Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
EIN TELERATJ A'N DOSBARTHWYR.
EIN TELERATJ A'N DOSBARTHWYR. Anfonir 4,8,12, yn ddifrraul trwy y post, gan ycyhoedd- wyr, i unrhyw le yn ol Ceiniog yr un. Byddw-n yn dra diolchgar i'n hoU Ddosbarthwyr sydd yn derbyn eu sypynau trwy y Post, am drefnu eu ~karchebion yn y modd mwyaf digoUed. Gellir anfon 4 am geiniog, 8 am ddwy geiniog, 12 am dair ceiniog, ac felly yn mlaen; ond y nsae pob rhifedi cyd-rhwng y nifer uchod yn draul ychwanegol i'w hanfon. Ychydig o ymdrech o du ein cyfeillion a godai y 5 i 8, a'r 9 i r 12. Yr ydym am anfon y sypynau hyd y gellir gyda'r Rail, oblegid ei bod gymmaint yn rhatach; ac yrydym yn cael ein dosbarthwyr yn mlwb man yn garedig iawn yn ein cynnorthwyo i berffeithio ein trefniadau. tj Fob archebion (orders) i'w hanfon, a phob arian i'w gwned yn daladwy i RET. H. E. THOMAS, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool. G;7 Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r Dosbartliwyr ffyddlawn sydd wedi anfon y tai yn llawn ddiwedd y chwarter. Talodd amryw yn rheolaidd ar ddiwedd pob mis. Dyna a hoffem, yn o'r lleoedd y mae niter fawr yn myned. OND YR YDYM XX DISGWYL I BAWB LWTB WASTADHAT7 EU CYSRIFOH- XB DDIWEDD x CHWARTER. Cofiwch y rhai sydd ar ol yn hyn, fel na byddo raid i ddyweyd ond unwaith. Yr ydym yn ail ddiolch i'rlliaws ffydclloniaid. ow Y mae amryw wedi anfon atom i ofyn ein telerau. Yr eeddym yn tybied fod hyny yn ddigon eglur ar bob rhifyn; ond er mwyn gwneud y peth mor ainlwg fel na ellir camsymed. DAHER SYLW :— Anfonir 1 rhifyn gyda'r Post am chwarter (13 wythnes) am 2s. 2e. Anfonir 4 rhifyn am 4s. 4c. 8 rhifyn am 8s. Am 12 rhifyn, ae uwch law hyny, rhoddir 2g. y swllt am Pdosbarthu. Nis gallwn ganiatau ychwaneg o elw, A'U lUN- I Tow TRWY Y POST. Caniateir y Postage wrth anfon yr arian C'r swm. Ymdreched ein eyfeillien godi y derbynwyr i 12 ac uchod bob wythnos, ac yna bydd rhywbeth iddynt am eu tra- ffertfe, Er arbed pob camgvmmeriad, dymunir na byddo yr archebion yn cael eu gyru i'r argraphydd, ond yn ol y cyfarwyddvd i-Rev. II. E. Thomas, 19 Chapel Walks South Castle Street, Liverpool.
TELERAU AM HYSBYSIADAU.
