Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
HEN EISTEDDFOD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HEN EISTEDDFOD. Agos i gan mlynedd yn ol, sef yn 1772, cyn- haliwyd Eisteddfod yn Llanidloes, a cheir hanes am dani yn Almanac Gwilym Hywel, o Lanidl- oes, am y flwyddyn 1773, fel hyn:- Yn y llyfr hwn am y flwyddyn ellynedd, rhoddwyd gwahawdd am gyfarfod Beirdd yn Llanidloes, dydd Llun y Sulgwyn diweddaf; ond odid na bydd y rhai yn disgwyl clywed pa beth a ddygwyddodd yn ganlynol i hyny; ni ddaeth yno ond un proffeswr cerdd, sef loan Siencyn o Aberteifi; ac er na thraethwyd yno nemawr o farddoniaeth ag oedd o adeiladaeth, doethineb, na difyrwch, er boddloni rhai Cymry ymofyngar, rhoddwn i lawr yma ryw ychydig o ddynwarediad prydyddiaeth fel y dygwydd- odd:— i GWAHODDIAD I'R BEIRDD. Pencerddwyr dowch pyaciwch don—cyfeiriwch Cyfarfod a'r Beirddion, 0 Dre ffin i Dreffy iion, Glyn Conwy, Mynwy, a Mon. CyiW na 'meddwn i'n mysg—Cymreigwyr Cym'radwy diderfysg; Er eidd1"' a fo'r addysg, Bydded dawn,-boddivy a eu dysg. Rhowll bcrwaith glydwaith yn glos-gan hylaw, Gviia-lwaith i'r achos; Llaniwxi odl-,tuln Llanidlo's, Canu a wnawn cyn y nos. G. H. loan Siencyn, yr hwn eilw ei hun yn mysg ei frodyr, y Bardd Coch, yn cyfarch,— 0 Dreu'r Deheu ar daith-be givelech, Bu galed fy ymdaith, 1 Lanidloes swj n odliaith I'ch gwydd i gly wed eich gwaith. I. S. Yna traethodd Gwilym,— Sion a daw..1 sy' ddyn da-lluosog, A Ilesol mewn tyrfa; Sion yw'r Paun a'r swn pena', Mewn rhinwedd rhyfedd mae'r ha'. G. H. Araith Sion,- Iechyd heb glefyd na gloeJ-fo'n dilyn Fw il deulu Llapidloes A Howel i A yn hael ei foes, Sy'n fardd anwyl ar f'einioes. J. S. Dymuniad Gwilym,— Hirfyd hardd fo i'r Bardd wr bach G. H.-a mawr I'r Almanacwr harddach; [lwe Gwr o roddiad gwareiddiach, Mwyn iawn dymunwJ. yniach. J. S. John Rhys, llanc o dan bymtheg oed, oedd yn gwrandaw, ac yn rhesymu yn wych, ebr loan,— Draw langc wr ifangc o afiaeth J. s,-mae'i ddys- Am ddysgu barddoniaeth, G. H. [gwyl 'Mofyniad am ei famiaith, i. s. 0 ddawn mawr fe ddaw'n ddyn maith. G. H. Ebr Llanc,— Llange ifangc wyf llwagc ofer I.E.—da d'wedaist Dydi eist i'r dyfnder i. s. E-gydiwia y Bardd i'r Gader, Rhown iddo swydd,—rhifo ser. G. H. Yna dywedodd John,- Da wyr mwyn nid wy' wr maith-ond bwngler, A'r benglog anmherffaith; Hoffi'l' Gymraeg a'i heffaith, A threfn hen athrawon iaith. J E. ':cr Bydded hysbys i'r Cymry,—Yr Eistedd- fod a gynhelir y flwyddyn nesaf, drwy wahodd- iad John Jenkin, yn Aberteifi, dydd Llun y Sulgwyn, Mai 31, yn nhy John Davies, y Got, ar Benyporth yno. C) iinydd Awenydd ddi warth A dawn ber i'r Deheubarth.' Dyna Eisteddfod ryfedd Rhaid fod cyflwr Llenorawl Cymru yn druenus o isel gan mlyn- edd yn ol. Dyn o Lanrhaiadr Mochnant oedd y John Rhys a nodir. Dyn diallu, yn cerdded wrth ffynbaglau, yn wehydd ac athraw ysgol. Yr oedd llawer o'i ysgrifau gan ei weddw 50 mlynedd yn ol. Nid yw y rhigymau uchod yn werth nemawr heblaw dangos fod 'gwybodau Cymruaidd yn llawer uwch yn awr nag oeddynt y pryd hwnw. CYNDDEIAV.
