DARLLENWCH ERTHYGLAU (6)

News
Copy
e.. HEREWARD YR OLAF O'R SAESON. PENOD XXV. Y mae dynion i'w cael mor gwmpasog fawr nad all croniclwyr sydd yn llawer llai na hwy, nid yn unig eu desgrino, ond syniaw yn briodol am danynt er ceisiaw at hyny. Yr oedd William o Normandy yn un o'r cyfryw. Yr oedd yn gyfryw berson nad ellid ei lusgo yn rhwydd i'r esgynlawr. Arferodd Bulwer alluog gryn ddoethineb at y gorchwyl, a chymerodd ofal nad arddangosodd efe ormod c'i f any lion, gan gyfaddef ar yr un pryd fod o'r tu ol a thu hwnt luaws o bethau nad alla--i hyd yn nod ei gyd- 0 oeswyr eu deall a'u hamgyffred. Dywedir mai yn hela yr oedd yn y Forest of Dean, pan y clywodd gyntaf fod holl Loegr, yn ogleddol i Heol Watling, wedi tori yn rhydd, ac nad oodd efe mwyach ond yn Frenin ar haner yr ynys. Aeth adref i'w lodge, ac ar fwrdd derw garw taenodd ddarlunlen anghelfydd o'r wlad, ac er nad oedd y ddarlunlen yn gyf- ryw ag y cerid dysgu daearyddiaoth Lloegr oddiwrthi yn ein dyddiau ni, eto yr oedd yn gwneud y tro i'r Brenin er gweled a chynllunio y ffordd oreu i fyned a milwyr ar draws y wlad. Fel yr edrychai efe ar y ddarlunlen yn ngoleu canwyll frwynen neu dorchen, beth a allai efe weled? Tri gwrthryfel gwahanol wedi tori allan o'r gogledd-orllewin i'r dwyrain, ar hyd heol Watling. Yn Nghaer, Edric, "Y Thane GwyHt," yr hwn, yn ol llyfr Doomsday, oedd wedi colli tiriogaethau eang yn sir yr Amwythig; Algitha, gweddw Harold, a Blethwallon a'r holl Gymry, "Y Mantelli Gwynion," y rbai a beidient ar hyd ystrydoedd Caer, nid fel arfer, i ladd a rhwygo fel cathod eu creigiau gwylltion, ond cyfeillion o waed i Algitha, yr hon unwaith a fu yn frenhines arnynt yn Mhenmaenmawr. Edwin, yr Iarll ieuanc, brawd Algitha, nai TIcreward- yr oedd yn rhaid ei fod ef gyda hwynt, os oedd efe yn ddyn. Yn ddwyreiniol o gwmpas Stafford, a chanolbarth Mercia, yr oedd gwrthryfel fflamllyd arall, a Morcar ynddo fel eu Hiarll, os oedd yntau yn ddyn. Yna, o'r ffens a Kesteven, beth oeddy newyad ? Fod Here ward o St. Omer wedi dyfod yn ol, a byddin gydag ef. Ei fod yn rhyfela yn erbyn pob Firancwr yn enw Sweyn, Brenin Denmarc a Lloegr. Y mae efe yn ddinoddwr cyfraith, yn wrthryfelwr, ac yn ymyrwr hunanol, meddyliai William wrtho ei hun; ond cafodd allan yn mhen blynyddoedd ei fod wedi camgymeryd ei ddyn. Yn ogleddol, y tu ol i'r rhai hyn oil, yr oedd Gospatric, Waltheof, a Merles- weyn, gyda'r gallu Northumbrlaidd. Yr oedd Durham wedi ei cholli, a Chomyn wedi ei llosgi o'r tu mewn. Ond y mae York," meddai William, "yn barod i sefyll allan am flwyddyn, er nad oes achos sefyll eyhyd." Ac yn olaf, a gwaethaf o'r oil, yn y ^wyroinV»ar+V> vr oedd gallu llyngesawl mawr Sweyn, yr hwn a bawliai Loegr M ei aiado "A- oedd y gallu yr oedd efe wedi ei i er y dechreu wedi dyfod, one! pa ie byddai iddo ef daraw yr ergyd oedd 5 »wnc yn awr. G vy j tai .Ydliam, ond odid, nad oedd y Daniaid. v:, .(y,-eu trechu yn Norwich. Gwyd'lai L,- i itt yn ddiamheuol, canys vv csdd ei y^iiwyr wedi ei hysbysu, eu bod ar ty d, i'r Wash. Eu hatal i yrmmo A Hereward oedd yn anmhosibl, end yr oedd y", rhaid atal eu hymuniad & gwy? iJdwia a Morcar. r and erf y: ■ odd, y mae yn ymddangos --canyp f. veithredodd felly-i dori y Illicit S.. oouig yn ddwy, a myned rhag- ddc ar Stafford fel ei chanolbarth. Hyny, modd bynag, sydd i'w gasglu, f mae pob adroddiadau yn nghylch yr y^addfeydd hyn mor annealladwy a gwrthddywediadol. Ymladd oeddgwaith 0 y Normaniaid, ac nid oedd ganddynt amser i ysgrifenu hanesyddiaeth. Trwy i'r Saeson gael eu Uadd a'u darostwng, ni chynygiasant ar wneud adroddiad o'r hyn a gymerodd Ie. Yr unig groniclau sydd ar gael am yr adegau a'r gweith- rediadau a gymerent le ydyw gweithiau y niynachod. Ychydig a allai y rhai hyn ei weled na'i ddeall yn nghylch cynlluniau a chynllwynion y rhyfelwyr, y rhai a ddarostyngent yr holl wlad, o dan y mynachod Normanaidd, fel y gallent, y rhai a ganlynent y byddinoedd fel