Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAU ADOLYGIADOL GAN TAU.
NODIADAU ADOLYGIADOL GAN TAU. LLITH III. YN awr, cymerir golwg ar deilyngdod cyfansoddiadol y ddwy ysgrif. Dywed y beirniad fod gan B. gyfansoddiad gwych,—fod ei orgraff yn ddiwallau ac eithaf cydwybodolRhaid i mi addef fod y rhan ddiweddaf o'r dyfyniad yma, yn hollol o gylch fy ngwybodaeth gy- fyng i. Gan hyny, nid oes genyf, ond bwrw golwg dros yr hyn sydd eglur. Wrth nodiyr hyn a dybir genyf yn wall- us, dodirrhagwahanod rhwngy cam a'r cymmwys, mal hun, fel hyn a nodir y rhan fwyaf, o'r hyn a dybir yn wallus, o ddechreu hyd ddiwedd yr ysgrif: hwn, hwnw; hyn, hynyna; hyn, hyny; yn awr, y pryd hwnw i fynn, i fyuy myny, mynydd; ac, a; ef, efe; iad, iaid; i, i'w; dros, dros gael; er cael, iddynt gael; gellid, gwelid; a, ai; mae, mai; ei, en; ei, an rag, rhag; a, ag; au, ai; nag, nac; ag y, a i/ni; i, u; gan y, gyda'r arnynt, ar iddynt; wrth- ynt, wrtho raid, rhaid ag sydd, sydd; ydoedd, yr ydoedd dy, i'th cychwyn, cyrhaedd ac, a u, i; cys. cus Beth- lem, Bethlehem anghen, angen; hwythau, hwy; a thi, tithau; gartref, adref; wrth, wrth edrych ag un, a neb yma, yr.o gartref, cartref; ei ofn, en hofn nac, na maent, maint; ni a ddaethom, nyni a aethom; Hebraid, Hebreaid; i'r, i fyned i'r iddynt trwy, trwy waith, waith hon: yr, yr oedd fel ar, fel yr un ar bai, buasai rhoddes, rhoddi; toaid, toad iddo, iddynt; odd, asant; cryf, cryfion a bod, ac dim lies, gwneyd lies a, na ai, iai; i maes, i faes ai, a gwelodd fod ei; dalcen, nhalcen o'i, o'u eleu, tlai; cydganai, cydganau cynyrfu, cynhyrfu cythyrnblus, cythryblus; teflodd, llyfelodd nes, gan osod, yrii ei enill, ei hennill; am dano, ei fod ef; am hyn, am hyny; ac fod, a bod. Dealled y darllenydd na roddwyd y geiriadau yn gyflawn yn y rhestr yna; ac na nodwyd yr un gwallau fwy nag unwaith,-o leiaf, yn fwriadol :—pe gwnaethid hyny, buasai en nifer, o bymtheg i ngain, yn ychwaneg. Nid wyf yn golygn ychwaith fod yr oil o'r gwallau a nodwyd yn wallau gramadeg- 01 na, y mae rhai o honynt yn gam ddefnyddiad o eirian, nad oes un reol o fewn cylch grammadeg a'n dysga pa fodd i'w hiawn ddefnyddio, grammadeg a ddysga i ni y modd i iawn lythyrenu, —i iawn dreiglo, ac i iawn gyfosodi geiriau (priodol) yn eu lleoedd priodol, mewn ymadroddion :nid oes ond ad- nabyddiaeth gywir o ystyr briodol geiriau, a'n dysga i ysgoi gwallau o fath y rhai ereill a nodwyd. Yrwan, syaaudwnyn mlaen at ysgrif M. Dynesir at hon ycbydig yn llai petrusol iiag y dyneswyd at ysgrif B. canys dy wed y Beirniad y "ceir ganddo amryw o wallau gramadegol," a dyma yr engraifft a esyd i brofi yr hyn a ddywed Hanes Saul a Dafydd wedi ei gymhlethu i'r fath raddau." Onid yn y fath .fodd ddylasai fod ?" Wel, yn wir wn i ddim,—y mae hynyna yn dibvnu yn hollol ar y syniad a fwriadai yr