Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
< t DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour,
a LAN Y TAFWYS
a LAN Y TAFWYS [GAN Y GWYLIWRi I Westminster '1 NosFmvrth, 6 i. 1914. 1 Rhodd Mam y 'Morning I Post.' PETH rhagorol-yn ei le-ydyw rhyddid y Wasg, ond mae'n ddigon hawdd gwneud gormod ohono. Yn fy mam i-opiniwn personol wrth gwrs ydyw hynny—y mae'r Wasg Doriaidd, a hwyrach y llall hefyd, pe chwiliwn i mewn iddi, yn rhedeg i lawer gormod rhysedd y dyddiau hyn. Dyna'r Morning Post ddoe, er enghraifft. Papur synhwyrol a gwedd lenorol arno oedd y Post ar y eyfan, ond ers cryn amser bellach ym- ddengys fel yn myned fwyfwy i eithafion afresymol wrth geisio argyhoeddi ei wrth- wynebwyr o bechod a thwyll a phob math ar anghyfiawnder. Drwy gydol yr ymchwiliad Marconaidn, r.^dvceddld bciniifidtietii y Post gan lymder, ni ddywedwn partiol ac unochrog, ond pell iawn oddiwrth y pwyllog a'r judicial. Er gwaethaf pob ystryw a dyfais, fel y gwyddom, fe ddaeth Canghellor y Trysorlys ac Arglwydd Brif Farnwr y Deyrnas (yn bresennol) yn rhydd ac yn glir o afaelion eu gelynion. Er hynny i gyd, y mae nifer o ysgrifenwyr, drwy'r wythnosau a'r misoedd aeth heibio er pan derfynodd yr ymchwil- iad, a\x holl egni yn hau efrau drwgdybiaeth ac ensyniadaeth o'r fath waethaf ym meddwl y cyhoedd. Y mae ganddynt yn awr gyfle newydd, oblegid dychweliad Arglwydd Murray i'r wlad hon o'i hynt fasnachol i Bogota. Cyrhaeddodd y. Master of Elibank, fel yr adwaenem ef gynt, ein glannau gefn trymedd y nos, ond ni arbedodd hynny ef mewn un modd, oblegid yr oedd y newyddiadurwyr fel gwybed o'i gwmpas hyd yn oed cyn iddo lanio. .Nid oes neb yn eu beio am eu parodrwydd a'u pybyrwch—dyna rai o rinweddau'r grefft. Modd bynnag, methiant hollol fu euhym- gyrch. Yn naturiol, ac yn gall ddigon, dybiaf fl, fe wrthododd Lord Murray yn bendant foddio eu cywreinrwydd, cyn cael cyfle i ymgynghori a'i gyfeillion, a chael gwybod sut yr oedd pethau yn sefyll. Yr oedd ganddo berffaith hawl i wneud felly, ac y mae'n dda gennym weled fod y rhan fwyaf o'r newydd- iaduron yn cydnabod hynny, ac yn boddloni i aros, gyda mwy neu lai o amynedd, y dadlen- iad a ddaw yn yr adeg briodol. Ond nid felly'r Morning Post! Ysgrifenna gwyr y Post, nid yn unig fel dynion wedi colli eu tymer, ond fel dynion wedi eu gosod yn farn- wyr ac yn dywysogion ar eu cyd-ddynion, gyda hawl i holi ac i groesholi yn ol eu rheol a'u deddf fympwyol hwy eu hunain. Nid yn unig beiant y gwr a erlynir ganddynt am ei dawedogrwydd, ond condemniant ef yn gyn- amserol drwy gyhoeddi cyfres o'r cwestiynau mwyaf awgrymiadol a drwgdybus a ofynnwyd erioed i unrhyw garcharor. Pwy hawl sydd gan y Post i gynnyg y fath ofyniadau i unrhyw berson mae'n anodd deall. Gellid hwyrach eu gofyn mewn llys barn, er yr amheuwn hynny, gan mor eithafol ydynt; ond ar -,N-ahan i hynny, mae'n sicr gen i fod y newyddiadur dan sylw yn troseddu rheolau moesau a thegwch wrth eu cyhoeddi. Nid dyma fy unig gyn yn erbyn y Post yr wythnos hon. Heddyw, er esiampl, y mae ynddo ddarluniad o wrthryfelwyr Ulster sy'n peri i lawer heblaw ni ofyn dros ba hyd y gadewir i beth fel hyn ddigwydd. S6n am incitement to rebellion, fu erioed y fath gymell, o'r hyn lleiaf yn ein gwlad ni, ers dros ganrif. Mae'n bryd rhoddi terfyn arno. -0
PEN Y BONT FAWR.
