Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
CafFaeliad David Street.
CafFaeliad David Street. Y Parch. D. D. WILLIAMS. FEL y dywedem yr wythnos ddiweddaf, y mae' gwr uchod, sef bugail eglwys Moss Side, Manchester-hen gorlan y diweddar Ddr. Wm. James—wedi cydsynio a'r alwad o David Street, Lerpwl, yn ddilynydd y Parch. John Roberts, M.A., Caerdydd. Cerrig Milltir ei Yrfa. Brodor o Groesor, ar lothrau'r Moelwyn, yw Mr. Williams, ac wele gerrig milltir ei yrfa fel y'u cefais o Trem ar Groesor, llyfryn bacli diddorol iawn y Parch. H. Levi Jones, sydd yno'n bugeilio'r praidd Methodistaidd Myned i Athrofa'r Bala, gan ennill ysgolor- iaeth o ugain punt, Medi, 1883 ennill ysgol- oriaeth i fyned i Goleg y Brifysgol yn Aber- ystwyth, 1886; myned i Goleg y Brifysgol, yng Nghaerdydd, 1889 ei yrfa athrofaol ddisglais ar ben oherwydd gwendid iechyd, 1890; derbyn galwad i Beniel, Ffestiniog, 1890 ei ordeinio, 1891 derbyn galwad gan eglwys Saesneg Oswald Road, Croesoswallt, 1896; tra yno, bu'n llywydd Henaduriaeth Maldwyn ac Amwythig, hefyd yn llywydd ac ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Croesoswallt derbyn galwad gan eglwys Moss Side, Manceinion, yn ddilynydd i Dr. James, 1906 traddodi cyfres o ddarlithoedd ym Mhrifysgol y ddinas honno ar Lenydd- iaeth Cymru yn y ddeunawfod ganrif," 1907 a 1908; ym Manceinion bu'n llywydd—y Cyf- arfod Misol, 1907 a 1913; y Gymdeithas Genedlaethol, 1908 hyd 1911 Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, 1910 hyd 1912; Cyngor Eglwysi Rhyddion Seisnig, 1912 a 1913; Is- lywydd Undeb Cynghorau yr Eglwysi Rhydd- ion, 1912 a 1913. Rhoes y Gymdeithasfa le anrhydeddus iddo. Penodwyd ef ddwywaith i draddodi anerchiad yn y Sasiwn. Rhoes y cyntaf yn Rhosllanerchrngog, a'r ail yn Catherine Street, Lerpwl. Bu hefyd yn arholwr ymgeiswyr am y weinidogaeth, 1909 a 1910. Y mae Mr. Williams yn anterth -u ddyddiau a'i alluoedd yn sad a diogel ei farn ar bethau cyfundebol ac wedi llenwi ei amryfal swyddi gyda gofal a doethineb mawr. Y mae'n lienor dyfal ac yn ckaethodwr gwych, ac yn hollol ar ei ben ei hun fel traethodwr Eiisteddfodol. EiGynyrcbioa Llenyddol. Dyma hwy'n Hawn ,Huw Mor,us Ei Waith a'i Amserau. Cyfan- iadsoddau Buddugol Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod (I. Foulkes, Swyddfa'r Cymro ),- Geiria/lur Eqlurhaol o eiriau allan o Weithiau Dafydd ab Gwilym, Iolo Ooch, a Thudur Aled. Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1903. Cy- hoeddwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod dan y teitl Geirfa'r Prifeirdd (Hugh Evans, swyddfa'r BRYTHON).—Hanes Teulu Aber- pergtvm, gyda chyfeiriad arbennig at gysyllt- iadau y teulu a Uenyddiaeth Gymreig. Eis- teddfod Genedlaethol Aberpennar, 1915.— Dyfyniadau Lien Cymru. Eisteddfod Genedl- aethol Caernarfon, 1906. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod (Swyddfa'r BRY- THON).-F,frydiaeth Oymharol o'r Testament Newydd Cymraeg (a) yng nghyfieithiad Salesbury a'i gydweithwyr (b) yng nghyf- ieithiad diwygiedig yr Esgob Morgan ac (c) yn niwygiad pellaeh yr Esgob Parry. Eis- teddfod Genedlaethol Abortawe, 1907.