Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UtilDEB YR ANNIBYNWYR CTMEEIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ofnwn y dygir yn ami i drysorfa crefydd gyfran- ladau yn ei henw a roddid yn uniongyrchol er cyrhaedd amcanion ereill, yr hyn, i'n tyb ni, sydd yn tueddu i ddarostwng crefydd ei hun, a bradychu egwyddor ogoneddus ei chynaliaeth. Tueddir ni i edrych ar gyllid cyfreithlon crefydd fel yn cael ei wneyd i fyny ar y nailllaw o roddion ewyllysgar mewn gwrthgyferbyniad i ddeddf gorfodaeth yr Eglwys Wladol, ac ar y llaw arall offrymau ewyllysgar yn cael eu rhoddi yn union gyrchol at gynaliaeth crefydd mewn gwrthgyferbyniad i'r hyn a ddygir i'w thrysorfa trwy y gwahanol ffyrdd anuniongyrchol y cyfeirir atynt, ac y cair darlun- iad mor helaeth a manwl ohonynt yn y papyr. Mae gwahaniaeth yn ngraddau teilyngdod y gwabauol foddion a arferir, ac felly wabaniaeth cyfatebol yn nheilyngdod eu cynyrch; ond gwyrant oil, i raddau mwy neu lai, oddiar lwybr syml gwirfoddolrwydd crefyddol, a thueddant i ddarostwng crefydd, ac i anwybyddu ei hysbrydol- rwydd a'i moesoldeb uchel. Ar un olwg, dichon y gellir rhanu y gwahanol foddion a arferir yn gyffredin i gasglu arian at grefydd i ddau ddosbarth, a phob un yn meddu ei safle arbenigol ei hun mewn teilyngdod yn mhob dosbarth, I'r dosbarth blaenaf y perthyn y ddarlith, cyngerdd, y te parti, a'r mathau goreu o'r bazaars; ac i'r dosbarth arall y perthyn yr art union, lottery, a'r math iselaf o bazaars. Trwy y dosbarth blaenaf, tueddir i ddarostwng cynaliaeth crefydd i level masnach gyffredin y wlad, yr hyn sydd yn ang- hydweddol a'i hysbrydolrwydd, ac yn amddifadu y cyfraniadau o'i rhinweddau moesol a berthyn i offrymau ewyllysgar. Nid ydym am ddyweyd fod pob un o'r pethau hyn yn meddu yr un safle mewn teilyngdod; nid yw yr holl ddarlithiau yn gyfartal i'w gilydd, na'r holl gyngerddau. Mae gwahan- iaeth mawr rhyngddynt. Nid ydym ychwaith am honi eu bod oil o dan bob amgylchiad yn anghyf- reithlon i'w harfer. Tebyg fod iddynt le o fewn terfynau eang y ddeddf hono o eiddo Paul y cyfeiria Mr Griffith ati yn ei bapyr, Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, ond nid yw pob peth yn llesau." Tueddant oil i'r un cyfeiriad, a chredwn yn gryf mai goreu oil pa leiaf wneir a hwynt er dwyn yn mlaen deyrnas Dduw yn y hyd ond tra y mae y dosbarth yma yn tueddn i ddarostwng cynaliaeth crefydd i level masnach y wlad, tuedda yr art union, lotteries, a'r mathau hyny o bazaars He y bydd five a ten pound notes a'r cyffelyb yn Cael rafflo ynddynt, i ddarostwng cynaliaeth crefydd i level hapchwareu neu gamblo y wlad. Diddymir trwy y pethau hyn y gwahaniaeth rhwng y cysegredig a'r anghysegredig, yr aflan a'r glan, ac onid yw yn debyg i yrngais i ddwyn gwaithyr Arglwydd yn mlaen &g offerynau diafol? Beth bynag am