Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
SARON, TREWILLIAM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SARON, TREWILLIAM. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Carwn i'r llinellau hyn gael ym- ddangos mewn cysylltiad &'r hysbysiad am urddiad y brawd John Grawys Jones, o Goleg CéJerfyrddin, yn Saran, Trewilliam. Dywed ef yn ei lythyr fy mod heb ohebu yn derfynol ar y mater. Nid yw hyny yn wir. Yr oeddis wedi penderfynu hyd yn nod giniaw i'r gweinidogion, a'r lie i'w gynal; ond nid oes clim fel i esbonio pob peth. Mi welais ar Tarian y Gweithiwr yr wythnos ddiweddaf alwad i'r talentog John G. Jones, o Goleg Caerfyrddin, i ddyfod i eglwys oarchns EbenezT, Aberdar a chwi welweh fod yna dalent gan y brawd ond yr wyf yn rhyfeddu am dano ei fod wedi siarad mor gryf yma o flaen yr eglwys hon, a'i fod wedi bod yn gweddio llawer am i'r Arglwydd 1 gyfeirio ei feddwl i'r lIe y gallasai wneyd fwyaf o ddaioni, a'i fod wedi ymgynghori llawer a'i Dduw o gylch y He hwn, a'i fod wedi cyfeirio ei feddwl yma, ac nid i un man arall, ac wedi siarad ag ereill, ae heb Wneyd dim yn fyrbwyll. Ond hyn sydd i'w ryfeddu, fod gan y brawd ddau arglwydd i ymwneyd a hwynt; ond rhaid cydnabod mai y diweddaf sydd yn cael y flaenoriaeth, oblegid gohirio oddiwrth y cyntaf er cael derbyn gan y diweddaf-eglwys gyfoethog Ebenezer, Aberdar. Yr wyf yn gobeithio y byddantyn Ilwydd. lanus igael yr urddiad ar unwaith rhag ofn i Ebenezer, Abertawy, i ddyfod i glywed, nen l'ywle eyffelyb. Mae yn lied debyg y bydd y brawd yn myned mewn rhwysg 1 Ebenezer, gan osod ei droed ar eglwys isel Trewilliam yn llawn bai i gyd yn lie myned yno i'w cyfarwyddo yn ol gorchymyn ei Dduw, ond myned i Damascus, fel Jonöh, druan, ar ffordd pob peth. Ond y mai yn lied debyg na ddianga ef ddim heb gerydd, mwy na Jonah am y tro gwael hwn, ac y bydd rhyw forfil yn ei aros yn rhywle ar ei daith. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddyweyd dros yr eglwys hon ein bod wedi maddeu iddo, am ei fod wedi dangos yn amlwg pwy y mae yn ei addoli, gan obeithio y bydd i bawb fod yn onest yn ei broffes. Yr wyf yn credu pe buasem yn cwrdd a phawb fel y brawd hwn, buasai yn well arnom heddyw, felly yr ydym yn ddiolchgar iddo am ei onestrwydd. Yr wyf yn terfynu, gan obeithio y gochelwn rbagtwyllo y nail I a'r llall fel hyn. Mae hyn yn rhy ddrwg, ar ol 1 r eglwysi ymdrechu casglu i godi a chadw bechgyn yn (lln colegau, i gael ein twyllo ganddytft fel hyn. THOMAS JOHN, Ysgrifenydd.
Y PARCH J. N. RICHARDS, P…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH J. N. RICHARDS, P VNYGROES. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, — Gwnly gwnewch, yn ol eich parod- rwydd arferol, ganiatau yehydig o'ch gofod eto i gefnogi aPel y Parch Emlyn Jones, a Lladmerydd, yn eich j-bifynan diweddaf, at achos teilwng yr anwyl a'r ffydd- lawn John Newman Richards, Penygroes, yr hwn sydd ^edi ei Iwyr anallnogi am weddill ei oes gan y parlys. jkfallai mai ychydig o'ch darllenwyr sydd yn ei adna- ood y tnallan i siroedd Aberteifi a Phentro, a dyna yw eln rheswm dros alw sylw mor fynych tuag ato yn eich newyddiadur clodfawr sydd bob amser ar y blaen mewn cydymdeimlad ac haelioni crefyddol, a chredaf cyn diwedd neu ddechreu Awst, y bydd llawer o'n heglwysi Wedi gwneyd ycbydig o gasgliad iddo, yn ol awgrym, a ac esiampl dda Lladmerydd. Yr wyf «edi danfon gini er's wytbnosan bellach, ond yr wyf yn barod eto i wneuthur unrhyw beth sydd yn fy ngaJlu i syrnud baich oddiar feddwl nn mewn perthynas i'w deulu nad oes dim gobaith iddo allu llefaru na gweithio rnWyach ar y ddaear. Manchester. D. JOHN.
