Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

1 0 Lan y Tafwys.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Lan y Tafwys. [GAN WYLIWR Y GLANNAU]. Llundain, Naivn Llun, Awst 13eg, 1906. Pelydrau yr Eisteddfod. l\Lu;'J{ Eisteddfodau yn taflu eu pelydrau hyd yn Llundain, ac y mae yma gryn ddis- gwyliad, nid yn unig parthed gwyl fawr y flwyddyn hon, ond hefyd o berthynas i'r gymanfa farddol yn Abertawe y flwyddyn nesaf. ac ymhellach ymlaen i'r dyfoclol na hynny. Y rhesvnn paham yw liyu. Yn Aberpemiar, y llynedd, gwnaeth Llundain Gymreig gais am Eisteddfod 1907, ond rlioddodd tfordd rwydd i hawliau Aber- tawe, gyda'r ymdeimlad arierol y deuai e1 thro hithau yn y flwyddyn 1909. Yn awr, oherwydd rhyw reswm nas gwyr neb ond Eilionydd a Vinsent—os gwyddant hwy—y mae Llandrindod, yn ol y 'pyre newyddion, yn myned i ofyn am Eisteddfod 1908. Wel, yn y Gogledd y dylai honno fod, yn ol y drefn; ond os yw'r Deheubarth i fod yn yr ymgais, y mae Llundain gymaint o fewn cylch yr ystatutau a Llandrindod, a thipyn bach ar y blaen gyda'i chais. Ond fel y sylwais, nid wyf yn gwybod pa eisieu sydd i'r naill na'r Hall gythryblu—onid yw gwyr y Gogledd ar y maes. O'r hyn lleiaf, felly y dywed nevvyddiaduron Lerpwl a Man- chester (a dywed y rheiny y gwir fel rheol); ac am hynny, hei hvc" i Lan- gollen Yr Eisteddfod a'r Colegau. Yn ol yr hysbysiadau lieddyw dyma y testyn sydd gan y Cymrodorion i'w drafod yn Eisteddfod Caernarfon nos Lun nesaf. Testyn amserol ddigon, oblegid y mae y berthynas rliwng Coleg y Werin a Choleg yr Athrawon yn un sydd yn galw am ystyr- iaeth gan y sawl sydd yn caru yr Eistedd- fod ac yn dymuno yn dda i wýr yr Addysg Uwchraddol. Dengys yr hyn sydd wedi eu cyhoeddi o destynau Eisteddfod Abertawe fod y Pwyllgor yno yn ceisio cyfarfod y ddau ddosbarth. Y mae amryw o'n dewis- bynciau yn gyfryw ag nas gall neb ond gwyr yr Athrofaon ymdrafod a Juvynt. Y mae y lleill wedi eu mabwysiadu, gaHem dybio, ar gyfer lienor y pentan. A ddichon yr Eisteddfod barhau i helpu y ddau ddos- barth sydd gwestiwn pwysig. Hyderwn y teflir goleuni arno yn y cyfarfod y cyfeiriwn ato, pryd y disgwylir ysgrifau ar berthynas Colegau a'r Eisteddfod gan Mr. W. Llewelyn Williams, yr aelod Seneddol dros Fwrdeis- drefi Caerfyrddin, a'r Athro J. Edward Lloyd, Cofiadur Coleg y Gogledd. Caneuon y Werin. Gadewch i mi lunio caneuon y Werin ac ni waeth gennyf pwy a lunia ei deddfau, meddai rhywun, onid e. Wel, y mae rhywun wedi bod yn canu i'r werin er's canrifoedd, ond ysywaeth y mae llawer o'i ganeuon yn myned i golli. Achub y rhai hyn trwy ffuriio Cymdeithas i'w casglu ydyw amcan un arall o gyfarfodydd yr Adran Gymro- doraidd yng Nghaernarfon.

----0----,----Y diweddar Ddr.…

Eisteddfod Caernarfon.

--0-Ion IMaclaren am Eisteddfod.

Etholiad Dwyreinbarth Dinbych.

---0--Marwolaeth y Parch.…

--00--Gwarth Cymru.

DYDDIADUR.

DAU TU'R AFON.

MARW.

Advertising