Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
I » COSTRELI DAGRAU.
» COSTRELI DAGRAU. Dod fy nagrau yn dy gostrel," Salm Ivi. 8. Mae yn arferol yn mhlith y Pers- iaid, pan byddo rhyw alar mawr wedi dal eu cynulleidfaoedd, mewn amser- oedd o newyn neu ryfeloedd, i weinidog pob cynulleidfa fyned trwy y dyrfa a sypyn o gotwm yn ei law, a'r hwn yn ofalus y sych pob deigr oddiar ruddiau ei wrandawyr, ac wedi hyny a'i gwasga yn ofalus i gostrel. Bernir ganddynt, am y gwlybwr hwn, ond ei roddi yn ngenau un yn llewygon marwolaeth, wedi i bob meddyginiaeth arall fethu, yr adfywia ac y gwellha ef, ac i'r perwyl hwn y cedwir ef yn ofalus.
BEiRNIADAETH CYFANSODDIAD.…
BEiRNIADAETH CYFANSODDIAD. AU EISTEDDFOD CARMEL, TREHERBERT. 0 Haul, Aros I"-Derbyniasom gy- nyrchion 20 o feirdd'aryftestyn cynhyrfus farddonol hwn. Rhaid i'n sylwadau fod j yn fyr iawn. Un yn credu y wyrth.—Nid oes eisiau yr h yn nhwylaw." Yn nwylaw sydd iawn. Llinellau gweddol dda. Tommy Bach.-Y mae "cyflawnu," o'i di," "llysern," yn anghywir. Bach fel bardd yw Tommy Bach.. Gall gynyddu. Alpha.—Gesyd Alpha yr Haul i ateb Pan wnaeth ef fy ngosod i." I droi oddeutu y ddaear ddu," &c. A ydyw yr Haul yn troi yn osodedig o gwmpas y ddaear ? Bychan ydyw gwybodaeth wyddonol Alpha, ac mor fychan a hyny ydyw ei wybodaeth dduwinyddol a barddonol. Cadfardd.—Y mae hwn raddau yn well na'r hyn a gafodd ein sylw eisioes. Ascelon.—0 Ascelon, pa fodd y gell- aist sillebu If dywedd y byd" felly, a meddeu natur." &c. Cyffredin iawn. Llef Josua.—Y mae hon yn lief effeithiol. Pelledrychwr.-Efallai ei fod yn well edrychwr na bardd. Calep.—Ycbydigo nodwedd farddonol sydd yn y llinellau hyn, er ei fod yn well duwinydd na'r mwyafrif yn y gys- tadleuaeth hon. Camoens.-Dyma ni mewn awyr wir farddonol, a chawn linellau rhagorol iawn gan Camoens ar y testyn cyffrous hwn. Ap Nun.—Ceir Ilinellau canmoladwy gan hwn. Vox.-Beiddgar a gorwyllt yw hwn. Pa le y ca sail i gredu a dweyd :— •««Mewn eiliad wele lor yn archu angel I godi'r ddaear oddiar ei heohelSc. Pa eisiau codi'r ddaear oddiar ei hechel oedd ? Er hyny, y mae yma lawer o ergydion nerthol a newyddion. Milwr.-Y mae gan hwn g&n lied dda a chymwysa yr amgylchiad at eglwys Dduw yn hapus. Gwrandawed amheuwyr:— 18 Ha! cryfach yw deddf ffydd na deddfau enwog, Y Cread oil—mae hwn yn Hollalluog. Calep (2).—Yr hwn sydd yn dechreu "Pan oedd byddin Israel yn dechreu meddianu," &c. Tipyn o hanes wedi ei odli yw y gan hon. Nid oes yma wreichionen o'r peth byw. Llygad y Dydd.—Y mae yn rhaid i'r Llygad hwn gael ei agor eto nes gweled maitruenusyw"eddyw,"am"heddyw." Nid llygad bardd sydd yma, oblegyd nid oes yn y llinellau hyn nemawr o fardd- oniaeth. De Profundis.-Er mwyn pob peth dysgwch Gymraeg cyn meddwl am un iaith arall. Dysgad derfynau berfau Cymreig. "Ehedau'r weddi." Ehed- au'r Ehedau yn ol," &c. 'Does yma ddim dyfnder nac uchder barddol yn y llinellau hyn. Blodeuyn.—Cyfarchiad i'r Haul, heb ddim cyfeiriad at yr amgylchiadau y llefarwyd y testyn, fel y cofnodir gan ysbrydoliaeth, sydd gan hwn. Hwyrach nad ydyw Blodeuyn yn gwybod fod y frawddeg destynol yn un Feiblaidd. A oes ganddo ef Feibl, wys ? Awenydd Crediniol.