Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
w EVERY WOMAN BOULD send 2 stamps for our 32 page mustrated Book *» containing va!uable information how all Irregularities and Suppressions may be Entirely avoided or removed by simple means. Recommended byeminfnt Physicans, as the only Safe, Sure and Genuine Re;-ned.T. Nevei fait Thousands of Testimonials. Established i862. Mr. PAUL BLANCHARD Claremont House. Daistoa Lane. LONDON. 1
fo Big y1 -Lleifiad.
fo Big y Lleifiad. 0 FLAEN Y MAER Nid yn ami y bydd neb o Gymry Birken- head o flaen y Maer ond fe welwyd pump parchus ohonynt o'i flaen brynhawn dydd Gwener diweddaf ond nid yn euog eu golwg ym mhalfau'r plismyn, ond yno ar ran pwyll- gor o'u cydwladwyr i ymbil am nawdd a chefnogaeth His Worship a'r Cyngor i'r apel a wneir ym Mangor fis Medi nesaf am gael yr Eisteddfrd Genedlaethol yma yn 1916. Mri. J. H. Jones, Isaac Davies, Gomer D. Roberts a Ben Thomas oedd y ddirprwyaeth, a chan y Cynghorydd D. R. Rowlands y'u cyflwynwyd i'w wydd. Wedi iddynt ddweyd eu neges, buan y gwelwyd fod gwynt y Maer yn garedig iawn tuag ati dywcdai y bu mewn dwy neu dair o'n Gwyliau Cenedlaethol, ac fod ganddo feddwl mawr o'u hamcan, ac o'r delfryd dvrchafedig a roddai fod iddynt. Gwr ha wdagar yvv TAr. Moon, sy I n adnabod y Cymry'n dda, ac na raid iddynt ddim ond prin godi eu bys arno na ddaw'r llywydd iddynt mewn cyngerdd neu unrhyw gyfarfod fn a'i aincan yn deilwng a llesol. Dywedodd y -wiiai bopeth a aUai efe'i hun at ei chael ac ° y dygai'r cais i sylw pwyllgor ariannol y Cvngor gynted gellid. Wedi diolch iddo am gystal gwen a chroeso, aeth y ddirprwyaeth ailan o'i wydd gan deimlo'n sicr fod y gwynt o'u tu ac y gwelir yr H m Wyl yma yn ei dillad goreu tua'r wythnos gyntaf o Fedi, 1916, pwy bynnag fydd byw ac iach. Wrth droedio r heolydd ar ol mynd allan, teimlwn mor gated oeddy palmant cerrig rhagor carped melfed- aidd Parlwr y Maer. Q.- YR EFENGYL A SO SIAL AETH Y mae'n eymydog-y Parch. J. H. Howard, 'bugail Eglwys Willmer Road, Birkenhead- wedi sgrifennu llyfr Cymraeg ar Sosialaeth a Christionogaeth—pwnc y mae efe'n hoft o bregethu arno, ac o'i oleuo wrth wneud. Y mae'r Canghellor Mr. Lloyd George, wedi gweled yr ysgrifau, ac wedi datgan ei gymer- adwyaeth uchel i allu a chlirder meddwl yr awdur, mewn Rhagair byr sydd i'w gyhoeddi gyda'i gyfrol. Aiff i'r wasg yr wythnos hon, ac a fydd allan ar fyrder, yn llyfr hanner eoron. PROFFWYDI LLUNDAIN- Y Parc.h H. Elfed Lewis, M.A., a gadwai gyfarfod pregethu Eglwys Annibynnol Clifton Road, Birkenhead, nos Sadwrn a'r Sul di- weddaf, gan roi oedfa 8 iesneg y prynhawn, a newid pulpud bore Saboth a'i gyfaill a'i gymydog o'r Brifddinas, y Parch. Peter Hughes Griffiths, cennad gwahoddedig Eglwys Annibynnol Park Road, Lerpwl, i gadw'i chyfarfod pregethu hithau. Bum mewn tair o oedfaon Clifton Road,—oedfaon llawnion iawn nos Sadwrn a nos Sul, ac yn atgoffa dyn am dyrfaoedd yr hen gyfarfodydd ugain mlynedd yn ol os caf hwyl a hamdden, earwn ddwedyd gair am Broffwydi melys Llundain ymhen rhyw bythefnos neu dair wythnos. Y GYM AN FA ENCGR- Addefir gan ein cerddorion, o bob enwa nad oes yr un gymanfa ganu'n uwch ei safon a'i harddeliad ar hyd y blynyddo-xld na .Chymanfa Bedyddwyr L"ruwl, a gynh-lir yn Everton Village a chymaint fu'r bias a gaed arni yno'r mis diweddaf fel y penderfynwyd ei ehael eilwaith y tu arall i'r dwr. Hynny gaed nos Fercher ddiweddaf, sef yn addoldy helaeth y