PEN Y BONT FAWR. GYDA gofid dwys y rhaid dweyd am farwol- aeth annisgwyliadwy Mr. Lloyd, Telephone House, bore Saboth, Ionawr 4, yn yr oedran teg o 69. Efe'n unig frawd Mr. Edward Lloyd, Y.H., Liverpool. Anodd meddwl am gymeriad mwy caredig, distaw, a heddychol. Yr oedd yn cael ei barehu a'i hoffi gan bawb ni chlywais neb erioed yn dweyd gair bach amdano. Ni chlysv'.d ei lais yn yr heolydd, gwr yn caru'r encilion ydoedd. Anodd syt. weddoli ei fod wedi ein gadael, gan mor agos ydoedd at bawb ohonom. Yr oedd bob amser yn ddoeth ei gyngor ac addfed ei farn, a gellid dibynnu ar ei ddoethineb ar bob achlysur. Tawelodd lawer ymryson mewn pwyllgorau, yn yr Eglwys ac allan ohoni. Yr oedd yn un o ffyddloniaid yr eglwys Anni- bynnol yn y lie, a gwna?d ef yn ddiacon ynddi ers llawer blwyddyn. Anfynych y gwelid ei le yn wag, a'i brydlondeb yn y moddion yn ddihareb. Daeth llu i'r angladd lonawr 7fed", pryd y gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn. J. Lloyd Hughes (W.), Llanrhaeadf J O. R. Owen (M.C.), Llangynog; yn y capel— y Parchn. W. L. Evans (gweinidog), J. Lloyd Hughes, Robert Hughes ac ar lan y bedd- y Parchn. W. L. Evans a R. Deiniol Jones, Llanrhaeadr. Cydymdeimlwn yn fawr fii ddau fab a'i unig ferch yn eu profedigaeth lem, ac a'r perthynasau i gyd.
Advertising
(,.J —p PARIS HOUSE. C ( Great s ■ Stocktaking Sale commencing SATURDAY NEXT, JANUARY 7th. -6 Edward Williams, 195, 197, 199 London Road, And 8 Falkland Street, — ,w"- Close 1 o'clock Wednesday. f
Advertising
USE KEENOIA SELF-RAISING ,=. a a VZWL FLOUR The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
DURING JANUARY ONLY. 10th YEAR OF BEATY BROS'. LTn. Remarkable and Important Offer. Suits to Measure, Excellent j JC Satisfaction Value. 2 v) 0 Assured, Worth Double., Good-class Materials and Beautifully made. ONLY ADDRESSES- CHURCH STREET & LONDON ROAD, LIVERPOOL. Note.-Order Department closed on Wednesdays 1 o'clock. (Open Saturdays). A yw'ch Llygaid yn eich blino? Yw pethau'n troi'n mwlog ac tmelw? ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y Uyg&d. a dylech gael eu hedrych rhag biaen eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. GaUwn ni gydin hoffer gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch ansren gwydrau ac os fd!y, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch beddyw: ARCHER A SONS, Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, I dlwvd 1848. LIVERPOOL 'Pbone-392S Bank. w. Grifmls & soog TAILORS, 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. Mr. H. W. HELY. I, DANNEDD GOSOD Tynnulch Dant, heb yr ias leia o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y oyngor a'rtelerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau I welni Teilr clfldiad cwsmerlaid o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Orisur-O i 7. a 'Phone, 1436 Royal. COOK & TOWNSHEND, are now shewing The Newest and Smartest Overcoatsf or Winter Wear. Warmth without Weight. PRICES 21/- 25/- 30/- and 35/- Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. 1SK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SSLTSSR WATER. LEMONADD BRT GINGliB. ALB. ■to., eto. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL llyfrau AIL LLAW. LlyfrGweddi y Catholig, neu Ymarferion Bywyd Cristionogol yn ol athraw- iaethau gwir eglwys lesu Grist, Argraffedig yn Lerpwl yn 1837. Ychydig gopiau, 1/6, cas lledr. Hugh Evans <5|Sons, 358 Stanleyt,Road, Liverpool. J '■ v ROBERTS Cs EDWARDS ESTATE' AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool Telephone: 2198 Royals
