Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LO\DON CITY AND i MIDLAND…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LO\DON CITY AND i MIDLAND BANK, LTD. fYSHiLlWYD cyfarfod blynyddol eyfran- ddalwyr yr Ariandy uchod yn Llundain ar y 29ain o Ionawr, i dderbyn yr Adroddiad a'r Fantolen, i gyhoeddi y Cyfran-dal, i ethol Cyfarwyddwyr ac Archwilwyr, ac i drafod iiaaterion arferol. Llywyddwyd gan Gadeirydd yr Ariandy, Syr Edward H. Holden, Barwnig, yr hwn a ildywedodd :— Bychan y meddyliem pan yn ymwahanu ar derfyn y cyfarfod flwyddyn yn ol oin bod ar drothwy Rhyfel ar raddfa mor arswydus o fawr. Yr oeddym wedi gweled ac wedi galw sylw at y ffaith fod Germani yn casglu cymaint a allai o Aur, ond ni wyddem fod hynny yn cael ei wneud fel rhagbaratoad ar gyfer ymdrech aruthrol oedd yn ymyl, a'r hon oedd i siglo sylfeini arianol a masnachol yr holl genhedloedd. Tynnwyd Prydain Fawr i'r ymrafael ar unwaith pan ymddygodd Germani mor drahaus tuag at Belgium, ac yr ydym fel Teyrnas mewn Rhyfel a Germani er y 4ydd a Awst. Cyhoeddwyd Rhyfel gennym yn erbyn Ymherodraeth Awstria a B.ungari ar y 12fed o Awst, a daeth Twrci allan i'n herbyn ar y 5ed o Dachwedd. Y mae y byddinoedd sydd ar y maes yn cynrychioli hanner poblog- aeth y Byd, ac y mae'r hanner arall yn dioddef er nad i gymaint graddau. Nid fy lie i yw ,oyfeirio at yr agweddau gwladwriaethol a hanesyddol i'r ymrafael; cyfyngaf fy sylwad- au i'r ochr arianol i'r cwestiwn. Yna aeth y Cadeirydd ymlaen i ddangos mor hanfodol ydyw i bob gwlad sydd mewn rhyfel i fod yn feddiannol ar helaethrwydd o Aur, a phrofodd eddiwrth ystadegau fel yr oedd Germani wedi bod yn paratoi at ryfel yn yr ystyr yma—swm yr Aur yn Ariandy ei Llywodraeth yn 1910 oedd 32 o filiynnau o bunnoedd, erbyn dech- reu'r Rhyfel yr oedd yn 68 miliwn, ac yn awr y mae yn 106 miliwn a chyfeiriodd y Llyw- ydd at y cynlluniau eithafol sydd mewn gweithrediad yn Germani ac Awstria-y pen- defigion yn gwystlo eu hetifeddiaethau a'u tlysau, a'r gweision a'r morwynion yn dod a'u hychydig enillion yn fenthyg at wasanaeth y Llywodraeth, ac yr oedd pawb ymwelai a Germani yn gorfod trosglwyddo eu Haur drosodd ac yn derbyn Nodau yn ei le. Yr oedd y clerigwyr yn annog eu gwrandawyr i fynd a'u Haur i'r Ariandai, a gwobrwyid y milwyr os gallent yn eu horiau hamddenol gasglu Aur yn gyfnewid am Nodau. Ond y mae Germani (yn wahanol i Brydain Fawr) megis wedi ei chau allan ymron oddiwrth y Byd, ac y mae yn gwario tua dwy filiwn bob dydd ar gostau y Rhyfel, ac er maint ei hadnoddau, credai'r Cadeirydd y byddai yn wasgfa arianol arni, heb adn dim am ystyr- iaethau eraill, cyn bo hir. Ymhellach ymlaen yn ei araith, dywedodd ein bod ninnau fel Teyrnas byth er pan dorrodd y Rhyfel allan, yn gwneud ein goreu i gadw'r Aur sydd gennym yn ein meddiant, ac i dynnu rhagor i mewn. Y mae yng nghoffrau y Bank of England ar hyn o bryd 69 miliwn o bunnoedd; ac er fod rhai o Ariandai'r wlad yn petruso cyhoeddi yn eu Mantolenni y swm sydd yn eu meddiant, yn ol ei wybodaeth ef