Brunswick, a roed yn fenthyg gan gyfundeb caredig y Wesleaid. Daeth tyrfa dda ynghyd aed dros yr un rliaglen yn union ag yn Everton Village, ac yr oedd yr arwein- ydd, Mr. J. T. Jones, yn llawn o'r ysbrd sy'n gweddu i ganu mawl. Caed gair byr gan Mr. Gomer D. Roberts o'r gadair a theimlad pawb ydoedd mai cymanfa ragorol oedd y Gymanfa Enc6r. T CHWIORYDD A DIRWEST—:— I Cynhaliodd Undeb Llwyrymwrthodol Merched Cymreig Lerpwl a'r Cylch eu cyfarfod blynyddol yng nghapel Douglas Road ddydd Mercher diweddaf. Cynhadledd yn y pryn- hawn am 4, ar y gloch. Wedi i Mrs. Hugh Parry ddechreu'r cyfarfod, caed anerchiad gan Mrs. Parry (York Terrace), Llywydd yr Undeb, yn gofidio colli'r Bil Trwyddedol di- weddaf a phasiwyd penderfyniad o blaid y Mesur i Gymru sydd newydd ei gyflwyno i'r g,anedcl.-Caed eu hadroddiadau gan yr Ysgrifennydd, yr Ysgrifennydd Cofnodol, a'r Trysorydd, ac a'u cymeradwywyd. Yna -adroddiadau yr amryfal ganghennau, a'r rheiny'n rhai calonnog, ffic amryw'n dangos cynnydd. Hysbyswyd y bydd Undeb Merched Dirwestol Gogledd Cymru'n cadw'u cynhadledd- yn Lerpwl yr Hydref nosaf.- Caed trafodaeth ar sut oreu i goffhau'r ddi- weddar Mrs. Evan Owen, a dyma basiwyd rhoi gwobr flynyddol am y Stori Ddirwestol oreu, debyg i a ysgrifennai Mrs. Owen mor daclus ei hun.—Etholwyd Mrs. Phillips (cang- en Great Mersey Street) yn drysorydd am y flwyddyn ddyfodol, yn lie Mrs. W. O. Hughes, i'r hon y diolchwyd am ei ffyddlondeb gyda'r swydd honno ers yn agos i ddeng mlynedd.— Arlwywyd te a lluniaeth gan gangen Douglas Road i'r holl gynrychiolwyr. Yr hwyr, am 7, caed organ recital a chyfar- fod oyhoeddus. Y Parch. John Owen yn llywyddu; y Parch. D. Adams, B.A., yn dechreu, a'r cadeirydd yn egluro paham y methodd Miss Edith Thomas (Cricieth) ddod i'r cyfarfod i'w annerch. Caed araith gan y Parch. J. Talog Davies (Catharine Street) canodd cor genethod Vittoria Street, Birken- head, yn swynol tros ben, tan arweiniad lodes ieuanc o'u mysg hwy'u hunain a dwy ohon- ynt yn adrodd hefyd gyda chymeradwyaeth amlwg y dyrfa.
I DAU TU'R AFON. ]
I DAU TU'R AFON. ] CYMANFA PLANT YR EGLWYS RYDD.—Yr adroddiad yn ein nesaf. Cywiriad.- Yn hanes y cyngerdd ar ran teulu'r diweddar Mr. John Henry, R.A.M., yn ein rhifyn diewddaf, dywedem mai Mr. W. H. Atkinson, y canwr a fethai fod yno i gymryd rhan, a anfonodd burn gini at yr amcan. Camgymeriad oedd hynny Miss Anna Saker a'u hanfonodd. CYNGERDD MR. T. ARMON JONES.— Cynhaliwyd hwn nos Fercher ddiweddaf yn y Royal Street Lecture Hall, ganddo fo a'i facwyaid cerdd. yn cael eu cynorthwyo gan Miss Whipp, L.R.A.M., crythores Mr. Arthur Jones, tenor Mr. W. Arthur Evans, adrodd- wr a Mr. Lindon Wyatt, yr humorist enwog, —efe'n dod i'r cyngerdd yn unswydd o Lun- dain. Miss Nellie Lewis, A.R.C.M., gyfeiliodd ar y piano gyda'i medr hysbys. Caed cymorth yr organ gyda'r rhan fwyaf o'r canu, cystal a'r piano, a Mr. W. R. Hughes yn gwas- anaethu'n bur llwyddiannus yn y cysylltiad hwnnw. A dyma'r disgyblion gymerodd ran Madame Timewell, Mrs. Fraser Lawson, Misses Nellie a Christie Marshall, Evelyn Pritchard, Dorothy Clegg, Eveline Hannay, Winifred May Jones, Gwladys Lewis, Evelyn Evans, Mri. Harold Flindt, Abiat Jones, Geo. Nuttall, Edwin Johnson a Harold Stone. Yr oeddynt yn dda iawn, a rhai ohonynt yn amlygu. addewid ddisglair tua'r dyfodol, yn arbennig Miss Gwladys Lewis gyda'i Hear ye, Israel: Miss E. Evans, yn Alone on the Raft; Miss Winifred M. Jones yn Dear Heart; a Master Abiat Jones gyda'i May Morning. Yr oedd unawdau Miss Whipp ar y crwth yn wledd amheuthun cafodd Mr. Armon Jones arddeliad gyda'i ganeuon yntau a siglai'r dyrfa gan chwerthin a boddhad wrth wrando doniolwch cerddorol a llygeidiol y Wyatt dawnus a direidus o Lundain. Y Cynghorydd Henry Jones, Y.H., oedd yn y gadair, ac a dalodd warogaeth i'r athro a'i ddisgyblion ac a'i llongyfarchodd ar Iwydd ei gyngerdd. GOBEITHLXT MARTIN'S LANE.