ysgrifenydd ei drosglwyddo i'r dar- llenydd. Os mai y dull y cymhlethwyd y ddau hanes a olygai yr ysgrifenydd, yn y fath fodd" fuasai oreu. Neu ynte, os helaethder eu fynychiad y cy- mhlethiad a olygai,-fel y mae yn debyg mai ie,-y mae i'r fath radd- au yn llawer gwell. Pa fodd bynag y mae y naill a'r llall,—yn hynyna o beth, yn hollol rammadegol. Yr ydwyf yn teimlo awydd i ychwanegu un nodiad bach etto, cyn gadael yr adran hon. Dywed y beirniad "nad ydyw codi o un papur i'r llall yn un orchest i neb." Y mae hynyna yn amheus genyf. Yn ysgrif M. ceir yr ymadrodd: "Y mae hanes Saul a Dafydd wedi eu cymhlethu, i'r fath raddau, fel y mae braidd yn annichon i hanes un gael ei ddeol oddiwrth hanes y llall." Gwel ydarllewydd cyfarwydd nad oes un gwall grammadegol; y mae yn wir fod yna yr hyn a elwir gan reithegwyr, diffyg; er gwneyd yr ymadrodd yn gjflawn, dylasai fod 4 hanes Saul a hanes Dafydd,' &c.; ond ceir diffygion rheithegol fel yna, yng ngweithiau yr awdurOn goreu. Yn awr, sylwer ar y codi o un papur i'r llall." Dyma fel y "codwyd," yr ym- adrodd dan sylw, gan y Beirniad:—" Y mae hanas Saul a Dafydd wedi ei gy- mhlethu i'r fath raddau fel ymae braidd yn annichon i banes un gael el ddidoli oddiwrth hanes y Hall." Gwelir fod y gwahaniaethau yn caeleu gosod mewn llythyrenau italaidd, a dodir yr hwn a adawyd allan rhwng ymsangau (). Deol, aarwydda—wahaau a "didoli, a arwydda—neillduo, &c. :pa un o honynt a fyddai briodolaf, yn yr ym- adrodi d.JJ. sylw, barned y darllenydd. Bellach eir yn mlaen i nodi yr hyn a dybiai yn wallau cyfansoddiadol yn ysgrif M. Nodir hwyut yn yr un modd ag y nodwyd yr hyn a dybir yn wallus yn ysgrif B. :fel hyn,—ym, hyin ef, efe; roddi, rhoddi; medd, fedd; u, i; fynu, fyny; a'u bod yn, ac yn; os gallai, os gallai efe; i nol, yn ol; oedd ganddo, a ddeuai i'w ran eu deuly, ei deulu; enneiniwyd, eneiniwyd a'u, a'i; eu, ei; i frenhiniaethu, i freniniaethu; yn herbyn, yn erbyn na dderbyniant, ni dderbyniant; sef fod, sef bod buasai, bvddai; ei, eu allai, a allai; o honynt, o'r rhai hyny; a'r, y; a phan, pan; gyrhaedd, gyrhaedd i; yn gryf, yn gryf- ion; bydd, byddai: yma, yna; yna, hyny ffoisant, fuasent ar ffo; a her lid, a erlid nad oedd, na byddai; neb i, neb o honynt; odd, asai; ai, odd, cadwai, cedwid ond ni, ac nid ag ef, efe ag ef; ef, ac; yma, hwnw a cafod, a chafodd; ni fu, ni bu; fod un, fod i un i roddi, rocldi; pa rai, y rhai; ynddynt, ynddi; asent,o dd; a bu, fu- asai; chwareu, canu (ie, canu a ddy- wedais-ac a ddywed y cymry); fwy, mwy nac, nag; fu, bu; yn y cyfarnser, gwedi hyny; bu, a fu; ymbiliad, ym- biliadau; mae, mai; canlyniadau, can- lyniadau hyn, hyny; wedi, gwedi fyned, myned; i ddyfod, i fyned; cwr, gwr; peidio, beidio; wedi, a gwedi, (neu "ac wedi" yn ol llythyieniad y Beibl); erlidiodd, erlidiasant; wthio, gwthio