Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYMDEITHAS DADGYSYLLTIAD YR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEITHAS DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS ODDI vVHTH Y LLYWODRAETH. Cynhaliwyd cyfarfod er dadleu egwyddorion y gymdeithas uchod 1103 lau diweddaf, yn y Law Association Rooms, Cook Street, yn y dref hon. Yr oedd y lie yn orlawn o ddynion ieuainc, gan mwyaf, o'r gwahanol eglwysi YmneiJliuol, ac amcenid y cyfarfod yn benaf er creu dyddordeb ynddynt hwy yn ngweithrediadau y gymdeithas. Galwycl ar Richard Johnson, Ysw., Ynad Hedd- weh, i gymeryd y gadair, yn absenoldeb J. J. Stitt, Ysw. Cyfeiriodd at y gymdeithas a ffurfiwyd 30 mlynedd yn ol gan nifer o ddynion ieuainc Liverpool i bleidio Gwirfoddoliaeth Eglwysig. Nododd Mr Oliver Jones, a'r diweddar Mr Charles Robertson, fel rhai blaenllaw gyda'r mudiad, a ehefnogkl hwy gan y gwroniaid Wardlaw, Ewing, King, a Brock, pan yr oedd llawer o weinidogion ymneilldnol Liver- pool yn cadw draw. Cawsant wrthwynebiad mawr ar y pryd, cr hyny daliasant yn mlasn, gan eu bod yn llwyr argyhoeddedig fod eu hegwyddorion yn iawn. DadJeuai fod Liverpool yn meddu cofgolofnau o nerth yr egwyddor wirfoddol, a hyny yn mysg yr Eglwyswyr oeddynt yn wrthwynebol i'w eytU- deithas. Gallent droi atynt a chyfeirio at yr eglwysi ysblenydd sydd wedi eu codi yn y dref, ac yn eu mysg eglwys ardderchog Dr. M'Neill, a dyweyd, Dyna brawf o north yr egwyddor a amddiffynwn.' Cafodd Mr E. MialI, pan y cododd ar ei draed, ei dderbyn yn y modd mwyat brwdfrydig. Dywedai ei fod yn teinilo mesur o falchder a boddhad wrth sefyll o flaen y cyfarfod fel dyn gorchfygedig. (Chwerthin) Yr oedd wedi ei orchfygu, ond nid wedi ei kbbll. (Cymeradwyaeth.) Yr oedd wedi bod bob amser yn y lleiafrif, a barnai mai dyna lie yr oedd ymenyckl a chalon yn gyffredin. (Chwerthin.) Nid oedd yn gofalu cymaint am fyned gyda'r dorf— bod o ochr y gwirionedd .a sicrhai gymeradwyaeth Duw a chydwybod, a glynu wrth hyn deued a ddelo a wnai iddynt fedru gorphwys yn dawel y nos. Edrychai ar Liverpool fel lie o bwys mawr—fel tref a allasai wncud daioni mawr i'r holl genedl. Ond nid oedd yn cofio ei bod nemawr erioed ar y blaen gydag un symudiad daicnus—dros ryddid mewn un ffnrf; ac yr oedd yn sicr iawn nad oedd wedi dod allan yn gryf dros vr egwyddor a bleidiai ef heno. Eto yr oedd wedi gwneud c.ynnydd rhagor y bu. Yr oedd yn cotio bod yma 22 0 flynyclcloedc1 yn ol gyda y diweddar Dr. Price cawsant gynnulleidfa nid yn hollol fel hon, ond un llawer mwy bywiog (chwerthin) bywiog, nid am eu bod yn cymeryd dyddordeb yn y mater, ond am nad oeddynt, a gwnaent bob math o drwst i gael cau eu geneuau, fel y rhai a atalient yr apostoiion, gan grochwaeddi yn ddidor, 13lawr yw Diana. yr Ephesiaid.' Yr oedd cryn lawer o gynnydd wedi ci wnewl er hyny, ac yr oedd yr •Eglwyswyr eu hunain, fel y nodai y eadeirydd, er yn ddiarwybod, wedi dangos nerth ea hegwyddorion, Teimlai yn ofidus iawn wrth weled cyfeillion yn yr Eglwys Wladol—dynion tebyg i Dr. M'Neill-yn mynu gosod eu hunain mewn caethiwed. Teimlai drosto—adwaenai ef, a pharchai ef. Ni fynai ddyweyd y gair lleiaf i