Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
TRETHDALWYR PLWYF YSTRAD^…
TRETHDALWYR PLWYF YSTRAD- YFODWG. MRI. GOL.Maddeuwch i mi am gyfeirio ..ga,1r atoch mewn perthynas i'r etholiad sydd yn awr wrth y drws.Deallwyf fod dau neu ragor o foneddigion yn meddwl dyfod all an i geisio am sedd ar Fwrdd y Guardians. Yr unig air sydd genyf atoch ydyw, na fydded i chwi esgeuluso cefnogi yr hen aelodau da—aelodau Syddlon nid ceisio sedd er mwyn yr anrhydedd yn unig, ond dynion, wedi cael seddau, sydd yn gwneud ffyddlondeb yn fater cydwybod- byth yn colli Bwrdd os bydd iecbyd yn caniatau; hefyd, yn actio'r tynerwch bob amser at y tlawd. Ni bydd un achos o deilyngdod yn cael ei esgeuluso ganddynt, costied a gostio. Wel, un o'r rhai hyny ydyw Mr W. Davies, Court Villa pwy a wad hyn? Neb o gymydogaeth Llwyny- pia a Thonypandy. Os felly, pwy eisiau ei newid ? Gadawer dynion sydd wedi eu profi yn ddynion da i aros ar y Bwrdd, rhag ofn i ni gael ein siomi. Gwyddom am rai all addaw yn ganmoladwy iawn, ond • Did ydynt ofalns bob amser i gyflawni pob addewid; ond ni cheir addewid gan y bon- -eddwr o Gourt Villa heb ei fod yn meddwl y cyfryw. Nid yw y cyfaill hwn heb ffaeleddau a cholledion, ond credwyf yu ouest fod anhebgorion Guardian rhag- orol wedi cyfarfod ynddo, ac felly y cyd. nabyddir ei ar y Bwrdd,gan yr holl aelod- au edrychant aruo fel dyn o ymddiried, ♦ydwybodoi yn mhob peth a wna ac a ddywed. Byddwn yn ffyddlon, ynte, i roi iddo ein pleidleisiau, fel y gosoder ef eleni etc nid yn ail, ond yn flaenaf ar y rhestr -etholiadol. Y mae yn ddyn o werth i ni osod yr aarhydedd hwn arno. TRETHDALWR.
MARWOLAETH DOWLAISYDD.
MARWOLAETH DOWLAISYDD. Blin genym orfod cofnodi hanes marwol aeth a chladdedigaeth y bardd galluog a gwladgarol, Mr William Thomas (Dowlais ydd), Ivor Arms, Dowlais. Digon tebyg fod lluaws o ddarllenwyr y DARIAN heb wybod dim am Dowlaisydd fel bardd, a'r rheswm am hyny yw, fod y bardd yn ym guddiooolwg y byd llenyddol er ys blyn- yddau bellach. Nid yw wedi cyfansoddi end rchydig yn ei flynyddau olaf, ac nid yw "c ychydig hyny wedi cael cylioeddus- rwydd. Ond er hyny, bu adeg pan yr oedd Dowlaisydd yn ddysglaer fel bardd, a chredwn y bydd ei enw yn uchel eto ar ol cyhoeddi ei gyfansoddiadau yn llyfr, fel y deallwn y bwriedir gwneud cyn hir. Yr oedd yn Ddowlaisydd o'i enedigaeth hyd ei farwolaeth, ac yn ddyn a berchid gan ei gydnabod yn gyffredinol ar gyfrif ei wybodaeth eang, ei barodrwydd dihafal, ei wladgarwch chwilboeth, a'i gymeriad diar- gyhoedd. Yr oedd yr hen fardd parchus, Nathan Dyfed, ac yntau, yn gyfeillion mynwesol er ys blynyddau lawer, a'r fath oedd patch mawr yr hen Nathan iddo, fel yr wylodd fel plentyn pan glywodd am ei farwolaeth. Er ei fod yn ddyn o ym- ddangosiad gwrol a chadarn, eto poenid ef er ys blynyddau gan yr asthma, yr hyn yn y diwedd a droes yn farwolaeth iddo. Claddwyd ef dydd Llun, Mawrth 20fed, yn mynwent y Faenor, a thystiai y dorf ar. tithrol oedd yn ei angladd ei fod yn ddyn a benjhid yn gyffredinol. Heddwch i'w lwch, a bydded amddiffyn Duw ar ei weddw a'i berthynasau galarus. Awen dlos ein Dowlaisydd,-a'n swynai A'i llais anwyl beunydd; A gwir swyn yn gwawrio sydd Ar hanes yr awenydd. Od mewn gweryd mae'n gorwedd-uwch Chwifia ein hedmygedd; [ei fedd Ha 1 fe erys ei fawredd I hawlio'i barch yn niwl bedd. CADIFOB.
♦ LIVERPOOL.