—Dibennwyd y tymor, Ebrill 16eg, gyda chyngerdd campus, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Price Davies, pryd y cafwyd canu ac adrodd o radd uchel iawn. Yr arweinydd oedd Mr. John Williams, Wernfa," a dymunem ei longyfarch ar ffrvryth ei lafur, yn enwedig yn y datganiad pur roddodd y C6r o'r darnau Mae'r goreu eto'n ol, Ar Ei ben bo'r goron, ac Mae'th Dad wrth y llyw. Adroddwyd yn rhagorol gan Sophie Davies, Freda Price, Gwen Williams, Gladys Williams, ae A. Hughes unawdau swynol gan Miss Eunice Jones, S. J. Edwards, Marian Hallwood, ac Ella Price deuawd ar y ber- doneg gan Miss Myfanvry Pritchard a May Roberts hefyd unawd ar yr un offeryn gan Marion Hallwood, ac yr oedd medr y cwbl yn ennill sylw a chymeradwyaeth. Diddorol iawn oedd Iaith y Llythrennau," "'Dewi Sant." gan navr o'r aelodau ieuengaf Emlyn Dwies, Sophie Davies, Percy Will- iams, Olwen Jones, Elwyn Williams, Mary Jones, Tudor Williams, Muriel Mair Evans, a Myfanwy Williams, yr olaf y lleiaf o'r haid, ond pwysig er hjTiny, Myfi yw y dot a dilynwyd y rhai hyn ag adroddiad ar Dewi gan Glyn Will;ams. Cyfeiliwyd i'r cwbl gan Miss Grace Evans. Diolchwyd i'r arweinydd- ion gan y Parch. T. P. Davies a Mr. R. H. Jones, a chydnabuwyd gan Mr. A. T. Evans. Ac wedi diolch i'r cadeirydd siriol gan Mri. E. H. Roberts a John Davies, terfynwyd un o'r cyngherddau mwyaf llvryddiannus yn hanes y Gobeithlu, drwy ganu Dwr yw diod Duw.- Un yn caru'r Gwaith. EGLWYS DEWI SANT.—Yn y Neuadd Eg- lwvsig, Hampstead Road, nos Fercher ddiweddaf, cynhaliwyd festri flynyddol yr Eglwys uchod. Llywyddwyd gan y ficer, y Parch. R. D. Hughes, B.A. Cafwyd ad- roddiad manwl o gyflwr ariannol yr Eglwys am 1913 gan Mr. Charles Williams (warden y fleer) a diolchwvd yn wresog iawn iddo am ei ffyddlondeb. Dewiswyd swyddogion am y flwyddyn fel y canlyn: Warden y Ficer, Mr. Chas. Williams Warden y Bobl, Mr. Edwin Morris Ystlyswyr (Sidesmen), etholwyd yr holl hen aelodau, ac ychwanegwyd Mri. C. Jones, J. Price, a T. C. Edwards atynt Cynrychiolwyr Lleyg, Mri. David Williams, P. M. Evans Archwilwyr, Mri. R. O. Parry a Jos. Griffiths Ysgrifennydd, Mr. Hugh I Jones. Pasiwyd i anfon llythyr o gydym- deimlad a r hen ysgrifennydd, sef Mr. David Jones, 17 Malvern Road, yn ei gystudd trwm I hefyd, pleidlais o ddiolch i'r Ficer a'i briod hawddgar am y modd hynod y llafuriasant yng nghorff y flwyddyn ddiweddaf, yn neill- tuol felly Mrs. Hughes, gyda'r Socials a'r Band of Hope. Bendith Duw fyddo ar eu J pennau. Treuliwyd noswaith hynod ddifyr a phawb yn teimlo'n awyddus am wneud yn well yn y dyfodol.-W.H. Miss Elsie Hulme-Jones, un o facwyaid Mrs. Howard Stephens, Anfield Road, aeth a'r wobr gyntaf oddiar gynifer ag wyth ar hugain o ymgeiswyr am yr unawd contralto yng Ngwyl Gerdd Bolton yr wythnos ddiweddaf. The Wanderer—dyna'r gan. EGLWYS M.C. WOODCHTJRCH ROAD.