gyfreithlondeb cynyrch y dosbarth cyntaf a nodwyd at grefydd, credwn nas gellir Ic edrych mewn un modd ar gynyrch y ffynonell hon fel cyllid cyfreithlon i grefydd. Maent yn groes i gyfraith y wlad yn gystal a chyfraith yr Efengyl, a ^ae yn anhawdd gwybod ar ba dir y rhydd ynadon heddwch yn gystal ag aelodau Seneddol yn ami eu cefnogaeth iddynt, os nad am fod enw crefydd wedi ei gysylltu a hwynt, ac nad yw hapchwaren- wyr dan enw crefydd dan yr un ddeddf a gamblers ereill. Yr unig gysur sydd genym yn wyneb y bri sydd wedi ei osod ar y pethau hyn y blynyddau uiweddaf yw, nas gellir myned lawer pellach a gwneyd defnydd o foddion llawer is a mwy an- heilwng er cyfarfod a gofynion arianol crefydd. Anwybyddir trwy y IDoddion hyn fody "ddoeth- iQeb sydd oddiuchod yn bar," ac i gadw yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd heb gydymffurfio a dim o'r arferion isel a llygredig yn ei holl Sysylltiadau. Cyfeirir yn y papyr at rai o'r achosion sydd yn arwain i wneyd defnydd o'r egwyddorion llesg a bydol" yma. Un achos yn ddiau yw y mentro gormod y cyfeirir ato-gwneyd 10 wy na mae erefydd yn ofyn, er mwyn ei han- ydedd a'i llwyddiant oddiar law ei chefnogwyr. Codi capel gwerth dwy a thair mil neu fwy, pan y 8wnelai un mil ateb y dyben yn llawn cystal-yn gweddu yn well i amgylchiadau y gynulleidfa, heb dynu anfri mewn un modd ar urddas y gwas- anaeth a ddygid yn mlaen ynddo. Mae perygl i fentro rhy fach yn gystal a mentro gormod. Efallai mai hyn yw ein perygl mwyaf ni yn sir Benfro, ac mewn rhanau gwledig yn gyffredin; "lid credwn fod perygl mwy i anrhydedd crefydd oddiwrth y mentro gormod, na rhy facb. Trwy fentro gormod, eir i dreuliau yn ami na chymer- eu hunain gan gorff yr eglwysi. t>herwydd hyny, gorfodir eu eefnogwyr i droi at toddion amheus ac anheilwng yn ami er eu cynal. AJywedai yr enwog a'r anfarwol Mr Williams o roedrhiwdalar, pan yn pregethu yn Llanelli cyfarfod dau o'r gloch, a'r bob! yn hwyr- rydig i'w gynorthwyo a'u hamen, Yr ydych yn angharedig iawn," meddai, i adael i hen wr fel y fi i fyned yn y blaen heb ddim help;" "ond," ychwanegai, mi wnaf fel y gwnant yn sirbenfro, -pregethaf ar gost fy hunan," gan awgrymu, feddyliem, nad oedd y sir hono yn enwog am ei than a'i hwylgrefyddol. Ond beth bynag alUod diffygion Cyfundeb Cymreig Sir Benfro mewn hwyl a than crefyddol, medda yr anrhydedd o fod yn gymharol rydd oddiwrth arfer moddion ambeos ac anheilwng i gwrdd A, gofynion arianol crefydd, ac o fod y Cyfundeb rhyddaf yn Nghymru oddi wrth ddyledion ar eu capeli; a chydag ycbydig iawn o eithriadau, maent oil yn gageli cymharol newyddion a chysurue. Nid ydym yn crybwyll hyn fel mater o ymffrost, ond er dangos ei bod yn fwy dyogel i beidio mentro gormod, nc mai nid y rhai sydd yn gwyro fwyaf oddiwrth yr egwyddor wirfoddol yn ei symlrwydd yw y rhai mwyaf