wersylloedd, gwersylloedd iad, laid gorlanw, orlanw. Pe nodasid yr un gwall, pan yn digwydd fwy nag unwaith, buasai eu nifer tua deg yn ychwaneg. Buasai yn dda, er mwyn y darllenwyr yn gyffredinol, pe rhoddasid enghreifftiau cyflawnach; ond bydd yr hyn a roddwyd yn ddigon i'r ddau ysgrifenydd. Gallesid nedi y manau y rhoddir breninoedd—brenhinoedd, cen- adau—cenhadau, a gwahanol anghysson- debafu eraill. Ceir gan y naill a'r Hal] amryw ebeithion anghyflawn, — rhai enwau neu ragenwau yn eisiau;-gos-. odiad enwan yn lie rhagenwau, mewu rhai manau a gosodiad rhagenwau yn lie enwau mewn manau eraill. Addefa o'r bron bob Cymro dysgedig fod llyth- yreniad y Gymraeg yn ein cyfieithiad o'r ysgrythyrau yn buracb, cysonach a choethedicach na llythyreniad odid un llyfr arall yn yr iaith. Eto, trwy ryw amryfusedd, buwyd yn esgeulus yn llythyreniad ambell i air—yma ac acw. Gwelaf i M. ddilyn llythyreniad y Beibl yny gair "enneiniad," pan y mae yn amlwg mai eneinniad (o enaint) sy gywir. Pe buasai amser, gallasai manylu ar bethau fel yna fod yn fudd- iol i rywrai. Ysgrifenir dweud, gwneud, mynu, &c., gan rai ysgrifenwyr lied gyboeddus; ond gwyr y cyfarwydd yn dda mai dweyd, gwneyd, a myny a ysgrifenir gan ein hysgrifenwyrmanylaf ac ucbaf eu hawdurdod. Gan hyny, gwecldus ydyw i minau eu dilyn. Gwyddis yn dda nad oes genyf fi ddim i'w wnoyd a phenderfynu pa un o'r ddau gyfansoddiad a fu dan sylw ydyw y goreu. Gwelir fod mwy o hanes,—ie, mwy o banes Saul; a mwy o awgrym- iadau am bersonau eraill a ddaethant i gyssylltiad ag ef, gan M. nag sydd gan B.; a bod y ddau yn lied gyfartal o ran teilyngdod cyfansoddiadol. Ond, rhaid addef fod B. wedi fPurfio ei stori mewn dull mwy difyrus i'r darllenydd nag y ffurfiwyd un M. Ymddengys i mi na bu B. mor fanwl ag M. yn nghasgliad ei ddefnyddiau: ond ei fod wedi llwyddo i amlygu mwy o gynnefindodyngngos- odiad y defnyddiau ar bapyr.
AT TAU.
AT TAU. "Yr anifail a gornia a gornir." CREFAF ar eich hynawsedd am ychydig ofod yn eich TARIAN amddifiynol, er amddiffyn aelodau Pwyllgor Cyfarfod Llenyddol Penygraig, at y rhai y mae nodiadau adolygiadol" Tau wedi eu cyfeirio. Amlwg ydyw fod ei nodiadau wedi eu gwlychu fel saethau mewn gwenwyn cenfigen ac eiddigedd, a hyny am na fuasai y V fawr wedi cael yr amhydeddo fod yn feirniad, yn lie y sawl a gafodd am hyny, y mae yn arllwys ei lysnafedd.ar y pwyllgor, yn nghyda'r parchus feirniad. Nid efe y mae yn wir a gafodd y cyfansoddiadau o law yr Ysgrifenydd, ond blaidd arall mewn croen dafad a ddaeth a'i wenau aspiaidd o dan rith o ddiniweidrwydd i geisift eu gweled ond amlwg ydyw erbyn hyn mai pawen cath oedd yr aidecamp, yn cyflawni cynlluniau'r diafol. Y mae yn wir ddrwg gan yr Ysgrif- enydd iddo ganiatau y fath beth, ac y mae am i'r pwyllgor yn nghyda'r parchus feirniad i gredn hyny, ac nad oedd yn