adar ysglyfaethus, wledda ar yr ysbail a enillai ereill iddynt. Iddynt hwy yr oedd marwolaeth Abad, ym- rysonfa fynachaidd, neu daith swyddog 0 eglwysig i Rufain, yn fwy o bwys o lawer Iia'r ymladdfeydd oeddynt yn cymeryd lie, y rhai a benderfynent dynged miloedd lawer o bobl. Yr oil a wyddom ydyw, i William syrthio ar wyr Morcar yn Stafford, a'u taraw a lladdfa fawr, gan erlid y gorch- fygedig yn ddvyreiniol a gorllewinol tua aafle Edwin yn Nghaer a Hereward yn y ffens. Yn Stafford cyfarfyddodd a ffoedigion York, Malet a'i wraig, a'i blant, gyda'r newydd fod y Daniaid wedi ymuno a Gospatric, a bod York wedi ei cholli. Syrthiodd William i dymherau drwg- nwydog. Cyhuddodd y dyn druaa o deyrnfradwriaeth. Efe a dorodd ymaith dwylaw, a dynodd ymaith eu llygaid, taflodd Malet i garchar, gan fyned rhag- ddo yn wyllt tua'r gogledd, Efe a arosodd yn Pontefract am dair wythnos. Yr oedd y pontydd dros yr Avre wedi eu dinystrio. Ond o'r diwedd efe a groesodd, ac a aeth rhagddo ar York. Ni wrthwynebwyd ef gan neb.. Yr oedd y Daniaid wedi myned i lawr at yr Humber. Yr oedd calonau Gospatric a Waltheof wedi eu tori, ac yr oeddynt wedi encilio o flaen y cadben mawr. Dywed Florence o Worcester fod William wedi prynu Iarll Osbiorn, gan roddi iddo lawer o arian, yr hwn a ddi- noddwyd mor gynted ag y cyrhaeddodd Denmarc. Nid oes amheuaeth na fuasai William wedi gwneud hyny ds gallodd. Ond credir i'r Saeson siomedig godi y fath gyhuddiadau am yr Iarll, gan gredu eu bod yn wirionedd. Ond onid oes esbon- iad syml a digonol o ymddygiad Osbiorn i'w gael yn y ffaith syml? Yr oedd efe* wedi hwvlio o Denmarc er rhoddi Sweyn ei frawd ar yr orsedd. Cafodd, pan y glaniodd, fod Gospatric a Waltheof wedi meddiann y wlad yn enw Edgar Atheling. Beth oedd ganddo ef i'w wneud mwyach yti Lloegr, ond yr hyn a wnaeth efe-myned i'r Humber, a gauafu yn ddyogel yno, gan aros nes y byddai i Sweyn ddyfod ag adgyfnerthion iddo yn y gwanwyn ? Pan gafodd William ei ddial, efe a ddinystriodd, yn iaith yr Ysgrythyrau, "fywydy tir." Yn mhell ac yn agos llosgwyd y ffermydd uwchben eu perch- enogion, a'r £ d hefyd a losgwyd ar y meisydd. Lladdwyd ac ysbeiliwyd y creaduriaid, ac nid oedd terfyn ar y marwolaethau a'r dyoddefiadau dynol a gymerasant Ie. Ni fu Yorkshire a rhanau o'r siroedd amgylchynol ond lleoedi t3 anghyfanedd bron am y naw mlynedd dilynol, ac ni ddaeth i'w le am oesoedd. Yr oedd y Daniaid wedi ymftrostio y cadwent hwy eu Yule yn York; ond cadwodd William ei Yule yno yn eu lie. Efe a anfonodd i Winchester i ymofyn regalia y Cyffeswr; ac yn nghanol y dadfeilion llosgedig, tra y crwvdrai y Saeson am filldirocdd yn yr eira, gan ymborthi ar bob math o wreiddiau ac ymlusgiaid, á,c o'r diwedd ar gnawd eu gilydd, efe a eisteddodd yno yn ei wisg frenhinol, gan roddi ymaith diroedd Edwin a Morcar i'w gyfeillion. Wedi hyny efe a ymorphwysodd ac a alwodd am heddwch. Ni roddodd efe ymaith diroedd Wal- theof, a dim ond rhan o etifeddiaeth Gospatric. Yr oedd areo eisieu Gos- patric, ac efe a -garai Waltheof, ac yr oedd arno ei eisieu yntau hefyd. Felly, trwy yr anialwch yr oedd efe wedi ei wneud ei hun, efe a ymwthiodd i fyny at y Tees yr ail waith, a hyny dros wlad orchuddiedig gan cira a'r tro hwn nid oedd St. Cuthbert wedi anfon niwl, a hyny, fel y tybid ar y pryd, am fod William yn iach yn ffydd St. Pedr o Rufain. Felly, ymgymododd y Gorch- fygwr a Gospatric a Waltheof yn ddys- taw yn Durham, lie yr oeddynt ar y pryd. Cafodd Gospatric yn ol ei Iarlldod henafol o'r Tees i'r Tyne, ac a dalodd i lawr am dano swm mawr o arian a thrysorau-ei brynu mewn gwirionedd, fel y dywedodd. Cafodd Waltheof ei Iarlldod yn ol, a rhan fawr o eiddo Morcar. O'r ffens i'r Tees oedd ei dir- iogaeth ef. Wedi hyny, er syrsdod i Saeson a Nor- maniaid, ac efallai iddo ei hun hefyd, efe a briododd Judith, nith y Gorchfygwr, gan ddyfod unwaith yn rhagor yn gyfaill mynwesol i William, neu yn hytrach ei gaethwas.

