Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn. Llaw.—Caerfifli-—Caerdydd—Hermon, Plasmarl—Ffynnonbedr—O Frynaman i Ystal- yfera-Siloh, Ffailfach-Cyfarfocl LTndeb Y,,gol- ion Sul Gogledd Penfro—Ebenezer, Crw bin- Hen Gapel, Maenclochog-Y Golofn Farddonol -Cyfarfodydd Chwarterol Cyfundeb Gorllewinol Dinbych a Fflint—-Cyfundeb Gogledd Morgannwg y Chyfimdeb Gorllewin Morgannwg—Cyfarfod- add, &c.
ACHOSION I GANU Y NOS.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ACHOSION I GANU Y NOS.* GAN Y PARCH. O. L. ROBERTS, LERPWL. II. ETO, yn y rhyfel presennol a'i holl brofiad chwerw, yr ydys yn dysgu o'r newydd i roddi'r pwyslais ar bethau hanfodol cref- ydd, ac nid ar y pethau sydd ail-raddol iddi ac y mae hyn, o'i ystyried yn briodol, yn rhywbeth i fod yn llawen o'i blegid. Yn y gorffennol yr ydys wedi bod yn siarad llawer am y pethau yr ydvs yn gwahaniaethu mewn perthynas iddynt yr ydym wedi bod yn rhy barod i ddadleu a chweryla ynglfylch manion crefydd, a hynny ar draul esgeuluso ac anwybyddu'r pethau sydd hanfodol bwysig. Ar feysydd y rhyfel heddyw y mae ein dynion ieu- ainc yn setlo eu gwahaniaethau crefyddol mewn ffordd sydd yn ddigon i gymryd ymaith ein hanadl ni sydd gartref. Na chamddealler fi: nid wyf am awgrymu nad oes pethau pwysig ac hanfodol yn ein gwahaniaethu fel Cristionogion. Gwn fod hynny yn hollol wir. Ar yr un pryd, gwn hefyd mai ein profedigaeth yn fynych ydyw pwysleisio'r pethau man ar draul anghofio'r pethau trymaf. Clywais fy nghyfaill, y Parch. R. H. Sewell, yn dweyd am dano ei hun yn treulio gwyliau haf rai blynyddoedd yn ol yn ei hen ardal enedigol yn yr Iwerddon. Aeth un diwr- nod i ymweled a pen wraig o Babyddes oedd yn wael ei hiechyd, a bu yn ceisio ei chysuro ym mhethau crefydd, a'r hen fam yn mwynhau'r ymddiddan yn. fawr. Parhaodd i wneud hynny am ddyddiau, ond o'r diwedd meddyliodd y gallai ei ymweliadau beri trafferth i'r hen chwaer pe y deuai'r offeiriad Pabaidd i wybod am y peth. Esgusododd ei hunan dros beidio myned drachefn, ond atebodd yr hen fam ef a deigryn yn ei llygaid, gan ddweyd Peidiwch a chadw draw. Mi wn mai Protestant ydych chwi, ac mai Pabyddes ydwyf finnau; ond pa wahan- iaeth am hynny ? Wedi i un ddod i'r profiad yr wyf fi ynddo'n awr nid yw'r gwahaniaeth rhyngom yn gymaint: y peth mawr yw fod un yn cael cyffwrdd rywfodd ag ymyl Ei wisg 'E¡: Fel rheol, cweryla y byddwn ni ynghylch ymyl ein gwisgoedd enwadol, gan anghofio mai'r peth mawr yw cyffwrdd ag ymyl Ei wisg Ef. Dyma un o'r gwersi ddysga ein pobl ieuainc yn y rhyfel heddyw, ac y mae'n 11awn bryd i ninnau ei dysgu gartref. Deuthum y diwrnod o'r blaen ar draws Sylwedd anerchiad a draddodwyd o gadair adran Lerpwl o'r Lancashire Union yn Ashton- in-Makerfield, Medi 21ain, 1916. dau ddarlun gwahanol-y naill o fywyd crefyddol yn Ffrainc yn llewyrch fflamau y rhyfel, a'r llall o fywyd crefyddol ym Mhrvdain yn ein tawelwch a'n heddwch cymharol. Dyma'r darlun cyntaf fel y ceir ef yn y llvfr