DARLLENWCH ERTHYGLAU (22)

News
Copy
YR WYTHNOS. fN Ebbw Vale, nos Fercher diweddaf, Cyfarfyddodd stoker o'r enw Evans, yr hwn oedd ar un o'r engines sydd yn rhedeg rhwng gweithiau baiarn Ebbw Vale a Sirhowy, a i ddiwedd, trwy gael ei wasgu rhwng y peiriant a'r mur. Yr oedd Evans yn oddeutu 21 oed. Y MAE cwmni y Taff Vale wedi hys- bysu y bydd gestyngiad i gymeryd lie yn mhris trosglwyddiad glo ar hyd y liuell hono yn nechreu y flwyddyn nesaf. RHWNG pedwar a phump o'r gloch, prydnawn dydd Gwener diweddaf, cyfar- fyddodd bachgenyn tair rrilwydd oed, o r enw Daniel Pugh, a diwedd truenus ar brif heol Treorci, trwy i wagen fawr fyned drosto, a'i niweidio i'r fath raddau fel y bu farw mewn ychydig amser. Yr oedd y wagen yn perthyn i Mr W. H. Pardoe, Nantgarw, ac yn cael ei gyru ar ypryd gan y perch enog. CYMERODD tanehwa ofidus le ddydd Iau yr wythnos ddiweddaf yn nglofa Springfield, Dudley, a hyny oherwydd defnyddio goleuni noeth. Cymerodd dyn ieuanc o'r enw Jones oleuni rioeth i'r lofa, pryd y cymerodd dwy danchwa le y naill ar ol yllall. Niweidiwyd dau berson yn angeuol, y mae yn ofnus, a Iluaws ereill yn ysgafn. PRYDNAWN dydd Gwener diweddaf, yn nglofa Tylorstown, Ferndale, daeth dyn ieuanc o'r enw John Jones, yr hwn a breswyliai gynt yn Mountain Ash, i'w ddiwedd, trwy i gareg fawr syrthio arno. Bu fyw am oddeutu ugain mynyd wedi derbyn y niwaid.

News
Copy
FFRWYDRIAD DYCHRYNLLYD DYNAMITE YN PEMBRE. Y mae tri o ffrwydriadau dynamite wedi cymeryd lIe yn ngweithfa. dynamite Pembre, ond yr olaf oedd y fwyaf dinystr- iol yn mhob ystyr, yr hon a gymerodd OY le ddydd Gwener diweddaf. Mewn can- lyniad i'r ddwy gyntaf, gofynodd Syr John Jones Jenkins ofyniad yn nghylch yr ystorfa yn Nhy y Cyffredin nos Iau. Achosodd yr ail golled yn agos i 125p. ond ni chollodd neb eu bywydau. Ond dydd Gwener diweddaf, er nad oedd y dinystr ond byehan, eto J mae saith o fywydau wedi eu colli drwyddo. Cym- erodd y ffrwydriad olaf hwn le ychydig fynydau cyn deuddeg o'r gloch ddydd Gwener, yn un o'r golchdai, yr hwn sydd le peryglus. Lladdwyd chwech o bersonau, a niweidiwyd y seithfed, (yr hwn hefyd sydd wedi marw er hyny), ond er nerth y ffrwydriad, ni niweidiwyd yr un shed arall. Enwau y rhai a ladd- wyd ydynt:—David Erasmus, 15 oed William Ray, 15 John Jones, 14—tri o fechgyn; Jane Evans, 16; Jane Wil- liams, 24 a Sarah Morse, 13-tair o ferched ieuainc, ac enw yr un a niweid- iwyd, ac sydd yn awr wedi marw, yd- oedd Mary Hughes, 21. Fe ddywedir nad oedd gan ddwy o'r merched hyn ddim busnes i fod yn y golchdy ar y pryd, ond y dylasent fod yn y shed cymysgu, lie yr oeddynt hefyd ychydig fynydau cyn hyny. Ni ddylasai fod yn y golchdy neb ond dwy ferch. Gwaith y lleill celd, un i gario dwfr poeth, a'r llall i gario sypynau byehain o dynamite o'r magazine i'r golchdy. Y mae y gor- uchwyliwr yn sicr fod rhyw doriad ar y rheolau wedi bod cyn y gallasai ffrwydr- iad gymeryd lie, canys ni chaniateir hyd yn oed i'r merched wisgo pinau gwallt na hoelion yn eu hesgidiau, na dim arall. O'r pedwar a laddwyd yn y man, ni allwyd adnabod gweddillion ond dau o honynt, tra yr oedd gweddill- ion y ddau arall wedi eu chwalu yn ddarnau ar hyd y lie. Cafwyd coes ddynol gan un o'r gweithwyr ar ben y crugyn swnd oedd yn gwahanu y naill shed oddiwrth y Hall, tra y cafwyd darn arall o gorff rhyw 60 Hath o'r lie.

