Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

■'»< ADOLYGIAD Y WASG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

» < ADOLYGIAD Y WASG. » BYWYD." Y Bryddest Fuddugol yn Eis- teddfod Genedlaethol, 1881, gan Watcyn Wyn. Merthyr Tydfil: Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Joseph Williams. Pris chwecheiniog, [PABHAD.] Yn y drydedd ran mae y bardd yn trafod ei destyn mewn cysylltiad a'r deyrnas lysieuol. 0 ogoneddus deyrnas gyda'i deiliaid Yn ddirifedi 1 daear gyda'i Uonaid 0 beichenogion Bywyd: gall ymffrostio Yn rhif ei deiliaid, a gall fforddio rhifo Ei llengoedd a myrddiynau, iyblu'r nifer Wrth y miliynau—heb fynegu'r haner." » Ar foreuddydd tyner Yn Ebrill rhywiog, ieuanc wedd ac irder, Tyfol a newydd, a bywiogrwydd effro A phrydferth welir yn ymwthio Drwy'r greadigaeth: pob glaswelltyn egwan A'i Fywyd yn ymsythu tua'r huan A'i ben yn goronedig gyda gwhthyn Crwn bychan, dysglaer; yn yr hwn mae darlun I Y Greadigaeth, gyda haul yn fllamio- Y Nef a'r ddaear yn cyfarfod ynddo! Y blodeu gyda'r wawr yn ymddadebru, A'u llygaid iraidd siriol yn serenu Yn llygad huan; awel y dydd chwytha, Fel anadl Bywyd' heibio, a deffroa Bob cysglyd ddalen daw a Bywyd heibio Fel ar ei haden; ei ehediad effro Sydd fel 'disgyniad angel;' yn I cyn. hyrfu' Y cyfan drwyddo; ac yn adnewyddn Hoen a bywiogrwydd trwy holl gyraur ddaear, „ 1 groesaw siriol wen y boreu hawddgar. *2^7! Mor gyffredinol yw teyrnasiad Bywyd! Mor llwyr y cerdda trwy derfynau r holl. K £ j! fyd I •01,1wr-w* OV poethgylch, sydd a'i ddail o hyd yn maux" wyrddion 'iCY: 0 dan gawodydd cyson, meithlon, trymion Y gwlith adfywiol, gogyhyd ei ddyddiau, A'i dawel deg, gyfartal haf nosweithiau I fyny drwy y cylch tymherus, prydferth, A'i wanwyn tyner, mwyn, a'u auaf oer. gorthj "in- A'i stormydd enbyd, lie mae r oil yn lldio, A bywyd fel am dymor yn ymguddio Rhag min y ddryghin; fyny i'r cylch rhewllyd, 2 R Lie mae'r blodeuyn bychan, gwan, lled- neisbryd' Yjtj gwtbio 'i ben trwy gnwd o eira allan Gan siriol wenu yn siriol wyneb huan!" S. Yn y bedwaredd ran ceir golwg ar Fywyd yn y deyrnas anifeilaidd. Mae yn an. hawdd gwybod beth sydd i'w adael heb ei ddyfynu yn y rhan hon. Ond gellir dweyd ei bod oil o'r un^ansawdd a'r canlynol:— "Yn mhlith y llwythau filoedd sy'n trig. ianu Gwyneb y ddaear, ac yn gwneud y teulu Mawr hwn i fyny—y fath Iu o ffurfiau A'i cyfansoddant, a'r fath amrywiaethau Mewn) Hun a ,maint—o'r trychfil distadl Sgollahyny llwch, sy'n cuddio'ihunan Yn ei fychander, nad yw ei fodolaeth Yn cael ei gyfrif yn y Greadigaeth, Am nad yw'n gallu gwthio'i hun i'r golwg, A rhesu ei hunan gyda'i pethau amlwg, A mawr, a phwysig-hyd y corff aruthrol A elwir eawrfil,' sydd fel bryn symudol Yn cerdded yn ei gryfder Mor angbyd. radd „ Eu maint a'u cryfder eto fel yr ymladd Pob un i gadw'i Fywyd hyd eu gyrfa Mor anghyfartal; eto fel ymdrecha Pob un i gadw'i einioes; eu harferion Mor dra gwahanol; ond eu hymegnion Am gysur a dedwyddwch mor dra thebyg! Mor brysur ymdrech Bywyd I o'r anhy- myg Distadl, di lun, ac egwan, sy'n ymlusgo Drwy bridd y ddaear, wedi ei gladdu yno Yn fyw gan ei anallu-hyd yr hoewaf Sy'n llamu'r bryniau gyda'r cam cyflymaf A sanga'r