Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y DDRAMA. i -I

Y -Cor Mawr.-I

ITipyn o Bopeth oI IBontardawy.

Arbollad Ysgolion Sui U.B.C.

Y Barri.I

I Colofn y Gohebiaethau. '

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Colofn y Gohebiaethau. I ABERDAR. I Mr. Golygydd,— A fyddwch cyslal a obaniatau i mi alw sylw gweithwyr Aberdar at y fantais sydd ar ddyfod iddynt i gael ychwaneg- iad yn nifer y cyniychiohvyr Llafur ar y Cyngor Dosbarth. (Jan fod yr Ael- odau Llafur wedi proli eu hunain mor effeithiol yn y gorffennol, ac wedi dangos i'r byd pu bod yn eithaf cymwys i gymeryd rhan yn Hvwodraethiad a gweinyddiad materion dinesig, .i llwyddiant mor arddnchog wedi dilyn eu gweithrediadau hyd yn bresennol, ein dyledswydd yw lluosogi etinifer, fel y gellir cael mwyafrif o honynt. a thrwy hynny, sicrhau gwelliannau pell- ach, er llesiant y werin weithgar. Y maè saith sedd newydd i'w gosod yn y Cyngor, un ymhoh un o'r pedair Ward uchaf, a thair yn y Ward isaf—Aber- aman. Nid oes dilll yn annheg i hawl- io pob un o'r saith sedd i Lafur. Gwel- wn fod blaenoriaid y Biaid Ieuanc Ryddfrydol wedi symud yn Ward 2. Galwyd cyfarfod nos Wener diweddaf, ond nis gwn y canlyniad. Gobeithio fod enwau y gweithwyr hynny sydd wedi bod mor ffyddlon i'r blaid, wedi eu cynnyg, sef James Evans. Gospel Hall; David Evans, Tresalem, neu Wm. Jenkins, Tudor Terrace. Dyna dri sydd yn deilwng o'u hystyried gan y "League of Young Liberals." Yn.yr un Ward beiddiwn awgrymu enw Mr. Morgan Richards, Oxford Street, fel un teilwng o gymeradwyaeth a chefnog- aeth fwyaf brwdfrydig y Cyngor Celf a Llafur. Oddiwrth fy adnabyddiaeth o'r gwr hwn mewn cysylltiadau eraill, gwn y gwna aelod defnyddiol iawn. Weithwyr Nantmelyn, a phreswylwyr y Gadlys, rhowch dreial iddo. Beth am Mr John Griffiths, Llewelyn Street, y tro hwn i'r Ward 11 Nis gellir cael ei well, mi wn. Nawr, ynte, am dani, chwi fechgyn y Bwllfa, ac etholwyr Llwydcoed. A oes unrhyw rwystr i gael gan y foneddiges Mrs. Rose Davies sy'n bresennol ar y Pwyllgor Addysg, i sefyll am sedd ar y Cyngor? Os na, dylai hi gael cyfle am sedd Ward 3. Neu dyma gyfle i'r Young Liberals i gael Mr. Howells, eu cynlywydd o Abernant, i gynnyg am y sedd. Yn Ward 4, dymunaf awgrymu enw W. John Edwards fel dyn ieuanc cyfaddas. Y mae ef wedi cael disgyblaeth effeith- iol Coleg Ruskin, Rhydychen, ac y mae yn llawn brwdfrydedd dros ddelfrydau Llafur. Am y Ward isaf, sef No. 5, nid oedd brinder ar bersonau teilwng i lanw y tair sedd agored. Dyma gyfle i Gwm- aman i osod Mr Evan Jones, prawf- bwyswyr Glofa Cwmaman, i'w cynrych- ioli. Ac Aberaman, dyna Will Davies, bachgen ieuanc arall sydd wedi ei ddis- gyblu yng Ngholeg Ruskin. Nis gallant yn well na rhoddi mantais iddo ef i'w gwasanaethu ar y Cyngor. Am Aber- cwmboi, sicr yw y gwnai Mr Jack Evans, yr hwn a wnaeth mor dda pan yn cynnyg am sedd ar y Guardians, aelod da. Weithwyr Aberdar, meddyl- iwch am y rhai hyn.—Yr eiddoch, etc., LLYGAD AGORED.

Araith Dr. Harris, Treherbert…