- Rhoddwyd te i blant Gobeithlu y lie uchod Nos Fawrth, yr 21ain cyfisol. Gwnaeth y plant gyfiawnder a'r danteithion oedd wedi eudarparu ar eu cyfer. Am wythar y gloch, cafwyd cyfarfod amrywiaethol, ac aed trwv'r rhaglen ganlynol gan y Plant, Diod Duw, yn cael eu harwain gan Mr. Herbert Davies Piano and Mandoline Solo gan Dilys Roberts ac Arthur Roberts adroddiad,The Poppie, Enid Humphreys detholiadau ar y Gramophone, Mr. R. J. Roberts adroddiad, Wil Bryan a'r Cloc, Mr. E. H. Williams; unawd, 0 sancteiddia fenaid, Arglwydd, Hughie Hughes deuawd, D. John ac lor. werth C. Davies ar y berdoneg, Gwennie Humphreys; adroddiad, The Coming of Spring, Owen Tudor Hughes; unawd, Neges y Blodeuyn, Miss Olwen Williams adroddiad, Tom Thumb, George Broeklebank unawd, Flee as a Bird, Dorothy Parry adroddiad, Play the Game, Nora Roberts unawd, Dagrau'r lesu, Dilys Roberts adroddiad, Take the Safe Path, Iorwerth C. Davies ar y berdoneg, Dilys Roberts adroddiad, Ysmygu, David J. Davies detholiadau ar y gramophone, Mr. R. J. Ro- berts. Gwnaeth yr holl gantorion a'r ad- roddwyr eu gwaith yn rhagorol. Llywydd- wyd gan y Parch. W. O. Jones, y gweinidog. Diolchwyd yn gynnes i'r chwiorydd am eu llafur gyda'r te gan Mr. Edward Davies a Mr. Herbert Davies.-T.A.E. CYNGERDD YORK HALL.—Cynhaliwyd ail gyngerdd blynyddol Gwasanaeth Plant Ystaf- ell Genhadol Bankhall nos Fercher, Ebrill 22 llywydd, H. B. Evans, Ysw cyfeilydd, Miss A. Ada Roberts a chymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan Misses Laura Jones, Mabel Owen, Evelyn Caton, a'r Mri. Leather a Smythe, R. Vaughan Jones, O. R. Hughes, a'r Brodyr Hughes.
I Wrth Fynd i'r Fodrwy I
Wrth Fynd i'r Fodrwy BRON nad oedd Birkenhead i gyd ar ben y dnrs bore ddoe (ddydd Ma wrth, yr 28ain cyflsol) i weld priodas Miss Elizabeth Evans, merch Mr. David Evans, Cynlais, Upton Road, a'r Meddyg A. G. W. Owen, B.A., M.D., Ch.B. (unig-fab Mr. a Mrs. Job Owen, Cambrian House, Llanberis) yng nghapel M.C. Laird Street. Tyrfaoedd o bobl a phlant a heidiai'r heolydd bob cam o Cynlais i'r capel buan y llannwyd yr addoldy nes oedd tan sang, a throi draw'n siomedig eu gwedd fu rhan ugeiniau oblegid colli gweled gweinyddu y ddefod ddwys. Cyflwynwyd y briodferch gan ei thad Miss Dorothy Owen (Rhuthin), Miss Eirliw Jones (Harlech) a'r Misses Nellie Evans (Cynlais) a May Evans (Glenart) yn gweini ar y briodferch a Dr. Frank Roberts a Mr. J. J. Williams ar y priodfab. Stiward- iaid y briodas oedd y Mri. J Cynlais Evans, Arthur White, H. Evans. Yr addoldy wedi ei wisgo'ii hardd, a'r pwyslau blodau tlws eu lliw a pher eu sawr megis yn ddrych a dameg i'r par ifanc o'r amryfal rasusau a ddymunid ar eu rhan ar drothwy eu gyrfa briodasol gan y dyrfa ddaethai yno'n dyst o seliad eu cyfamod glan ddihalog. Dyma drefn y gwasanaeth Wedi i'r dyrfa denn ymwasgu i'w lie, ac fod pawb bellach yn astud-sbio tua'r allor, codwyd i gyd-ganu Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw, Lie daw im' help 'wyllysgar, un o Salmau Can yr Archddiagon Prys, sy mor dlws ei Chymraeg ac mor fely-s ei chysur i bawb fo'n dechreu cydfydio Yr Ion a'th geidw rhag pob drwg, A rhag pob cilwg anfad Cei fynd a dyfod byth yn rhwydd, Yr Arglwydd yw dy Geidwad. Yna aed drwy'r gwasanaeth priodi gan y Parch. J. H. Howard, Willmer Road ac wedi i'r Parch. Lodwig Lewis, Seacombe, draddodi anerchiad o gynghorion doeth a dewisol i'r ddau oedd bellach yn un, ac i'r dyrfa gydganu emyn Saesneg :— Saviour, let Thy sanction rest On the union witnessed now, gweddiodd y Parch. G. Owen, Bangor, a Mr. H. Dillwyn