News
Copy
ALLAN 0 NEWYDDIADURON AMERICAN AIDD. MARWOLAETHAU. EDWARDS- Hydref 17, 1882, yn Dan- ville, Pa., Richard Edwards, yn 56 mlwydd ac agos i 5 mis oed. Claddwyd ef dydd Gwener, Hydref 20, a gweinydd- wyd yn yr angladd gan y Parch. T. C. Edwards, Kingston. Yr oedd Richard Edwards yn frawd i Daniel Edwards, Ysw., Kingston (gynt o Danville), ac i Mr. Edward Edwards, arolygydd gweith- iau glo Bodringallt, Deheudir Cymru, ac i Mr. loan Edwards, Kingston. Yr oedd yn ddyn tra adnabyddus yn mysg hen sefydlwyr Danville a Frosty Valley. Daeth i'r wlad hon yn 18.5.5 o Bontypridd, ac oddiar hyny hyd ei farwolaeth treul- iodd y rhan fwyaf o'i amser yn arolygwr y gwaith mwn yn y Valley. Priododd ferch i Mr. William Llewelyn, yr hwn ddaeth i"'r wlad hon o Llanelli, Brychein- iog. Mae iddo saith o blant ar ei ol Mae y mab hynaf, Willie, yn glerc yn swyddfa y Kingston Coal Co., ac yn ar. goeli dod yn ddyn gwerthfawr a defn- yddiol. Yr oedd Mr. Edwards yn cael ei gydnabod yn un o'r cymydogion mwyaf caredig, ac yn arolygwr rhagorol. Hoffid ef yn fawr gan feistr a gweithiwr. Teimlir colled ar ei ol yn yr eglwys ac yn y teulu ond ymgysurir yn wyneb yr a.mgylchiad trwy gofio mai ei dystiolaeth yn ymyl tragywyddoldeb oedd Y mae pob peth yn all right." GRIFFITHS—Hydref yr lleg, 1882, yn Hyde Park, Pennsylvania, Mrs Mar- garet Griffiths, yn yr oedran teg o 71 mlwydd. Ganwyd y fenyw ragorol hon yn Merthyr, Deheudir Cymru, 1811. Priododd a John Williams, priddfeinwr, « sefydlasant yn Nglyn Ebbwy. Yn 1837 derbyniodd Mr Williams alwad i lywyddu gwaith priddfeini y Graig Ddu, Pontypool, yn yr hwn le y treuliodd 23 o flynyddau, pryd y gadawodd Mr Wil- liams y fuchedd hon, gan adael gwrth- ddrych ein nodiadau presenol i deithio yr anial gyda llu o blant oedd amddifad o dad, Mawrth 19, i860. Ar ol hyn cymerodd Thomas H. Williams, yr unig mab iddynt, lywyddiaeth y gwaith yn lie ei dad, ac a'i cariodd yn mlaen am dair blynadd. Yr oedd rhai o blant Mrs Griffiths cyn hyn wedi ymf ado i'r Amer- ica. Daeth yr ymadawedig i America yn nghwmni rhai o'i phlant yn 1867, ac ymsefydlasant yn Hyde Park. Priododd yma gyda Benjamin Griffiths. Yr oedd Mrs Griffiths yn chwaer i Sarah, mor- wyn ffyddlon yr anfarwol Ieuan Gwyn- edd. Gadawodd i hiraethu ar ei hoi chwech o blant, 35 o wyrion, ac 110 or- wyrion. Heddweh i' w llwch hyd ganiad yr udgorn. WILLIAMs-Hydref 19, 1S82, yn 24 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, Rachel, anwyl briod Mr Elias Williams, Bridge- port, Ohio. Rhyw dair blynedd yn ol symudasant i'r wlad hon o'r Din as, Cwm- yrlioudda, a dechreu yr haf diweddaf daethant o Houtzdale, Pennsylvania, i Bridgeport. Bu yn wael ac yn nychu am fisoedd; ond er pob ymdrech bu farw yn dawel yn mynwes ei Hanwylyd. Yr oedd er's blynyddau yn aelod parchus gyda'r Bedyddwyr. Claddwyd hi y dydd Sadwrn canlynol yn Bridgeport Cemetery, pryd y gweinyddwyd gan y Parch W. Lewis. Gadawodd briod ac un ferch 12 oed i alaru ar ei hoi. HUSBAND—Medi 4, 1882, yn Ply- mouth, Pennsylvania, Mrs Husband, priod Mr Benjamin Husband, oddiwrth effeithiau cydgyfarfyddol amryw glef- ydau, yn 60 mlwydd oed. Adnabyddid hi gynt wrth yr enw "Peggy Siams Rees." Ganwyd hi yn y Collier's Row Isaf, ger Merthyr Tydfil, Deheudir Cymru, yn 1822. Merch oedd i John Rees, yr hwn a gyfarfyddodd á'i ddiwedd drwy foddi yn feeder canal Merthyr tua 25 mlynedd yn ol. Priododd a James Rees yn 1848, yr hwn a. adwaenid ya gyff- redin wrth yr enw "Siams y