Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. ABERYSTWYTH.—Coleg y Brifysgol i Gymru.— YsgoZoriaethau Gymreig Tehwanegol.—Heblaw yr amrywiol ysgoloriaethau yr hysbyswyd amdantyut eisoes, bydd chwech o ysgoloriaethau eraill, oil yn gyfyngedig i Gymry, yn cael ea cynyg yny Coleg hwn yn mis MediMsaf.aef ysgoloriaethy Prif- athraw gwerth 40p y flwyddyn, yr hon yn flaenorol a roddid gan Principal Edwards ac yn awrabarbeir gan Principal Roberts, a phump ysgoloriaeth gwerth lOp yr un. Os na bydd ymgeisydd Cym- reig o deilyngdod am yr ysgoloriaeth gwerth 40p, bydd yn rhaid ei thatiu yn agored i'r holl ymgeis- vyr.-Gooh. BETHEL, GER, CAKRNABFON. —Fel yr oedd y Parch J Williams, Llangefni, Mon, yn myned trwy ranau arweiniol y gwasanaeth ya addoldy yr Ani- bynwyr, Bethel, nos Sul, Awst 2il, tarawyd y dyrfa a dychryn mawr mewn canlyniad i'r chwaer Ellen Williams, priod yr hen dad anwyl Owen Williams, Blaenyparc, Bethel, gaeleitharaw a gwasgfa. Wedi ei chludo i'w. chartref, daeth yehydig yn -well; ac yn ddiymdroi cafwyd gwasanaeth y Dr. Parry, Caernarfon, yr hwn a sicrhai iddi gael yinos- odiad o'r Parlys, trwy yr hyn y diffrwythwyd ei hochr aswy yn gwbl oil, ac os y cilia effeithiao yr ymosodiad, hyderai y byddai iddi wella yn raddol, onide ofnai y gwaethaf gan ei bod wedi derbyn ym- osodiad mor drwm, yr hyn pe yn ei hochr ddehau a ddylanwadai yn llawer mwy niweidiol, yn enwedig i'w lleferydd. Cydymdeimlir yn fawr ag Owen Williams yn herwydd iddo yn ei hen ddyddiau gael ei amgylchu a'r fath brofedigaeth, a diau y bydd yn chwith iawn gan In mawr a.'i hadwaenent mor dda glywed am ei brofedigaeth chwerw. Yr Arglwydd a fyddo ya dyner wrtho, ac a arbedo iddo eto ei anwyl briod weddill ei ddyddiau.—Marali.—[Di- fyned y wasg Americanaidd yr uchod.] BLAENGARW. — Nebo. — Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd. haner blynyddoI eteni ar y dyddiau Sul a Llun, Gorphenaf 19eg a'r 20fed. Y gwahodiiedigion eleni oeddynt y Parchn J Davies, Cadle a D Evans, Caerfyrddin. Cafwyd cyfarfod- ydd na anghofir ddim o honynt yn fuan. Yr oedd y gweision ya ea hwyliau goreu, a chafwyd pre- gethu grymus a nerthol trwy y cyfarfodydd. Duw a fendithio yr had a hauwyd.—loan. EBBW VALE.-Tabernad (A), Seisnig.-Dydd Sul, y 26ain, y cynhaliwyd ea ewrdd blynyddol. Yo gwasanaethu, Mr David Jones, Libanus Road. Rhyw anerchiadau i'r plant oedd gan Mr D Jones, am mae adrodd a ehanu oedd yn mhob cwrdd. Cawsant wledd iawn Y mae Mr D Jones yn dra hoff o'r Seisneg. Dydd LIun, 27ain, yr oedd eu gwyl de hwy, gyffredinol i bawb, a buy roll yn Uwyddianus. Y mae yr eglwys hon yn gweithio yu egniol, ac y mae eisieu gweinidog yn fawr yma. Gobeithiaf y danfona y Meistr Mawr un a fydd wrth eu bodd ac yna y bydd llwyddiant-Dydd Sadwrn, 25ain, fe ddigwyddodd anffawd ddifrifol, yn golled mawr i Mr David Hughes, masnachydd, Victoria Road, ac yn ofid calon i Charles Young, Trenewydd. Yr oedd cert y bara sydd gan Mr D Hughes yn derbyn llwyth wrth drws y faelfa, ac megis ergyd o