News
Copy
BYGWTH LLOFRUDDIO Y PRIF WEINIDOG. Boreu dydd Llun diweddaf, yn Bow- street, Llundain, dygwyd dyn o'r John Norris Saunders, o Tyndall Buildings, Gray's Inn-road, o flaen yr ynadon, ar y cyhuddiad o fod wedi ysgrifenu ac anfon llythyr at y Prif Weinidog—Mr Glad- stGne-yn bygwth ei lofruddio. Y mae y llythyr yn darllen fel hyn:- SYR,—Ar bob achlysur pan yr amheu wyd eich dyledswyddau a'ch egwyddorion, yr ydwyf bob amser wedi eich amddiffyn ac wedi ceisio symud pob drwg amheuaeth oMiwrtkyck gan osod y cwbl yn y goleuni goreu. Y mae fy boll opiniynau yn avr wadi eu newid mewn cysylltiad & ckwi, ac wedi dyfod i'r penderfyniad fod yn rhaid i ahwi farw." Gofynwyd i'r carcharor os oedd. efe wadi ysgrifenu y llythyr, prydyratebodd, II Do, ysgrifenais y llythyr, ac anfonais ef, a gwnaethum hyny er dwyn yr achos oflaen y cyhoedd." Wrth roddi ei xanes dywedodd y carcharor ei fod wedi bod mewn amryw wallgofdai a char- ftharau, ond nad oedd gauddo un dygas- edd na gelyniaeth ynerbyn Mr Gladstono Gohiriwyd y prawf am wythnos.

News
Copy
AT DANWYR (FIB KM EN) CWM ABERDAR A'R RHONDDA. Bydded hysbys i chwi y cynelir cyfar- fod gan y frawdoliaeth uchod yn y Butchers 1 Arms, Pontypridd, prydnawn dydd Sadwrn, Rhagfyr yr 2il, pryd y taer erfynir am gael un fireman o bob pwll trwy y ddau gwm yn bresenol (os g&cl irhagor nag un ddyfod, goreu pll); ond gobeithir nad-esgeulusa yr un pwll, t-.r-wy y Rhondda ac Aberdar anfon un „ uo i'w cynrychioli, am fod rhai cwesti- I ynau o bwys yn galw am ein sylw difrif- olaf, a hyny heb oedi. Dechreuir y cyfarfod mor agos ag y gellir i chwarter cyn pump yn y pryduawn ac ond i bob un ddyfod yn union o'r tren, gallwn gael ryw ddwy awr i drafod ein materion cyn y bydd galwad arnom i ymadael am y tren diweddaf. Cofiwch y lie a'r dyddiad —Butchers' Arms, Pontypridd, Rhagfyr yr 2il, am chwarter cyn pump o'r gloch y prydnawn.

News
Copy
AT AELODAU CYMDEITHAS "GWAWR Y DYFFRYN" FUND. Bydded hysbys i holl aelodau y gym- deithas uchod, yr hon a gynelir yn y Masons' Arms, Aberaman, y cynelir cyfarfod cyffredinol o'r holl aelodau nos Lun, Tachwedd y 27ain i ddechreu am bump o'r gloch y prydnawn. Bydd materion pwysig i'w trafod, a phob aelod a fydd yn absenol, rhaid iddo gydymffurfio a'r penderfyniadau a ddeuir iddynt yn y cyfarfod.—GOH.

News
Copy
PRlODI EI GWAREDWR. Dydd Mercher diweddaf cymerodd priodas ramantus le yn Ipswich. Y briodasferch oedd Miss Mary Charter, unig ferch Mr G. Charter, Stoke Park, Ipswich, a'r priodfab ydoedd Count Carl Esterhazy, Pressburg, Hungary. Yn haf y ftwyddyn hon yr oedd Mr a Mrs Charter, yn nghyda'u merch, yn ymbleseru ar yr afon Nile, pryd y trodd eu cwch wyneb i waered. Yr oedd Count Esterhazy yn-myned heibio a'i lestr ar y pryd, ac ymgymerodd yn wrol ag achub y cwmni. Mewn canlyniad i hyny daeth eu hadnabyddiaeth yn gyf- eillgarwch, ac o gyfeillgarwch yn garwr- iaeth, ac o garwriaeth i fod yn briodas.

News
Copy
HUNANLADDIAD GER LLANDILO. Boreu dydd Iau yr wythnos ddiweddaf, cymerodd hunanladdiad gofidus le mewn amaethdy o'r enw Lletty, rhyw ychydig o Landilo. Oddeutu haner awr wedi chwech o'r gloch yn y boreu, gadawodd y fbrwyn y ty er myned i'r beudy i odro; ond wrth weled ei bod yn hir yn dy- chwelyd, aeth ei meistr i edrych pa le yr oedd, a chafodd hi yn grogedig wrth raff. Torwyd hi i lawr ar unwaith, ond yr oedd eisioes wedi marw. Ni wyr neb yr achos iddi gyflawni y fath weithred. Y mae yn deilwng o sylw fod gweithred o'r fath wedi ei chyflawni rai blynydd- oedd yn ol yn yr amaethdy nesaf i'r Llety.

