Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
YS] AFELL Y 13LIRDD I
YS] AFELL Y 13LIRDD I Y ejnhjrchion gogyfei gly golofn hon i'w oyf- eirio :—PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool. WEL, nid fy mai i yw fod y beirdd yn parhau i osod enwau tanllyd ar y Caiser a'i blaid- Mae yma ddigon o losg-belenni i roi Lerpwl ar I dan Y Caiser.-Yii ymyl bod yn gywir o ran cynghanedd, ond mae'r llinell olaf o'r englyn cyntaf yn wallus,— O'r ochain wyllt wreichiona a'r un modd y llmell gyntaf o'r ail englyn :— O'r diaflaid sy'n bryd hela. 0 blith y lluaws sydd mewn Haw, anfonir y rhai hyn i'r swyddfa,—Ymson ar Ymadawiad Gwrtheym, l'r Gad I Moses, I'r Submarine, Vr Lleifiad, Prydain Fawr, A thra yr oedd dy was, etc., Ysbryd priodi, etc. YMSON CYSUR Y DYN BYR. 1 NID corff o nodedig hyd-yw y dyn ad ei ol mewn bywyd I'w wir angen bob ennyd, Dyn o ben edwyn y byd.—PEDROG. I ENGLYNION I I ifr. Chas. Elfyn Hughes (Ap Elfyn)' Swyddfa'r Faner, Dinbych, ar ei briodas a. Miss Mary Owen-Davies, cyn brif- athrawes Y sgol Frongoch, Dinbych. I 'MRAWD mae grym y rhmydo-at ei Fair Bert fin, wedi llwyddo; Ar ryddid clir rhoddwyd clo, Swyn rhamant sy'n eu rhwymo. Mary wen yn gymar oes—a'i denodd Yn dyner hyd eiloes Llawn nwyf Hon fo'u holl einioes, A'n haelwyd lan heb weld loes. Heddyw a gawd yn ddydd gwyn—yn ddi- Y dydd fo n ymestyn [fwlch, Heb arwydd laith o brudd lyi-i Dalied yn ddydd y delyn. I Er FRkWI3 Ali DAD. MACHLUD SEREN I Cyflwynedig i'r Cymro pur a'r cyfaill- Jfyddlon, I y Prif Arolygydd Evan Morgan (Ieuan ab Ieuan), Birmingham, yn ei alar ar ol ei annwyl briod, a hunodd yn Ionawr, 1915. 0 IEUAN hoff, mae'm calon brudd Yn gwaedu ar dy ran I gario teimlad, geiriau sydd Yn llawer iawn rhy wan. Ar gyrraedd dinas Birmingham Derbyniais newydd trwm, A dyna'r achos prudd paham Mae'm calon fel y plwm. 0 gymrawd gwych, bydd gwagle du Yn nen dy fywyd mwy Machludo wnaeth y seren gu Arweiniai'th fordaith drwy Groeswyntoedd a llifeiriaint blin, A llawer storm, cyn hyn, Ei llewyrch siriol, tawel rin, Fu iti'n oleu gwyn. J Maehludo wnàeth dros orwel pell, A'r cwmwl ddaeth i'th gau Ond, yn y cwmwl gweli'n well, Ei llewyrch yn parhau Er myned o ffurfafen byd, A'th ado am funud awr, Fe bery'i goleu hi o hyd, I'th arwain at y wawr. Fe erys byth ei goleu gwiw I'th gynnal ar dy daith, I gadw gobaith gwir yn fyw, A'th nerthu yn dy waith Os collaist heddyw'i llais a'i Haw, Fu'n rhan o'th fywyd di, Fe deimli beunydd ger dy law Ei hysbryd hynaws hi. Mewn hapus hun, ar aden wen Rhyw angel, ciliodd draw; Ar doriad gwawr, tu hwnt i'r Hen, Dihunodd, yn ei law, Gadawodd di, fy nghyfaill cu, Gerllaw ei gwely'n syn,— Ond gwel,—tu fewn i'r cwmwl du, Pelydra goleu gwyn. 0 anial dir byd blin, a'i bla, Ehedodd uwch y bedd, I erddi heirdd tragwyddol ha', Dan wenau heulwen hedd Hi sylla ar dy lwybrau di, Fel goleu seren wen, Ar d'yrfa unig, gwelir hi Yn gwenu uwch dy ben. Bangor LLEW TEGID I AER LLANDINAM I GWLAD o gan ydyw gwlad geni-annwyl Aer Llandinam iddi Hwn gaiff fraint hen gyff o fri,— Olyniaeth mewn haelioni. Tyfu y bo'r otifedd-yn addas Noddwr gwlad a rhinwedd Hyd yr oes yn bleidiwr hedd, A gwron mewn trugaredd.—PLENYDD.
