Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

BRWYDR Y LLEOLIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRWYDR Y LLEOLIAD. [Gan John Shirgar Jones, Ph.D.] Brwydr y Syrod fydd brwydr lleoliad yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol yng Nghymru. Llwyddodd y werin drwy ei chyn- rychiolwyr seneddol i gael yr addewid am gymorth arianol oddiwrth y Llywodraeth, ond mae'r undeb a ddangoswyd y pryd hynny wedi llwyr gilio o'r maes bellach. Yn lle'r Aelodau Seneddol y mae rhes o wyr mawr wedi dechreu cadgyrchoedd arbenig ar ran y naill dref a'r Hall, nes yr ydym mewn mwy o benbleth yn awr nag erioed. Mae Arglwydd Windsor a Syr Alfred Thomas yn pleidio Caerdydd; mae Syr Griffith Thomas a Syr J. T. D. Llewelyn yn pleidio Abertawe; Syr Marchant Williams a Syr John Williams yn rhedeg ar ol Aberystwyth; a Syr John Puleston fel cadfridog unig y gogledd- barth yn dadleu tros Gaernarfon. Ni fu erioed, gallem feddwl, y fath gatrawd o Syrod ar y maes ar ran unrhyw achos Cymreig, a bydd gwylio eu symudiadau yn beth hynod o ddyddorol, os nad yn adloniadol, i'r werin dylawd. Hawliau Caerdydd, yn ol Syr Alfred, yw ei phoblogaeth, ei chyfoeth, ei lleoliad canolog, ei haddewid haelionus am adeilad gorwych, a'i hawl fel y "capital of Wales." Abertawe, o'r ochr arall, a honna ei Chymreig- rwydd, ei hadeiladau pwysig, ei defnyddiau gwerthfawr tuagat ffurfio Amgueddfa, ei chyfoeth, a'i sefyllfa ganolog i holl drigolion Deheudir Cymru. Ymffrost Aberystwyth yw ei Choleg, a'i phrif gais yw am gael y Llyfrgell yn unig. Er sicr- hau honno, dywed ei bod yn dref Gymreig, fod llu mawr o efrydwyr yno, fod y dref yn berffaith dawel, ac fod iachusrwydd y parth yn ddigon i ddenu pob ysgolor i'r lie. Yn ol Syr John Puleston does un lie fel Caer- narfon, mae yno gastell er cyn cred, ac mae'r adeilad presenol yn llawn o hen greiriau, a wnant dechreu rhagorol i Amgueddfa beni- gamp. Yn wir, byddai Syr John bron yn barod i gychwyn Amgueddfa ei hunan ond i'r Llywod- raeth gydnabod y lie fel man priodol i'w sefydlu. Dyna'r prif ymgeiswyr, ond daw'r hanes fod y Mwythig am wneyd cais am yr Amgueddfa, a Llandrindod am y Llyfrgell. Ond os mai poblogaeth a chyfoeth Caerdydd yw ei hunig gri, d) lai Llundain osod cais i fewn oherwydd mae mwy o Gymry yn Llundain nag yn nhref fawr y Deheudir, ac mae cymaint o wyr arianog yma ag yno hefyd. Peth arall, gallai'r Rhondda hawlio yn llawn mor rhesymol yn ol y boblogaeth, a diau y llwyddai i sicrhau man mewn cystal safle a'r hyn a gynnygir i'r adeilad yn Nghaerdydd. Ac mae honni mai Caerdydd yw prif dref Cymru yn beth hollol afresymol. 'Dyw ei ddechreu ond er ddoe, ac er fod y cynnydd wedi bod yn gyflym nid yw hynny yn ddim o'i phlaid. Fel capital ni chymer mo Sir Forganwg hi yn brif dref, a phaham y rhaid i Gymru gymeryd tref wrthod- edig gwlad Forgan i fod yn ben ar ei deuddeg sir? Ac am ei sefyllfa ganolog byddai Llundain ar y blaen iddi o lawer, oherwydd daw gwyr y Gogledd i'r Brifddinas mewn hanner yr amser a gymer iddynt gyrhaedd tref Caerdydd. Na, mae tref Syr Alfred yn hollol amhosibl. I wyr dyffrynoedd y Diwygiad saif Abertawe mewn man cyfleus, a diau y byddai'r adeilad yn lied rydd oddiwrth bryfaid, oherwydd 'does yr un gwybedyn a all fyw yn awyrgylch yr ardal front honno. Dylai'r llyfrau gael oes hwy yn Abertawe nag yn unman am fod yr awyr mor afiach, a sicr y byddai holl greiriau yr Am- gueddfa yn anesboniadwy cyn pen dwy flynedd ar ol cael baw y lie i'w cuddio ac awyr sulpher- aidd Glandwr i chwythu drostynt yn awr ag yn y man. Na, Abertawe ddylai fod y lie olaf i osod Amgueddfa na Llyfrgell ynddi os am gael astudwyr neu ddarllenwyr iddynt. Ar ei Chymreigrwydd dibyna Aberystwyth lawer iawn, ond wfft i'r fath dref Gymreig. Mae y dref fwyaf gwrth-Gymreig, gwrth-Genedlaethol bron yn y deuddeg sir. Mae'r naws Seisnig- aidd wedi rhibo'r Coleg yno. Mae'r Cyngor Trefol wedi troi'n fath o le i gynnal ymladd- feydd personol ynddo, ac nid oes dref yng Nghymru wedi syrthio mor isel yn ei pharch i bethau cenedlaethol a hi. Na, rhaid diwygio Aberystwyth cyn byth y gellir gwrando ei chais. Gwir fod gan Syr John Puleston adeilad mawr i'w gynnyg, ond wfft i'w safle. Mae ar lan y dwr, a byddai yn amhosibl ei ddefnyddio oherwydd swn parhaus y llechwyr o gylch y fan. Pe symudai Syr John y lie i gesail yr Wyddfa byddai yn werth gwrando arno, ond fel y mae yn awr mae yn hollol allan o'r cwestiwn. Y ffaith am dani, rhaid i'r Syrod hyn gilio o'r maes bob un, oherwydd does yr un o'u cyn- lluniau yn berffaith, ac hyd nes y trefnir i gael man mwy deniadol i'w sefydlu, gwell fa'i gofyn am osod yr Amgueddfa a'r Llyfrgell yn Llun- dain. Yna fe ddeuai'r miloedd o ymwelwyr iddynt bob blwyddyn, a deuai holl ysgolorion ieuainc ein cenedl yma am dro i fwynhau o drysorau ein hen iaith ac i yfed yn helaeth o'r ysbryd gwir genedlgarol.

YR ADFYWIAD A'R BOBL IEUAINC.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.