Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Pwyllgor Undeb yr Ysgolion…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Pwyllgor Undeb yr Ysgolion S abbothol' II Cynhaliwyd y Pwyllgor Cyffredinol yn y Tabern- acl yn Aberystwyth, dydd Gwener, Mai 5ed, 1905. y pryd yr oedd yn bresenol y Parchn. T. Levi (Cad- eirydd), Isaac Joel, Gosen, Gogledd Aberteifi; Mr. James Rowlands, Llangeitho, Dchtu Aber- teifi; Parchn. D. Tyler Davies, Bwlch, Brycheiniog; J. D. Evans, Talyllychau,, Caerfyrddin; W. Wil- liams, Rhostryfan, Arfon; Wm. Jones, M.A., Four- crosses, Lleyn ac Eifionydd; E. J. Williams, Ruthin, Dyffryn Clwyd; D. J. Lewis, B.A., Llandudno, Dyffryn Conwy; E. Isfryn Williams, Rhos, Fflint; R. Jenkyn Owen, Garston, Hen. Lancashire; W. Owen, Liverpool; Mr. T. J. Anthony, Llundain; Parchn. J. S. Roberts, Bolton, Manchester; W. Jones, Pare, Dwyrain Meirionydd; J. Roberts, B.A., Aberdyfi, Gorllewin Meirionydd; W. E. Williams, Gilead, Mon; B. T. Salmon ,Llantrisant, Dwyrain Morganwg ;B. T. Evans, Rhymni, Mynwy; Mr. Richard Rees, U.H., Machynlleth. Trefaldwyn Uchaf; Parchn. D. B. Edwards, Tregynon, Trefal- dwyn Isaf; E. Parry, M.A., Drefnewydd, Henadur- iaeth Trefaldwyn; D. O'Brien Owen, Caernarfon; David Morgan, Penllwyn; A. Wynne Thomas; Mri. W .Jenkyn Jones, M.A., D. Samuel ,M.A., Evan Evans, a'r Ysg.. Parch. R. J. Rees, M.A., Aberystwyth. i. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddi gan y Parch. E. J. Williams, Ruthin. 2. Darllenwyd llythyrau yn esgusodi am eu hab- sSfloldeb oddiwrth y Parch. W. P. Jones, M.A., B D., Abergwaen, a Mr. Thomas Davies, Pontaidulais 3. Dewiswyd y Parch. D. Mardy Davies, Ponty- cymer, Gorllewin Morganwg, yn aelod o'r Pwyllgor am y tro yn lie Mr. Thomas Davies.. 4. Gwnaed coffhad tyner am y diweddar Barch. T. Mortimer Green, aelod o'r Pwyllgor Gweithiol, gan y Cadeirydd, ac ar ei benderfyniad, yn cael ei eilio gan y Parch. J. S. Roberts, Bolton, pasiwyd danfon datganiad o'n gwerthfawrogiad o gymeriad ein hanwyl frawd a'n cydymdeimlad a'r weddw a'r teulu yn eu trallod i Mrs. Mortimer Green. 5. Pasiwyd ar gynygiad y Parch. E. Parry, M.A., Drefnewydd, ac eiliad y Parch. W. Williams, Rhos- tryfan, derbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Cyffredinol 1904. 6. Darllenwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithiol, yr hwn a gyfarfu bump o weithiau yn ystod y fiwy- ddyn 1904-5, a derbyniwyd hwynt ar gynyg Mr. David Samuel, M.A., ac eiliad y Parch. Edward Parry, M.A. 7. Ar gynyg y Parch. W. Williams, Rhostryfan, ac eiliad y Parch. W. Owen, cadarnhawyd dewisiad y Parch. J. Emlyn Jones, Porth, yn awdwr y gwers- lyfr am 1906-7 yn lie y Parch. John Davies, gynt o Shirland Road, Llundain. 