♦ LIVERPOOL. YR HIN-Y GWYDDELOD-RHEDEGFEYDD- DIE WEST—UNDEB YSGOLION. Gwyddoch i mi sylw yr wythnos ddi. weddaf ein bod wedi ein breintio a thywydd megys hafaidd er ys peth amser; ond y mae genyf yr wythnos hon i grybwyll ein bod wedi cael cyfnewidiad mawr. Y mae er boreu Llun diweddaf yn gwlawio yn drwm bron o hyd; ac nid yn unig hyny, ond y mae y gwyntoedd o hyd yn dal yn uchel, fel rhwng yr oil, ystormus yw hi wedi bod arnom er yr adeg a nodwyd. Am ba hyd y bydd iddi barhau fel hyn, nis gwyddom, ond yn ol pob argoel, y mae yn debyg y gwirir yr hen ddywediad yn ei gysylltiad a mis Mawrth, ac y bydd iddo "fyned allan fel llew." Y mae yn dda ganyf allu cofnodi nad oes un niweid, o herwydd y tywydd garw, wedi cymeryd lie yn y ddinas nac ar yr afon. Cofus genych yn ddiau i mi son yr wythnos diweddaf fod y Gwyddelod ar y cyfan wedi ymddwyn yn lied deilwng ar ddydd gwyl eu Sant; ond ni ddarfu iddynt barhau felly y dyddiau dilynol. Dydd Sabboth diweddaf, mewn un hen le y mae llawer o Wyddolod o amryw fatbau yn byw, cymerodd gwrthdarawiad le rhwng y rhai Pabyddol a'r Orangemen, a niweidiwyd amryw-rhai o honynt yn lied ddrwg—a chyfrifir nad oedd dim llai na tua 4,000 o bobl ar yr heol yr un adeg, rhwng edrych- wyr ac ymrafaelwyr. Cafodd yr heddgeid. waid gymaint a allasent wneuthur i roddi i lawr y twrw, a cbymerasant nifer fawr i'r ddalfa. Dygwyd y rhai hyny o flaen yr ynadon boreu Llun diweddaf. Dirwywyd rhai o honynt i ugain swllt a'r costau ac uchod, a danfonwyd ereill yn ol am rai dyddiau eto, i gymeryd eu prawf wedi i'r heddgeidwaid fod yn barod gyda y tyst- iolaethau. Cafwyd digon o dystiolaethau yn barod i ddangos fod llawer o honynt— es nad yr oil—o dan effeithiau y pethau meddwol yn yr ymladdfeydd. Dim yn rhyfedd, yn wir, oblegyd naturiol yw i'r felldith dori yr heddwch. Prif ddifyrwch y Saeson, sef rhedeg- feydd ceffylau, sydd wedi tynu mwyaf o sylw yma yr wythnos hon, yr hyn a alwant yn Liverpool Grand National Steeple-shase." Cymerodd y rhai hyn le ddydd Iau diweddaf, ddoe, a heddyw (ddydd Sadwrn). Dygwyd amryw o ddy- eithriaid o herwydd y rhai hyn i'r ddinas, yn enwedig ddoe, pan oedd trens rhad yn rhedeg yma o wahanol fanau o'r wlad, y rhai, wedi y cyfan, a welwyd yn ymddwyn yn deilwng o honynt eu hunain, er fod y dosbarth sydd yn dilyn y rhedegfeydd, fel rhool, yu bofl o ddigta. Ni fiafrwyd neb gan yr hin, a diau fod amryw o'r dosbarth betyddol, o herwydd y geirwinder hwnw, wedi methu yn eu hamcanion, ac nid yn unig wedi gorfod dyoddef gwlychfa dda bob dydd, ond dyoddef hefyd yn eu llogell- au. Yr hyn sydd wedi tynu sylw penaf y Cymry yma yr wythnos hon ydyw gwyl ddirwestol, pa un oedd yn dechreu nos Llm, ac yn parhau hyd heno. Cynaliwyd cyfarfodydd yn ngwahanol addoldai y ddinas, a'r cyffiniau, yn nghyda Birken- head. Cafwyd gwasanaeth y gweinidogion canlynol o Gymru,—y Parchn. D. Phillips, a A. J. Parry, Abartawe; D. Oliver, Treffynon, a J. H. Evans (Cynfaen), J. Jones, Rhos, (gynt o Gaernarfon), a J. Williams, Brynsiencyn, yn nghydag am. ryw o'n gweinidogion lleol, a rhai o'n lle- ygwyr blaenaf fel Cymry, yn ynadon, ys- grifenwyr i ynadon, a masnachwyr o wahanol fathau. Cafwyd cynulliadau llu- osog, ac yn ddios cyfarfodydd brwdfrydig, y rhai yn ddiau a fydd yn sicr o adael effeithiau daionus ar eu holau. Nid ydyw adroddiad yr ysgrifenydd o'r rhai a ar- dystiodd o'r newydd, a phethau ereill mewn cysylltiad a'r wyl, wrth gwrs, yn barod, gan fod rhai cyfarfodydd yn cael eu cynal yn adeg y mae y llinellau hyn yn cael eu hysgrifenu. Gan hyny, dichon y ceir dychwelyd at y pwnc hwn ryw dro eto ond y mae digon, o ran hyny, wedi ei grybwyll i ddangos fod y Cymry mwyaf ystyriol yma, fej mewn lleoedd ereill, yn fyw i'r wybyddiaeth o ba beth ydyw prif elyn gwlad a chrefydd. Y mae adroddiad Undeb Ysgolion Sab- botliol Cymreig Liverpool a'r cyffiniau," am y flwyddyn 1881, yn awr mewn Haw. Er dangos sefyllfa yr undeb, nis gallaf wneuthur hyny yn well na rhoddi crynho- deb o hono mor agos ag y gellir yn ei iaith ei hun :—Cynwysa yr Undeb yn awr 31 o ysgolion-15 yn Fethodistiaid Calfinaidd, chwech yn Annibynwyr, chwech yn Fed- yddwyr, a phedwar yn Wesleyaid. Cynal- iwyd y gyngerdd fel arferol nos Fawrtb y Sulgwyn yn y Philharmonic Hall. Bu yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr. Car- iwyd