Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y Diweddar Mr. Alfred Davies.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Diweddar Mr. Alfred Davies. Bu farw'r boneddwr adnabyddus, Mr. Alfred Davies, Hampstead, yn sydyn yn ei gartref ddydd Gwener yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o Gymry Llundeinig ers blynyddau lawer, ond daeth i fwy o sylw yn y blynyddoedd di- weddaf hyn fel yr aelod Seneddol doniol dros f wrdeisdrefi Caerfyrddin. Mae'r helynt ynglyn a'i ymneillduad o'r etholaeth honno yn 1905, pan y dewiswyd Mr. W. Llewelyn Williams yn olynydd id do, yn wybyddus i bawb, ac mae'n debyg i'r siomiant hwnnw ynglyn a'r ergyd gafodd yn ddiweddar trwy foddiad ei anwyl fab yn y Berlin ar "draethau Holland, effeithio llawer ar ei gyfansoddiad, a pheri iddo golli dyddordeb mewn materion cyhoeddus. Er hynny ni t!ieimlai'r teulu fod yr un perygl yn agos, .ond daeth y diwedd yn sydyn foreu Gwener, pan oedd yn ymgomio yn ddiddan a'r teulu. Mab i bregethwr gyda'r Anibynwyr oedd Mr. Davies. Daeth ei dad o Sir Gaerfyrddin i gymeryd gofalyr eglwys Seisnig Albany Chapel, a pharhaodd yn weinidog parchus yn y ddinas yma hyd ei farwolaeth. Eti- feddodd y mab lawer o ysbryd anibynol a 4aliadau Ymneillduol y tad, a dringodd i fynu yn fasnachwr llwyddiannus, a phar- iiaodd yn aelod gyda'r anibynwyr Seisnig hyd y diwedd. Cymerodd lawer o ddyddordeb mewn materion dinesig. Etholwyd ef yn aelod o'r 'Cyngor Sir cyntaf gaed yn Llundain, a bu a llaw flaenllaw yn holl fudiadau Rhydd- irydol ardal Hampstead am flwyddi lawer. Pan ddaeth allan yn ymgeisydd, dros fwr- deisdrefi Caerfyrddin y daeth, i fri yng Nghymru, ac wrth ennill y sedd yn ol i'r Rhyddfrydwyr teimlai ei fod wedi gwneud gwrhydri i'w genedl. Yn dra gwahanol i'r eyffredin gwnaeth iarc arbennig yn y Senedd yn gynnar yn ei yrfa, a hynny fel holwr Mr. Chamberlain, yr hwn oedd Ysgrifenydd y Trefedigaethau ar y pryd. Rhyw chwareubeth ar y goreu oedd gwleidyddiaeth ganddo, a gwnaeth y papurau Seisnig ef yn destyn gwawd a -donioldeb o ddechreu ei yrfa gyhoeddus. 'Roedd ganddo galon dyner, a byddai yn iiael iawn at bob achos dyngarol. Manteis- iodd awer o bobl Llanelli a Chaerfyrddin ar ei ddiniweidrwydd neu ei wiriondeb, a bu raid iddo gyfrannu cannoedd o bunnau at wahanol fudiadau yn y lleoedd hyn tra yn .eu cynrychioli yn y Senedd. Pan aeth y pleidiau i gynhenna ynglyn a rhanau'r ysbail daeth y mater i sylw'r cyhoedd, a bu .cryn drafodaeth ar yr helynt yn y wasg ac mewn pwyllgorau ar y pryd. Cydnabyddai pawb fod Mr. Davies wedi ymddwyn yn hynod o ffol yn yr holl fusnes, ond ar yr un pryd priodolid y cyfan i'w ysbryd tirion a .charedig. Efe oedd sefydlydd y ffirm Davies, Turner and Co., ac mae'r masnachdy hwn a'i gang- Jiennau ym mhob gwlad lie y gwneir traf- nidiaeth helaeth mewn nwyddau o'r wlad hon. Gedy weddw ac un ferch a phedwar o feibion i alaru ar ol priod a thad tyner, a -chymeriad hollol ddiddichell. Hedd fo i'w lweh.

Advertising

Am Gymry Llundain.