Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
^sgTifenodd rhywrai i'r papyrau mai cyfar- caled, dielFaithi, gafodd1 Mr. Evan Roberts /j Bethania, Dowlais. Ond' arhoswch. Beth „ y^edwch am hyn?—Yn y cyfarfod yr oedd ^°cer, yr hwn oedd wedi codi trwydded i erthu cwrw'. Apeliai ei gyfeillion a'i weini- v°f ato i beidio; ond yn ofer. Dywed'ai fod drwydded yn werth £ 200 y flwyddyn id do, §j°fynai sut y g-allai fyw hebddi, pan y mae ymgais mar g-aled. Aeth i gyfarfod1 Evan °berts yn Bethania, ac yn y cyfarfod hwnw sWelodd: ei sefyllfa. Pan ddaeth y dydd i ad- oS'yddu'r drwydded, gadawodd iddi, a dywed- Wrth ei weinidog ei fod yn gadael y clyfod- y yn 11aw ei Dduw. A ydyw y Western a'l wedi cael yr hanesyn bach yna, tybed ylai gael lie yn eu pamphled. Buasai yn gWneyd atodiad da i'r llythyrau beirniadol a syhoeddwyd. —*— II BOb blwyddyn, ac amiach, traddoda Dr. • u§"h Jones, Dolgellau, bregeth ragorol ar ^chydi i fwrdd Ileol Dolgelau. Pe chwilid yniru pen-bwy-gilydd, ni ellid d'od o hyd i rdd sydd wedi siarad mwy a gwneyd llai yn y^tod deng- mlynedd o amser. Eto parha y eddyo- yn ddi-ildio' i geisio- d'ysgu i'r aelodau u dyledswydd, fel gwarcheidwaidl iechyd' y yjioedd. Cymer gyfle, hefyd, i siarad drwy J bwrdd1 a'r cyhoedd. Mae yr awgrymiadau r haeddu sylw mwy cvffredinol na'r dref Chan lie y traddodir hwy. Yn ei adroddiad 'Jeddaf, dywed: Dr. Hugh Janes nad yw'r yn°edd wedi sylweddbli fod yn bosibl stampio ddarfode d' i g"aeth a'r wlad, drwy ddefn- ^d'o dau beth rhad sydd yn nghyraedd! pawb a.\vyr a heulwen. Dyma athrawiaeth nieddyg'ort y dyddiau hyn. Dyma sydd rth wraidd yr 'open-air treatment,' a phan j yn rhy ddiweddar fynychaf, anfonir cleifion a Sefydliadau cyhoeddus i fyw yn yr awyr ^0^ed. Beth pe buasai y moddion syml hwn y ei ddefnyddio yn gynt? Wei, ofer ebai ^eddyg", yw ceisio dysgu ac argyhoeddi yr ond y mae eisieu dysgu yn yr ysgolion r^'ydclorion iechyd a d'irwest. Dyma waith ja^0,r°l. Un o apostolion cyntaf yr athraw- "au newydd hyn ydyw Dr. Hugh Jones, a 0 yn hir bydd cynghorau sirol Cymru yn sicr a&or eu llygaidi i'r pwysigTwydd o g'ael ArS?U- >'r egwyddorion hyn yn yr ysgolion. Sv iawn y symuda Cymru. Coleddir hen ladau a hen arferion syddl yn nychdod a gw 1 iechyd- Ond; daw gw'awr pethau ih cyn hir, a daw hyny yn fuan os ceir fefddygon y wlad yn barod i gyfranu addysg, C,1 t!l a y S'wna Dr. Hugh Jones, ar ddyledswydd t, a'; yfleusdra pawb i ofalu am ei iechyd ei hun 'deulu.