-Ie, ac awenydd ydyw y Crediniol hwn. Y mae ei linellau yn urddasol a mawreddus. Un o ddeiliaid yr Ysgol Sul.—Rhy gwmpasog a phell oddiwrth y testyn ydynt y llinellau hyn. Amos.—Dyma newyddbeth :— Gan enaid crediniol mewn cyfwng marw. older Ei rhwymwyd mewn eiliad wrth bawl yr eangder." A dyna ddigon i ddangos cymeriad y gan. Caleb.—Daeth eiddo Caleb 14diwrnod yn rhy ddiweddar. Pe buasai mewn pryd, ni enillasai y wobr, er ei fod yn well na'r mwyafrif sydd o'i flaen. Ym- dreched Caleb feddwl tipyn am ra- madeg, a chofio am ei ac cw, a'u lleol- iaeth. Wedi cymharu, gwelwn fod dau yn tra ragori yn mhlith y dorf cystadleu- wyr, sef Camoens ac Awenydd Credin- iol. A barnwn mai Awenydd Crediniol ydyw y goreu, ac iddo ef y dyfernir y wobr. Englyn Beddargraff i'r Diweddar Mrs Gwenllian Morgan, Treherbert.- 'Cychwynasom ar y gwaith o chwilio yn y twr englynion a dderbyniasom ar y testyn uchod, sef 49 o nifer, gydag am- ryw o bethau o flaen ein llygaid a'n cy- northwyai i benderfynu ar y goreu yn y gystadleuaeth hon. Gofyna y pwyllgor am "englyn," felly, rhaid cael meddwl a chynganedd englynol i ddechreu. Yna, dygir ar gof i ni mai Englyn Bedd- argraff ydyw i fod. Un cymhwys i aros a llafaru uwch ei gwely pridd. A chof- iem hefyd mai englyn i Mrs Gwenllian Morgan a ofynir. Yr oedd yn perthyn i Gwenllian Morgans bersonolrwydd a gwahanfodaeth, nodweddion ac ar- benigion annhrosglwyddiadol. Dylai yr englyn. uwch ei phen hi, ynte dweyd mai hi sydd yno, neu yn hytrach mai ei chorff hi sydd yno, a fu yn dabernacl i'r ] enaid sydd wedi myned at Dduw. Dylai yr englyn fod fel ei chymeriad hi, yn annhrosglwyddiadol. Dylai fod yn gy- hwys iddi hi, ac felly, yn anghymwys i bob gwraig arall. Darlun o honi hi fel eiddo yr Heuldebydd raid i hwn fod. Mae hwnw yn onest i'w waith, a rhydd I i chwi ddarlun o Gwenllian Morgan, ac nid o neb arall. Photograffydd barddol ydyw yr un llwyddianus yma i fod, yn cyflwyno y wraig hon yn nheithi a neillduolion ei chymeriad ar y beddfaen o'n blaen. Ceir yn ami wydr yn yr arch uwch gwyneb y marw, ac ond symud y lithren, ceir golwg ar wyneb yr ymadawedig yn ei arch. Mewn cyffelybiaeth dylai yr englyn beddar- graffol fod yr un peth. Pa fodd y saif pethau yn y goleu hyn yn y gystadleu- aeth hon ? Y mae llu mawr o'r englynion a anfonwyd i fewn heb gymaint ag enw Gwenllian Morgan. Ac nid yn unig hyny, ond heb gymaint a darlun o honi. Ac y mae y gweddill, er fod yr enw i fewn, eto, gallent wneud y tro i un- rhyw Gwenllian, a phob Gwenllian gre- fyddol ar y cyfandir hwn, a phob cyfan- dir arall. Newidiwch yr enw, a dyna i chwi englynion parod i bob cystadleu- aeth ddyfodol yn Nghymru, hyd y flwyddyn y bydd yr Eisteddfod Genedl- aethol yn cael ei chynal yn Timbuctoo, Ac mewn llawer o'r englynion yma nid oes eisiau newid yr enw o gwbl gan nad ydyw i fewn; ac felly, mae ganddynt freiniol hawl i fyned o gwmpas y byd crwia i chwilio am goronau. Yr ydym yn gydwybodol argyhoedd- edig, er fod yma rai cynghaneddol deilwng, mai cam â phwyllgor yr eis- teddfod hon, ac a pherthynasau yr ym- adawedig, acham a'rgoron agynygiwyd, fyddai rhoddi y wobr; felly atelir hi.
BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…
BEIRNIADAETH CYFANSODDIAD- AU EISTEDDFOD LLWYNYPIA. Y ffordd fwyaf lwyddianus i atal damweiniau yn y gweithfeydd glo."— Y mae y testyn dyddorol a phwysig hwn wedi tynu allan 17 o gystadleuwyr, ac yn eu plith amryw o rai da iawn. Sylwn arnynt yn y drefn a ganlyn, heb eu rhestri yn ol eu teilyngdod:— Workman.—Traethawd byr, yn dda mor belled ag y mae yn myned. No Theorist.—Yr hyn geir yn y traethawd hwn ydyw dangos rhagor- iaeth y single shift ar y double ghift system, a rhagoriaeth y dull presenol o goedio ar y deputy system. Y tuallan i hyn nid oes ynddo nemawr i ddim. Glo-weithiwr.—Baich y traethawd hwn ydyw dangos sut i agor glofa, a dangos peryglon oddiwrth hen waith, &c. Y mae ei awgrymiadau i atal dam- weiniau yn brin yn ymyl rhai o'i gyd- ymgeiswyr. Shon Ifan.-Traethawd byr ydyw eiddo yr awdwr hwn, heb feddu gradd helaeth o deilyngdod. Ceidw iddo ei hun y wybodaeth a roddodd DYFAIS iddo sut i atal tanchwaoedd. Y mae y wobr yn cael ei chynyg am "Y ffordd fwyaf lwyddianus," &c. Dichon pe buasai wedi nodi pa beth sydd ganddo yn ei fox, y cawsai fod yn nes at y pres. Yn gydymaith i'r traethawd mae gan yr awdwr fap tlws iawn wedi ei dynu; ond yn ol barn y llys hwn, nid ydyw yn ym- arferol. Glowr Profiadol.—Treulia yr awdwr hwn ormod o'i amser i roddi hanes sut oedd a sut mai pethau yn bod, ac nid awgrymu gwelliantau. Un o'r Pwll Glo.-Traethawd heb nemawr i ddim o'r newydd ynddo. Gydag ychydig eithriadau, y mae yn ddyfyniadau bron air am air o weithiau Atkinson, Smyth, a Hopton, a gallesid ei ysgrifenu gan berson heb fod mewn glofa yn ei fywyd. William Penn.—Dyma draethawd o radd uwch na llawer o'i gydymgeiswyr yn y gystadleuaeth hon. Cynwysa lawer o gyfarwyddiadau buddiol, a rhydd bwys mawr ar i'r inspectors ym- weled 4'r glofeydd yn fynych. Profiadol (1).—Y mae y traethawd hwn wedi ei ysgrifenu yn dda, ac yn drefnus ei raniadau. Sylwa ar berchen- ogion gwaith glo, a gweithwyr gwaith glo. Esgeulusa yr awdwr sylwi yn fanwl ar bethau bychain, pa rai sydd yn arwain i ddamweiniau. Hen a gwerinol ydyw y darn sydd ynddo yn trin yr inspectors, &c. Y mae angen dysgu y glowyr fod llawer iawn o'u dyogelwch yn gorphwys y tuallan i afael cyfraith .1 ac inspectors, ac ofer dysgwyl yno yn unig am ymwared. Robert Eloin.-Traethawd maith, yn dwyn delw un yn hoff iawn o'r testyn, ac yn hynod gyfarwydd a rhai awdwyr da ar y mater, yn enwedig Plummer a Hopton. Pe buasai yr awdwr wedi gosod mwyt bethau syml yn ei draeth- awd, buasai yn mhellach yn mlaen yn y gystadleuaeth; ond rhaid dweyd fod hwn yn draethawd llafurfawr, ac yn un gwir dda. Clydach-fab.—Dyma draethawd da eto ond y mae yr awdwr wedi bod mor feiddgar a chopio llawer o hono olyfrau heb nodi hyny. Sylwadau da ydyw ei eiddo ar ddyledswyddau y gweithwyr. Gellid bod heb y soft soap sydd ynddo, a'r penill bach twt at y beirniaid. Experienced Collier.-Mae y traeth- awd hwn yn dwyn mwy o ddelw theorist nac Experienced Collier. Pe buasai yr awdwr wedi gosod mwy o bethau ym- arferol yn ei draethawd, buasai yn nes at y dorch. Eiddo Caesar i Caesar." Dylasai yr awdwr nodi Mr Percy pan yn llwyr gopio ei erthygl ar y Pit ropes and Conductors," pa un a, ym- ddangosodd yn y Colliery Guardian am Medi 30,1881. Nil Desperandum.—Nis gellir wrth y traethawd hwn gasglu fod gwybod- aeth ei awdwr ond prin y tuallan i Ddeddf Rheoleiddiad M wngloddiau 1872. -to" Ychydig gynwysa y traethawd yn amgen nac aralleiriad o hono. Glowr Ieuanc.-Y maehwn yn draeth- awd da, ac yn dangos Ilafur mawr a gwybodaeth addfed am y testyn. Dengys yn eglur sut y gall y meistri a'r gweith- wyr gydgyfranu tuag at ddyogelwch y lofa. Glowr er pan yn naw mlwydd oed.-Y mae yn y traethawd hwn bethau da, ac y mae wedi ei ysgrifenu yn drefnus. Gadawn ef gyda dweyd yn ol ein barn ni, fod ei well yn y gystadl- euaeth. Profiadol (2).-Dyma draethawd da eto, wedi ei ysgrifenu yn eglur ac ys- twyth, a'r awdwr yn deall ei destyn yn rhagorol. Noda y peryglon, a dengys y ffordd i gael gwared o honynt. Treiddgar o'r Graig.-Dyma draeth- awd maith, ac yn cynwys nodiadau rhagorol iawn, pa rai nas gallasai neb ond y profiadol eu hysgrifenu. Er nad mor gelfydd a rhai o'i gydymgeiswyr, y mae yr awdwr wedi llwyddo i wnetid sylwadau ardderchog a gwir ddefnydd- iol. Gwyliwr ei Beryglon.—Dyma y traeth- awd mwyaf syml yn y gystadleuaeth. Cymerayr awdwr hwn yr olwg yinar- ferol ar y testyn ac y mae wedi llwyddo i ysgrifenu traethawd buddiol, ac wedi gweithio allan ei nodiadau yn eglur, rhydd, a rhwydd. Ar ol tafoli a chymeryd i fewn ragor iaethau a diffygion y gwahanol draeth- odau, yr ydym wedi dyfod i'r penderfyn- iad eu bod o ran teilyngdod yn sefyll fel y canlyn :-Gwyliwr ei Beryglon, y goreu. Treiddgar o'r Graig, yr ail oreu. A Phrofiadol (2), yn drydydd oreu. Ac & hyn y mae fy nghydfeiraiaid parchus yn cydolygu. Heb geisio gwen nac ofni gwg neb. Yreiddochyngywir, GWRTYDD.