Roberts, Gwrecsam, yn chwarae'r Bridal Chorus wrth i'r parti priod- asol ddod i fewn, a'r Wedding March fel yr araf-droedient allan. Modurwyd o'r Capel i Cynlais, lle'r ymgeseiliodd y gwahoddedigion i'w gilydd yn barti lion ar lawnt y ty, ac y tynnwyd eu llun yn gof-a-chadw am yr uniad dedwydd. Ond os mynnech chwi'r merched yma wybod pa ryvr wisgoedd oedd am rianedd y gwahoddedigion priodasol, rhaid i chwi ofyn i rywun arall, canys fe'm dallwyd i gymaint gan eu sglein a'u gwychter nes y methais yn lan a'u gweld yn ddigon da i'w disgriflo-yn Gymraeg felly. Ymneilltuwyd oddiyno i Neuadd St. Bede gerllaw, lle'r oedd y byrddau wedi eu hulio'n hael at wWld y neithior, a lie yr yfwyd iechyd da ac y dymunwyd Duw'n rhvrydd i'r cwpl newydd- briodi ar gynhygiad Dr. Frank Roberts a Mr. W. Garmon Jones, M.A., yn ategu, a Dr. Owen yn cydnabod iechyd da Mr. a Mrs. David Evans gan y Parch. G. R. Jones, B.A., B.D., a'r Parch. G. Owen, a Mr. David Evans yn cydnabod iechyd da Mr. a Mrs. Job Owen gan y Parch. W. M. Jones a'r Parch. J. H. Howard, a Mr. Job Owen yn cydnabod a iechyd da'r morynion priodas gan Mr. J. J. Williams a Dr. Idwal Williams. Dwysheid yr anerchiadau ag ami i gyngor crefyddol, ac a'u hysgafnid hefyd ag ambell stori ddigrif-i ddangos nad yw telyn bywyd yn gyflawn heb y ddau dant—y lion cystal a'r lleddf. Darllenwyd swp o bellebron oddiwrth garedigion oddidraw ac yma, ddau tu'r Werydd, yn bwrw'u bendith ar yr undeb ac yn fuan wedi'r wledd, enciliodd y cwpl dedvrydd i dreulio'u mis mel ym Mharis a mannau ereill y Cyfandir, a phawb yn glawio llond eu Haw o confetti a dy-muniadau da ar eu holau. Dyma'r gwahoddedigion eisteddodd wrth fwrdd y wledd :—Mr. a Mrs. David Evans, Mr. a Mrs. Job Owen, Mr. John! Evans (ieu.), Master D. H. Evans, Miss Netta Evans, Miss May Evans, Mr. a Mrs. Richard Evans, Mr. a Mrs. John Evans, Mr. D. C. Evans a Master J. R. Evans, Mr. a Mrs. William Thomas, Miss Eunice Thomas, Mr. a Mrs. Rees L-vris, Mr. a Mrs. Robert Roberts, (Glasfryn),Mr. a M s. Robert Roberts (Shrews- bury Road), Mr. a Mrs. Elias Jones, Mr. a Mrs. Edward Roberts, Mr. a Mrs. Robert Roberts (Sarnlys), Miss Kate Roberts (eto.), Mr. J. H. Jones, Mr. a Mrs. John Morgan, Mr. Hugh Williams, Mr. Percy Williams, Mr. a Mrs. Evan Evans, Mr. W. Garmon Jones, Mr. W. Jones (Elm House), Miss Nance Jones, Mr. a Mrs. Owen Williams, Mr. William Jones (Sea- combe), Miss Muriel Harris, Parch. S. G. Evans, B.A., Miss Lily Hughes, Mr. a Mrs. Thompson, Miss Harding, Nurse Isobel, Mr. William Owen (Llangoed), y Parch. Lodwig Lewis, Parch. W. M. a Mrs. Jones, Miss Mary Prentice, Parch. G. R. a Mrs. Jones, Miss Owen (Gorwyl), Miss Dorothy Owen, Mr. Parry Williams, Mrs. Capt. Roberts (Harlech), Mrs. Capt. Pugh, Mr. David Jones, Mr. John Pugh, Mr. a Mrs. W. Williams (Bangor), Nurse Wood, y Parch. G. a Mrs. Owen, Master Wyn Owen, Mr. A. White, Nurse Kirkpatrick, Mr. a Mrs. John Owen (New Brighton), Miss Jones (" Heathley "), Dr. Williams (Sea- combe), Dr. Idwal Williams, Dr. David B. Oliver, Mr. Dilwyn Roberts (Gwrecsam), Miss Eirliw Jones, Mr. J. J. Williams, Dr. Roberts (Liverpool), Parch. J. H. a Mrs. Howard, Miss Olwen Davies. Caed detholiadau gan y Royal Red Orchestra, dan arweiniad Mr. G. Collins. A dyma restr yr anrhegion, neu'r pwyddion priodas, fel y'u gelwid mor dlws gan yr hen Gymry :—Mr. David Evans, ty Mrs. David Evans, dining-room furniture Brodyr y Briodferch, piano Tad a Mam y