Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Basgedaid o'r Wlad.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Basgedaid o'r Wlad. tBydd yn dda gennym gyhoeddi pob rhyw newydd a ddaio yma o'r wlad, hyd y caniatao'n golod. Boed pawb yn fyr ac yn flatus, ac m: vjelsoch chili erioed gymaint o nwyddai/r wlad y gellir eu pacio i'r Fasged fach.] 0 Bont y Cymer. DDYDD Mawrth diweddaf (Mawrth 16eg) yingynhnllodd torf fawr o drigolion Pont y cymer, Cwm Garw, a lleoedd eraill, i wneuthur y gymwynas olaf a, Mrs. Saunders, priod y Parchedig W. Saunders, C.S., Pont y cymer, a merch eich cyd-drefwr Pedr Hir. Bernir fod yn bresennol tua thair mil o I)obl--riiai o bob dosbarth a gradd o gymdeithas. Wedi gwasanaeth byr yn y ty, pryd y dar- Ilenodd ac y gweddiodd y Parchedigion W. Reynolds, Pont N, cymer, a D. C. Howells, Maesteg, acth cymaint o'r dorf ag a allai i Gapel y Noddfa, lie y gweinidogaetha Mr. Saunders, a lie yr enillasai ei annvvyl briod le cynnes ym mynwes pawb a gradd da ym mharch pawb. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. T. B. Phillips, Llangainor, yr hwn a ddarllenodd benderfyniadau o gydymdeimlad oddiwrth eglwysi, sef Jerusalem, Rhymni a Channel, New Tredegar (lie y buasai Mr. Saunders yn weinidog) Siloh, Tredegar (lie Ireuliasai Mrs. Saunders ddyddiau ei hieuenc- tyd pan oedd ei thad yno'n weinidog) Balliol Road, Bootle (lie y mae oi thad yn awr yn weinidog a'r lie yr ymunodd ei ferch a Mr. Saunders mewn glan briodas) Jeru- salem, Tonddu Bethania, Blaen garw; Bethlehem, Treaiaw Tyle Gwyn,Pont y rhyl: Libanus, Cwmbwrla, Abertawe. Dywedodd y llywydd i Mr. Saunders dderbyn tros 400 o lythyrau cydymdeimlad o bob parth o'r wlad. Siaradwyd gan y Parchn. W. A. Williams, Pont y pridd; F. Jones, New Tredegar; Principal Edwards, D.D., Caer- dydd D.Mardy Davies (M.C.), Pont y cymeI'; I Miss Trefor Jones, UaneIIi (yr hon a apwynt- iwyd dair blynedd yn ol yn ddilynydd i Mrs. Saunders fel ysgrifenuydd Undeb Zenanaidd Bedyddwyr Cymru) y Parch. Iorwerth Jones, Maesteg; yr Henadur y Parch. J. Davies (A.), Cadle, Abertawe. Coffhaodd y siaradwyr amryw nodweddion prydferth a gwiw yng nghymeriad a bywyd Mrs. Saun- ders, megis ei gallu i ymgyfaddasu i amgylch- iadau newycldion a dieithr, ei doethineb yn ei hymwneud a phobl a'i pharodrwydd i ym- drech a hunanaberth er mwyn crefydd,ac iddi fod yn fam ddelfrydol i Eluned, ei hunig ferch. Hefyd ei phrofiad hyfrvd yn y Glyn Tywyll a'i ftydd ddiysgog, a bod un o weinyddesau'r ysbyty wedi dweyd Her death is my life." Hefyd, gwynfydedigrwydd ei marwolaeth, a dymunid marw fel hyhi. Gwroldeb ei phriod yn ei drallod, a'i fyned y Sul y gorweddai'r corff yn ei dy i'r capel i addoli ac ymostwng ac ymnerthu yng ngras Duw. Soniwvd am lafur dihafarch Mrs. Saunders dros Undeb Zenan- aidd Bedyddwyr Cymru a'i llwyddiant mawr, A meNhed yr en wad yng Nghymru ac yn I Llundain yn liiawrhaU ei hymroddiad diarbed a ehysegredig i'w gwaith mewn mynych deith- iau ac areithiau lawer yn Ne a Gogledd Cymru. Disgrifid hi fel gem o brydferthwch neilltuol yn adlewyrchu