AMGYLCHIAD HYNOD.
AMGYLCHIAD HYNOD. Chwefror 5, 1882, o fewn rhyw filldir a haner i gapel Jerusalem, Waukesha, Wisconsin, bu farw Miss Eliza Ann Jones, merch i Mr John Jones, Cae- madog, yn 19 mlwydd oed. Yr oedd yn ferch grefyddol a duwiol, a bu farw dan ganu I Chwefror 7fed, yn mhen dau ddiwrnod ar ei hoi, bu ei chwaer, Miss Mary Jane, farw yn 21 mlwydd oed. Yr oedd hon yn un o'r merched mwyaf hynaws, rhinweddol a chrefyddol, yn yr holl gymydogaeth, a bu farw yn ogoneddus, gan bwyso ar yr lawn a chanmol ei Gwaredwr. Hi oedd an- .ft ?^ v:i UO? xi/kiri wylyn y teula. Etc, Chwefror 13egyn mhen chwe' diwrnod, bu eu mam, Mrs Margaret Jones, farw, yn 47 mlwydd oed! Gwraig rinweddol iawn oedd Mrs Jones, ao yn ei marwolaeth cafodd eglwys Jerusalem golled fawr. Cyn marw adroddai y geiriau: Yn y dyfroedd mawr a'r tonan Nid oes neb a ddeil fy mhen," &c. Buont farw oil o'r pneumonia, gan adael Mr Jones a saith o blant ereill, i alaru ar eu hoi. Cawsant y gladdedig- Mth fwyaf barchus, a'r holl gymydog- aeth yn troi allan i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch J. Moses, yn Gymraeg, a'r ysgrifenydd yn Saesneg.
DYDDIAU MARI WAEDLYD. >
DYDDIAU MARI WAEDLYD. > PENOD VII. Fel yr oedd y Pabyddion yn ymhyfhao yn eu gweithrediadau yn erbyn Protes- taniaeth, defnyddient bob cyfleusdra i ddileb pob arwydd o barch i air Duw. Hi eageulusai yr anghenfil Bonner, esgob Llundain, un flfurf o weithredu tuag at yrtt Protestapiaeth o'r wlad, a gosod gair Duw allan o olwg ac o glustiau y trigolion* Gorchymynodd y dyn annuwiol hwnw fod pob adnod o'r Beibl oedd wedi cael ei gosod at furiau yr eglwysi yn cael eu dileut Profa hyn elyniaeth hanfodol Pabyddiaeth yn erbyn gair Duw. Gosodwyd adnodau y Beibl ar iuriau yr eglwysi yn amser teyrn* asiad brawd Mari, sef Edward VI. Dy. wedodd yranghenfil Bonner mai "plant v anwiredd oedd wedi gosod yr adnodau ar furiau yr eglwysi I Dywedodd hefyd en bod wedi gwneud |hyny er mwyn cynal heresi i fyny, gan agor ffenestr i bechod trwy hyny, a chan i fyny y ffordd i rinwedd II J Dyma gabledd y dyn rhyf. ygul ar amcan goleurn gair Duw! Herera dinystriol i rinwedd, a chefnogol i bob math o bechod, oedd gosod adnodau y Beibl o flaen llygaid cynulleidfaoedd o addolwyr, yn nghyfrif y dyhiryn Pabyddol Bonner U Pa ryfedd fod melldith y nefoedd wedi disgyn ar y Babaeth ? Gwyddai y Pabyddion nas gallai eu crefydd hwy foa ynbwysig yn nghlorianau y Beibl; ei bod hi, yn y clorianau hyny, yn ysgafnach na gwegi; ei bod yn cael ei chondemnio gan yr holl Feibl; a bod y rhai a'i mabwys- iadent ar y ffordd i uffern. Yn ngwyneb hyny gwnaeth y Pabyddion bob ymdrech i yru y Beibl allan o'r wlad, ac i roddi terfyn ar einioes pawb a barchent y Beibl. Yr oedd Bonner yn selog i osod delwau i fyny yn yr eglwysi, i'w haddoli gan y bobl, yn lie iddynt gael meddwl Duw yn adnodau y Beibl. Y mae