— Beirdd y Berwyn. Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1908. Cyhoeddwyd gan Gym- deithas yr Eisteddfod (Swyddfa'r BRYTHON). Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad. Eisteddfod Genedlaethol Llan- gollen, 1908. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod (Swyddfa'r'BRYTHON).-Eglur- had ar Enwau Lleoedd yn Sir Fflint. Eis- teddfod Genedlaethol Llundain, 1909. Twm oV Nant, Eisteddfod Genedlaethol Colwyn Bay, 1910 (Jarvis & Foster, Bangor). Dylanwad y Rhufeiniaid ar Iaith, Gwareiddiad, a Gwaedoliaeth y Cymry. Eisteddfod Genedl- aethol Colwyn Bay, 1910. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod (Swyddfa'r BRY- THON). Addysg Cymru yn y Canol Oesoedd. Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1911. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod (Swyddfa'r BRYTHON). Cyfrifoldeb Moesol Dinasyddiaeth yr Oes. Eisteddfod Genedl- aethol Caerfyrddin. Cymry Amlwg hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif. Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1912. Moesau ac Arferion Cymru yn ol y Penhillion Telyn. Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1912. -ltglurhad ar Enwau, Lleoedd Sir Ddinbych, gyda chyfeiriad arbennig at enwau sydd yn llygriad o enwait Oymreigneu Seisnig. Eis- reu Seispig. Eis- teddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1912.—- Gweithiau ac Athrylith Islwyn. Eisteddfod Genedlaethol Abergafenni, 1913.—Eglurhad ar Enwau Lleoedd Cymrmg. yn Sir Fynwy a'r ddwy Sir Seisnig a gyffwrdd a hi. Eisteddfod Genedlaethol Abergafenni, 1913.-Cyntry Entoog y Cyfnod Tuduraidd a'u dylanwad ar hanes eu hamserau. Eisteddfod Gadeiriol Mon (Porthaethwy), 1913. Cyhoeddwyd gan Bwyllgor yr Eisteddfod (W. 0. Jones, Llan- gefni). Disgwylir ef yma rywbryd yn Ebrill ac y Eftae'r eglwys, ei hieuenctyd a'i rhai mewn oed, yn edrych yn eiddgar amdano. Dan deimlad amlwg sydd yn David Street ar hyn o bryd- hiraeth a thristwch wrth golli Mr. John Morris, a hyder llawenydd wrth ddisgwyl y Parch. D. D. Williams. 1 --0-
Basgedaid o'r Wlad. -
Basgedaid o'r Wlad. LLAN DEGLA.-Ion. 26, yn ddisymwth, bu farw y brawd annwyl Mr. John Evans, Green Lodge, yn 67 mlwydd oed. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Cadwaladr Evans, Pen y Stryt ac fel ei dad, bu'n ddiacon am flynyddoedd yn yr Eglwys Annibynnol. Enillodd le parchus yn ei ardal enedigol, ac yn enwedig yn yr eglwys, a bu yn brydlon a ffyddlon i bob moddion am amser maith. Iddo ef 'doedd le'n y byd yn debyg i Landegla, a'r llecyn mwyaf cysegredig ar y ddaear ydoedd capel Pen y Stryt. Y dydd Gwener canlynol aed a'i weddillion i fynwent Pisgah, pryd y daeth tyrfa o bobl o bell ac agos i ddangos eu hedmygedd ohono. Gwasan- aethwyd wrth y ty ac yn y capel gan y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, a thalwyd teyrnged uchel o barch iddo ae hefyd gan Mr. Hugh Roberts, Llangollen, un o'i gyfoedion, a Mr. Meredith Jones, diacon hynaf yr eglwys. Sylwodd Mr. Thomas fod eglwys Pen y Stryt heb godi llawer o bregethwyr na dynion enwog, ond ei bod wedi magu amryw o ddynion defnyddiol, a