ACHOS Y PARCH. N. THOMAS A'R…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ACHOS Y PARCH. N. THOMAS A'R IUDDEWES. AT ENWADAU CBEFYDDOL CYMRU. Meistri Gol.Wrth roddi lie i'r ysgrif ganlynol, y mae genym le i gredu y byddwch nid yn unig yn rhoddi achlysur o ddiolchgarwch i'r Pwyllgor pen- nodedig yn Nghaerdydd yn yr achos hwn (ar gais pa un yr ydym yn ei hanfon), ond hefyd o foddlon- deb neillduol i lawer o'ch darllenwyr ag ydynt eis- oes wedi mynegu eu cydymdeimlad. Buasai y Pwyllgor wedi anerch gwahanol enwad- au yn nghynt oni buasai fod anbawsdra i osod yr achos mewn modd eglur a chyflawn ger eu bron, ac nid ydynt hyd yn nod yn awr yn alluog i fynegu yr holl ganlyniadau mewn modd terfynol: eithr rhodd- wn yma yr oil sydd yn hysbys gyda golwg ar y ter- fynedig a'r dyfodol mor bell ag y medrwn. Darfu i chwi, Meistri Gol., mewn modd cyflawn, ar yr amser roddi hanes y cynghaws, ac mewn modd galluog rhoddasoch eich barn ddiduedd ar y rheith- farn, yr hyn sydd mewn cof gan eich darllenwyr, ac yn ein harbed i gymeryd lie mor helaeth yn eich ne- wyddiadur gwerthfawr ar hyn o bryd; ond feallai mai rheidiol yw i ni mewn modd byr ddwyn ar gof briff ffeithiau y cynghaws pwysig hwn. Yn mrawdlys diweddaf Morganwg, a gynhaliwyd yn Nghaerdydd, gerbron y Barwn Channel, cafodd y Parch. Nathaniel Thomas, gweinidog eglwys hynaf y Bedyddwyr yn y dref hono, a'i wraig (gyda rhai personau ereill a ryddhawyd yn hollol, ac felly nid oes a fynom a hwy yma), eu dwyn i brawf dan y cyhuddiad o hudo geneth o dros 18 mlwydd oed, o'r enw Esther Lyons, Iuddewes, o dy ei thad, a'i chuddio yn ol llaw, er colled i'w rhieni. Merch oedd i Iuddewes o'r enw Barnett Lyons, yn preswylio yn yr un dref. Sylfaen y cyhuddiad oedd fel y canlyn: -Ar un noswaith, tua 10 o'r gloch, daeth Miss Lyons at ddrws Mr Thomas, i ofyn am letty nos- waith, ac yr oedd cyfnither iddi gyda hi. Nid oedd ef i mewn. Acth Mrs Thomas i ymddyddan a hwynt. Desgrifiasant sefyllfa berthynasol Esther yn gyfryw fel y barnodd Mrs Thomas fod angen ymgeledd arni oddiwrth greulondeb ei theula, yn fwyaf neillduol ei mham. Nis gofynai y pryd hwnw ond am lety noswaith, ac i'r graddau hyny teimlodd Mrs Thomas duedd i dosturio wrthi. Pan ddaeth Mr Thomas i mewn, adroddodd Mrs T. yr amgylch- iad wrtbo ef ond ni thybiodd ef yn rheidiol i ymyr- aeth braidd ddim yn yr achos, ond ei