Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GWAUNCAEGURWEN A'R .CYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWAUNCAEGURWEN A'R CYLCHOEDD. DA genyf hysbysu fod gweitbfeydd y gymydogaeth hon yn myned yn ralaen yn lIed dda. Y mae gweithfeydd Gwauncaegurwen wedi dyfod i gytun- deb boddhaol, a hyny heb gynorthwy yr un ymyrwr estronol. Hysbysir fod croesaw i bawb o'r hen weithwyr i ddychwelyd; felly fe welir nad oes cofio beiau gyda ni. Wn i ddim beth sydd i'w ddweyd gyda golwg ar y ilong undebol, fel y geilw Thai hi, yn y gymydogaeth hon yn bresenol. Y mae yn wir fod rhai teithwyr arni; ond' rhywfodd, rhyw suddo i rywle—i'r inor diwaelod, fe- allai, y mae y mwyfrif, ac ofnir i beidio adgyfodi i'r wyneb mwy. Garw o beth nad ellid cael symudiad a ddeil ei dir ar ei deilyngdod ei hun heb achos ei gy- sylltu a neb personau pa bynag. Clywir beio ar gadbeniaid yn fynych; ond a ydyw hyny yn, ddigon o reswm i ollwng morwriaeth. neu yn hytrach unrhyw symudiad fyddo da, pan y dygwydda diffyg o'r fath ar achlysuron? O'm rhan fy hun, credwyf mai y diffyg yn nglyn a'r undeb sydd ar farw ydyw yr ymddiriedaeth gormodol y roddir i gadbeniaid. Onid all y dwylaw eu hun- ain hwylio y llestr yn llawn cystal, os nad gwell, na'r cadbeniaid rhagsonedig eu hunain? Yn fyr, dyna fy marn i amyfusnes hon, ac ymae ynfnsnes sydd yn perthyn yn agos i mi a'm cyd- ardalwyr, sef fod llawer o'r strikes yr ydym wedi eu cael yn ystod y tair a'r pum' mlynedd diweddaf i'w holrhain yn lied union gyrchol i dditfyg, neu yn hytrach anonestrwydd y rhai a gam- en wiry n arweinwyr y gweithwyr. Dyma un o lawer o'r enghreifftiau sydd genyf wrth law. Yr oedd un o'r cyfryw, ac y mae yr un hwnw gan rai yn bwysig (?), yn dweyd mewn cyfarfod o gyn- rychiolwyr y gweithwyr fod y meistri yn gofyn pedwar swllt y dynell yn fwy am y glo nad oeddent yn gael yn Rhag- fyr, ac mai dyna y rheswm am yr araf- wch mewn masnach ar y pryd. Ond pwy yn ei gyflawn synwyr a thegwch sydd yn credu haeriad anhygoel o'r fath ? Ond wrth gwrs, gan ei fod yn dyfod oddiwrth ddyn mewn tal swydd- ogol, rhaid ei gredu. Gyda Haw, beth amgynwys y Rheol- au hyny a basiwyd yn Nghynaaledd Abertawe ? Deallais i mai y tal misol yn y dyfodol oedd i fod yn Is. 4c.; ond dywed gwr pwysig, ac yr oedd efe yno, mai allwiredd ydoedd hyn-na, phasi- wyd dim o'r fath beth o gwbl. Gair o esboniad ar hyn a gliria lawer meddwl amheus ag sydd yn arfer ymddiried yn y newyddiaduron. Mae gweithredoedd da yn haeddu eu croniclo bob amser. Ychydig amser yn ol, bu farw Mr. B. Evans, arolygwr Gwaith Llwynrbidiau; ac fel v mae yn dygwydd, nid ydym ni, y glowyr, yn gryf iawn ein hamgylchiadau bydol, yn enwedig os y daw amgylchiadau croes i'n cyfarfod, fel y daethant i ran y brawd Benjamin Evans, y cyfaiU twym- gar a gwresog hwnw i lenyddiaeth yn ardal Gwaencaegnrwen, fel o'r braidd y bydd gweithred fechan o garedig- rwydd yn cymwynas fawr i ni yn fynych. Bu farw Mr. Evans, a gwnaeth Mr. Thomas, perchenog y lofa, yn nghyd a'i fab haelionus, goruchwyliwr gwaith Carway, ger Pontyberem, y swm o ugain punt o anrhegi'w weddw ar unwaith. Well done y ddau feistri Thomas gweithredoedd o'r fath sydd yn lladd strikes, ac nid ymyraeth un- ,ochrog. Nid oes angen, debygwn, eich hysbysu ddarfod i ninau yn nghyd a'r ardalwyr ereill ein rhan yn y mater. Dyna hen gwrcyn garw ydoedd hwnw, o Ystalyfera, a aeth o flaen y ger isel o Gernyw i gario ei lamp dan onide ? Pob parch i Mr. G. Thomas, yr hen oruchwyliwr, am dalu sylw i'r Mines Regulation Act fel y gwnaeth. CROTYN CRITO.

Advertising

AELWYD LAN.