Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
I Newyddion Cyffredinol. -----
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newyddion Cyffredinol. Bu farw o'r cholera yn yr Aipht 645 mewn 24 awr ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Mae y cyffro yn y wlad yn anesgrifiadwy. Cafodd dyn yn Abertawy yr wythnos ddiweddaf dalu .£50 am ddefnyddio rbyddid ei dat'od i alw ei gyd-ddyn yn Ileidr ac enwau cas ere ill. Cafodd "captain" o Fyddin Iacbawd wriaeth yn Abertawy ei ddirwyo yr wythnos ddiweddaf o 5s. a'r costau am achosi anghyfleusdra i fasnach ar un o'r hcolydd. Mae mudiad ar droed i wneyd ytnchwiliad i'r posiblrwydd o wneyd rheilffordd o dan wely yr Humber, fel ag i leihau y pellder rhwng Hull a'r De. Yn Wolverhampton, dydd Iau diweddaf, tra- ddodwyd 14 o ddynion i sefyll eu prawf am gy- meryd rhan yn y riots diweddar mewn cysyllt.iad a strike y gweithwyr tan. Mae Esgob Peterborough yn fwy rbydd oddi- wrth boen nag y bu, ac yn mhob ystyr yn well nag y mae wedi bod er dechreuad ei gystudd, fel y mae gobaith cryf am ei lwyr adferiad. Yn rhedegfeydd Leicester, y dydd arall, aeth infer o gipsies, yn wyr a gwragedd, i ymddifyru trwy guro boneddwr. Y maent yn awr yn cael bamdden i edifarbau yn ngharchar. Dywedir fod 4000 wedi marw mewn wythOos o'r cholera yn yr Aipht. Gwelsom y cyfrifiad yn cael ei wneyd yn 6000 ond anmhosiblyw cael gwybod- aeth sicr yn ngbanol y fath afreoleiddiwch. Ffrwydrodd berwedydd steam tug ar y Regent Canal y dydd o'r blaen, pan chwythwyd y Ilestr yn dipion, ac y suddodd yn y man. Nid oedd neb ar y bwrdd ond y peirianydd, yr hwn a gollodd ei fywyd. Peth dyeithr yw eira yn Gorphenaf. Ar y 15fed o'r mis diweddaf, yr oedd yr hin auafol fel wedi dychwelyd i ganolbarth y Cyfandir, a disgynai yr eira fel yn Rhagfyr nes yr oedd Corinthian Alps yn wynion. Yn Eglwys y Plwyf, Gelligaer, dydd Mercher diweddaf, bedyddiodd y Parch J. Lewis Meredith ddwy wraig trwy drochiad, a dau blentyn trwy daenelliad. Yr oedd tyrfa luosog yn nghyd yn gweled y newydd-beth hwn. Y dydd arall cyrhaeddodd y newydd i ddinas St, Petersburgh fod y cholera wedi gwneyd ei ym- ddaugosiad yn Roster, porthladd ar làn y mor Azof, a bod amryw wedi meirw ohono. Creodd y newydd ddycbryn drwy y lie. Fel yr oedd dyn a dynes yn cael eu gyru mewn cab yn ymyl dociau North Shields, y dydd arall, cafodd y ceffyl ofn, a baciodd yn ei ol, fel y syrth- y cab a'r cwbl i'r doc. Boddodd y ceffyl a'r ddynes, ond diangodd y dyn a'r gyriedydd. Yn Dublin, dydd Gwener diweddaf, mewn fit o dymher ddrwg, gwnaeth gwraig ymosodiad lIof- ruddiog ar ei dau blentyn. Pan dybiodd ei bod wedi eu gorphen, ceisiodd osod terfyn ar ei hein- ioes ei hun. Mae y tri yn gorwedd mewn cyflwr peryglus iawn. Mae Llywodraeth Ffrainc wedi votio 50,000 fr. i dalu treuliau cenadaeth i tinned i'r Aipht i wneyd ymchwiliad i darddiad a natur y cholera sydd yn ffynu yn y wlad. Nid gwybod pa fodd y torodd allan sydd eisieu yn awr, ond sut i gael gwared ohono. Cyhoeddwyd supplementary estimate boreu dydd Gwener diweddaf o < £ 300,000, o'r hyn y mae eisieu £200,000, i ddwyn y treuliau ychwanegol mewn cysylltiad a'r telegrams chwecheiniog .