Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Burwen, a'i gyflwyno yn rhad rodd i'r Cyfundeb. Treuliwyd gweddill y' cyfarfod i weddio Duw am dywalltiad helaethach o'i'Ysbryd. Pregethwyd gan y Parchn. J. Williams, Caergybi, J. Hughes, M.A., Lcrvvl, John Jones, Hebron, T. Williams, Gwalch- rnai 1< Thomas, Llanerchymedd, k. R. Hughes, B.A., a T. Charles Williams, B.A. DWYKAIN MEIIUONYDD.—'Llandrillo, Rhagfyr 6, 7. Llywydd, Mr. E. D. Jones. Cafwyd prcfiad y blaen- oriaid a hanes yr achos yn Llandrillo, dan arweiri- iad Mr. Thomas, Moeladda. Gwnaed ccffad cynes a hiraetblawn am Mr. Edmund Eans, Tirllanerch, blaenor yn Llansantffraid, ac arwyddwyd cydym- deimlad a'i weddw ac a'i berthynasau ac a Mr. John Davies, Dee Bank, ar farwolaeth ei briod. Datgan- wyd cydymdeimlad a Mr. David Evans, Llanarmon. Cyfeiriwyd at farwolaeth Mr. Dan Thomas, Corwen un y disgwylid llawer oddiwrtho a phenderfynwyd anfon ein cydymdeimlad a'i weddw, yr hon sydd yn disgyn o un o ddychweledigion cyntaf Howell Harris yn Ngogledd Cymru. Galwyd sylw at sefyllfa bres- enol iechyd Mr. Thomas Jones, Brynmelyn, a dat- ganwyd ein cydymdeimlad puraf ag ef. Amlygwyd cydymdeimlad a Dr. a Mrs. Williams ar farwolaeth tad Mrs. Williams. C.M. nesaf yn y Bala, Ion. 10, 11, 12. Bydd y pwyllgorau nos Fawrth, a'r C.M. yn dechreu am 10 o'r gloch yr neg. Y Parch. Hugh Williams, D.D., i arwain yr ymddiddan ar yr angen am Adfywiad Crefyddol. 1'enodwyd Mr. Robert Evans a Mr. R. D. Thomas i'n cynrychioli ar y ddir- prwyaeth at Bwyllgor Arddangosfa Amaethyddol y Sir ar fater neillduol. Penderfynwyd rhoddi llythyr cyflwyniad i'r Parch. John Hughes, B.D., i G.M. Lerpwl. Cyflwynwyd diolchgarwch didwyll y C.M. i R. D. Roberts, Ysw., U.H., am ei garedigrwydd i ysgol Clawdd Poncen trwy ddwyn holl draul yr ad- gyweiriad. Datganwyd llawenydd o weled Mr. Roberts yn ein plith, a chyflwynwyd y diolchgarwch hwn iddo gan y Llywydd yn nghanol arwyddion o gymeradwyaeth. Traethwyd yn fyr ar y mater, sef Fin Hym^eillduaeth, gan y Parch. Edward Ed- wards, yr nwn hefyd a gyfeiriodd at yr adfywiad sydd yn awr mewn rhanau o Gymru, ac at yr awydd- fryd sydd yn ein plith am ei brofi; a threuliwyd tuag awr o amser i draethu am yr adfywiad. Tystiodd Mr. Edward Evans, un o'r myfyrwyr, am yr hyn a welir ac a deimlir yn y Bala; y Parch. J. O. Jones, B.A., a gyfeiriodd at y cyfarfod gweddi neillduol iawn y bu ynddo y bore cyn cychwyn i'r C.M. a chaed sylwadau mwy cyffredinol gan Dr. Williams; tra y dygwyd tystiolaeth gan y Parch. J. Ellis Jones am yr hyn oedd yn myned ymlaen yn Nglynceiriog, a chan Mr. Ellis Evans a'r Parch. C. Evans am y pethau grymus a deimlid yn Gwyddelwern. Rhodd- wyd