diddorol, The History of the Great War.' Yno am y pryd y mae pob gwahaniaethau yn cael eu hanghofio. Y mae'r Ymneilltuwr a'r Eglwyswr, y Protestant a'r Pabydd, yn uno a'i gilydd o gwmpas bwrdd yr Arglwydd i gydgofio angeu'r groes. Dyna un ochr i'r ddalen. Edrycher ar yr ochr arall. Mewn tref yn Lloegr un o'r wytlmosau diweddaf yr oedd gorymdaith gyhoeddus ynglyn a'r rhyfel yn cael ei threfnu. Bwriedid i'r gweinidogion gerdded bob yn ddau ar ilaen yr orymdaith, ond gomeddodd yr offeiriad Eglwysig a chydgerdded a'r gweinidog Ymneilltuol, gan roddi fel ei reswm 'fod y gwahaniaeth rhyngddynt mewn mater o ffydd y fath ag yr oedd yn rhaid ei bwysleisio.' Cyfaddefaf fod y ddau achos hyn yn cynrychioli'r eithaf- ion ar v naill ochr a'r tlall ond tybiaf hefyd fod y naill yn ei ffordd yn egluro y cydymdeimlad Cristionogol hwnnw sydd a'i gyfeiriad tuagat undeb, a'r llall y rhag- farn crefyddol sydd a'i duedd i wneud ein ffydd a'n proffes ohoni yn gyff gwawd a dirniyg pob meddwl goleuedig. Gallwn fod yn sicr o un peth—pan y daw ein pobl ieuainc yn ol o'r rhyfel, ni fydd gan- ddynt nemor gydymdeimlad a'r cwerylon eglwysig ynghylch manion. Ac y mae hyn eto yn rhywbeth i fod yn llawen ohono. Ymhellach, credaf fod gennym achos teg i fod yn llawen yn y ffaith fod y rhyfel a'i lioll erchylltra yn dwyn allan yr hyn sydd oreu yn y natur ddynol ac yng nghymeriad Cristionogol llu o'n dynion ieuainc. Nid wyf yn dweyd fod hyn yn cymryd lie ymhob achos, nac fod rhyfel ynddi ei hun yn amgen na drygioni o'r fath fwyaf dieflig--drygioni i'w roddi i lawr un,waith ac am byth. Ond yr hyn wyf yn ei ddweyd yw fod rhyfel, fel pob profedigaeth arall, yn beth y gellir ei defnyddio i dynnu allan y goreu sydd ynnom, a'i fod dan fendith Duw yn gwneud hynny yn hanes miloedd y dvddiau hyn. Cymhella'r Apostol Paul y saint yn Rhuf- ain i orfoleddu yn eu gorthrymderau, nid oblegid fod dim yn y gorthrymderau hynny ynddynt eu hunain i orfoleddu o'u hachos, ond oblegid eu bod hwy, a hwythau wedi eu cyfiawnhau trwy ffydd, ac felly mewn heddwch a Duw, ac oblegid hynnv fod gorthrymder iddynt hwy yn peri amynedd, ac amynedd ddioddef- garwch, a dioddefgarwch brofiad, neu gymeriad profedig. Ym mhair profedig- aethau y gweithir allan nerth i'w ber- ffeithrwydd. Na ddigalonwn daw plant yr Arglwydd o'r pair hwn yn fwy disglair nag erioed, fel aur wedi ei buro trwy dan.' Yn un peth, pair y rhyfel hon, os ydym yn yr ysbryd iawn, i ni bwyso'n fwy ar yr Arglwydd nag ar fraich o gnawd. Ceisiai materoliaeth y genhedlaeth ddiw- eddaf gau Duw Ei Hunan allan o'i gread, a than ei dylanwad afiach yr oedd llawer ohonom fel pe wedi colli gafael ar Dduw yn hollol. Yr oeddym yn gyflym golli ein cred yn Ei fodolaeth, cliwaethach ein cred yn y posibilrwydd o gymundeb per- sonol ag Ff. Yr oeddym yn brysur ladd ein greddf naturiol i weddlo, ac felly dorri ein hunain ymaith oddiwrth Ffynnon y bywyd. Yr oeddym wedi anghofio fod gweddi mor naturiol i ddyn ag ydyw bwyta ac