chyfeiriwyd at y di- weddar Mr. David Jones, Wavertree, Liver- pool, fu yn ddiacon am flynyddoedd yn Grove Street Mr. Edward Davies a Mr. Moses Evans, fu yn ddiaconiaid yn eglwys Annibynnol Kensington, Liverpool-yr olaf yn frawd i'r ymadawedig, ac i gyd bellach wedi cael eu galw oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Yr oedd y perthynasau canlynol yn yr angladd Mrs. JbJvans (gweddw), IVln J olin -Farry -Evans, Walter Evans, Goronwy C. Evans, Ivor Alun Evans (meibion), Mrs. Hugh Davies (Carrog), Mrs. Thomas Hughes (Rhostyllen), Miss Adelaide Evans, Miss Ceturah Evans a Miss Gwladys Evans (merched), John E. Davies a Mary Gwyneth Davies (wyrion), Mr. Evan Evans, Llety (brawd), Mrs. Barnard, Hafod dafolog (chwaer), Mri. Thomas Hughes a Hugh Davies (meibion-yng-nghyfraith), Mr. Robert H. Evans, Liverpool (brawd-yng- nghyfraith), Mr. a Mrs. J. Hughes (Llan- gollen), Mri. J. C. Evans (Liverpool), John Alun Evans, Henry Evans, John Williams, Meredith Evans, Mr. a Mrs. John Hughes, Miss Miriam Williams, Miss Alice Evans, Mr. a Mrs. Abraham George, Mrs. Henry Evans, Mr. Barnard, Mrs. Edwards, Mr. Hugh Hughes, Mr. a Mrs. Wilcox, Mr. a Mrs. Will- iam Hughes. Yr oedd yr arch wedi ei gor- chuddio a phlethflodau oddiwrth Mrs. i)ew- hurst, Bodidris Hall; Mr. a Mrs. Prescott, Liverpool Post Office Staff, ac hefyd oddi wrth eglwys Annibynnol Southport. Bydded yr Arglwydd yn dyner o'r weddw a'r plant yn eu galar. s 0 LAN EL W Y.-Daeth nowydd yma ddydd Gwener diweddaf fod Mr. J. Arthur Hughes, y cyfreithiwr—sef mab y diweddar Barch. J. Elias Hughes, eglwys M.C. Wilton Square, Llundain—wedi cael ei ladd ym mrwydr Soissons, Ffrainc. Lladdwyd Albert, mab Mr. John Jones, y paentiwr, yn Ypres mab i Mr. Joseph Ainsworth wyr i Mr. David Jones, y paentiwr a chlwyfwyd Robert, brawd Mr. Ed. Barlow, y crydd. Ymunodd cant oddiyma a'r Fyddin. CYF ARFOD CHWARETR ANNIBYN- WYR DINBYCH A FFLINT (Cyjundeb Dwyreiniol).—Cynhaliwyd yr uchod yn Rhos y medre, lonawr 26 a 27ain. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch. Peter Price, D.D., Rhos, ar Hawliau Duw ar oreu dyn. Am 10 bore dydd Mercher, cynhaliwyd cynhadledd, tan lywyddiaeth Mr. John Roberts, Rhos, y llywydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. J. Harrison, Coedpoeth, ac aed trwy ra.glen y cynhadledd 1, Ad- roddiad y Pwyllgor Cenhadol. 2, Adroddiad Pwyllgor yr Ysgol Sul a Dirwest. 3, Ad- roddiad gan Mr. T. Lloyd Williams, Wrec- sam, fel cynrychiolydd ar bwyllgor y Ceinied- ydd. 4, Adroddiad Mr. Howell V. O. Cook, Gwrecsam, o weithrediadau pwyllgor prisio eiddo'r Cyfundeb. 5, Anerchiad gan Mr. D. T. Davies, prisiwr y Llywodraeth dros Gymra. 6, Diolchwyd i'r brodyr i gyd, ac i Mr. D. T. I Davies am ymweled a'r Gynhadledd, ac am ei eglurhad ar ddeddf prisiant. 7, Ar gyn- hygiad y Parch. J. H. Richards, Talwrn, a Mr. Wynn Evans, Glynceiriog, pasiwyd pleid- lais o gondemniad ar ymyriad Syr H. Lunn mewn perthynas a Dadwaddoliad. 8, Ar gynhygiad y Parch. J. Talwrn Jones a chefn- ogiad Dr. Peter Price, pasiwyd Fod y Gynhadledd yn llawenhau oherwydd y cwrs sydd wedi ei gymryd yn Rwsia a Ffrainc er lleihau ymyfed. Ac yn galw ar Lywodr- aeth Prydain i roddi effaith i farn fynegol y Llywodraeth sir bwnc dirwest. 