Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Annual XMAS SALE OF JEWELLERY Comprising Bracelets Kearf Slides Earrings, Brooches, Pins or Studs, Guards. Signets, Pendants, Alberts. ALSO HIGHEST-GRADE Watches & Diamond Rings 10/- to 12/6 less in every £ ] THAN ORDINARY PRICES. Including a Portion of a Manchester and Bir- mingham Dealer's Stock of Stylish Diamond Rings and Bracelets. SALE PRICE LIST, FREE. 1*5,30 low BUI. OPEN ALL SAT. CLOSED WED. AT I Davies's 18ct. Diamond Rings Usual Price. Sale Price .E2 DIAMONDS- 5-stoiAe Dia- mond 18ct., i-hoop, neat i Q £ setting, lustrous gems 19/6 C3 DIAMONDS & RUBIES, 18- c t., very neat, elegant, Half- Hoop,Double-cutGems, very £ lustrous a:i?/- f4 DIAMONDS & SAPPHIRES 5 gems, heavy 18-ct. Ha!f- hoop all lustrous gems 2 rare bargain £4 DIAMONDS, 5 stones, Half- hood, stylish claw, 18-ct gold, double-cut gems rare „ fire and lustre « 1 /10 15 DIAMONDS, 5 first-water large lustrous gems, fine, white quality, heavy solid 18-ct. claw half-hoop others at £ 2/10/—, Y,2121-, and 2 2 5 £2/10/ I", £6 DIAMONDS, fine 5-stone, large diamonds, each gem of great beauty, heavy 18-ct. o q /,1 JLq v r gold claw set 2/1 1- -98 DIAMONDS, superb quality, carved claw setting, fine £3 19 gems, rare lustre, 18-ct. gold ?J /19 I' S10 DIAMONDS, 3-stone Cross- over Ring, 18-ct. platinum » ,Q setting; rare lustre 3*0/1" ;E IDIAMONDS, 5-stone half- hoop, large, fine, lustrous stone, neat carved claw £ » Q setting 6/18 I'" 121 DIAMONDS, very large 5- stone Diamond half-hoop, fiery gems, very exceptional o r value, 18-ct. great bargain210 115- AT '20/v] LUCKY WEDDING R?CS OC 22-CARAT PURE GUINEA GOLD, 2350/- GOVERNMENT HALL MARKED. 30/-J Heaviest & Best 35 H WITH ?-DOZ. TEASPOONS, &c. irp. Davies's, 30 how Hill, Ii'pool. Size fard Post Free. Perfect Fit Guaranteed. Davies's Miscellaneous Bargains Usual Price SOLID GOLD ONLY Sale Price 51 /-NECKLET, Diamond Cut Links 10/6 20 I-LoCKET, oval, engraved, hall-marked 7/6 :21 /-SIGNET RING (Gent's), shield, heavy 9/6 20 /-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8/11 17/-SIGNET (Lady's), shield top, strong 7/6 18j-PIN, real Diamond centre 9/6 £ 3-BANGLE RING, IS-ct., wide, heavy £ 1 16/ £ 2-SIGNET Gent's), 18-ct., solid gold shield 18/6 30/-BBOOCH, real Diamond centre 10/6 35 /-BRACELET, stiff, wide, engraved. 16/6 £ 6-SCARF SLIDE, 2 large Diamonds & centre Sapphire. 29/6 97-DIAMOND STUD, forms pin, fine white stone £2/9/- Sale Price 25/- Usually '2 j5 j- Gold Curb & Padlock Bracelet. Fashionable massive flexible Curb and Padlock Solid Gold BRACELET, stamped every link (the widest at the price), complete in velvet case. Also ditto at 29/6, usual £ 3. Also the following BARGAINS IN BASKET PATTERNS at 10/- reduction in every jE, as follows: 26/ 35/ 46/ 55/ also very fine 9-bar "Basket Bracelet, now £ 3/12/6, usual 97. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelets to select from. Heavy! Lucky Wedding Rings 22-CARAT PURE GOLD. Special 20/- Special (USUALLY 27/9). A Presentation with each Ring. DAVIES'S, 30LOWHILL, LIVERPOOL
Big y ?si,4y fLO leifiad.