TELERAU AM HYSBYSIADAU. Chive' llinell a than hyny Is. 6c. y tro. Am bob llinell ychwanegol 3c. lfysbysiadau am chwarter blwyddyn a throsodd, am brisiau llawer is. Dalier Sylw.—Cyhoeddir Hysbysiadau am Gyfarfod ydd Pregethn, a Chymmanfaoedd, a Chymmanfa- oedd yr Ysgolion Sabbathol, a Chylchwyliau Dir- westol, a phob peth cyssylltiedig a chrefydd a moesoldeb am bris llawer is na hysbysiadau yn gyff rcdinol.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Derbyniwyd yr ysgrifau caiilynol:-CAn ar Bed war Tymmor y FlwyddyH, Y Ddwy Geiniog,' Cwm-morgan, Dedwyddwch, Brawdgarwch, Bavddoniaeth gan Mabonwysou, ac Ystrad Rhondda. JOlIN THOMAS.—Ymddangoaodd banes y gymmanfa yn y TTSI CYMREIG. DADGYSSYLLTIAD YR EGLWYS ODDI WRTlI Y LDYWODR- AETH.—Cyhoeddasom hanes y cyfarfod yn ein rliifyn diweddaf. Ux o'x GYNNULMSIDFA.—Gwell fyddai i chwi ymddyddan ar sut wyneb yD wyneb. NEBITAS.—Os ydyw yn Wrpasol, cyhoeddwn hi. J. J.—Yr oedd eich ysgrif gyntaf wedi ei chyssodi cyn i'r ail idyfod i law. Os bernwch y bydd yr ail o ryw wasanaeth i chwi eto, anfonwii hi i chwi. JOlIN REEs.-Anfonasom eieh nodyn at y g\Vr parchus y cyfeiriwch v gofyniad. W. ROBE HTS.—Codwyd yr hanes o newyddiadur arall. Mae yn Uawen iawn genym wybod fod CEEE'DDYNPAB yn fyw. Dnvg iawn genym i ni gael ein oamarwain. Hir oes i'r lienor clodwiw. CWMWYSG A THRECASTELL.-Gan nad oedd Cyfeiliornadau damniol' yn yr adroddiad a gyhoeddwyd, gwell fyddai gadael lionydd bellaeh i'r mater. DAVID DA VIES.—OS gwnaeth y Llytliyrati y cyfeiriwchatynt gymmaint o ddaioni, gallem feddwl y byddai yn hawdd iawn i chwi eu cael gan rywun yn eich ardal. „ Dymuna Caradog, Casllwchwr, gael atebiad i'r gofyniadau usillynol .-I. Yn mha flwyddvn o oed Crist y eyssegrwyd Linus, ail fab Caradog, gan St. Paul yn Esgob Klmfam? 2. In mha flwyddyri c oed Crist y merthyrwyd St. Paul a St. Pedr, yn Rhufain: ac jrn mha le y claddwyd St. Paul ?
f * yUn\O'ø. --
f yUn\O'ø. Dychwelodd y Frenhines o Balmoral i Wind- sor dydd Sadwrn. Cymerwyd gofal anarferol er gwneud y daith hyd y gledrffordd yn ddiogel. Yn gyntaf, trefnwyd petbau yn y fath fodd ag i 0 alluogi ei Mawrhydi i fyned trwy y rhan fwyaf O'r daith liw dydd. Cychwynai y train yn ddi- wedclar nos AVener, a cliyrhaeddodd ben y daith tua machlud haul prydnawn y Sadwrn. Cad- wyd gwyliadwriaeth fanol ar y ffordd o Balmoral i Windsor, a chadwyd allan ddieithriaid o'r gor- safoedd yn y rhai yr arosai y train. Ychydig o flaen y train brenhinol rhedai agcrbeiriant, er profi yn sicr fod y ffordd yn ddiogel. Y mae genym bellach awdurdod i hysbysu yr agorir y Senedd dydd Mawrth, y 19eg cyfisol- felly y cyhoeddwyd yn y London Gazette pryd- nawn y Llun. Dywed yr un newyddiadur fod pcthau pwysig yn galw am sylw ac ystyriaeth y Senedd yn ddioed. Rhyfelgyrch Abyssinia, Ily fedclyliem, ydyw un o'r pethau pwysig hyny. Pa beth bynag a ddaw o'r helynt filwrol yn Abyssinia, gellid meddwl y bydd genym lawer helaethach a chywirach gwybodaeth o'r wlad hono yn fuan, canys y mae boneddigion nodedig ar gyfl-if