Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Hysbysiadau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hysbysiadau. Heb fod dros dair llinell, Is. y tro am bob llinell ychwanegol, 3c. Ond ymddengys Hysbysiadau am yspaid o amser am brisiau llawer is.
0 AMERICA. --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 AMERICA. GAN Y PARCH. D. JONES, B.A., ABERTAWY. Lie rhyfedd yw y Wyoming Valley. Cymerai ormod o ofod y TYST, a blinai amynedd y darllen- ydd i roddi desgrifiad manwl o bob lie o Carbon- dale i Wanamie. Cwm Rhondda ydyw ar raddra, each, ac ynddo Gymry o bob cymydogaeth weith- faol yn y Deheudir. Yn Hyde Park y ceir y cyd- gynuliiad lluosocaf o Gymry a welais eto yn un r man, a'r cynulleidfaoedd lluosocaf mewn addoldai prydferth dros ben. Cefais y brodyr oll, y rhai a adwaenwn oil o'r blaen, ond un, mor siriol a char- edig ag y gallasai fy nghalon ddymuno, ac mor bell ag y dibynai hyny arnynt hwy, yr oedd fy lIa wenydd yn gyfla wn. Hwy a faddeuant i mi am beidio eu henwi yn un ag un, rhag i mi mewn amryfusedd adael rhywun allan, canys teilwng ydynt oil o'm cydnabyddiaeth. Ar yr un pryd, gwn y goddefant i mi enwi yr hen frawd Mr Jenkins, Jermyn, tad y Parch D. M. Jenkins, Liverpool. Er ei fod yn ymyl 85 mlwydd oed, y mae yn pregethu i'r bobl bob Sabboth gyda chy- meradwyaeth uchel. Y mae fel hogyn 20 mlwydd oed yn eu mysg, a'i holl ysarogiadau mor ystwyth fel mai prin y gallai neb feddwl ei fod o fewn 40 mlynedd i'w wir oed. Ymawydda yn fawr i weled ei fab o Liverpool am unwaith eto cyn ei farw. Mae y mab yn ddigon mabol i gymeryd yr awgrym. Tra yn y Cwm hwn, ar hwyrddydd y Sadwrn, Gorphenaf 5ed, cefais y mwynbad pruddaidd o weled un o ystormydd o fellt, taranau, a gwlaw America, ac nis gallaf anghofio yr olygfa hyd bytb. Syrthiodd dwy fellten un o bob tu i mi, y naill oddeutu chwaiter milltir oddiwithyf, a'r llall tua 200 llath. O y twrw byddarol hwnw, megys twrw ffrwydriad mil-myrdd o ferwedyddion, mai ei adsain yn fy nghlustiau y mynyd yma. A thyna wlaw Gwelais wlaw tiranau braf cyn hyn yn Bethesda, Arfon, ac yn Nant Ffrancon, ond erioed ni welais ddim cyifelyb i hwnw. Nid rhy- fedd fod yn y wlad hon afonydd mawrion, canys y mae ynddi wlaw mawr hefyd. Er's amryw fisoedd nid yw y glowyr wedi cael gweithio ond haner eu bamser. Ond synwyd fi gan gymedroldeb eu cwyno. 0 hyn allan dys- gwyliant gael gweithio amser llawn. Cyfarfydd- ais a chyfeillion a adwaenwn yn mhob man, ac yn eu mysg rai o gyfeillion boreu oes, nad oeddwu wedi eu gweled na chlywed dim am danynt er's llawer o flynyddoedd. Pan yn disgyn yn ngorsaf Slatington, pwy oodd yno yn fy nghyfarfod, ond fy nghyfaill dyddan a doniol Mr William G. Lewis, Catasacqua. Aros- odd gyda mi y noson hono yn ngbanol chwarelwyr Arfon a Meirion. Mwynheais fy hun yn fawr yn eu mysg, a theimlwn megys cynt yn Bethesda. Tranoeth cymerodd Mr Lewis