weithiau am gael un Llyfr Emynau ond nid wyf yn gweld pa fodd y mae un Llyfr Emynau yn mynd i uno'r enwadau, pan y mao un Beibl wedi methu. Mae'n sicr mai da fyddai cael undeb—undeb gwirioneddol ond fy nghred i ydyw fod rhai eenedlaethau eto rhyngom a sylweddoli'r weledigaeth fa.wr hon. I Beirdd y Rhpgi. Parha Bryiifab i ysgrifennu ar Berthynas dysgeidiaeth ddiweddar a barddoniaeth delyn- egol Cymru." ac amlwg yw ei fod yn cael mwynhad dirfawr yn ei waith. Mae hon y drydedd ysgrif, ac ymddengys fod ganddo ddefnyddiau lawer eto. Aed ymlaen yn galonnog, oblegid er ei fod yn dweyd rhai pethau celyd, nid oes wenwyn yn ei ysbryd, na brad o dan ei fron. Mae'n fendith inni weith- iau gael golwg arnom ein hunain drwy lygaid pobl eraill. Ysgrif fer ydyw hon, ond ceir ynddi amryw ergydion cyrhaeddgar, a rhai lied drymion ond y maent yn hollol deg. Rhaid i'r bardd newydd, yn gystal a'r hen, gofio nad yw tywyllwch, o angenrheidrwydd, yn golygu mawredd, ac nad yw ailadrodd gair yn llinell olaf pob pennill yn troi rhimyn diawen yn delyneg anfarwol. Bu llawer o son unwaith am y bardd newydd, a soniodd yntau fwy na hynny amdano ei hun, a meddyliodd rhai oddiwrth ei bali a'i adanedd mai rhyw archangel ar grwydr ydoedd, wedi mynd yn wallgof yn nhanbeidrwydd ei greadigaeth- au mawrion ei hun. Ond erbyn hyn, mae'r werin yn dechreu cynefino a'i ddieithrwch a'i ddrychiolaethau ac ni ryfeddwn i ddim na cheir yn y man nad yw'r bardd newydd, wedi'r dwndwr i gyd, yn ddim ond dyn, fel J eraill, a chryn lawer o ffaeleddau ynddo, fel ei frodyr yn gyffredin. Diau ei fod yn wr o athrylith, ac mae ei ddysg a'i ddawn yn amIwg i bawb ond y gwahaniaeth mwyaf wyf fi yn ei weld rhyngddo a'r beirdd aeth o'i flaen I ydyw ei fod yn fwy o regwr o gryn lawer na'r pennaf ohonynt, ond rhagoriaeth led amheus, a dweyd y lleiaf amdani, ydyw honno. Beirdd y Dagrau. I Cyfeiriais eisoes at Gan y Gwaed." Ac mae hynny'n ddigon. Hwyrach mai'r peth goreuydyw gadael iddi foddi yn ei gwaed ei hun. Nid llawer o farddoniaeth geir yn y rhifyn hwn, a chyffredin iawn yw'r rhan fwyaf I o hynuy sydd, oddieithr y darnau sydd yn I perthyn j'r oes o'r blaen. Ychydig o'r caneuon rhyfelgar heddyw sydd yn deilwng eu cymharu a. DifyrwchGwyr Harlech Ceiriog. Ond gwell i mi, efallai, beidio ag ymhelaethu'r ffordd yna. Mae'r rhan fwyaf o'r englynion yn englynion coffa, ac mi welaf fod amryw o'r llinellau a geir ynddynt wedi bod yn hobrwng to arol to o'r anfarwolion tuag adref. Byddai'n chwith i neb farw bellach heb i rai o'r ffydd- I loniaid hyn gael cyfle i dywallt deigryn ar ei fedd. Wele ychydig enghreifftiau :— Deil ei genedl i gwyno. Ei ethol fyw areithiau. Yn fywyd cym infaoedd. Gorffwysed, huned mewn hedd. Dyma nhw. Pa, fardd sydd yn fyw heddyw nad yw'n eu gwybod er yn fachgen ? Fel mae Cofiwch wraig Lot ymhlith ein hadnodau cyntaf, folly y mae'r llinellau hyn ymhlith y farddoniasth gynghaneddol gyntaf a glywsom erioed. Tybed nad yw'n bryd i'r hen bererin- ion llychlyd