Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMRU A'R RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'R RHYFEL. Mae mab Dr. Herford, gynt o Goleg Aber- ystwyth, yn awr o Fanceinion, yn ymladd gyda'r fyddin yn Ffrainc. Mae bron bob eglwys Ymneilltuol yn Llan- dudno wedi pasio penderfyniad yn protestio yn erbyn caniatau chwarac golf ar y Saboth. Hysbysir fod y Parch. R. Jones, M.A., Llandinam, wedi ei benodi yn g apian Ym- neilltuol, ac i fod ynglyn ag adran Gymreig o'r Fyddin. Deallaf for chwiorydd eglwys Gymreig y Drefnewydd wedi cychwyn cyfarfod wythnosol i ddarparu dillad cynnes i'r milwyr, sydd wedi myn'd o'r dref. Yr oedd yr eglwysi eraill wedi cychwyn er ys tro. Mae Cymdeithas y Groes Goch yn awyddus am gymryd adeiladau y Col eg Diwinyddol yn Aberystwyth. Gyda'r amcan yma bwriedir apelio am fil o, bunnau, y swm sy'n eisiau, gyda rhodd y,LJywodraeth, i gario'r lie ym- laen am flwyddyn. Mae pedwar o gaplaniaid Ymneilltuol yn myned allan gyda'r Fyddin Gymreig i Ffrainc yr wythnos hon,—Hugh Jones (B.), Llandud- no; Arthur Hughes (M.C.), Caerfyrddin; James Elvans (A.), Caerdydd, a W. Llewelyn Lloyd (M.G.), Llangaffo. Ychydig iawn ddaeth ynghyd i gyfarfod ymrestru oedd wiedi ei gyhaoeddi yn Llan- gefni, a gwrt'hododd Syr Henry Jones siarad. Ar apel y Parch. John Williams, Brynsiencyn, cydsyniodd pyr Henry i siarad, a chaed cyfar- fod da er fod y cynhulliad yn druenus. Ymdengys fod nifer fawr o athrawon Ys- golion Sir Fflint wedi ymuno a'r fyddin. W-rth ystyried pa fodd i lanw y bylchau yn y rhengau, awgrymodd rhywun fod cais yn cael ei wneud at bregethwyr y Sir am eu gwasan- aeth a'u cynhorthwy. Dywedodd Cyfar- Wyddwr Addysg fod ganddo enw un g-weii-ii- dog fel ymgeisydd yn barod. Diameu y gellid llawer yn y cyfeiriad hwn. Nos Lun ymwelodd y Parch. J. Williams, Brynsiencyn, a myfyrwyr CoIeg- Diwinyddol y Bala yngtyn ag ymrestru. Fel y gwyddis y mae y Parch. John Williams yn gaplan y fyddin Gymreig, ac yn llanw'r swydd' o Cyrnol. Nid oes weledigaeth eglur hyd yma sut y try pethau gyda golwg ar y Coleg, ai ei gauyn hollol ynte a unir y rfiai fydd yn aros yma ac yn Aberystwyth i gyd-gyfarfod. Mae y nifer helaethaf o fyfyrwyr y Bala: wedi dat- gan eu parodrwydd i wasanaethu ynglfn a'r milwyr, Cynhaliwyd' cyfarfod yn neuadd drefol Llanbedr, Ceredigion, i ddadleu dros gynhil. deb, er rhoi cychwyniad i'r symudiad sirol ymhlaid hyn. Llywyddwyd gan gadeirydd y Cyngor Sir. Y siaradwr cyntaf oedd Mr. Ellis Davies, A.S., ond cyn ei fod wedi cychwyn ymron, cododd rhywun i ofyn pwy oedd' yr aelod dros Eifion yn gynrychioli. Wedi hynny cododd un arall yr un cwestiwn, gan ddadleu mai gwell fuasai i Geredigion gael mynd ym- laen yn ei dull ei hun, fel y trefnwyd. Dyna, hefyd, oedd barn y cyfarfod, a siomedig oedd effaith gweinidogaeth y pregethwr dieithr. Rhaid bod yn fwy gofalus gyda'r mudiad hwn nag y mae'r aelodau Cymreig yn meddwl. Yr wythnos ddiweddaf bu Mr. John Red- mond, y Gwyddel enwog, ar ymweliad a'r milwyr Gwyddelig yn Ffrainc. Cyn dychwel- yd yr oedd trefniadau wedi eu gwneud iddo dalu ymweliad a brenin Belgium. Fodd bynnag, wedi iddo gyrraedd y terfyn, chwil- iwyd ei passport ac oherwydd rhyw ddiffyg gaed ynddo, ni oddefid i Mr. Redmond fyn'd yn ei flaen. Y modd y daethpwyd alla.n o'r anhawster oedd cymryd Mr. Red- mond yn garcharor, a'i anfon i wyddfod, y brenin dan ofal gwarchodlu. E;r mai felly y daeth, cafodd groeso mawr gan y brenin, yr hwn fethodd ymatal rhag wylo wrth i Mr. Redmond ddatgan iddo gydymdeimlad ag ef a'i ddeiliaid yn ninistr iew gwlad. "Hen Gyfaill a ysgrifenna: Chwith iawn fydd gan hen gyfeillion y Milwriad J. L. Davies, glywed fod ei rieni galarus a'i briod hoff wedi cael gair ei fod wedi marw o'i glwyfau, a'i gladdu yn Wesel, yn Prussia. Yng Nghaergrawnt y cyfarfyddais ag ef rai blynyddoedd yn ol, yn llawn gobaith ac yni, yn gorffen ei gwrs athrofaol. Penodwyd ef yn Athro ysgol uwchraddol Caerdydd,—ym- restrodd, priodbdd, aeth allan i'r frwydr, a chlwyfwyd ef ddiwedd Medi. Bu farw fel y bu byw." Mae'n debyg fod gorfodaeth filwrol eisoes mewn grym yng Ngholwyn Bay. Anfonodd y pwyllgor lleol y llythyr canlynol i'r Parch. J. H. Howard: Dear Mr. Howard,—I am desired by the Ward Committee to ask you to be good enough to see the recruiting officer, and be examined and certified, and you can appeal to the local tribunal to be exempted for the present or placed in a later class. I am sorry to trouble you and shall be glad if you wilj confirm. I am, yours sincerely, 3) Dyma ddywed Mr. Howard am y Ilythyr: If the voluntary system does break down at all, I maintain that the chief cause of its failure will be these clumsy and childish attemts, to fore- stall Conscription. Y mae ffermwyr Maldwyn wedi taro ar ffbrdd ragorol i gasglu arian at gynorthwyo Cymdeithas y Groes Goch. Maent yn cynn.il arwerthiant cyhoeddus ar nwyddau ac anifeil- iaid fydd wedi eu rhoddi, ganddynt i'r amcan hwnnw. Yn gyffredin rhydd y prynwr y y pethau fydd' wedi ei brynu yn ol, a gwerthir hwy drachefn, liaws o weithiau. Yn y modd hwn derbyniwyd cymaint a deg punt a thrigain am lo bychan mewn arwerthiant. Mae arwerth fel hyn wedi eu cynnal eisoes yn y Trallwm, Trefaldwyn, Carno, Llanidloes, a Chaersws, ac y mae trefniadau yn cael eu gwneud at hynny mewn lleoedd eraill. Mae amryw filoedd o bunnoedd wedi eu casglu fel hyn,—pob lie yn gwneud am y mwyaf.

/''-PERSONOL.