fi yn ei buggy i'w gartref dedwydd yn Catasanqna, Er fy mawr syndod, pwy ddeuai i'r ty ychydig cyn amser yr oedfa ond Mr R. Williams, brawd Mr W. J. Williams, Caernarfon, a Charles Williams, Beth- esda, Arfon, gynt. Daethant o Bangor, 25 milltir i'm cyfarfod. Mae yn Catasanqna gapel bychan tlws er coffawdwriaeth am Mr Thomas, yCymro twym-galon, a thad gweithiau haiarn America. Am Dad oes genyf ddawn i ganmol llettygarwch Mr a Mrs Lewis, Catasanqua yn deilwng ni chyn- ygiaf at hyny, ond nid yn fuan y gallaf anghofio y drive gawsom dranoeth oCatasanqua i Bangor yn ngherbyd Me Lewis. Byddai treulio diwrnod yn nghwmni Mr Lewis a Mr R. Williams yn ddi- gon i yru y pruddglwyf ar ffo oddiwrth y mwyaf bilious. Wedi treulio Sabboth dedwydd yn Mangor, cychwynasom (yr un cwmni) tna'r Water Gap— adwy wedi ei gwneyd gan natur yn y Mynydd Glas i'r afon Deleware i fyned drwodd. Cyffelyb i Ben y Benglog yw y Gap, ond fod y mynyddoedd yn orchuddiedig gan wyrddlesni. Mae ynt ddwy o'r Hotels prydfeithaf—un ar gopa clogwyn uchel, a'r llall megys yn crogi uwcbben yr afon. Dyma un o'r lleoedd prydferthaf a welais erioed. Dyma fi yn Drifton, lie y gweinidogaetha. Mr Humphreys, brodor o Bethesda, Arfon. Tranoetb, wrth fyned i Janesville, cafodd Mr Humphreys a minau daith anturiaethus, llawn o ddygwyddiad- au cyffrous, nad ydynt o bwys i'r byd i'w gwybod, ond a gawsant argraff rby ddwfn ar ei feddwl ef a ninau i'w hanghofio. Yn Janesville, lie y gwein- idogaetha Mr Howells, brodor o Dowlais, cawsom ystorm fechan o fellt a tharanau. Yn ngorsaf Lansford pwy oedd yn fy nysgwyl ond Mr Edwards, Blaenafon gynt. Aeth Mr Edwards yn genadwr i Mexico rhyw ddeng mlynedd yn ol, ond y mae yn awr yn weinidog ar eglwys Gym- reig ac eglwys Seisonig yn y lie hwn. Er ei fod wedi dyoddef llawer yn mhob dull a modd, ac wedi gweled dyddiau blin, da oedd gonyf ei welcd ef a'i deulu cystal, ond hyderaf fod iddynt well iechyd yn y dyfodol.
GOLLYNGIAD Y SENEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
weithio eu ffordd trwy anhawsderau dirfawr, yn wyneb y gwrthwynebiad mwyaf ffyrnig, a'r ymgais mwyaf cyfrwysddrwg i ddyrysu ac atal gwaith. Hwn oedd y pumed eistedd. iad i'r Senedd bresenol, yr hon yw y ddegfed Senedd yn nheyrnasiad ein BRENINES a dichon na bu yr un eisteddiad yn nyddiau VICTORIA a llai o waith i'w ddangos ar y diwedd fel ffrwyth i'r holl siarad a fa. Dysgwyliwyd pethau mawr ar y dechreu, ac addawyd hwy yn yr Araeth Freninol; ac yr oedd y Weinyddiaeth yn awyddus ac yn benderfynol i gyflawni yr addewidion a wnaeth. Dygwyd gan y Weinyddiaeth 85 o fesurau i fewn, a rhoddwyd y sel Freninol wrth 53 ohonynt, a galwyd yn ol 30 ereill; ond y u-iae y rhai basiodd o nodwedd mor ddibwys, fel nad oes un o gant yn gwybod beth oeddynt. Dygwyd 160 o fesurau i mewn gan aelodau annibynol yn y ddau Dy, o'r rhai ni ddaeth ond 28 yn ddeddf, a gwrthodwyd 