 Big y ?si,4 y fLO leifiad. Unobogiaur I Dowch acw am fuiiud y mae acw ddyn diddorol iawn i chwi bobl y papura' 'ma gael mygvn ac ym gom âg o," ebe gwr y Glenart,- sef Mr. John Evans, Clifton Road, Birken- head,—wrthyf nos Fercher ddiweddaf.Ffwrdd a fi, gynted ag y ceuais fy 'sgidiau ac erbyn cyrraedd at y bwrdd bwyd, pwy oedd yno ond Capt. R. R. Jones, Caernarfon gynt, Liscard bellach, y fo a'i briod. Wedi cael dod adref o For y Gogledd yr ydoedd am blwc o orffwys a gollyngdod, ar ol bod yn cludo bwyd ac arfau a phob angenrhaid i'n Llynges, 01 a blaen, er pan ddechreuodd y rhyfel, a bod mewn cvswllt agos a'r penaethiaid, o Jellicoe i lawr. Byddai'n gapten un o longau'r Hall Line a phan gyrhaeddodd adref ddiwedd Gorffennaf oddiar led, ac wedi bod i ffwrdd ers hir o amser, cynhygiodd ei wasanaeth i'r Llywodraeth; fe'i derbyniwyd yn syth, a fo oedd yr ail drwy'r holl deyrnas i gael comisiwn o'r fath. Fe'i penodwyd yn gapten ar long i'r gwasanaeth a nodwyd uchod a dyma'r waith gyntaf iddo gael gollyngdod a dod adref oddiar hynny. Holais ef am hyn ac arall; ac a allaswn yn hawdd nyddu colofn neu ddwy o'i atebion a fuasai'n codi'ch gwallt fel priciau ar eich pen am awelodd ac a glywodd yng nghyffiniau'r Llynges eithr nid gwiw eu hadrodd ar ei ol ar goedd nes y bo'r rhyfel ar ben. Y mae ganddo ffydd diderfyn yn ein llongau ac a deurai, pe deuai'r Germaniaid allan i ymladd yn iawn, ac nid i luchio shells ar blant a gwragedd Scarbro, ac yna snechian fel ci lladd defaid yn eu holau i'w cut yn Heligolaiid,-ie, pe dauent allan o'u cut, mai dim ond teirawr y buasai eu llynges i gyd cyn cael eu sgubo oddiar yr wyneb a'u gyrru'n sgyrrion dan y don bob un. Y mae'r Capten yn balff o ddyn talsyth yn meddwl y byd o'r mor, er cymaint gafodd o'i luchio a'i wlychu'n diferol ganddo ac fel pob un bron o hogiau'r dre," 'does arno ddim o'i ofn, ac y mae'n llawn o'r beidd- garwch llongwraidd a diarswyd hwnnw nad oes dim gwell enw arno na myn coblyn i." Do, fe gawsom noson a swper a stori tan gamp; a'r Nef fo'n nodded drosto yng nghyfiawniad ei swydd gyfrifol, ac a'i gwaredo rhag satan y submarine sy beunydd a byth ar ei warthaf. Bechgyn caredig a rhadlon eu hysbryd yw plant y mor, ac heb ddim o'r surni sych- fonheddig hwnnw sy'n tursio gwep cynifer o blant y tir. The roar of the big ocean makes them kind, chwedl Tennyson; a phan ddychwelo'r Capten, feiat arall a gaffwyf yn ei gwmni tan nenbren Glenart, pawb a'i gadair o gwmpas tanllwyth o dan, ac yn glust i gyd wrth wrando un o hogiau'r dre yn adrodd hanes ci ddiangfau o safn y mor a marwolaeth. tIt- j Lerpwl am Lyfr • ILerpwl amL yfrau. Y mae Mrs. Ellis, ei weddw, wedi cyflwyno llyfrgell y diweddar Barch. Griffith Ellis, M.A., yn rhodd i Athrofa Ddiwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth a Senedd y Coleg wedi ei derbyn gyda diolch- garwch mawr, ac wedi eu hastellu mewn ystafell arbennig yno. Cynhwysai'r llyfrgell rai miloedd o gyfrolau—hufen llenyddol y gwledydd, a chynrychiolaeth gamp us o len- yddiaeth Cymru yn eu mysg, eanys ni fu erioed well cefnogydd i lyfrau Cymraeg na Mr. Ellis. Prynnai bob un bron a ddeuai tan ei lygad, ac a'i darllenai ar ol ei brynnu. Ac felly, i Lerpwl am