Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

WRTH BROCIO'R TAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WRTH BROCIO'R TAN. A'r procer bach pig cam. YN AIL I AGOR CAPEL.-Gwan fu naasnach lechi'r Gogledd ers y rhawg,—gwan iawn ond dyma lygedyn o gysur bach o Sir Gaernarfon, sef fod Chwarel Glan'rafon, oedd ynghau ers blynyddau, bellach i gael ei hail agor. Ac i bobl Ffestiniog a Llanberis a Bethesda a Nantlle a'r Waen fawr, ac yn y blaen, y mae agor chwarel newydd yn nesaf peth i agor capel newydd. Agor cinema sydd oreu gan weddill pobl Cymru a Lloegr mewn Ila-we-r man, mwya cvwilydd iddynt EITHA' DAU.-Clywr, fod y Parch. 0 Jones, Bethesda (Aber Pennar cyn hynny, I Mountain Ash os gwell gennyeh ai drais- ¡ enw Saesneg), a'r Parch. Gwylfa Roberts, Llanelli, a'u bryd ar gael taith bregethu'r haf nesaf yma drwy'r Unol Daleithiau. Cwyno y mae amryw byd o ohebyddion Y Drych fod Die Shon Dafyddiaeth a bydolrwydd yn parlysu a chrino llawer o eglwysi Cymreig yr America, a'u bod yn bwrw'r Gymraeg o'r naill du dyma eithaf dau i'w hail fedyddio a throchiad ym mor yr Hen Wlad. 'Does dim llawer o ddoleri yng ngwaelod ei llyn hi Jiac oes, mae'n wir, ond yfmae yno lawer mwy o berlau'r ddoethineb sy oddiuchod, serch hynny. I CERDDOR BRYN SEIONT.-Cleddid Mr. J. P. Williams, Bryn Seiont, Pwllheli, ddydd Sadwrn diweddaf. Efe'n un ar ddeg a thrigain oed, ac yn bur hysbys drwy Leyn ac Eifionydd, ac ymhellach na hynny, fel bancer a cherddor, a fo arweiniai gor buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 1875, os gellid galw'r Eisteddfodau hynny'n rhai cenedlaethol. Y mae efe'n un o Gor Mawr Gwynfa bellach, a'n Brawd Hyna' sy'n arwain hwnnw ac yn eu dysgu i ganu Anthem yr Oen heb y gwall na'r drygswn lleiaf, a'r hen gor yn dyblu a threblu'r Nyni a Olchwyd mor gryf nes crynnu'r Cread. Gwyn fyd aelodau'r Cor Mawr Fe adwaen- wn i ami un ohonvnt, tri'n enwedig—Mam a ')Thad a Leusa Bach. $ BACHU'R BWTHYN.-Yng nghyfarfod Cyngor Dosbarth Rhuthin yr wythnos ddi- weddaf, cwynai Miss Davies-Cooke.merch Plas Gwysaney, ar odre'r Wyddgrug, fod bythynod mor brinion ac anodd eu cael i'r gweithwyr a brodorion y tir a hynny, yn un peth, am fod marsiandyddion cefnog Lerpwl a Manceinion yn eu llygadu a'u llogi; ac heblaw byw yn- ddynt eu hunain am hyn a hyn o'r haf, yn eu gosod wedyn i'r ucha'i gynnyg, ac yn gwneud arian gloywon yn y ffordd honno. Dywedodd fod cryn ddeunaw neu ugain o dai felly yn Llanferres, sef ym meddiant barcutod pluog Lerpwl a Manchester. Diolch i ferch Gwys- aney am godi'r peth i'r gwynt; fe wrandewir llais y plas yn gynt na llais y pentref ac y mae eisieu rhywun i sbardynu'r Cynghorau i achub cam y gweithiwr a'r llafurwr, yn lie edrych arno'n cael ei daflu ar y clwt, heb unman gwell na gw&l gwningen i glwydo'i deulu ynddi. Y mae ar Gynghorau'n gwlad ofn mawrion y motors yma'n enbyd, ac a red- ant i loyw'i esgidiau a glanhau ei gerbyd er mwyn rhyw bitw bach o gil dwrn dirmygus ac am wn i na fodlonai ami i aelod ohonynt i hongain drwy"nos oddiar fachau'r lobi fel c6t, er mwyn i'r dyn diarth codog a segurog gael lie a gwely CAPEL YN CAEL CWYMP.