o'r mater credai fod yn nwylo'r Ariandai (heb gyfri'r Bank of England) tua 50 miliwn. Chwi gofiwch, meddai, i ni ddweyd yn.ein cyfarfod diweddaf y buasem yn dangos yn ein ( Mantolen eleni faint o Aur oedd gennym yn yr Ariandy ar y dydd olaf o Ragfyr, ac yr ydym wedi gwneud hynny. Cymerodd i ni amryw o flynyddoedd i gasglu'r swm hwn, ond pan welem Germani yn crafangu Aur ymhob cyfeiriad flwyddyn ar ol blwyddyn, yn hytrach na gadael iddi gael yr oil yr oeddym ninnau fel Ariandy bron bob wythnos yn sierhau cyfran ac yn ei ystorio yn ein celloedd. Heblaw hynny, gallaf grybwyll i ni yn wir- foddol yn y cyfwng arianol ar achlysur Strike y glowyr yn y flwyddyn flaenorol, anfon dwy filiwn a hanner o bunnoedd i'r Bank of England. Yn y fan hon carwn ddatgan fy ngobaith y bydd i bawb barhau i ddefnyddio Nodau il a 103. yn lie Aur, o leiaf tra parhao'r Rhyfel. Buom fel Teyrnas yn dra ffodus i gael gwr fel Mr. Lloyd George wrth y llyw yn y Trysor- lys yn ystod yr argyfwng a chynorthwywyd ef yn y modd mwyaf galluog gan Arglwydd Reading. Nis gallasai neb ein dwyn yn ddiogelach drwy y fath amserau enbydus nag y gwnaeth y Canghellydd. Yn awr, fe ddeuwn at ein materion ein hunain. Wrth gwrs rhaid rhannu'r flwyddyn 1914 i ddwy ran, y chwe mis cyntaf a'r chwe mis olaf. Dywedasom y llynedd ein bod yn eredu y buasai 11 og arian yn is yn 1914 nag yn 1913, ac y buasai prisiau Buddsoddion yn uwch oherwydd hynny, ac felly y bu. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, gellid ben- thyca arian yn rhatach, yr oedd enillion yn llai, a phrisiau Buddsoddion yn uwch. Yr oedd ein trafnidiaeth dramor yn ystod y eyfnod yna gystal ymron a'r flwyddyn flaen- orol, a llongyfarchem ein hunain yn wyneb hyn. Ond ni thybiai neb ohonom fod arwein- wyr y genedl Germanaidd mor ddyfal ac egniol ag y buont yn trefnu eu materion arianol. Sylwasom ar eu paratoadau ynglyn &'u Byddin a'u Llynges. Gallesid meddwl y buasai'r arwyddion hyn yn peri fod Pwyllgor cryf o wyr mwyaf profiadol dinas Llundain yn sael ei ffurfio i drefnu ein holl faterion arianol gogyfer a rhyfel, neu ryw argyfwng cyffelyb. Darfu i ni annog hyn yn ein cyfarfod flwyddyn yn ol. Ni fabwysiadwyd yr awgrym, ond nid yw'n rhy hwyr i'r fath gynllun gael ei gario allan. Fe ddylai'r fath Bwyllgor gyfarfod yn ddyddiol i wylio'n fanwl bob symudiad arianol. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn 1914 aeth pethau ymlaen yn foddhaol. Ond dech- reuwyd yr ail hanner drwy i Germani ddwyn i weithrediad ei chynllun mawr i orchfygu'r Byd. Yr oedd y rhybudd byr o ddim ond pedair awr ar hugain yn gwneud unrhyw ymgais ar ran Galluoedd eraill i heddychu'r pleidiau yn amhosibl. Yr oedd y blaid filwrol yn Germani yn awr yn benderfynol o roddi prawf ar y cynllun y buont yn ei baratoi mor ddiwyd am ddeugain mlynedd. Yna, megis ar darawiad amrant, yn niwedd Gorffennaf, parlyswyd y byd arianol a masnachol mewn modd na welwyd dim o'i debyg erioed o'r blaen. Cauwyd y Stock Exchanges. Aeth pob Buddsoddion yn anwerthadwy. I bob amcan