ddryll ffwrdd a fo gan daflu y gyrwr i'r Ilawr yn union, a ffwrdd yr aeth hyd nes y daeth at Ty y Farchnad, ac yno yr aeth y cerbyd dros blentyn, ac anafodd rbai eraill, ond. y mae y plentyn yn wael iawn, ond gobeithiaf nid i farwolaeth. Y mae pawb yn cydymdeimlo a Mr David Hughes o dan yr amgylchiad, oblegid y mae ef bob amaer yn ddyn gofalus a da. Yr oedd ei golled ef yn fawr, and is of yn ddirfawt am y plentyn bach a'r rhai eraill. Tro Torcalonus.—Nog Fercher, 30ain, yr oedd aroryw o'r bechgyn o'r masnachdai yn eu haner dydd o wyl, fel arferiad bob dydd Mercher, ac yn myned ar y ceffyl haiarn, yr oedd Mr James Powell wedi d'od yn ol, ca'ddei daro yn y fan a bu farw mown ycbydig fuQudau, hyd nes y aychrynodd yr holl ardai. Bachgea ieuano siriol a chanadus oedd James Powell. Yr oedd ef yn Maelfa Mr Edward Phillips, aelod o Cynghor Sirol. Y mae angiu wedi bod yn y ty hwn ychydig YQ el, aeth ei fab ef yn aytyn iawn, ac wele ergyd trwm i'r meistr caredig. Nid oedd tad na mam, £ awd na chwaer gan yr ymadawedig. Y mae perthynasau o bell, ond yr cedd ei feistr fel tad wdo, ac yn ajcr y mae y g0g^ hwn yn dryllio calon Mr Phillips. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn ieuanc^ dychlynaidd, sobr, a siriol. Dyma rybudd «Mellleidr yn y nos.——Da genyf fod y L. a'r Vj "• wedi rhoddi cerbydau gwell i ni tua Ebbw !PW~—" £ )& Keny* fod pwyllgor yr Arddangosfa oaau yn penderfynu cyeal eu arddangosfa eleni Wwyddiant mawr i'r pwyllgor.——Da genyf f fod un o Ebbw Vale wedi gallu myned i'r Jiwbili fawr. yn Llundain, Jiwbili y Tonio Solffa. Yr oedd yn dda genyf gael gair o hanes gan Mr T Davies, G.T.S.C. Yr oedd gwrando ar 5,000 o blant yn cane, a'&gweled yn myned trwy y drills yn wledd iddo: ef. Owreiddio y mae y Tonic Solffa. bob dydd.GaZwad Y mae eglwys Penuel (M. C.) wedi rhoddiga-Iwad i ddyn ieuanc o'r enw Evan Price, Gorwydd, ac y mae yntau wedi ei hateb. Y mae y gwr hwn yn ysgolor ardderchog. Y mae ef yn un o Brifysgol Caerdydd, ac y mae wedi dyfod allan ynbedwerydd: ar y rhes o 80. G-obeithiaf y caiff eglwys Penuel gadw y gwr ieuanc hwn, ac nid d'od am dro y bydd, ac yna yn myned i weled yr Hen Farn fel y gwnaeth y diweddaf.——Anrhyd- edd i foneddwr yn Ebbw Yale.—Da genyf fod Mr Edward Phillips, aelod o'r Cynghor Sirol, wedi cael ei apwyntio gan Her Majesty's Commissioner of Sewers for the levels of Caldicot and Wentlodge, Monmouthshire." Y mae hyn yn profi yn uchel lawn am alln Mr E Phillipsigael y fath swydd, ac allan o 72 o ymgeiswyr y cafodd ei ddewis. Cyn- ygiwyd ef gan Arglwydd Tredegar. Mr Philtips yw y cyntaf apwyntiwyd i'r mynyddau yma, ac efe yw y Rhyddfrydwr cyntaf a ga'dd y fath swydd. Well done, Glyn Ebbw. Y mae Mr Phillips yn un o'r dynion hVoysyddyn barod bob amser i wneud daioni, nid yn unig yn siarad, ond yn cyfranu, a hyny yn helaeth. Dymunwn oes hir a iechyd lawer, er iddo wasanaethu yn ei swyddau a. gwoeud lies.—Ehedydd Wyn. FITALDTBRENIN.—Etholiad Bwrdd Ysgol.