News
Copy
AT BEIRIANWYR Y WEST. Dymunem hysbysu fod cyfarfod neill- duol i gymeryd He yn y Smith's Arms, Monachlog Nedd, nos Fawrth, Tach- wedd yr 28ain, am 7 o'r gloch, pan y dysgwylir Mr Isaac Evans i fod yn bresenol, am fod amryw o faterion pwysig i gael eu trafod. Carem weled pawb yn gwneud ymdrech i fod yn bresenol.;—YSG.

News
Copy
GLOFA Y DDINAS-PUMP 0 GYRFF ETO WEDI EU CAEL. Y mae pump o gyiff wedi eu cael eto yn y lofa uchod, ond nid oes dim yn perthyn iddynt trwy yr hyn y gellir eu hadnabod. Deallwn fod y trigolion yn ystyried y cynllun goreu o ddangos eu diolchgarwch i berchenog a llywydd y lofa hon am eu hymdrech yn dyfod o hyd i laddedigion y lofa. Cynelir cyfar- fod i'r dyben hwnw y dydd Mercher presenol.

News
Copy
AT YR ALCANWYR. Cynelir cyfarfod o gynrychiolwyr o'r melinau a'r alcandai o bob gwaith yn Morganwg a Chaerfyrddin yn y Bird-in- Hand, Abertawe, am ddau o'r gloch prydnawn dydd Sadwrn nesaf, pryd y daw achos gwyr Corseinion dan sylw. Y mae perygl iddynt niweidio prisoedd yr holl alcanwyr, am hyny, deuwch yno yn gryno. Dysgwylir pob alcanwr a all fod i bresenoli eu hunain yn y cyfarfod. LEWYS Afan.

News
Copy
CYFARFOD DOSBARTH Y GLO CAREG. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y Tregib Arms, Brynaman, dydd Sadwrn diweddaf, Tachwedd y 18fed. Dewiswyd cadeirydd fel arfer, ac awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Wrth alw list o'r gweithfeydd, cafwyd ar ddeall nad oedd dim yn neillduol fel achwyniad o un o honynt, ond rhyw dipyn o anghydweliad tua gwaelod pwll Seven Sisters, yr hyn fydd yn debyg o gael ei wastadhau cyn y cyfarfod nesaf. Daeth y cytundeb (agreement) sydd gan feistri a gweithwyr y Glo Careg, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Mr Win. Abraham, yr hwn fydd i'w gael yn y cyfarfod nesaf, neu anfon at yr ysgrifenydd am dano, y rhai nad oeddynt yn y cyfarfod hwn. Penderfynwyd fod pob gwaith sydd yn dal cysylltiad a'r cyfarfod hwn i ddewis pwyllgor, ysgrifenydd, a thrysorydd, yn eu gweLhfeydd, i edrych i mewn i bethau fydd yn dal cysylltiad a'r gwaith, a gofalu, mor belled ag y bydd yn bosibl, fod pob un yn y gwaith yn talu at y gwahanol dreuliau yn gyfartal. Penderfynwyd hefyd fod y cyfarfod hwn o'r farn y dylai pob gwaith lie y mae gweithio croes (double shift) i wneud i .ffwrdd a'r arferiad, ond yn y lleoedd y mae gwir angen am weithio felly, neu os na wneir i ffwrdd a'r arferiad, fod y cyfarfod hwn o'r farn y dylai advance i fod ar y double shift. Penderfynwyd i anfon un o ddosbarth y Glo Careg i'r cyfarfod cyffredinol a gynelir yn Aberdar, dydd Llun nesaf. Daeth hyn a gwaith y cyfarfod hwn i derfyniad trwy roddi diolchgarwch i'r cadeirydd a W. Abraham am eu gwasan- aeth i ddosbarth y Glo Careg. Bydd y Z5 cyfarfod nesaf i'w gynal yn yr un lie, Rhagfyr yr 16eg. E. R., YSG.