e-li cyfarwydd-dor a gwahonol ganghen- au gwybodaeth yn myned gyda y fyddin, sef Mr Markham, o'r India House, (daearyddwr); Mr Dentsch, o'r British Museum, (henafiaeth- ydd); yn ughyda llysieuydd enwog o Bombay. Ar y trydydd cyfisol bu farw Mr Edward James, yn Paris. Yr oedd y boneddwr hwn yn Queen's Counsel, yn gyfreithiwr cyffredinol dros swydd Laiicuster, yn assessor y Liverpool Court of. Passage, ac yn aelod seneddol dros Fanches- ter. Etholwyd ef yn aelod dros y dclinas hono yn Gorplionaf, 1885, trwy ymraniad yn ngwer- sy] I y Ehyddfrydwyr. AnfFawd i Fan Chester fydd cael ei thaflu i gyffroad gan etholiad ar hyn o bryd, pan y mae cryn anesmwythder yn y drcf yn aclios y Pfeniaid. Ñfae prawf y Ffeniaid yn Manchester yn par- hau, ac yn ol yr arwyddion presenol ni ddaw i ben tan yr wythnos nesaf. Gafwyd y pump a brofwyd gyntaf, yn euog o lofruddiaeth Sergeant Brett. Cyn i'r barnwr gyhoeddi y ddedfryd, rhoddwyd y caniatad arferol i'r carcharorion lefaru drostynt eu hunain. Dywedent fod cam- dystiolaethau wedi eu dwyn yn eu herbyn, eu bod mor alarus a neb am lofruddiaeth Brett, eu bod yn ddieuog, fod ganddynt gydwybodau tawel, eu bod yn marw yn ferthyron dros eu gwlad ac yn gymysg a'r pethau hyn cyhoedd- ent y melldithion Gwyddelig arferol yn erbyn Llywodraeth Lloegr. Dywedai y barnwr yn glir wrth gyhoeddi y ddedryd nad oedd un sail gan- ddynt i obeithio am bardwn. Dydd Llun, dyg- wyd General Firiola ger bron y Ilys yn Dublin. Yr oedd y gwr hwn i gymeryd rhan amlwg yn "nghodiad y Ffeniaid," fel y dywedir. Daliwyd ef rai wythnosau yn ol yn Llundain. Cvfaddef- odd ei fod yn euog. Flat iawn oedd masnach yn Llundain ddechreu yr wythnos. Ofnid yn fawr y byddai i ryfel dori allan rhwng Ffrainc ac Itali. Nid oes galon i anturio hyd nes gweled yr awyr o amgylch Rhufain yn clirio. Disgynodd pris y gwenith oy dydd Llun, swllt am ddau yn y chwarter. Nid oedd yno (yn Llundain) ryw lawer o wenith gartref, ond yr oedd yno gyflawnder o wenith tramor. Dywedir fod cyflawnder yn San Fran- cisco, a bydd swm mawr o hono yn fuan yn marchnadoedd y deyrnas hon. Tywyll iawn yw hi o hyd tua Rhufain. Nid oes un dewin a all ddyfalu pa beth a ddigwydd mewn diwrnod. Pan welodd Napoleon fod Rhufain mewn perygl, anfonodd ei filwyr tuag yno; a phan welodd Brenhin Itali hyny, yntau hefyd a anfonodd ei filwyr i diriogaethau y Pab, gan ystyried fod ganddo hawl i gyd-ymyryd a Napoleon. Ond y mae Llywodraeth Ffrainc, hyny yw ei gyfnither, wedi ffromi yn aruthr. Nis gall Napoleon oddef i Itali feddwl a gweith- redu drosti ei hun. Prin y gall faddeu iddi am dybio fod ganddi hawl i wneud y fath beth. Meiddiwyd Napoleon gan Bismark,—mae hyny yn aros "fel bustl ar ei afu;" a chan na faidd drawo gallu cryf, y mae am dywallt ei lid ar allu gwan. Mae hanes gormes trwy yr oesau yn profi ei bod yn dwyn ganddi ei chosbedig- aeth. Bu y Babaeth yn graig rhwystr i Nap- oleon yr Ewythr, ac ni ryfeddem pe byddai i'r Babaeth fod yn achlysur dinystr Napoleon y Nai. ——- —nrnm mi
ITALI, FFRAINC, GARIBALDI.