£45.000 tuag at brynu yr Ashburn M.S.S.; a < £ 1,500 tuag at wobrwyo y personau trwy y rhai y daliwyd acy condemniwyd y dynamiters. Mae darpariadau helaeth yn cael eu gwneyd y dyddiau hyn ar gyfer priodas Arglwydd Windsor a'r Anrhydeddus Miss Paget, yr hon sydd i gy- meryd lie yn Llundain ar yr lleg o Awst. Mae tenantiaid ei arglwyddiaeth yn Neheudir Cymru yn ymuno i danysgrifio er pwrcasn diamond neck- lace and bracelet i Miss Paget, ac Anerchiad i Ar- glwydd Windsor. Fel yr oedd nifer o bleser-deithwyr o Baltimore yn sefyll ar y pier yn afon y Patapsco yn dysgwyl y llong i'w cludo adref, dacth y llong i fyny gan daraw y pier, fel y syrthiodd a'r rhai a safant arno. Boddodd rhwng 60 a 70 o ddynion, gan fwyaf yn wragedd a phlant. Lladdwyd hefyd 8 o ddynion drwy i ffwrnes flast syrthio arnynt yn Geddes, New York. Yr ydys wedi cael allan fod T. D. Pierce, diw- eddar town, clerk Bootle, Liverpool, wedi ysbeilio, yn enw y Cynghor Trefol, ddim llai na .823,000. Diangodd Pierce pan ddeallodd fod drwgdybiaeth wedi disgyn arno, ac nid oes hanes am dano byd yn hyn. Bernir na fydd y Cynghor yn gyfrifol, fel y disgyna yn drwm ar y rhai a roddaaant ariau iddo yu euw y Cynghor.
--Newyddion o Ogledd Cymru.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newyddion o Ogledd Cymru. Bu Mary Pilot farw yr wythnos ddiweddaf yn Drefnewydd yn 104 mlwydd oed. Mae yn nhlotdy Aberystwyth fenyw o'r enw Margaret Morris, yn 105 mlwydd oed. Lladratawyd y dydd arall o ystafell Justice Kay, yn y New Law Courts par o esgidiau a chadacb poced. Gwener cyn y diweddaf, anrhegwyd Mr J. Moss, F.J.C., cyn-arolygydd gwaith cwmni y Zoedone, Gwrecsam, ag awrlais ysblenydd. Llwyddodd tri ymgeisydd o Ysgol Ramadegol Machynlleth i basio arholiad y Pharmaceutical Society, Gorphenaf lOfed, sef Mri L. P. Marshall, D. M. Marshall, a Griffith Evans. Rbywbeth newydd ydyw yr hyn a wneir yn Porthmadog, dan arweiniad Mr W. Hughes, New- street, er's ycbydig wythnosau, set canu tonau cysegredig yn yr awyr agored yn y Pare. Yn Nghynghor Trefol Pwllheli dydd Ian di- weddaf, etholwyd Mr Ellis Williams Jones, North-street, yn arolygydd y prif-ffyrdd, a Mr John R. Williams, Penymaes House, yn gasglydd y trethi. Llawenydd mawr oedd gan fwyafrif o ddeiliaid Bangor pan dderbyniwyd pellebyr dydd Iau di- weddaf, gan Mr J. Lloyd, Old Bank, i'r perwyl fod ei Mawrhydi wedi llaw-nodi breinlen ym- gorfforiad i ddinas Bangor. Agorwyd capel newydd y Bedyddwyr yn y Drefnewydd dydd Iau cyn y diweddaf, yr hwn sydd yn .