Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD ABERGYNOLWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD ABERGYNOLWYN. Dydd Mawrtb, yr 2il o'r mis hwn, yn nghapel newydd y Methodistiaid Calfinaidd, cynnaliwyd yr Eisteddfod hir-ddysgwyliedig gafi lawer, mae'n ddi- ammheu. Cymerwyd y gadair lywyddol gan W. Rees, Ysw., Towyn. Yr arweinyddion oeddynt Tanymarian a Clwydfardd, dau o brif arwyr yr eisteddfodau cenedlaethol. Yr oedd y cyfarfod cyntaf yn dechreu am hanner awr wedi un o'r gloch. Galwyd yn gyntaf am don gyffredinol. Anerchiad gan y llywydd, yn hynod o'r dirodres, etto yn llawn dyddordeb. Beirniadaeth Tanymarian ar y traeth- odau ar Gallineb; dyfarnwyd y wobr i Mr. R. W. Jones, Abergynolwyn, gyda chanmoliaeth. Beirn- iadaeth Clwydfardd ar y pennillion ar Glyn cysgod angeu;' goreu, R. Davies, Braieh Ithel. Yn nesaf, can gan Tanymarian yn ogoneddus. Cystadleuaeth adrodd 'Y Rhew;' goreu, Mr. R. R. Jones, Bryn- eglwys. Beirniadaeth Tanymarian ar y traethodau 'Arferion llygredig yr ardal;' goreu, Mr. R. W. Jones, Abergynoiwyn. Can gan Mr. H. J. Pugh. Beirniadaeth Clwydfardd ar y meddylddrych ar Amser; goreu, J. Davies, (brawd Dewi Glan Per- yddon). Beirniadaeth Tanymarian ar y tonau cyn- nulleidfaol, M. 8, 7, 4, eywair IIeddf; 34 o gyfan- soddiadau; dyfarnwyd y wobr i Mr. J. H. Roberts, Bryneglwys. Can gan Mr. D. Jones (Llew Arthog). Beirniadaeth Clwydfardd ar yr englynion i'r Geiuiog; 28 o gyfansoddiadau; goreu, Ieuan Meurig, Aber- gynolwyn. Beirniadaeth Tanymarian ar y traeth- odau, 'Trech gwlad nag arglwydd;' yr oreu oedd Mrs. Jones, Abergynolwyn. Beirniadaeth Clwyd- fardd ar y pryddestau, Cader Idris;'goreu, John Maethlon James, Towyn. Yna diweddwyd y cyfar- fod prydnawnol. Arwisgwyd y buddugwyr gan Miss Jones, athrawes yr Ysgol Frutanaidd, a Misses Sarah a Margaret Williams, Bryneglwys. Am chwech o'r gloch cafwyd cyngherdd godidog, yn mha un y cymerwyd rhan gan Tanymarian, Llew Arthog, Asaph Glan Dysynni, Mr. H. J. Pugh, a'r Aber Glee Party; gwasanaethwyd ar yr harmonium gan y ehwareuwr galluog Mr. J. H. Roberts, Bryn- eglwys. Yn ystod y cyngherdd, cafwyd cystadleu- aethau cerddorol. Y fuddugol am ganu yr alaw 'Y fwyalchen,' oedd Miss S. Williams, Brydeglwys. Canu 'Cwymp Llewelyn;' goreu, Asaph Glan Dysynni. Am ganu yr anthem, 1 0 Dduw, yn ol dy gariad rhad;' dyfarnwyd y wobr i gor Llanegryn. Ar ganol y cyngherdd, cafwyd beirniadaeth Clwyd- fardd ar y pennillion 'Welwch chwi V;' y goreu oedd G. J. Owen, Llandwrog, Arfon. Rhoddodd y Bryneglwys Brass Band eu gwasanaeth ar yr achlysur. Cafwyd Eisteddfod lewyrchus, yn llawn bywyd o'r dechreu i'r diwedd. GwnaetlÍ pawb eu rhan yn gampus yn y cyngherdd. Gobeittiio na byddys yn hir cyn cael gwledd gyffelyb, medd—AB IDRIS GAWR.

BRADWRIAETH FFENIAIDD.

Family Notices

fBarcf)natJ0eii& Jlt

Marchnad Yd Liverpool.

Advertising

BRWYDR Y CYNGHOR TREFOL YN…