—Cymer- odd yr etholiad uchod le dydd Mercher, Gorphenaf 29ain. Yr oedd chwech ymgeisydd am le pump, a'r chwech yn Bhyddfrydwyr. Fel y canlyn y dadguddiwyd cyfrinach y tugelJohn Davies, Ty'nwern, 120 Parch H Jones, Ffaldybrenin, 73 Benjamin Williams, Blaenmaes, 69; Timothy Da- vies, Esgtrcorn, 65; John Andrew Jones, Llwyri, 60; William Lewis, Blaenaufforest, 35. Y brawd sydd svdd allan.-T B. ST. CLJIAR8.Y xhae pedwar o ysgolbeigion y Parch J Evans, B.A., St Clears, wedi bodyn Uwydd- ianus yn ystod y mis diweddaf, sef Mri T F Jones, Llanddowror, i Goleg Trevecca T Lawrence, Clyn- derwen, i Athrofa Hwlffordd; H Davies, Gelli, St Clears, yn y College of Preceptors; a D Llewelyn, Trewern, Whitland, yn arholiad arweiniol y Phar- maceutical Society oil y cynyg cyntaf.—Harding. SuSou, TRECYNON. Cynhaliodd yr eglwys uchod ei gwyl de flynjddol eleni dydd Llun, 28ain Gorphenaf. Yr oedd yma ymdrech wedi bod er cael yr wyl hon yn llwyddiauus ao felly yr oedd. Cyf- ranodd, tua mil o'r danteithion. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol :-— Mrs Griffiths, Mrs John, Miss Davies, Mrs Rigby, Mrs Rees, Mrs Isaac Jones, Miss Jones, Mrs Hughes, Mrs Williams, Miss Lizzie Williams, Miss Maggie Gronow, Misses Lewis a James, Mrs E Jones, Miss Jones, Misses M A Davies, Dunn, John, Evans, Jones, Denis, a Misses Davies. Wedi i bawb ge-el eu digoni a'r bendithion tyrawl, cafwyd cyngherdd ardderchog yn yr hwyr. Llywyddwydl gan y gweinidog, y Parch J Sulgwyn Davies. Cy- merodd y rhai a ganlyn ran yn y cyngherdd Mr Lewis, Misses Edah Jones, Mary John, Mri David Evans, Tom Cynon, John Davies, Eos Fwyn, Parti Bach Asaph Dar, John Phillips, Mary Richards, B Lewis. Wedi rhoddi y diolchiadau arferol, dygwyd yr oil i'r terfyn. Mae yr achos yn gwisgo gwedd lewyrebus iawn yn Shiloh o dan weinidegaeth y brawd ieaanc gwetthgar Mr Da,vies,—Celanydd. TREGATWG, BARRI.—Cymerodd trydedd wibdaith flynyddol yagot Sabbothol Bryn Seion le eleni ar y 29ain cyfisol. Troisant allan fel arfer yn bur gryno, wrth gwrs gwneid y cwmni i fyny o ieuenctyd yn benaf. Teimlasant chwant eleni i ymweled a'r hen le adnabyddus, Llanilltid Fawr, oblegid yno y dechreuodd yr Ymneillduwyr a phregethu gyntaf yn Nghymru. Ar ol cyraedd y lie, a chael gwledd iawn o de a bara brith, traddodwyd anerchiadau cymhwys gan ddau hen frawd, yn gyntaf ar Ddefnyddioldeb yr Ysgol Sul," ac yn ail, Y canlyniad oi hesgeulnso." Wedi canu amryw donau gorymdeithiwyd tua glan y mor, lie y cawsant fwynhad perffaith wrth gymeryd rhan mewn am. ryw fathau o chwareuon diniwed. Cychwynwyd tuag edref oddeutu wyth o'r gloch, ac ymdeithiwyd yn gwmni tiawen pawb wedi derbyn ymwyrihad oeddyntwedi ddisgwyl. Canwyd amryw donau ar y daith. Bu ein parchus weinidog, Mr Tibbott, yn fugail da a pbrydlon yn ystod y dydd. Carwn weled rhrgor o'r gwieddoedd yma" yn cymeryd lie mewn cysylitiad a'r yagolion: Babbothol drwy GymrQ, yn gyffredinol, yn enwedig mewn rhanaa gwledig, gan eu bod yn dwyn yr ienenctyd a phawb i deimlo mwy o ddyddordob yn yr Yagol Sul.-Un oedd yno.

Advertising