gweled y canlyniadau. Nid wyf mewn un modd am i neb gredu fy mod yn tybied fy hun yn alluog i lorio Tau mewn ystyr lenyddol ond yn unig mewn egwyddor a gwirionedd, a hyny yn nglyn a'r drafodaeth dan sylw. Nid dyma'r tro cyntaf i Tau i gyflawni triciau'r fall o'r fath yma, 0 na, yr ydym yn cofio am Wil o'r Felin a'i nodiadau beirniadol crintachlyd ar feirniadaeth Dewi Wyn o Essyllt, a'r canlyniadau diddim o un rhinwedd, ond yn hytrach fel arall o hyny. Hoff waith Tau ydyw ol-feirniadu. Beia Tau y pwyllgor am iddynt ddewis testyn mor bwysig ac eang a Saul brenin Israel i gystadlu arno am ryw bum swllt o wobr, ac fod hyny yn sarhad ar ysgrifenwyr yr ardal, (Ab Tau yn y bwndel wrth gWT-s,) ac yn arwydd o ddiffyg chwaeth yn aelodau y pwyllgor. Gesyd Tau y gosodiad yna i lawr fel yn hollol sicr o fai eto, ymresyma yn y frawddeg nesaf, yn amheuol, fel y can- lyn Os ydyw y sylw yma yn gy- wir, hyderaf y bydd i ddynion gweith- gar Penygraig, y tro nesaf y byddant yn cynllunio cyfarfod, ddewis testynau bach yn nghylchoedd cymdeithas, me- gys glanweithdra, diwydrwydd, geir- wiredd, prydlondeb, &c.; yr afallen, y dderwen, y winwydden, &c.; y fuweh, y ci, y ddafad, &c. fflam, gwlaw. gwynt, &c., neu ynte os dewisant ben- odi testyn mewn hanesyddiaeth Feibl- aidd, bydded iddo fod yn rhywbeth tebyg i Ruth, Naomi, Samson, Mor- decai, Dorcas, neu Stephan, hyny yw, bydded y testyn yn gyfryw ag y gellir dysgwyl cael ysgrif deilwng arno, a bydded y wobr yn gyfatebol i hyny." Anwyl ddarllenydd,- yr ydwyt yn gweled i mi ddyfynu yn lied helaeth o Tau, er mwyn i ti weled cysondeb ei ymresymiad. Gesyd fflam, gwynt, a gwlaw, yn destynau bawdd i ysgrifenu arnynt. Carwn yn fawr i Tau i athronyddu ar y ffiam-yr achos o honi, yn ei hanfod, ei hymddadblygiad, a'r achos o'i gwahanol liwiau, &c., neu ynte darlunio royal road y gwynt, ac o ba le y mae yn dyfod, ac i ba le y mae yn myned, a'i ddefnydd hanfodol, yn nghyda'i flurf, &c., neu ynte dar- lunio ffordd y gwlaw, treiddio i mewn i ddeddfau disgyrchiant, a darlunio y toater works mawr sydd uwch ein penau. Byddai hyny yn fil mwy ben- dithiol i ni fel ieuenctyd, ac fel dar- llenwyr, na rhyw ail gnoi pethau sydd wedi eu cnoi yn flaenorpl. Nid wyf yn dewis helaethu y tro hwn, am y gwn y caf fantais i hyny ar ei lithiau yn y dyfodol. Ydwyf,—UN O'R PWYLLGOR.
! YMWELIAD A LLUNDAIN.
YMWELIAD A LLUNDAIN. LLITH XI. BYDDAI ysgrifenu yr oil a fuont yn garcharorion yn y Twr yn ddigon i lanw cyfrolau lawer. Yn y flwyddyn 1399, bu amryw o benaethiaid Cymru yn garcharorion ynddo, megys Madog Vychan, Owen Glyndwr, Morgan Da- fydd, &e. Carcharwyd chwech cant o luddewon ynddo yn amser Edward III., a llywodraethwyr ein gwlad a'u per- thynasau, yr upper ten, y maent yn rhy luosogi'w henwi. Cyflawnent unrhyw erchyllwaith er mwyn meddianu yr orsedd.
,Y TwR GWYN.