Pabyddion yr oes hon wedi profi, mewn llawer ffordd, eu bod yn erbyn y Beibl, fel Pabyddion amser Mari Waedlyd. Yn y flwyddyn 1814 yr oedd papyr Pabyddol yn cael ei gyhoeddi o'r enw Orthodox Journal. Yn hwnw dywedodd Pabydd, Cyfeiliornad gwrthun yw yr athrawiaeth fod gan bob dyn hawl i ddarllen y Beibl. Cynghorwn i Eglwys Loegr alw i mewn bob Beibl. Byddai yn dda yn ngwyneb yr awydd gorphwyllog presenol am Feiblau, fod treth yn cael ei gosod ar bob dyn a ddarlleno y Beibl, ac na chaniataer i neb ei ddarllen heb yn gyntaf gael trwydded at wneyd hyny. Paham nad yw mor briodol trethu y Beibl ag ydyw i drethu crach gyffyriau ereill"? Dyna iaith Pabydd. iaeth yn mhob oes. Beiddia daflu dir- myg ar air Duw, er mwyn gwneud He i i deyrnasiad tywysog y tywyUwch o fewn i'r Eglwys Babaidd. Pe cynygiai y Protes- taniaid fod pob un a weddiai ar y forwyn Fair yn cael ei drethu, neu fod treth yn cael ei gosod ar y dwfr cysegredig a ddef- nyddia y Pabyddion, buan y cyfodai gwaedd yn eu gwersyll hwy yn erbyn y fath dreth, fel ffurf o erledigaeth. Rhoddodd y Pab yn 1816 ei olygiadau yn erbyn y Feibl Gymdeithas. Dywedodd fod y Gymdeithas hono "gyda chyfrwysdra yn amcanu cloddio o dau sylfeini crefydd; fod y Gymdeithas yn haint dinystriol, yn halogi y ffydd, ac yn beryglus i eneidiau"! Amlwg yw wrth hyn, fod Eglwys Rhufain yn dal y pwynt tnai mamaeth eu crefydd hwy yw anwybodaeth o air Duw. Profa hyn hefyd pa mor awdurdodol yw gair Duw yn erbyn cyfeiliornadau y Babaeth. Y mae.cywilydd ar lawer Pabydd i orfod cydnanod yn awr fod Eglwys Rhufain yn erbyn i'r werin ddarllen y Beibl, fel yn amser Mari Waedlyd. Ond yn ol deadf Eglwys Rhufain, yr hon a basiwyd yn Nghynghorfa Trent, y mae y Beibl, yn y bedwarydd reol yn y gyfraith hono, yn un o'r llyfrau y gwaherddiri'r bobl ei ddarllen yn eu hiaith eu hunain, ond fel y gwelo yr esgob neu swyddog y chwil-lys yn dda. Ao nid oos ond y cyfieithiadaufa wneir gan Babyddion i gael eu darllen gan neb. Rhaid i ddynion gael trwydded ysgrifenedig i ddarllen y rhai hyny. A dywed y ddeddf Babyddol, "Pwy bynag a ryfygo heb y caniatad hyny, i ddarllen, neu i feddianu Biblau, nid yw i gael maddeuant o'i bech- odau nes iddo anfon y Beiblau hyny at yr esgob." Os nad yw y Pabyddion yn cadw y gyfraith hon, heb fod y gyfraith wedi cael ei dileu, amlwg yw fod Eglwys Rhufain yn amddifad o'r undeb a'r anghyf- newidioldeb hyny a ystyria hi sydd yn brofion mai hi yw y wir Eglwys. Dywedodd Pabydd yn Nghynghorfa Trent "fod yr Ysgrythyrau wedi myned yn ddiwerth, er pan yr oedd y Schoolmen Pabyddol wedi cadarnhau pob athrawiaeth, ac nad oeddlneb ond y Lutheriaid yn cael y rhai a ddarllenent y Beibl." Dywedodd Daniel O'Connell "nas gallai y Pabyddion byth dderbyn y Beibl heb nodiadau ac esboniad arno." Yr oedd y Pabyddion yn amser Mari I Waedlyd wedi gwneud Uawer i sefydin y r'
H E R E W.