lyfrau, eanys dyma bellach ddwy Athrofa'r Methodistiaid wedi cael llyfrgell gyfoethog yn rhad rodd oddiyma, achos fe gofir i'n cyd-ddinesydd Mr. Wm. Thomas, Y.H., brynnu llyfgrell y diweddar Ddr. Owen Thomas a'i hestyn yn rhodd i Goleg y Bala. Gyda llaw, drwg clywed nad yw iechyd Mr. Thomas cystal ag arfer a dy- munir ei adferiad buan a llwyr ar bob llaw. I*. Y mae argraffiad cyntaf Yr Iaith Gymratg ei Horgrqff a'i Chystrawen-gwaith y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A.—wedi ei werthu'n llwyr ac ail argraffi ad, a hwnnw'n un diwyg- iedig, ar fin dod allan o wasg Y BRYTHON, am ddeunaw (1/6). Chwi gofiwch mai nos Sadwrn nesaf y mae Eisteddfod Plant Bootle ac fod yno o ddau i dri chant o bigion talentau'r eglwysi a'u bryd ar giprys am y gwobrwyon mewn canu ac adrodd a phob rhyw ddawn a champ fyddo yn fantais i gadw'r iaith ar wefus ein hiliog- aeth a'n hail genhedlaeth. k Bydd y Parch. Wm. Jones, Conwy, yn traddodi pregeth goffa am Mr. Morris ym mhulpud David Street nos Sul nesaf. k Yn y llyfrgell helaeth a dderpyr Mr. Watts, Compton House, gogyfer a'r cannoedd gwas- anaethyddion, ceir y prif gylchgronau Cym. reig, megis y Beirniad, Welsh Outlook, a'r Genhinen, etc. Tybed a oes peth cyffelyb gan y masnachdai mawrion erailllle y mae cynifer o Gymry'n gwac.;anaethu ac yn byw i fewn, yn feibion a merched ?
DAU TLJ R AFON. I
DAU TLJ R AFON. I Yr wythnos hon y mae gennym i goffa ymadawiad yr hen gymeriad diddan, Mr. Jenkyn Evans, 102 Arthur Streeet, Birken- head, a ddigwyddodd Ionawr 26, ac efe yn 66 mlwydd oed. Cafodd gystudd caled iawn, a dioddefodd yn dawel a dirwg- I).ach. Yr oedd yn ddyn caredig a chymer- adwy, a pherchid ef yn fawr gan bawb. Claddwyd Ionawr 29ain, ym mynwent Flay- brick Hill. Cyn cychwyn o'r angladd, darllenodd a gweddiodd y Parch. Wm. Rob- erts, Trinity Road; hefyd yn y fynwent, cymerwyd rhan gan y Parchn. J. Morgan, rheithior Nelson, D. Adams, B.A., O. L Roberts, a G. J. Williams, Vittoria Street— y capel yr oedd yr ymadawedig yn aelod selog ac yn ddiacon am rai blynyddau hefyd, cyn iddo ymddiswyddo. Gedy weddw a thri o blant. Caffed y cwbl nerth i dawelu o dan y storm. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mri. E. Jones & Co., Conway Street. Dyma'r galarwyr :—Mr. Wm. Evans (mab), Miss L. Evans (merch), Mr. Jenkyn Evans (mab), Mr. J. Thomas, Mr. a Mrs. Morron, Mrs Thompson, Mr. a Mrs. J. Williams, Millos Eames, y Parch, a Mrs. J. Morgan (rheithor Nelson), Mri. W. Woods, J. Platt, D. Breth- eron, J. Lewis (y pedwar hyn yn cludo'r arch) Mr. a Mrs. Thos. Davies, Mr. a Mrs. J. Hughes' Mrs. Pritchard, Mrs. a Miss Maggie Jones, Mrs. Smith, Mrs. R. Owens, Mrs. Venmore Jones, Mrs. Evans, Mr. J. Jones, Mrs. T. Jones Mr. Thos. Roberts, Mr. T. Davies, Mrs. Jones, (Aspinall Street), Mr. Williams (Hawarden Avenue), Mr. Hugh Hughes, Mr. Thos. Ed- wards, Mrs. Denman, Mr. Thos. Williams, Mrs. Owen Davies, Mrs. Thomas, Mrs. Will- iams, Mrs. Cissie Williams, Mr. J. jones.-E.E GWLEDD o GAN.