adael i ddoeth- ineb ei wraig felly cafodd letya yno am y noswaith rhag digwydd iddi rhywbeth gwaeth, gan ei bod yn tystio na buasai yn dychwelyd adref. Yr oedd ei chyfnither yn adnabyddus i Mrs Thomas, eithr yr oedd Esther yn hollol anadnabyddus iddi yn berson- ol hyd oni ddaeth at ei drws y noson hono. Ni wnaeth Mrs Thomas ymddyddan un gair a hi y nos- on hono am ei daliadau crefyddol, eithr gan dybied y gallasai fod ganddi fel Iuddewes wrfchwynebiad i gydagweddu yn yr addoliad Cristionogol teuluaidd, gofynwyd iddi a fuasai yn well ganddi ymneillduo i ystafell arall, yr hyn a wrthododd. Tranoeth, dy- munodd gael ymgeledd bellach, a'i diogelu oddiwrth ei rhieni; eithr yn lie rhoddi lie iddi yn mhellach yn eu ty eu hunain, trosglwyddodd Mrs Thomas hi i ofal rhai ereill; ac ni fu Mr Thomas na'i wraig yn gyfrifol am ei chadwraeth yn mhellach mewn un- rhyw fodd pa bynag. Yr oedd Mrs T. yn adna- byddus yn flaenorol a chyfnither Miss Lyons, ac ar ryw dro anfonodd drwy ei llaw Destament Newydd iddi, yr hyn oedd hi wedi ei wneuthur ddegau o weithiau yn fiaenorol i wahanol bersonau cenhedlig, gan obeithio eu llesoli yn ysprydol. Pa fodd bynag, cymerodd Mr Barnett Lyons, tad yr eneth hon, arno, dan gyfarwyddyd galluog y mae yn ddiddadl, i dynu allan o'r amgylchiadau syml hyn y cyhuddiadau pwysig a difrifol, fod Mr a Mrs Thomas wedi hudo ei ferch o'i chartref, gan ei chuddio, er colled pwysig iddo ef a than y cyhudd- iadau hyn y darfu i'n cyfeillion gymeryd eu prawf ger bron un o Farnwyr ei Mawrhydi fel drwgweith- redwyr yn ngwydd y deyrnas ryddfrydol hon Cymerodd y prawf yn agos i wythnos gyfan i fyned drwyddo, ac y mae yn hollol hysbys i'ch dar- llenwyr sylwgar y modd y trodd y prawf allan. Dygwyd rheithfarn i mewn yn condemnio Mr a Mrs Thomas i dalu haner cant o bunoedd i dad Esther, yr hon reithfarn a greodd nid yn unig syndod drwy yr holl lys a'r dref, eithr drwy yr holl deyrnas; ac nid gydag anewyllysgarwch, eithr cyn gofyn iddo, taflodd y barnwr dysgedig y drws yn agored i godi yr achos i lys uwch. Wedi pwyso y canlyniadau mor bell y gellid, nid yn unig gan Mr Thomas, ond gan y Pwyllgor hefyd, y mae yr achos wedi ei godi i sylw Barnwyr ei Mawrhydi gydag amcan i brofi ganddynt hwy pa un a oedd y rheithfarn gyhoeddedig yn Nghaerdydd yn unol a'r tystiolaethau a roddwyd gan y tystion yno neu nad oedd. Os mai dyfarniad y Barnwyr a fydd nad oedd, yna troir y rheithfarn yn ol ganddynt hwy. Y grediniaeth dra chyffredinol yw y bydd hyn yn sicr o gymeryd lie; oblegid na chafwyd cy- maint ag un gair gan gymaint ag un tyst fod Mrs na Mr Thomas wedi ymwneud dim a'r ferch hon, hyd yn nod adnabod ei hwynebpryd hyd y pryd y daeth at eu drws i ofyn am letty, ac