Advertising
THE New Wales: Some aspects of NATIONAL IDEALISM with a PLEA for Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY EDWARD T. JOHN, Esq, M.P. Price, 6d.; By Post, 7d. Published by HUGH EVANS SONS 356.8 Stanley Road, Liverpool
Ein C-medl ym ManLoinion.…
Ein C-medl ym ManLoinion. I Dyddiadur. I MAWRTH 27-Cyinanfa y QobeithJuoedd Cenhadon y Sul Nesat. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Mosa SIDI-10.30 a, FL-30, J E Hughes, Caernarfon Pll,WDLITON-10.30, E Wyn Roberts 6, R Williams 1 HBTWOOD ST-10-30, David Thomas Llandrillo 6. E Wyn Roberts VICTORIA PK—10.30, R Williams 6. David Thomas LmoH—10-30 a 8, W ARRINGTON-IO.SO a 6, PAKNWORTH—2.30 a 6, R4SM8TOWH—10.30 a 5.45. ASHT0H-UND3R LYNE—2.30a 6. R Ernest Jones BLACKBURN— SSI/WTB UJTDBBOX, ECOLES-11 a 6-30, W W Jones YR ANNIBYNWYB OROILLTolq RD-10.30 a 6.16, BOOTH 8T-10.30 a 6-15, Myfyriwr LD DPNCAJT ST., SALFoRD-10-80 a 6-15, Cyf. Oweddi QtTXBB'8 Riv-10-30 a 6-15, T C Jones, I.erpwi HOIUNWOOD—10.30 a 6.16, WiASTi—10.45-a II, Y WESLEAID DEWI SANT-10-30, G Tibbott 6, J S Williams HOOB-IO.SO. J M Williams 6. J David Owen 8105—10.80, J 8 Williams, 6, D R Rogers BB0LAH— 2.30 a 6. John Felix OUVABIA—10.30, D R Rogers 8, J M Williams BOCLSS—10-30.. John Felix, 8.80, G Tibbott Y BEDYDDWYR UP. MSDLOOK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LOSGSIGHT—10.30 a 6.S0, SOBlS'g LANI, S0TTON—10.30 a 6.30 COLOFN Y CYFRIN. GWLEDD DYFODIAD I ORD.-Daeth llond ysgoldy capelVictoria Park nos Sadwrn i gyfarfod llwyddiannus, cyfeillgar, a char- trefol. Dyfodiad i Oed Cymdeithas Ddir- westol Merched y dref a'r cylch. Mrs. 0. R. Williams, llywydd y Gymdeithas, oedd y cadeirydd. Sylwodd fod gan y Gymdeithas agos i bum cant o aelodau, ac ychwanegwyd at y canghennau gan un newydd arall yn Tyldesley, a rhif ei haelodau yn dyblu, ac yn weithgar iawn. Cyfoiriodd at y golled a gafwyd trwy farwolaeth Mrs. James Hughes, fu'n ddylanwad cychwynnol y Gymdeithas, ac yn ffyddlon a diwyd bob amser. Rhoddodd Mrs. Williams hefyd anogaeth gref i bob aelod, ac yn enwedig i'r genethod ieuainc, wneud yr hyn a allent gyda'r gwaith er mwyn crefydd bydd o fantais fawr i bob un wisgo bathodyn y Gymdeithas. Rhoddwyd gwahoddiad arbennig i Mrs. Ellis James Jones, Rhyl, i'r cyfarfod, am mai hi oedd llywydd cyntaf y Gymdeithas. Diolchodd am y croeso caredig. Chwith ganddi fod amryw o'r gweithwyr cyntaf yng ngholl. Enwodd y rhai fu'n cydgychwyn y Gymdeithas a da oedd ganddi ddeall am y gwaith mawr a wnaed yn yr un mlynedd ar hugain, ond mae gwaith mwy yn aros yn y dyfodol. Balch iawn oedd o weled cymaint o ferched ieuainc yn bresennol, a chymaint ohonynt hefyd yn aelodau prinder ohonynt hwy sydd mewn lleoedd eraill. Cyflwynwyd Seren Anrhydedd (Star of Honour) i Misses Maggie Hughes, Rochdale, a Louie Jones, Medlock Street, gan Mrs. E. J. Jones, gyda gair da a chyngor. Enillodd