Coedwr." Symudasant o'r lie uchod i Cwmbach, ger Aberdar, ac oddiyno i Mountain Ash, lie y bu James ei gwr farw yn 1864. Yn mis Medi, ynyr un flwyddyn, ymfudodd i America, lie yr oedd dwy ferch wedi eu blaenori, sef Mrs John D. Morgans a Mrs Sarah Saunders, y ddwy wedi sefydlu yn Schuylkill County. Ar ddydd yrym- a lawiad ymgynullodd canoedd o'i chyd- genedl i'r depot er canu ffarwel am dymhor a ni fel teulu, a chanwyd yr hen benill anwyl hwn nad a. byth yn anghof: Os gwelir fi bechadur Ryw ddvdd ar ben fy nhaith," &e. Sefydlodd y teulu yn Bucktown hyd 18,3, pryd y symudwyd i Plymouth, ac yma: daethom i gydgyfarfyddiad hapus a'u brawd-yn-nghyfraith, sef Mr Daniel Rees, brawd fy nhad, yr hwn sydd yn arolygydd un o weithiau glo Charles Parish, Ysw., er's blynyddau. Rai bl. n- yddau yn ol priododd fy mam a Mr B. Husband. Yn 1876 bedyddiwyd hi gan Edward Jenkins, gweinidog yr eglwys 0 Z3 Fedyddiedig. Wedi dyoddef arteithiau llymion ei hafiechyd am yn agos i ddwy flynedd, bu farw yn Gristion ac yn fam anwyl, ffyddlawn a thyner at ei holl blant, canys yr oedd yn un o wronsau ei hoes o o du ei phlant, fel y gwyr pawb a'i had- waenai. Ffarwel fy anwyl fam, cysg- wch bellach yn ngwely pluf yr addewid- ion, o dan gwrlyd y gobaith da am yr adgyfodiad gwell.

News
Copy
DYDDIAU MARI WAEDLYD. PENOD XLI. Bonner.—" Yr wyf yn crefu arnoch (Mr Philpot) i fy hysbysu pa fodd yr ydych yn uno y ddwy ysgrythyr gan- I In lynol, Y mae y Tad yn fwy na mvii,' a 'Myfi a'r Tad un ydym.' Yn awr, dangoswch eich cyfrwysdra, ac unwch y ddwy ysgrythyr hyn trwy y gair, os gellwch." Philpot.—" Gallaf yn hawdd. Ob!eg- yd yr ydym i ddeall fod yn Nghrist ddwy natur, yr un ddynol a'r un ddwyfol. Ac yn nghylch ei natur ddynol y dywed- odd Crist, Y mae y Tad yn fwy na myn,' ond yn nghylch ei natur ddwyfol y dywedodd efe, I Myfi a'r Tad un ydym. Y mae genyf ddigon o ysgrythyrau i brofi yr hyn a ddywedais. Am y cyn- taf ysgrifenwyd yn y Salmau, ti a'i gwnaethost ef ychydig is na'r angelion.' 0 ZD Am yr ail dywed Paul yn yr epistol at yr Hebreaid yn eang i'w gadarnhau." Bonner.—" Pa fodd y gall hyny fod, gan fod Paul yn dweyd fod y 1 lly thyren yn lladd, ond yr ysbryd yn bywhau.?' Rhaid fod tywyllwch dudew pagan- aeth yn gordoi meddwl Bonner, cyn y rhoddai efe y fath ateb dibwrpas ac an- mherthynasol i'r hyn a ddywedodd Mr Philpot. Philpot.—" Nid yw St. Paul yn gol- ygu fod gair ysgrifenedig Duw ynddo ei hun yn lladd, gan mai gair y bywyd ydyw, ac yn dysticlaeth ffyddlon yr Arglwydd; ond fod y gair yn anfuddiol, ac yn lladd yr hwn sydd heb Ysbryd Duw, er i'r cyfryw un fod y dyn doethaf yn y byd. Oblegyd hyny, dywed fod yr efengyl yn arogl bywyd i fywyd i rai, ac i ereill yn arogl marwolaeth i farwolaeth. Y mae genym esiampl o hyn yn loan vi., yn y rhai a wrandawsant y gair heb yr: Ysbryd, y rhai na dramgwyddwyd gan y gair. Gan hyny, dywedodd Crist, nid yw y cnawd yn llesau dim. Yr Ysbryd sydd yu bywhau.(" Methodd y pagan Bonner a rhoddi ateb i olygiadau cryfion ac ysgrythyrol Mr Philpot, ond trodd at yr arglwyddi, y rhai oeddynt yn bresenol, i ddatgan ei I anobaith i droi Mr Philpot yn Babydd. Bonner.—" Gwelwch, fy arglwyddi, y myn y dyn hwn ei feddwl ei hun, ac y myn o'i wirfodd daflu 'ei hun i ddi- nystr. Drwg genyf drosto." Philpot -,I Nid fy ngeiriau i yw y rhai a leferais, ond yr efengyl, ar ba un y dylwn sefyll. Ac os gellwch chwi, fy arglwydd o Lundain, ddwyn gwell aw- durdod dros y ffydd y dymunech fy llusgo ati na yr un yr wyf yn sefyll arni, bydd yn llawen genyf wrando ar y cyfryw genych chwi neu gan unrhyw ddyn yn y deyrnas." Rich.