Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YSl AfELL Y BEIRDD I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSl AfELL Y BEIRDD I Y 8JDhyrahion go?yter &'r golofn hon i'w cyf- I eirioPEDROG, 217 Prescot Road,Liverpool. I Y Caiser.-Dyma dwmpath o gyfansodd- iadau ar y festnn echryslon hwn, ac yr wyf braidd yn chwysu gan ofn wrth ddarllen rhai ohonynt—cfn i'r Caiser eu gweled, ac yn enwedig ofn i'w amddiffynwyr yng Nghymru gael golwg arnynt. Nid oes ofod ar gyfer y cwbl, ac mae rhai yn rhy ;1 bethma hyd yn oed ar y testun. Cynneu Tan Rhyfel.—Drwg iawn gennyf nad oes yr un linell gywir yn y cywydd hwn. Ond os yw'r awdnr yn credu ei fod yn gywir, ac mai rhagfarn a bair ei droi o'r Ystafell, cynhygied of i unrhyw newyddiadur arall neu cyhoedded ef mewn rhyw fodd, a bodlon a fyddaf. Yr wyf yn dywedyd hyn o herwydd awgrym yr awdur ynglvn a'i gywydd di-gynghanedd. Heddwch.-Mae ysbryd y gan yn llawn naws caredig, ond mae'r gelfyddyd yn dru- enus. Nid yw mor a "mur," "drud a "clod," g'radd a grudd," etc., yn odli. CYMERADWY.—Armagedon, Cri y Clwyfedig (drwg gennyf am yr amryfusedd a barodd oedi'r caniadau rhagorol liyn cyhyd), Ymbil, Y Cesar, Yr Annwyd, Lumbago. CWYN COLL I Arn y ddiweddar Miss Margaret Wilson- Roberts, a fu farw yn nhy ei brawd, y Parch. J. Wilson Roberts, Ynyshir, yn 6-3 oed, ar a gladdwyd ym mynwent Llanfairisgaer, Porth Dinorwig. TROSODD ai Margaret rasol,—hwnt y Hen Sy'n toi y llu nefol; Ond mae'i hanes dymunol Adre' o hyd ar ei hoi. Os rhoir gwerth ar brydferthion—dianaf Y dihunan Gristion, Rhaid ystyried oes dirion, Ddifrychau, hardd, y ferch hon. Ei hysol einioes lanwedd-Yll llwyr oil ai ar allor rhinwedd Ac fe erys cyfaredd Ei haberth byw wrth ei bedd. J Crefydd ddi-dole, herfeiddiai emu-a swyn Temtasiynau Satan A eurai'i chlod,-y ferch lan J Oedd annwyl o ddihunan. Yn yr Hen Lyfr, annwyl oedd—i'w henaid I Gael goleuni'r Nefoedd A'i garedig air ydoedd I Gwawl ei chwrs, yn gel a choedd. Crewyd mewn ieuanc r;.ein-- athrylith j Ar aelwyd i arwain Bu wych ar hynt rhai bychain Wrth ddeall gwerth ei llaw gain. Mam a thad yn ymado,—a thylwyth Aelwyd syn yn wylo,— Ond trwy y drist awr i'w dro Bu traserch heb betruso. Denu cyd-amddifaid annwyl-wnai'r chwaer O'i chylch yn eu preswyl; A medr ei mam, o drem wyl, Bu gwarchod ar bob gorchwyl. ♦ Ac o blith yr ystig blant-a wyliai, Gwelodd rai a gawsaut Wys Cysegr, a gwisgasant Wynder swydd cenhadau'r Sant. Ereill i glod a godynt,—oes esgud A roes wasgar amynt; Ond trwy y Nef troi wnai hi Ei thaerni'n fendith arnynt. Er y mor, i'r Amerig-am ei brawd Llamai'i bron garedig Beiddio her y dyfnder dig Wnai hiraeth Porth Dinorwig Enw y duwiol flodeua,-awyr trwm I Tir tranc