llwyddianus i symud ymaith eu dyledion. Achos arall o droi at foddion ambeus yw prinder dylan- wad crefydd ysbrydol yn yr eglwysi, pan na byddo ei dylanwad yn ddigon cvyf i godi dynion o uwch type na'r meichiafon y sonia Mr Griffith am danynt yn ei bapyr. Y rhai a ant gyda pharod- rwydd yn feichiafon am y ddyled am nad yw hyny yn gofyn unrhyw aberth oddiwrthynt, gallant hefyd fod yn feichiafon na thelir mobono os na wna rhywrai fwy na hwy tuag at hyny. Ni wyddom ni ond ychydig am ddosbarth y meichiafon yma, am nad oes cyfle iddynt yn ein gwiad ni i enill anrhydedd y swydd am y rheswm yn ddiau nad ydym yn mentro gormod. Ymddengys oddi wrth ddarluniad Mr Griffith yn ei bapyr fod terfynau ei wybodaeth ef yn cynwys nifer luosog ohonynt, ond dywedodd y proffwyd Jeremiah mai o'r gogledd" y byddai i ddrwg dori allan ar holl drigolion y tir." Fodd bynag, mae dylanwad grymus o eiddo crefydd yn dwyn dynion i feddu teimlad parod i offrymu yn ewyllysgar i'w thry- sorfa yn ol eu hamgylchiadau yn y byd, ac i etifeddu y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu-cariad ato yn en cymhell iwneyd yr aberthau ofyna crefydd oddiar eu llaw, er ei fwyn Ef a gogoniant ei enw. Ac ni feddyliant am droi at bethau anheilwng, am nad ydynt yn gofyn aberth oddiwrthynt. Pan fyddai crefydd yn isel yn mhlith y genedl, troi y byddent yn wastad i'r Aipht ac Assyria am help a cbynorthwy; ond dysgwyd hwynt trwy brofiad chwerw i ddyweyd, Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn eto ar feirch, ac ni ddywedwn wrth waith ein dwylaw, 0, ein duwiau, canys ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd." A thra yr oeddent yn aros gyda'r Arglwydd, ac y rhodient yn ngoleuui ei wyneb Ef, rhoddai ddigon o alia iddynt helpu a chynorthwyo eu hunain, nes y byddent yn adfywio fel ýd, yn blodeuo fel y win wydden-lleuwid eu calonau a gorfoledd, a'u genau a chwerthin. Nid oes angen y dyddiau hyn ar grefydd er symud ymaith ei holl ddyledion, ond cael tywalltiad helaeth o'r Ysbryd Glan hyn ddygai bawb yn yr eglwysi i gyfranu i'w thrysorfa yn ol eu hamgylchiadau-y cryf i gynorthwyo y gyan, a'r holl eglwysi i ddwyn beichiau eu gilydcb fel na byddai angen na thuedd i droi at egwyddorion llesg y byd i ymofyn cymhorth. Delai yr eglwysi trwy hyn i feddu parodrwydd i fabwysiadu cynllun tebyg i'r un a awgrymir yn y papyr, er cael cydweithrediad, i weithio yn esmwyth a llwyddianus yn llwybr syml yr egwyddor wirfoddol. Ond beth bynag yw yr achosion, mae'r effeithiau o arfer moddion amheus ac anheilwng i gasglu arian at wasanaeth crefydd yn niweidiol. 