—" O ba wlad yr ydych chwi? A ydych chwi yn perthyn i Philpots swydd Hants ?" Philpot.—" Ydwyf, fy arglwydd. Mab i Syr P. Philpot o swydd Hants ydwyf." Rich —" Y mae efe yn agos berthynas i mi. 0 herwydd hyny y mae yn fwy drwg genyf drosto." I Philpot.—" Yr wyf yn diolch i eich arglwyddiaeth am gydnabod perthynas a charcharor tlawd." Rich.—" Yn wir yr wyf yn barod i fyned gan' milldir yn droednoeth i wneud da i chwi. Yr ydych wedi dweyd y dymunech amddiffyn eich cred o flaen deg o'r dynion goreu yn y deyrnas. Gallaf fod mo? hyf a dweyd y llwyddaf gyda'r frenhines i gael deg o ddynion 0 dysgedig i ymresymu a chwi, ac ugain neu ddeugain o bendefigion i wrando os addawch chwi i ymostwng i'w barn hwy. Pa beth a ddywedwch, a wnewch chwi addaw o flaen yr arglwyddi hyn i wneud felly?" Philpot.—" Y mae achosion o her- wydd y rhai nas gallaf addaw hyny, os I na chaffwyf sicrwydd y byddai eu barn hwynt yn ol gair Duw." Rich.—"O, mi welaf na fynwch chwi neb i farnu ond chwi eich hunan; a eich bod yn meddwl eich bod yn ddoethach na holl ddysgedigion y deyrnas." Bonner.—"Fy arglwydd, nid .wyf yn ceisjp bod yn farnwr arnaf fy hun. Yr wyf yn foddlon i gael fy marnu gall ereill, ond i'r farn hono mewn materion crefyddol fod yn ol trefn yr eglwys gyntefig, sef fod ewyllys Duw yn ei air yn cael ei geisio. Cesglid yr awdurdod- au ysbrydol a. thymorol at eu. gilydd gynt, a rhoddent eu cydsyniad a'u barn. Myfi a safaf at y fath farn." Rich.—" Yr wyf yn rhyfeddu eich bod yn gwadu geiriau pendant Crist yn y sacrament, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff.' Ac eto parhewch i ddweyd mai nid ei gorff ef yw ef. Onid yw Duw yn hollalluog? Onid yw efe mor alluog i droi y bara yn gorff a gwneud cnawd dyn o glai ? Oni ddywedodd efe, Hwn yw fy nghorff yr hwn a fradychir dros- och ?' Ac oni fradychwyd ei gorff ef drosom ? Gan hyny rhaid mai ei gorff: ef ydyw." Gwelir nad oedd y Pabydd yn coffhau geiriau Crist ond yn ol y cyfieitliiad Pab- ydlol. Bradychu" a rydd efe am "dori," 1 Cor. xi. 24. "Tori" yw y gair yn ol yr iaith wreiddiol. Bonner.—"Fy arglwydd Rich, yr ydych wedi dweyd yn rhyfedd o dda, ac yn ddysgedig. Ond gallasech ddechreu yn y chweched benod o loan, lie yr addawodd Crist i roddi ei gorff yn sac- rament yr allor, gan ddweyd, y bara a roddaf fi yw fy nghnawd.' Pa foddy gellwch ateb hynyna?", Philpot.—" Gellir eich ateb yn fuan. Y mae y geiriau yn loan yn golygu dynoliaeth Crist, yr hwn a gymerodd efe er mwyn prynedigaeth dyn. Hwn yw bara y bywyd, trwy ba un y mae ein heneidiau a ein cvrff yn cael eu cynal i fywyd tragywyddol. Ac y mae y bara yn y sacrament yn arwydd o hono i bawb a gredant yn angeu Crist. Ac fel y dywedodd Crist yn y chweched o loan, I Myfi yw y bara a ddaeth i waered o'r net,' ac eto heb fod yn faterol, nac yn fara naturiol; felly y bara yw ei gnawd ef, nid yn naturiol a svlweddol, ond yn arwyddocaol, a thrwy ras yn y sacrament. Ac yn awr af at ymresym- iad arglwydd Rich. Nid wyf yn gwadu geiriau pendant Crist yn y sacrament, Hwn yw fy nghorff,' ond yr wyf yn gwadu y dylid eu cymeryd fel yn golygu I 1 0 ei gorff ef mewn ystyr naturiol. Rhaid ei fod yn golygu ei gorff mewn ystyr ys- brydol, yn ol tystiolaeth bendant Crist wrth bobl Capernaum, y rhai a gymerent tD olwg lythyrenol ar ei eiriau ef yn nghylch ei gorff, fel y gwna y Pabyddion yn awr, y