Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y MESUR TRWYDDEDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MESUR TRWYDDEDOL. CYNADLEDD FAWR Y MKRCHKD YN 1 NGHAERDYDD. Dydd Iau diweddaf, Ebrill 30ail1, cyfar- fyddodd merched Deheudir Cymru a sir Fynwy yn llu mawr yn nghapel Wood- street, Caerdydd, er datgan eu barn ddifloesgni yn ffafr y Mesur Trwyddedol. Llywyddwyd cynadledd y prydnawn gan Mrs Viriamu Jones. Yr oedd gofal y cyf- arfod ar Mrs Principal Edwards, yr hon a ddarllenodd lythyrau yn gofidio am eu hanallu i fod yn bresenol oddiwrth Mrs Herbert Lewis, Mrs Herbert Roberts, Lady Brynmor Jones, a Gwyneth Vaughan. Wedi hyny daeth Mrs Lloyd George yn mlaen, a rhoddwyd iddi dderbyniad brwd- frydig dros ben. Cynygiwyd y penderfyniad cyntaf gan Mrs Atkinson, Penarth, ac eiliwyd gan Proffesor Millicent Mackenzie, yr hwn oedd fel y canlyn — 4 Fod y cyfarfod hwn o ferched, yn cyn- rychioli pob rhan o sir Forganwg a sir Fynwy, yn croesawu dygiad i mewn y Mesur Trwyddedol i'r Senedd, ac yn sylwi gyda boddhad ar benderfyniad Gweinidog- ion Ei Fawrhydi i'w basio yn ddeddf. Ond tra o'r farn na ddylid estyn y time limit, y dylid gwneyd y darpariaethau yn nglyn a phlant yn ddeddfedigol, diddymu trwydd- edau y grocers, a rhwystro cyflogi merched i werthu pethau meddwol; y dylid rhoddi y clybiau dan lywodraeth effeithiolach ei fod yn croesawu yn arbenig y ddarpariaeth at gau ar y Sul yn sir Fynwy, ac estyniad yr egwyddor o ddewisiad lleol i Gymru, ac yn gwystlo ei hunan i gefnogi y Mesur yn galonog, a gwneyd ei oreu i sicrhau fod y Mesur yn cael ei wneyd yn gyfraith.' Siaradwyd ar y penderfyniad gan Miss Daisy Hollington, B A., Mrs Louise B. Swann, a Mrs Ormiston Chant, a phasiwyd ef yn unfrydol. Cynygiwyd yr ail benderfyniad gan Mrs Kate Freeman, Abeitawe, ac eiliwyd gan Miss Picton Warlow, Penybont, yr hwn oedd fel y canlyn :— Fod y gynadledd hon yn gwasgu ar ferched Cymru i wneyd pob ymdrech posibl i gryfhau breichiau y Llywodraeth i basic y Mesur Trwyddedol yn gyfraith, ac yn galw arnynt i ddefnyddio eu dylan- wad er trefnu cyfarfodydd cyhoeddus, cylchdaenu llenyddiaeth, cefnogi deisebau i'r Senedd, ac yn mhob modd cyfreithlawn i ddangos fod merched Cymru ar ochr sobrwydd, purdeb, a diwygiad cymdeith- asol.' Pasiwyd y penderfyniad gyda brwd- frydedd; hefyd pasiwyd penderfyniad arall i ffurfio Cynghor dros siroedd Mor- ganwg a Mynwy er cario yn mlaen yr ymgyrch o blaid y Mesur Trwydde dol. CYFARFOD YR HWYR. Yr oedd capel Wood-street yn llawnach yr hwyr nag ydoedd hyd yn nod yn y prydnawn. Cymerwyd y gadair gan Lady Wimborne, a siaradwyd gan Lady Dorothy Howard, Mrs Kate Freeman a Mrs Ormiston Chant (yn cynyg ac eilio yr un penderfyn- iad ag a gynygiwyd gan Mrs Atkinson yn y prydnawn), Mrs Louise B. Swann, a Miss Daisy Hollington Fel yn nghynadledd y prydnawn, gorfu- wyd cynal cyfarfod arall yn y Tabernacl, o dan lywyddiaeth y Parch W. J. Zeal, o gapel Cynulleidfaol Wood-street, a phas- iwyd yr un penderfyniad o blaid y Mesur Trwyddedol ag a gariwyd yn y cyfarfod arall.

LLANELLI.

DYFERWST GYDDFOL WEDI BI LWYR…

YCHYDIG ADGOFION.

NODION 0 SCRANTON, PA.