ITALI, FFRAINC, GARIBALDI. Cymylog, tywyll, du, a bygythiol iawn ydyw awyr wladwriaethol Itali, ac yn fwy felly nac erioed y dyddiau hyn. Llengoedd Ffrainc yn Rhufain, a llengoedd eraill yn dilyn ar eu holau bob dydd. Llywodraeth Victor Emanuel o'r diwedd wedi anfon ei byddin hithau i diriogaethau y Pab-llywodraetb Louis Napoleon yn chwyrnu'n ffyrnig arni am hyny; hithau yn amddiffyn ei hun yn gryf, a bron yn heriadol yn ei thon, fel y mae y ddwy lywodraeth megis a'u dyrnau yn nannedd eu gilydd. Garibaldi wedi gwrthod gwrando ar gais y llywodraeth i dynu yn ol, ac yn cadarnhau ei hun yn Monte Rotundo. Mazzini wedi anfon cyhoeddiad allan, mewn geiriau o dan byw, i alw Itali i godi ar unwaith fel un gwr, i ymlid yr estroniaid sarhaus o Rufain ac o'r wlad ac os gwithyd llywodraeth y brenin gymeryd yr achos yn ei llaw, am iddynt eu bwrw hi a'i brenhili ymaith oddiar y ffordd, a chymeryd yr achos i'w dwylaw eu hunaia. Yn awr neu byth yw ei arwyddair. Ni feddyliodd Napoleon ddiin amgen na buasai presenoldeb ei filwyr ef yn Rhufain yn ddigon i beri i holl wrthwynebwyr ei ewyllys dynu eu cyrn atynt. Ychjdig a feddyliodd y buasai Victor Emanuel yn beiddio anfon ei fyddin i'r tiriogaethau pabaidd heb ei genad-, ac yn groes i'w ewyllys ef; ac ni allai gelu ei syndod a'i siomedigaeth ar yr achlysur. Y mae yn gyfyng arno o'r ddeutu, pa un ai gyru yn mlaen ar y llwybr a gychwynodd, ynte tynu yn ol a wna. Y mae ei berygl yn fawr beth bynag a wna. Os gyru yn mlaen a chyhoeddi rhyfel yn erbyn Itali, y mae perygl dinystr a cholledigaeth yn bylldreimu arno ff ordd liono; os tynu yn ol, nid oes yn ei aros ond gwarth a pherygl dinystr a choll- edigaeth i'w enw a'i awdurdod y ffordd hono. Y mae ei afhvydd yn Mexico wedi mwy na banner ei andwyo eisoes, ac y mae Bismark wedi tori llawer ar ei grib wedi hyny ac y mae hwnw eto fel Hew mawr ar y ffordd. Efe (Bismark) ydyw meistr y sefyllia yn bresenol. Ysgrvfenwyd yr uchod neitlr.wr. Bore heddyw (dydd Mawrth) dyoia y newydd gofidus fod byddin y Pab, yn cael ei chynnorfchwyo gan adran o fyddin Ffrainc, wedi ymosod ar Garibaldi yn Monte Rotun- do, ac wedi brwydr ofnadwy, llwyddasant i'w ovthrechu, acbraidd anmhosibl oedd iddi ddigwyddo yn amgen, canys pa fodd y galiai grym byeban o filwyr gwirfoddol. diffygiol mcwn arfau ac adnoddau milwrol, wrthsefyll byddin o filwyr dysgybledig, a phob offerynau a pheirianau a darpariadau rhyfel ganddynt. Enciliodd Garibaldi o diriogaethau y Pab ar ol y frwydr, a rhoddodd ei hun yn nwylaw swyddogion y fyddin Italaidd, ac y mae weithion yn garcharor dan ofal ei gyfeillion. Pa beth nesaf? Beth a fydd y foru? Nid oes neb a wyr hesldyw. Y mae pob dydd yn awr yn esgor ar ryw newydd pwysig neu gilydd, ac y mae y newyddion pwysicaf eto yn ol. DYDD MERCHER. Wel, dyma y foru wedi dyfod yn heddyw, a'r prif newydd heddyw yw, fod byddin Itali yn cael ei galw adref o diriogaethau y Pab, a byddin Ffrainc i ym- adael o Rufain i Civitta Vecha, a chynnadledd o'r galluoedd Ewropaidd i gael ei galw i eistedd mewn barn ar gyflwr y Babaeth. Druain o honynt! Gallant roddi 'triagl i'w dolur hi,' ond nid a. hi yn iach. Na, na, nid oes digon o driagl yn Ewrop i'w hiachau hi. Gwnaeth Garibaldi ei waith yn effeith- iol, a da genym nad aeth ei fywyd yn aberth i'w anturiaeth orchestol. Aeth tua Rhufain i chwilio am farwolaeth, yn y gred os buasai iddo gwympo ar y maes y buasai hyny yn foddion i brysuro gwaredigaeth Rhufain, a llwyr ddilead y Babaeth ond gofalodd rhagluniaeth am dano. Y mae yr amcan oedd ganddo ef mewn golwg yn mron wedi ei gwblhau, er gwaethaf Napoleon. Hir oes i Gari- baldi i weled a mwynhau ffrwyth ei lafur.
JEFFEREY AC YMBORTH RIIAD.