8. Wedi ystyried cwestiwn rhaniad y Maes Llafur -Efengyl Matthew, am 1907-8 (Efengyl Matthew, p.p. i-—xv.), am 1908-9 (p.p. xvi-xxviii), ar gynyg- iad y Parch. D. O.'Brien Owen, ac eiliad y Parch. W. E. Williams, Gilead, pasiwyd ein bod o hyn allan yn cyhoeddi pob esboniad ar gyfer y meusydd llafur a gymerir am ddwy flynedd yn olynol yn un gyfrol yn hytrach nag yn rhanau; a'n bod yn dy- muno ar y Parch. W. J. Williams, os gall wneuthur hyny heb anmharu yr esboniad, ei gwblhau yn un llyfr, a'n bod os gall gydsynio, yn estyn yr amser iddo gwblhau y llyfr hyd yr Hydref, 1906. g. pasiwyd fod y cyfnewidiadau a benderfynwyd arnynt yn yr Agreement ag awduron y llawlyfrau a'r gwerslyfrau i'w gosod gerbron y Gymanfa Gyffredin- ol nesaf. 10. Cyflwynwyd Rheolau yr Ysgol Sul fel y cyf- newidiwyd hwy yn unol a chais y Gymanfa Gyffre- dinol 1904 (Blwyddiadur, t.d. 43-47) i sylw y cyfar- fod; ac wedi ychydig o welliantau pellach, pasiwyd hwy yn derfynol, gan ddymuno ar y Gymanfa Gyff- redinol i'w cyhoeddi ar fyrder yn Nghymraeg ac yn Saesneg. Ymddiriedwyd y gwaith o'u cyfieithu i'r Saesneg i'r Ysgrifenydd. 11. Cadarnhawyd yn unfrydol adroddiad y Pwyll- gor Gweithiol ar y cwestiwn o gyhoeddi Atlas' perthynol i ni fel Undeb iY^penvyl—nad ydym yn gweled y ffordd yn glir i gefnogi yr anturiaeth bwysig a threulfawr o gyhoeddi Atlas arbenig i ni fel Cyf- undeb, ond dymunwn fabwysiadu yr Atlas a gy- hoeddir gan Mri. Phillips, Llundain, yr S.P.C.K., Llundain, T, Nelson and Sons, Llundain, a'r Palestine Exploration Fund,' gan roi cyhoeddus- rwydd priodol i'r cyfryw yn y Daflen Flynyddol, a chael 'specimens' i'w harddangos yn y, Book-room. 12. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor Gweithiol ar argraffu tystysgrifau newyddion. Gan fod cyflen- wad digonol o Dystysgrifau i gyfarfod y galwadau am Dystysgrifau ymhob dosbarth oddigerth y dosT barth hynaf am y flwyddyn hon., penderfynwyd fod tystysgrifau ar gyfer y dosbarth hynaf i'w cael fel y gwerther allan yr holl stock presenol cyn argraffu y tystysgrifau newyddion. Cymeradwyid y trefn- iadau wneir gan y Pwyllgor Gweithiol i barotoi specimens priodol o'r tystysgrifau newyddion i'w gosod gerbron y Pwyllgor Cyffredinol nesaf, a phenderfynwyd fod v tystysgrifau hyn yn cael eu hargraffu ar ein cyfrifoldeb ein hunain yn union- gyrchol trwy argraffwyr yn hytrach na thrwy agents. Gofynwyd i'r Ysgrifenydd gasglu manylion pellach am ofynion y gwahanol siroedd ar y pen hwn. 13. Penderfynwyd gofyn i'r Gymanfa Gyffredinol ddewis y Parch. D. Treborth Jones, B.A., Salem, Aberystwyth, yn aelod o'r Pwyllgor Gweithiol yn lie y diweddar Barch. T. Mortimer Green. 14. Cafwyd adroddiad y Goruchwyliwr ar y llyfrau a gyhoeddir gan y Llyfrfa. Cafodd yr esboniad ar Luc a'r gwerslyfrau werthiant da. Y mae yr ail ran o'r Llawlyfr a'r Gwerslyfr ar Luc xii-xxiv. wedi eu cyhoeddi ar gyfer y maes llafur eleni. Cyhoeddwyd hefyd y Llyfr Tonau a Hymnau i'r Ysgol Sul, a bellach y mae cyfres y gwerslyfrau safonol wedi ei chwbTKau (Safonau i-ix), ond gan mai araf yw eu cylchrediad, dymunir ar y Gymanfa Gyffredinol alw sylw ein haelodau atynt, ac anog yr ysgolion i fab- wysiadu y Safonau yn ddioedi, Bwriedir cyhoeddi ar gyfer Maes Llafur 1906-7 argraffiad o ran gyntaf Llawlyfr y Parch. J. Morgan Jones ar Actau i-xii. Cytunir hefyd i ddwyn allan ail argraffiad o Lawlyfr Addysg ac Hyfforddiant y Parch. J. Glyn Davies, a gofynir iddo ychwanegu unrhyw welliantau a dybia yn angenrheidiol a gofynol. 