y ddwy y seren am gael deuddeng aelod newydd bob un yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf. Yn adran amrywiaethol y cyfarfod, canwyd I aith fy Main gan Miss Williams, Manley Park. Caed y chwaraeawd gref ei gwers Owraig Die Sion Dafydd. gan y Misses Rowlands a Rob- erts, Moss Side. Deuawd gan y Misses Griff- iths a Jones, Stockport, anodd i neb guro'r ddwy am eglurdeb y geiriau. Adroddiad, While the Sabbath bells tvere ringing, gan Miss Amy Davies, Pendleton. Corawd, Japanese Love Song, gan ferched o Victoria Park. Sketch, Jackets, parti Medlock Street. Can, 0 happy childhood, gan Miss Conway, Hey- wood Street, hi hefyd ganodd Hen Wlad fy Nhadan. Diolchwyd gydag anerchiad atgof am rai o arweinwyr y Gymdeithas, ac am v gwaith, gan Miss M. C. Ellis, M.A., a chaed ychydig eiriau diolch hefyd gan Mr. Rd. H. Rogers, Stockport. Dechreuwyd trwy weddi gan Mrs. Jones, Medlock Street, a therfyn- wyd gan y Parch. E. Wyn Roberts. Mwyn- hawyd y te a'r danteithion gan bawb, a threuliwyd noson ddifyr wrth fodd pawb. DARLITH Y SAMPLA U.-Ni fu eym%inj o chwerthin a difyrrwch i gynulleidfa yng nghyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol ers llawer dydd ag a gafwyd nos Wener wrth wrando darlith y Parch. Wm Owen ar Travellers and their Samples ond yn gym. hlethedig a'r ysmaldod yr oedd gwirioneddau pwysig, gwersi buddiol, ac addysg dda. Gan mai trafaelwyr ydym i gyd ar daith bywyd, meddai, rbannodd ei destyn i gynrychioli gwahanol ddynion,a dyma'r samplau a gymer- odd yn arwyddnod y cwbl trafaelwyr mewn starch, vinegar, sweets, brass, toys, arms. Defnyddiodd y nwyddau hyn mewn modd damhegol i roddi disgrifiad manwl a chywrain o dueddiadau, gweithredoedd ac arferion dynion. Cyfyngir arnaf ormod i roddi cryn- hodeb o bert-ddywediadau'r ddarlith hon, dichon y caf gyfle i roddi ambell sylw o dro i dro. Y cadeirydd oedd Mr. John Evan Morris, a diolchwyd i'r darlithydd gan y Mri. R. G. Edwards ac Ebenezer Williams. CYDNABOD Y TEILWNG.-Ax derfyn cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol, sylwodd Mr. Phylip Hughes, ei llywydd, ar y golled a gawn trwy ymadawiad y Parch. D. D. Will- iams, o'n plith, ac amlygwyd cydymdeimlad yr aelodau ag ef oherwydd gwaeledd ei briod, a dymunwyd yn hyderus am ei hadferiad. Cynhygiwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch. J. H. Hughes a chefnogwyd gan y Parch. M. Llewelyn, a phasiwyd ef yn frwd- frydig gan y gynulleidfa Dymunwn fel Cymdeithas ddatgan ein gofid yn wyneb ymadawiad y Parch. D. D. Williams. Yn ystod ei arhosiad ym Manceinion, bu'n gefnog- ydd eiddgar i'r Gymdeithas Genedlaethol. Mynychai gyfarfodydd y Cyngor yn ffyddlon, ac yr oedd ei ddoethineb a'i wybodaeth o werth mawr. Gwnaeth ei waith pan yn llywydd y Gymdeithas yn dra effeithiol. Rhoddodd ddarlithiau galluog ar bynciau diddorol a ddalient berthynas fyw a hanef a llenyddiaeth