ACHOS Y PARCH J. NEWMAN RICHARDS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ACHOS Y PARCH J. NEWMAN RICHARDS. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Da iawn oedd genyf ddarllen llyth- cydymdeimladol Mr Emlyn Jones ar yr achos teilwng uchod yn y TYST A'R DYDD an' Mehefin 19eg, yn lIghydag eiddo Lladmerydd yn y Rhifyn am yr wyth- lIos, cyn y diweddaf, yn mha nn y crybwylla yn mhlith enwan Mri limlyn Jones Morris, Pontypridd °nn> Manchester a «;inau, fel hen gydfyfyrwyr i'n cyfaill c^studdiol i gymeryd y mater i fyny. Yr ydym nil wedi arfer coleddu y syniadau ucbaf am alluoedd a C Iymeriad Mr Riahards, ac yn teimlo o'n calon with fod ei nerth we i ei ddarostwng ar y ffordd ar aner dydd gwaitb, yn nghyda'i investment ariffodus, a ein bod yn barod i wneyd pobpeth allwn mewn 5jordd o gynorthwy i gyrhaedd yr amcan mewn golwg. odais yr achos i sylw y gynulleidfa yn Nghapel Als oreii y Sabboth, a chasglwyd yn yr hwyr drwy danys- ,u .a. m^n r°ddion, y cwbl yn hollol wirfoddol— V\ 9ini> Wedi gwneyd fel hyn, dywedai cyfaill ead yn bresenol amser rhifo yr arian, Chwi ellwch yn fyned allan yn galono;* i gymhell ereill i gyfranu." yw fy nheimlad inau. Nid oes eisieu ond rhoddi, oedd syrol o wir sefyl'fa ein cyfaill i'r cynulieidfa- n na ddaw digon o aur ac avian i mewn i'w godi aneen am y gweddill o'i fywyd. Bwriadaf vn°l j °fyn caredigrwydd rhai cyfeiilion haelionus jyj yn fuan. Fy anwyl frodyr, hen gydfyfyrwyr ttxcoards, y rhai ydym heb eithriad yn ein hanes— ac yr wyf yn falch o hyny—wedi proffesu cyfeillgarwch didor at ein gilydd oddiar yr amser yr oeddym yn yr Athrofa, gadewch i ni ddangos fin bod yn earn ein gilydd, nid ar air yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. "A friend in need is a friend indeed." Yr eiddoch, &c., Llanelli. T. JOHNS.
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD. 'lit FONEDDIGION, — "A minau, yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof (Dan. x. 17). Dyna brofiud ein b inwyl frawd y Parch J. W. Jones,.Llan- hiddel, heddyw, oblegid/er gofid rhaid hysbysn ei luaws cyfeillion ei fod dan orfod wedi rhoddi fyny gofal yr eglwys yn Llanhiddel nos Sul, Mehetin 28ain. Mae Mr Jones, oherwydd afiechyd, wedi gweled ami a blin g.studdiau yn nhymhor byr ei weinidogaeth. Diwedd y peth hyn yw, fod yn rhaid iddo adael ei wlad am hin- sawdd fwy cymedrol, cyn y gall gael yr un gobaith am wellhad. Gan fod eglwys fechan L!anhiddel wedi ym- gymeryd a gwneyd swm o arian iddo ar ei ymadawiad i Awstralia, ac y bydd eisien llawer arno yntan yn ei wendid, ac yn neillduol yn mhiith estroniaid, a gawn ni grefu ar gyfeillion crefydd i wneyd e i goreu i gyfranu at yr achos teilwng hwn. Gallwn wrth hyn gryfhau calon ein brawd wrth adael ei wlad, a rhoddi defnydd cysnr i'w feddwl pruddaidd yr ochr arall i'r dtiaear. A chofio (jeiriau yr Arglwydd lean, ddywedy-l ohono Ef, mai dedwydd yw rhoddi yn bytrach naderbyn" (Actau xx. 35). Maesycwmwr. T. J. HUGHKS.