—Dyna gyngerdd da, a gafwyd yn Ysgoldy M.C. Stanley Road, Boot- le, nos Fercher ddiweddaf, er budd Trysorfa'r Tlodion. Yr ystafell eang yn llawn, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws a da gennym ddeall fod ehv trwm at gynorthwyo rhai caled arnynt. Mr. David Jones, Waterloo, oedd y llywydd i fod, ond methodd ddod (diolch yn fawr iddo am ddanfon ei rodd hael); ac yn ei le, cafwyd David Jones arall, sef o Cremlyn, Pembroke Road,—gwr ffraeth a wnaeth ei waith yn ddi- guro. Dyma'r rhaglen Miss Annie Davies, Penrhyn, yn canu Love the Pedlar (Pa bryd ca'i fynd adre'n ol yn encor), Y bachgen ffar- weliodd a'i wlad (encor, Y Nyth a'r Aderyit,-a thybed y clywyd rhywbeth pertiach erioed ?), a There's a Land (galwvd yn gryf am encor, ond ni chafwyd un). Dyma'r trydydd cyng- erdd i'r gantores hon fod ynddo ar Lannau Mersey mewn rhyw fis o amser, ac nid rhyfedd ychwaith rhwng ei llais godidog, parabliad croyw a deallgar y geiriau, a'r ysbrydiaeth fyw, mae'n wledd ei gwrando. Mr. Griff Owen—mae ei enw'n ddigon !—yn canu Y Mab Afradlon (encor, The Pride of Kildare), Till the Boys come home, a Good Company. Miss Davies a Mr. Owen yn rhoi'r deuawdau In Springtime a Y Lili a'r Rhosyn. Y Brodyr Williams, Everton, yn gwneud llawer math ar be than y pedwar yn canu Comrades' Song of Hope (gwefreiddiol !), The Old Brigade, a Mi welaf rnewn adgof; Mri. James a George Williams yn canu Flow, gently Deva Mr. J. O. Williams (vfyr yr Eos) yn canu pen- hillion yn ddifyr a Mr. Owen Williams yn adrodd Rhiaitod Penrhyn Gwyr (encor, Wolsey's Farewell). Cor Plant yr Eglwys (dan areiniad Mr. J. Hughes) yn canu dwy gydgah o Plant y Nefoedd Cor Merched yr Arvonic yn canu Barcarolle, dan arwpiniad Miss L. Kyffin Williams a Threbor Lleifiad yn adrodd Annerch Llywelyn. Cyfeiliwyd yn fedrus i'r cwbl gan Miss L. Kyffin Williams, a mawr ddiolch fo i bawb a hwyliodd seigiau mor felys. "Y neb a roddo i'r tlawd, ni bydd angen arno." CANU DONALDSON STREET.—Llwyddiant digymysg fu te a chyngerdd blynyddol eglwys Donaldson Street, ddydd Sadwrn diweddaf. Cynhulliad lliosog, byrddau llwythog o bob rhyw ddanteithion, cantorion enwog, a siriol- deb a bywyd yn y cwbl. Ar ol i bawb wledda o'r arlwy hyd ddigonedd, aed drwy raglen gerddorol tan gamp gan y cantorion hysbys a ganlyn Mrs. Howard Stephens (soprano), Miss Frances Rushton (contralto), Mr. Llew- elyn Thomas (tenor), Mr .G. J. Roberts {bari- tone), a Mr. T. J. O. Jones, L.R.A.M., F.R.C.O., yn cyfeilio. Mr. Richard O. Thomas, Dinorwig, a ddisgwylid fel tenor, ond gwaetha'r modd goddiweddwyd ef gan y brof- edigaeth lem o golli ei unig fachgen bach, ac anfonodd ei frawd Llewelyn yn ei le. Y mae yntau yn ganwr rhagorol o addawol. Fel arfer, Cymraeg ydoedd y cyngerdd ar ei hyd bron, a dyma'r rhaglen, gael i chwi weld gyfoethoced ydoedd Ar y berdoneg, Mr. T. J. O. Jones Gwraig y Morwr, Mr. G. J. Roberts; Gwlad y Delyn, Mrs. Howard Stephens Baner ein Gwlad, Mr. Ll. Thomas In a child's small hand, Miss Rushton deuawd, Plant y Cedym, Mri. Thomas a Roberts. Ar y berdoneg, M-. T. J. O. Jones deuawd, In Springtime, Mrs. Stephens a Miss Rushton; 0, na byddai'n haf o hyd, Mr. Thomas Oleuni Mwyn, Mr. Roberts The Reason, Miss Rushton; Yr Ornest, Mr. Thomas Down Vauxhall Way, Mrs. Steph- ens deuawd, Arwyr Cymru Fydd, Mri. Thomas a Roberts. Heblaw hyn, mewn atebiad i ail-alwad, cafwyd nifer o'r hen alawon, megis Capten Morgan, Mentra