Cymru. Mynychai Mrs. Will- iams hefyd gyfarfodydd y Gymdeithas, a bu drws ei chartref yn agored i'w darlithwyr. Gan eu bod yn symud, cyflwynwn Mr. Will- iams yn wresog i'n cydwladwyr yn Llyn- lleifiad. Sicrhawn y ceir ynddo wladgarwr pur, yn eithriadol hysbys yn hanes Cymru Fu, ac yn barod i osod ffrwyth cyfoethog a gwerthfawr ei lafur mown modd galluog ac offeithiol, at wasanaeth ei gydgenedl. Gan ddymuno'r goreu i Mr. a Mrs. Williams yn y dyfodol. SUT DDATHLU FYDD ?Ni chawn ddathlu Gwyl Ddewi a chinio eleni, teimla'r Gymdoithas Genedlaethol fod hynny'n amhriodol yn wyneb tryblith gofidus y rhyfel. Mae ralwad gref am y gefuogaeth arferol i gyngerdd Cymreig y Gymdeithas Gorawl nos Sadwrn yn yr Houldsworth Hall. Addewir cystal cyngerdd y tro hwn a'r blynyddoedd a fu, a pha raid am ddweyd ychwaneg. Cyn- helir gwasanaeth arbennig yr Wyl yn Eglwys Gymraeg Lime Grove ddydd Sul. Pregethir fore a hwyr gan y Parch. D. Rees, B.A., Ashton-in-Makerfieid, a cheir Cantata yn y prynhawn. PR YNNWCH FANER.-Maecaiswediei wneud yma am i bob Cymro wneud ei ran ynglyn a'r National Flag Day ar ein Gwyl Genedlaethol. Symudiad yw i estyn cynhorth- wy i'r Milwyr Cymreig. Mr. Wm. Lewis, Llundain, yw'r ysgrifennydd, a Syr Vinsent Evans y trysorydd. Mae nifer fawr o fonedd- igesau yn bwyllgor, ac yn eu plith Mrs. Lloyd George a Mrs. Ellis Griffith. Darperir baner fach i'w gwisgo, ac i'w chael gan Mr. R. H. Rees, Caerdydd. Cynrychiolir ef yma gan Mr. E. H. Parry, 37 Barton Street, Mos^ide. Ceisir trefnu i rai o'n rhianedd tlysion werthu'r baneri, ac y mae'r pris yn isel iawn. Gofaled pob un am wisgo'r faner goch yn y cyngerdd nos Sadwrn. WRTH FODD Y SAESON.-Cynhalia bwrdeisdref Salford nifer o gyngherddau bob gaeaf ers 13 mlynedd, yn y Royal Technical Institute. Cynhaliwyd un nos Sadwrn ddi- weddaf gan y Cambria Male Voice Choir, dan arweiniad Mr. Llew. Hughes, Eccles. Canodd y c6r Gwyr Harlech yn gyntaf, nes gwresogi'r gynulloidfa fawr i hwyl ragorol ar unwaith, a chadwyd y brwdfrydedd yn uchel hyd y diwedd. Ymddiriedwyd y cyfrifoldeb am yr holl ganu i'r C6r hwn aelodau ohono yw Mr. J. A. Roberts a Mr. J. R. Davies a Mr. Bewley, a chanwyd unawdau ganddynt. Cynorthwy- wyd hefyd ag unawdau gan Miss Gwen Will- iams a Miss Sephorah Hughes. Yr oedd y gynulleidfa wedi eu calon-ddenu gan y cwbl, a mynasant gael encor ar ol pob can. Tyst- iodd yr Henadur Lindsey, y cadeirydd, mai hwn oedd y cyngerdd goreu gawsant ers blynyddoedd. Adroddwyd hefyd gan Miss E. Blakewell, geneth 11 oed eithriadol yn hyn, rhaid oedd iddi hithau adrodd ddwywaith bob tro. Cyfeiliwyd gan Miss Morfudd Williams, hithau'n ieuanc ac wedi ei donio gan natur uwchlaw'r cyffredin a medr offerynol. Mae'r C6r yn cynnal cyngerdd yn y Victoria Hall, Ancoats, nos Sadwrn nesaf. Cewch air am hwn, a hanes y C6r a'i orchestion yn y rhifyn nesaf. o
Undeb y Cymdeitbasau Cymraeg.