YR UNDEB CYMREIG AC ANNIBYNFAETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR UNDEB CYMREIG AC ANNIBYNFAETH YR EGTIWYSI. i At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGTON,-Caniatewch i mi ychydig o ofod i draethu ychydig eiriau ar y mater nchod. Dichon na ddechreuwyd yr Undeb Cymreig, utwy na'r nn Seisonig, heb fod rhywrai yn ofni y gallasai fyued i ymyraeth a. phethan na pherthynent iddo. Os y bodolai y fath ofn, credwyf ei fod yn hollol ddisail, hyd y cyfaifod diwedd- af yn Aberystwyth. Bûrn yn holl gyfarfodydd yr Undeb o'i ddechreuad, ae ni sylwais o'r blaen ar ddim ond perffa'th anmhleid- garwch, ac ymgais i lynn wrth amcan ei scfydliad, sef, anog i gariad a gweithredoedd da. Ond yn y Papyr a ddarllenwyd yn Aberystwyth ar Gyllid Cyfreithlon Crefydd," dywedwyd rhyw bethau nas gallaf, er pob ymdrech, eu cysoni a'r amcan yna. Y peth cyntaf yn y Papyr a ystyriwyf o'r natur a nodwyd oedd y cyfeiriad a wnaed at gapeli coffadwriaethol. Dywedodd y cyfaill a ddarilpnodd v Papyr Nid ydynt yn goffadivr- iaethol o ddim, ond o ynfydnuydd y rhai oedd &'r llm> flaenof yn eu cyfodi." Pe buasai wedi defnyddio y geiriau Ylla mewn araeth, gallesid myned .heibio iddynt, fel rhai wedi disgyn dros ei wefusau yn anfwr- iadol; ond gan ei fod yn datllen o bapyr oedd wedi ei ddarflen cyn iddo ddyfod i'r essynlawr, rhaid ei fod yn bwriadu defnyddio y frawddeg uchod, ac felly fod gan- ddo reswm dros wneyd hyny. Er dyfalu cryn iawer, nid wyf fi wedi gallu dyfod o hyd i'r rbeswm hwnweto. Btlm yn meddwl fod y cyfaill yn defnyddio ei eiriau cryfion, am ei fod yn wrthwynebol i'r arfe iad o gadw enwau te:lwng mewn coffadwriaeth ond diamheu nad ydyw yn gosod ei hun mor groes i'n harferiou, ac i'r Ysgrythyrau. Mae ilawer o bethau coffadwriaethol genym heblaw capeli. A ydyw y cofg>»k»fnau yn ein mynwentydd yn rhywbeth ond colofnau coffadwriaeth- ol ? Beth ydyw y cohantau a gyhoeddir ond cyfrolau coSadwriaetbol ? Onid gApinidogion coffadwriaethol ydyw y rhai a ddewisir am eu bod o'r un enw, new o'r un dalentau, neu o'r nn tenlu a'r' gweinidogion blaen- orol ? Gellid meddwl hefyd fod yr arferion hyn yn berffaith gyson a'r *Ysgrythyr. Yn yr Epistol at yr Hebreaid, nid yn unig fe ddeil yr ysgrifenydd gyfres o enwogion i fyny ger ein bron, ond gorchymyna hefyd, Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i cbwi Air Duw." Nis gallasai y cyfaill fod yn beio yr arferiad o fawrhau coffadwriaeth dynion da, beth bynag oedd yn ei gynhyrfu i ddefnyddio ei eiriau condemniol. Bftm hefyd vn meddwl ei fod yn gwneyd hyny am ei fod yn ystyried fod yr ealwysi godasant gapeii coffad- wriaethol wedi gosod eu hunain felly mewn sefyllfa an- alluog i gyflawni eu rhan o waith cyhoeddcs eu Henwad ond wedi ail-feddwl, yr