News
Copy
HUNANLADDIAD AR DDYDD PRIODAS. Boreu dydd Sadwrn diweddaf cymer- odd hunanladdiad poenus le yn Kensing- ton, Llundain. Y mae yn ymddangos fod boneddwr Germanaidd o'r enw Carl Engel, 64 oed, ac yn byw yn Addison- road, Kensington, yn bwriadu priodi un Miss Lawrence, merch lliwiwr yn pres- wylio yn Mitcham, a hyny boreu dydd Sadwrn diweddaf. Bu gyda'i briodferch y noson flaenorol yn nhy ei thad, a dy- chwelodd adref yn hwyr, yn ymddangos yn ei gynefinol iechyd. Aeth Miss Lawrence i dy ei chariadfab boreu dydd Sadwrn, yn meddwl am y briodas, pryd yr hyabyswyd hi gan y gwasanaethwr nad oedd Carl Engel wedi gwneud ei ymddangosiad, er ei fod wedi ei alw rhai gweithiau, gan ei hanog hefyd i fynu rhyw un er tori i mewn i'w ystafell. Pan y torwyd y drws i mewn, cafwyd ei fod yn farw, ac yn grogedig wrth ddrws y cwpbwrdd. Yr oedd yn ei wisg nos, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi bod yn y gwely am beth amser. Daeth tad y briodferch yno yn fuan, ac a dorodd y trancedig i lawr. Cafwyd llythyr yn yr ystafell, wedi ei gyfeirio at Miss Lawrence, wedi ei ddyddio rai dydd- iau yn flaenorol, yn rhoddi ar ddeall ei fod yn ofni y byddai farw a glefyd y galon, ac yn y llythyr fil o bunau iddi os byddai i hyny gymeryd lie. Yr oedd wedi bod yn gynhyrfus ei feddwl am na chyrhaeddodd rhyw ddodrefn neilldtiol mewn pryd.

News
Copy
SARON, ABERAMAN. Cynaliwyd cyngherdd arddercbog yn y capel uchod nos Iau, Tachwedd yr 16eg E. M. Hann, Ysw., Aberaman oedd i gymeryd at lywyddu, ond o herwydd rhyw ly amgylchiadau anhysbys i'r ysgrifenydd, metbodd a chyflawui ei addewid. Yr arweinydd oedd y cerddor gaiiuog a'r canwr campus, Hywel Cynon, Aberaman. Cyfeiliwyd wrth y berdoneg gan y ddwy chwaer hawddgar a chvtnwynasgar, Misses Jones, Abergwawr. Y mae y ddwy fonedd iges hyn yn barod bob amser i gynortkwyo pan y gofyuir iddynt am eu gwasanaeth. Cawsom y pleser mawr o wrando hefyd ar y ddwy gantores enwog ganJynol yn canu, nes gwefreiddio pob calon oedd yn y dorf, sef Miss Morris (soprano), L anelli, a Miss Jones (Blodwen Myrddin) (contralto). Cat wyd gwasanaeth gwjertbfawr y cantorion adnabyddus a ganiyn :—Mri T. Howells, (Hywel Cynon), D. Howells (Gwynalaw), W. James, J. S. Jenkins, Aberaman; lom Williams (Eos Cynon), Aberdar; J. Lake, a C. Davies, Aberaman. Yr oedd y personau hyn yn cynrychioli tri llais. sef tenor, baritone, a. bass, ac aeth pob un o honynt trwy eu gwaitk yn fendigedig. Yr oeddynt oil yn canu mor kynod swynol, yn ol fy marn fach i, fel y byddai yn anhawdd cael eu rhagorach. Y mae ein cautoriou lleol, sef yr uchod, ac ereill sydd yn ein mysg, yn deilwng o barch mawr am y parod- rwydd a ddacgosant bob amser i roddi eu gwasanaeth yu rhad ac am ddim mewn cy sylltiad ag achosion dyngarol a chrefyddol. cl y Gallwn eu sicrhau fod bendithiadau llawer o weddwon, amddifaid, cleifion, ac anafus- ion, yn ymarllwys yn gawod ar eu penau am eu cydymdeimlad sylweddol a'r cyfryw Yr oedd yr elw oddiwrth y gyngkerdd uchod i fyned i weddw ac amddifaid bychain ac anwyl y diweddar gyfaill tawel a ciirodres, Mr Llewellyn Edwards, gyut o Cardiff road, Aberaman, yr hwn, yn anlfodus. a golludd ei fywyd yn nglofa y Powell Dyffryn, yn Aberaman, ar y 27ain o Fedi diweddaf. Ymddengys fod ei frawd, Robert, wedi colli ei fywyd yn yrunlofapedair bJynedd yn ol Cynygiwyd ac eiliwyd diolckgarwck i bawb oeddynt wedi cynortkwyo mewn cy. sylltiad &'r gyngherdd gan y personau c-iulynol:—Yr ysgritenydd, y Parch R Rowlands, Saron; Mr H Davies, diiledydd; Mr Jayne, grocer, Aberaman. Wedi canu duet, ymadawodd pawb wedi eu mawr foddhau. Nid oedd end un peth ag oedd yn lied anifyr mewn perthynas i'r gyngherdd, sef fod yna gynifer o bobl ieuainc ystwrliyd ar y galle y Oni b'ai hyny, buasai yn un o'r cyngkerddau goreu y bum ynddi crioed. Nis gailaf ym- atal heb ddatgan fy mod yn teimto yu falch o'r pwyllgor, y rhai ddirtu weithio mor egniol o blaid y mudiad o'r cychwyn hyd ei orpkeniad, a da genyf gael ar ddeall fod cynifer o gydwoitkwyr y oiiweddar Llewelyn Edwards wedi pryuu mor hclaeth o'r tocynau, F, glofeydd ereill hefyd. Yr wyf, ar ran y weddw a'r amddifaid, yn eyflwyno eu diolckgarwck mwyaf gwresog i bawb a fuout yn gweitkredu.—TWEFAB.