H E R E W YR OLAF O'R SAESON. IPENOD VI. -Yr oedd Hereward wedi -yfed-ei ran yn mhriodas Sigtryg. Yr oedd wedi cynorthwyo i ddifrodi -tiriogaethau O'Brodar, nes (fel yr oedd y Brenin Banald wedi bygwth) nad oedd,cymaint a pharchell wedi ei adael yn Ivark, a bu farw y boblogaeth o newyn, fel yr oeddent yn gwneud bob rhyw saith mlynedd. Yr oedd efe, fel y dywed y croniclau, wedi rhuthro drwy y wer- syllfa Wyddelig gyda nifer dewisedig o filwyr, wedi lladd O'Brodar yn ei babell, ac wedi dwyn ei ryfel-gorn fel ysbail, a thori yn ol at y fyddin Danaidd, yn yr hwn amgylchiad y niweidiwyd yn fawr jrddau Siward. Yn awr cymerwyd meddiant o hono gan glefyd cartref. Mynai fyned yn ol i weled yrlhen gartref, lien lanerchau ei ienenctyd, yn nghyda'i fam weddw. Fe allai fod ei chalon wedi ei thyneru tuag ato, fel yr oedd ei un ef tuag ati hi; end os nad oedd, dangosai efe iddi y gallai wneud hebddi. Yr oedd Hereward yn gwybod ei fod wedi enill anrhydedd iddo ei hun, a bod ei enw yn ngenau pawb fel gwron penaf ei ddydd. Elai; efe a elai i weled ei fam. Os byddai hi ya dyner, byddai yntau yn dyner; ond os byddai yn gas, gallai yntau hefyd fod felly. Gwyddai hefyd y gallai unrhyw un a ddymunai ei ladd tra ar y diriog- aeth Saesonig, a gwyddai fwy, y buasai i iawer ymgeisio at hyny. Ond yr oedd hyny yn gwneud yr ymgymeriad yn fwy Gymunol iddo. Yr oedd Martin Ysgafndroed yn falch o'r newydd. "Nid oes genyf ychw&neg i'w wneud yma," ebe efe. Yr ydwyf wedi gofyn a chwilio am y dyn yr wyf am ei weled, ond nid yw yn yr Iwerddon. Ond na hidiwch, cat ei weled cyn'fy marw." Am bwy yr wyt yn edrych?" "Am un Thord Gunlaugsson, fy nhid." A beth yr wyt yn ei geisio ag ef ?" "I roddi hon trwy ei ymenydd," gan ddangos ei fwy ell. Ymenydd dy dad ?" "Edrychwch yma, arglwydd. Nid yw dyn yn ddyledus i'w dad am ddim, ond i'w fam o bob peth. Modd bynag, felly y mae gyda mi. Yn awr, os bydd i ddyn gymeryd y fenyw hono, o ba un y ganwyd mab, a'i chrogi gerfydd ei dwylaw neu ei thraed, a'i fflangellu i farwolaeth, a ydyw hi ddim yn ddyled- gwydd ar yr hwn a anwyd o honi ei dial ar y dyn hwn, yn enwedig gan mai efe, ac efe yn unig, a fu yn ymwneud a'r fenyw hono ? Yr wyf yn rhwym o ddial fy mam ar y dyn hwnw. Y mae hyn wedi bod yn fy mhen am yn agos i ugain mlynedd, ac nid gwiw ceisio ei gymeryd allan. Yr wyf yn myned dros yr helynt bob nos cyn cysgu, rhag i mi anghofio yr un peth y rhaid i mi ei wneud cyn marw." Felly gofynodd Hereward am longau, a chafodd ar unwaith ddwy long dda yn dal am ei wasanaeth. Enwodd y ddwy long, i un o ba rai y rhoddodd efe yr enw Dwfrgi, am, meddai, na ollynga efe ddim nes clywed asgwrn yn cracian. Yr oeddynt yn lestri rhagorol, bron yn wyth droedfedd 0 hyd bob un, a lie i ddeuddeg rwyfo bob ochr. Yr oedd hefyd un hwyl fawr ar y llestr, wedi ei gwneud gan y dywys- oges ac ereill, a Hun arth gwyn ami, yr hyn oedd Hereward wedi ei ddewis fel ei arwyddlun. Am ddynion, yr oedd haner cant mor awyddus ag yntau, ac yn erfyn cael myned gydag ef. Rhoddasant yn y Uestr gyfanswm o bebbles mawrion yn falast, ac ar y rhai hyny y barilau o ddiod, cig, blawd, &c. Yn y ddau gaban rhoddasant eu harfau a'u dillad o bob math, a chrogasant eu tarianau o'r tu allan yn ol arferiad yr adeg. Gadaw- sant borthladd Waterford yn nghanol dagrau y boneddigesau a llongyfarch- iadau y dynion. Modd bynag, ni fu yr hynt fordwyol yn llwyddianus. Deallodd Hereward fod ei longau ac arnynt rhy fach o ddwylaw, ac aeth tua'r Gogledd er celsio cael ychwaneg. Ni chafodd neb yn Dublin, am eu bod oil wedi myned tua Chymry i gynorthwyo Iarll Algar a'r Brenin Griffin. Felly, aeth yn mlaen, gan feddwl ysbeilio wrth fyned, ond methodd a chael ond ychydig, tra y collodd efe amryw ddynion. Aeth yn ei flaen i'r Orkneys i geisio am ddwylaw newyddion gan Norse, Iarll Hereof; ond yno cafodd anffawd arall. Canlyn- wyd hwy gan forfil mawr, yr hwn a sicrhaent oedd yn forfil gwyn, ac yn arwydd o anffodion pellach; ac felly y bu, ymosodwyd arnynt gan ystorm yn Pentland Frith, ac aeth un o'r llongau i dir, yr hon a adawyd yno yn oes oes- oedd. O'r braidd yr achubwyd y dwy- law, ond dim o'r llwyth. Yn awr yr oedd y llong Dwfrgi yn rhy lawn o ddynion, a gorfu ar Here- ward adael dwsin o ddynion yn Kirk- wall, a morio yn ddeheuol, dan ganu llinellau yn