Gwen, Yn iach i ti, Gymru, etc. Dygwyd y cyfarfod i ben gyda Hen Wladfy Nhadau a God save the. King, y rhai a ganwyd gyda llawer o angerdd. Nith i'r anfarwol Llew Llwyfo ydyw Mrs. Howard Stephens y mae hi wedi etifeddu yn helaeth dalent gyfoethog ei henafiaid, ac y mae ei chanu yn mynd yn fwy swynol o flwyddyn i flwyddyn. Mr. Heber H. Cham- bers oedd y eadeirydd, a diolchodd Mr. Hum- phrey Jones i'r cantorion ac eraill ar ran yr eglwys. Noson swynol, swynol, gafwyd. CAPEL Y BEDYDDWYR, BALLIOL ROAD.— Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol nos Fawrth, yn yr addoldy uchod. Mr. John Morris yn y gadair a'r Mri. Robert Jones, Stanley Road, yn beirniadu'r canu, R. O. Jones yr ysgrif, ac Ap Lleyn yr adroddiadau. Y goreuon fel y canlyn Ysgrif ar Yr hyn ddymunwn fod, a fy rhesymau dros hynny, Ernest Davies. Ad- roddiad, Rhannau o'r Corff: 1, Blodwen Will- iams 2, Maggie Williams. Unawd, Tros y garreg Gwennie Morris. Adroddiad, Drwy gil y drws 1, Gwennie Morris 2, Doris Williams 3, Gwladys Thomas a Gwladys Jones yn gydradd. Unawd, Yn iach i ti, Gymru: Annie Hughes. Adroddiad, Iaith ein Gwlad 1, John Jones 2, Mary Thomas ac Annie Hughes yn gydradd. Unawd i rai dros 45 oed Mrs. R. Owen, Mr. Jones, a Miss Jones yn gydradd. Adroddiad, Araith Car- adog J. Lloyd Parry. Canu penhillion Pen Rhaw 1, John Jones 2, John Davies 3, J. Lloyd Parry. Diolchwyd i'r beirniaid, y cadeirydd a'r cyfeilydd (Miss Maggie E. Roberts) gan Mr. John Roberts (Alaw Lleifiad) a'r gweinidog, Pedr Hir. Cyfarfod godidog o ddiddorol, a pharatoad rhagorol ar gyfer Eisteddfod Fawr Plant Bootle. KENSINGTON.—Cafwyd cyfarfod cystadleu- ol yn yr addoldy uchod nos Fercher ddi- weddaf, dan nawdd Cymdeithas y Bobl leu" ainc, a throdd allan yn llwyddiant perffaith. Cafwyd ty llawn, a disgwyliwn elw da. Cafwyd llu o gystadleuwyr i'r ymgyrch. Wele restr o'r buddugwyr adroddiad i blant, Yr Afonig: Nancy Williams. Ar y d6n i blant: Dora Parry, Kensington. Ax y berdoneg, Miss Lilian Jones, ac enillwyd ar y ddeuawd gan y ddau frawd adnabyddus, Wm. ac Evan Davies. Adrodd Psalm of Life Longfellow Donald Kingston Jones, mab yr adroddwr hysbys Kingston Jones, ac un o wleddoedd y noson oedd gwrando Donald yn adrodd mor ragorol. Adrodd Matthew 18, 7-14: rhannwyd y wobr rhwng Miss Jones, Broadgreen, a Miss Dora Parry, Kensington. Amlinelliad ar gerdyn o Argl. Kitchener E. Davies. Araith ddifyfvr E. Griffiths, a chyflwynodd y wobr yn ol. Knitted Muffler Mrs. Jones, Hampstead Road, ac hefyd ateb I cwestivnau ynglyn a'r Maes Llafur, dosbarth 2 a 3, Lilian Jones a Jennie Jones, ac yn y dosbarth arall enillwyd gan Doris Jones a Ritchie Griffiths. Caed 8 cystadleuydd ar yr her-unawd, 1 ar y llwyfan, pryd yr enillwyd gan Mr. H. Howells, Garston, yn canu Honour and Arms. Pedwarawd, unrhyw Emyn Cym- raeg I, Parti Hermon, dan arweiniad Mr. Evan Davies. Traithawd ar loan Fedydd. iwr Mr. W. R. Job. Arweinydd y cyfarfod oedd Pedrog. Beirniaid Cerddoriaeth, Mr. M. Eddie Evans lien ac adrodd, y Parch. W. A. Lewis. Cafwyd cadeirydd rhagorol iawn yn Mr. E. H. Morgan, a'r cyfeilydd oedd Mr. Evan L. Roberts, M.S.I.M., a diolchwyd yn wresog iddynt am eu gwasanaeth. Hy- derwn weled hwn yn sefydliad blynyddol bellach, ac y mae clod nid bychan yn ddyledus i'r ddau ysgrifennydd, Edward Griffiths a J. Uwchllyn Roberts.