--------^ DIWYGIAD YN Y TRINITI,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIWYGIAD YN Y TRINITI, LLANELLI. ODDIWRTH Y PARCH. W. D. ROWLANDS. ,anhawdd yw cydsynio a'ch cais trwy ddwyn i VeiSoeich) darllenw}?r yr hyn a glywsoniy yr liyn a a'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a ^chod 6^n dwylaw am y bywyd," yn yr eglwys ^th V T°rodd y Diwygiad allan yma boreu Sab- c^- 13, 1904. Cafwyd cymaint o flas yn ^dcl gweddi y bobl ieuainc nos Sadwrn, fel yr J'r y^1} rhaid c.yhoeddi un arall boreu Sul. Yr oedd ^edrr yn Hawn o wir addolwyr y Tad. Baich y 1 fri flau oedd Dyro drachefn (gair sydd wedi dod °rfole3^Wr yn lianes yr eglwys yn y dyddiau hyn) o cynaj jdy iachawdwriaeth; ac a'th hael Ysbryd Yr oedd ein calonau yn llosgi ynom," Y Meistr mawr yn ymddiddan a ni ar y °edcj v' 1Cntl ycliydig a feddyliodd yr un 6 honom g\v 0rcseno' yn y festri fach, fod yr Arglwydd ar k ttia-u eiHhur i ni bethau mawrion, a dangos i ni mwy nac- a welwyd ac a deimlwyd erioed o'r reilVvydfelly ^U- Aethom oddiyno i'r odfa. Dech- ^VVeddi0^n y ffasiwn, trwy ganu, darllen, canu a Cyn gorphen y weddiy yn ddisymwth ^thr0T? swn o'r nef, megis gwynt nerthol yn j 0 e'stedd '» a(^Ta lanwodd yr holl dy lie yr oeddy'm yn ^ael a mae'r preget.hwr yn tori i lawr, ac yn ^rachefnaWsder ddwyn ei weddi i ben. Canwyd ^e.styn It rnae'r pregethwr yn methu dweyd ei a Sal]as ,a acHwyn; "Pa achwyn," ond yn ei fyw °eclci V| e^orphen. Ileblaw hyny, nid oedd neb ar h^n esen°l a'r duedd leiaf i achwyn am y ei „'i 1°nd. pawb mewn hwyl i'w ddyrchafu, od> a'i goroni. Dacw rhywun yn dechreu er Vn adnabyddus ar donau cyfarw3rdd, nen y maent yn newydd iawn heddyw —■ <1 fP>'ma Geidwad i'r colledig." u f.waed y Groes sy'n codi fyny.' f eth a UW raawr y rhyfeddodau maith." '^5 y Hysbys i bawb oedd y ffaith cloddin'11 «ec^ wrthi, ar hyd y blynyddoedd r "osydd, ac yn eu llanw a dwfr; yn ■ gosod y coed ar yr allor; ond pa fodd mae cyfrif am y teimladau newyddion a'r profiadau melus? Sinner how thy heart is troubled God is coming very near." Nid oes ond un ffordd i gyfrif am y cyfnewidiad "Tan yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poeth- offrwm, a'r coed, a'r ceryg, a'r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffosydd." Uu gweddio, a disgwyl am rhyw gyfnewidiad. Yr oedd syched angerddol am wel'd yr hyn glywyd am dano. Yr oedd avvydd am allu i ddweyd Megis y clywsom, felly y gwel- som." Tuag wyth o'r gloch y bore, bu bachgen ieuanc, un o aelodau yr eglwys, ac un a adwaenir heddyw trwy y Deheudir fel y 'Welsh Sankey' (Mr. Sam Jenkins) yn cymdeithasu a Duw yn ei ystafell. Gofynodd i'r Arglwydd am fendith neillduol. "Arglwydd mawr," meddai, "tor ar ffurfioldeb y cyfarfod heddyw. Newid y drefn, dyro rhywbeth newydd i ni." Y mae brawd arall, yr hwn hefyd a fu yn cynal gwasanaeth boreuol yn ei deulu, yn dweyd wrth ei wraig cyn cychwyn i'r capel, Y mae lie rhyfedd i fod yn y Triniti heddyw." Atebwyd y weddip Cyflawnwyd y broffwydoliaeth ? Do, oblegid torwyd ar ffurfiol- deb y cyfarfod. Mae'r pregthwr ddechreuodd yr odfa wedi distewi, ac wedi ymneillduo. Y mae pregeth- wr newydd wedi cymeryd ei Ie, ac nid oes neb yn cwyno