—Mor debyg i hanes Adda'n tad yw hanes ambell gapel yn y dyddiau cinemaidd hyn, sef cael deohreu'n newydd ac yn lan mewn gardd o le, ac yna cael cwymp a'i ddarostwng i oferedd. Gwelsom hanes y Victoria Hall, Drenewydd, Sir Drefaldwyn, yn mynd dan forthwyl yr arwerthwr, ond yn cael ei thynnu'n ol pan gafodd y cynnyg uchaf ar Y,850, Yn addoldy i'r Bedyddwyr y codwyd hi ar y cyntaf; wedyn aeth yn eiddo Arglwydd Joicey, pan oedd hwnnw'n Rhyddfrydwr a chyn iddo gael y cwymp i'r trobwll Toriaidd ac ynddi hi y cynhelid cyrddau mawr y blaid Ryddfrydol. Y perygl bellach ydyw iddi hi gael cwymp is fyth, a syrthio i fod yn ddim gwell na neuadd i ddangos y lluniau byw yn lie i ddangos a chymell Gwaredwr byw. Y mae gagendor anfeidrol rhwng y ddau ddangos. Cwymp felly gafodd hen addoldy Bedyddwyr Cymraeg Birkenhead yn Price Street; ac y mae creith- iau'r cwymp ar ei dalcen, heb son am y newid erch svdd arno'r tufewn. p GOREU MORWYN CYMRAES.—Bu Miss Elizabeth Morgan, un o hen forynion y Frenhines Victoria, farw'r wythnos ddiweddaf yn ddeg a phedwar ugain oed. Yn Neytheur, nid nepell o Groesoswallt, yi ganed, yn 1823; aeth i lawr i Lundain yn 1836, at fodryb iddi, honno hefyd yn marw'n ddeg a phedwar ugain Cafodd le yn y gegin frenhinol yn 1866, ac a giliodd i fyw ar ei blwydd-dal yn 1892, ar ol bod yn ben-teulues (housekeeper) ym Mhlas Frogmore. Yr oedd yr hen Gymraes yn bur uchel yn Ilawes Victoria, ac a gymrid gyda hi i bob man lle'r elai hi a'i hosgordd led y byd. No Welsh need apply fyddai'r hen eiriau cas a hyll eu hawgrym a welem yn y papurau Saesneg yma er ys talm, wrth ofyn am forwyn ond diolch byth, y maent wedi diflannu ers blynyddau, a mwy o ofyn am ein g'nethod glan bellach nag am enethod yr un genedl braidd. A dyma bluen arall i'w rhoi yn het y genethod gweini mai hwy, yn ol eu cyflogau crintach, sy'n cyfrannu fwya o neb at yr Achos Goreu. i@ LLANDUDNO DDIS A BOTH,—Wrth bregethu yn Siloh, Aberystwyth, yr wythnos ddiweddaf, gofidiai'r Parch. H. Barrow Will- iams, Llandudno, fod llanw anghrefydd a chware yn llifo mor gryf dros y wlad, ac fod mwy o fri ar bel nag ar bulpud yng Nghymru heddyw. Ac ebr y fo, ymhellach Ymdrechais fy eithaf bregethu sancteidd." rwydd y Sul yn Llandudno acw, ond 1 ddim diben, y mae'n amlwg, canys fe werthir Dydd yr Arglwydd bob yn bwt a darn i'r ymwelwyr nes nad oes ynO bellach ddim byd teilwng o'r enw'n aros." Ac y mae hyn yn peri i ddyn gofio sylw'r llofrudd caled hwnnw a atebodd fel hyn pan ofynnwyd iddo os oedd ganddo air i'w ddweyd cyn mynd i'w benyd hir :— Oes," meddai'r gwylliad caled, y mae gennyf gydwybod a werthwn i chwi'n rhad 'dyw hi ddim gwaeth na newydd, achos ddefnyddiais i erioed mohoni." Ac y mae graen go dda ar gydwybod gwerthwyr Saboth Llandudno, feddyliwn i. RHESWM DA PAM.-M-t. J. M.