JEFFEREY AC YMBORTH RIIAD. Y mae pris uchel: y cig a'r bara yn gwasgu yn drwm ar deuluoedd gweithwyr trwy y deyrnas, ac y mae terfysg pwysig wedi cymmeryd lie yn Exeter o'r achos, fel y gorfu i'r awdurdodau alw y milwyr allan. Cwynir yn dost am y drudaniaeth yn Liver- pool a Birkenhead. Y mae pris cig gweddar o 8c. i !)c. y pwys, a chig eidion o 9c. i 10c. y pwys, ac y mae y pobwyr yn codi 10c am dorth 4 pwys, yr hon nad oedd ychydig Wythnosau yn ol ond 6c. Nos Sadwrn diweddaf, gwnaed prawf gan gigydd yn Low Hill i werthu am brisia mwy cymmedrol, a gwerth- odd lawer eLm 6c i 7c y pwys. Fel yr ymdaenai y newydd am y gostyngiad, ymgasglodd prynwyr i'r lie nes llenwi yr heol. Agorwyd dwy siop arall yn Vauxhall-road ddydd Mawrth, a gwerthid y cig am y prisiau a nodwyd, a dywedid fod Mr Jefferey o Compton House wedi agor siop yn Homer St., lie y gwerthid beef a mutton am 4c i 6c y pwys. Yr oedd y fath dorf wedi ymgasglu oddeutu y lie, fel y cai y cerbydau waith fyned yn mlaen ar hyd yr heol. Yr oedd yno gyflawnder o gig yn y lie, a chwech o ddynion wrthi yn tori eu goreu ar hyd y dydd. Dywedir fod hyn wedi effeithio cymmaint ar y cigyddion yn y gymmydogaeth fel y maent wedi penderfynu gostwng y prisiau. Y mae si fod Mr. Jefferey yn bwriadu agor pedair ar hugain o shopau cig a'r nifer o shopau bara yn y rhanau tlotaf o'r dref. Os gwna hyn, bydd raid i eraill ddilyn ei es- iampl neu golli eu costwm. Dywed rhai ei fod yn cynhyg gwerthu am brisiau is nag y gellir prynu yn marchnad Stanley, os felly, nid oes disgwyl iddo barhau yn hir. Khvrydd hynt iddo, a chlod calon iddo, wneud ei oreu i dd'od a'r prisiau i lawr i gyfar- fod ag amgylcliiadau cannoedd o weithwyr a'u teulu- oedd a ddyoddefant eisiau bara os na wneir rhyw- beth y gauaf hyn. Nid oes terfyn ar gribddeiliaeth rhai dynion. Oni fyddai modd i'r gweithwyr yn eu plith eu hunain drefnu rhyw gynllun i gael eu hym- borth yn rhatach.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. Traddodwyd darlith gampus gan y Parch J. Baldwin Brown, o Lundain, yn y Liverpool College, Shaw-street, nos Fawrth diweddaf, ar'Babel, Babi- lon a Rhufain Babaidd.' Cadwodd gyferbyniad manwl rhwng y tri gallu. Dadleuai mai yr un egwyddor oedd ynddynt, sef gwrthwynebu y Lyw- odraeth Ddwyfol ar y byd. Fel yr oedd Babel a Babilon yn ceisio codi Ilywodraeth ar yr holl bobl- oedd ar wahan oddiwrtli gymhorth, cyfarwyddyd. a bendith Duw felly yr oedd Rhufain Babaidd am ga.el llywodraeth hollol ddi-Grist—difeddianid ef y hollol o'i briodoleddau cyfryngol. Dadleuai yn gryf y byddai i Rhufain Babaidd gael ei din- ystrio, fel y cafodd Babel a Babilon. Curid dwy- law yn wresog pan y cyfeiriodd at Garibaldi, a phan y dywedodd, Gwir fod Garibaldi wedi ci ddal, ond nid cyn iddo wneyd ei waith—efe yw'r gwron sydd wedi dinystrio gallu tymhorol y Pab,' Gallasem feddwl na, pheidiasid a churo dwylaw. Yr un noson, yn nghapel Bethlehem, Netherfield Road, traddododd y Parch J. Roberts (leuan Gwylit), ddarlith ar Gerddoriaeth Grefyddol.' Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Hughes. Wedi ychydig sylwadau pwrpasol ar y pwts o feithrin cerddoriaeth grefyddol gan y cadeirydd, y Parch Owen Thomas, galwodd ar y dariithydd at ei waith, yr hwn a ranodd ei ddarlith yn dri rhan— pwy ddylai ganu? Pa beth ddylid canu? a Pha fodd y dylid canu? Yn ystod y cyfarfod, canwyd amryw ddarnau o'r Llyfr Toioau Cynulleidfael gan y gytmlleidfa. Cafwyd cyfarfod da, ond cynulleidfa deneu. Wed y diolchiadau arferol, diweddodd y eadeirydd trwy weddi, ac aeth pawb i w ffordd. Bu Mnrphy a Houston yn anerch yr Orangemen, yn y Workman's Hall, Birkenhead, yr un noson. Nis gallent aros yn hir, trwy eu bod yn dychwelyd i ran o Swydd Lancaster. Adroddent eu he:ynt yn Bolton, lie y cawsant, bob amharch, ond ni fynent eu gorchiygu. Yr oeddynt am gael adeiladu pabell, yr ;JOB a jdlent symud o le i le. Ddydcl Sadwrn nesaf. yr oedd haner call mil oBrotest-ahaid yn xnyned i gcrdded. yn oryrndaith gydag ef yn Blackburn. Con- demlliai yn fawr y Bull oedd yr Oranvemenyn myned i gyidial ar ol.
CYMDEITHAS RIIYDDHAD CHEFYDD.
CYMDEITHAS RIIYDDHAD CHEFYDD. CynhaUwyd cyfarfod dyddorol mewn cyssylltiad a/f oyindeitha'-i Hcuod, yn Liysdy y Sir, Bala; nos Fawrtli, Hydref 29. 0. RIchards, Ysw.,M D., yn y gadair, NVdjii. vohydig sylw;adau gan eadeirydd yn iSaesneg, ar dilyledswydd dynion cyhoeddus i lileidio y symudiadau, dywedod y Pareh. J. Peters ychydig eiriau ar Jwyddiant y gymdeit-has jny gor- phenol a'i vliagolygon yn y dyfodol. Yna sylwodd y Par.:h. T. Thomas (B) mai nid yn erbyn persoriau yr oedd y gymdeirhas yn gweithio, oud yu erbyn gau egwydclorion. Eglurai y I'arell. 1\1. V. Jones pa faes mawr ac eang a feddienid gan y gyindeithas. Nid yw yn ymosod mewn un modd ar yr eglwys es- gobaethi d, ond ar undeb unrhyw eglwys, boed hi Henaduriaethol, Esgobaethol, Pabyddol, neu Faho- metanaidd, A'r llywodraeth wladol. Yna cyfododd 1 dirprwywr y Gymdeithas-y Parch. D. M. Davies, Llanfyllin-ac mewn araeth addysgiadol o tuag awr o hyd, esboniodd yn eglur safle y gymdeithas a'r gwaith sydd ganddi i'w gyflawni. Profodd i ddech- reu fod pob math o undeb rhwng Crefydd a Gwlad- wriaeth wedi tori allan yx fethiant. Tri math o undeb sydd yn bossibl, ac y mae pob un o honynt wedi ei bron a'i gael nid yn unig yn brin ond yn niweidiol. Y cyntaf oedd y Pabyddol, a sefydlwyd gan Cystenyn Fawr yn y bedwaredd ganrif. Gesyd hwn yr eglwys uwchlaw y llywodraeth, a gorfoda frenhinoedd a theyrnasoedd i ymostwng i'r Pab. Profodd hwn yn fethiant, ar ol canrifoedd o ormes yn y diwygiad mawr Protestanaidd, a gychwynwyd gan Luther yn y bymthegfed