trosglwyddo y drychfeddyl- iau, "Pa d'w'llaf yr awr, agosaf y wawr." Ond nid oedd eu hanffodion drosodd eto. Nid oeddynt ond o'r braidd allan o Stronsay Frith cyn iddynt weled y morfil dewinol drachefn yn eu canlyn i fyny, ac yn gwneud spranciau cy- thryblus. Dywedai rhai o'r morwyr eu bod hefyd wedi gweled menyw lwyd ar ei gefn, a. phenderfynasant oddiwrth olygfa y nefoedd a'r morfil fod ystorm yn eu haros. O'r diwrnod hwnw allan ni adawodd y morfil na'r ystorm hwy, ond curwyd hwynt yn ddibaid. Unwaith meddyl- iasant eu bod wedi gweled tir isel yn ddwyreiniol, ond yn mha Ie, na pha beth ni wyddent, ac ni allent fyned yn agos o herwydd yr ystorm. Aeth y dynion yn chwerwac ofnus. Yr oedd rhai o honynt am fyned ar ol y ddewines, a thori ei chefn. Ereill a ddywedant fod dyn anffodus, megys Jonah, ar y bwrdd, a chynygient fwrw coolbren nes dyfod o hyd iddo, ac yna ei daflu i'r mor fel aberth i Dduw y tonau. Ond dywedai Hereward nad oedd hyny yn ddynol na gwrol, ac os byddai raid, mai marw yn nghyd a wnelent. Yn mhen amryw ddyddiau yr oeddeu nerth oil wedi myned. Yr oeddynt wedi rhoddi i fyny rwyfo, ac wedi bodd- loni rhedeg o Baen y gwynt. Yn ystod y nos torodd ton drostynt, ac oni buasai fod y Dwfrgi yn lestr heb ei bath, buasai wedi ymollwng. Ond ni wnaeth hi ond ymysgwyd fel ci wedi bod yn y dwfr, ac ymaith a hi. Modd bynag, yr oedd tri o ddynion yn un rhan o'r llestr pan yr aeth y dwfr drosti, ond nid oeddynt yno pan yr aeth y dwfr ymaith. Yn y cyfwng hwn canodd Hereward nes calonogi ei wyr yn fawr pan ar ddigaloni. Yn sydyn, wedi cawod neu ddwy drom, dechreuodd yr awyrgylch clir ymddangos, a rhai milldiroedd oddi- wrthynt linell o dir, ond ni allent weled y cyfryw dir ond pan ar frig y don. Yr oeddynt yn cael eu taflu agosach, agos- ach ato, ac yr oedd y bryniau swnd goleu yn dyfod yn amlycach y naill fynyd ar ol y Hall. Ni gawn farw ar dirt ond nid yn droedsych," ebai Martin. A oes rhai o honoch chwi, farchogion y brwsh tar, yn gwybod a ydym ni yn myned i gael ein boddi mewn dyfroedd Cristionogol ai peidio? Byddwnfarwynddedwyddach yn ngolwg twr Eglwys." Ni wyddom yn y byd lie yr ydym, ond yr ydym yn rhywle, ac y mae hyny yn well na bod yn unlle." Pe buasai i ni lanio yn mhlith y Frieslanders, ni buasem ond yn cael ein taraw yn ein penau ar unwaith; ond os bydd i ni syrthio yn nwylaw Ffrancod, rhoddant ni ar unwaith yn y carchar, a phoenant ni nes talu pridwerth." "Nid wyf yn gweled hyny," ebe Martin, gallwn oil gael eia boddi os ewyllysiwn." Ni raid i ni foddi," ebe y prif hen forwr wrth Hereward. Mae y llanw yn llawn, ac y mae hyny yn rhoddi i ni un siawns eto am ein bywyd. Cadwch ei phen yn gymhwys, a rhwyfwch fel gwroniaid, glaniwn hi ar dir sych, a chymerwn ein siawns." Ac yr oedd y siawns hwnw yn un digon gwael. Yr adeg hono, fel am, flynyddoedd wedi hyny, yr oedd pob i drylliadau-yn ddynion ac eiddo yn berchen cyhoeddus; ac yn ami gwerthid morwyr adeflid yma a thraw, yn gaeth- ion, os na roddid pridwerth mawr am eu gollyngdod. Yr oeddynt wedi cael eu gweled eisioes oddiar y lan, ac yr oedd tyrfa yn dysgwyl eu glaniad, a'r rhai hyny yn greaduriaid awyddus am ysglyfaech. Yn awr, wyr, rhoddwch yn mlaen eich holl arfogaeth, ond na rodiwch ergyd ac na ollyngwch saeth cyn i mi roddi y gair. Mae yn rhaid i ni lanio yn heddychol os gallwn, os na, byddwn farw yn ymladdwyr." Felly, cymerodd Hereward afael yn y llyw ei hun. Yn awr," fel y nesaai i dir, tynwch yn nghyd rwyfwyr, tyn- wch gydag ewyllys." Gwaeddodd y dynion allan, gan neidio at y rhwyfau a chyflawni yr archiad. Torai y tonau ar draws yr oil, a chlywyd gwaelod y bad yn cyftwrdi a'r graian, a chyda'r seithfed don, tafl- wyd hwy yn uchel a sych i'r lan, a rhuthrodd y morwyr y naill ar ol y llall i dir. Heidiodd y trigolion i lawr fel gwybed at garcas, ond ataliasant wneud dim wrth weled yr arfau gan y morwyr. Modd bynag. hebryngwyd saeth neu ddwy tuag at y llong, ond ni atebwyd y cyfryw, ar archiad Hereward. "Byddwch yn amyneddgar, ac eto peidwch a dangos eich bod yn eu hofni. Dyna yr unig obaith am heddwch." Ar hyn dyma nifer o wyr meirch yn dyfod o rhwng y bryniau swnd melyn., ion-rhyw ugain o rif. O'u blaenau marchogai bachgenyn, ac wrth ei ochr ysgrifenydd. Arosasant i siarad £ 'r dynion, ac yna, ymgynghori a'u gilydd.