ddaear I Ar chwareufwrdd Bywyd Mae'r chwareu yn ddiddarfod, ac mae'r symud Yn ddiorphwyso; rhai'n ymdreiglo ryw- ffurf, Fel gyda'r Uwch, a rhai'n ymlusgoy'mhob- ffurf, Ymnyddu, ac ymdroi: rhai yn ymgripio Ag ysgogiadau araf rhai yn llamu Ag ysgogiadau chwimwth, fel yn methu Rhoi un atalfa ar eu hoen a'u cryfder; Rhai'n nofio yn chwareufyw yn y dyfnder: Rhai'n bywiog-ysgafn hedeg trwy yr awyr- Bywyd yn taflu ysgogiadau prysur, A'i nerthoedd amryw, a'ifwynhad diderfyn A dihysbyddol megys i bob gewyn, Pob corff a chymal, i bob cryf a dinerth, Pob mawr a bychan, yn y teulu anferth I" Yn y bumed ran, daw yr awen i gym- deithas y Bywyd dynol, lIe mae y materol a'r ysbrydol yn ymgusanu. Yr ydym mewn profedigaeth eto wrth ddyfynu, ond gwas anaethed y canlynol i ddangos gloewder y gemau sydd yn y rhan hon :— Mae dyn yn rhanu Bywyd yn gyfnodau, Yn tori'r annherfynol yn fan ddarnau Mae swyn mabandod rywfodd yn ei hudo I sefyll uwch ei ben; mae'r bychan yno Mor dlws, mor brydferth, nes yw yn ei alw Ar foreuddydd Bywyd; ac yn taflu marw Yn mhell oddiwrtho Daw ieuenctyd eil- waith Yn llawn dych'mygion teg, ac anadl gobaith Yn gwasgar pob cymylau cysgod angau' Yn cael ei daflu draw Daw cryfder dydd- iau Y cyfrif nesaf-dyn yn ei ogoniant, Ei gyflawn nerth, ac yn ei gyflawn dyfiant: Yn frenin mawr ar etifeddiaeth Bywyd, Yn sefyll ar ei chanol! Yna symud Y mlaen i henaint, methiant diwedd dydd- iau, Pendraw ei Fywyd, terfyn einioes—angau! Y fath ddosraniad rhyfedd y fath gyfri' Anghywir a dibwynt! Mae angau'n tori Ar draws pob rhaniad; mae mabandod swynol, Agoriad Bywyd y boreuddydd aefol Sy'n tori yn ei wybren-y mae hwnw Yn cael ei dduo gan gymylau marw! A diwedd einioes yn fwy ami o'r haner Nag unrhyw gyfnod arall; mae breuolder Yn rhoddi ffordd cyn oyrhaedd i hen ddydd. iau; Anaml mae • dyddiau henaint'—'ddyddiau angau!' Yr ieuanc sydd yn marw; y gwyr cryfion Sy'n cwympo yn angau mae yr henddyn- ion Fel cawri ddydd ymladdfa, yn gwel'd mil. oedd Yn cwympo wrth eu traed; maent yn y rhengoedd, Fel cedyrn yn nydd dinystr, a'u cymdeith- ion Wrth eu hystlysau hwynt yn cwympo'n feirwon Yn rhengoedd ar ol rhengoedd; neu fel prenau Yn gwel'd y dail yn syrthio yn filiynau A hwythau'n sefyll! Gwelant pob dosran- iad Y dyn yn cael ei dori, a'i ddosbarthiad Ei ddarnio i fyny." Yn y chweched ran, yr hon sydd yn ddi- weddglo i'r bryddest, y mae yr awdwr yn symia i fyny ei destyn, ac yn olrhain ei darddiad yn ol i'r Ydwyf Mawr." Amser a gofod a balla i ni ddyfynu rbagor o'r bryddest benigamp hon. Gallwn ddweyd yn gydwybodol na edifarha neb ai pryno. Yn sicr, y mae, fel y dywedodd y beirniaid, yn un o'r cyfansoddiadau goreu yn yr iaith. Dylai gael cylchrediad eang, ac nid diffyg teilyngdod a fydd yr achos os na werthir miloedd lawer o honi. Llawer o ddwrdio sydd wedi bod am na chyhoeddir cyfan- soddiadau buddugol yr Eisteddfodau Gen- edlaethol. Dyma ddau brif gyfansoddiad Eisteddfod Merthyr wedi cael eu dwyn o flaen llygaid treiddgary cyhoedd. Gobeithir y bydd cyhoeddiad awdl a phryddest Mer- thyr yn symbyliad i ymgymeriadau o'r fath yn y dyfodol. Mae wedi dyfod yn ffaith boenus bellach, y rhaid edrych i rywle y tu allan i'r pwyllgor am y peirian- waith