—Dylesid crybwyll fod cwmni o bobl ieuainc Kensington—Macwyaid Mr. E. Kingston Jones—wedi canu carolau yn ystod wythnos y Nadolig,er budd Trysorfa Rhyfel, a hel £ 12 i Arglwydd Faer y ddinas at yr amcan clodfawr hwnnw. PEEL ROAD.-Nos Fercher ddiweddaf, dar. lithiai'r Parch. W. M. Jones, Birkenhead,ym Mheel Road ar ei daith i'r Am rica. Daeth nifer go lew ynghyd, a phe deuai'r darlithydd yno'r wythnos nesaf, eto, cawsai ragor o lawer i'w wrando, canys ni chlywir dim yn y gym- dogaeth ond son am yr America. Difyr a diddan oedd nodwedd y ddarlith, ac y mae pawb wedi cofio rhyw sylw neu stori gydnaws a'i duedd, a'r gwr parchedig yntau mor hyfedr yn gwybod sut i daro hoelen adref, nes y try fanion difyrrus yn adeiladaeth i'r bobl. Ped fai yno American reporter-yr oedd yno rai o wyr yr Iwerydd—diameu y cawsid Eulogy of Ainerica Welsh Minister says it is a Great Country," yn llythrennau dwy droedfedd ar y posters fore drannoeth. Ond i gael syniad am y ddarlith rhaid ei gwrando, ac edrych hefyd ar y darlithydd, a gadael i'r dychymyg dipyn o ryddid i'w amgyffred yn ledio pennill hefo'r Indian fan foethus ond gwasanaethgar honno. Mr. P. Lloyd Jones. Stanley Road, oedd y eadeirydd, a haeddodd y diolch a dalodd y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., a Mr. Seth Roberts iddo am ei wasanaeth caredig yntau.
BIRKENHEAD. I
BIRKENHEAD. SEIAT UNDEBOL.—Nos Iau, yn Claughton Road, cynhaliwyd Seiat Undebol arall o tan nawdd Undeb yr Eglwysi Rhyddion. Dech- reuwyd gan Mr. W. Parry, Clifton Road, ac wedi gair byr gan y llywydd, y Parch. W. M. Jones, yn gofidio fod y cynhulliad mor eiddil ac ystyried fod wyth o eglwysi yn y cylch, ac yn ofni nad yw'r aelodau'n sylweddoli'r sefyllfa ddifrifol yr ydym ynddi fel gwlad, galwyd ar y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D. i agor j drafodaeth ar Efrydiaeth o Air Dim, seiliedtg ar y darn adnod, Chwiliwch yr Ysgrythyrau." Cyn sylwi ar y testyn, diolch- odd am y croeso a estynnwyd iddo i'r cylch, a theimla'n gartrefol iawn. Cyn dod o'r wlad, mewn seiat, fe'i synnwyd yn fawr mor gyfar- wydd oedd yr hen frodyr a chwiorydd yn y Beibl, ac yn adrodd adnodau ar gyfer yr amgylchiadau presennol, ac ofnai nad oedd ef ei hun mor gyfarwydd a hwynt yn ei Feibl. Dylem ddarllen ac astudio er dyfnhau ein profiad crefyddol ac er ein cysur a chyfar- wyddyd, ac hefyd er ein galluogi i fod yn dystion o Iesu Grist ac yn gymeriadau cadarn. Dywedadd y llywydd ein bod wedi cael agoriad campus i bwrpas Seiat. Yna caed gair byr gan Mr. Evan Edwards, Rock Ferry, yn sylwi ar y cymhellion i ddarllen y Beibl, a chan Mr. W. Jones, Clifton Road a sylwodd y llywydd ar y lledaeniad wrth y miloedd o Air Duw yn y gwahanol wledydd y misoedd diweddaf. Dibendwyd trwy gydadrodd Gweddi'r Arglwydd. Yr oedd holl weini- dogion y cylch yn bresennol, ond ymhle yr oedd y blaenoriaid ?-R.J. G. Nos Sul ddiweddaf, dewiswyd Mr. Herbert > Jones yn arweinydd y gan yn eglwya Anni- bynnol Clifton Road, Birkenhead, fel dilyn- ydd ei ddiweddar dad, Mr. Wm. Jones, Price Street,—a lanwodd y swydd am lawer o flyn- yddau.