allan yr arholiad yn mis Chwefror, pryd y daeth i gystadlu ar y testynau gos odedig 66 o ymgeiswyr, sef mwy o tua'r haner na nifer y flwyddyn flaenorol. Mewn cysylltiad a'r Undeb traddodwyd yn ystod y flwyddyn gyfres o ddarlithiau ar wahan- ol destynau, gan y Parchn, John Evans, Eglwys Bach; Wm. Rees, D.D.; John Hughes, D.D., a Lewis Morris, Ysw. Yr oedd yr Undeb ar ddechreu y flwyddyn mewn dyled o 30p. 9s., ond erbyn hyn y mae 5p. lis. o arian mewn llaw. Y mae yr ystadegau yn dangos fod cynydd mawr wedi cymeryd lie yn nifer aelodau yr ysgol- ion yn ystod y fiwyddyn. Dwy flynedd yn ol—sef ar ddiwedd 1879-yr oedd nifer yr holl aelodau yn 7,996, ac ar ddiwedd 1880, safai yn 8,026, ac erbyn hyn y mae y nifer wedi cyrhaodd 9,203. A yr adroddiad yn mlaen i ddangos y cyfartaledd yn y pre- senoldeb, gan ddatgan gofid nad ydyw yr hyn a ddylai fod yn ol y nifer ar y llyfrau. Nos Sadwrn, wythncs i heno, cynaliwyd cyfarfod llenyddol yr Undeb yn nghapel y Wesleyaid, yn Shaw street, pryd y cymer- wyd y gadair gan Mr John Davies, Llyw- ydd yr Undeb, ac aelod o'r cynghor dir. westol yma. Yr oedd y llwyfan yn un ddylanwadol o weinidogion a lleygwyr. Wedi i'r adroddiad gael ei ddarllen, a'i fabwysiadu i'w argraffu, a'i ddosbarthu yn yr ysgolion, pasiwyd amryw o benderfyn. iadau, ac yn ystod y cyfarfod, cafwyd ar. eithiau gan y Parchn. O. LI. Davies, Ishmael Evans, Charles Davies, William Nicholson, J. Hughes, D.D., D. Roberts, Wrexham, a David Hnghes, Ysw., Y.H. Yr oedd y cynulliad ar y cyfan yn dda, ond y cyfarfod ynddo eihun yn well. Hwyrach y dylem ddweyd cyn tewi nad ydyw yr Undeb crybwylliedig yn cynrych- ioli yr oll o'r ysgolion, gan fod rhai yma heb fod yn yr Undeb ond mae safle yr Undeb yn unig yn ddigon i ddangos ym. lyniad plant Gwalia er yn Lloegr, yn yr Ysgol Sabbothol; a mi gredaf, yn deilwng o gydmariae^h agunrhyw ran yn Nghymru. Yn sicr, yr wyf yn dweyd oddiar broflad, y byddaiyn dda i lawer o ranau yn Nghymru gymeryd gwers oddiwrth yr Undeb cry- bwylledig. Pe gwnelid hyn, da fyddai y canlyniad. Yr eiddoch,—J. D. PIERCE.
BWRDD YSGOL ABERDAR.
BWRDD YSGOL ABERDAR. Dydd Gwener, y 24ain cyfisol, cynaliwyd cyfarfod pythefnosol y bwrdd uchod, Mr R. H. Rhys yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn. Dr. Price a B. Evans, Gadlys; Mri. D. E. Williams, W. Charles, W. Little, D. Davies (Canton House), a John Williams. Darllenwyd llythyrau parthed yr an. hawsder 0 gael ceiniogau yr ysgolion yn y Dyffryn Isaf, Cwmbach. Cytunwyd anfon y llythyrau yn nghyda llythyr oddiwrth y bwrdd, at Mr Pratt. Darllenwyd mynegiadau yr arolygwr ar arholiad diweddar ysgolion Abernant a'r Cap Coch, y rhai a ddangosent fod y rhodd- ion enillwyd gan Abernant yn 206p. 4s., yn gyferbyniol i 186p. 4s. y flwyddyn ddiweddaf; Cap Coch, rbodd 0 74p. 18s., yn gyferbyniol i 62p. 16s. Darllenwyd adroddiad pwyllgor llyw- odraethol yr ysgolion, a'u barn yn nghylch gerddi ysgolion y Pare. Rhanwyd dau ran o dri rhwng Mr Griffiths (yr ysgol- feistr) A Miss Evans (yr ysgolfeistres), a phenodwyd Mri D. P. Davies a John Wil- liams i renti allan y darn arall. Ysgrifenodd Mr W. H. Jones, ysgolfeistr Tre Robert, yn gofyn am godiad yn ei gyflog. Wedi sylwi mai ychydig fisoedd oedd°wedi myned heibio er ei fynediad i'r lie, penderfynwyd gadael ei apeliad ar y bwrdd. Wedi cael mynegiadau swyddogion y bwrdd, torodd y cyfarfod i fyny.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Y mae D. W. Flower, Yswain, o Melyn- cryddan, wedi taro tant y 50 y cant un. waith yn rhagor. Eisieu lleihau y gwaith i'r haner am ddau fis sydd arno yn awr, ac nid lleihau y gyflog i'r haner. Cofiwch, os na fydd i chwi leihau gyda'ch gilydd yn uniongyrchol bydd eich prisoedd mewn perygl; ond y mae mis yn segur o'ddau fis yn ormod ar y tro. Y mae cais wedi ei ddanfon yma i alw gwyr y tin-houses a'r melinau yn nghyd 0 bob man, 0 Sir Fynwy idref Caerfyrddin, i gyfarfod a gynelir yn y Bird-in-Hand, yn y dref hon, am ddau o'r gloch prydnawn dydd Sadwrn nesafi er gwneuthur ymgais i ddyfod i benderfyniad a fydd yn ateb ein cyflogwyr a'r fasnach yn well*na'r hyn a gynygir gan Mr Flower. Pe byddai yr ysgrifenyddion, neu ryw gyf- aill yn mhob gwaith, yn danfon ini unwaith bob mis gyfrif manwl o nifer y melinau sydd yn