1. Teflir anfri ar nerth yr egwyddor wirfoddol yn ei symlrwydd trwy awgrymu nad yw yn alluog i gyfarfod a gofynion crefydd oddiar ei Haw. Paham y gwneir hyn ? Onid yw ei banes yn hanes gwrhydri a gorchestion digyffelyb ? a choffadwriaeth amlder ei daioni yn gyfryw fel nad yw yn gweddu i'w phroffeswyr ymddwyn fel hyn tuag ati. Os methodd erioed gyflawni dysgwyl- Z, iadau dynion, cyfodai hyny naill o gyflwr isel crefydd ar y pryd, neu am y ceisid ganddi yr hyn nad oedd crefydd er ei hanrhydedd a'i lLwyddiant yn gofyn oddiar ei llaw. Pan yr oedd Syr Walter Raleigh" ryw dro yn gofyn cymwynas gan y frenines Elizabeth, gofynai yr olaf iddo, "Raleigh, pa bryd ydych yn meddwl rhoi fyny begio P Ei ateb oedd, Pan fydd eich Mawrhydi yn rhoi fyny cyfranu." Bydd yn ddigon buau i ninau droi i'r Aipht ac Assyria y moddion amheus pan fydd gwirfoddolrwydd yn ei ffordd syml ei hun wedi pallu cyfarfod a gofynion cyfreithlon crefydd, yr hyn ni wna byth os ymddygir tuag ati yn briodol. Mae ei hanes gorpbenol yn ein codi i ddysgwyl pethau mawrion oddiwrthi, a phethau mwy°nag a wnaed ganddi erioed. 2. Tueddant hefyd i wanhau ymegnion gwir ewyllysgarwch. Mae diffyg ymarferiad a gwrtaith yn tueddu i'w ddwyn i gyflwr o wendid ac eiddilwch, fel pobpeth I arall braidd. Os na cha y corff dynol ymarferiad, dygir cylchrediad y gwaed i gyflwr eiddil, a llesga ei holl alluoedd. Trwy rediad cyson a diorphwys yr afon y cedwir ei dyfroedd yn risialaidd a phur. Ceidw yr allweddau a gedwir yn y Jlogell ac a ddefnyddir bob dydd yn loew, ond os gosodir hwynt o'r neilldu a'u crogi ar y mur, gorchuddir hwynt yn fuan a rhwd. Felly yr egwyddor wir- foddol yn ei symlrwydd-os na cha ymarferiad a gwrtaitb, llesga ei nerth a chilia ei gogoniant. 3. Tueddir trwyddynt hefyd i iselhau syniadau dynion am y gwaith o gyfranu a chasglu fel pethau i'w gochelyd yn fwy nag fel moddion o wrteithiad ysbrydol. Mae pob ymdrech hunan- aberthol a wna dyn er mwyn Crist yn gryfhad i'w gymeriad crefyddol. Mae cyfranu yn yr ystyr yma yn dyfod yn rhan o foddion gras iddo. Nis ceir hyn trwy gyfraniadau anuniongyrchol. A dyn i'r gyngerdd, y cwrdd llenyddol, a r ddarlith er mwyn boddloni chwant, gan gyfrif moethau yn hyfrydwch a phryna docyn yr art union mewn gobaith o elwa yn fydol trwy hyny. Nid yw un o'r pethau hyn yn gofyn unrhyw aberth, ac felly yn amddifad o ddylanwad gwrteithiol; ond y mae yr hwn sydd yn rhoddi yn wirfoddol yn ol ei allu at gynaliaeth crefydd oddiar gariad at Grist, a chyda'r amcan i'w ogoneddu, yn y weithred hono mae yn tori rhwymau bydolrwydd, ac yn rhoi cam yn nes at yr ysbrydol a'r Dwyfol. Mae tros- glwyddo cynaliaeth crefydd i ewyllys da ei chofleidwyr wedi fwriadu i fod yn foddion i dynu allan eu grasusau i ymarferiad, er eu cynydd mewn nerth ac ardderchogrwydd cymeriad. Yr oedd Mr Arthur Rowlands, Rhyl, wedi bwriadu eilio y penderfyniad, ond metliodd a bod yn bresenol. Anfonodd yr hyn a fwriadai draethu ar y pwnc i ofal yr Ysgrifenydd, a cheisiwyd gan y Parch J. R. Thomas, Bethesda, Liandysilio, i eilio y penderfyniad trwy ddarllen sylwadau