yn herwydd y cyfnewidiad. Hwn sydd yn Ilywyddu yn y cyfarfod yn awr, ac y mae Ei bresenol- deb yn peri fod ofn ac arswyd yn meddianu pav/b. Teimlir bod rhywbeth yn awyrgylch yr ystafell, nac sydd wedi bod yno erioed o'r blaen. Y mae dynion cryfion o feddwl a chorff wedi ei ystwytho yn rhyfedd, ac yn wylo fel plant. Y mae bechgyn ieuainc a fu'n fud ar hyd y blynyddoedd yn tori allan i weddio. Y maent yn ffurfio brawddegau sydd yn gyfansoddedig o ddarnau o adnodau ac emynau, wedi eu cylymu yn eu gilydd yn y fath fodd, nes synu y bobl. Fan draw, gwelir mam yn plygu glin yn gyhoeddus am y waith gyntaf, i weddio ar ran ei bechgyn drwg; a merched ieuainc, nid yn unig yn breuddwydio, ond yn llefain am drugaredd, ac yn gweddio, rhai dros eu tad, ac eraill dros eu brodyr a'u chwiorydd. Ami un arall a welwyd llawenhau am y gallasai ganu Wedi gwawrio Boreu hyfryd Jiwbili." Pa ryfedd fod geiriau y Salmydd yn clod yn fyw i'n meddwl: "Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddym fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau a chwerthin, a'n tafod a chanu; yna y dywedais ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i ni." Gwiriwyd proffwyd- oliaeth Joel: ac o dan ddylanwad y gwin melus buom yn canu, siarad, gweddio, ac yn moli Duw hyd haner awr wedi unarddeg o'r gloch. Yn awr y cefais gyf- leustra i'w adgoffa am gyfarfod brodyr a gyhoeddwyd i gymeryd lie ar ol yr odfa, i ymdrin a mater oedd o'r pwys mwyaf i'r eglwys. Gwnaethpwyd hyn am fod amgylchiadau yn rhwystro'r brodyr i bresenoli eu hunain yn yr wythnos. Awgrymais felly, mai gwell oedd dwyn y cyfarfod i ben, a chynal y pwyllgor. Ond deallais ar unwaith mai peth hollol anghyd- naws ac ysbryd y cyfarfod oedd pwyllgor i ymdrin ag allanolion crefydd. Profwyd hyny, yn ddigam- syniol, drwy i fachgen ieuanc, mewn llais clir, a hynod o swynol, i dori allan i ganu Pa'm y caiff bwystfilod rheibus, Dori'r egin man i lawr." Mae'r 'tide' yn codi drachefn, a thrachefn, a'r pwyll- gor yn cael ei anghofio. Diangenrhaid yw ychwan- egu na chynhaliwyd y pwyllgor, ac er fod yn agos i bedwar mis oddiar y boreu fyth-gofiadwy hwnw, yn hanes yr eglwys, mae heb ei gynal eto. Aeth son am y cyfarfod fel mellten drwy y dref. Gwyddai holl grefyddwyr Llanelli, mewn byr amser, fod dydd o lawen chwedl wedi gwawrio ar eglwys y Triniti. Dydd i'w gofio fydd y dydd hwn, yn enwedig i'r sawl oedd yn bresenol. Ymhen triugain mlynedd eto, ie, ar fryniau anfarwoldeb, pan yn edrych yn ol ar holl droion yr yrfa, fe fydd rhywrai yn gallu dweyd Ac yr oedd hi ynghylch y burned a'r chwech- ed awr o'r dydd." Cwrdd rhyfedd! Beth fu y can- lyniadau ? Y peth cyntaf a wnaed oedd sefydlu cwrdd gweddi prydnawnol, ac anenwadol. Dyma gyfarfod iawn, ac y mae yn parhau yn ei flas a'i ddylanwad er daioni hyd heddyw. I hwn, gwelir y gweddill sanctaidd yn cyrchu o ddydd i ddydd i wedclio Duw am ymweliad mwy grymus a'n heglwysi, ac a'n tre' ni. Yn ychwanegol at hyn, dechreuwyd y cyfarfod hwyrol, a'r cwrdd undebol wythnosol. Yr oedd yr olaf, gyn- haliwyd nos Fercher diweddaf yn Siloah (A.), yn gwrdd eithriadol, a'r capel mawr yn llawn. Drwy y cyfarfodydd hyn, yr oedd yr eglwysi yn cael eu cymhwyso i ddisgwyl am bethau mawrion. Yr oedd yma, fel mewn llawer man arall, awydd angerddol am gael Mr. Evan Roberts i gynal rhes o gyfarfodydd diwygiadol. Meddyliasom gan ei fod wedi i eui a'i fagu yn ein hymyi, na fuasai yr un rhwystr i sicrhau