Undeb y Cymdeitbasau Cymraeg. Wele benillion addas i'w dysgu a'u canu yn ystod pum canmlyddiant marw Owen Glyn Dwr (1359-1415). COFFA GLYN DWR. Alaw Dydd Gwyl Dewi. YN awn y rhyfel gwelwa'r byd, A gwallgof yw y cledd, Ond gweddi Cymru sydd o hyd Am ryddid ac am hedd 0 Dduw rho gariad pur dy fron Yng nghalon ddewr pob gwr Yng Ngwalia Wen y flwyddyn hon, Wrth goffa am Glyn Dwr. Wrth drechu'r gelyn sathrai'n tir Ti fu ei noddfa gref A'r proffwyd lolo welai'n glir Ei seren ddisglair ef; 0 Dduw rho inni weld Dy wedd Trwy fellt a mwg y gad, Wrth gadw'r arwr sy'n ei fedd Yn fyw rhwng bryniau'n gwlad. Mae Glyn Dwr eto ar ei hynt, A'i gleddyf yn ei law Yn brwydro gyda'r gelyn gynt, I gadw gelyn draw 0 Dduw bydd iddo'n darian gref 0 fewn ei wlad ei hun, Wrth chwyfio'i faner yn y nef I gadw Cvmru'n un. BRYNFAB I
Advertising
Rbifyn y Gaeaf. Y BEIRNiAD CYLOHOBAWN CHWABTEBOL, dan nawdd Cymdeithaoau Cymreig y Colegue Cenediaethol a tban olygiaeth J. MORRIS JONES. Cynnwys— CYN Y RHYFEL Y Prif. Syr H. Reichel PENFRO GYMREIG A SEISNIG A'I PHOBL Y Parch. Thos. Davies LLEN AC ADDYSG ELFENNOL William Rowlands YSBRYDOLIAETH Y BEIBL Y Parch. R. S. Thomas GWERTH ENWADAETH Yr Athro D. Morgan Lewis GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland ADAIN A CHAN Y Parch. John T. Job ADOLYGIADAU gan y Parch. J. Puleston Jones, y Parch. John Roberts, Dr. J. Lloyd Williams, Ifor Williams, ac O. W. Griffith Hugh Evans a i Feibion, Argraffwyi, 856, 858 gtaplay Road. Lerpwl Ceinion Rhuddfryn Yn oynnwys pigion o'i englynion a'i jfvwyddan wedi eu detbol gan ANTHHOPOS « than olyg. iaeth ei fab, y Parch. LEWIS MORRIS Wrexham Ynghyda darlun o'r owdur, a inodisdau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rbad (mewn amlen), 6cb Trwy'E.post, 7o. HUGH EVANS A'I FEIB LLYFRAU CYHOEDDEDIG GAN HUGH EVANS & SONS, Swyddfa r Brython," 356, 358 Stanley Rd., LIVERPOOL. Tel. 591 B, otle IOLO MANUSCRIPTS, being a Selection of Ancient Welsh Manuscripts in Prose and Verse from the collection made by EDWARD WILLIAMS (Iolo Morgannwg), with English Translations and Notes. Price, One Guinea. Argraffiad Llyfrbryf. A KEY AND GUIDE TO THE WELSH LANGUAGE, or a Welsh-English Diction- ary and Grammar combined. Text-Book —The Welsh Bible. By PEDR HIR. Cloth, 48. net. a FOR I FYNYDD, a Chaniadau Eraill. Gan ELPHIN. Papur a Rhwymiad goreu, gilt top, 58. THE SABBATICAL REST OF GOD AND MAN an exposition on Hebrews iv, 3-9. Nisbet's Theological Library. By Rev. JOHN HUGHES, M.A. Cloth, 48. DAN Y GWLITH: Odlau Mawl i'r Cyf- ryngwr Crist Iesu ein Harglwydd. Gan y Parch. JOHN HUGHES, M.A., Lerpwl. Llian, 38. 