Caerwedros, Ceredigion I
Caerwedros, Ceredigion I Eisteddfod GADEIRIOL-Cynhaliwyd Eis- teddfod Gadeiriol yma ddydd Gwener cyn y diweddaf. Daeth llu o garwyr lien a chan ynghyd, a chaed cyfarfod Ilwyddiannus iawn. Y rhain oedd y prif feirniaid cerdd, Mr. W. Dann Williams, Caerfyrddin Hen ac awen, y Parch. E. Myfyr Evans, Aberarth cyfeil- ydd, Miss Dilys Gruffydd, Beth derw arweinydd, y Parch. E. Aman Jones, Cei newydd. Gwobrwywyd fel hyn :—Y wyntyll oreu Mr. Owain Jones, Penarfawr. Lled- wad Mr. Dl. Rees, Pant yr onnen. Unawd i blant Evan Davies, Cefngrugos fach. Ad- roddiad i blant 1, Myfanwy Williams, Ceinewydd 2, T. J. Morris, Drefach. Deu- awd i feibion Mri. E. T. Rees a James Jones, Llangranog. Can i De Maelfa Caer- wedros Miss Lizzie Thomas, Pen y graig. Unawd tenor Mr. E. Thomas Rees, Pwll y wheel. Cyfieithiad o'r Saesneg i'r Gymraeg Mr. D. O. Jones, Glynarthen. Prif Ad- roddiad Mr. J. Phillips, Llwyn Dafydd. Unawd soprano Miss Olwen Thomas, Port Talbot. Englyn byrfyfyr Mr. D. Isfoel Jones, Cilie. Unawd baritone Mr. Evan Rees, Nanty pobty. Can ddisgrinadol, Vol- turno ar dan un ymgeisydd, heb fod yn deilwng o'r wobr. Gwobrgwd: Miss Myfan- wy Davies, Trenova, Aberarth. Canu pen- hillion: Mr. E. J. Jones, Glynarthen. Drawing: Mr. J. J. Owen, Waunfawr, Glyn- arthen (y llanc hwn wedi ennill gwobrwyon yn Eisteddfod Genedlaetho] y Fenni). Yn awr deuwyd at brif wait-h y eyf arf od, sef eadeirio'r bardd. Testyn yr awdl oedd "Y Gaeaf." Wedi canu'r corn gwlad, daeth y beirdd i'r llwyfan i ffurfio'r cylch. Darllenodd y Parch. Myfyr Evans ei feirniadaeth ar yr awdlau. Ymgeisiodd 3, ond yr oedd awdl Macwy'r Hendre yn rhagori o gryn lawer, ac yna dyfynnwyd rhannau helaeth o'r gerdd- ynghanol distawrwydd ac astudrwydd mawr. Wedi hynny, gofynnwyd i'r Macwy sefyll ar eidraeder gwneud eihun ynhysbys. A draw ar gwr y dorf, wele wr ieuanc gwylaidd yn codi, ac yn union deg fe'i cyrchwyd i'r llwyfan gan ddau o'r beirdd, ynghanol brwdfrydedd eiddgat. Wedi cael heddwch, hysbyswyd taw enw'r buddugwr oedd Mr. E. O. James, M.A., Aberaeron, uii o athrawoii yr Ysgol Ganolradd yno, ne ysgolor Cymreig o gryn fri. Ar ol cyhoeddi Heddwch deirgwaith, caed anerchiadau gan y beirdd canlynol Tir- gwyn, Sioronwy, leuan Arthen, Simon, Cyw Cilie, Dai Owen ac Ap NicoL Wele un neu i ddau;- Gwrhydri yng Nghaerwedros Wna'r Macwy ieuanc oed, Yn nerthol o Glynarthen Fe ddaeth ar ol y coed Bu'n tramwy'r tymor garw Yng nghwmni'r awen lan, Os gaeaf oedd y testyn, Mae'r haf o fewn ei gan.- Dai Owen. Eto I fywyd tecaf Awen-hwn a roes Ei ddawn rhwydd yn llawen Un o wyrthiau Glynarthen Yw y bardd farnwyd yn ben.—Tirgwyn. I ddibennu'r seremoni, rhoed can y cadeirio gan Mr. Evan J. Jones, Glynarthen, ac arwisg- wyd y cadeirfardd gan un o'i ddisgyblion, Miss Lizzie Jones, Cwm Cynon, a'r Ysgol Ganolradd, Aberaeron. Traethawd, Cadw Ty goreu, gyda geirda'r beirniad, Miss Marie Jones, Felin Bontbren. Pedwarawd, Pwy sydd yn y nef yn byw ? Parti Caer- wedros (Mr. Sam Jones). Scarfi weu Miss Nellie Williams, Cyffionos. Parti cy- mysg, Y Bore Bachj"; Caerwedros, Mr. Evan Parry yn arwain. Cor meibion Cross Inn (Mr. Dl. Evans). Llongyfarchwn yr adroddwr enwog o Tal y bont, Ernest Williams (Guilym Lerry) ar ei lwyddiant yn cipio'r gadair dderw gerfiedig am yr her-adroddiad goreu yn Eisteddfod Bethel, Tal y bont, Ceredigion. Cafwyd cystadleuaeth ardderchog iawn, a chafodd y dorf wledd dda gan bob un o'r adroddwyr. Y beirniad oedd Deiniol Fychan, Bangor.— J.M.D.