Priodfab, silver tea set; Chwaer y Priodfab, linen bed- spread Mr. a Mrs. Rees Lewis, drawing- room suite Mr. Robert Jones (Seacombe), canteen of cutlery Mr. John Thomas (do.), satin brass bed Mr. a Miss Thomas (Llan- engan), fire irons, curb andscreen Mr. John Thomas (Llanengan), antique coal box Gweithwyr, dining-room clock Mr. a Mrs. Thomas ("TreByn "), dinner service Miss Eunice Thomas, silver salt cellars in case Mr. a Mrs. J. Owen (New Brighton), ditto; Mr. Percy Williams, silver serviette rings; Miss Jones (" Heathley "), silver pepper pots; Capt. a Mrs. Roberts (Harlech), firescreen Mr. a Mrs. Prentice (Leicester), silver munin dish Miss Mary Prentice, syphon holder Mr. a Mrs. Owen, silver candlesticks Miss Owen, ditto Miss E. Jones, silver muffin dish Parch. S. G. Evans, B.A., silver sugar basin and cream jug; Mr. a Mrs. O. P. Ed- wards, ditto Mr. David Oliver, silver sweet pea and salad bowl Mrs. Closs (Llan- rug), silver scoop Mr. A. J. Morgan, silver photo frame Mr. a Mrs. Jas. Griffiths, silver cake stand Mr. a Mrs. John Evans (Glenart), silver hot water kettle Mr. D. Owen (Beau- maris), silver biscuit barrel Capt. a Mrs. E. Davies (Rhos), sauce tureen Mr. a Mrs. Hughes, silver egg stand Miss G. Jones, silver ink pot Mr. a Mrs. Price Jones, silver match stand Mr. Owen, silver calendar Mr. a Mrs. Davies, barometer Mrs. Roberts, ( Heathley "), satin brass flower pot; Mr. a Mrs. Williams, flower bowl Mr. a Mrs. Thomas (Ystradgynlais), silver sardine dish; Mrs. Owen (Pantgwvnant), silver toast wrack; Miss Catherine Hughes, silver photo frames; Mr. a Mrs. Davies (Gwynfryn), silver fruit stand Miss Jeanie Parry, butter dish Mr. a Mrs. Morgan, jam dish Mr. D. P. Williams, silver afternoon teaspoons; Miss Muriel Hams, ditto Mr. a Mrs. A. White, silver afternoon teaknives Miss Lily Hughes, ditto Mr. a Mrs. Robert Roberts (Glasfryn), silver fish knives and forks Mr., Mrs. a Miss Roberts (Sarnlys), afternoon tea service Mr. a Mrs. Davies, little black pussy Cvfeill- ion, Llanberis, ornaments and clock; Crissy Kirkpatrick, cut glass vases; Mina fon," ornament Parch, a Mrs. W. M. Jones, silent clock Mr. a Mrs. Roberts (Llannerch y medd), Eiderdown Mr. a Mrs. J. Hughes, ditto Mrs. Williams (Kendall), Cushion Mr. a Mrs. Evan Evans, counterpalle; Mr. a Mrs. Hugh Williams, tablecloth Mr. a Mrs. Arnold, traycloth and d'oyley; Miss Annie Owen, table centre Miss Sarah Davies, afternoon tea cloth Mrs. Roberts (Harlech), tea cosy and stand; Mr. a Mrs. Davies, pillow cases and tea cloth Mr. a Mrs Rees, silver vases Mr. a Mrs. Rowland Roberts, china bowl and stand Dr. a Mrs. Idwal Williams, flowerpot Mr. a Master Green, cut glass jug;. Mrs. Hughes (Laird Street), afternoon serviettes Mr. a Mrs. R. Roberts, Luncheon serviettes Mr. a Mrs. J. Evans, silver cake stand Dr. a Mrs. Robertson Mill, ditto Mr. a Mrs. Evan Roberts, silver butter and cheese stand Air. a Mrs. Harry Evans, biscuit barrel; Mri. Herbert a Shacklady, silver fruit stand Hen Gvd- Efrydydd, llyfr Miss Williams (Seacombe), silver sugar basin Miss B. Griffiths, table centre Mr. a Mrs. Jones, Albert house, linen bed spread Mr. William Jones (Seacombe), two silver fruit stands Nurse Mabel Nichol- son, pair of candlesticks Mr. a Mrs. Thomp- son, silver egg stand and cruet; Mr. a Mrs. William Edwards, black satin cushion Mr. a Mrs. Robert Roberts, (Shrewsbury Road), case of 12 fruit knives and forks Mr. a Mrs. Edward