£10,000 o gost, ond mae L-4,000 mewn llaw. Pregethwyd gan y Parchn Hugh Stowell Brown, Liverpool, ac E. Gange, Bristol. Cynaliwyd ail gyfarfod y Dadgysylltwyr yn Abergynolwyn, nos Fercher cyn y diweddaf, a dar- llenodd Mr C. R. Jones, Llanfyllin, lythyr a dder- byniodd oddiwrth y Parch J. Griffith, Rector Merthyr, yn cefnogi yr ymdrech a wneir i ddad- gysylltu yr Eglwys. Yn y Drefnewydd dydd Iau cyn y diweddaf, cynaliwyd trengholiad ar goril Mr James Nunn, marsiandwr gwirodydd. Achoswyd ei farwolaeth trwy iddo wrth dori ewyn ei fys bawd gyffwrdd a'r byw (quick), ac i cellular inflammation gymer- yd lie, ac achosi ei farwolaeth. Ychydig ddyddiau yn ol galwodd Mr Peter Scott, boneddwr o Mansfield, yn y Tudno Castle Hotel, Llandudno, ac wedi iddo yfed glasied o gin, oherwydd fod ganddo boen yn ei ystumog, aeth i fyned allan, ond syrtbiodd i lawr yn farw. Tyst- iolaeth y meddyg oedd, mai clefyd y galon oedd yr achos. Mae y Parch T. P. Evans, Pontandulais, wedi bod yn Bethesda nos Wener cyn y diweddaf, megys yn ceisio argyhoeddi pawb ereill mai yr ystad briodasol" yw y mwyaf dedwydd yn y byd hwn trwy ei ddarlith boblogaidd Bodyn Briod." Yn ddiddadl yr oedd Y.J. ddoniol fel arfer. Ychydig ddyddiau yn ol, pan oedd Mr John Lloyd Williams, arolygydd trethi,, yn dyfod o Rhyl, aeth i neidio i mewn i ail gychwyn o orsaf St. A3aph wedi i'r gerbydres gychwyn, pan dyn- wyd ef i lawr rhyngddi a'r platform, nes ei friwio yn y fath fodd fel yr achoswyd ei farwolaetb. Doni il ydyw banes y gwr gweddw a'r hen ferch oedd o flaen yr Arglwydd Ynad Lindley y Sadwrn cyn y diweddaf. Rhai blynyddau yn ol bu farw gwraig E. Davies (6@) oed), Victoria Hall, Wyddgrug, ac addawodd i briodi Hannah Wil- liams (55 oed) New-street; ond trwy iddo dori ei addewid, a phriodi un arall, rhaid oedd iddo dalu .£100 i'w "gariad wrthodedig." Yn mis Mai y flwyddyn ddiweddaf bu farw yr ail wraig, ac yn mben tair wythnos, gofynodd, meddai yr achwyn- yddes, am ei llaw eilwaith, na wnai byth ffwl o honi mwy," a ebydsyniodd hithau. Ond eto efe a briododd un arall, yr hyn a achosodd iddi ddwyn cynghaws yn ei erbyn am dori amod priodas, a hawliai .£300. Aflwyddianus ydoedd hi y tro hwn, gan i'r rheithwyr ddychwelyd dyfarniad o blaid y diffynydd. Yn nghyfarfod blynyddol Coleg y Bedyddwyr, Llangollen, y Mawrth a'r Mercher diweddaf, daeth etholiad y Prif Athraw yn mlaen, yn lie y diweddar Barch Hugh Jones. Yr oedd pedwar ymgeisydd am y swydd, sef y Parch J. A. Morris, Aberystwyth Proff. Gethin Davies, yr hwn sydd wedi llanw y swydd o athraw clasurol yn y Coleg am y tair blynedd ar ddeg diweddaf, a'r hwn hefyd a gefnogwyd yn unfrydol gan yr holl fyfyr- wyr sydd yn awr dan addysg yn y Coleg Dr E. y Roberts, Pontypridd a'r Parch A. J. Parry, Abertawy. Ymneillduodd y Parch J. A. Morris, ac wedi myned i bleidlais, cafwyd hwy-nt fel y canlyn — 1. Davies, 2. Parry, 3. Roberts. Ar gynygiad y Parch A. J. Parry, ac ciliad Dr Roberts, dewicwyd Yn unfrydol y Proff. Davies ft-1 Prif Athraw.