ganrif. Yr ail fath o undeb yw yr un Presbyteraidd, yr hwn sydd yn gol- ygu gosod y ddau allu—yr eglwysig a'r gwladwr- iaethol yn ogyfuweh. Sefydlwyd hwn gyntaf yn Geneva gan Calfin a'i gydlafurwyr gweithgar yn fuan ar ol cwymp y cyntaf, a dygwyd ef drosodd i Scotland gan yr enwog John Knox. Ni phrofodd hwn mor orthrymus a chrenlawn a'r cyntaf, ond dangoswyd ei fod yn anymarferol yn ymraniadau mawr ion yr Henaduriaeth Ysgotaidd. Y mae yr oes bresenol'yn eofio. ymneilldtiad Chalmers a 500 o weinidogion i'r eglwys Bresbyteraidd a I sefydliad yr Eglwys Rydd, am tod y llywodraeth, gan ei bod yn ei estyn dros yr eglwys, ac yn sisrhau iddi y degym- au a'r gwaddoliadau yn hawlio rhan yn llywodraeth- iad materion mewnol yr eglwys. Y trydydd math o undeb yw yr un Erastiaidd, yr hwn sydd yn gosod y gallu gwladol uwchlaw yr un eglwysig, a'r hwn sydd yn digwydd bod yn Lloegr rhwng yr eglwys esgobyddol,a llywodraeth y wlad. Yr unig drefn ddichonadwy bellach yw gadael y ddau allu ar wahan, ac at Ihyny,- y mae gymdeitbas hon yn cyfeirio ei gweithrediadau. Cwyna rhai ei bod yn hir iawn yn cyrhaedd ei hamcan. Y gwir ydyw ei bod yn llwyddo yn gyflym. Nid yw ei hymdrechiadau ddim ond pnrhad o waith y tadau ganrifoedd yn ol. Buwyd gan mlynedd yn cael deddf goddefiad, a chan mlynedd arall yn gosod y ddeddf hono mewn grym, a'r peth yr amcenir. ato yn awr yw cydraddoldeb crefyddol ac er fod y gymdeithas wedi ei sefydlu er ys tua 25 mlynedd y mac yn siwr o I wyddo yn y pen draw. Y mae eisioes wedi llwyddo yn rhyfeddol. Teimlir ei dylanwad yn y Senedd mewn cyssylltiad a'r dreth eglwys, Prifysgolion ac ysgolion grammad- egol gwaddoledig ein gwlad. Eisteddodd yn nghanol cymmeradwyaeth wresog y gynnulleidfa. Sylwodd Mr Simon Jones ar y cynhwrf a'r ymladdfeydd mewnol sydd yn yr eglwys, ac fod hyny yn rhwym o beri ei dymehweliad. Dywedodd Mr G. Jones, Banker, y dylid pleidio y gymdeithas am fod geir- wiredd yn sylfaen iddi, ac wrth gynyg diolchgarwch i'r ddirprwy, dywedodd Dr Hughes fod angen gallu adferiadol ar bob cymdeitnas, ac y dylai gwelliantau gael eu dwyn oddiamgylch yn yr eglwys onide ei bod yn rhwym o ddirywio. Wedi talu diolchgarwch i'r eadeirydd, ac ychydig eiriau gan y ddirprwy, ym- wahanwyd gan obeithio cael cyfarfod cyffelyb yn fuan eto.—Anghyclffurfiwr. Hefyd, nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod cymdeithas Rhyddhad Crefydd, yn Nolgellau, C. R. Jones, Ysw., Llanfyllin, yn y gadair. Areithiodd y Parchn. Mr Davies (B), sir Benfro; M. D. Jones, Bala; Mr, Evans (M.C.), Dolgellau; a D. M. Davies, Llanfyllin cynnrychiolydd y Gymdeithas. Cafwyd cyfarfod da. iawn, ond yr oedd Iluaws o Annibynwyr a Method- istiaid yn guddiedig rhag ofn yr Iuddewon. Beth wneir i'r bobl wlanenaidd, lasdwraidd, sydd yn ofni cysgod ?-Gohebydd.
CYMER PONTYPRIDD.