,. 0 NEWYDDIADUBON CYMBEIG…
0 NEWYDDIADUBON CYMBEIG AMERICAN AIDD. MABWOLABTHAU. Yn Des Moines, Iowa, Chwefror yr 8fed, Mr Caleb John, un o berchenogion yr Union Coal Works. Bu yn dyoddef er's rhai blynyddoedd bob gauaf oddi- wrth y peswch. Ni fu yn cadw'r gwely ychydig ddyddiau. Yr oedd yn enedigol o Sir Benfro. Daeth i'r wlad hon o Aberdar, Morganwg, 20 mlynedd yn ol. Yr oedd yn aelod parchus ac yn ddiacon yn Moriah, eglwys yr Annibynwyr yn Des Moines, Iowa. Danfonwyd ei gorph i Brookfield, Ohio, i'w gladdu. Gadawodd ar ei ol briod dyner i alaru. Ionawr 17eg, yn Pittston, Pennsyl- vania, yn 32 mlwydd oed, Mrs. Jane Jenkins, gwraig Mr W. F. Jenkins, gan adael priod a chwech o rai bychain i deimlo colled am fam dyner a gofalus, a phriod hawddgar. Cafodd ein hanwyl chwaergystuddtrwm dan y typhoid fever, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel, gan gwbl ymorphwys ar yr Iesu, i'r hwn yr oedd wedi rhoddi gofal ei henaid er yn ieuanc. Bedyddiwyd hi gan yr Hybarch John W. James, ar broffes o'i ffydd yn Iesu Grist; a. gellir dweyd ei bod wedi cadw ei ffydd hyd y diwedd, ac yn awr, mae yn gwisgo y goron oedd yn nghadw iddi gan ei Cheidwad. Yr oedd Mrs. Jenkins yn chwaer rinweddol, garedig, ac addfwyn, a pherchid hi yn fawr gan bawb. Genedigol oedd o Rymni, Sir Fynwy, sef merch i B. a Mary Havard. Claddwyd ei thad flynyddau yn ol. Daeth i'r lie hwn gyda'i rhieni pan nad oedd ond ieuanc. Yn 1868 ymunodd mewn priodas a Mr Jenkins, a threul- iasant eu tymor yn ddedwydd hyd nes y dadgysylltiodd angeu yrundeb. Mae ei mam yn fyw, ac yn briod a'r brawd duw- iol, Mr John Evans, Providence. Wedi cystudd o ddwy wythnos, bu farw Mrs. Ann Evans, priod Mr. John Evans, -Nanticoke, Pennsylvania. Ei hafiechyd ydoedd y clefyd melyn. Yr oedd yn agored iawn iddo, ac wedi ei gael o'r blaen, ac yn gwella yn gydmarol gyflym; ond y tro hwn, yr oedd wedi cymeryd gafael mor eithafol yn ei chyf- ansoddiad, fel yr aeth yn fuan tuhwnt i bob gallu meddygol. Genedigol oedd o sir Frycheiniog, Treuliodd ran o foreu ei hoes yn Aberhonddu a Chefncoed- cymer. Yn 1857, ymunodd mewn pri- odas a John Evans, yr hwn sydd yn bresenol yn galaru ar ei hoi. Bu iddynt ddeg o blant, ond tri yn unig sydd yn fyw, i deimlo y golled a'r amddifadrwydd o fam. Yr oedd ei phriod yma er's tua dwy flynedd, ond nid oedd ond tri mis er pan oedd hi wedi dyfod o Gymru, yr hyn sydd yn gwneud yr ergyd yn drymach fyth i Mr. Evans a'r plant. Nid oeddy chwaer Evans wedi bod yn grefydddol yn hir iawn. Bedyddiwyd hi yn y flwyddyn 1877, yn Moriah, Pentre, Ystrad Rhondda, gan y Parch. W. James. Ond os na fu ei thaith grefydd- 01 yn hir, bu yn ddigon hir iddi ddangos yn eglur mai un o bererinion Seion ydoedd.
MANJON*
MANJON* Crogwyd y tri ysbiwyr Indiaidd, Dead Shot, Dandy Jim, a Skippy, yn Fort Grant, Arizona, y dydd o'r blaen. Esgynasant i'r dienyddle dan chwerthin, gan ddweyd y buasent yn fuan yn cyfar- fod eu cyfeillion. Cwyna llawer o fasnachwyr Philadel- phia fod heddgeidwaid y ddinas hono yn cytuno gyda lladronac fod yno alwad cyffredinol am ddiwygiad. Cyff- esodd un lleidr ar ei wely angeu fod yr heddgeidwaid yn gwybod iddo ladrata gwerth 5,000 o ddoleri o emau ac oriad- uron aurl ? .———————. i