News
Copy
ABERDAR. CTFARFOD ANHHEGU.—Nos Lun, Tachwedd y 13eg, cynaliwyd cyfarfod sylweddol iawn yn long room y Crown Hotel, Aberdor, ar yr achlysur o gyflwyniad tysteb i Mr Thomas John, overman, Abernant, yn nghyd a'i briod, Mrs John, gan gyfrinfa Meitiionen Glan Cynon o Odyddion. Yr oedd y dysteb yn ffurf dau ddarlun o Mr a Mrs John, yn nghyd ag anerchiad wedi ei barotoi yn Gymraeg a Saesonaeg, a'i engrosio a'i addnruo ar prepared parchment gan Brython- fryn, a'i fframio yn ddestlus. Yn absenol deb Dr. E. Jones, etholwyd Dr. Walters i'r gadair, a Mr Palmer, Cwmdar, yn is gadeir- ydd. Llanwodd y ddau eu swyddi yn gampus Y cantorion a gymerasant ran yn y cyfarfod oeddyut Mri Thomas Howells, William Davies, John John, Morgan Evans, Thomas Walters (Abernaut), Wm Evans, John Jones (Trecynon), Llewelyu Jones, a pharti o Dreherbert dan arweiniad Telor- ydd Glan Gwecallt. Cymerwyd rhan fel adroddwyr yn y cyfarfod gan Mri Rees Lewis o Dreherbert, a John Walters a Mor- gan Jones o Abernant. Areithwyr y cyfar- fod oeddynt Mri Jenkin Howell, Stephen Thomas, Edward Jones, (Aberaman), Geo. Mills, a John James, gynt o Westy y Goron, y rhai a siaradent yn ucliel am Mr John fel dyn a chymdeithaswr didwyll a ffyddlon. Y mae wedi bod yn nodedig o ffyddlon i gyf- rinfa Meillionen Glan Cynon trwy gasglu y rbenti a'r llogau dyledus iddi. Cyflwyn- wyd yr anrbeg i Mr John gan Mrs Williams, y westywraig, ac i Mrs John gan y brawd Edward Jones. Yna darllenwyd yr anerch- iad yn Gymraeg a Saesonaeg gan Brython- fryn, ac ar ol hyny y llinellau canlynol:— Rhoi parch i'r hwn y mae dyledus barch A ddylem wneud hyd arwyl prudd ein harch, Er's blwyddi rai adwaenwn Thomas John Fel un sy'n meddu ar frawdgarol fron; Mae'n gymdeitbaswr o aiddgarol fryd, A phwynt ei fywyd ydyw gwella'r byd; Ni fyn efe un udgorn croch ei ru I hysbysu'r byd am ei rinweddau QU, Ond gweithia'n ddiwyd yn ei gylch rhag blaen, A lies rhinweddol yr ar ddyddiol daen. Meillionen Cynon yma heno sydd Yn rhoddi iddo ei hanrhegion rhydd; Am waith ac nid segurdod y ca hyn, A cha fwy eto cyn myn'd lawr i'r glyn. I Mrs John ac yntau yr eiddunaf, Ac idd eu teulu wenau y Goruchaf; Byd diofidiau a digwmwl hefyd Fo iddynt hyd nes tirio ar draethau eilfyd, A boed eu trigle yn y llanerch ddedwydd, Lie y teyrnasa nwyfiant yn dragywydd. Cafwyd cyfarfod dyddorol a difyrus iawn. -BRYTHONFRYN.

News
Copy
LLWYDDIANT CYMRO 0 ABERDAR. Dywenydd genym hysbysa darllenwyr y DARIAN fod Mr D. T. Phillips, mab Mr T. Phillips, diiledydd, Canon-street, wedi pasio ei Arholiad Rbagarweiniol (Preliminary Ex. amination) perthynol i'r Gymdeith&s Gyf- reithiol Gortforedig, yr hwn a gynaliwyd ar y 25ain a'r 26ain o Hydref. Derbyniodd Mr Phillips ei addysg rhagbarotoawl gan y Parch R. J. Jones, M.A., Trecynon, Aberdar, yr hwn sydd yn euwog ar gyfrif ei fedr i basio dynion ieuainc mewn gwahanol gang- henau o wybodaeth. Dymnnwn i'n cyfaill Phillips i ddringo yn uwch eto.-T.