Y TwR GWYN. Fel Saul gynt yn Israel, dyrchafa y Twr Gwyn ei ben llwyd goruwch yr oil o'r lleill. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1079—80, dan arolygiaeth Gundulph, esgob Rochester. Mesura 116 troedfedd o hyd, 92 troedfedd o uchder, a'i furiau allanol yn bymtheg troedfedd o drwch. Yn un o ystafell- oedd hwn y bu yr ysgolhaig a'r lienor campus, Syr Walter Raleigh, yn gar- charor am ddeuddeg mlynedd, yn nheyrnasiad James i., lie yr ysgrif- enodd amryw lyfrau, ac yn eu plith ei lyfr ardderchog "Hanes y byd." Yn yr ochr Ogeddol i'r ystafell hono, yn y mur trwchus y cyfeiriwyd ato, y mae cell dy well, yn mesur deg troed- fedd o hyd ac wyth troedfedd o led. Yn hon yr arferai Raleigh gysgu bob nos, wedi ei sicrhau i mewn a drws haiarn cadarn wedi ei gloi. Nis gall- af ei chyffelybu i ddim yn amgenach na hen ogof wedi ei gwyngalchu er ys oesoedd. Gallwn feddwl fy mod yn arogli angeu wrth fyned i mewn i'r hen gell dywell, heb lewyrch o olenni yn dyfod o un man iddi, ond drwy ei genau cul, lie y mae y drws haiarn. Y noson cyn ei ddienyddiad, ys- grifenodd Raleigh lythyr at y brenin, yn erfyn am arbed ei fywyd yn y cyflwr truenus hwnw, ond gwrthod- wyd hyny iddo. Heb nodi lleoliad y gwahanol wrth- ddrychau, sylwn ar rai o'r prif bethau sydd yn y gwahanol dyrau. Y mae y plocyn a'r fwyell i'w caiifod yma yn bresenol. Mesura y plocyn oddeutu dwy droedfedd a haner yn mhob fFordd. Ar y pen uchaf id<jo, y mae ceudod yn agos yr un fiurf a haner ileuad wedi ei naddu, ac oddeutu pedair modfedd rhwTng y ddau doriad a'u gil- ydd, ac ar y rhaniad hwnw y gosodid y gwddf i orphwys, y fYllwes yn y ceu- dod ar un ochr, a'r pen yr ochr arall, o dan yr hwn y gosodid bweed pwr- pasol i'w dderbyn. Pa un ai cyfiawn ntu angbyfiawn, euog neu ddieuog, y byddai y dyoddefydd, cyn gynted ag y syrthiai ei ben, gafaelai y sirydd yn- ddo, a'i gyfodi i'r lan, gan ddweyd, "Dyma ben bradwr." Y mae yr ben fwyell wedi ei gwneud o plate o ddur, oddeutu haner mod- fedd o drwch, pymtheg neu ddeunaw modfedd o hyd, chwech modfedd o led yn y min, yn rhedeg yn gulach tua'r crau, yr hwn nid yw wedi ei wneud yr un modd a'r bwyelli yn bresenol; ond y plate wedi cael troi ei ben i un ochr nes ffurlio crau crwn, a choes yn debyg i goes brwsh iddi, tua thair troedfedd a haner o hyd. Y mae nifer o doriadau y fwyell yn y plocyn, megys plocyn cigydd, er nad mor lluosog. Pan yn sylwi ar y fwyell a'r plocyn, meddyliwn am Due Mynwy, druan, pan yn rhoddi chwech gini i'r dienyddwr am wneud ei waith yn iawn, a dywedyd, "peidiweh a'm trin fel y gwnaethoch ag Arglwydd Russell; clywais i chwi ei daraw ef dair neu bedair gwaith." Yna wrth ei was, "Os gwna ei waith yn iawn, dyro y gini hwn iddo eto." Yr wyf yn gobeithio y gwiiat," meddai y dienydd- wr. "Os tarewch fi ddwywaith, nis gallaf addaw na bydd i mi syflyd," meddai. Wedi rhoddi ei ben ar y plocyn unwaith, cyfododd, a gofynodd am y fwyell, ac wedi teimlo ei