felly ei fod yn anmhosibl eu bod wedi bod yn euog yn y mesur lleiaf o'i denu i adael ty ei thad; ond, fel y tystiai hi ei hun, ei bod wedi gwneuthur hyny yn hollol o honi ei hun. Er syndod mawr, gwnaeth y dadleuydd Mr Lyons ddefnydd neillduol o'r amgylchiad fod Mrs Thomas wedi anfon Testament i Miss Lyons trwy law ei chyfnither, yr hyn, os yw yn ddigonol i euogfarau 0 ein brawd a'n chwaer, a ddylai euogfarnu ca noedd, nid yn unig o chwiorydd, ond brodyr Cristionog ol ereill yn y deyrnas hon, ond ein holl genhadau mewn gwledydd tramor, gan eu condemnio i ddirwyon di- derfyn Y mae yn amgylchiad teilwng o sylw, ac ymddeng- ys yn un o arwyddion llaw neillduol Rhagluniaeth, fod perthynasau Esther Lyons, yn ddiweddar, wedi gweithredu yn y fath fodd ag sydd wedi rhoddi cyf- leusdra cyhoeddus iddi, yn ngwydd y deyrnas, i brofi ei gwirfoddoldeb uwchlaw pob amheuaeth yn ei holl symudiadau. Er dangos hyn, nodwn fod ei rhieni, i'r diben o'i chael dan eu hawdurdod unwaith dra- chefn, wedi gwneuthur cynhygiad ar ei gosod yn Ward in Chancery, sef yw hyny ei gosod dan anwyl- wyr (Guardians), gan ddyweyd fod swm o arian yn syrthio i'w dwylaw, ac na chawsai awdurdodi ar yr unrhyw hyd oni buasai yn ei chyflawn oed. Heb i ni fanylu ar yr ymgyrch ofer hwn, nodwn i'r Is- ganghellydd, Svr W. M. James, benderfynu mynu gwybod ewyllys Esther ei hun, yn annibynol ar ei rhieni na neb arall, fel y gallai ffurfio a barnu drosto ei hun; felly cafodd ymddiddan a hi, heb neb yn wyddfodol ond eu hunain. Nis gwyddom yr ym- ddiddan, wrth reswm, ond y mae yr effaith yn eglur. Dywedai Syr W. M. James ei bod yn agos i ugain oed, a'i bod wedi dyweyd wrtho ef ei bod yn G-rist- ion, ac felly penderfynodd i wrthod rhoddi anwylwyr arni, eithr ei gadael i weithredu drosti ei hun. Wedi i Miss Lyons gael y fath gyfle i ddatguddio ei medd- wl ei hun i foneddwr mewn swyddogaeth ddigon uchel i'w diogelu yn ngwyneb unrhyw beth a ddy- wedai, pwy a ddywed mwy nad gwirfoddoliad hollol e'r dechreu yw hi wedi bod P Nodasom yn flaenorol fod y rheithfarn i gael ei phrofi gan y Barnwyr, eithr nid yw yr amser wedi ei benodi, felly rhaid aros yn amyneddgar. Yn awr am y costau. Anwybodaeth Mr Thomas a'r Pwyllgor am helaethrwydd y rhai hyn yw yr unig achos o'r oediad yn anfoniad yr apeliad hwn allan. Nid ydym hyd yn nod yn awr yn alluog i roddi hys- bysiad boddlonol neu derfynol ar y pwynt hwn, er fod y cyfreithiwr yn yr achos wedi cael deisyf arno roddi gwybod. Yr hyn y mae Mr Thomas wedi ei gael yw cais trwy lythyr am 650p., sef arian y mae y eyfreithiwr wedi eu talu o'i logell (money out of pocket), seffees y dadlenwyr, &c.; ac y mae hyn yn ddigon i ddangos ar unwaith fod mil o bunoedd yn debyg o fod yn