-Robert- son, ysgrifennydd seneddol Bwrdd Masnach, oedd y gwr gwadd yng nghyfarfod Rhydd- frydol Colwyn Bay ddydd Mercher diweddaf, ac ebe fo, gan droi at Syr Herbert Roberts :— Mewn cyfarfod yn Llundain y cwrddais i o gynta rioed, ac yn siarad dros bobl yr India. Ac yr oedd hynny'n ddigon o sicrwydd i mi y byddai Syr Herbert yn rhwym o bIeidioYmreolaeth i'r Werddon (ac i Gymru hefyd, Mr. Robertson, os gwelwch yn dda), canys ymddengys i mi fod pobl ddwyieithog yn ablach i osod eu hunain yn lle'r ochr arall. Diffyg parodrwydd i wneud hynny oedd yr achos am y cyndynrwydd pen dew i ganiatau mesur o gyfiawnder a lies cenedlaethol i'r Gwyddelod." 'Does neb yn Ewrop mor uniaith a'r Saeson, a dyna ydyw un pam mawr eu bod mor gyn- dyn i gydymdeimlo, eu bod mor ddwl i ddirnad, nac yn methu'n lan a deall pa fusnes sydd gan neb i feddu iaith na delfryd yn y byd ond eu hiaith a'u delfryd hwy. Ond fe bwyir hynny i'w pen yn y man. Peth dwfn iawn yw'r cenedlaetholdeb yma, welwch chwi a dyna sylw da a glywais ar ol un o broffeswyr Colegaidd Manchester yna, sef fod yn annichon i athro mewn Ysgol Sul nac ysgol bob dydd ddylanwadu'n iawn ajjhollol drwyadl ar ei ddisgyblion oni bo'n deall eu hiaith ac o'r un genedl a hwy. Dyna i chwi Feddyleg go graff ac eithaf gwir hefyd, canys oni wn i fy hun am ami i deimlad ac ias, yn y pen a'r galon yma, na fedr neb mo'i ddeffro a'i gael i' wyneb ond Hoelion Wyth eirias yr Hen Wlad ? CYDWYBOD A BARA 'CHAWS.—Syn meddwl fod naill hanner ysgrifenwyr yr erthyglau gwleidyddol sydd yn swyddfau papurau Toriaidd y deyrnas, yn Rhyddfryd- wyr rhonc gartref ac yn eu calon ac fod naill hanner y lleill sy'n sgrifennu'n gyffelyb yn y swyddfau Rhyddfrydol, yn Doriaid noeth- lymun yn eu cartref a'u calon hwythau, ac yn gorfod sgrifennu'n gwbl groes i'w cydwybod a'u hargyhoeddiadau. Y chwi Gymdeith- asau'r Gaeaf, dyma i chwi gneuen i'w thorri, os medrweh; a phan f'och am ddadlu'r ddadl, dyrwch i mi wybod, fe hoffwn eich clywed yn torri'ch daint ar blisgyn mor galed. Gwaith go anodd ac amhosibl ydyw canu dau lais, medd y cantorion yma i mi; ac er fod pobl y papurau'n ymddangos fel pe baent yn medru gwneud hynny, nid am yn hir y medrant, canys y mae'r strain foesol yn ormod i neb ohonom ac er cryfed llais Bara 'Chaws yr ochr yma, Ilais Cydwybod yn unig ddeil hyd i'r Ochr Draw, a bydd hwnnw'n uchel enbyd pan gyrhaeddo'i top note Fore'r Farn. TJ* TROCHIAD CYMREIG.-Mehefin yr 17eg nesaf y byddis yn Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1915 yn Aberystwyth. Gobeith- io y caiff y dref ddysgedig drochiad dwfn o Gymraeg y diwrnod hwnnw, nes na sycho ac na Seisnigo hi ddim am y rhawg. Un o'r sylwadau goreu glywais i adeg y Diwygiad diweddaf ydoedd o weddi rhyw Gymro yng ligwlad y Saeson. 0 Arglwydd," meddai'r hen wr, "dyro dywalltiad Cymreig inni or Ysbryd Glan." TRO TLWS.—Y mae'r Hybarch Dclr. Pan Jones, Mostyn, er gwaetha'r pwn pedwar ugain sy'n pwyso arno, wrthi'n cyfarch cyfres o gyfarfodydd ar Bwnc y Tir draw ac yma drwy Sir Fflint. Y fo biau'r pwnc hwn yn anad neb yng Nghymru braidd, ac un galluog a gwydn iawn ydyw'r Dr. Hir oes iddo a chaffed fyw i weld y tir yn eiddo'r bobl, yn lie bod ym mhalfau ewinog rhyw ddyrnaid o ddynion. Ar ol ysgrifennu'r uchod, dyma weled hanes tro tlws iawn a gwerth ei godi, sef gwaith clorigion Sir Fflint, yng nghyfarfod y ddeoniaeth yr wythnos