News
Copy
CWMPARC. Nos Iau, yr 16eg cyfisol, cynaliwyd cyfar. fod adloniadol yn yr Ocean Coffee Tavern, dan nawdd y pwyllgor sydd wedi ei neillduo i gario allan a chynllunio y ffordd fwyaf effeithiol er denu serchiadau yr ieuenctyd i werthfawrogi a cbyfranogi o'r bendithion sydd wedi eu darparu ar eu cyfer yn a thrwy y free library sydd genym yn y lie. Gan hyny, bydded i'r ieuenctyd gymeryd gafael yn y cytlensdra o unfryd calou, trwy ddyfod i ddarllen a myfyrio gweithiau ein prif ddynion sydd wedi aberthu eu holl amser i ysgrifenu cyfrolau ar wahanol ganghenau o wybodaeth, fel y gallont ddyr- chafn ei hunain mewn gwybodaeth, a thrwy hyny fod o ryw ddefnydd i'w kolafiaid, yn hytrach na myned i'r tafarndai a sefyll ar' gonglau yr keolydd i siarad rhyw wag beth au I'r perwyl hyn y penderfynwyd cynal cyfarfodydd o'r fath, ac yn ol pob tebygol- rwydd. y mae llwyddiant yn dilyn y mud- iad daionus hwn. Y mae dynion cymwys i'r gwaith wedi eu dewis, megys Cerddor Ebbwy, Mri D. Davies, Treherbert, Dan John, John Dyre, &c.—W. D.

News
Copy
GWLEDD I BAWB YN Y NEUADD DDIRWESTOL. ABERDAR, AR Y 30AIN OR MIS HWN. Ie, Mri Gol., meiddiaf ddweyd na chsf. wyd gwell yn y Neuadd erioed o'r blaen. Rhoddir cyngherdd ardderchog gan Glee Party Aberdar ar y noswaitk uchod, sef y Glee Party blaenaf yn Nghymru, yn ol yr kanes a gawn gan y ibai a wyr yn dda am danynt. Ac y maent yn canu y darnau blaenaf a newyddaf a feddwn, a llawer o'r cyfryw yn hollol newy(ld yn Aberdar. Ac hefyd cawn y fraint o glywed un o ser dys gleiriaf Cymru ar y llwyfan yn canu y nos- waith hotiO, set Miss M. Spencer Jones A.R A.M., yr hon sydd newydd fod yn canu yn ddiweddar ar yr un llwyfan a'r byd- enwog Sims Reeves. Pa bryd yr ydym ni yn Aberdar yu cael y fraint o glywed blaen ffrwyth cerddoriou yn canu yn Aberdar ? Wei yn awr am treat ynte ar y 30ain o'r mis hwn yn y Neuadd Ddirwestol, Aberdar. Cof- iwn foj yno yn gynar rhag ofn y bydd yn rhy lawn.

Family Notices
Copy
MARWOLAETH. John Collwyn Jones, unig blentyn T. W. Jones (Barddystwytk), Trealaw. Rhodd- wyd ei weduiilion i orpkwys yn mynwent mes (r Ffrwdamcs. Penygraig, dydd Gwener. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Pa.rch Rhys Morgan, Llwynypia. GENEDIGAETH. Hydref 30ain, priod Mr John Thomas. Station Street, Hirwaun, ar fab, a gelwir ei enw yn Thomas. enw yn Thomas.