a herfeiddia f ) 3 Ar y bedd 66r y bydd hs,5 Ddeil yn wyrdd ei lwyn hardda'. PEDROG Y LUMBAGO I ISEL iawn fy mhen wyf heno,—y trwyn Tua'm traed sy'n gwyro Ow fy nghefn, mi af o ngho' Wel, hambug yw lumbago. Llanllechid WM. GRIFFITHS YMBIL I I Yn Dy Nef, 0 gwrando ni—Dad annwyl A- dod inni'th gwmni 0 ddigonedd," i gynni Bywyd tost, awn hebot Ti. Llannerch y medd LLEW LLWYDIARTH ARMAGEDON I ARGOEL gwg ar dir a mor, Argoel llid a thywallt gwaed, Argoel mathru Crist dan draed, Rhuthra Annwn drwy ei dor. Rhua'r corwynt yn y wig, Rhua'r eigion ar y traeth, Rhua'r nef daranau aeth, Melltith gryn graidd daear dig. Marw-gri gwyryfol serch, Marw-gri cariadlanc iach, Marw-gri y baban bach, A berth gwanc yr Almaen erch.9 "1 lSi%~ -1 Annwn gododd ar ei tbraod, Annwn gyda'i dig yn fflam, Annwn ddu a'i llygad cam Gyfyd halog ddwylaw gwaed. Gwaed yw'r lief o Belgium drist, Gwaed medd Ffraino a'u gwae yn stqr, Gwaed o ruad tonnau'r mor Etyb waed o demlau Crist. Ellyll geisiodd fod yn dduw, Ellyll wnaeth y gwir yn sarn, Ellyll eilw am y Farn, Diau daw dydd dial Duw. Dinistr rua dros y byd, Dinistr gyfyd hyd y nef, Dinistr red fel afon gref, Ofn a dychryn rodia 'nghyd. Ochain y clwyfedig draw, Ochain ei gariadferch dlos, Ochain mam yn nyfnder nos, Nid oes neb heb nabod braw. Nid oes wefus heb ei chri, Nid oes fron heb brofi loes, Nid oes ysgwydd heb ei chroes, N oddfa pawb, 0 Dduw wyt Ti. J. ELLIS WILLIAMS. Pendref, Bangor PENHILLION I Adroddwyd gan blant Ysgol y Cyngor, Bryn- gwran, Ddygwyl Ddwwi. ARWEIXIOI)!) Dewi Gymru fach Ym mhrudd-der trymllyd nos, Heb ddim i'w lonni ar y daith Ond ambell seren dlos Cyfeiriodd hi ar union ffordd 0 ganol niwloedd braw, I gwrdd a'r wawr fu'n oedi'n hir Tu ol i'r bryniau draw. Mae'r blaen dywynion erbyn hyn Ar ben y bryniau mawr, A hafnau dwfn fu'n llochi Ilu Yn wyrth gan wrid y wawr Daw'n uwch yr haul i'w hwybren dlos, Mae'r nos yn treio 'mhell, Ond mynd. fyn Cymru yn y blaen Ar ol y gobaith gwell. Mae'r dydd y cadwn wyl ein Sant Eleni 'mron gerllaw, Ond mae y cerddor gyda'i dant ? Mae'r bardd, paham na ddaw ? Oes elyn ? Oes, fy Ngwalia, oes, Myn fathru hawliau'n gwlad, Ac aeth dy feib i'w gwrdd heb ofn Ar alwad corn y gad. I atal hynt anniwair haid, Mae'u cledd yn noeth i'r drin, A mellt dialedd ar ei lafn, A syched ar ei fin Os bu yn anghof rym eu dur Tan swyn annisbur wawr, Mae'r gwyr fu'n dilyn llwybrau'r sant Yn blant i Arthur Fawr. Rhoed aidd eu sant tros hawliau'r gwir I feib ein tir yn hael, Fel Arthur gynt mae'u gwaed yn fflam I arbed cam y gwael Cyn sengir santaidd erwau'n gwlad Gan lu yr Aiii-taeii fawr, Bydd gwaed yr olaf fab a fedd Yn lliwio gwedd ei llawr. T. MORRIS OWEN

Y TlJSW BRITH. I

Advertising