Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

FERN DALE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FERN DALE. Gwyliaur Nadolig. — Y mae ysbryd y Diwygiad wedi newid miloedd o ddynion y dyddiau diweddaf. Y maent hwythau mewn canlyniad wedi newid eu harferion. Treuliodd ilawer eu gwyli-au Nadolig eleni yn wahanol iawn i'r hyn a arferent. Bu Nadolig yn Nadolig llawen i lawer eleni, na bu iddynt felly er's blynyddau. Mae y cyfnewidiad ya aoilwg, a hyny er gwell; ac eto, ceir dynion yu ddigon hyf a beiddgar i feio a beirniadu y Diwygiad. Tawed y rhai hyny sydd ar enw crefydd fodd bynag rhag cywilydi wyueb iddynt rhag beio a beirniadu gwaith yr Ysbryd G Ian, a bod yn euog o roddi dim yn ynfyd yn erbyn yr Arglwydd. Yma eleui cynaliwyd cyfarfodydd gweddi undebol ar y Llun, Mawrth, a Mercher y Nadolig. Cafwyd cyfarfodydd nad arighofir yn fuan. Mae y byd yn dechreu d'od i'w le Arferai eglwys Trerhondda gynal Eisteddfod bob Nadolig er's llawer blwyddyn. Eleni caf- wyd cyfnewidiad, a hwaw er gwell. Ymgy- merodd y cor; o dan arweinyddiaeth Mr David Williams, arweinydd canu Trerhondda, ag actio Joseph a'i Frodyr, prydnawn a nos Lun, yn y Tudor Hall. Yr oedd yr adeilad wedi ei ei orlenwi, a phawb yn llygaid a chlustiau. Cafwyd boddlonrwydd mawr. Yr oedd y gerdJoriaeth yn dda neillduol. Efallai y gallai y geirio fod yn fwy eglur mewn manau. Am yr actio, yr oedd mor naturiol ag oedd bosibl, a'r oil yn dangos talent a llafur. Teimlad pawb oedd eu bod wedi cael gwledd yn feddyliol, moesol, a clirefy ddol. Gwelwyd llawer grudd yn wlyb gan ddagrau, a dios ei fod wedi medd- alhau llaweivctlon gyda'r Diwygiad. Y mae y cor yn deilwng o ganmoliaeth am ddarparu y fath arlwy. Dyma un o'r p-.thau I gwyd yr hen wlad yn ei h,)I.' PBESWYLYDD.

----_------MERTHYR VALE.

DYFFRYN Y WYOMING, PA.

CYDNABYDDIAETH DDIOLCHGAR.…

Y PARCH T. D. JONES, BODRINGALLT.…

DIOLCHGARWOH.

Y DIWYGIAD.