Mr Rowlands. Dywedai Mr Thomas y buasai gyda yr hyfrydwch mwyaf yn eilio y penderfyniad, ond bod yn rhaid iddo gael gwneyd hynyyn ei ddull ei hun, gan nad oedd yn cydolygu a sylwadau Mr Rowlands o gwbl. Yna gwnaeth y sylwadau canlynol:— Yr wyf, ar gais y Pwyllgor, yn codi i eilio y penderfyniad yn absenoldeb Mr A. Rowlands, Rhyl. Gan nad oedd i mi amser i barotoi anerch- iad ar y mater, gosodwyd yn fy llaw y sylwadau oedd wedi eu parotoi gan Mr Rowlands, ac awgrymwyd y gallaswn eu darllen i'r cyfarfod; ond gan nad wyf yn cydolygu a'r oil o'i syniadau, gwell genyf beidio darllen dim ohonynt, ond, yn hytrach, ddyweyd gair o'm barn a'm teimlad fy hun ar y pwnc pwysig hwn. Mae hwn yn ddiau yn fater tra amserol, ac yn wir deilwng o ystyr- iaeth fanwl yr holl eglwysi. Nis gwn paham y galwyd arnaf i eilio fy mrawd o sir Benfro, os nad oes yn hyn gydnabyddiaeth ein bod ni yn y sir acw yn cadw at ddulliau mwy cyfreithlon i gasglu ein cyllid crefyddol nac y gwneir mewn rhanau ereill o'r wlad. Mae swm mawr y dyledion sydd ar rai capeli, a'r dull eithriadol ac amheus gymerir i gasglu at rai ohonynt, yn un o'n manau gwein- iaid ag y bydd y gelyn yn sicr o ymosod arno yn y frwydr fawr sydd yn yr ymyl yn nglyn & dad- waddoliad yr Eglwys Sefydledig. Gwelais y ddoe lythyr ymosodol ar un o'n haelodau Seneddol ffyddlonaf, am ei fod yn ymgysylltu ag Ymneill- duwyr i ysbeilio yr Eglwys o'i gwaddoliadau, er gwybod am anhawsderau pobl y sectau i gyfarfod eu gofynwyr am y dyledion crefyddol mawrion yr ymsuddir iddynt wrth adeiladu capeli, &c. Yr ydym yn hyf gyfarfod y cyfryw ensyniadau trwy ddyweyd nas gwyddom am gymaint ag un achos sydd wedi methu cyfarfod y gofynwyr. Eto, yr ydym yn cyfaddef fod mater y cyllid yma yn un gwir bwysig, ac nad ydyw mewn sefyllfa mor foddhaol ag y dymunem iddo fod, a dylai ein llais o'r cyfarfod hwn fod yn groew a digamsyniol yn nglyn ag ef. Nid oes le i amheuaeth nad yw yr Anghydffurfwyr wedi gwyro oddi symlrwydd yr egwyddor wirfoddol, fel y dysgir hi yn Ngair Daw. Mae rhai o'r cyfryngau a arferir yn anfoesol ac anghgfreithlawn. Nid ydym yn petruso dyweyd fod pobpeth felly sydd o nodwedd hapchwareu, pa un ai lottery neu art union y gelwir ef. Ac am y dulliau ereill o gasglu sydd mewn arferiad mwy mynych yn ein plith, gellir dyweyd am lawer ohonyat, megys y cyngerdd, y te parti, a'r ddarlith, er eu bod yn bethau cyfreithlawn yn- ddynt eu hunain, eto y maent yn dra niweidiol i ddadblygiiid egwyddor ogoueddus gwirfoddol- rwydd. Ymddiriedodd y Gwaredwr waith ei deyrnas Ef yn y byd i'w garedigion. Gallant hwy fod yn ychydig a thlawd, ond y mae ganddyot allu a pharodrwydd i gyfarfod pob 'treuliau cyf- reitblawn yn nglyn a'i achos Ef. Mae o leiaf ddau beth wedi achosi y dull anghyfreithlawn sjdd yn rhy ami mewn arferiad ya ein plith i (Parhad yn tudalen 10.)