min, dywedodd, "Yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon llym." Wedi rhoddi ei ben ar y plocyn eilwaith, cyreerodd cryn- dod afael yn y dienyddwr, ac ergyd gwan a roddodd ar y cyntaf. Cododd y Due ei ben ar hyny, a cheryddodd ef am ei weithred. Rhoddodd ei ben ar y plocyn y trydydd waith, a'r dienydd- wr a'i tarawodd ef ddwy waith dra- chefn, ond i ddim dyben, a thaflodd y fwyell o'i law ond gorfyddodd y sir- ydd iddo ei chyfodi drachefn, ac ar ddau ergyd yn ychwaneg y torodd ymaith ei ben. Hynod fel yr oedd rhai o'r goddefwyr yn gallu meddianu eu hunain befyd. Pan y dygwyd Mary Queen of Scot at y plocyn, yr oedd ei gweision a'i morwynion yn wylo yn chwerw, a hitbau yn eu cysuro, ac yn dyweyd wrthynt am lawenhau, ei bod hi yn myned i well lie, ac am iddynt roddi eu galar menywaidd heibio ac meddai, Nid yw yr enaid hwnw yn deilwng o ogoniant, nad all ei gorff oddef ergyd y dienyddwr." Pan y dygwyd Raleigh at y plocyn, gofynodd am y fwyell, ac wedi teimlo ei min, dywedodd, Y mae yn feddyglin Ilym, ond physigwr yw a wella bob afiechyd." Gofynwyd iddo, Pa ffordd y ehwen- ychai roddi ei ben ?" Atebodd, nid oes wahaniaeth pa ffordd y byddo y pen, os bydd y galon yn uniawn." W, D.
DEFNYDDIOLDEB GWYBED.
DEFNYDDIOLDEB GWYBED. Y MAE yr adeg wedi dyfod y bydd i ni oil, fwy neu lai, gael ein poeni gan wyberl, neu gler fel eu gelwir yn y Deheudir. Y mae lluaws o ddyfeisiau wedi eu dwyn i ymarferiad er dyfetha y creaduriaid bychain hyn, a lhtwer i hen ferch weddw wedi hiraethu am weled gaiiaf yn dyfod er cael eu gwared. Ond a ydyw darllenwyr y DARIAN wedi ystyried fod cenadaeth hyd yn nod gan y creaduriaid bychain hyn ? a'r genadaeth bono hefyd yn un bwysig? A ddarfu i chwi erioed wylied y gwybedyn wedi iddo ddisgyn, wedi bod yn ehedeg am gryn amser ar hyd a lied eich ystafell? Yngyntaf, rhwbia ei ddwy goes ol yn eu gilydd, wedi yr hyn y tyn y naill a'r Hall dros ei adenydd a'r un modd y gwna eilwaith a'i goesau blaen; ac yn ddiweddaf, os bydd i chwi edrych yn fanwl, gwelwch y cre- adur yn taflu ei drwnc bychan dros ei goesau ac ar hyd ei gorff, mor belled ag y gall gyrhaedd. Trwy offerynoliaeth y chwyddwydr, yr ydym wedi dyfod i ddeall, wedi i'r gwybedyn byehan ehedeg am gryn amser, ei fod yn orchuddiedig gan fath o lai bychain byw. Wrth gymeryd y chwyddwydr drachefn, fe welir y cre- adur yn cyfeirio ei drwnc i bob rhan o'i gorff lie y mae y llai bychain hyn, a'r rhai hyny mewn canlyniad yn cael eu colli. Y casgliadyw fody gwybed- yn yn eu bwyta. Ar y dechreu, medd- ylid fod y gwybed yn cario eu rhai bychain ar eu cyrff trwy yr awyr, a bod yr hen, pan yn flinedig neu newynog, yn bwyta eu hiliogaeth eu hunain. Un diwrnod, modd bynag, gwelwyd gwy- bedyn neu ddau yn disgyn ar lain o bapyr gwyn a glan, ac yn ymddangos yn brysur ymborthu ar rywbeth oedd arno. Codwyd y papyr, a rhoddwyd hwnw drachetn dan y chwyddwydr, pryd y cafwyd fod arno yn gymhwys yr un fath greaduriaid