Llawer Mewn Yehydig. --.-.-.------
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llawer Mewn Yehydig. Mae naw o aelodau Bwrdd Ysgol Llundain yn gwisgo y Riban Glas. Bu geneth farw yn Bryste y dydd arall mewn canlyniad i lyncu pin. Mae dros filiwn o bobl wedi talu ymweliad a'r Fisheries Exhibition yn Llundain. Dywedir fod y Temlwyr Da trwy y byd yn rhifo dros 196,000 o bersonau mewn oed, a 80,000 o blant. Defnyddir y Great Eastern yn bresenol i gario glo o Forth i Lundain. Mae yn cario 20,000 o danelli ar y fordaith. Gwysiwyd boneddiges o flaen ynadon Llundain y dydd o'r blaen am gadw yn ei thy ddeunaw o gatbau a naw o gwn. Yn ystod cyfres o gyfarfodydd dirwestol a gynaliwyd yn Enfield y mis diweddaf, cymerwyd yr ardystiad £ an 1,700. Mae Mr W. Forbes yn cynal cyfres o gyfarfod- ydd dirwestol yn Otley, swydd York. Cymerodd 600 y Riban Glas mewn un diwrnod. Cafodd un Isaac Williams ei ddirwyo yn Aber- honddu, dydd Llun cyn y diweddaf, o 8s. a'r costau am weithio ceffyl oedd yn glwyfedig. Boddodd mab i Mr Arkell, masnachwr, Caer- dydd, wrth ymdrochi yn yr afon Taf yn ymyl Sophia Gardens, dydd Mercher cyn y diweddaf. Nos Sadwrn cyn y diweddaf, cwympodd un William Stephens, wheelwright, Rhymni, ar ei gefn o ben y grisiau i'r gwaelod, fel y bu farw yn uniongyrchol. Yr oedd yn 65 oed. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd gwraig i yriedydd omnibus, o'r enw White, yn Portsmouth, enedigaeth i dri o blant—dau facbgen ac un merch. Blwyddyn yn ol, rhoddodd yr un wraig enedigaeth i efeilliaid, ac mae'r oil yn fyw. Dywedir mai person o'r enw Vanderbilt yw y cyfoethocaf yn America. Ei werth yw triugain miliwn o bumau; a gadael y llog allan o'r cwestiwn, pe bai yn gwario 4s. bob mynyd ddydd a nos, cymerai oes o 570 o flynyddau cyn gwariai y 43. olaf. Rhoddodd y Parch J. Guinness Rogers, B.A., a Mrs Rogers garden parly i oddeutu cant o'u cyfeillion, prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, a chafwyd prydnawn difyr ac adloniadol. Ar y diwedd, datganodd Mr Rogers yr hyfrydwoh oedd wedi fwynhau wrth dreulio prydnawn mor hapus yn mhlith cynifer o gyfeillion. Dywedai Mr Bishop, ynad cyflogedig Merthyr, ar y fainc y dydd o'r blaen, fod tafarndai y dyddiau presenol wedi eu cyfnewid yn hollol oddiwrth y bwriad gwreiddiol. Sefydlwyd hwy ar y cynta.f fel manau cyfleus i ddynion gael refreshments, ac yna i fyned rhag eu blaen ond yn bresenol, defnyddir hwy fel manau i bersonau eistedd trwy'r dydd i yfed a meddwi. Cynaliwyd Arddangosfa Amaethyddol Morgan- wg eleni yn Mhontypridd, dyddiau Mercher a Iau, Gorphenaf 25ain a'r 26ain. Trodd yr hin allan yn ffafriol, a chafwyd cynulliadau lluosog. Mae tipyn o achwyn nad oedd y beirniaid yn rbai o'r dosbarthiadau yn deall eu gwaith—fod rhai o'r dosbarthiadau goreu wedi eu gosod yn ail, a'r ail yn oreu. Cofier yr hen air, HOfer dadl wcdi barn." Mae yn flin genym gofnodi marwolaeth Mr T. B. Smithies, golygydd gallnog y British Workman, yr hyn gymerodd le yn ystod yr wythnos ddi- weddaf, yn 68 oed. Bu yn dyhoeni er's tipyn, ac wedi ei gyfyngu i'w dy; ond ychydig feddyliodd fod y diwedd mor agos. Clefyd y galon oedd achos ei farwolaeth. Yr oedd Mr Smithies yn feddianol ar dalent neillduol at lenyddiaeth ddirwestol, ac wedi gwneyd llawer at ddyrchafu chwaeth y dosbarth gweithgar, a'r ieuenctyd yn arbenigol, at lenyddiaeth bur. Diau fod ei farwolaeth wedi gadael bwlch yn y cyfeiriad yna nas gollir ei lanw yn fuan. Yr oedd yn olygydd i amrai gyhoeddiadau ereill heblaw y British Workman. Da genym weled Y Wasg wedi ail gychwyn yn Pittsburgh, ar ol oediad o ryw dri mis. Mae yn debyg i'r newyddiadur hwn, fel llawer ereill o'i flaen, gyfarfod tig anffodion masnachol a'i dir- wasgodd i ddwylaw y sirydd, a gwerthwyd y swyddfa a'r papyr i gyfarfod a'r gofynwyr. Prynwyd y cwbl gan Mri D. J. Edwards, W. J. Davies, R. T. Daniel, a T. Thomas, y rbai sydd wedi ymffurfio eu hunain yn gwmni dan yr enw The WCtsg Company, Limited, ac y maent wedi ail gychwyn y papyr er Gorphenaf 7fed. Dymunwn iddynt bob rhwyddineb a llwyddiant, yn lenyddol a masnachol. Diau fod yn yr America faes digon eang i'r Drych a'r Wasg i fyw, a chael byd da, helaethwych betuiydd, heb iddynt eiddigeddu na chentigeuu y naill wrth y llall.