13, a daeth y 119 ereill i'r dynged a elwir yn awr Cyflafan y dini- wed." Mae yr holl fesurau yn y rhai y teimlid dyddordeb cyffredinol, ac am y rhai y dysgwyliai y wlad, wedi eu troi o'r neilldu, ac nid oes yn yr 81 mesurau a bas- iwyd gymaint ag un ag a esyd i'r lluaws yn ein gwlad fare ar v Senedd-dymhor eleni, fel yr un y pasiwyd ef ynddi. Yr oedd dysgwyliad mawr gan ddosbarth lluosog a phwysig am fesurMrCHAMBERLAIN yn nglyn a'n llong-au ac er i,, deimlad cryf godi yn erbyn rhai adranau ohono, eto y mae ei amcan yn gyfryw fel nas gellir ei daflu heibio yn llwyr ac y mae yn rhaid cael rhyw well darpariaeth er dyogelwch ein morwyr, y rbai a ddisgynant mewn llongau i'r mor," y rhai yn ami nad ydynt yn ddim amgen nag eirch i nofio ynddynt. Bydd llong-berchenogion ariangar yn sicr o wrtbwynebu pob mesur a gyfyngo ar eu helw hwy; ond amcan llywodraeth ydyw dyogelwch y lluaws, ac nid buddianau yr ycbydig. Yr oedd Mesur Llywodraeth Leol Llundain yn cael edrych arno mor bwysig fel y credai llawer y dylasai gael y flaenor- iaeth hyd yn nod ar Fesur yr Etbolfraint ond bu raid taflu hwnw hefyd o'r neilldu, oblegid gwithwynebiad y rhwystrwvr dryg- ionus hyn. Nid ydym yn cyfeirio at Fesur Addysg Ganolraddol, a chynygiad Mr DILLWYN am Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru, yn y rbai, o angenrheidrwydd, y teimlem ni ddyddordeb mawr, ond a wtb- iwyd o'r neilldu oblegid fod yr amser yn cael ei ddifa gan ddynion nad oedd ganddynt ddim mewn golwg ond atal gwaith angen- rheidiol. Ond y prif fesur a ddyryswyd oedd Mesur yr Etholfraint, nid gan Dy y Cyffredin mae yn wir, ond gan Dy yr Arglwyddi, a hyny er iddynt gael dau gynyg i'w basio. Yn yr Araeth o'r Orsedd ar agoriad y Senedd, gosodwyd pwys neillduol ar y profiad y mae haner can' mlynedd wedi ei roddi yn nglyn a helaethiad y bleidlais, ac fel y mae hyny yn cynyrchu ymlvniad cryfach yn y bobl wrth yr Orsedd, y gyfraith, a sefydliadau y wlad. Cariwyd y mesur yn fuddugoliaethus trwy Dy y Cyffredin, er nad heb wrth- wynebiad mawr, ac ymgais anheg ar bob achlysur i'w ddrysu a'i oedi; ODd cariwyd ef yn y diwedd, a hyny heb lais croes. Ond bwriodd Tý yr Arglwyddi ef allan. Ni feiddiant ddyweyd eu bod yn gwrthwynebu egwyddor y mesur, er y gwyr pawb mai i hyny y mae eu gwrthwynebiad. Mae eu holl banes a'u traddodiadau yn profi eu bod yn erbyn hawliau y bobl. Ar eu gwaethaf hwy y sicrhawyd i'r bobl yn mbob oes eu hiawnderau. Mae eu holl galon yn awr yn brawychu rhag i ddwy filiwn yn ychwaneg o'r bobl dd'od i feddiant o'r bleidlais, ac nid rbyfedd, oblegid y mae y ddwy filiwn hyny agos oil yn cael eu gwneyd i fyny o'r dosbarth mwyaf annibynol yn y Wladwr- iaeth; ond ni feiddia yr Arglwyddi ddyweyd eu bod yn erbyn estyniad y bleidlais. Yn wir, cymerant arnynt fod yn ei ffafr, ond fod ad-drefniad y seddau i dd'od yr un pryd, fel y caffer mesur cyflawn. Mae clywed