CYMER PONTYPRIDD. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y lie hwn, y dydd olaf o'r mis diweddaf. Yr oedd yn bresenol amrai weinidogion. Rhai o Fynwy, a Morganwg, Am haner awr wedi un o'r gloch, cyfarfu y g weinid- ogion, ac amryw ddiaconiaid, ac aelodau dylanwadol eraill, i gymmeryd at ystyriaeth y cynllun goreu i gasgln at golegdy newydd Aberhonddu. Wedi galw D. E. Williams, Ysw., Hirwaen, i'r gadair, ac iddo osod yr achos ger bron mewn annerchiadbyraphwr- pasol. Hysbysodd Mr Williams, gweinidog Nebo, Hirwaen, fod cyfundeb dwyreiniol Morganwg wedi ei rhanu yn bump dosparth, a bod Pontypridd, hyd flaen cwm yr Ystrad, yn ddosparth. Siaradwyd yn galonog ar yr achos gan y Parchedigion H. Punton, L. Prebert, Bodringallt, a Mr. James, or un lie. Yr oed dent yn teimlo yn hyderus na fuasai eglwysi Pontypridd a'r Ystrad yn ail i neb yn ol eu gallu i dalu am y colegdy newydd. Penderfynwyd ar Mr. Idris Williams yn ysgrifenydd, i alw y cyfeillion ynghyd. Mae y colegdy newydd yn myned i fyny yn rhwydd a chyflym. Mae genym yebydig gyfeillion wedi rhoddi cymmaint o ymddiried ynom fel en wad, nes rhoddieu henwau yn gyfrifol i'r contractor drosom am filoedd o bunnau. Nid wyf yn cofio i ni erioed fethu dal i fynu a dwyn yn mlaen ein sefydliadatt cyhoeddus, pan yn taro wrthi gyda ein gilydd. 'Nawr frodyr, a chwiorydd hofyd, o Gaergybi i Gaer- dydd, ac o Feny i Ilwlffordd. Rhuddwn arian yn 01 ein gallu i dalu am y colegdy newydd. Yna gallwn ddyweyd fod genym un colegdy cytieus yn y dywysogaeth. NEBO HIKWAEN.
EBENEZER A'I HAMGYLCHOEDD.
EBENEZER A'I HAMGYLCHOEDD. Yr oedd dydd Gwener, Hyd. 25ain, yn ddiwrnod olawenidd mawr yma, ar yr achlysur o briodas Owen Parry, Ysw., Blue Perris, un o ornchwylwyr chwarel Dinorwic, ac Annie, merch Isaac Williams, Ysw., Fronheulog, Llangollen. Yn dra boreu gwelid y baneri yn chwiiio yn yr awelon allan o'i- ffenestri, oddiar benau y tai, ac ochrau y clogwyni a'r moel- ydd. Rhyw awr cyn haner dydd, dechreuodd y cyf, legrau daranu nes oedd creigiau y wlad yn dias- pedain. Gollyngid allan ddeg-ar-hugaiu o ergydion neu ychwaneg, y naill ar ol y llall o fewn ciliad neu ddwy. Cymerai y saetliu le bob haner awr, nuu dri chwarter. byd nes t.aenodd y nos ei mantel) dywell dros y byd." Digwyddem fod yn y ffenestr yu amser gollyngiad allan y round ddiweddaf, a gwelem y graig fel Hen o dan o'n blaen—grand sight, a'r swn yn fyddarol. RhagHaenid a dilymd taranau y cyf- legrau yn ami gan hwre' iachus y dynion a'r plant. Gweithwyr y melinau llechi ysgrifenu y gymydog- aeth oedd prif ddwylaw y chwareu uchod. Yn y prydnawn bu plant Ysgolion Brytanaidd • Deiniolen a Dinorwic yn cerdded allan, y yn cael eu harwain gan brass band y He, a'r olaf gan brass band Llanrug. Cafodd pob plentyn afal, oiangey a bun, a'r gwragedd gweddwon chwarter pwys o bob un. Goleuwyd ffenestri y tai, a gwnued ar- ddangosiad o dan gwyllt (fire ivorks). Bit ondeutn. tri ugain yn cyfranogi o swper yn yr ysgolMy Bry- tanaidd. Deallwn iddynt dreuho y nos yn dn. llawen wrth Has y gwin. Yr oedd rh.ywb:'th yn rhy betlima yn nglyn a'r wledd hon 'wel tas;" i fodd- loni yr ardalwyr ar y fath achlysur. Nos dydd Mercher, Hyd. 30ain, dycliwel&i Mr Parry a'i" briod i Bine Perris. Er hynodiy diwrnod, ac hyrwyddo ac arddangos llawenydd, rboddwyd'te i Want yr Ysgol Genedlaethol. Bu yr Ebenezoriaid ar eu goreu yn gwychu ac yn harddu eu tref ar gyfer eu croeaawiad gartref. Yr oedd amryw arches 1 godidog a hardd wedi eu codi o ddail i blodau, ac arwyddeiriau arnynt, megis Hir oes lr a Mrs Parry,' &c. Yr oedd lampau goleuedig