9, Trefnwyd i'r cyfarfod chwarter nesaf fod yn Nhan y fron,—y Parch. H. W. Parry, Rhos y medre, i bregethu ar "Ddirwest." 10, Derbyniwyd Mr. W. E. Jones, Rhos, yn bregethwr rheol- aidd i'r Cyfundeb. Siaradwyd am gym- hwyster Mr. Jones gan y Parch. W. Daniels, Tan y fron, fel un o'r arholwyr a chan y Parch. R. Roberts, Rhostyllen. Yn y "prynhawn, pregethwyd ar y Genhad- aeth gan Mr. David Jones, Hartsheath, a chaf- wyd anerchiad gan y Parch. R. Griffiths, cyn- genhadwr o Madagascar. Corwen yn awr. Yn yr hwyr, pregethodd y Parch. J. Talwrn Jones, Brymbo, a R. Griffiths, Corwen. Gwnaeth eyfeillion Rhos y medre eu rhan yn odidog er croesawu'r ymwelwyr, a diolchwyd yn gynnes iddynt. GOREU C ROE SO CROESO BETHE8- DA.Caniatewch ofod bychan i miroitipyn o hanes ymweliad milwyr Llandudno a'r ardal hon. Edrychem ymlaen gyda diddor- deb neilltuol am ddydd Gwener diweddaf ers I wythnos, canys yr oedd tua 250 o filwyr Llan- dudno sydd ar daith trwy Arfon i gyrraedd yma tua 4 ar gloch y prynhawn. Yr oedd yma baratoi o ddifrif wedi bod ar eu cyfer yr ,,r d al yi-i friti ardal yn frith o fanerau o bob lliw a Hun; High Street fel pont, y banerau amryliw yn croesi'r heol, o'r naill ochr i'r Rail, a channoedd o bobl a phlant yr ysgolion yn sefyll bob ochr i'r ffordd am tua milltir o ffordd, yn disgwyl y glewion. Aeth seindorf arian Bethesda i'w cyfarfod a thua hanner awr wedi pedwar, dyma hwy'n dod, yn orymdaith fawreddog, a'r seindorf yn canu Gwyr Harlech. Yr oedd yr olygfa yn un lawen, a phrudd hefyd. Wrth reswm, edrychai'r bechgyn dipyn yn flinderog, ond yr oedd gwen ar wyneb pob un. Pan I gyrhaeddwyd y Police Station, ffurfiodd y I milwyr yn gylch, a chafwyd anerchiadau gan I amryw o swyddogion y Fataliwn, yn eu plith fab yr annwyl Mr. Lloyd George. Yna ym- I wasgarodd y gynulleidfa. Aeth y milwyr I bob un i'r lie oedd wedi ei neilltuo iddo i gysgu y noson honno yna, am 6 ar gloch, daeth y milwyr i'r Neuadd Gyhoeddus, i fwynhau pryd o fwyd na welodd neb sy'n fyw ei well. Deallais fod cyngerdd i fod yn „ Neuadd wedi to, a phan euthum i yno a'r milwyr bron gorffen bwyta, meddyliais y buasai'r cyngerdd yn dechreu ar unwaith ond yr oedd yno laweroedd eraill yn disgwyl am damaid, sef y merched oedd vn gweini ar y milwyr, -? chaw- sant hwythau eu diwallu. Ac yn wir, fe'i haeddent, am y gwaith godidog a wnaethant. Dacw'r Prifardd Job ar ei draed, i ofyn am Heddwch ? ac yng nghanol y laerw,-rhai yn bwyta, eraill yn chwarae cardiau, a'r Ileill yn ysmygu,—dyna'r seindorf yn canu cyrn. Yna canodd Mr. Rt. Davies, Braichmelyn, Cymru. Cafwyd can gan Mr. Willie Griffith, un o'r gatrawd canodd parti Mr. Bangor Jones Land of Freedom. Cafwyd adroddiad gan Mr. Rd. Evans (Alaw Ffrydlas), How Bill Adams won the battle of Waterloo. Arferwn i feddwl mai'r Duke of Wellington enillodd frwydr Waterloo. Yr oedd cymaint o dwrw yn y Neaudd fel y collais y rheswm oedd gan- ddo dros ddweyd mai rhyw Bill Adams" enillodd Waterloo. Can gan y Preifat Barrett. Chwaraeodd hwn y gan honno a elwir Tipperary, ac ymuncdd y gynulleidfa yn y corws. Dywedwch chwi a fynnoch, yr wyf fi o'r farn fod hyn yn b th cywilyddus, mewn gwlad Efengyl. Meddyliweh am funud -miloe,dd o'n cyd-ddynion druain yn cael eu llofruddio'n ddidrugaredd ar faes y rhyfel erch, a ninnau'n ymfoddhau mewn canu rhyw sothach arwynebol fol It's a long way to Tipperary. Buasai'n llawer harddach i ni ganu <?6MtM mwyn, ?'