segur a'r nifer sydd yn gweithio, &c., gallem yn agos iawn ddweyd yn fisol pa faint fyddai yn eisieu i chwi gyflawni am y mis. A chymeryd cynyg Mr Flower yn Birmingham am leihau y gyflog i'r haner, er cadw dyeithriaid o'r fasnach, rhaid yw cydolygu ag ef oni bydd 1 chwi ddeffroi ar unwaith, a chyduno i leihau yn rhaddol bob dydd. Golyger fod 300 o felinau yn gweithio yr wythnosau hyn, a'u bod cydryngddynt yn cyflawni 450 0 flych- au y felin bob wythnos, byddai hyn, yn 1,800 y felin o leihad mewn dau fls, ac yn 540,000 gyda'u gilydd, tra y mae Mr Flower yn ei lythyr yn y Western Mail, yn ysgrif. enu mai 250,000 o flychau sydd yn cael eu ewneuthur yn ormodol bob blwyddyn, a hyny ar gv:answm o 6,500,000, a'i bod yn mryd cyrr*ieithas y cyflogwyr alcanaidd ag sydd yn "cyfarfod yn chwarterol yn Bir. mingham, (a byddant yn cyfarfod nesaf yn Ebrill 13eg), i atal y gweithiau am bythef. nos ar yr un pryd yn Ebrill a Mai, a bydd- ai hyn yn ddigon i fwrw allan y gorlawnder am y gweddill o'r flwyddyn hon. Diau mai yn ffordd ei hunan y mae Mr Flower wedi cyfrif hyn y waith hon eto, o uerwydd, paham y mae yn rhaid lleihau 540,000 er diddymu 250,000 0 flycliau? Ac mewn llythyr arall a ysgrifenodd i un 0 wythnos olion Llundain, y mae yr un boneddwr yn ysgrifenu nad oes eisieu ond cadw cyfar- talwch yn yr ystordai, ac nid gofyn 20s. y blwch fel ag y gwnawd yn Birmingham ar j 7.ed o Ionawr. Byddem ni wedi darllen 1.9s. fel nod y cyfarfod hwnw ar ba un y mae Mr Flower yn gadeirydd, ond dichon ei fod ef yn gwybod am rai yn gofyn 20s., a'i fod yn ystyried hyny yn ormod. Y mae gwaith yr Eirth yn New York, medd efe yn mbellach, yn cael ei achosi o eisieu stocks digonol. Byddem ninau wedi arfer credu mai yn herwydd gormod stocks y byddent hwy yn cymeryd aantais ar weithwyr. Dywed hefyd mai yn herwydd y cyfnewidiad sydyn ar y prisoedd yn 1879, y bu i'r nifer luosog o fan weithfeydd yma gael eu hadeiladu, ac i'r prisoedd godi o 17s. i 30s. y blwch, pan y mae tatlen Nash & Co., L'erpwl, yn dangos iddynt fod mor isel a 13s. yn Medi, 1878, a 40s. yn Gorph. 1872. Y mae yn wir fod yn rhwydd ddigon i lywodraethu y fasnach hon heb symud- iadau gorwyllt fel yma, ond amheuwn ni mai dyna fu yr achos, a hyny oddiar sylw- adaeth ddifrifol ar y gwir achos. Nid oes yn eisieu i ni fyned yn mhell o'r gymydog- aeth hon er cael allan yr achos i'r gweith- feydd newyddion gael eu hadeiladu. Wedi i un godi o ddinodedd i fod yn llywydd ar weithiau alcan, y mae un arall, efallai o'r unewmni, yn ymadael, gan gasglu nifer i roddi eu harian yn nghyd er codi gweithiau ereill, fel y gallo yntau gael manago hefyd. A gwyddom am ddau a fuont mor bell a rhoddi eu harian yn nghyd yn y bane cyn penderfynu pwy oedd i fod yn manager, ond wedi deall pwy, yn gwahanu drachefn. Gwyddom am rai ereill yn poeni eu gilydd, nes yn r. diwedd yn gorfod prynu neu werthu y naill y Hall, ac wrth brynu allan ar amser da, byddent yn cael croglog ar eu harian ond erbyn heddyw, beth am y rhai dalodd allan ? wedi myned i'r dim y maent. Dyua. brif achosion yr adeiladu, ac nid yn unig byddai arwydd manago ar y rhai ag oeddynt wedi bod am ryw amser mewn cysylltiad a gweithiau, ond wedi i'r cyflogwyr o honynt eu hunain atal V gweithiau am un wythnos o bob pedair nes i'r stocks fyned mor isel a 93,076 o flychau, ac yn ol cyfrif pawb yn rhy isel. Dyma yr ail reswm dros adeil- adu. Credodd y crydd, y teiliwr, a'r porthmon mai California o'r newydd oedd hi i fod, ond erbyn heddyw y mae llawer wedi cael tynu gwallt eu penau mewn sachlliain a lludw yn nyffryn edifeirweh. Cewch chwithau wybod y bai sydd yn gorwedd wrth eich drysau chwi, weithwyr, pan gawn gyfle arnoch yn ein cyfarfod nesaf. Golyger eto fod Mr Flower yn iawn mai sydynrwydd y codiadau fu yr achos o'r adeiladu, paham ynte mae yn rhaid tynu 540,000 a rhagor i lawr, pan nad oes yn eisieu ond 250,000 neu lai. De'wch i'r cyfarfod yn undebwyr a gwrth-undebwyr, a cheisiwn barotoi cynllun a foddlona feistr a gweithiwr, a hyny wrth leihau ychydig o flychau yn ddyddiol. Cofiwch chwi sydd yn gweithio gwaith pum' niwrnod mewn pedwar, a chwithau sydd yn gweithio y six-hour system, gan wneuthur gwaith deg awr mewn chweeh, a'r rhai sydd yn cyflawni y gorchest gampau cywilyddus mown gwaith mawr, nad ydych yn talu