wyf yn metbu credu mai dyna ei reswm ychwaith dros ymosod ar adeilad- wyr capeli coffadwriaethol." Gwn am bobl a ddecb-reu- asant adeiladu capel a enwir felly ryw wyth mlynedd yn ol, ac y roaent oddiar hyny wedi talu rhyw £4,500 o'u dyled, wedi croesawi yr Undeb unwaith, wedi der- byn Cymanfa y sir ddwywaith, psn nad oedd neb yn ei cheisio, ac wedi bod yn mysg y rhai mwyaf blaenllaw mewn cyfranu at ein sefydliadau cenadol ac addysgol. Nis gwri a fedr y cyfaill ddarllenodd y papyr yn Aber- ystwyth gyfeirio at eglwysi ereill wedi gWleyd yr holl bethau yna yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf, ond diau y medr gyfeirio at rai lieb wneyd y naill Da'1' llall obonynt, felly rhaid mai nid defnyddio ei eiriau ydoedd o dostnri at y gwan-" Charity begins at home." Btxm drachefn yn meddwl fod v cyfaill yn defnyddio ei eiriau caledioo am ei fod yn tybied fod y capeli coff- adwriaethol yn rhai afreidiol ond rhfid nad oedd y dybiaeth yna o'm heiddo yn gywir ychwaith. Os ydyw canoedd lawer o bobl yn ystyried eu bod wedi gwneyd y peth goreu er l'edaeniad achos y Gwaredwr, yu sicr ni fnasai un sydd yn byw yn mhell o'r lie mor hunanol a thybied ei fod ef yn ddoethach na bwynt oil gyda'u gilydd. Gan fod y bobl a wnaethant aberth mawr yn teimlo ei fod wedi talu eisoes, drwy fod yn foddion i ddyblu rhifedi yr Ysgolion Sabbothol, haner ddyblu y casgliadau, a lluosogi yr Annibynwyr, yn lie eu bod dan orfodaeth i fyned at enwadau ereill o eisieu eisteddle- oedd, yn ddiamheu ni fnasai un nad oedd wedi cyfranu ffyrling at yr anturia,eth mor hyf ac mor haerllug, a chyhoeddi llafurns gariad rhai ereill yn" ynfydrwydd." Buasai y fath ymddygiad yn rhy debyg i'r hyn gymer- odd le pan dywalltwyd y blwch enaint gynt. Rhaid i mi addef nad ydwyf hyd yn hyn wedi gallu cael rheswm boddhaol paham y defnyddiodd y cyfaill ei eiriau angharedig, os nad anheg. Dichon y gallaf lwyddo eto, neu y ceir goleuni pellach gan y cyfaill ei hun ar y mater. Goleuni, nen beioio, ymddengys i mi yn eglur mai nid doethineb ydyw detnyddio esgynlawr yr Undeb i ymyraeth a oiaterion a berthynant i'r eglwysi yn unig. Ni pherthyn i mi yn bresenol i geisio nodi allan derfynau maes gweithrediadan yr Undeb, ond pan na fyddo yr eglwysi yn gwneyd dim ond def- nyddio cyllid cyfreithlon mewn modd cyfreithlon, i'r amcan cyfreithlon o ledaenu achos crefydd, ym- ddengys i mi mor glir a'r dydd mai nid gwaith yr Undeb ydyw ymyraeth. Os yr Ysgrifenydd, ac nid y Cadeirydd, sydd i ofalu am yr arossr sydd i bob nn i wneyd ei waith yn y cyf- arfodydd, hwyrach y byddai yn well iddo gyfyngu amser ymdrafodaeth cwestiynau cynil, na'i estyn ohono ei hun, nes rhoddi digon o gyfleusdra i ruthro ar rai o eglwysi parchusaf a mwyaf gweithgar ein Hen«ad. UNDEBWR.