??/ dew gysflodau'r nef, 0 arwain m:, etc. Lieutenant Roberts oedd y nesaf, yn eanu What do you want to talk avout it for ? Can gan Miss Ivy Jones, Ban- gor. Anerchiad godidog gan y Canon Jones Glanogwen. Canodd Mr. Wm. Roberts, Bryn- tirion, a Dr. David Davies, Tregarth, y ddeu- awd, Mae Cymru'n barod ar y tvys. Yna caf- wyd canu gyda'r tannau gan y cyfaill diym- hongar Mr. David Oliver, Gwernydd. Canodd Nis gwn i prun am hynny yn hynod o swynol. Da iawn, Dei. Cafwyd anerchiadau gan amryw o'r gatrawd, a chanodd parti Bangor Jones y Laughing Chorus. Canwyd pedwar- awd gan barti Mr. Jeremiah Jones, Cilfodan, The sea is England's glory, yn hynod dda. Canodd Miss Elsie Davies, High Street, God save the King, ymunodd y gynulleidfa, ac aeth pawb i'w gadw. Tystiai'r milwyr na chaw- sant well croeso yn unman nag ym Methesda Fawr yn Arfon.—BEN JONES. [Pe gwelsai pobl Bethesda yr Utica Daily Press am Ragfyr 30, 1914, hwy welsent glamp o lun eu cerddor gynt, Mr. E. D. Lloyd, ac ysgrif arno fel un o feirniaid canu Eisteddfod Eawr y Byd, San Francisco, fis Gorffennaf ilegif.-GOL. ] WRTH ALLOR LLANIDLOES.—Vi- ddorol i gylch eang ydoedd yr amgylchiad a fu yng nghapel M.C. Llanidloes, lonawr 14, pryd yr unwyd Mr. Evan E. Hughes, 10 Crosfield Street, Warrington, a Thraeth Coch, Sir Fon, mewn glan briodas a Miss Elizabeth Jones, merch ieuengaf Mrs. Jones, Temperance House, Llanidloes. Cyf- Iwynwyd y briodferch, oedd mewn gwisg hardd o cream satin a pearl trimming, gan ei brawd-yng-nghyfraith, Mr. Dewi Jones, Ton, Morgannwg, a'r morynion oedd Miss Lily Hughes, Orrell park, Liverpool, a Miss Ethel j Jones, Ton. Gweinyddwyd ar y priodfab gan ei frawd-yng-nghyfraith, Mr. H. O. Hughes, Aigburth, Liverpool. Gwasanaethwyd gan y Parch. R. Parry Jones, Warrington, a'r Parch. J. T. Davies, Llanidloes ac wrth yr organ gan Mr. W. Mills. Ar ol y seremoni yn y capel, aed i Neuadd y Dref-(hardd a chyfleus, ac a roddwyd yn anrheg i'r dref gan Mr. David Davies, A.S., Llandinam)—Re yr oedd gwledd ragorol wedi ei darparu. Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd y Parch. R. Parry Jones, y Parch, a Mrs. J. T. Davies, Mr. a. Mrs. H. O. Hughes, Aigburth, Liverpool (brawd-yng-nghyfraith a chwaer y priodfab), Capt. a Mrs. R. Hughes, Liverpool (brawd a chwaer-yng-nghyfraith y priodfab),Mr. a Mrs. Thomas Hughes, Bootle (brawd a chwaer yng-nghyfraith y priodfab), Mrs. Ilarry, Aber- ystwyth (chwaer y briodferch), Mr. Richard Jones, Hyde Park, Llundain, a Mr. J. Jones, Ton (brodyr y briodferch), Miss Hannah Jones, a Miss Catherine Roberts (cyfnitherod), Llanidloes Mrs. a Miss Williams, Mid-Wales House Mr. David Rees, fferyllydd, etc. Yr oedd nifer o drigolion parchusaf y dref ymhlith y dorf oedd yn y capel. Y pwyddion yn werthfawr ac yn llu. Ymadawodd y par dedwydd am lannau'r mor ynghanol dymun- iadau da eu llu cyfeillioit, a'u gweddi am nawdd yr lor drostynt a'i wenau arnynt. CROESO LLANBERIS.