cystal i'ch meistri a phe byddech yn cyflawni diwrnod rhesymol o waith mewn oriau rhesymol, oblegyd mae ,Y ereill yn clywed am eich gorchestion ac yn canlyn, ac efallai yn gallu gwneuthur mwy na chwi; yna mae'r marchnadoedd yn llanw, y prisoedd yn gostwng, y meistr yn golledwr, y gweithiau yn cael eu cau, a chwithau yn cerdded o fan i fan fel crwrdr- iaid i ymofyn gwaith, pawb yn eich gwrthod, ac nid oes genych ond yingysuro yn y ffaith y bydd i chwi ollwng arni eto pan y cewch gyfle. Dangoswyd i mi ddyn bythefnos yn ol a wnaeth 80 boxes mewn 16 o oriau. Beth ddywed gwyr y pump twrn mewn cliwech am dani yn awr ? Enill 11 mewn 16 0 oriau Ymbwyllweh mewn pryd fy hen gyfeillion, a deued cynrychiolydd o bob melin a tinhouse i Abertawe dydd Sadwrn. Bydd yn dda fod pob rhai 0 honoch, y rhai hyny a weithiant ddydd a nos, yn cyfarfod a'cli gilydd ac yn ymddiddan y mater yn drwy- adl cyn dyfod yma, fel y gallom ddyfod i ryw benderfyniad, a'i ddanfon i gyfarfod y cyflogwyr yn Birmingham. Bob tro ag yr ydym wedi anerch y cyflogwyr ar eich rhan, y maent yn barod i unrhyw gynllun ond eich cael chwi yn unfrydol Am hyuy, fy hen gyfeillion, tros ben pob rhwystr y waith hon fel yn adeg y daflen goch, a chydunwn ar fesurau na fydd yn edifar gan neb o honom am danynt. Peidied neb o honoch a d'od gan feddwl danod beiau i'ch gilydd; de'wch yn hytrach mewn ysbryd cariadus, gan ymegnio achub y fasnach o grafangau dinystr. Da genym ddeall fod amryw o honoch yn talu sylw i lenyddiaeth, gan goethi eich meddyliau â. gwybodaeth. Byddwn bob amser yn ymffrostio yn nhalentaru corff yr alcanwyr, a da genym yr wythnos hon alw eich sylw at emyn coffadwriaethol ar ol ein cyfaill Cynon gan Mr Edwards (Gwilym Lon), Penclawdd. Nid ydym yn proffesu gwybod dim am nodau cerddoriaeth, ond dywed cyfaill i ni ei bod yn dda iawn. Mae yma un arall wedi d'od i law fel anerch i Dywysog a Thywysoges Cymru pan ar ymweliad a Cbastell Margam, wedi ei chyfansoddi gan hen gyfoedion i ni. Ewch i'r lan, fechgyn, I Dyfal done a dyr y Ily gareg.' O Pontardulais clywn fod Drawing David George yn myn'd fel y t&n, ond nid byth gwell nag y dymunem. Maeytrysor- ydd a'r ysgrifenydd, Mri Thomas Williams a John Gape, yn ein hysbysu fod dros 1,000 o docynau wedi myned allan eisioes, a bod amryw am ohirio y Drawing hyd y 29ain o Ebrill, pan y cawn yr anrhydedd o enwi y buddugwyr drwy'r DARIAN os yn fyw ac iach. Taer erfynwn ar bawb o honoch i gofio y rhai sydd gan afiechyd yn I boen i bawb yn y byd fel y dywedai ein anwyl Dewi Afan am dano ei hun pan yn cyflwyno ei 'Wanwyn' i'w anwyl fam. Nid oes ond canu can yn y cywair lleddf am fasnach yr wythnos hon eto. Gwelsom lythyrau cyfrinachol oddiwrth fasanchwyr at wneuthurwyr, yn achwyn nad allent gael y pris gofynol, sef 16s., ond y byddai iddynt geisio 15s. 9c. Gan hyny, cofied cynrychiolwyr o bob man dd'od yma er ceisio cael gwell trefn. Ni bydd rhybudd pellach ond drwy y papyrau dyddiol. LEWYS AFAN. O.Y.-Dymunwn yn gyhoeddus eto gyf- lwyne ein diolchgarwch gwresocaf i bawb a'n cynorthwyant i geisio gwylio buddianau yr alcanwyr, ac yn ddiweddaf oil, ein hen gyfeillion o hen tinhouse Cwmafan a Cilffriw. Ceisiwn eich gwasaiiaeth-i yn deilwng.— L. A.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID—AT ETHOLWYR…
BWRDD Y GWARCHEIDWAID—AT ETHOLWYR ABERDAR. FONEDDDIGESAU A BONEDDIGION,-Gan fod etholiad y Bwrdd uchod wrth y drws, a chan fod fy ffryndiau wedi gofyn i mi am aefyll am y swydd fel aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, crefaf yn ostyngedig am eich cefnogaeth er fy ngosod yn un o'r aelodau am y flwyddyn ddyfodol. j Nid oes genyf fawr i'w ddweyd am ym- ddygiadau y tri aelod sydd yn myned allan y tro hwn am y flwyddyn a basiodd, ond gadawaf bawb i farnu drostynt eu hunain pa fath bersonau sydd yn addas i eistedd yn Mwrdd y Gwarcheidwaid. Y mae pawb sydd yn fy adwaen yn gwy- bod yn dda fy mod wedi bod, ac yn parhau i fod yn gyfaill i'r tylawd a'r diamddiffyn, ac hefyd yn teimlo bob amser pan y bydd- wyf yn gweled arian y trethdalwyr yn cael eu gwario yn ofer ac os caf eich cefnog- aeth yn yr ymdrech hon i fyned yn aelod o'r Bwrdd, yr wyf yn eich sicrhau y gwnaf fy ngoreu i bleidio cyfiawnder yn mhob ystyr.—Yr eiddoch yn serchog, fel arfer,' Aberdar. {ISAAC THOMAS.