Advertising
Copy
ST. JOHN'S AMBULANCE ASSOCIATION. Y (MAE Adran mewn cysylltiad a'r Gym- deithas uchod wedi ei ffurfio yn Mertkyr Tydfil gyda'r swyddogion canlynol Lieut Col. P. R Cresswell Llywydd. Mr. C Henry James Is Lywydd. Mr. Rees Thomas Trysorydd. Dr. J L. Ward. Hyfforddwr. Mr. D. Rees Lewis. Ysgrifenydd Mygedol. Y tanysgrifiadau ydynt o 5s. i fyny, ac erfynir am gydwejtkrediad pob gradd. Rhaid i bawb a ddymunant ddyfod yn aelodau, anfon eu henwau yn ddioed i Mr Rees Thomas. High Street. Vfertkyr Tydfil neu i'r Ysgrifenydd Mygedol, 31, Victoria Street, Merthyr Tydfiil. Ffurfir dosbarthiadau. a bydd 6c. i'w dalu gan bob person heb fod yn aelod, a ymuna ag unrhyw ddosbarth. Bydd y dosbarth cyntaf yn cael ei ffurfio yn Ysgoldy St David's (Infant's Schoolroom), Merthyr Tydfil, nos Lun, y 27ain cyfisol, am haner awr wedi saith. pryd y dymunir ar bawb a fwriadant ymuno fodyn bresenol a rhoddi eu henwau i mewn. Bydd y dos- barthiadau yn cyfarfod bob nos Lun, ar ol y 27ain cyfisol, yn yr Ysgoldy uchod am 8 o'r gloch. Bydd y cwrs yn cynwys pump o ddarlith- iau ar ol pa rai arholir y dosbarthiadau gan Swyddog o'r Pwyllgor Canolog yn Llundam; a phawb a basiant a dderbyn- iant dystysgrif, a bydd hawl ganddynt i wisgo Croes ac Arwydd St. loan. MOUNTAIN ASH. CYNELIR EISTEDDFOD yn y He uchod dydd Nadolig nesaf. Beirniad yr adroddiadau, &c.,—Parch. R. Thomas, Penrhiwceibr. Beirniad y canu,—Eos Cynlais, Treorci. 'Yr Alarch,' gan R. Stephens, o'r Cerddor Cymreig, i g6r o'r un gynulleidfa heb fod dan 60 mewn rhif, gwobr £8, a chadair hardd i'r arweinydd. Anthem Addoliad," gan y diweddar J. Ambrose Lloyd, i gdr o'r un gynulleidfa ddim dan 50 mewn rhif, gwobr .£3, a chopi o'r Oratorio Emanuel' i'r arweinydd. 'Cydgan y Morwyr (Sailors' Chorus),' Dr. Parry, I barti heb fod o dan 16 mewn rhif gwobr XI 10s. Quartette-Welsh Air, 'Caerphilly,' J. Thomas, gwobr 10s. Salm-Odl (Chant) Rhif 5, Salm xxiii., allan o Aberth Moliant,' i bedwar. ewobr 10s. Y testynau ereill, yn nghyd a'r amodan &c., i'w cael ar y program, pris lc., trwy y post lte. Enwau y beirniaid yr wythnos nesaf. D. E. COLEMAN (Eos Hefin), Commercial Street, THOMAS SAMUEL, Cardiff Rd., Mountain Ash, Ysgrifenyddion. YSGOLDAI BRYTANAIDD CWM- AMAN, ABERDAR. CYNELIR CYFARFOD LLENYDDOL yn y lie uchod Ionawr 22ain, 1883, dan nawdd Cyfrinfa Telyn Cymru, Urdd yr Alffrediaid. Beirniad y traethawd a'r adroddiadau,- Mr D. E. Davies (Dewi Mabon), Manager, Cwmaman, Aberdar. Beirniad y farddoniaeth a'r ganiadaeth,- Mr T. Howells (Hywel Cynon), Aberaman. Cadeirydd,-Mr Rees Rees, Manager, Fforchaman. Caniadaeth. I parti ddim dan 20 o rif a gano yn oreu I Y Gwlithyn,' gan AlawDdu, gwobr Jl 10s a Chrome,tic Pitchpipe i'r arweinydd. Traethawd. Am y Traethawd goreu ar I Lwyddiant y Fyddin Brydeinig yn y rhyfel diweddaf yn yr Aifft,' gwobr 10s Barddoniaeth. Am y Gan Farwnadol oreu ar ol y diweddar Mrs Rees, Aman Street, Cwm- aman, gynt o Gwmllynfell, gwobr rhoddedig gan y teulu, 10s. Am y Gan oreu ar Lwyddiant Cyfrinfa Telyn Cymru o'i chychwyniad hyd yn bresenol,' gwobr 5s. Bydd y programs yn barod yn fuan, yn cynwys pob manylion a'r gweddill o'r tes tynau, ac i'w cael am y pris arferol gan ar ysgrifenydd,—David Hitchings, 69, Glan aman Road, Cwmaman, Aberdar. D.S.-Gellir cael pob manylion am Mrs Rees gan David Rees, 4, Fforchaman Road, Cwmaman, ac am y gyfrinfa gan yr Ysg. A'1\/r.tT""llo"I1 a_ AMERICA!! AMERICA!! Beduction in Steamers' Fares! I The Fareg are now until further notice: National Line-Adults £ 4 0 0 Children under 12 years 2 0 0 f Infants under 12 months 1 1 0 Inman, White Star, Guion, Cunard Lines- Adults £ 4 4 0 E Children under 12 years 2 2 0 f. Infants under 12 montks 1 1 o American Line-Steamers, Lord Gough, British Crown, British Queen, British King—Adults £ 4 0 (I Children under 12 years 2 0 0 I Infants under 12 months 1 1 0 Steamers, Ohio, Pennsylvania, Illinois. Indiana-Adults £ 4 4 0 f Children under 12 years 2 2 0 Infants under 12 months 1 1 0 For passage and particulars, apply to 1 JAMES REES, | 14, St. Paul's Square, Liverpool.

News
Copy
Quinine Bitters GWILYM EVANS. Y MAE hwn yn gymysg celfyddydga a ffocius dros ben. Cynwysa Quinine Sarsaprilla, Srffron, Lauender, Dande- lion. Gentian, a Burdock, sef yr oil 0'1 darpariadau a nodasom, yn y fath gy. modedd fel ag i sicrhau cydweithrediad llwyddianus ar yr oil o elfenau gwaith. gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyogela y dybenion daionus mewn golwg wrtb ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd- ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyal hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneud o'r cyffeiriau uchod.