GWASANAETH CYMDEITHASOL YMtlllTHsY…
GWASANAETH CYMDEITHASOL YMtlllTHsY MILWYR. Eisieu rbagor o gynhorthwy. ER pan alwyd y Fyddin ynghyd fl, Awst diweddaf, cyflawnodd yr Young Men'8 Christian Association waith dihafal ynglyn a threfnu ac arolygu cyfleusterau er adloniant a chysur ein milwyr yn y gwersylloedd milwrol drwy ein gwlad. Ni fuasai modd cyflawni'r gwaith hwn, ar raddfa mor eang a chyda chymaint llwydd, onibae am gyn- horthwy gwirfoddol llawer a gynhygiodd eu gwasanaeth i'r Y.M.C.A. Hawdd deall fod gwaith o'r natur hwn, gyda'i anghysuron a'i oriau meithion, yn dreth drom ar ieehyd y rhai sydd wedi bod yn ddyfal wrtho yn ystod y misoedd diweddaf, a sicr yw y dylid ymdrechu cael eraill i lenwi'u lie, neu eu cynorthwyo am rai wythnosau, er mwyn iddynt gael ychydig seibiant neu beth ysgafnhad o ran eu gwaith, o'r hyn lleiaf. Ar ran Cyfysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru. apeliwn am gynorth- wywyr ynglyn a'r gwasanaeth hwn yn y gwersylloedd yng Nghymru, ac yn y rhai hynllY yn Lloegr lie y ceir milwyr o Gymru. Apeliwn yn arbennig at awdurdodau'r Eglwysi i ymgymervd, lie bynnag y bo modd, a rhyddhau rhai o'r offeiriaid a'r gweini- dogion ieuengaf (yn enwedig rhai feddant brofiad o waith cymdeithasol mewn instit- utes) o'u dyledswyddau arferol, er eu galluogi i dreulio ychydig wythnosau i gynorthwyo yng ngwaith yr Y.M.CA. ymhlith ein milwyr, ac felly i wneud gwaith a fawr werthfawrogir gan fechgyn ein gwlad, sy'n awr dan ddisgyblaeth filwrol. Credwn fod yna lawer ynglyn a'r Eglwysi fyddai'n falch o'r cyfle i helpu, a chredwn hefyd y byddai modd i lawer Eglwys drefnu i'w rhyddhau oddiwrth eu gwaith bugeiliol am ychydig amser. Bydd yn dda gan Ysgrifennydd y Gyfysgol (y Parch. Gwilym Davies, M.A., Caerfyrddin) dderbyn unrhyw gynnyg o gynhorthwy, a gwnaiff bob ymdrech i drefnu i'r cynorthwy- wyr gael myned i'r camp mwyaf cyfleus iddynt, cyn belled ag y byddo hynny'n ddichonadwy.—Ar ran Cyfysgol ^Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru, E. STAFFORD HOWARD, Llywydd. JAS. R. BUCKLEY, Archddiacon Llandalf D. LLEUFER THOMAS, Cyn-Iywyddioa GWILYM DAVIES, Ysgrifennydd. I. H. UNGOED THOMAS, Is-Ysgrifennydd.
Y GOLOFM GAM.