Advertising
PEDWAREDD EISTEDDFOD GADEIBIOL PONTYPRIDD. CYNELIR yr Eisteddfod uchod ar ddydd Llungwyn, 1882, dan nawdd neillduol. Cadeirydd y dydd,-G. Williams, Ysw., Miskin Manor. Beirniaid,-Dewi Wyn a Essyllt a Mr D. Francis. I'r c6r o'r un gynulleidfa a gano yn oreu Fel y brefa'r hydd,' J. Thomas, gwobr £10 a £ 2 i'r arweinydd. Glee (dim dan 20)' Gwenau y Qwanwyn,' gwobr .£2. Soprano, Tros y Gareg,' gwobr 7s. 6e. Alto, The Lord is mindful of His own,' St. Paul, gwobr 7s. 6c. Tenor,' Y Gadlef,' E. Evans, gwobr 7s. 6e. Bass, Y Bachgen Dewr,' Parry, gwobr 7s. 6c. Deuawd, 'Awelon Eryri,' Tafalaw, gwobr 9b. Trio, 'Fair Flora Decks,' Danby, gwobr 7s. 6c. Sonatina ar y Berdoneg, Op. 49, No. 2, First Movement, Beethoven, i rai dan 15 oed, gwobr 7s. 6c. = 18 Darllen cerddoriaeth ar y pryd, gwobr 2s. 6c. Awdl ar Ffydd,' dim dros 300 o linellau, gwobr X3 3s. a Chadair yr Eisteddfod. Marwnad i'r diweddar Mr B. T. Morgan. Gwobr R2 2s. Pob manylion gan Mrs Morgan, National School, Peterstone- Super-Ely. Can. Croesawiad i Gledrffordd Caerffili,' 6 penill, gwobr 15s. Traethawd, 'Rhagolygon Pontypridd,' yn Gymraeg neu yn Saesoneg, gwobr X2 2s., rhoddedig gan W. Thomas, Ysw., Llan- blethian. Englyn, 'Yr Eos,' gwobr 5s. Dau Englyn i Ap Alaw Goch, eadeirydd y dydd, gwobr 5s. Araeth Fyrfyfyr, gwobr 2s. 6c. Eto, gwobr 2s. 6c. Sillebiaeth ar y pryd (Cymraeg), gwobr 2s. 6c. Sillebiaeth ar y pryd (Saesoneg), gwobr 2s. 6c. Adroddiad, 'The dying maiden to her mother,' gwobr 3s. Eto yn Gymraeg, gwel y Qwhi'lgarwr am Mawrth 24ain, gwobr 3s. Dros y pwyllgor, D. LEYSHON, CaSeirydd. JOSEPH DAVIES, Ysg., Graig Schools, Pontypridd. Rheumatism! Rheumatism!! J" OIJES'S VEGETABLE AMERICAN GOLDEN OIL. THE Sovereign Bemedy for Rheumatism, Neuralgia, &c. We invite sufferers to try it; its best friends are those who have known it the longest. The following chemists are agents in South Wales:— Aberdare, Thomas, Richards; Mountain Ash, White; Treorky (Rhondda), Morgan; Bridgend, Jenkins; Maesteg, Rees; Ty- newydd, Llewellyn; Cardiff, Smyth, Cole- man & Co.; Swanboa, John Davies; Neath, Hill; Carmarthen, Jones; Pontypridd, Key; Risca, Yendale. London agents, Barclay and Sons. Calon wrth Galon.' 1 M6r o Gan yw Cymru gyd.' EISTEDDFOD FAWREDDOG BRYNMAWR. pYNELIR YR EISTEDDFOD uchod dydd Linn, Ebrill 3ydd, 1882, yn y Royal Pavillion, o dan nawdd prif fonedd- igion yr ardal. Arweinydd y dydd,-Parch. John Roberts, Brynmawr. Cadeirydd,-Geo. Hicks, Yaw., Brynmawr. Beirniad y canu a'r farddoniaeth,—John Thomas, Ysw., Llanwrtyd. Beirniaid y traethodau,-Parch. W. Morton, a'r Parch. J. Roberts, Brynmawr. Cyfeilydd,-Prof. A. N. James, Aberdar. I'r cor heb fod dan 60 o nifer a gano yn oreu I Datod mae Rhwymau Caethiwed,' gwobr .£15, a darlun roil Painting) o'r ar. weinydd, gwerth .£1 10s. I'r c6r heb fod dan 60 o nifer a gano yn oreu 'Then Round about the Starry Throne,' gwobr 8p. I'r c6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu 'Molwch yr Arglwyd,' Dr Parry, gwobr .£4, a Chromatic Pitchpipe i'r arweinydd. I'r parti o wrywod, heb fod dan 20 mewn nifer, a gano yn oreu Comrades in Arms,' gwobr £ 2. I'r parti 0 wrywod, heb fodjdan 16 mewn nifer, a gano yn oreu Cydgany Morwyr,' Dr Parry, gwobr 16s. = I'r parti heb fod dan 8 mewn nifer a gano yn oreu 'Awake, JHolian Lyre,' gwobr 16s. I'r ddau a gauont yn oreu 'Y Ddau Forwr,' gwobr 8s. I'r hwn a gano yn oreu 'The White Squall,' gwobr 7s. 6c. I'r hon a gano yn oreu I Dafydd y Gareg Wen,' gwobr 7s. 6e. Am y 10 Penill goreu (unrhyw fesur) ar Ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru ag Abertawe yn 1881,' gwobr XI Is. Am y Traethawd goreu (Cymraeg neu Saesneg) ar Brynmawr fel y bu, fel y mae, ac fel y dylai fod,' gwobr k2 2s. I'r c6r o blant heb fod dan 30 mewn nifer, na thros 15 oed, a gano yn oreu I have a Saviour,' rhif 106, Sankey and Moody's Tune Book, gwobr Xi 10s., a d Medal arian i'r arweinydd. AMODAU. Ni wobrwyir oni fydd beilyngdod. Y cyfansoddiadau buddugol yn eiddo'r pwyll- gor. Y cyfansoddiadau, yn nghyda'r holl Sugenwau, i fod yn llaw yr ysgrifenyddion ar neu cyn Mawrth 25am, 1882. Yr eis. teddfod i ddechreu am 10.30 y boreu. Cynelir Cyngerdd fawreddog yn yr hwyr. Hysbysir ar y programmes enwau yr enwog- ion fydd yn gwasanaethu. Yr elw i sefydlu Free Library yn Bryn- mawr. Ysgrifenyddion—WM. GETHINO, Nantyglo Tin Works, Nantyglo; D. M. DAVIES, Slate Merchant, Brynmawr. —^———— "Mdr 0 GAn yw Cymru gyd." U1 Eisteddfod Flynyddol Castellnedd, Llun y Pasc, 1882. 