yr arweinwyr Torïaidd yn son am ad-drefnu yr eisteddleoedd, a rhoddi pleidlais i'r lluaws, yn ddigoni gynhyrfu ysbryd unrhyw ddyn sydd yn gyfarwydd a'u hanes yn yr amser a aeth beibio, a phan-yn gwybod hefyd nad yw hyn oil ond dyfais ddichellgar o'r eiddynt er gwrthwynebu Mesur yr Etholfraint. Pe dygid mesur teg a chyfiawn ger bron gyda golwg ar ad-drefnu y seddau, fel y gwneir yn ddiau yn fuan, ni byddai neb a'i gwrthwynebai yn gryfach na'r Arglwyddi sydd yn awr yn gwaeddi am dano, a cheir gweled hyny pan ddaw ger bron, oni bydd eu llais hwy mewn deddf- wriaeth cyn hyny wedi ei gymeryd ymaitb. Mae y weithred yma o eiddo yr Arglwyddi wedi cynhyrfu yr boll wlad, ac wedi llyncu pob cwestiwn arall iddo ei hun. Mae hyd yn nod y gofyniad, Beth ddaw o Fesur yr Etholfraint ? wedi gorfod rhoddi ffordd i'r cwestiwn, Beth a wneir i Dy yr Arglwyddi ? Nid oes dadl am lwyddiant Mesnr y Bleidlais. Cyferfydd y Senedd yn yr Hydref i'w basio eto, a rhoddir cynyg eto i'r Arglwyddi i'w dderbyn neu ei wrtbod ac os parhant yn eu cyndynrwydd, rbaid iddynt gymeryd y canlyniadau. Wrth adolygu y Senedd-dymhor diweddaf, nis gall neb lai na gweled cywirdeb yr hyn ddywedodd Mr GLADSTONE, fod ymddygiad y blaid Wrthwynebol yn nglyn a'r Aipht a Soudan wedi effeitbio yn bwysig ar ddeddf- wriaeth gartrefol. Codwyd y cwestiwn hwnw i fyny lawer gwaith pin nad oedd unrhyw amcan i'w gyrbaedd ond difa amser ac atal gwaith. Trwy yr holl dymhor glynodd y Tor'iaid yn ffyddlon i'w gilydd mewn un peth-rhwystro. Pa ymrafaelion bynag oedd yn eu plith eu hunain, yr oeddynt oil yn uno pryd bynag y gwelent eu cyfle i rwystro gwaith. Anfonid y gair o gylcb, ac yr oeddynt yn dyfod oil yn nghyd os tybient fod rhyw gyfle i daflu rhwystr ar ffordd y Llywodraeth. Nid gwaeth fyddai ganddynt beth fyddai y cynygiad, na phwy a'i dygai yn mlaen. Ochr yn ochr a'r Parnelliaid, neu wrth gefn ryw aelod annibynol hunan-, dybus, yn rhywle, am y gallent wrtbwynebu Mr GLADSTONE a'i Gynghor. Siaradent un mesur allan, a gwrthwynebent un arall, nid oblegid fod ganddynt wrthwynebiad neill- duol iddo, ond am y gallent trwy hyny ladd amser. Felly, beth bynag ydyw diffrwyth- der y Senedd-dymhor diweddaf wedi bod, mae y cyfrifoldeb o hyny yn hollol ar y Tonaid. Nis gallesid symud yn mlaen oblegid yr oeddynt hwy ar y ffordd. Ac eto y maent yn awr yn ddigywilydd yn edliw i'r Weinyddiaeth na buasent wedi gwneyd mwy o waith. Y gwir yw, nid oes derfyn ar eu baerllugrwydd, a'r syndod ydyw eu bod yn gallu dallu cynifer o bobl i roddi coel i'w cyfeiliorni. Ond nis gall pethau barbau yn hir fel byn, a chyn y cyferfydd y Senedd yn Hydref bydd llais y wlad wedi ei glywed, ac wedi mynu gwrandawiad. Pa le y mae Cymru ar byn o bryd ? Dylai o leiaf gant o gyfarfodydd gael eu cynal yn lleoedd poblog ein gwlad, a byd y gellir yn yr awyr agored, er dangos ein bod ninau yn fyw i angenion yr amseroedd.