Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB GORLLEWINOLI CAERFYRDDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB GORLLEWINOL CAERFYRDDIN. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Gwernogle ar y Mawrth a'r Mercher, Awst 2ii a'r 3ydd, pryd y daeth gweinidogion y Cyfundeb yn nghyd yn lluosog, er y pellder lfordd i rai ohonynt. Cafwyd hin ardderchog; a chan fod y cynhauaf gwair ngos ar ben, bu yno ddylifiad pobl lawer, ac nid bychan fu traul a charedigrwydd amaethwyr y gymydogaeth yn anfon eu cerbydau am naw milldir o ffordd i Orsaf Nantgaredig, ac o'r tuarall am chwe' milldir i Orsaf Pencader i gyfarfod y cenadau, a'u hebrwng yn ol a chyda llaw, nid ydym yn anghofio y draul fawr ddisgyna ar weinidogion y Cyfundeb i gyfarfod a'u gilydd yn y cyfar- fodydd hyn ac oni bai y boddhad a fwynha eu calonau, a'r lies a gredant eu bod yn wneyd i'r eglwysi drwy yr ymdrechion hyn, nis gellid dysgwyl am ffyddlondeb gymaint. Tua dau o'r gloch y dydd cyntaf, cyfarfyddwyd mewn Cynadledd dan lywyddiaeth y Parch J. Rogers, Pembre. Gweddiodd y Parch L. Price, Lacharn, a chanwyd emyn. Yna- 1. Darllenodd yr Ysgrifenydd gofoodion y.cyf- arfod o'r blaen, a chadarnhawyd hwynt. 2. Fod y Cyfarfod Chwarterjl nesaf yn nghapel y Priorjy, Caerfyrddin. 3. Fjd y Parch J. Davies, Gwernogle, i breg- ethu yno ar fater o ddewisiad eglwys y Priordy, a'r Parch D. E. W Hiams, Henllan, ar Ddirwest. 4. Ar gynygiad ac eiliad y Pirchn S. Thomas, Elim, a H. T. Jacob, Peniel, pisiwyd ein bod fel Cynadledd yn dymuno llongyfarch ein hanwyl frawd y Pirjh T. E. James, Rbosycaerau gynt, ac yn ddiolchgar i Dduw am ei adferiad fel ag i allu eto bregetbu yr Efengyl fel cynt, ac yn dymuno ei gyflwyno yn barchus i sylw yr eglwysi. Ei gyfarwyddyd yw y Parch T. E. James, Tabernacl- terrace, Caerfyrddin. 5. Hysbysodd y Proff. Keri Evans, M.A., yr iirgreffir braslun o'r cynllun fwriedir ei gynyg i Ysgolion Stbbathol y Cyfundeb er dwyn eu gwaith yn mlaen yn fwy effeithiol etbyn y cyfar- fod nesal, ac yr anbnir ef i'r ysgolion er cael eu barn am dano cyn ei fafcwys'adu. 6. Yn ol yr awgrymiad r)ddwyd yn y cyfarfod blaenorol, dygodd y Parch H. T. Jacob, Peniel, i sylw y Gynadledd yr angenrheidrwydd o ddwyn i sylw eglwysi y Cyfundeb y priodoldeb o iddynt wneyd casgliad byehan blynyddol er talu treuliau eu gweiciiogion i'r Cyfarfodydd Chwarterol. Oymeradwywyd y syniad gan y brodyr Thomas, Llanybri Thomas, Elim Mr Timothy Evans, Esgaerfynwent; Williams, Henllan; y Proff. Evans Morgan, Philadelphia Evans, Penygraig ac ereill ohonom and ni phasiwyd yr un pender- fyniad. Dygir y mater i sylw eto. Dygodd Mr Timothy Evans i sylw y pwysig- rwydd o gael rbyw gynllua er gallu denu ieuenctyd i'r Ysgol Sabbathol. Dilynwyd ef gan Mr Davies, Drefach, a gair gan y Parch P. H. Lewis, A.T.S., Gwyddgrug. Yna cafwyd ymddyddan melus ac adeiladol ar yr achos da yn ein plith gan nifer o'r brodyr, a gorphenwyd drwy weddi gan y Parch P. H. Lewis. Terfynodd y Gynadledd yn rhagorol iawn. T MODDION CYHOEDDUS. Disgynodd ar y Parch J. Davies i gyhoeddi cyfarfodydd vr hwyr hwnw fel v canlvn:— Yn Gwernogle-y Parch H. T. Jacob, Peniel, i ddechreu y ewrdd, a'r Parchn Cadfwlch Davies, St. Clears, a D. E. Williams, Henllan, i bregethu. Yn Llidiardenog-y Parchn S. Thomas, Elim, a D. Thomas, Llanybri. Yn N antyffin-y Parch D. Williams, Aber- gwili. Yn Brechfa (M.C)-y Parchn T. W. Morgan, Philadelphia, a J. Pencader Evans, Penygraig. Amj.0 dranoeth, yn Gwernogle, gweddiodd y Parch J. Rogers, Pembre, a phregethodd y Parchn E. Keri Evans, M.A., Caerfyrddin, a H. T. Jacob, Peniel-y cyntaf ar Ddirwest, a'r ail ar Ysbrydoliaeth y Beibl.' Pregethau rhagorol iawn. Am 2, gweddiodd y Parch D. Curwen Davies, Pontargothi, a phregethodd y Parch L. Price, Lacharn, a P. Davies, Pant-teg. Am 6, gweddiodd y Parchn L Price, a phreg- ethodd y Parchn J. Rogers, Pembre, a W. C. I Jenkins, Cydweli. Teimlem ni a'r werin o wrandawyr yn gy- ffredinol i ni gael cyfarfodydd rhagorol iawn. Cafwyd gan y brodyr bregethau galluog a dy- lanwadol, a thrwyddynt naws ysbrydol hyfryd. Er fod gwres haul natur bron a'n lluddedu, yr oedd gwres Haul mawr y Cyfiawnder yn peri i ni deimlo yn hyfryd iawn drwy y cyfarfodydd. Yr oedd y Parch J. Davies, y gweinidog anwyl, yn trefnu yn ddoeth, didrafferth, a di- ymhongar. Pasiwyd perderfyniadau o ddio lehgarweh cynes i'r Parchn Proff. E. Keri Evans, M.A., a H. T. Jacob, Peniel, am eu pregethau rhagorol ar y pynciau, a dymuniad am eu gweled yn argrafl'edig yn y modd y gwelont hwy oreu. Hefyd ddiolcbgarwch cynes i'r Parch J. Davies a'r eglwys yn y lie am eu darpariaeth helaeth a'u croesaw mawr i'r cyfarfodydd. Hyderw41 i'r cyfarfodydd adael argraff dda mewn dyddanwch i'r saint, a chynaliaeth a chysur i,ii hanwyl frawd Mr Davies. Da oedd genym weled y Parchn P. H. Lewis, G-vyddgrug, a T. T. Davies, Rhydybont, wedi talu ymweliad a'n cyfarfodydd, heblaw rhai myfyrwyr. Boed bendith ar y dyrfa fawr ddaeth yn nghyd. Cydweli. W. C. JENKINS.

LIBANUS, EBBW VALE.