1 OYNELIR YR EISTEDDFOD uchod yn ] Marchnadle newydd y dref dydd Llun j Pasc, Ebrill lOfed, 1882. TESTYNAU. I. S. 0. I'r cdr heb fod dan 60 mewn lifer, a gano yn oreu • Bendigedig iyddo Arglwydd Dduw Israel,' gan 1. Thomas, Llanwrtyd 23 8 0 h.y., 4>20 i'r cdr, a X3 8s. i'r arweinydd. I'r c6r heb fod dan 60 mewn [lifer, a gano yn oreu y 'Blodeuyn Olaf,' gan J. Ambrose Lloyd 7 0 0 I'r Drum and Fife Band heb fod Ian 16 mewn nifer, a chwareuo yn oreu Codiad yr Ehedydd' a 1 Glamorganshire March' 2 2 0 I'r parti o wrywod, 20 mewn [lifer, a gano yn oreu I Soldiers' Chorus 2 0 0 I'r hwn a gano yn oreu 'Blodwen my darling, my true love,' gan Dr. Parry 0 10 0 I'r hon a gano yn oreu Yr Eos,' gan Dr. Parry, gwobr, a Welsh Scarlet Whittle (the Princess Whit- tle), as presented to Her Royal Highness the Princess of Wales at Swansea, Oct. 18th, 1881. Value 1 15 0 I'r hwn a gano yn oreu Solo Bass 'Milwr D,,wr,l gan Dr. Parry. 0 10 0 I'r mab a'r ferch a ganont yn oreu y Duett 'Hywel, be' ti'n geisio yma,' gan Dr. Parry 0 10 0 Cadeirydd,-David Davies, Ysw., Maer. Arweinydd,—A. H. Thomas, Ysw. (Crum- in), Llansamlet. Beirniaid,-Dr. Joseph Parry, Musical College of Wales, Swansea, a C. Videon Harding, Ysw., organydd Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Ffugenwau y cystadleuwyr ac enwau y corau, i fod yn llaw un o'r ysgrifenyddion erbyn Ebrill 4ydd, 1882. Cynelir cyngerdd ardderchog yn yr hwyr. Programmes i'w cael am Ie. yr un, trwy y oost, lie., gan yr ysgrifenyddion,- JENKIN ROSSER, The Parade, Neath, JOHN P. REYNOLDS, Cwmpandy Mills, Neath. Cymru L&n, Gwlad y Ga,n.' Ail Eisteddfo i Fly nyddol Alltwen CCYNELIR YR EISTEDDFOD uchod J dydd Sadwrn, Mai 6ed, 1882. Prif Ddarnau. I'r cor a gano yn oreu Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel,' J. Thomas, Llan- wrtyd, gwobr X18 a chadair hardd i'r ar. weiaydd gwerth £2. I'r cdr a gano yn oreu Ffarwel i ti, Gymru fad,' gwobr £7, a Writing Desk brydferth i'r arweinydd. I'r cor a gano yn oreu 'Jerusalem, fy Nghartref Gwiw,' gwobr X3 a Ink Stand i'r arweinydd. Am y Farwnad wreiddiol oreu i'r diweddar Barch. P. Griffiths, Alltwen, gwobr J3 3s. Beirniad: y canu, J. Thomas, Ysw., Llanwrtyd y farwnad, Mr E. Young (Eos Wyn), Alltwen. Y program, yn cynwys pob manylion pellach, i'w gael am y pris arferol oddiwrth yr ysgrifenydd, Mr James Hinkin, Pontar- dawe, Swansea. Wedi dyfod o'r wasg, Gruff ydd Llwyd,' I Ogof y Daran Goch,* a I Merch y Bugail,' pris Is. Ar werth gan Mri. E. Rees, argraffydd John Roger Thomas, Pwll Bach; a chan yr awdwr yn Mhenywern. PEL enghraifft o'r dosbarth o feddygin- laethau y carem argymhell i sylw y Cymry yn mhob man, dymunem gyfeirio at ddar- pariaeth ddiffuant, didwyll, ymddiriedol, a mwyaf gwerthfawr a llesiol ag y gwyddom am dani, sef Quinine Bitters GWILYM EVANS, Yr hwn sydd yn fath o Tonic llysieuol, ac v yn holioi yr hyn y gosodir allan-ei fod yn gyfansoddedig o lysiau wedi ei ddarparu mewn dull gwyddonol, a chyda'r gofal mwyaf sydd ddichonadwy. er sicrhau ei lwyddiant. Y cylia yw peiriant mawz treuliawl y corff, ac o hono ef y gwasgerir yr holl ranau maethlonol trwy y cyfan- aoddiad. Os na chedwir hwn mewn trefn, syrthia yr holl gorff i ddyryswch. Effaith ac amcan penaf y Quinine Bitters yw cadw y cylla yn lachus, a phob organ yn gweithio yn nwylus ac yn eu lie, a gellir yn deilwng ystyried y Bitters hyn y feddyginiaeth deuiuaidd oreu y gwyddis am dani, Cy. meradwyir hi yn ddibetrus at annhreuliad yn ei gwahanol agweddau, ac afiechyd y ddwyfron a'r afu, yn nghydag anhwylderao gewynol. Yr ydym am lawer o flynyddau wedi edrych gyda gradd helaeth o ddrwg. dybiaeth ar feddyginiaethau hysbysiedig, a thueddid ni i wneud hyny a'r feddygin- iaeth hon, sef Quinine Bitters Gwilym Evans, hyd nes y gwelsom y fath dystiol- iaethau pwysig a dylanwadol oddiwrth ddynion a wyddent mor dda, ac a wnaethant gymaint o ymchwiliad i'w hansoddion. Dymunem yn nelli iuol rybuddio y ey. hoedd i fod yn ochelgar yn eu detholiad o gyfleiriau, a dyient lod yn gwybod rhyw- oeiii am ansawdd y darpariadau meddygol a fwriadant gymeryd cyn eu pwrcasu; ao os, wedi ymcttwihad, y boddlomr hwy am eu rhinweddau, dylent tod yn ewyllysgar i dalu pris teg am y cyfryw, a rhoddi iddo brawi teg a pnarhaol, a pheidio cymeryd eu hudo i redeg a phwrcasu meddygin- iaethau iselbris, y rhai yn fynych a brofant, nid yn unig yn ddiwerth, ond yn dra niweidiol. Oddiwrth ein gwybodaeth bersonol am y darparydd a'r perchenog, gwyddom ei fod yn ei broffeswriaeth wedi cyrhaedd yr an- rhydedd uwchaf yn y gangen fferyliol, ac ystyrir ef yn un o Iferyiiwyr mwyaf goien- edig ac addawol y dydd.