i gyhoeddi y cyfansoddiadau budd- ugol. Yr ydym eto yn dymuno gwerthiant helaeth i bryddest Bywyd." O.Y.Wedi dyfod i law, Atbrofa y Beirdd," Y Ferch o Gefn Ydfa," ac awdl ar Gariad." gan Tafolog. Cant ein sylw ar fyrder. LLYFR AR FEDYDD, sef Detholiad o'r llithiau a yrnddaagosodd ar faes y DARIAN gan Taenellwr," yn yr hwn lyfr y ceir barn a meddwl dynion dysgedicaf yr oesau ar y pwnc. Gan y Parch D. G. Jones (Dewi), Tonau, Neath. Pris swllt. Treherhert: Argraffwyd dros yr awdwr gan I. Jones. Hen ddadl yw y ddadl ar Fedydd. Nis gall drwg ddeilliaw o'r ddadl tra y byddo y dadleuwyr o dan lywodraeth awydd i gael gafael yn y gwirionedd, ac nid o dan lyw- odraeth awydd i gadarnbau y golygiadau sydd wedi cael eu mabwysiadu gan eu gwa- hanol bleidiau. Pan y gwelir dadleuydd yn dirdynu geiriau, yn cilio draw oddiwrth brofion cryf yn ei erbyn, ac yn diystyru rliesymau cedyrn, mewn geiriau trahaus, yn lie ceisio eu gwrthbrofi, neu gydnabod eu nerth, amlwg yw mai nid teyrnasiad gwirionedd yw amcan ei sel ef. Mewn mater o ddadl rhwng dynion, y rhai ydynt yn gyfartal mewn dysg, cydwybodolrwydd, a pharch i air Duw, y mae yn ymddygiad hollol groes i wyleidd-dra a boneddigeidd- rwydd Cristionogol, ac i ymwybyddiaeth pob dyn-yr hwn a ymresyma yn atliron- yddol fod terfynoldeb i'r deall dynol-i ddadleuwr daeru mewn dull honiadol, chwyddedig, unbeiflaethol, mai efe a'i blaid sydd yn anffaeledig ar y pwnc mewn dadl. Nis gall y fath ymhonwr balch ddyoddef yr amheuaeth lleiaf yn nghylch ei anffael- edigrwydd ef, mwy na'r Pab o Rufain. Ac yn lie ymresymu, dengys nwydau drwg, mewn cecru a difrio. Profa hyn ddiffyg ei ffydd ef fod sail gadarn yn y gwirionedd o blaid ei olygiadau. Nerth nwydau sydd ganddo i wneud i fyny ei ddiffyg o nerth rheswm. Heblaw hyny, y mae yr holl wastraff o deimladau, ac amser gwerthfawr, mewn sel dros seremoniau, mewn rhyw ddull neillduo], tra y mae yr un sydd yn euog o'r fath wastraff, yn erthylaidd yn ei deimladau, ac yn y defnyddiad o'i amser, mewn cysylltiad â, phethau hanfodol ys. brydol, sylweddol, Cristionogaeth-yn profi ei fod yn Babydd yn nodwedd ei sel; ac yn debyg i'r Phariseaid, y rhai oeddynt yn bryderus iawn i beidio llyncu gwybedyn, ond a lyncent gamel yn ddibryder. Gofal- ent am y ddegfed ran o'r mintys, yr anis, a'r cwmin; a diau y cwerylent a llonaid gwlad o bobl yn hytrach na derbyn naw a thri chwarter rhan o'r pethau hyny, tra yr oeddynt yn gadael heibio," neu yn esgeu- luso, pethau trymach o'r gyfraith; barn, a thrugaredd, a ffydd." Nid rhyfedd fod dynion sydd yn euog o hyn yn gwrthed profion amlwg yn eu herbyn ar fater o seremoni allanol mewn cysylltiad A chref. ydd. Cydnebydd pob dyn pwyllog, diragfarn, fod Mr Jones, yn y llyfr uchod, We^j gwneud ymdrech mawr a llwyddiam i osod ei olygiadau ar sylfeini rheswm, i dthiau, a'r Beibl. Pwy bynag a ddymuna gael cryn- odeb o ymresymiadatl uerthol o blaid credo yr awdwr ar fedydd, nis gall wneud diin yn well na phwrcasu y llyfr uchod.

RHESTR Y TESTYNAU.

LLYTHYR GALARUS

Y NHW YN PENGAM.

ORATORIO "DAFYDD A GOLIATH,"

EISTEDDFOD GADEIRIOL CASTELL.…

GLANAU Y RHONDDA.

■TAITH 0 ABERDAR I SILVER…

LLITH GOHEBYDD O'R WEST.

DYDDIAU MARI WAEDLYD. >