15. Er mwyn hyrwyddo gwaith y Safonau, gofyn- wyd i'r Pwyllgor Gweithiol mewn cydymgynghoriad a Golygydd ac awduron y gyfres Safonau i barotoi cyfarwyddiadau priodol er cynorthwy y Cyfarfodydd Misol pan yn trefnu y meusydd llafur a gwaith yr arholiadau blynyddol. Ar ol trafocl cenadwriaethau a dderbyniwyd o Gyfarfodydd Misol Trefaldwyn Uchaf a Dwyrain Morganwg, pasiwyd yn unfrydol gofyn i'r Gymanfa Gyffredinol ddwyn allan argraff- iad Saesneg o'r gwahanol Safonau mor fuan ag y byddo hyny yn gyfleus. 16. Yr Arholiad Cyfundebol.—Cynhaliwyd yr ar- holiad eleni mewn 27 Centres, a daeth 27 o bapyrau i law. Dewiswyd y Parch. John Williams, Gilfach, yn arholydd am y ddwy flynedd 1907 a 1908. Trefn- wyd meusydd yr arholiad am y ddwy flynedd nesaf i fod fel y canlyn — 1906.(a) Luc xii-xxiv. Arholydd, Parch. Dd. Morgan, Penllwyn. Text-Books yn Nghymraeg. Llawlyfr y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., cy- hoeddedig gan yr Undeb. Yn Saesneg, Farrar's St. Luke in the Cambridge Bible for Cdl -res aad Schools. (b) Hyfforddwr xv. Arholydd, Parch. Wm. Jones, M.A., Fourcrosses. Darllener unrhyw esboniad ar yr adnodau y cyfeirir atynt, ac unrhyw Eiriadur Ys- grythyrol ar bynciau y benod. Cynhelir yr Arholiad 1906 ar nosweithiau Mercher a lau, Ebrill 25 a 26. 1907.—(a) Epistolau Petr. Arholydd, y Parch. W. Jones, M.A., Fourcrosses. Text-Book Cymraeg, Llawlyfr y Parch. Griffith Ellis, M.A. Yn Saesneg, Epistolau Petr yn y Cambridge Series. r (b) Hyfforddwr xvi. Parch. John Williams, Gil- fach. Darllener unrhyw esboniad ar yr adnodau y cyfeirir atynt ac unrhyw Eiriadur Ysgrythyrol ar bynciau y benod. Cyfeirier y darllenydd yn enwedig at Eiriadur Charles, ac at sylwadau Dr. T. C. Ed- wards ar yr Adgyfodiad Cyffredinol yn ei Esboniad I Cor. xv. 17. Maes Llafur 1909, igio. Pasiwyd fod Epistol- au loan i fod yn faes llafur y dosbarth hynaf am y flwyddyn uchod, a dewiswyd y Parch. Hugh Wil- liams, Amlwch, i barotoi y Llawlyfr arnynt. Trefn- wyd fod y rhan olaf o'r Actau i fod yn faes llafur y dosbarthiadau dan 2iain oed, a bod y Llawlyfr gan y Parch. J. Morgan Jones a'r Gwerslyfrau a gyhoedd- wyd eisoes i'w defnyddio yn yr ysgolion. 18. Dewiswyd v Parch. E. Isfryn Williams, Rhos, D. Mardy Davies, Pontycymer, Mr. Richard Rees, U.H., Machynlleth, a'r Ysgrifenydd., i gynrychioli y Pwyllgor yn y Gymanfa Gyffredinoi. 19. Bu sylw ar y cyfrifon blynyddol a ddaethant i law yr Ysgrifenydd, a mynegwyd gofid na fuasai yr holl siroedd yn danfon eu hystadegau i !ewn mewn pryd. 20. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. D. Tyler Davies, Bwlch. THOMAS LEVI, Llywydd. RICHARD J. REES, Ysgrifenydd.

CASNEWYDD.

PAIR 0 LYDAW.

Advertising