ymarferol clowyd i fyny holl eiddo pob Cwmni ac Ariandy, oddigerth yr Aur a'r Nodau oedd ganddynt. A siarad drosom ein hunain fel Ariandy, yn ffodua yr oedd yn ein meddiant ni swm mawr o Aur, ac fe gafodd pob symdogaeth y mae a wnelom ni & ki gyflawndes i gyfarfod a'i hangen. Heblaw hynny, yr oedd gennym gyflenwad helaeth o Bank Notes, yn ogystal a swm mawr at ein galwad yn y Bank of England. Ymddygwyd gennym yn ol y rheol a ddysgir gan bob argyfwng cyffelyb, sef-Byddwch hael wrth roi benthyg, a thalwch eich holl ddyledion hyd eithaf eich gallu. Y mae gennym dros fil o Ganghennau, a'r cyfarwyddyd a roddwyd i Reolwyr yr holl Ganghennau hynny oedd nad oeddynt i wrthod unrhyw gynhorthwy i'w cwsmeriaid heb ynghyntaf ohebu a'r Brif Swyddfa, ac fe estynnodd y Brif Swyddfa bob cymorth oedd yn ei gallu. Cwynwyd gan Ganghellydd y Trysorlys yn Nhy'r Cyffredin nad oedd rhai Ariandai yn gwneud eu dyled- awydd yn hyn o beth, ond cawsom sicrwydd ganddo nad oedd yn cyfeirio at ein Hariandy ni. Yn ystod y flwyddyn fe rannwyd ein Cyfalaf i gyfrannau o S12 yr un, a £ 2 10*. o'r swm hwnnw wedi ei dalu i fyny, ac y mae'r ad-drefniad wedi profi'n llwyddiant mawr yn ystod y Rhyfel. Gwerthwyd, mae'n wir, lawer o gyfrannau gan ysgutoriaid, a thrwy hynny aeth y pris i lawr, ond prynnwyd nifer fawr gan gyfranddalwyr newyddion, a thrwy hyn ychwanegwyd llawer at eu rhif. Yng nghorff y flwyddyn aeth heibio, cymerasom drosodd fusnes y Metropolitan Bank. Nid yw enillion yr Ariandy hwnnw am hanner cyntaf y flwyddyn i mewn yn ein cyfanswm blynyddol, oherwydd iddynt gael eu rhannu ar wahan. Drwy yr uniad hwn fe godwyd ein Cyfalaf i tua £ 4,800,000,a'n Cronfa i £ 4,000,000. Pan gwrddasom y llynedd yr oedd yr arian a ymddiriedasid i ni ar log (Deposits) tua 94 o filiynnau o bunnoedd ar y 30ain o Fehefin yr oeddynt tua 95 o filiynnau ar y dydd olaf o Orffennaf, ar ol cymeryd y Metropolitan Bank drosodd, yr oeddynt oddeutu 108 o filiynnau ac ar y 31ain o Ragfyr diweddaf yr oeddynt tua 125 o filiynnau o bunnoedd, ond y mae llawer o'r cynnydd olaf a enwyd i'w briodoli i ystad cithriadol y farchnad arianol yn ystod y Rhyfel, ac nid oes sicrwydd y bydd y cynnydd yn hollol sefydlog. Swm yr Arian oedd gennym mewn Haw ar ddiwedd 1913 oedd tua 17 o filiynnau ar y 30ain o Fehefin diweddaf y swm oedd tua 15 o filiynnau ac ar y 31ain o Ragfyr yr oedd yn 33 o filiynnau. Ynglyn a chodi y Way Loan, sef benthyc- iad cyntaf y Llywodraeth tuag at gario y Rhyfel ymlaen, aethom i gytundeb yn unel a pha un yr oeddym fel Ariandy yn rhoddi benthyg i:10,000,000 i'r Llywodraeth. 