6d. 2/6 yr un CWRR Y LLEN Ysgrifau Syml ar Fater- ion Gwyddonol gan GWILYM OWEN, M.A., D.Sc., Athro mewn Athroniaeth Naturiol yng Ngholeg y Brifysgol, Auck- land, N. Z. (gynt Coleg y Brifysgol, Lerpwl). Llian hardd. COFIANT Y PARCH. ROBERT OWEN (Ty Draw), gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Llian. (Mewn amlen, Is.). HOLL WEITHIAU GORONWY OWEN, yn cynnwys ei Holl Farddoniaeth, wedi ei gymeryd o'r argraffiadau hynaf; ei Holl Lythyrau; ynghyda Hanesei Fywyd. Gan LLYFRBRYF a PHEDROG. Llian, 0 FOR I FYNYDD, a Chaniadau Eraill, gan ELPHIN. Llian hardd. Rhwymiad goreu, 5s. O'R MWG PR MYNYDD, sef Cyfres o Ysgrifau fu yn Y BRYTHON am Wibiadau'r Golygydd Oddicartref. 168 Tudalen. 26 o luniau. Llian. ER MWYN IESU: Pregethau a Barddon- iaeth y Parch. S. T. JONES, Rhyl. Llian hardd. TLYSAU YR HEN OESOEDD, sef Gwaith Doethion y Cynfyd, yn cynnwys rhan o gj-wreinrwydd yr Hen Frutaniaid. Pris Cyhoeddedig, 58. Pris gostyngol, 2 /6. TRISTIORA or Songs in the Night. By the Rev. JOHN HUGHES, M.A, Cloth,, (Paper Cover, 18.). Y MORTHWYL: aef y Morthwyl Cyntaf, yn cynnwjs saith ugain o Adroddiadau,. 200 tudalen a'r Ail Forthwyl, yn cyn- nwys saith ugain o Adroddiadau, 200 tudalen. Wedi eu cydrwymo. Llian. CRISTIONOGAETH A CHYMDEITHAS Gan y Parch. J. H. HOWARD. Rhagair gan y Gwir Anrhyd. D. LLOYD GEORGE, A.S. Llian. net. GERAINT AC ENID, A CHANIADAU ERAILL. Gan MACHRETH. Llian. YR YMCHWIL AM Y GOLEUNI: Gan D. R. JONES, Cambria, Wisconsin, U.D.A. Gyda llun yr awdur. Llian hardd. 2 yr un. LLAIS 0 LUNDAIN Ysgrifau Myfyrdod gan y Parch. PETER HUGHES GRIFFITHS. Llian. LLOFFION GRAWNWIN: sef Cyfrol. Goffa y Parchn. William Roberts, William Nicholson, D. M.. Jenkins, Hugh Jones, David John, H. Parry Thomas, o Undeb Annibynwyr Cymreig Lerpwl, Manchester, a'r Amgylchoedd. Gan y Parch. O. L. ROBERTS. Llian hardd. MARWOLAETH Y SAINT. Offrwm Cof i'r diweddar Feddyg Hugh Williams. Gan y Parch. JOHN HUGHES, M.A., Liver- pool. Llian. Y DYN IEUANC Gan y Parch. O. L. ROBERTS, Lerpwl. Nis gellir cael gwell llyfr i'w roi yn llaw mab neu ferch ieuane pan yn troi allan i'r byd. Rhwymiad goreu, gilt top, 28. j mewn llian hardd, 1 /6. 