fynd i fyw ar eu pensiwn bellach ? Ond gwell na hynny fyddai gadael iddynt farw allan o'r ffordd. Boddlon fyddai'r cymanfaoedd iddynt gaol" huno mewn hedd weithian, ac nid wyf yn meddwl y daliai r genedl i gwyno yn hir ar eu hoi. Da chwi, englynwyr galarus, treiwch eich Haw ar bennill neu rywbeth, er mwyn tipyn o amrywiaeth. Ond o ran hynny, 'does fawr o obaith am ymwared o'r cyfeiriad hwnnw chwaith, oblegid fe daera rhai fod ambell farwnad yn ein plith yn derbyn tal am ei dag- rau er cyn cof. Yr unig eithriad ymhlith yr ocheneidiau barddonol hyn ydyw eiddo'r bardd gwylaidd o'r Ysgoldy,am ei hen gyfaill Isallt. Mae yma ryw ychydig o englynion eraill, ar wahanol destynau, rhai yn wobrwy- edig, a rhai heb fod, yn ddigon tebvg. Y mwyaf tarawiadol ohonynt i gyd ydyw englyn Dewi Gkvallter i suddiad yr Emden. Mae hwn yn waith meistr, ac mae'n ddiameu i'r awdur gael cymaint o bleser wrth ei wneud ag a gafodd wrth glywed y newydd fod y Hong farus honno wedi mynd i lawr. Caraswn sylwi ar amryw ysgrifau eraill, rhai gwych, a rhai heb fod cystal, ond mae'r gofod wedi mynd, chwedl y llonorion, a rhaid i mi dewi yn y fan yma. R.H.W. -0.
GLEWION YR IAIT", i
GLEWION YR IAIT", i Sef Undeb y Cymdeithas?>u Cymraeg [GAN ARTHEN, Y BA-RRI-I PARHA'r Undeb i fynd rhagddo. Y mae'n wir na threiddiodd ei ddylanwad i Wynedd hyd yn hyn. Onibae am ohiriad Eisteddfod Genedlaethol Bangor y llvnedd, credwn y buasai'r Undeb wedi meddiannu'r Gogledd hefyd. Trefnwyd cyfarfod arbennig ar adeg yr Wyl fawr genedlaethol, ond llesteiriwyd y cyfan gan y rhyfel. Er hynny, gan nad oes marw i fwriad da," fe ddaw'r amcanion i ben maes o law. Pa sawl cymdeithas Gymraeg sydd yng Ngwynedd ? Oni chasgl rhywun I restr ohonynt ? Tipyn ymhell y mae'm preswylfod i oddiwrth gartrefi cymdeithasau'r Gogledd, ac am hynny anodd ydyw gweith- redu. A fydd V BRYTHON gystal a chyhoeddi rhestr cymdeithasau Cymraeg Gwynedd a'r cyffiniau Seisnig ? Pe gwnelid hyn, fe unid ein holl luoedd er amddiffyn iaith, gwlad a chenedl. Y mae'r De o Fynwy Fawr i Dy Ddewi yn unedig eisoes, a'rUndeb o wir nerth. Teimlir dylanwadau Seisnig yn gryfach o lawer yn y De nag yn y Gogledd. Dyna ond odid gyfrif am lwyddiant dihafal Undeb y Cymdeithasau Cymraeg yn Siroedd De Cymru. Hoffwn pe deffroid Cymry'r Gogledd hefyd cyn yr elo hi yn rhy ddiweddar. Cyfarfu Cyngor Gweithiol yr Undeb yng Nghastell nedd, Chwefrol 6, dan lywyddiaeth y cadeirydd, D. Lleufer Thomas, Ysw. Ymdriniwyd a materion tra phwysig. Llon- gyfarchwyd y Bwrdd Addysg ar ddiwyg destlus a chynnwys gwerthfawr y Ilyfryn a gyhoeddwyd ar gyfer dathlu Gwyl Ddewi eleni. Cynlhmiwyd y moddion goreu i sicr- hau archebion o'r gwahanol gymdeithasau yn yr Undeb. Cyfeiriwyd at bum canmlwydd- iant marw Owen Glyn Dwr. Anogwyd pawb i'w ddathlu drwy ddrama, eisteddfod, anerchiad i blant a phobl ieuainc, neu drwy bererindod at fan ag iddo gysylltiad a'n harwr neu a rhyw wr mawr arall yn hanes ein gwlad. Paratowyd gan Ogwen, Aberdar, lyfryn bach del yn cynnwys drama fer, sylfaenedig ar hanes Glyn. Dwr. Y mae hon yn un o fewn cyrraedd y plant lleiaf yn ein hysgolion. Paratoir llyfryn dros yr Undeb gan Mr. T. Matthews, M.A.