rhai nad ydynt yn pwyso eglurhad Crist, Yr Ysbryd sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesau dim.' Nid ydynt chwaith yn dilyn sefydliad Crist, nac arfer yr apostolion a'r eglwys gyntefig." Bonner. Beth a ddywedwch chwi yn nghylch gallu Duw? Onid yw efe yn abl i gyflawni yr hyn a ddywedodd efe, fel y mae fy arglwydd Rich wedi dweyd yn rhagorol. Yr wyf fi yn dy- wedyd wrthyt ti y gall Duw trwy ei hollalluogrwydd droi ei hun i fod y carped hwn, os ewyllysia." Gwelir fod Bonner yn dechreu taflu ei gochl ddiniwed, ac mor anfoesgar a; chyfarch boneddwr a berthynai i argl- wydd Rich, trwy ddweyd "tydi." Nid oedd y gair hyny yn ddim ynddo ei hun, ond fel yr oedd yn esbonio cythreuldeb Bonner tuag at y gwirionedd fel yr eglurid ef gan Mr Philpot. Philpot.—" Gyda golwwar hollalluog- rwydd Duw, dywedaf ei fod yn abl i wneud beth bynag a ewyllysia. Ond nid yw yn ewyllysio gwneud dim yn groes i'w air. Cabledd yw yr hyn a ddywed fy arglwydd o Lundain (sef Bonner) y gall Duw wneud ei hun yn garped. Oblegyd nis gall Duw wneud ei hun yr hyn fyddai yn groes i'w natur. Ac y mae yn groes i natur Duw i fod yn garped. Creadur yw carped; Creawdwr yw Duw. Ac nis gall y Creawdwr fod yn greadur. Gan hyny, os na ellwch chwi brofi trwy y gair fod Crist yn bresenol gyda ni yn amgen nag yn ysbrydol ac yn sacramentaidd, trwy ei ras, fel y dysgodd efe ni, ofer yw eich cyfeiriad at hollalluogrwydd Duw." Hawdd meddwl fod y cerydd uchod i Bonner wedi cyffroi yr ysbryd drwg ynddo. 0 Bonner.—"Beth! A ddywedi di ddim fod Crist yn bresenol mewn modd gwirioneddol yn y sacrament? Neu a ydych chwi yn ei wadu ?" Philpot.—" Nid wyf yn gwadu fod Crist yn bresenol yn y sacrament mewn modd gwirioneddol, i'r derbynydd o hono, yn ol ei sefydliad ef." Bonner.—" A ydyw Duw yn wirion- edflol bresenol yn mhob man ? Philpot.—" Ydyw. Dywed y proffwyd Esay ei fod yn llanw pob man. A dywed Crist, C lIe mae dau neu dri wedi ym- gynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.' Nid yn ei ddynoliaeth ond yn ei Dduwdod." Rich.—"Fy arglwydd o Lundain, yr wyf yn deisyf arnoch, gadewch i Dr Chedsey ymresymu ag ef, a gadewch i ni gael gweled pa fodd y bydd iddo ei ateb ef, oblegyd dywedaf wrthych ei fod yn ddyn gwir ddysgedig, ac un yr wyf yn barod i roddi derbyniad iddo o flaen Ilawer o honoch, athrawiaeth pa rai a ganiateir gan y frenhines a chan yr holl deyrnas yn dra phriodol. Gan hyny gwrandewch ef." Cafodd Mr Philpot ddylanwad ar arglwydd Rich ei berthynas. Caniata- odd ei fod yn drech nag ef yn ei ymres- ymiadau. Ond nid rheswm nac ysgry- thyr oedd y pethau a gydnabyddid mewn awdurdod gan Babyddion. Y maent felly hyd y dydd hwn. Gosodant eu hymddiried uwchaf yn y Pab a'r giwed offeiriadol, y rnai a awdurdodir ganddo. Cawn weled yn ein rhifyn nesaf gobeith- iwn pa fodd y gallodd Dr Chedsey ymresymu a Mr Philpot. Ceir gweled nad oedd Goliath i'w gael a allai goncro Dafydd

News
Copy
Y DD AM WAIN ANGEUOL YN NGLOFA TY'NYBEDW. Dydd Iau diweddaf, daeth y rheith- holiad i achos marwolaeth y ddau ddyn ieuanc, Samuel Phillips, mechanic, a William Jones, ei gynorthwydd, par- tbynol i lofa Ty'nybedw, i derfyniad yn yi; Ystrad. Yr oedd Mr Edmund Thomas, un o'r perchenogion, yn bresenol, a gwylid yr achos hefyd ar ran y meistri gan Mr Walter H. Morgan. Yr oedd Mr W. Abraham yn bresenol ar ran glowyr y Rhondda, ac yn gwylio yr achos dros fam y dyn ieuanc, William Jones. Esboniodd y trengholydd yr helynt, gan hysbysu fod y ddau