Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
Y CYNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y CYNWYSIAD. Yr "Wythnos 1 William y Gorcbfygwr 2 Cynghor Sirol Flfint 3 Llwyngwril—Urddiad yn Maesglas .3 Mtrwolaeth Charles Edwards, Ysw., Dolserau 4 Dolgellau 4 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 4 Agoriad y Senedd 5 Cynghorau Sirol 5 Deddf Llywodraethiad LIeol. 6 O Ben y Garnedd 6 Cynrychiolaeth Rossendale 6 Y Times a Mr- Parnell 7 Y Brif Erthygl 8 Dirprwyaath Parnell 9 AryrOlwyn. 10 Cyfarfod Llenyddol y Britbdir 10 Carmel, Llanfachreth. ]1 Barddoniaeth 11 Rysbysiadau .12,16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYGWYDDODD damwain ddifrifol, pryd- iiaa n Sadwrn, ar keilffordd Wrexham, Wyddgrug, a Connah's Quay. Fel yr oedd eerbydres drom yn nesau Fr.orsaf gerllaw y points i groesi, aeth y peiriant oddiar y Theiliau, a threiglodd drosodd ar ei hochr, gan dagu prif linell y Great Western. Aeth yr boll gerbydau oddiar y rheiliau, a gwnaed cerbyd y gwyliedydd, oedd yu nesaf i'r peiriant, yn ddrylliau. Gallasai y canlyniadau fod yn erchyll, ond yn ffodus ni laddwyd neb. Diangodd y 0 gyriedydd a'r tanwrgydagychydig niweid- iau, ond dyoddefodd y gwyliedydd a rhai teithwyr archollion gerwin, ac ysgytiadau llymdost.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AGORWYD y Senedd ddydd lau drwy Ddirprwyaeth Frenhinol. Cyfeiriai yr Araeth Frenhinol, a ddarllenwyd gan yr Arglwydd Ganghellydd, at y perthynasau caredig sydd yn bodoli rhwng Prydain Fawr a galluoedd eraill; ond ychwanegai fod y treuliau cynyddol ar ddarpariaethau rhyfelawg yr aethpwyd iddynt gan genedl- oedd Europaidd eraill, wedi ei gwneud yn angenrheidiol i gynyddu y rhagoeheliadau a gymerwyd hyd yma er diogelwch ein glanau a'n trafnidiaeth. Cynygiwyd Anerch, mewn atebiad i'r Araeth o'r Orsedd yn Nhy yr Arglwyddi gan Arglwydd Londesborough, a chytunwyd arni ar ol dadl fer, yn yr hon y cymerwyd y rhan flrenaf gan larll Granville ac Ardalydd Salisbury.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EHODDODD Arglwydd George Hamilton rybudd yn Nhy y Cyffredin o'i fwriad i dd wyu mesur i fewn i ddarparu ar gyfer adeiladu llongau i Lynges ei Mawrhydi. Tebyg fod y Lly tfodraeth Doriaidd bresen- ol yn berderfynol o wario rhai miliynau o bunau i ddarparu ar gyfer y peryglon dychymygol sydd wedi eu meddianu. Pwnc y blaid hon yn wastad wrth daflu y Mdad i dreuliau enfawr, yw cael brechdan lied amheuthun iddynt eu hunain.— Dechreuwyd v idadl ac yr Anerchiad, rnewn atebiad i Araeth y Frenhines gan Mr. Gladstone, Mr. W. H. Smith, ac eraill, a gohiriwyd hi. Awgrymodd Mr. John Morley ei fwriad i gynyg gwelliant yn I condemnio y gyfundrefn biesenol o lyw- odraethu y Werddon.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE Dirprwyaeth Parnell yn tynu mwy o sylw y dyddiau hyn nag y bu o gwbl. Y mae tystiolaeth a chroesholiad Pigott wedi creu chwilfrydedd a siarad drwy y deyrnas, fel y mae y wlad wedi d'od i deimlo mwy o ddyddordeb yn yr ymchwiliad y dyddiau diweddafnag yn yr haner cantblaenorol. Dweyd yrhanes yr oedd Pigott ddydd Gwener fel y cafodd efe y llythyrau oddiwrth gynrychiolwyr y Clan-na-Gael yn Paris. Gwadai yn ben- derfyr.ol iddo eu ffugio, a bod a wnelo ddim a'u hysgrifeniad, ac iddo ddweyd erioed eu bod yn fitugiadau; yn y gwrth- wyneb, credai ef eu bod yn ddilys. Wrtb ei groesholi gan Syr Charles Russell, daeth y tyst wyneb yn wyneb a llythyr hir a ysgrifeuodd at yr Archesgob Walsh dri diwrnod cyn ymddangosiRd yr erthygl gyntaf ar "Parnelliaeth a Throsedd," yn yr hwn y sierya am gyhoeddiad ag6shaol llythyrau yn tueddu i brofi fod Mr. Parnell yn gymhlyg ag eraill mewn llofruddiaethau a therfysgoedd, a dywedai ei fod yn alluog i nodi allan sut y gellid gorchfygu y cynllun o ddinystrio dylan- wad y blaid Parnellaidd. Nis gallai egluro beth a olygai wrth hyn.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bu Balfour wrthi nos Lun yn amddiffyn ei wladlywiaeth yn y Werddon, ac y mae yn amlwg fod ei feddwl wedi ei gaethiwo mor llwyr gan ysbryd gorfodaeth, fel y mae yn analluog i werthfawrogi yr achosion sydd yn darbwyllo y mwyafrif o'r bobl i wrthryfela yn erbyn ei gyfundrefn. Gosodiad Mr. Morley ydyw, fod y wein- yddiaeth yn y Werddon yn arw, gorthrym- us, ,ac anghyfiawn; ei bod yn treisio hawlian ac yn dyeithrio berchiadau y bobl Wyddelig, ac yn cyffroi gwrthwynebiad a chasineb pobl Prydain Fawr. I egluro gormes y weinyddiaeth orfodol, nodai Mr. Morley fod dynion wedi cael eu hanfon i garchar am ganmol Mr. O'Brien; fod eraill wedi eu condemnio i dri mis o garjhar am chwerthin am ben heddgeidwad; fod dau eraill wedi eu heuogbrofi o fod mewn cynulliad anghyfreithlawn, am eu bod mewn crywd oedd yn canmol Cynllun y Rhyfelgyrch. Y fath ormes anny- oddefol!