YMADAWIAD Y BRAWD IEUANC MR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMADAWIAD Y BRAWD IEUANC MR DAVID PHILLIPS 0 MIDDLESBOROUGH. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONBDDIGION,—Mae yn ddrwg genym feddwl fod ein hanwyl frawd yn ymadael a Gogledd Lloegr, ac fod yn rhaid i ninau ddyweyd ffarwel wrtho. Ond cysur yw meddwl mai dychwelyd gartref y mae i wlad ei dadau, ac i'w ardal enedigol, sef Llansawel, ger Castell- nedd, ac at ei fam eglwys yn Briton Ferry. Oddeutu dwy flynedd yn of daeth y brawd ienanc uchod i f, nv i Middlesborough i weithio yn un o weith- iau Bolckow, Vaughan, & Co. We ii bod yma am dym- hor yn aelod crefyddol ffyddlawn a gweithgar yn yr eglwys Gymraeg, yr hwn yn awr a wneir i fyny o ddwy eglwys y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn unedig, barnodd y fr,wdoliaeth fod yn y brawd gymhwysderau i bregethu Crist yn Geidwad i bechaduriaid, ac anogas- ant ef yn daer i ddechreu yn ddioed, yr hvn a wnaeth yn ofnus a phryderus. Oddiar hyny hyd yn awr er's blwyddyn o amser, mae wedi bod yn bregethwr rhfol- aidd a chymeradwy yn eglwysi Cymreig Gogledd Lloegr. Yn awr, gan fod ein hanwyl frawd yn penderfynu dyehwelyd gartref, dymnnwn Ddnw yn rhwyrld iddo. Er fod yn flin genym, ac er i'w ymadawiad fod yn golled nid bychan i'r eglwysi yma, eto dymunwn bob llwyddiant iddo, a gobeithio y caiff bob cynorthwy gan ei eglwysi gartref, a'r eglwysi cylchynol, i gael addvsg er ei gymhwyso ar gyfer dyfodol bywyd, a erwaith pwysig y weinidogaeth. Os bydd rhywrai o eglwysi Castellnedd a'r cvlchoedd am supply am Sab- both, gallwn yn hyderus gymeradwyo y brawd ieuanc uchod iddynt fel un gwir deilwng, o gymeriad pur, a phrelethwr cymeradwy. South Bank. LEWIS WILLIAMS.
CYMANFA MORGANWG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA MORGANWG. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Derbyniais nodyn oddiwrth y Parch W. Rees, Glandwr, yn galw fy sylw at absenoldeb ei enw o blith y rhai a gyfansoddant Bwyllgor y Gymanfa nesaf. fel yr ymddengys oddi, rth yr adroddiad yu y rhifyn diweddaf o'r TYST A'B DYDD. Nid wyf yn hollol sicr pwy sydd yn gyfrifol am yr amryfusedd, pa un ai myfi, ynte y cysodydd ond yr wyf yn teimlo yn sicr nad yn fwriadol y gwnaed hyn, ac y mae yn ofidus genyf iddo aymeryd lie, canys y mae Mr Kees yn un o aelodan y Pwyllgor. Yr eiddoch, &c., Pontypridd. W. I. MORRIS.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PRINCE ALBERT VICTOR AND THE CITY.-The Gold Casket containg the Freedom of the City, recently presented to H R.H. Prince Albert of Wales, was specially designed and executed by Mr J. W. Benson, of Ludgate Hill, and Old Bond Street. The general character of the design is Renaissance, enriched with portraits of the Prince, H.M. the Queen, and the Prince and Princess of Wales. These portraits, which are true and life-like, are done in vitrified enamel with the colours and shades in-teliby burnt in the gold, and are miniature gems. The Fishmongers a'so presented the Freedom of their ancient guild in a Gold Casket, specially designed by the same firm. Piscatorial scenes form the subjects of the ornamentation. On one panel is depicted in repousse the departure of a fleet of fishing boats, and on the corresponding panel at the other end, their return, the produce of their labour being piled on the shore. No talent, skill, nor expense has been spared to make these superb gifts worthy, both of the occasion and their illustrious recipient. SING WELL! SPEAK WELL — Doughty's Voice Lozenge, lias been gratefully appreciated by thousands of clerical, musical, and other celebrities for nearly 40years. It imparts to the voice clearness of sound and brilliancy of tone. JENNY LIND.—" I have much pleasure in confirming, as far as my experience extends, the testimony already so general in favour 01 the Lozenges prepared by yol1." (Miles Doughty). (id. Is. 2s 6d, 5s, and ii s-post, free, 7d, Is 2d, &e. Ask your hemist for them.—NEWBERY and SONS, 1, King Edward- steet, London, E,C. Established A.D 1740.