ddyn ieuanc yn carriage y pwll pan y torodd y rhaff, ac yr hyrddiwyd hwythau i'r gwaelod. Dywedodd Mr Ithel Treharne, is- arolygydd mwngloddiau, ei fod wedi gwneud archwiliad ar y rhaff, a'i bod yn hollol anaddas i'w defnyddio i godi a gostwng dynion o'r pwll, ac y gallasai unrhyw ddyn a fuasai wedi ei har- chwilio yn flaenorol i'r ddamwain weled ei bod yn hollol anaddas. Mr Wales, y prif olygydd mwnglodd- iau Deheudir Cymru, a sylwai hefyd fod y rhaff yn hollol anaddas, gan gyfeirio fod cyfraith y mwngloddiau yu gofyn ar fod i arolygydd pob mwnglawdd i nodi dyn eymwys i archwilio pob rhaff a ddefnyddid. Mai Phillips, y trancedig 0 oedd y person apwyntiedig at y gwaith, ond nid oedd unrhyw dystiolaeth i'w gael ei fod wedi gwneud hyny y diwrnod y cymerodd y ddamwain Ie; ac os oedd, nas gallai ddweyd dim ond fod Phillips yn berson hollol anghymwys i'r fath waith. Mai y prif arolygwr oedd yn gyfrifol am y fath apwyntiad. Mai y gorchwyl y bu Phillips yn ei gyflawni hwyaf oedd fel winder, ac y dylai me- chanic fod wedi ei ddwyn i fyny at y cyf- ryw orchwyl, a deall natur pethau o'r fath. Hefyd y dylasai rhaff nad oedd mewn gwaith eyson fod o dan do. Dywedodd Mr Salathiel, y prif oruch- wyliwr, fod Mr Thomas yn cymeryd rhan flaenllaw yn llywodraethiad y lofa, a bod Phillips wedi ei osod yn y swydd o fechanic yn unol a'i gymerad- wyaeth ef. Y rheithfarn ydoedd :—Wedi dyfod i'w diwedd mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniasant trwy syrthio i waelod pwll upcast Ty'nybedw, a hyny trwy doriad y rhaff. Yr ydym rii, y rheith- wyr, yn ystyried nad oedd Samuel Phillips yn gymhwys fel mechanic, a chymhwys neu anghymwys, yr ydym yn ystyried yr agent (Mr Edmund Thomas, a'r manager (Mr Thomas Sal- athiel) wedi esgeuluso eu dyledswydd yn fawr trwy beidio gweled fod y dyled- swydd o archwilio y rhaff yn cael ei wneud yn briodol. Dywedodd Mr Walter Morgan, ar ran y perchenogion, eu bod yn cydymdeimlo yn fawr a pherthynasau y trancedigion, a'i fod wedi ei awdurdodi i hysbysu fod y cwmni yn barod i dalu iawn rhesymol i'r rhai a ymddibynant ar y rhai a goll- asant eu bywydau. .7

News
Copy
TAMEIDIAU HYNOD A DYDD- ORUS. Y DYDD o'r blaen, hysbysodd dyn ieuanc yn y newyddiadur am wraig, a phwy a'i atebodd ond ei chwaer ei hun. Bellach y mae ef wedi cael allan nad oes y balm angenrheidiol i'w gael trwy hys- bysiadau, tra y mae ereill yn barnu ei fod braidd yn ormod i gael dau hurtyn yn yr un teulu. DYWEDODD areithiwr y dydd o'r blaen fod llawer o bersonau wedi methu dyfod i'r neuadd. Cafwyd allan yn fuan mai y rheswm am hyny oedd na cheisiasant ddyfod. YR haf diweddaf yr oedd boneddwr yn chwilio am dy bychan ar lan y m6r yn yr Iwerddon am fisoedd yr haf. Daeth o hyd i dy segur a fuasai yn gwneud ei dro, yr hwn a wynebai y m6r, ac ar y traeth. Yn ffenestr y ty yr oedd y geiriau "Ymofyner yr ochr draw," ac erbyn ymholi, dyn yn New York oedd ei berchen, yr hwn hefyd a'i gosodai. GALWODD bugail gofalus y dydd o'r blaen i edrych am un o'i braidd, yr hon oedd yn nghanol golchi dillad; a thrwy nad oedd hi am i'r gweinidog ei gweled yn nghanol y gorchwyl hwnw, aeth y tu ol i'r horse dillad, gan ddweyd wrth ei mab bychan am hysbysu y gweinidog ei .bod wedi myned allan. Pan yr oedd hi y tu ol i'r dillad, yr oedd ei thraed oil yn y golwg, a dywedodd y pregethwr wrth y bachgenyn am. ddweyd wrth ei fam am fyned a'i thraed gyda hi pan yr elai allan y tro nesaf-eu bod yn ddefn- yddiol iawn i gerdded. Y