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE Mr. Gladstone wedi ymostwng —?oblegid beth heblaw ymostyngiad ydyw ynddo ef-i ysgrifenu i'r Times mewn cyfeiriad at y troi o ffermydd yr haerir a gymerodd le yn Hawarden. Ar ol cyhuddo y Times o wneud camadroddiadau, a y boneddwr gwir anrhydeddus rhagddo i ddweyd nad ydyw etifeddiaeth Hawarden yn dirfeddiant iddo ef, mai ei fab ydoedd y meddianydd arbenig, ac nad oedd un person, trwv gyfraith na gorthrech, wedi ei droi allan o'i breswylfod. Aitybed fod ei droi allan o'i breswylfod. Aitybed fod y Toriaid, wrth godi hyn i'r gwynt, yn tybied ei fod yn ddigon o ymddiheurad y t, dros eu camlywodraeth hwy yn yr Ynys Werdd? A ddeil ymddygiad tirfeistr Hawarden ei gymharu a gormes y tir- feistriaid Gwyddelig? Na ato i ni ddweyd y fath beth. Na, ychydig o gysur all cefnogwyr y Llywodraeth bresenol ei dynu oddiwrth ymddygiad Mr. W. H. Gladstone tuag at ei denantiaid.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y NEWYDD diweddaraf pan ydym yn ysgrifenu, yr hwn sydd wedi taflu ton o gyffro dros vr holl wlad, ydyw fod Pigott, prif dyst y Times yn Nirprwyaeth Parnell, wedi cymeryd v goes, fel yr arferir dweyd yn Nghymru, ac na wnaeth ei ymddangos- iad yn y llys ar ei agoriad boreu ddydd Mawrtb. Yr oedd wedi bod yn ddrwg iawn arno ddydd Iau a dydd Gwener, pan yn cael ei groesholi gan Syr Charles Russell, fel nad ydyw yn rhyw lawer o syndod iddo fethu cassrlu digon o wroldeb i'w wynebu drachein bore dydd Mawrth. i Pan alwyd ei enw yn y llys, ni wnaeth ei I! ymddangosiad, a rhoddwyd gwarant allan i'w ddal. Vn ddiweddaraoh, gwnaeth Syr Charles Russell yn hysbys i'r llys fod Pigott wedi gwneud yn hysbys i Mr. Labouchere ddydd Sadwru mai efe ydoedd ffugiwr yr holl lythyrau ag y dywedid eu bod wedi eu hysgrifenu gan Egan, Parnell, Davitt, a Kelly. Cyfaddefodd h3fyd ei fod wedi cyflawni anudoniaeth. Mynai Syr Charles Kussell, gan fod Pigott o dan wyliadwriaeth heddgeidwaid, alw ar y swyddogion hyny i egluro pa fodd y diangodd ymaith, tra y mynai y Cadeirydd fyned at bethau eraill yn gyntaf.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR hyn oedd uchaf ar feddwl pawb pan gyfarfyddodd y Senedd ddoe ydoedd darl- blygiad cyffrous digwyddiadau yn nglyn a Dirprwyaeth Parnell. Methodd Mr. Dillon a pheidio cyfeirio yn y Ty neithiwr gydag eflhith dda drwy alw sylw at y ffaith mai yr archdwyllwr Pigott a gam- arweiniodd Mr. Forster, a bod yn debyg fod Mr. Balfour wedi ei dwyllo yn ogymaint gan ei olynwyr. Y galar penaf yw, fel y Gylwai Mr. Dillon, fod y gyf- undrefn o lywodraeth sydd wedi bodoli mor bir yn y W erddon ya magu Pigotts, fel y mae llygredlgaeth yn magu pryfed