pelydrau hyfryd yr Hwn sydd oil yn hawddgar. Canwyd emynau yn y cyfarfod, ac un ohonynt oodd emyn Ceiriog— 'Rwy'n llefain o'r anialwch Am byrth fy ninas wiw, Jerusalem fy nghartref, Jerusalem fy Nuw. Hon oedd hoff emyn Mrs. Saunders yn ei I dyddiau diweddaf, a mynych y ceisiodd hi gan 1 oi phriod ei chanu iddi, ac yntau a'i canai a theimladau o drallod a gorfoledd yn ymryson am yr oruchafiaeth. Wrth y bedd ym I Mynwent Pont y cymer siaradodd y Parchn. T. Morgan, Sciwen, a T. Idwal Jones, a gwedd- iodd y Parch. T. T. Jones a chanwyd yn lleddf-obeithiol,— Gad im' dreulio f'oriau, Arglwydd, I' Tra bwyf yn yr anial dir. Y prif alarwyr oedd,-y Parch. W. Saun- ders ac Eluned (priod a merch yr ymadawedig) y Parch P. Williams (Pedr Hir) a Miss Will- iams (tad a merch); Mr. a Mrs. W. N. Will- iams (brawd a chwaer-yng-nghyfraith) Mr. a Mrs. P. E. Williams (brawd a chwaer- yng-nghyfraith) Mr. a Mrs. Saunders (tad I a mam yng nghyfraith) Mr. a Mrs. Lloyd (brawd yng nghyfraith a chwaer y Parch. W. Saunders) Miss Hughes (cyfnither). Gwelwyd yn bresennol tua chant o weini- dogion a chynrychiolaeth helaeth o Gyngor Sir a Phwyllgor Addysg Sir Forgannwg, ac o holl fyrddau cyhoeddus y cylch. Yr oedd holl ysgolion Cwm garw yng nghau, a'r ysgolfeistri I a'r ysgolfeistresi yn bresennol. Anfonwyd llawer o wryddau (wreaths)--oddeut,-Li 30. Yn eu plith gwelwyd rhai oddiwrth Mr. Hugh Edwards, A.S. Eglwys a Chor y Noddfa Cymdeithas Pobl leuainc y Noddfa Dos- barth Mrs. Saunders yn yr Ysgol Sul Eglwys Salem, Pont y gog Cymdeithas Cymro- dorion Glenydd y Garw Undeb Zenanaidd Bedyddwyr Cymru; Undeb Zenanaidd Adran y Garw Athrawon Ysgolion Elfennol y Garw; Athrawon Ysgol y Betws; ac amryw eraill. Canu Trawsfynydd. Nos Sadwrn diweddaf cafodd trigolion Trawsfynydd wledd amheuthun. Cynhal- iwyd cyngerdd mawreddog, o dan nawdd yr eglwys Wesleaidd, gan y Cefn Mawr Quartette Party. Y Bardd athrylithgar Hedd Wyn a ddaliai'r awenau, a gollyngai ei englynion naturiol yn rhwydd i bob cyfeiriad. Enillodd Miss Sallie Roberts glust y dorf pan ganodd The Little Dumozel gyda llais cyfoethog a swynol. Yr oedd ei datganiad o'r Golomen Wen yn deilwng o'r gan a'i hawdur. Nid yn ami y clywir yn Nhrawsfynydd gymeradwy- aeth i ganeuon y Saie, ond pan ganodd Miss Katie Peters There is a land ac Absent, cafodd gymeradwyaeth wresog. Mr. Ted Hughes oedd y bass, a thynnodd yntau y lie am ei ben gyda'r Ornest. Bu raid i Mr. E. W. Bellis hefyd ail ymddangos wedi iddo ganu The Good Shepherd mor effeithiol. Heblaw cy- ffyrddiadau bywiog Hedd Wyn, cafwyd araith gampus gan y cadeirydd, Mr. J. R. Jarrett. Cafwyd cyfarfod bywiog a chanu chwaethus a da. Prin y mae angen dweyd fod y piano dan fysedd cyfarwydd Miss Jennie Hughes, Bron gwyndy. Nid gorchest fechan oedd swyno'r dorf fel y gwnaeth hi gyda'i chware ar Home, sweet home. Cyfeiliodd i'r cantorion mor siriol a dirodres ag arfer. Doed gwledd gyffelyb i Drawsfynydd yn fuan iawn eto.— WedVi dw-ymno.

I Adgofion yr Hen flaenor…

Advertising

I Heddyw'r Bore I

ER COF. I

Advertising

Trem IV-Dallineb Saeson.