Roberts, trinket set Capt. a Mrs Pugh, silver flower pot; Mrs. Jones (Llanfair), photo frame Miss Pugh (Llanfair), ditto Mr. Williams, silver butter knife and jam spoon Mr. Hugh Evans, silver ink pot; Miss Harding, satin cushion Mr. a Mrs. D. Jones, gong vases Miss Cerid- wen Thomas (Groeslon), afternoon teacloth Mrs. Jones a Mr. W. Garmon Jones, silver candlestick Parch. Lodwig Lewis,"silver fish servers Mr. a Mrs. Owen (Bangor), silver teaspoons Mrs. Williams (Gwynant), photo frame Mr. a Mrs. Williams (Bangor), silver Custard set Mr. D. C. Evans, silver jam dish Dr. a Mrs. Williams (Séadombe), travelling clock Miss Madge Thomas, afternoon tea- cloth Parch, a Mrs. T. D. Jones (Penmaen- mawr), silver vases Mr. a Mrs. Owen a'r teulu (Pen y groes), tablecloth Miss-O- Griff- iths, Y Ddraig Goch Mr. a Mrs. Richard Evans, silver tea knives and forks Mr. a Mrs. Robert Evans, silver photo frames Mr. John Evans, Liverpool, silver kettle and stand Mr. J. J. Williams, silver hall gong Dr. Idwal Williams, silver cigarette case Mr. a Mrs. H. Owen, silver jam jar; Nurse Davies, breakfast tray Mr. a Mrs. Lloyd Roberts, pair of vases Mrs. G. Griffiths (Llanberis), duchesse set Mr. a Mrs. E. F. Evans (Llan- dderfel), afternoon teacloth Mr. a Mrs. E. W. Davies, duchesse set; Parch, a Mrs. J. H. Howard, silver cheese and butter dish Master Wynn Owen, silver ornament; Mr. G. Owen, Post Office, Porthmadog, biscuit barrel Mr. a Mrs. Owen (Nant Gwynant), serviettes and sheets Mr. Lloyd Roberts (Caernarfon), pair of vases Mr. a Mrs. R. E. Hughes, 6 silver serviette rings in case Mr. William Owen, Llangoed, biscuit barrel Mri. Banks, Kendall & Taylor, large cut glass rose bowl Nurse Wood, pair of Satsuma vases. Ac er fy nhloted, fe garwn innau gael estyn fy anrheg fach i'r ddau aur ac arian nid oes gennyf, a 'does arnoch chwithau mo'u heisieu, ond dyma i chwi flodyn neu ddau, a ddaliant yn hwy heb wywo na'r un a welais yn unman o'ch cwmpas heddyw, a gadewch imi eu dodi'n dusw brith ar eich bron wrth i chwi gychwyn gyrfa wen eich bywyd priodasol. 0 ardd ddiail Ceiriog y plicir y blodyn cyntaf, sef i'r fodrwy gron a difwIch yr aethoch iddi heddyw :— Cymer hi, Lizzie, a'r nefoedd ro inni, 0 fewn ein haur-fodrwy, fan fechan i fyw Yn bur ac yn ddedwydd—yn unig boed ynddi, Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw Mae'r bydoedd yn grynion a'rhaul a'u goreura Gan wneuthur pob planed a lleufer yn Hon Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynnach na hon. Cymer hi, Lizzie, yn arwydd cyfamod,— Dwy enfys fach ydyw a'u deuben ynglyn Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod, A'r ail un yn amod mai ti fydd fy mun Mae'n-gvfan, mae'n brydferth, heb gymorth y gemau,— Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd 'Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau, Na dim eill ei rhydu ond lleithter y bedd. A dyma ddau flodyn tlws odiaeth o berllaa Ishryn, y bydd eu harogl efoch byth, gobeith- io:— Frawd a chwaer, hyfrydwch yw, Gwna'ch diddan ganiad heddyw Cynghanedd ddi-ddiwedd ddaw, Ail afon yn ymlifaw. Er i angau fynd rhyngoch Wedi y bedd ynghyd boch I Fe dreulia amser eurgylch hon, oer aeaf bedd a'i rhyda, Ond byth ni dderfydd dan fy'mron y serch a gynrychiola Ac wedi cyrraedd dwyfol lys mi blethaf flodau nefol, I'w dodi am yr unrhyw fys yn fodrwy briod- asol. Yn y ring hyd yr angau," y byddoch bellack ill dau. O
I Nietzsche -a'i Nerth.