DYDD o'r blaen pallodd dyn briodi merch ieuanc am nad oedd hi yn siarad-, wraig dda. Dylasai efe ei phriodi, ac yna pallu iddi fonet newydd, a buan yr ymarferai hi siarad. YR oedd yna ddyn ag oedd yn meddu ar drwyn anarferol o goch wedi syrthio i gysgu yn y gadair yr eisteddai ynddi.. Yn ei ymyl yr oedd ei was bach, yr hwn a welai bryf yn ymddifyru o amgylch gwyneb ei feistr. Yr oedd y bychan yn gwylio symudiadau y cleryn gyda gryn ddyddordeb, ond wele ef o'r diwedd yn disgyn ar drwyn coch ei feistr. Dauco di," meddai y gwas bach, "mae'n right dda gen' i dy wel'd yn llosgi dy draed." FE ddygwyddodd i farbwr baldorddol gael ei atw i- shavo yr athronydd Archelaus. Gofynodd iddo Pa fodd y gwnaf fi eich sli.avo, syr "Mewn dystawrwydd oedd yr atebiad. YR oedd gan Ladi Bath, fel llawer ladi arall, dymher ddrwg iawn. Dy- wedodd Lord Bath wrthi yn un o'i nwydau drwg, Os gwelwch yn dda, fy anwylyd, cedwch eich tymher." Ateb- odd hithau, "Cadw fynhymer Na, nid wyf yn ei leicio gymaint a hyna, ac yr wyf yn deall eich bod chwi am i mi ei gadw." DECHREUODD offeiriad ei bregeth yn y geiriau a ganlyn Anwyl Gyfeillion, —Hwyliaf y cynghorion a roddwyf heddyw ar gwc'i fy ngwefusau, mewn trefn i groesi cefnfor garw eich gwran- dawiad, mewn gobaith y cyrhaeddaf yu ddyogel borthladl eich clustiau." MEDDYGINIAETHAU.—i salwch y m6r -aroswch ar y Ian. I feddwdod—yfwch ddwfr oer. I gadw allan o'r carchar —cedwch allan o ddyled. I'r gout- byddweh byw gy.la'r argraffydd. I blesio pawb-meindiwch eich busnes eich hunan. MEWN cyfarfod lie yr oedd lluaws yn cael eu conffirmio, gofynodd vr offeiriad wrth arholi merch fach ddini wed. o'r wlad, a oedd hi yn gwybod pwy oedd y dyn henaf? Atebodd yn union, cc Os gwelwch yn dda, syr, maent yn dweyd mai yr hen Faster Garing y teiliwr ydyw." Yr ydych yn ferch wan iawn," meddai yr offeiriad. Yr wyf, yn wir, syr. Yr wyf wedi cymeryd cy- maint o foddion doctor yn ddiweddar, ac y mae hyny wedi fy ngwneud yn wan iawn." 0 DAN ddeddfau y Tadau Pereriniol, nid oedd yn rhydd i ddyn gusanu ei wraig ei hun ar y Sabboth; ac wedi ymchwiliad manwl i ddarluniau menyw- aidd y cyfnod hwnw, credir fod y gyf- raith yn un lied uniawn. DYGWYDDODD i gyfaill o Wyddel i weled gold psh mewn llestr gwydr llawn o ddwfr. Gwaeddodd allan, "Wel, Och fi! dyma y tro cyntaf i mi weled ysgadenyn coch yn fyw." DYGWYDDODD i offeiriad fod yn darllen y gwasanaeth claddu ar lan y bedd, ond nid oedd wedi sylwi pa un ai meuyw ai gwryw oedd yr ymadawedig, a phan y daeth at y geiriau yn y gwasanaeth sydd yn son am frawd neu chwaer, gofynodd i Wyddel oedd gerllaw mewn llais isel, Pa un ai chwaer neu frawd ydoedd?" Dywedodd Pat, "Nid yw yn un o'r ddau, fy nghyfaill; nid ydyw ond perthynas pell iawn." DARFU i gyfreithiwr ysgrifenu y gair "Rascal" yn het brawd o'r un alwad, yr hwn, pan a'i darganfyddodd, a'i dygodd o flaen v llys am y trosedd, a 1 dywedir fod y troseddwr, nid yn unig wedi cymeryd ei het, ond ei fod wedi ysgrifenu ei enw ei hun ynddi.

News
Copy
PENAKTH, CAERDYDD. Nos Lun diweddaf, yn nghapel yr Anni. bynwyr, Severn Road, Penarth, Caerdydd, traddodwyd darlith gan y Pa.rch J. Rees, Cwmllynfell, ar "Frawd yr AtVadlon." Y mae Mr Rees yn un o'r dariittiwyr mwyaf galluog a phoblogaidd a fodd yr enwad yn Nghymru. Oariodd dd. latiwad trydanol ar y gynulleidfa. Ni chly wsom t-rioed ddar- IHh mwy ywreiddiol, witty desgnfiadol, a^ addysgiadol, ac y mae Mr Rees yu draddod- wr naturiol, nerthol, a gwresog.—(ioa.j