1/6 yr un. CODPR HWYL: Llyfr Newydd o Adrodd- iadau, wedi ei gynnull gan Olygydd Y BRYTHON. 154 o ddarnau, 200 tudalen. Llian. Trydydd Argraffiad. (Amlen, la.). DIARHEBION Y CYMRY: y Casgliad llawnaf a rhataf o ddoethineb yr Hen Gym- ry. Gan y Parch. T. O. JONES (Ilryfan), gyda Rhagdraeth gan y diweddar Barch. JOHN HUGHES, D.D., Caernarfon. Llian. FORGIVENESS: In Nature, In Man, In God. By THOMAS DAVIES, B.A., Intro- duction by Mrs. HERMAN. Llian. GWELEDIGAETHAU Y BARDD CWSG Gan ELLIS WYNN-E, dan olygiaeth O. ETLIAN OWEN a HUMPHREY ROBERTS, Athrawon mewn Cymraeg o dan Gyngor Addysg Lerpwl. Llian (Amlen gref 18.). THEANTHROPIA Neu y Dwyfol a'r Dynol yn y Beibl, gan y Parch. ROBERT ROBERTS, B.A., Ph.D., Trpfnant. Trin- iaeth feistrolgar ar y Canon ac Ysbrydol- iaeth yBeibl yn wyneh y oleuni diweddaraf Llian hardd. (Amlen, 18.). YR IAITH GYMRAEG Ei Horgraff a'i Chystrawen. Gan y Parch. D. TECWYN EVANS. B.A. Llian. Y DYN IEUANC Gan y Parch. O. L. ROBERTS, Lerpwl. Nis gellir cael gwell llyfr i'w roi yn llaw neu mab ferch ieuanc pan yn troi allan i'r byd. Llian hardd. Rhwymiad goreu, 28. yr un. ATHRYLITH JOHN CEIR10G HUGHES, gan y Parch. H. ELFED LEWIS, M.A. Amlen BARDDONIAETH GORONWY OWEN. Chweched Argraffiad. Gyda Bywgraffiad byr gan PEDROG a LLYFRBRYF. Amlen Wedi ei rwymo ynghyda'r Llythyrau, mewn llian, 28, 6d. BLAGURON AW EN. Gan GWAENFAB. Yn cynnwys amryw ddarnau cymwys i'w hadrodd. Mewn amlen. BARDDONIAETH EDWARD MORRIS (Perthi Llwydion). Wedi ei gynnull gan HUGH HUGHES, Cerrig y drudion. Mewn amlen. CODPR HW YL Llyfr Newydd o Adrodd- iadau, wedi ei gynnull gan Olygydd Y BRY- THON. 154 o ddarnau, 200 tudalen Y Sylltiad goreu a helaethaf yn yr iaith. Tiydydd Argraffiad. Amlen. Llian, 1/6 COFIANT Y PARCH. ROBERT OWEN (Ty Draw). Gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Amlen. Llian, 28. 6d. CROESPR BONT, set anturiaethau Habak kuk Crabb, gyrrwr y Goach Fawr. Gan CLWYDWENFRO. Dan olygiad y Parch. T. ELI EVANS. Amlen grfe. DANIEL OWEN Y 'NOFELYDD. Byw graffiad gan ISAAC FOULKFS (Llyfrbryf. Amlen. GWELEDIGAETHAU Y BARDD CWSG, gan ELLIS WYNNE. Dan olygiaeth O. EILIAN OWEN a HUMPHREY ROBERTS, B.A., Athrawon mewn Cymraeg o dan Gyngor Addysg lerpwl. Amlen gref. Llian, 18. 