0 dan amgylchiadau arferol ni buasem yn breu- ddwydio am roddi'r fath swm, ond pan oedd yr amgylchiadau mor eithriadol oherwydd y Rhyfel, ein dyledswydd ni, fel pawb eraill, oedd dangos ein gwladgarwch drwy wneud aberth. Y mae'n wir y bydd i hyn ych- wanegu at ein henillion, ond yr ydym bob amser yn dal nad yw enillion o'r pwys pennaf ynglyn a gweinyddiad Ariandy. Ac wrth son am wladgarwch, carwn ddywedyd yn y fan hon fod tuag un cant ar ddego'nSwyddogion wedi ymuno a'r Fyddin, a bod rhai ohonynt eisoes yn ymladd drosom ar faes y rhyfel. Y mae'r ileihad hwn yn nifer y Swyddogion yn golygu aberth mawr ar ran yr Ariandy- aberth, hefyd, y mae y Swyddogion sydd ar ol yn gyfranogion ohono. Y maent hwy i'w hedmygu'n fawr am y parodrwydd a'r siriol- deb gyda pha un y maent wedi ymfoddloni heb eu seibiant arferol, ac wedi ymgymeryd a chyflawni dyledswyddau ychwanegol; ac yr wyf yn cymeryd y cyfle presennol i ddatgan ein gwerthfawrogiad o'u teyrngarweh. I ddychwelyd at y eyfrifon, yr oedd yr Arian sydd gennym at ein galwad neu ar fyr rybudd ynghyda'r Stock Exchange Loans yn £ 9,865,000. Cyfanswm ein Biliau Masnachol ar ddiwedd 1913 oedd £ 11,790,000. Ar ddechreu'r Rhyfel yr oeddynt yn £11,250,000, ac ar y 31ain o Ragfyr diweddaf yn E14,086,000. Nid oes angen i mi eich sicrhau ein bod wedi gwneud darpariaeth helaeth allan o'r enillion i gyfarfod ag unrhyw golledion all ddigwydd o'r cyfeiriad hwn. Cyfanswm yr arian roddasid yn fenthyg gennym ar ddiogelion ar ddiwedd y flwyddyn 1913 oedd £ 51,300,000. Wrth gynnwys ffigyrau y Metropolitan Bank yr oeddynt ar ddiwedd Gorffennaf diweddaf yn 61t o filiynnau, ac ar y 31ain o Ragfyr yn £ 62,400,000. Y mae gennym wybodaeth fanwl am safle pob Cwmni a pherson unigol y rhoddasom fenthyg arian iddynt, a chredwn nad oes swm ar ein llvfrau ag y mae unrhyw ansicrwydd yn ei gylch nad oes darpariaeth briodol eisoef- wedi cael ei gwneud ar ei gyfer. Deuwn yn awr at gyfrif yr Enillion. Fel y danghosais yn barod ni fuy llogaumor ffafriol i'r Ariandai yn y flwyddyn aeth heibio ag yn y flwyddyn flaenorol, ac felly gwnaed llai o elw. Hefyd, rhesymol oedd disgwyl y buasai rhaid i'r ddarpariaeth ar gyfer colledion yn 1914 fod yn fwy nag yn 1913. Y canlyniad yw na bu'r flwyddyn ddiweddaf yn un llawn mor enillfawr a'r flwyddyn o'r blaen. Yr elw clir am 1914 oedd £ 1,106,808. Cymerodd y Cyfran-dal yn ol JE18 yn y cant, sef yr un faint a'r flwyddyn flaenorol, y swm o E785,794, gan adael gweddill, ar ol talu Treth yr Incwm am yr hanner cyntaf o'r flwyddyn, o £ 293,292. Gofidiem nas gallem weled ein ffordd yn glir i barhau i dalu Treth yr Incwm, oblegid y mae'n amlwg fod y Dreth hon yn rhwym o gyrraedd swm mawr yn y man. Ystyriasom hi yn ddyledswydd arnom i osod y swm arferol o £20,000 i gyfrif Blwydd-dal y Swvddogion, a phenderfynasom mai'r cwrs doethaf oedd cario'r gweddill ymlaen i gyfrif y flwyddyn bresetii-tol. Y mae'r gweddill hwn, ynghyda'r hyn gariwyd drosodd o'r flwyddyn gynt, yn gwneud y cyfanswm o 9421,285. Yr unig gyfrif sy'n aros i mi gyfeirio ato yw y Buddsoddion. Fel y gwyddoch, yr ydym ni, fel Ariandai eraill, wedi bod o flwyddyn i flwyddyn yn darparu allan o'r enillion gogyfer a phob gostyngiad ym mhris y Buddsoddion nes bod eu swm ar ein llyfrau yn is na'u gwerth 3 11 y farchnad, ond eleni nid oedd yn hawdd eu prisio ar y 31ain o Ragfyr, oherwydd y Rhyfel; o ganlyniad fe'u prisiwyd yn ol y rhestr am y 27ain o Orffennaf, 1914, sef y rhestr swyddogol ddiweddaf cyn