News
Copy
EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo trawl yr ymi borth, yn gwellhau a hwylusu y cylcb; rediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyran. ac yn puro a flrwytliloni y gwaed. Y mae y cymysglyn hwn yn gryfboir cyflf- redinol, ac yn lanhaydd effeithiol. Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansodd. iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyaJ agored i anwydon a'u canlvniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adfywiochau ? cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar gyfriJ hyny y maent wedi enill iddynt eu hun. ain y gymeradwyaeth uchelaf ar gyfei pob math o wendidau, a sefyllfa istel, nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiolaethan canlynol, dymnnem adgofio y darllenydd eu bod oil yn dyfod oddiwrth bersonau cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd cym. deithas, yn dyfod trwy fferyllwyt (chemists), adnabyddus y rhan amlaf 0 honynt, o bob rhan o'r wlad, yn cynwye cyfeiriadau ac enwau y personau a'g preswylfod, ac yn tystioiaethu y gellir yn hawdd brofi eu teilyngdod drwy anfon at y personau eu hunain. Na gellir dweyd fel hyn am lawer o dyst- tiolaethau ereill. Nid oes nemawf ddiwrnod yn myned heibio heb fod per- chenog y Bitters hyn yn derbyn cymei- adwyaethau i'w heffeithiolrwydd. Rose Gottage, Aberdar, Tachwedd lOfed, 1880. GAREDIG SYR,—Yr wyf yn awr wedi cMII cyneu i wneud prawf teg a gonest o'r Qat. nine Bitters cyfansoddedig genych chwi, at yr wyf yn gallu tystio oddiar brofiad per. sonol a thystiolaethau amryw bersonau 1 bl rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, eu bod yn meddu yr elfenau, y nodweddau, a'i rhmweddau a hawliech iddynt. Yn y flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm am wyth mis, ae y mae rhai o effeithiau y eye. tudd hwnw wedi aros gyda mi hyd keddyW. „u yn o ddychryn i mi ddyfod o'l nont ar kyd y grisiau i'r 11awr rkag cwympO« y 9°f> y cylla, a'r aelodau yn peidit gwneud eu gwaith; ond mae y Bitters wedB gwneud llawer iawn er symud hyn oil Mae y eof yn llawer gwell, maA vr aelodau 111 iach a chryfion, tra mae y Bitters yn creo awydd am fwyd, ae yn help mawr i dreulio y* hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amaerpall ag oedd dal yr ysgrilbin yn faich i mi, ond yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel yn y dyddiau gynt, fel y gwelwch wrth y llythyi hwn. Nid ees genyf yn awr ond dymune 0 galon llwyddiant i chwi i wasanaethu eiob gwlad a'ch cenedl am flynyddau lawer dd'od. Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir serchog THOMAS PRICE, Baptist Minister. Llwynpia, Hydref 21, 1880 ANWYL SYR,—Wedi clywed llawer am Quinine Bitters, penderfynais roddi prawt arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anhwylder cyffredinol, diffyg chwaeth at ddim, iselder ysbryd, ac am brydiau poen angerddol rhwng fy ysgwydd. au, yn codi, yn ddiau, oddiar afiechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy moa wedi cael llwyr iachad; teimlaf yn awr mor iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag y teimlais nemawr erioed, wedi derbyn o honwyf y budd hwn trwy gymeryd eioh darpariaetk fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gan eich gosod at eich rkyddid i wneuthur y defnydd o fynoch o honynt. Dymunaf i ohwt bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist Ministei Mynydd Cynfiig, SYK,—Bum yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, diffyg archwacth at fwyè, ac ar ol ei fwyta, blin- der mawr. Prynais botelaid 4s. 6c. oddi. wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig Hill, a0 ar ol i mi ei ckymeryd, teimlais fy kun wedi fy adferu i'm iechyd arferol, ac yn alluos i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf wedi eu cymeradwyo i eraill, a tkystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn Ilea anrkaetliol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amset fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (loan Cynflig),

News
Copy
GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpariadau Quinine i'w cael, megys Tincture 01 Quinine, Quinine Wine, Quinine Mix- ture, &c., y mae rhai ymofynwyr am Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans yn cael eu twyllo a'r pethau hyn yn y moddl mwyaf dideimlad a digywilydd Wrth geisio hwn gan yr Apothecarf, nid digon yw gofyn fel hyn, "Potelaid 0 Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith "Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am "Quinine Bitters Mr, Gwilym Evans," ac os na fydd yr env» Gwilym Evans, F.C.S.,M.P'.S., w*di el ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ag bob potel, twyll a ffugiad ydynt. Prf y Potelau yw 2s. 9c. i 48. 6c.; mew blychau, 12s. 6c. yr un. Cynwysa Poteli 4s. 6c. ddau cymaiii a rhei 2s. 9c., ac felly gall y prynw arbed Is. wrth gymeryd y ahai mwyaf- I