MEDDYGINIAETH HYNOTAF YR OE8…
MEDDYGINIAETH HYNOTAF YR OE8 BRESENOL YW Quinine Bitters Gwilym Evans Y mae ynddynt gymysgedd cywrain— ohwerw a melus-lysiau, wedi eu haddas gydgymysgu mewn modd newydd, hapus, a dirgel, gan y dyfeisydd, Mr. Gwilym Evans, F.C.S., M.P.S., fferyllydd, Llanelli. Y mae y gwahanol lysiau wedi eu cymysgu yn hynod o ffodus, a chynwysa y Quinine Bitters yn ddiamheuol y ddarpariaeth orea er lies y corff dynol.
Eu DEFNYDDIOLDEB YN UN GYMYSGEDD.
Eu DEFNYDDIOLDEB YN UN GYMYSGEDD. Hawdd iawn fyddai i unrhyw un bryng y meddyginiaethau uchod ar wahan, a hawdd fyddai gwneud rhyw gymysgiad o honynt, ond anhawdd iawn fyddai eael yr holl lysiau uchod at eu gilydd am arian rhesymol, ac anmhosibl fyddai eu cymysg > yn y modd cyfrwys a medrus y gwneir gan Mr. Gwilym Evans, a chanddo ef yn unig i y mae y dirgelwch mawr o gymysgu y pathau hyn gyda y fath lwyddiant a'r fath < offaith. Y maent wedi eu profi yn effeithiol i symud y doluriau a ganlyn:— DIFFYG TREUXIAD A'I GANLYNIADAU. Sef poen yn yr ystumog, gwyntogrwydd. trymder anarferol ar ol bwyta, gwaelder cyn bwyd, diffyg archwaeth, bias an. .nymunol yn y genau, gwres mawr yn y cylla yn achosi y corff i rwymo, yr anaal yn drwm, a'r genau yn sych, brathiadau poenus yn y frest a'r ochrau, a mynyoh bigiadau fel pe bae pryfedyn yn y cylia. Y mae un neu ychwaneg o'r poenau uchod yn arwydd o ddiffyg treuliad, a goreu pa gyntaf y dechreuir ar gymeryd Quinine Bitters Gwilym Evans.
SYLWADAU CYFFREDINOL.
SYLWADAU CYFFREDINOL. Gallai rhaidybio ei bod yn anmhosibl i un feddyginiaeth effeithio lleshad mewn cynifer o wahanol ddoluriau. Y mae yr ateb yn syml a pharod, sef (1), bod tystiol. a aethau pwysig i'w cael unrhyw amser; (2), fod y feddyginiaetili yn cyawys cynifer o wahanol lysiau; (3), y mae y driniaeth yn y un hollol resymol, sef symud achos y dolor yn gyntaf trwy gryfhau y cyfansoddiad, afl £ felly amddiffyn y rhanau gwanaf a mwyaf W agored i afiechyd. Ar bob amgylchiad, 1 doeth ydyw yn gyntaf chwilio achos pob dolur.
Cyfarioyddiadau i'w bwrcasu.
Cyfarioyddiadau i'w bwrcasu. Gofyner yn eglur am Quinine BittelS f Gwilym Evans. Ar ol ei gael, edrycher yn fanwl ar y label, a sylwer ar stamp y LlyW* odraeth sydd ar wddf y botel, a myner gweled yr enw Gwilym Evans, F.C.SM M.P.S., wedi ei ysgrifenu yn llawysgriE y perchenog. Gofaled pawb na chymeront eu twy?l°, na derbyn cynghor i gymeryd uurhyw foddion arall o dan yr hen esgus ei fod yo llawn cystal ac yn rhatach. Esgus gwael a thwyllodrus yw hwna. Cofier bob amser fod efelychiadau lawer i bob peth da, ac y mae lluaws mawr ( efelychiadau i feddyginiaeth ardderchog a dihafal Quinine Bitters Gwilym Evana<
Advertising
Art.hM^Wiltoms, Grocer & Provision Merchant, 6, Commercial street, Aberdare, next door to the Welsh Harp, respectfully solicits a trial.
FFEITHIAU AM QUININE BITTERS…
FFEITHIAU AM QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Y maent yn cael eu cymeradwyo gan feddygon a iferyllwyr i'w cleifion ar ol i bob meddyginiaeth arall fethu. Y maent yn cael eu cymeryd gan hen ac ieaanc, cyfoethog a'r tlawd, a chan ddynion yn mhob sefyiifa ac o dan bob amgylohiad. Nid yn unig yn Nghymru y maent yn adnabyddus, ond derbynir orders am dan- ynt o America, Canada, yr Aifft, Cyprus, Awstralia, &c. Y mae pawb sydd wedi eu pron unwaith yn eu cymeradwyo i'w cyfeillion, a thrwy hyn y mae y gofyn am danynt yn cynyddu yn helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Y mae hyn yn brawf teg 0'1 heneithioldeb, canys paham y prynai neb y feddyginiaeth am yr ail a'r drydedd waith os na fuasenti yn derbyn budd a lleshad oddiwrthynt ?