iselll ei safie yn yr Eglwys, neu yn y weinidogaeth, ond yn hollol i'r gwrth- wyneb; eto teimlai dros ei sefyllfa. Yr oedd yn ceisio meddwl mor gryf y gallai dyn felly fod pe y caffai ei gyflawn ryddid. (Cymeradwyaeth.) Yr oedd ei berthynas a'r Eglwys oedd mewn undeb a'r Lly wodraeth yn ei gadw yn gaeth. Yr oedd fel dyn ar y rhew toredig, na wyddai yn ei fyw pa ffordd i symud, rhag iddo gael ei ollwng, ac iddo suddo o'r golwg. Nid rhywbeth dibwys oedd y gwahaniaeth rhyngddynt hwy a phleidwyr yr Eglwys Sefydledig, -yr oeddynt yn gwahaniaethu am un o egwyddor- ion hanfodol Cristionogaeth. Yr oedd pleidwyr Gymdeithas Dadgysylltiad yn dadleu nad ellid hyrwyddo cariad trwy gyfraith—mai ofer dyweyd wrth ddyn y cawsai fyned i'r charchar oni wnai garu Duw. Dywedai pleidwyr crefydd wladwriaethol mewn effaith, Chwi gewch fyned i'r carchar—hyny yw, chwi gewch ddyoddef cosp os wna wnewch ar- ddangos egwyddorion Oristionogol.' Safai Cym- deithas Dadgysylltiad yn erbyn hyn fel cyfeiliornad gwreiddiol. Yr oedd yn anmhosibl meddwl y gallai un dyn wrth fyned at ddyn arall a dyweyd wrtho, Mi a'th fynaf i lawr, os na wnei garu Duw,' wneud dim at gyraedd yr amcan. Gellid gosod allan eg- wyddorion y gymdeithas trwy dri nodiad 1. Na ddylai neb ddyoddef cam, neu niwed, yn hcrwydd ei grefydd. Yr oedd rhai wedi gwneud, ac yn eu mysg ef ei hun. Aed a'r tea caddy a'r llwyau arian a gafodd yn anrheg pan briododd oddiarno, am na thalai at gyndal eglwys ni. fu crioed o dan ei gofal. Atelid hefyd yr Ymneillduwyr rhag yr addysg uwchaf yn y Prif Ysgolion. Ystyriai hyn yn gam dybiyd. 2. Na ddytai neb ddisgwyl am rodd gan y LlylV- odraeth yn herwydd ei egwyddorion crefyddoi. Dyna yr Esgobion yn cael. Pa reswm oedd iddynt hwy gael sedd fel y cyfryw yn Nhy yr Arglwyddi ? Cyf- eiriai at eu sylwadau mynych pan ddygid rhyw fesurau penodol ger bron,—' Nid oes neb drostynt ond Ymnelll(ltiwyr politicaidcl.' Buasai ef yn caru gwybod beth a ddaethai o honynt hwy oni buasai fod eglwys boliticaidd. 3. Na ddylid rhoi eiddo cenhedlaethol i un enwad neilldnol. Nid oedd am ymyraeth ag eiddo un enwad, ond a'r hyn oedd yn eiddo y genedl yn gyffredinol. Dewisiai weithredu yn unol ag egwyddorion manylaf uniondeb, gan gadw yr yspail oddiwrth bawb yn ddiwahaniaeth. Yr oedd yn amlwg iawn fod ar. wyddion yr amserau yn cyfeirio at hyn. Nodai sefyllfa pethau yn Itali, ac hyd yn nod yn Awstria, fel yn cyfeirio at hyn. Yr oedd sefyllfa yr Eglwys Wyddelig hefyd yn profi hyn yn bur amlwg. Nid oedd gan neb hawl i ddyfod rhwng cydwybod dyn a'i DdllW. Crist Y1 unig yw ein Hoffeiriad.. Gellir troi at ba blaid bynag a gynnygia wneud hyn, a dyweyd, Yr lesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi?' (Cymeradwy- aoth mawr.) Annerchwyd y cyfarfod yn faith gan J. Temple- ton, Ysw., a chan y Parchn. H. S. Brown, F. H. Robarts, a W. M. Taylor, a chaii Mri R. C. Carter, J. O. Jones, a Lieut.-Colonel Trimble. Dewiswyd nifer o ddynion ieuainc yn bwyllgor i gario allan amca,nion y gymdeithas.

GAIR 0 EIFION.

[No title]

YR EGLWYS WYDDELIG.-----¡

GWEITHRED DEILWNG 0 EFELYCHIAD.

BRO MORGANWG.

[No title]

LLOFFION.

. ' . • YU HEN DEILIWR.