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Hvcrybody knows that EPPS'S is an admirable food, the nicest and most nutritioaii beverage for the breakfast table. It Is made in a. moment with boiling water or milk, and its sterling qualities are AM AV-INL AFM m n AFS AffooM COCOA Appreciated e by all.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ei wasanaeth. Ond methu a wnaethom yn ein hym- gais. Cawsom hysbysiad y buasai Mr. Sydney Evans at ein gwasanaeth. Rhoddwyd derbyniad gwresog iddo pan y daeth, ac mae llu mawr wedi cael achos i ddiolch i'r Arglwydd am ei ymweliad a ni. Trefn- wyd iddo, gan bwyllgor anenwadol, i ddechreu ar ei waith yn y Triniti, nos Sadwrn, Rhag. 12, 1904, a myned ar gylch drwy gapelau eraill, tan y nos Fawrth canlynol. Yr oedd y capel yn orlawn am 7 o'r gloch. Arweiniwyd y cyfarfod gan yr ysgrifenydd, hyd ym- ddangosiad y cenhadwr ieuanc. Pan y cododd i anerch y gynulleidfa, clustfeiniai pawb, er mwyn dal yr hyn a ddywedai. Dywedodd wrthym nad oedd ganddo ddirn newydd i'w ddweyd. Yr oedd ei ffydd yn gorphwys ar yr Hen, hen hanes, am Iesu a'i farwol glwy.' Nid eisieu allor newydd sydd, ond adgyweirio yr hen allor. Geiriau digon syml. 'Quite so;' ond mae rhyw arcldeliad dwyfol ar bob sill a ddywedai. Hawdd i'w canfod ei fod yn fachgen ieuanc a chenadwri ganddo, a bod ei ysbryd yn llosgi gan awydd angerddol i'w chyhoeddi i'w gyd- genedl. Brawddeg lefarwycl yn ystod y cyfarfodydd sydd yn ei osod allan oreu—" His simplicity is simply captivating." Ar ol ei anerchiad canwyd Arglwydd dyma ii," ac ar ol hyny y mae Miss Roberts, chwaer Mr. Evan Roberts, yn anerch y gynulleidfa, ac yn ei anog i roddi ufudd-dod i gynhyrfiadau yr Ysbryd. Yna canwyd Pen Calfaria." Erbyn hyn y mae y tide' yn rhedeg yn uchel iawn; a phan y cododd dyn ieuanc ar ei draed i ofyn i'r dorf i gyd-weddio ag ef ar ran ei frawd, anhawdd yw desgrifio teimlad- au y rhai oedd yn bresenol. I bwysleisio hyn, y mae dyn canol oed yn ymwthio drwy y dorf, hyd nes y cyrhaeddodd y set fawr. Yno y mae yn syrthio i'r llawr, ac mewn ymdrech galed am ei fywyd. Des- grifiai sut yr oecld, fel yr afradlon wedi myned i'r wlad bell, a pha fodd yr oedd Duw, yn nghwrdd gweddi'r Cold Rolls,' wedi ei alw yn ol. Yr oedd y dorf yn methu dal yr olygfa, gan yr adwaenid ef fel pechadur mawr, ac y mae yn tori allan i ganu Diolch, diolch iddo." Ar ei ben bo'r goron." Bu Mr. Sydney Evans yn gweini cysur iddo, a'r Parch. Elias Davies (A.), yn gweddio ar iddo gael gras i dreulio gweddill ei ddyddiau er clod a gogon- iant i Dduw. Ymhen ychydig ar ol hyn, mae un arall yn tori allan i waeddi Yr wyf fi yn bechadur mawr, cynorthwywch fi;" a merch ieuanc yn dechreu gweddio dros ei brawd, Bydd fy mrawd yn dyfod allan o'r dafarn am 11 o'r gloch. Yr wyf am iddo gael chance i ddod i fewn yma. Hyd yn nod os bydd yn feddw, carwn ei weled yma." Yn y dull yma yr aeth y cyfarfod yn ei flaen hyd 