—cynhwysa awgrymiadau parthed cofio Glyn Dwr. Cyfansoddwyd pen- hillion gan Frynfab, Pont y pridd, er cof am y gwron, ac a'u ceid yn Y BRYTHON diweddaf. Cymeradwywyd cynnal arddangosfa parthed Glyn Dwr a'i amserau dan nawdd y Llyfrgell Genedlaethol adeg agor ei thy newydd. Rhoddodd y Cyngor sel ei fendith ar Sul Cenedlaethol Cymru, Chwefrol 28ain. Paratowyd ar gyfer Cynhadledd Flynyddol yr Undeb—yr ail-yn Abertawe, Mai 15fed,1915. Disgwylir y lhvythau ynghyd. Rhagorodd Pont y pridd y llynedd ar bob peth yn hanes yr Undeb gyda'r rhwysg a'r gogoniant a fu'n y dref adeg Cynhadledd 1914. Rhwystra'r rhyfel erchyll hon drefniadau Abertawe i raddau, eithr credwn y bydd Cynhadledd Abertawe hefyd yn un a hir gofir yn hanes yr Undeb. Daw manylion y cynhulliad maes o law. Taer geisiwyd gan Gymdeithas Lyfryddol Cymru gyhoeddi Llyfryddiaeth Glyn Dwr, a gasglwyd gan Mr. D. Rhys Pillips, Abertawe. Bwriedir ymdrin yn y Gynhadledd flyn- yddol a'r priodoldeb o sicrhau amgenach cydweithrediad a dealltwriaeth rhwng y gwledydd Celtaidd a'i gilydd. Ffynnodd Cyngrair Celtaidd unwaith. Tybed nad ellid ei ail-sefydlu ? Cydymdeimlwyd a theulu'r diweddar J. Morris, Ys-w., Llansannan,-gwr a wnaeth lawer er hyrwyddo lien a defion ei wlad ac a'r Athro Loth ar farwolaeth ei briod. Y mae'n adgyfnerthiad i'n hysbryd Cymreig i fynd i gyfarfod y Cyngor Gweithiol. Cyfar- fyddwn a. gwyr o'r un anianawd, ac a rhai sy'n llosgi'n eirias dros gadw Cymru yn Gymru Gymreig. Sefydlwyd un gymdeithas newydd ym Mhen y bont ar Ogwy, ac un yn Ferndale. Siaradwyd yn y dref gyntaf a nodwyd gan Mr. W. Bryn Davies, arolygydd ysgolion dan Gyngor Sir Morgannwg,ac yn yr ail dref gan y Parch. E. W. Davies, Ton, Pentre. Bydd sefydlu Cymdeithasau fel hyn yn anogaeth ac yn nerth i'rCymry yn y lleoedd hyn i edrych j tua'r wawr sy'n torri heddyw ar fynyddoedd Gwyllt Walia. Ni raid digalonni er holl rym y llifeiriant Seisnig. Er ys amryw na phlyg- odd lin i Baal. I' Sefydlwyd dwy Gymdeithas arall gan Mr.T. Matthews yng Nghwm Rhymni. Gwelir felly yr adnewydda'r Undeb ei nerth. Eheda I fel eryr o gwm i gwm, a daw cyn bo hir i nythu hyd yn oed yn Eryri fawr yn Arfon. Un o brif adrannau'r Undeb yn y De yw j cyfarfod adran Dwyreinbarth Morgannwg a Mynwy. Gwelodd lwyddiant mawr ar ei j chyfarfod a gynhaliwyd Chwefrol 13, yn I Aberdar, ond cyhoeddodd Y BRYTHON hanes hwn eisoes. ¡ Da yw byw y dyddiau hyn pan fo cymaint o fynd ar bethau Cymreig. Eto mae lie, er hynny, i ffyddlondeb mawr i'n hiaith a'n nodweddion cenedlaethol. Anwybyddir y I Gymraeg yn rhy ami o lawer mewn amryw gylchoedd. Hyderwn y saif Undeb y Cym- deithasau Cymraeg yn wrthglawdd cadarn yn erbyn gelynion Gwalia am flynyddau lawer. I Nerth yr Undeb yw nerth y Cymdeithasau. Hir y bont fol gwylwvr ar y mur Arhoed eu bwa -yn gryf I