ag oedd ar y gwybedyn. Erbyn rhwbio y llain papyr a chadechyn glan, symudwyd yr oil oedd ar ei wyneb, ac er cael prawf pellech, tynwyd y papyr yn gyflyni trwy awyr yr ystafell amryw droion, ac yna dan y chwyddwydr; ac er mawr syndod, cafwyd fod ar y llain papyr heidiau o'r liai bychain a welwyd ar y gwybedyn! Erbyn hyn deallwyd nad epil y gwybed oeddynt, ond mai man greaduriaid awyrol oeddynt, y rhai a gesglir ar hyd y gwybed trwy eu ehed- iad cyflym ..trwy yr awyr, ar y rhai yr ymborthant pan y disgynant. Profir hefyd fod y gwybed yn Uu- osocach a thewach mewn lleoedd aflan 11 drewllyd, a bod y rhai a ddelir yno yn fwy gorchuddiedig a'r manlai awyr- ol, tra y mae y rhai a ddelir mewn ystafelloedd glan, awyrol, yn deneuach a bron yn lan oddiwrth y cyfryw fan ymlusgiaid. Pwy bellach a ddywed nad ydyw y gwybed yn dda i ddim ond i boeni dynion. Y mae y gwirioneddau a ddatguddir fel hyn trwy y chwyddwydr yn ein sicrhau mai cymwynaswyr y boblogaeth ydynt, yn ymborthu ar yr hyn a fyddai yn haint a marwolaeth oni bai eu gwasanaeth.
4 DYRCHAFIAD Y GWEITHIWR.
4 DYRCHAFIAD Y GWEITHIWR. Y MAE pawb sydd yn sylwi yn fedd- ylgar ar nodweddion a thueddiadau yr oes, wedi sylwi hefyd ar y ffaith, mai oes anhawdd—bron anmhosibl bod yn enwog ynddi ydyw yr un bres3nol; ac un rheswm mawr am hyn yw, fod cynifer yn ymgystadlu am yr un an- rhydedd, ac y mae y safon o ganlyn- iad yn cael ei ddyrchafu i gyfateb i fanteision a chyrhaeddiadau yr ym- geiswyr penaf. Y mae cyrhaedd sef- yllfa o ymddiried, dylanwad, a defn- yddioldeb yn orchwyl anhawdd. Mae felly yn mhob cXlch mewn bywyd. Porth cyfyng yw porth gwir fawredd a rhagoriaeth parhaus. Y mae ymdrechu cyrhaedd dylanwad, ymddiried, a defn- yddioldeb, yn ddyledswydd ar bob dyn ato ai hun; a thuag at gyrhaedd hyn da fyddai i bob dyn gofio yn barhaus ei fod dan rwymau i amaethu ei feddwl a chasglu gwybodaeth. Y mae bod gallu gan ddyn i gynyddu mewn gwybodaeth yn brawf mai bwriad ei Greawdwr pan gyfansoddodd efe feddwl dyn, oedd iddo gynyddu fw-fwy yn barhaus. Y mae tyfiant yn ddeddf yn llyw- odraeth yr Anfeidrol. Nid oes dim yn mron yn aros yn llonydd. Y mae pob bywyd, anifeilaidd a llysieuol, wedi ei fwriadu i ychwanegu a thyfu. Yr un modd y mae bywyd dyn. Yr unig wahaniaeth sydd rhyngddo a phethau tyfol ereill, yw fod terfyn ar gynydd y rhai hyny, tra y mae meddwl dyn yn ol pob tebyg, i dyfu a thyfu yn ddiddiwedd. Tuag at amaethu y meddwl a chasglu gwybodaeth, y mae yn rhaid wrth lafnr ac ymroad. Gwir y dywedodd un,- There it no royal road to learning. Nid prif ffyrdd y brenin yw llwybrau gwybodaeth, ond llwybrau serth, cul- ion, a geirwon yn fynych. Rhaid cloddio am wybodaeth—rhaid chwilio am dani fel am drysorau cuddiedig. Hefyd, tnag at amaethu y meddwl, a chasglu gwybodaeth, y mae yn rhaid bod yn sylwgar a meddylgar. Y mae ambell i ddyn nad ydyw erioed wedi arfer defnyddio ei lygaid i bwrpas, ac i'r cyfryw y mae un o foddion penaf