cau y Stock Exchange. Fel y daw pethau i'w lie, dichon y bydd i'r prisiau fynd i fyny, a phan ddeuwn i derfyn y Rhyfel, os y pery am flwyddyn ymhellach, bydd gennym swm mewn llaw mwy nag hyd yn oed £ 421,285. Allan o'r swm hwnnw, fe gymerwn, os yn angenrheidiol, ddigon i gyfarfod a'r gostyng- iad ym mhris y Buddsoddion. Y mae gwaith ein Hariandy ni yn dangos yn ein Mantolen fod gennym E8,000,000 o Aur yn ein dwylo wedi creu peth cyffro ymysg Ariandai eraill. Dywedasom y buasem yn gwneud hyn eleni. Yr oedd pobl ar hyd a lied y byd yn dweyd, Nid oes byth nemawr o Aur yng nghoffrati Ariandai Llundain, a theimlasom mai y peth priodol oedd i ni ddangos i'r byd faint oedd gennym. Pa fodd y deuthom i feddiant ohono ? Cawsom ef drwy brynnu yn raddol flwyddyn ar ol blwyddyn, gyfran o'r Aur anfonid o Ddeheubarth Affrica i'r wlad hon, yn hytrach na gadael i Germani ei gael. Oni buasai i ni ei brynnu buasai'r Aur hwnnw heddyw yn Ariandy Llywodraeth Germani, ac nid yn y Bank of England. Awgrymir fod ein hymddygiad yn y mater dan sylw yn dangos difiyg gwladgarwch. Y mae y sawl aydd yn ein beirniadu yn ymffrostio yn fawr yng ngwladgarwch eu hymddygiad. Tybed nas gallwn ninnau wneud yr un peth. Dywedant mat talu Aur i mewn i'r Bank of England yw eu harfer hwy. Hawdd yw dweyd hynny, ond ni ddvwedant faint oedd wedi cael ei dalu ganddynt ar ddiwedd y flwyddyn. Fe dalwyd i'r Bank of England gan yr Ariandy hwn, ynghyntaf, y swm o £ 500,000 mewn barrau Aur, yna £ 2,500,000 o bunnoedd. Dyweded yr Ariandai eraill faint dalwyd ganddynt hwy. Dichon mai nyni, wedi'r ewbl, ddanghosodd fwyaf o "wlad- garwch." Ond nid ein dymuniad yw ym- gecru ynghylch pethau fel hyn. Nod pob Ariandy yw gwneud ei huji mor gadarn a diogel ag y mae modd, ac os byth y bydd y Deyrnas mewn angen am yr Aur tlydd yn ein meddiant ni y mae iddi groeso ohono. Nid yw yn bosibl dangos mwy o wladgarwch na hyn. Gobeithiaf na bu i mi eich blino a meithder, ond wrth derfynu hoffwn eich sicrhau nad arbedir unrhyw drafferth, ac nad ystyrir unrhyw lafur yn ormod gennym i gadw i fyny'r safle uchel enillwyd eisoes gan yr Ariandy hwn. Y mae yn ddiau gennym y bydd i ni weithio'n ffordd drwy yr argyfwng hwn, a phan ddeuwn allan ohono y bydd ein a.fi yn uwch nag erioed. F, Felly yr ydwyf yn cynnyg fod Adroddiad y Cyfarwyddwyr a Mantolen y Cyfrifon all y flwyddyn yn cael eu mabwysiadu. Eiliwyd hyn gan Mr. W. G. Bradshaw, Is- gadeirydd yr Aiiandy,a chariwyd yn unfrydol. Yn nesaf pasiwyd fod cyfran-dal o 4,9. 6d. y gyfran am y chwe mis diweddaf yn cael ei dalu ar y laf o Chwefror, gan dynnu allan Dreth yr Incwm. Gwna hyn, gyda'r tal a wnaed am chwe mis cyntaf y flwyddyn, y cyfanswm o Y.18 yn y cant. Ail etholwyd y Cyfarwyddwyr, Mr. R. C. Beazley a Mr. F. H. Fox hefyd yr Archwil wyr, Mri. Whinney, Smith & Whinney. Ar ol i'r diolchiadau arferol gael eu cyf- lwyno i Gadeirydd yr Ariandy, Bwrdd y Cyf- arwyddwyr, y Rheolwyr, a'r Swyddogion eraill, terfynodd y cyfarfod drwy basio diolch brwd i'r Cadeirydd am lywyddu.

Advertising