ddiweddaf, yn cofio a pharchu cymaint ar Dr. Pan Jones. Darllen- ai'r Parch. Davys Jones, curad Treffynnon, bapur ar Agwedd yr Eglwys at Ymneill- tuaeth o hyn ymlaen,pap-Lir caredig iawn a sug yr Ysbryd yn ireiddio'i fraw- ddegau. Wrth siarad ar ol,cyfeiriodd y Parch Vaughan Jones (ficer Mostyn) at Dr. Pan-ei fod yn gwla, yn gwyro tan bwysau'i bed- war ugain, ac wedi ei dlodi gan y cyngaws cyfraith fu arno beth amser yn ol. Ar hyn, dyma glerigwyr ereill yn cynnyg a chefnogi fod cychwyn cronfa i'w gynorthwyo cyf- rannodd amryw yn y fan a'r lie, a diau mai tysteb a phwrs fydd ffrwyth y papur a roes broc i deimladau da clerigwyr Sir Fflint. Tipyn mwy o eli cariad fel hwn fuasai'n cau'r briw Dadgysylltiol yma, yn lle'r halen a roir arno i'w agor a'i ail agor mor lydan ganym- laddwyr o'r ddeutu. TRYMA' PWYS:' PWTS MEDD- W L.-Caed Owen Jones, chwarelwr 56a.m oed o Fynytho, Lleyn, wedi boddi yn yr afon Soch, ddwy filltir o'i gartref, y dydd o'r blaen. Aethai i gredu fod y canser arno, or gwaethaf gair y m^ddygon nad oedd dim o'r fath beth ac a aeth mor isel o'r herwydd nes methu dal. S YPH WCH, DA 017 W.1 1-Bai rnawr y Cymry, ebe'r Pr iff. D. Jenkins, Mus.Bac., yn y Cerddor, ydyw bod yn rhy swil. Eithaf gvrir, ac wedi plygu a phlygu.i bawb mor hir nes fod y spine disease wedi magu arnom. Clywais un o broffwydi Cymru, sy tuag Aber- ystwyth yna, yn dwoyd dro byd yn ol fod pob Cymro'n dod i'r ddaear a'i gap yn ei law a'i fys yn ei geg, ac yn gofyn i'r Sais cyntaf gyfarfu, Sgwelweh chi'n dda, Syr, ga'i ddod j'r bydyma ? Ybabimawr Daliwn i sythu a sbio'n ddwfn ym myw llygaid y byd, ac fe ddaw'n hasgwrn cefn i'w le bob yn dipyn, 4- TORI SY'N MEDRU CYMRAEG !— Y mae Mr. Hamlet Roberts, Pen y groes, Sir Gaernarfon, wedi cael ei ddewis yn yrilgoisydd Toriaidd dros fwrdeisdrefi Sir Ffiint erbyn yr etholiad nesaf eto. Y fo orchfygwyd gan Mr. T. H. Parry y tro diweddaf. Yr unig I wahaniq,eth-a gwahaniaeth go dda ydyw- rhwng "Mr. Roberts a gweddill aelodau ac ymgeiswyr Toriaidd Cymru ydyw hwn ei fod o yn medru siarad Cymraeg croew a naturiol, ac heb yr h^n lediaith lurgyn honno sy mor atgas i glust dyn wrth ei chlywed oddiar wefus ysweiniud clapiog y plasau a'r cestyll yma. •<?>- SBIWCH YM MYW El LYGAD.- Gwelwn fod y Parch. R. Gwylfa Roberts, Llanelli, yn gorfod rhybuddio darllenwyr y Tyst rhag rhyw walch el o gwmpas gan gael arian o bobl ar sail ei fod o'n frawd iddo fo. Os daw heibioch, sbiwch ym myw ei lygad ac os na bo tipyn o sglein gallu ac athrylith ynddo, chwi ellwch benderfynu nad yw'r trafl twyll odrus ddim yn frawd i Wylfa, beth by-tinag. GOREU FFORDD: FFORDD BEREA. -Mewn cyfarfod o aelodau Eglwys Fedyddiol Berea, Crie;eth-a fugeilir heb ddimai o dal ers tros drigain mlynedd gan Mr. Richard Lloyd, ewythr a magwr Mr. Lloyd George— hysbyswyd fod y mil punnau dyled wedi eu talu bob dimai, ac fod aeithbunt a thrigain wrth gefn. A dywedid ymhellach fed y mil wedi eu hel bob sofren gan yr aelodau eu huoain, heb geiniog gan neb tuallan i'r eglwys, ac heb orfod troi at y basar na'r un o gastiau'r byd. -0-

[No title]

Advertising

Ffetan y Gol.