I Nietzsche a'i Nerth. DARLLENWYD papur ar Nietszche a Moeseg y Testament Newydd gan y Parch. D. Adams o flaen Cyfarfod Gweinidogion Cymreig Ler- pwl a'r Cylch, yng nghapel Martin's Lane, Liscard, ddydd Llun yr wythnos ddiweddaf. Y Parch. W. O. Evans yn llywyddu, ac efe a'r Parchn. J. O. Williams (Pedrog), S. G. Evans, B.A., a D. Powell, yn diolch iddo am ei baratoi mor oleu a galluog. Dyma rediad y papur :—Dywedai ei bod yn an odd beirniadu Nietzsche am fod yn ei weithiau lawer o hanner gwirioneddau. Nododd fel enghreifftiau y dylai'r cwbl o natur dyn gael meithriniad. Gwir, ddim ond i ni gofio fod yna raddau o ran gwertli yn ein natur gymhleth fod y corff a'i flysiau i gymeryd lie israddol i hawliau meddwl a natur foesol dyn. Gwada Nietzsche fod yna wahaniaeth han- fodol rhwng da a drwg, am y rheswm fod syniad dyn amdanynt yn amrywio o oes i oes. Cydnabyddir yr amrywiaeth ond anwy- bydda Nietzsche'r ffaith mai tyflant graddol moesoldeb a graddoldeb cynnydd o ran cywirdeb syniadol sydd yn cyfrif amdaro. Mae telerau diogelwch bywyd dyn o ran corff, meddwl ac ysbryd yn delerau arhosol. Beiruiadwyd hefyd syniad Nietzsche parthed Adgychwyniad tragwyddol rhawd Bywyd (the Eternal recurrence of Life). Hyn yn gasgliad oddiwrth y gred wyddonol fod swm ynni'r cread yn aros yr un. Ond y mae hyn yn anwybyddu'r nerth ysbrydol ftynonella yn Ewyllys bodau personol, yn Dduw a dynion. Am ei fod yn anwybyddu'r nerth yma, nid oes yr ei gyfundrefn le i gynnydd o gwbl. Yna aeth Mr. Adams ymlasn i feirniadu syniad Nietzsche am ystyr bywyd, sef ymdrech am orchfygu a llywodr. aethu. Nid awydd am fyw, ond aw yd d am nerth, yw prif ysgogydd bywyd. "Y r ateb yw hyn os yn wir am ddynion hunangeisiol fel Napoleon, nid yw'n wir am ddyn fel yr Apostol Paul, heb son am Fab y Dyn, yr hwn ddaeth nid i'w wasanaethu ond i wasanaethu. Os oes Hunangariad yn y natur ddynol, y mae Cariad at Arall ynddi hefyd. Ac y mae moeseg y Testament Newydd yn edrych ar Gariad at arall fel nodwedd ddyfnach a mwy hanfodol na hunangariad, a hynny am y dat- guddiad Duw, cariad yw." Cysyllta Nietzsche werth mawr a'r Unigolyn a'r Uwchddyn. Caniataer hyn yn llawn. Ond cyn belled ag y gellir casglu, gall Uwchddyn Nietzsche ddefnyddio ei Nprth i ddarostwng a llywodraethu yn unig. Ond am Uwchddyn y Testament Newydd, y mae Hwnnw am wneud pob dyn gred ynddo yn Uwchddyn, gyda nerth ddefnyddir ganddo i helpu ereill i ddyfod yn uwchddynion. Cyfeiriwyd hefyd at ymgais Nietzsche i Drawsbrisio pob gwerth moesol," gan osod y rhinweddau gweithredol ac ymosodol yn uchaf o ran gwerth a dirmygu rhinweddau goddefol y grefydd Gristionogol fel achosion dirywiad dynoliaeth a chaethwasiaeth. Condemniwyd hefyd duedd ei gyfundrefn i fawrvgu Rhyfel, a'i ddirmyg o'r rhyw fenvwaidd. Ym marn Nietzsche, gwroldeb yw'r rhinwpdd pennaf, ac addfwynder maddeugar y gwendid mwyaf. Arlwyodd Eglwys Martin's Lane yn h:1.1 ar gyfer yr holl weinidogion, a diolchwyd iddynt gan y Parchn. Myles Griffiths ac R.R. Hughes, B.A. Cydnabuwyd dros yr eglwys a'r chwiorydd gan y Parch. T. Price Davies. Y gweinidog ieuengaf a mwayf blodeuog yn y lie oedd Dr. Owen Evans, oedd a thusw o flodau wedi eu plannu ar ei fron gan Mr. E. Griffiths, trysorydd yr eglwys.
[No title]
CYFLE'R MERCHED—Y mae Bwrdd Penodiadau Cymru, Caerdydd, wedi cyhoeddi yr Adroddiad a barotodd Mrs. Mary Davies, F.R.A.M., ar gais y Bwrdd, ar Orchwylion i Ferched, yn bamffledyn ceiniog, tan y teitl Employments for Women. Y mae ynddo doreth o wybodaeth fuddiol tuhwnt ar sut i'n merched ddringo i swydd a safle yn yr am- ryfal gylchoedd a egyr iddynt yn yr oes hon.
IER COF.
ER COF. ER SERCHOG Gor am Hugh, annwyl briod Margaret Evans, Sunningdale Road, yr hwn a fu farw Ebrill 26, 1911. Y Teulu.
Advertising
WANTED GOOD GENERAL SERVANT, family 2. \JT Wages commence at £17. Addresg 17 Alfred Road, Birkenhead. ARGRAFFYDD cymwys i ofalu am swyddfa Newyddur yn y Wladfa Gym- reig. Cyflog da. Ymofyner & W. M. Hughes, Bodlondeb, Dolgsllau. Madame Humphreys Lees (Soprano), Frank Nicholson (Baritone), Prize Duettists at Corwen. Colwyn Bay, Liver- pool, Rhyl, Rhos, and other Eisteddfodaa, are opea for engagements. Terms, apply, Madam LBES, 6 Mayfeld Terrace, Mountfields, Shrewsbury. FRANK NICHOLSON, Gwespyr, Mcstyn, N. Wales COF A CHADW am Eisteddfod Fawr Llan- gollen, 1858. Y prif fnddugwyr, eu Run a'u gorchest. Pris, 3c. Swyddfa'r Brython," LERPWL.