yfed. Y mae'r rhyfel yma, beth bynnag arall y mae yn ei wneud, yn dwyn mil- oedd i sefyll ar y ffordd ac i ymofyn am yr hen lwybrau. I/lawer ydyw'r dirmyg a deimlir gan lawer am weddi fel yr arferir hi ar amser rhyfel. Chwerthin am ben dynion yn sefyll ar ddwy ochr wrthwyn- ebol yn y rhyfel—y naill fel y llall yn gweddio am fuddugoliaeth, fel pe bai Duw yn Dduw arbennig iddynt hwy, yn abl i roi'r ffafr yn ol Ei fympwy, fel y gwnelai y duwiau paganaidd i'w ffafredigion. Can- iataer fod llawer o elfennau cul, chwerw ac afresymol o'r fath yn dyfod i fewn i weddiau dynion ar amserau o'r fath, ond nac anghofier y ffaith fawr fod dynion ar adeg o gyfyngder yn reddfol yn teimlo'r symbyliad i weddio. Y mae miloedd ar filoedd heddyw wedi deffro i'r ymdeimlad fod yn rhaid iddynt gael Duw o'u plaid os am lwyddo, ac y mae hynny ynddo ei liunan yn achos o lawenydd. Yr ydys ymhellach eto yn cael achos i ganu y nos yn yr ystyriaeth ein bod yn y rhyfel hwn yn ymladd o blaid egwydd- orion sydd yn y pen draw yn rhwym o gael barn i fuddugoliaeth. Ar y cwest- iwn o barhad y rhyfel nid wyf mor ffol a chynnyg unrhyw opiniwn a chredaf fy hun mai arwydd iach ydyw ein bod wedi rhoddi fyny bob proffwydo o'r fath. Nid oedd y ffordd bendant y datganem ein barn ar y cwestiwn hwnnw ym misoedd cyntaf yr ymgyrch yn ddim ond prawf o'n dygn anwybodaeth. Modd bynnag, credaf y gallwn yn sicr ddweyd na in'r fuddugoliaeth erioed mor sicr ag y mae heddyw. Yr ydys yn sefyll dros egwydd- orion tragwyddol, y rhai Has gallant, yn ol eu natur eu hunain, yn y pen draw lai na buddugoliaethu. Y mae'r genedl sydd wedi ymwerthu i egwyddorion pwdr uchel- gais afiach ac elw bydol yn rhwym o ddyfod i lawr. Fel y sylwai un A State that has sold its birthrght to militarism has no place, no reason for existence even, in the free democracy of modern Europe.' Dywed hen ddiareb mai yr awr dywyllaf ydyw'r awr cyn codiad haul.' Gallwn ninnau heddyw deimlo'n berffaith hyderus fod y bore ar wawrio-bore buddugoliaetli, bore'r nefoedd newydd a'r ddaear newydd, yn yr hon y mae cyfiawnder yn teyrnasu. Bydd barod erbyn y bore.' A ydym ni yn barod erbyn bore'r fuddugoliaeth fawr? Mor hyderus y teimla'r gwledydd heddyw yn sicrwydd y fuddugoliaeth fel y maent eisoes yn dechreu paratoi ar gyfer hynny. A ydym ni fel eglwysi yn barod.? 4 Daw, fe ddaw y wawrddydd oleu.' Am hynny byddwn ninnau barod erbyn dydd Ei ddyfodiad Ef.
Y Parch J. Vernon Lewis, M.A.,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Parch J. Vernon Lewis, M. A., B.D., Lerpwl. Bydd yn dda gan Haws cyfeillion y Parch Vernon Lewis ddeall ei fod yr wythnos ddiweddat wedi cymryd ei radd o M.A. ym Mhrifysgol Rbydychen. Y mae Mr Lewis wedi cael gyrfa addysgol eithriadol o lwydd- iannus, ac y mae eisoes wadi enaill iddo ei han safie uchel fel gweinidog a phregethwr. Bendith arno i ddringo yn uwch eto. Da gennym am ei lwyddiant ymhob cylch, ao y mae iddo, os y ca fywyd ac iochyd, ddyfodol disglaer. CVF mL.