rhy isel i gyfrif arnynt fel y swm rheidiol i orchuddio y treulion. Nid ydym yn alluog i ddyweyd hefyd pa effaith a wna troi yn ol y rheith- farn ar y costau ac yn mhellach, os troir hi yn 01, gall y blaid wrthwynebol osod i fyny ail dreial o'r holl achos. Nid oes genym felly ond gosod yr achos fel y mae yn awr o flaen ein cydwladwyr. Gyda golwg ar gyfarfod a'r costau uchod, gallwn ddyweyd gyda llonder fod cydymdeimlad o'r mwyaf bywiol wedi ei ddangos tuag at Mr a Mrs Thomas yn eu eyflwr trallodus fel rhai condemniedig gan y rheithwyr tra rhyfedd hyny. Amlwg yw ar daraw- iad fod y rheithfarn nid yn unig yn gosod y taliad o haner can punt i dad yr eneth, ond fod hyn hefyd yn ddigonol i gario braidd bob costau o bob tu, a'u taflu yn grynswth ar Mr Thomas. Dan yr ystyriaeth o hyn, cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol yn y dref yn ddioedi, i'r hwn y daeth prif bersonau y gwahanol enwadau. Teimlid yn ddwys fod cyfiawn- der (etifeddiaeth pob Prydeiniwr) wedi ei archolli yn ddwfn yn ngwydd y faingc, camwedd dirfawr wedi cael ei wneuthur, a Mr Thomas a'i wraig dda wedi cael eu condemnio ar gam. Yn gydweddol a'r fam hon, gosododd un boneddwr ei enw i lawr am 50p.; canlynwyd ef gan ereill am symiau o 25p., 20p., 10p., &c., &c., hyd onid oedd y cyfanswm tua 350p., yn mhlith y rhai yr oedd tua 150p. o eglwys Mr Tho- mas ei hun. Dyna arddangosiad o farn a theimlad y dref am a tuag at ein brawd a'n chwaer, wedi preswylio ynddi am 14 mlynedd. Gyda hyn, priodol yw nodi fod cyfarfod Undeb Bedyddwyr Cymru, a chyfarfcdydd chwarterol yr enwad yn y gwahanol siroedd trwy Gymru, wedi mabwysiadu penderfyniadau o gydymdeimlad a Mr Thomas, gan gymeradwyo fod casgliadau i gael eu gwneuthur trwy yr holl eglwysi er cynorthwyo i dalu y treulion pwysig, ac felly i arbed canlyniadau gwir ddolurus a darostyngol i un o weinidogion mwyaf caredig a dichlynaidd Cymru (yr hwn, cred- wn hefyd, na fuasai gronyn o'r poen hwn wedi dis- gyn arno oni bai ei fod yn Ymneillduwr a Rhydd- frydwr diwyrni). Y mae arian felly wedi ein cyr- haedd o wahanol eglwysi, fel ar y cyfan y mae tua 50Op. o fewn golwg ac yn awr, yr ydym yn hyder- us yn gwneuthur APPELIAD AT HOLL GYMRU am gydweithio i gael y gweddill i law. Y mae cy- niliad a diogeliad, uniondeb a chyfiawnder gwladol a chrefydd yn ein tir yn ddyledswydd eglur a phwys- icaf ar bob dyn; ac er syndod, ni bu galwad uwch ar Gymru i wneud ei rhan nag yn y dyddiau pre- senol. Cyfodwn fel un gwr, a safed pob un yn ei rhan ynte, a pharwn i fyddinoodd y gelyn gilio o derfynau ein gwlad. Yr ydym mewn modd penodol ac hyderus yn ed- rych at gydymdeimlad enwadau parchus y Method- istiaid a'r Anibynwyr, oddiar law amryw o ba raiyr