10.45. Nid rhyfedd i'r Diwygiwr ddweyd mae hwn oedd un o'r cyfarfodydd grymusaf y bu ynddo erioed. Yna ffurf- iwyd yn orymdaith fawr tu allan i'r capel, a gorym- deithiwyd drwy ystrydoedd gwahanol yn ardal y Doc newydd, gan seiyll o flaen tafarndai, i ganu a gweddio y meddwon allan o honynt, ac i fewn i'r capel. Llwyddwyd i berswadio amryw o honynt i ddod, ac yn eu plith rhai morwyr o Sir Fon. Bu llawer o weddio ar eu rhan, ac yr ydym yn hyderu fod y gweddiau taerion wedi eu hateb. Aeth y cyfar- fod yn ei flaen hyd oriau man y boreu. Ni chaniata gofod i mi ddilyn y cyfarfodydd eraill y tro hwn. Hawdd fyddai ymhelaethu, ond yr wyf am alw sylw at yr hyn a wnaeth y Diwygiwr yma. Y mae y gwaith a gyflawnodd yma, a'r hyn sydd wedi ei gyflawni ganddo, trwy nerth yr Ysbryd, mewn manau eraill, yn ein gorfodi ni gredu mae o Dduw y mae, a'i fod yntau wedi ei alw a'i gymhwyso mewn modd eithriad- ol at y gwaith. Traddoda ei genadwri mewn syml- rwydd calon, a chyda'r fath arddeliad, fel mae y tor- feydd yn barod i wrando, ac yn ewyllysgar i ufudd- hau. Tra yma, gwnaeth ddarganfyddiad hapus. Dar- ganfyddodd y Welsh Sankey,' ac nid oedd eisieu arfer llawer o 'persuasion' i'w dueddu i ymuno ag ef yn y gwaith mawr o dclwyn pobl at Grist. Yr oedd calon Mr. Sam Jenkins yn y gwaith hwn er's btynyddoedd, ac yr oedd wedi gosod ei fryd ar fod yn I Singing Evangelist.' Y mae, eglwys y Triniti yn llawenhau fod un o'i phlant goreu, a mwyaf ymrodd- gar gydag achos yr Arglwydd, wedi cael y fraint o ganu canoedd, os nad miloedd, i fewn i deyrnas nef- oedd. Y mae yn dotio pawb. He has such a sweet smile," meddai un y dydd o'r blaen, there is something divine about it." Ychwanegwch at hyn Calon lan yn llawn o awydd i wneuthur daioni, ac un o'r lleisiau mwyaf swynol a glywyd erioed, ac fe ga' eich darllenwyr syniad gwedclol gywir o'r 'Welsh Sankey.' Beth a wnaeth y Diwygiad i'r eglwys? Gwneyd swyddogion ac aelodau yn ffryndiau rhoddi lie mawr ac amiwg i ddirwest; ychwanegu yn agos i gant at rif yr aelodan; ac yn olaf, ond nid y lleiaf, dyfnhau bywyd ysbrydol yr eglwys. Pa beth a dalwn i'r Arglwydd am ei ddaioni i ni? Cymerwn phiol iach- awdwriaeth, a galwn ar enw yr Arglwydd."
HANES Y DIWYGIAD YN ABERMAW.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HANES Y DIWYGIAD YN ABERMAW. ODDIWRTII Y PARCH. E. V. HUMPHREYS. Oddeutu dechreu Rhagfyr anfonwyd genym ychydig o hanes y Diwygiad yn yr Abermaw. Buom yn ddistaw o hyny hyd yn awr, nid am fod y Diwygiad wedi myned heibio ond am na fuasai genym ond ail- adrodd petliau tebyg. Yn ystod yr amser yna, cawsom dair "neu bedair o donau, a'r don ddiweddaf o hyd yn gryfach na'r llall. Ond yr wythnos ddi- weddaf oedd yr wythnos ryfeddaf a gawsom o gwbl. I ddechreu cafwyd cyfarfcd gweddi undebol a chryn lewyrch arno nos Lun. Mwy o gynulleidfa wedi do'd ynghyd, a'r gweddiau yn fwy gafaelgar nac arfer. Nos Fawrth cafwyd y seiat ryfeddaf a gafwyd erioed yn Caersalem. Clywais iddynt gael seiadau rhagorol yn y capelydd eraill, ond bwriadaf gyfyngu fy hun at yr hyn yr oeddwn yn llygad-dyst o hono. Dechreuwyd y seiat gan un o chwiorydd ieuainc yr eglwys, ar ddiwedd dweyd eu hadnodau, torodd y