Y GOLOFM GAM. Cyngerdd C6r Plant y Pentre. Cynhaliodd y Cor enwog uchod eu cyngerdd blynyddol yn un o ystafelloedd cyfleus y St. George's Hall, nos Sadwrn ddiweddaf, pan y daeth cynhulliad rhagorol ynghyd. Cynorth- wywyd y Cor gan y rhai canlynol y Misses Gwladys L. Evans, Gertrude Swinburne, Alice Wilkins, Kitty Bannell, Grace Hughes, Irene Wilson, Rosaline Spriggs (adroddeg), Mr. Fred George, Mr. Arthur Ll. Edwards (crythor), a Master Thos. Quinn (cornetist), Cyfeiliwvd yn fedrus gan y Misses Nellie Edwards a Dilys Jones. Y mae'r cyngerdd blynyddol hwn yn un yr edrychir ymlaen ato gyda diddordeb, ac yr oedd yn arlwy eleni yn deilwng o'r Cor a chyngherddau'r gor- ffennol. Yn y rhan gyntaf, cafwyd amryw* iaeth lhapus. Agorwyd gyda'r Anthem Genedlaethol, a chanodd y Cor Estudiantina (Lacoin), The Boy's Song (Silver), a'r Waltz o Faust (Gounod). Canodd Miss Gwladys Evans She is far from the land (Lambert). Yr oedd yn felys er nad yn gryf. Canodd Miss Swinburne Sink, red Sun (Del Riego),— llais da iawn, cyfoethog ei seiniau isaf, ond y rhai uchaf ychydig yn ddififygiol; datganiad chwaethus. Canodd Miss Wilkins gan ddis- grifiadol, The City Flower Girl (Ewing). Medd lais da, ond yr-oedd yn ansicr ei thon- yddiaeth ar adegau. Canodd, modd bynnag, yn hynod o dda, gan actio y gan yn naturiol. Yr oedd Absent (Metcalfe) gan Miss Bannall, yn felys iawn, a'r humming acompaniment gan y Cor yn brydferth Canodd Mr. Fred. George yr hwn sydd yn meddu llais baritone neilltuol o dda, yn rhagorol. Y mae efe's ganwr diwylliedig. Parha Mr. A. LI. Edwards i gynhyddu, a chwaraeodd yn feistrolgar o No. I Concerto gan Seitz. Cafwyd adroddiad penigamp o Marguerite (Whittier) gan Miss Spriggs-elocutionist o radd uchel. Un o'r pethau prydferthaf yn y rhan gyntaf oedd y rhangan The brown burns of the Border (Hubert Parry) gan barti o ryw saith neu wyth o ferched ieuainc, a chanodd y C6r y Waltz, yn ardderchog, ac yr oedd y ddwy ddawnsreg ieuanc yn fedrus iawn. Yn yr ail ran cafwyd Grand Tableaux, England and her Allies—y Cor ac amry w o'r personau a enwyd eisoes yn cymryd rhan. Yr oedd detholiadau y C6r yn gyfaddas, ac yn dangos barn dda o du yr arweinydd. Wele hwy The Birthright (Elgar), The Soldier's Chorus o Faust, a The Comrades' Song of Hope. Canwvd hwynt yn gampus. Haedda'r pethau neilltuol gafwyd yn yr ail ran sylw, sef y gan ystum Duncan Gray (Richardson) a'r Miserere ar y cornet gan Master T. Quinn. Yr oedd y gyntaf yn gampus a'r diweddaf yn hynod o dda, pan ystyrier ieuengrwydd yr offerynnydd. Yr oedd rhai o'r seiniau yn ddiffygiol, y donydd- iaeth yn ddrwg weithiau, a'r croesaceniadau (syncopated tones) yn wallus. Ond gwnaeth yn wir dda, a chafodd dderbyniad fel tywysog bach. Anffodus oedd y gwrthdarawiad an- hyfryd rhwng y bugle a'r cornet gyda'r dernyn cyntaf yn yr ail ran. Parai dipyn o boen i'r cantorion yn ogystal a'r gynulleidfa. Gwnaeth y personau unigol yn ganmoladwy yn y rhan hon. Terfynwyd gyda'r Recessional Hymn Rudyard Kipling, God oj our Fathers. Cyngerdd rhagorol, ac yn adlewyrchu clod ar yr arweinydd a phawb a gymerodd ran. Dichon nad oedd y C6r mor gryf ag arfer, ond yr oedd ei ansawdd a'i ganu yr un, ac yr oedd yn gwbl o dan reolaeth ei arweinydd medrus. -G. W.H.
Advertising
CWMNI DRAMA CROSSHALL STREET. Perfformir y Ddrama Gymreig Adnabyddus, Beddau'r Proffwydi, gan y Cwmni uchod, yn y David Lewis Theatre, YMHEN YCHYDIG WYTHNOSAU. Hysbyeir y dyddiad eto.