6d. HELYNTION BYWYD HEN DEILIWR. Gan HIRAETHOG. Amlen. LLYTHYRAU GORONWY OWEN. Dan olygiad yr Athro J. MORRIS JONES. Amlen. Y Llythyrau a'r Farddoniaeth wedi eu cydrwymo mewn llian, 2s. 6d. LLYFR Y TRI ADERYN. Gan MORGAN LLWYD 0 WYNEDD. Argraffiad Newydd, gyda Rhagarweiniad gan Olygydd y BRYTHON. Llian. PULPUD HOPE HALL. Amlen. THEANTHROPIA: Neu y Dwyfol air Dynol yn y Beibl, gan y Parch. ROBERT ROBERTS, B.A., Ph.D., Trefnant. Trin. iaeth feistrolgar ar y Canon ac Ysbrydol- iaeth y Beibl yn wyneb y Goleuni diwedd- araf. Amlen. Llian hardd, Is. 6d. TRISTIORA: or Songs in the Night. By the Rev. JOHN HUGHES, M.A. Paper Cover. Cloth, 28. 6d. Y DRWS AGORED. Telynegion byrion, gyda 12 o ddarluniau cain. Gan R. H. JONES (awdur "Drwy Gil y Drwe ").o Wedi ei rwymo mewn llian hardd. Y MORTHWYL, saith ugain o Adrodd- iadau. 200 tudalen. Amlen. YR AIL FORTH W YL, saith ugain o Adroddiadau. 200 tudalen. Amlen. Y ddau Forthwyl wedi eu rhwymo ynghyd, meum llian hardd, 2 /6. YR AIL GANRIF Rhai gwersi oddiwrth y Canmlwyddiant. Atodiad i'r anerchiad o Gadair y Gymanfa Gyffredinol, Dref- newydd, 1912. Gan y Parch. JOHN HUGHES, M.A., Liverpool. Amlen gref. JOHN CEIRIOG HUGHES: Ei fywyd, ei Athrylith, a'i waith. Gan LLYFRBRYF Amlen. Gweddill Argraffiad 1. Foulkes 9d. yr un. PWY BIAU'R GADAIR? Drama ddig rifol gan DEWI MAIO FEIRION. Amlen. LLAWLYFR CYFLAWN AR LYFR YR AOTAU, gan y Parch. OWEN JOHN OWEN, M.A., Rock Ferry. Yn dair rhan: Cwestiynau, Ystyr Geiriau, a Nodiadau Esboniadol. Limp Cloth. C8, 136 tudal. Map prydferth o deithiau Paul. 6d. yr un. ADRODDIAD A U'R PLANT: ar gyfer Cartref, Ysgol, a Llwyfan. Gan LLIFON. Llian ystwyth. BREUDDWYD SION Y BRAGWR, neu Weledigaeth Dinas Malltod. Gan PEDR HiR. Amlen. CEINION RHUDDFRYN, sef casgliad o farddoniaeth RHUDDFRYN. Tan olygiadd y Gatch. LEWIS MORRIS, Gwrecsam. Amlen. THE NEW WALES: Some Aspects of National Idealism, with a plea for Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. Introduction by E. T. JOHN, Esq., M.P. Amlen. LLAWLYFR CYFLAWN AR LYFR YR ACTAU. Gan y Parch. OWEN JOHN OWEN, M.A., Rock Ferry. Yn dair rhan Cwestiynau, Ystyr Geiriau, a Nodiadau Esboniadol. C8, 136 tudal. Amlen. LLYFR IEHOSHWA Cyfieithedig o newydd gan y Parch. GRIFFITH HUGHES, B.A., Blaenau Ffestiniog, a'r Parch. D. FRANCIS ROBERTS, B.A.,B.D., Blaenau Ffestiniog. Amlen. GWELEDIGAETH ANGAU, sef rhan allan o'r Bardd Cwsc. Gyda Guirfa llawn. Tan olygiaeth O. EILIAN OWEN a HUMPHREY ROBERTS, B.A.,Athrawon mewn ( ymraeg o dan Gyngor Addysg Lerpwl. Wedi ei gyfaddasu ar gyfer ysgolion a dosbartfe, liadau. Amlen. Interleaved.