anogaeth ar i'r holl eglwysi nesau at Dduw mewn gweddi am dywalltiad o'r Ysbryd Glan. Pen- odwyd rhai i arwyddo yr ymrwymiad i ad-dalu i'r Gronfa Fenthyciol. Penodwyd y Parch. J. Ellis Jones a Mr. J. D. Davies i gynorthwyo eglwys Tre- geiriog i ddewis ychwaneg o flaenoriaid; y Parch. W. Williams a Mr Hugh liughes i fyned i Glynceiriog ar yr un neges y Pa^ch. J. Henlyn Owen a Mr. John Wynne i fyned i eglwys y Gro ar yr un gorchv/yl. Rhoddwyd caniatad i eglwys Llangwm i brynu y ty gerllaw y capel, a chaniatad i eglwys Tymawr i gael gweithred eu capel allar Q'I- gist ar yr amodau arfer- ol. Cyflwynwyd i'r C.M. adroddiadau y Cyfarfod- ydd Dosbarth, ac, yn unol a'u cynwys, cadarnhawyd dewisiad aelodau newydaion ar y pwyllgorau. Dar- llenir cyhoeddiad yr ymwelwyr yn y C. M. nesaf. Cymeradwywyd y ceisiadau o Nantyr a Glyngower i'w cyflwyno i ystyriaeth y Pwyllgor Arianol. Pen- derfynwyd rhoi sylw i adroddiad Pwyllgor Ad-drefnu y Cyfarfodydd Misol yn Ebrill, a rhoir sylw y pryd hyny hefyd i'r genadwri o Ddosbarth Ysbytty. Pen- odwyd Mr. Robert Evans, Cefnddwysarn, a Mr. Thos. Jones, Llanuwchllyn, trysorydd y C.M., i gyfarfod a Mr. Jordan, cyfreithiwr, ar fater neillduol. Cadarn- hawyd adroddiad Pwyllgor y Genhadaeth, yn cynwys -Ein bod yn rhanu y Casgliad Cenhadol fel arfer am eleni. Ein bod yn cael Pwyllgor yn y Bala i ystyried y genadwri i wneyd y ddau gasgliad ar wahan. Hefyd, fod trafodaeth bellach i fed ar v genadwri hon yn Mawrth. Gan fod y Gymdeithasfa cedd i adyfed i Feirionydd wedi ei chynal yn Man- chester, penderfynwyd gohebu a Gorllewin Meirion- ydd, er dyfod i ddealltwriaeth ymha ben o'r Sir y cynhelir y Gymdeithasfa yn Mehefin nesaf. Dar- llenwyd y genadwri o Ddosbarth Ysbytty, ar i'r C.M. gymell ei aelodau i fod yn ffyddlon i'w hegwyddor- ion fel Ymnsillduwyr gyda defnyddio y drefn newydd mewn claddedigaethau. Hefyd. adroddiad o Ddos- barth Edeyrnion yn hysbysu i'r datganiad a wnaecl yn Sasiwn Pwllheli .yn 1894, a chenadwri Dosbarth Penllyn o berthynas iddo, gael sylw a chymeradwy- aeth yn y Cyfarfod Dosbarth. end y bernid mai buddiol fyddai cael yr ymgynghoriad y cyfeirir ato yn y genadwri o Benllyn yn gynt na Hydref, 19015. ac i adolygiad ar sefyllfa y cyhoeddiadau Sabbotho'l' y blynyddoedd cyn y flwyddyn 1913 gymeryd lie heb lawer o oediad. Galwyd sylw at Gyhoeddiadau y Cyfundeb, ac at lyfr rhagorol y Parch. J. H. Symond ar Swper yr Arglwydd,' ac argymhellwyd eu derbyn. Yn y seiat, nos Fawrth, traethwyd ar Gadwraeth y Sabb?th, ac hefyd ar Adfywiad Crefyddol. Cyhoedd- wyd i bregethu, y Parchn. J. Henlyn Owen, H. M. Roberts, Isaac Jones-Williams, John Howell Hughes, a Dr. Cynddylan Jones.

Advertising