Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

t'<..

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

t'< Ty y Cyffredin, dydd Mercher.—Rhoddodd y Barwn de Worms rybudd y byddai iddo dydd Iau ofyn i Ysgrifenydd India a allai roddi un- rhyw hyabyarwydd yn nghylch y gohebiaethau a. ymddangosodd yn y Standard y bore hwnw, pa rai a ystyrid fel negeawriaethau cyfrinachol cydrhwng y Cadfridog Rwssiaidd yn nghanol- barth Asia adiweddar Ameer Afghanistan, yr hwn a gymerwyd yn garcharor yn Cabul; pa un a oedd yr ohebiaeth yn bur, ac yn enwedig, pa un a oedd cenadwri y Cadfridog. Kauffmann, dyddiedig Hydref, 1878, tri mis ar olcadarnhad Cytundeb Berlin, yn cymhell yr Ameer i wneud darpariadau rhyfelgar yn amser heddwch, yn wirionedd, ac os oedd, a ydoedd Llywodraeth ei Mawrhydi yn parhau I gredu nad. oedd un perygl i'w buddianau Indiaidd oddiwrth gel- fvvriad Rwssiaidd yn nghanolbarth Asia. Owynai Mr. Brand am fod amryw o ohebiaethau pwysig o'r fath hyn cydrhwng yr awdurdodau Rwssiaidd yn nghanolbarth' Asia ag Ameer Affghanistan yn cael eu cyhoeddi mor frysiog, ac ya enwedig yr hyn oedd wedi ei ddarganfod yn Cabul. Dymunai alw sylw y Prifweinidog at y mater, a dymunai wybod a oedd yn iawn fod papyrau swyddogol yn cael eu gyru i'r new- yddiaduron cyn iddynt gael eu gosod o flaen y Senedd. Sylwodd Mr. Gladstone nad oedd ym gwybod pa fodd yroedd y papyrau hyn wedi i. '1. L. cael eu ffordd i'r papyr dan sylw, ac nis gallai efe gymeryd arno ei hun y cyfrifoldeb o ddweyd pa un a oeddynt yn gywir a'i peidio. Diau fod cyflwyno papyrau o'r natur hyii i ii ewyddiad uron cyn eu gosod o flaen y Ty, yn ddianrhydedd i'r aelodau. Gyda golwg ar y Trysorlys, yr oedd ef yn benderfynol o roddi gorchymyn i atal troion o'r fath hyn yn y dyfodol; ac nid oedd ganddo amheuaeth na fyddai i swyddogion sef- ganddo amheuaeth na fyddai i swyddogion sef- ydliadau cyhoeddus eraill ddilyn yr un esiampl— Rhoddodd y Llefarydd 6 flaen y Ty y rheolau I newyddion a dynwyd allan ganddo gyda golwg ar ddwyn yn mlaen Feaurau, gwelliantau, a dadleuon, ac yna aed yn mlaen gyda Mesur Amddiffynol yr Iwreddon. Agorwyd y ddadl ohiriedig ar yr ail ddarlleniad gan Mr. Weston, Siaradodd am ddwy awr, a derbyniai gyfarch- iadau yn ami oddiwrth yr Home Rulers. Dilynwyd ef gan Mr. Fry, yr hwn a gymerad- wyai y Mesur, ar y sicrwydd fod y Llywodraeth yn credu fod y cyfryw Fesur yn angenrheidiol. Gwrthwynebwyd ef gan Mr. Lalor. Barnai Mr. Nelson nas gall Lloegr byth lywodraethu yr Iwerddon, er y gall ddeddfu iddi. Gwrthwyn- ebwyd ef hefyd gan Mr. P. O'Brien a Mr. Byrne, a rhoddai Syr H. D. Wolff y Llywodr- aeth ar ei gwyliadwriaeth rhag iddi drwy wthio y Mesur yn mlaen dynu gwg galluoedd eraill. Er fod Joseph M'Kenna o blaid y Mesur, eto, gwrthodai bleidleisio drosto. Amddiffynwyd y Mesur gan Mr. Forster, a rhanwyd y Ty, a nifer y pleidleisiau oedd fel y canlyn:- Dros yr ail ddarlleniad 359 Yn erbyn 56 Mwyafrif 303 Ty YR Arglwyddi.—Ni fu dim o bwys o dan ystyriaeth eu Harglwyddiaethau. Ty Y Cyffredin, dydd Llun.—Dai'llenwyd Mesur Corphoraeth Abertawe yr ail waith, a chyflwynwyd ef i bwyllgor. Rhoddwyd rliy- budd gan Mr. Pugh y bydd iddo ofyn i ysgrif ydd India pa swm o arian a dalwyd i Shore Ali ac Yakoob Khan, a pha. wasanaeth a wnaethant mewn ad-daliad. Mewn atebiad i Syr C. Reed, hysbysodd Mr. Chamberlain y byddai adroddiad yr ymchwiliadaeth ar oleuo llongau pysgota yn cael ei roddi o flaen y Ty dydd Gwener. Me jra atebiad i ofyniad a roddwyd yn enw Mr. T. D. Sullivan i'r Pcstfeistr Cyffredinol, atebodd Syr W. Harcourt fod y gorchwyl o a.teb y gofyniad yn perthyn i'r Ysgrifenydd Carfcrefol, ac nid i'r Postfeistr Cyffredinol, gan yr hwn nid oedd un cyfrifoldeb yn y mater. Mae hawl yr Ysg- grifenydd Cartrefol i agor a chadw llythyrau yn un a ganiatawyd ac a awdurdodwyd gan y Statute 1 Vic., chap. 33, sec. 25, ac yn un sydd yn cael ei arferyd er y pryd hwnw. Mae y ffaith fod gweithrediadau dirgelaidd yn cael eu cario yn mlaen, megys y fradwriaeth Ffeniaidd, yn cyfiawnhau rhoddi iddo y gallu hwn yn yr adeg bresenol yn ogyatal ag yn yr adeg a baa- iodd. Yn unol a hyn rhoddodd Mr. Cowem rybudd y byddai iddo dydd Iau efyn a oedd gan y Llywodraeth hawl iagor a chadw llythyrau. Oddeutu pump o'r gloch, aeth y Ty i Bwyllgor ar Fesur Amddiffynol yr Iwerddon. Gwrthod- 1 wyd gwelliant Mr. J. Tower o dynu ymaith y gair 'yn mha. Ie bynag' a rhoddi yn Iwerddon yn ei le, drwy fwyafrif o 189, a'r un modd eiddo Mr. A. M. Sullivan drwy fwyafrif o 176. Cynyg- iodd amryw welliantau eraill, ond hysbysodd y Cyfreithydd Cyffredinol dros Iwerddon y byddai i'r Mesur gael ei gario allan yn one at, ac nad oedd angen am unrhyw welliantau. Cododd y Ty am bum' munyd ar hugain wedi un o'r gloch.

DOLGELLAU.

ABERMAW.

Y Farchwad yjB AM YR WYTHNOS

Family Notices

AR Y DAITH.