—Yr oedd dydd Iau diweddaf yn ddiwrnod mawr yma, gan fod y milwyr sydd wedi bod yn gorymdeithio trwy Sir Feirionydd a Sir Gaernarfon yn ym- weled a'r lie. Goleuwyd coelcerthi ar y mynyddoedd a chwifiwyd baneri ar hyd yr heolydd ac erbyn iddynt gyrraedd yma, yr oedd miloedd yn eu disgwyl. Codwyd esgyn- lawr ar y Square, lle yr oedd tua thair mil o bobl yn eu disgwyl. Llywyddwyd y gweith- rediadau gan Mr. H. Ariander Hughes,yr hwn a groesawodd y milwyr i'r lie, a dilynwyd ef gydag anerchiad ymhellach gan Mr. R. E. Jones. Diolchodd Major Breese yn gynnes am y derbyniad tywysogaidd a roddwyd iddynt. Yn ddilynol, croesawyd y milwyr gyda swper o'r fath oreu, ac heblaw hynny rhoddwyd pecyn o cigarettes i'r cwbl ohonynt. Yna cafwyd cyngerdd o dan lywyddiaeth Mr. J. C. Lloyd Williams, ac arweiniad Llew Tegid. Daeth y Brigadier-General Owen Thomas yma o Landudno, a chafwyd anerch- iad rhagorol ganddo. Tystiai'r milwyr na chawsant well croeso yn unlle.
Advertising
Or EVERY WOMAN QHOULD aenda stamps for our 3a page Illustrated Book 6 containing valuable information how all Irregularitien and Suppression3 may 1.o>e entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicans, as the nly Safe, Sure and Genuine Remedy. Never as the ,,?t),,s?,- ,V of Testimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD fflonMtioase. Otlstoa Lane. LO Telephone Royal 1157 Et4tablished 1864 ROBERT ROBERTS 33 Netfeerfield .Road South Has Propert-y to Let In various partp of tb, own. MortgsfEE erraaged. V«KT*TKIOE MISRT?. Established 1884 Phones 205 SootU 547 T. WOOSfcAM ROBERTS, F.A.I., Estate Agent and Valuer, Pootle (state Office.) Practical, Prompt and Reliable Management of all Classes of Real Estate. 52 STANLEY ROAD, BOOT LB. (2 door4 from Bedford Road). Telegrams Woosna.m, Bootli Tolopbi no No. 790to J. LEWIS JONES. E8TATL GENf A VALUER 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully matured. Rents pe. sonally collected. Purohaaee and Sales ne- gotiated. Mortgagea arranged tod Loauranoe effected. THOMAS JONES, ESTATE AGENTS VALUERS. XNVSST.MAat7,r AWILSIGGS. 67 Lord Street, Liverpool Telephone No. -3868 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgagor arranged. Valuations made. Rente collected. TEL. JI 7 ANFOBM). ESTANtJBH-XD 187:t. Stephen Roberts & Son, M8TATB A0BNT8 & VALUERS 137 Everton Road, Liverpool, Properties carefully managed. Rente per aonally Collected. Purchases and Sab negotist,ed. Mortgages arranged and Is suranoes affected Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Tan Bajtk jM)84 Excellent Building Land for Sale In the Vale of Clwyd. Lewis & Bromley Edwards. ESTATE AGENTS j 102 Kirbdale Rd Li-prrool Tel 1840 Boyal 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., ESTATE AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 188S. Telephone: 567 Royal. Ta!e,?h,ine 8586 Ba nk JONES S HUGHES, EST ATM OFFICE, 13 Whitechapeli Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE. Advances Made. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor 6 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. D. GRIFFITHS & SON, 22IBrech Road and 9 Moss St., Liverpool 'PIANOS AND ORGANS from Bvt1\llth e a, PER? MONTH makers.— TEX.EPHQNK-456 AnfHl A MJXZ X IS S BLANCH4RD PILLS Are imrtvailed fot all Inogolaritlw. &o.. they speoii afford relief and never faU to alleviate all sufferinp, They sapwMde PenNymy&t. Pil Oochia, Bitter Apple. Ac M/t?C/M?C'? are the best of all Pill for Womea." sold In boxee. 1/14 by Boofe* Branebes, TAyteR-o Branches, and all Cbemigta. or poet free, same priee. from LESLIE MARTYN, Lta. Chemist»,34tDai»te^UDeJLoodoa EDIM TALU YMLAEW LLAW. ARIAN YN [FENTBYG (yn ddis'aw bach), n ewn symiau bach nen fawr (heb fod llai na ClO) AR ADDAWEB Y BENTHYCIWR EI HUN. BEFYDLWYD ERS H'MLYNEDD. ac yn awr yn lhot £ 80,000 YN FENTIIYG BOB BLWYDDYN Am daflen a thelerau ymofyner a GEORGE PAYNE A'i fflB. 3 CRESCENT ROAD. RHYL. Á 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL Ar gael bob prydnawn dydd Iau 15 KING STREET, OAER. ??? ..Lost Property.. '? ? UMBRELLAS. f Railway, Tramway, Police ?w! <?? Beautiul UmbreHas & Sunshades, 1 1111 Vlf 1 /4, ??' ??' upwards. WaIHng ;fl L J? Sticks, 2d upwards. These are gwd JBIW IW knock-about umbrellas. £ Northern Umbrella Depot 28a Bold St. upstairs), few doors from Church 84 We undertake to cure your Skin Complaia with our Vansyl Shin Treatment The guaranteed cure for Eczema and all skin affections. YOUR MONEY RETURNED if no cue is effected. Price, 2/6. Trial Size, I I post free. D. H EVANS, M PS, Pharmacist 148 Lodge Lane, Liverpool. If you want The most Comprehensive POLICIES A" THE BEST TERMS. write for particulars to The Gresham LIFE, fiRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Head Office: St. Mildreds House Poultry. LONDON. E.G. Branch Ornce I I G i 4, Exchange S'lds I LIVERPOOL JAMESJH. SCOTT General Manager. Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS GEE, — GAN THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghy ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn llian hardd t 6/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cvf., Dinbych L Iyfrou Cyfrifon 11 Ysgol Sul. LLYFR YR YSGRIFENNYDD, gyda da- lennau byrion i wasanaethu am flwyddyn heb ail ysgrifennu yr enwau, dwy golofn ar gyfer pob Sul crynhodeb ar ddiwedd peb chwarter, a nifer o ddalennau ar y diwedd gadw cofnodion. Rhif 1—Ar gyfer ysgolion yn cynnwys 20 o ddosbarthiadau 1/9 Rhif 2-35 o ddosbarthiadau 2/6 Rhif 3-50 o dfosbarthiadau 3/- Cludiad gyda'r Post 4c. LLYFR CYFRIF Y DOSBARTH, wedi el gyfaddasu i wneyd am 12mis heb ail ya grifenu yr enwau i gyfateb i Lyfr yr Ys- grifennydd. Pris 1/- y dwsin. Cludiad-Un dwsin 3c., a cheiniog y dwsin ar ol hynny. HUGH EVANS A'I FEIBION 35ft 358 Stanley Road, Liverpool Pence # Envelopes FOR CHURCH COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered by Special Machine. Hugh Evans & Sons, Brython 356-8 Stanley Roade L'pool.