Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y II DDWY FIL" A CHYFLE Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y II DDWY FIL" A CHYFLE Y BED- YDDWYE. MEWN colofn arall yr ydym wedi gosod eylch-lythyr oddiwrth Cynnadledd Caer- dydd, at yr Eglwysi Bedyddiedig trwy Gymru. Os nad yw v darllenydd wedi darllen hwnw, gweled yn dda wneydhyny cyu myned yn tniielfach-mat ar y tudalen gyntaf o'n rhifyn presenol; a bydd i ni gytnmeryd ein hanadl cyhyd ag y bydd.Q;yn myned dros hwnw. Wel; dyna ti wedi darllen y cylch-lythyr; porion, yr ydym yn awr mewn gwell cyfle i ddeall eill gilydd. Mae penderfyniad VI. yn rhoddi ar ddeall fod yr Independiaid wedi gwrthod cydweithredu a neb annghvdffurf- wyr ereill er adgofio aberth y Ddwy Fil" yn 1862. Nid ydym ni yn synu dim at hyn, nac yn blino y filfed ran o eiliad am hyn. Yr oedd rhai o'n brodyr da yn Lloegr wedi cael eu twyllo gan iaith lefn, a thafod têg, a'r broffes arwynebol am undeb rhwng yr enwadau, i gredu fod.adgofio am y Ddwy Fil yn gyfle i uno yr Independiaid a'r Bedyddwyr—suddo am byth yr holl wahaniaeth, a dyfod yn un enwad mawr trwy y byd. Sonid am y flwyddyn hon fel Y Cyfle= the. opportunity ond wedi y cwbl, mae yn amlwg yn awr nad yw yr Independiaid yn ymofyn undeb a neb, ond ar dir Independiaeth—nid ar dir annghyd- ffurfiaeth. Mae groesaw i'r Bedyddwyr uno a'r Independiaid, ond iddynt ddyfod a'r holl eisin i felin yr Independiaid! Mae caniatad i'r Bedyddwyr ddyfod i undeb sereh)g a brawdol a hwynt; ond rhaid i'r Bedyddiwr auughofio mai Bedyddiwr yw ef; ac os dywed mai Bedyddiwr oedd Crist, ac mai Bedyddwyr oedd yr Apostolion, caiff ei ystyried yn aflonyddwr a tberfysgwr! Er holl ymgais rhai o'r Bedyddwyr i uno yr holl enwadau, er rhoddi dadganiad o'n teimlad fel Aunghydffurfwyr, ac nid fel en- wadau ar wahan, aeth y cwbl yn ofer—pen- derfynodd Undeb Cynnulleidfaol Lloegr a Chymru mai yn enwadol y buasai yr Indep- endiaid yn gweithredu. Dyna y key note wedi ei rhoddi, a ffwrdd a hwy i gasglu anan er helaethu terfvnau ein Henwad ni," ys dywed Rees o Gend!, a gadael annghydffurfiaeth i wneyd fel y gallo. Gweithred wael i'w hon, ar ol yr holl swn a'r froth am undeb ond y mae yn weith- red onest. Pe buasai yr Independiaid yn gwneyd yn wahanol i hyn, ni fuasai genym ddim ffydd yn eu gonestrwydd. Maent wedi dangos i'r byd beth yw elfen lywodr- aethol yr enwad-mawrygu ein Henwad ni." Wel, mae y cyfle" i wneyd yr Indep- endiaid a'r Bedyddwyr yn un wedi myned, y ac yn awr, mae y cyfle i'r Bedyddwyr i wneyd ymdrech unol a chyffredinol o blaid egwyddorion dilwgr y Testament Newydd, ac arferiadau digymmysg y Cyn-gristionog- ion wedi dyfod. Frodyr anwyl, a gawn ni yn awr gymmeryd gafael yn "Y CYFLE?" Mae Cynnadledd Caerdydd yn cynnyg, ac yn cymmeradwyo gydag unfrydolrwydd, C5 i sylw holl Eglwysi Bedyddiedig Cymru, y cynllun canlynol fel un priodol iawn er rhoddi i ni gyfle i ddadgan ein teimladau, a phrofi ein haelioni yn ystod y flwyddyn hon maependerfyniad VII. o weithrediadauy gynnadledd yn rhedeg feI hyn :— "Fod y Gynnadledd hon yn cymmeradwyo i sylw y Bedyddwyr yn Nghymru y priod- oldeb a'r pwysigrwydd mawr o godi Trysorfa o £2,000 er eyhoeddi Llyfrau a fyddont o duedd i ddadblygu gerbron y byd yr eg- wyddorion mawr a phwysig a gredir ac a goleddir gan ein Cyfenwad; hefyd, Llyfrau cyrnhwys at Wasanaeth yr Ysgolion Sab- bothol gyda Thraethodau bychain er egluro hawliau Crist ar ufydd-dod personol dyuion -y,n nghyd a phethau pwysig ereill; a bod y cyfryw Drysorfa i fod dan rheol- iddiad Pwyllgor dewisiedig gan y Cyfenwad." Bydd yn dda gan ein cyfeillion ddeall fod y cynnyg yria wedi cael derbyniad calonog ac unfrydol gan yr holl gynnadiedd. Pan yn ysgrifenu, yr ydym ni yn ymwy- bodol o gyfarfod pwysig Bangor, ac o ben- derfyniad ein brodyr yn y Gogledd i gael Athrofa wedi ei sefydlu yn Llangollen, ar y 24ain o Awst, yr lion r. fydd yn cael ei galw yn Athrofa Bartholomew." Ond nid ydym yn gweled un rhwystr yn y ffaith bwysig hon i gario allan benderfyniad cyn- nadledd Caerdydd, i gael trysorfa at gy- hoeddi llyfrau. Yr ydym yn teimlo yn sicr y bydd i'n brodyr yn y Gogledd gyduno yn hyn yr un modd a phe na buasai yr Athrofa wedi ei sefydlu. A gwyddom hefyd na fydd s efydliad yr Athrofa yn y Gogledd effeithio dim ar deimladau ein cyfeillion yn y deau. Yr ydym yn nodi hyn er dangos nad ydym yn ysgrifenu mewn anwybodaeth o weith- rediadau pwysig ein brodyr yn y Gogledd. Yo awr, am y drysorfa o ^2,000. Nid yw hyn fawr o beth; ond nid oes yr un pin a all ddarlunio, na'r un tafod a all draethu, na'r un meddwl a all ddychymmygu, y lies i'r gwirionedd a all ddeilliaw oddiwrth hyn. Yn awr, nid oes modd genym ni fel Bed- yddwyr i ddwyn allan weithiau da a phwysig a fyddant yn dadblygu ein hegwyddorion, a- hyny yn benaf yn herwydd y gost. Orid os cawn amcan y penderfyniad uchod i ben, gallwn gael trwy y wasgungyfrolddao leiaf bob blwyddyn, heblaw pethau llai eu pwys a'u maintioli. Cymmerwn yn en* ghraifft y gyfrol ddiweddaf o'r Bunyan Lib* rat-y-ni a olygwn fod y "Pwyllgor Cy- hoeddiadol yn dewis bono. Sut i weith- redu r. Ehywbeth yn debyg i hyn,Dewiis!. brawd eymhwys i gyfieithu y gyfrol-talu iddo swm benodol am ei waith-gofyn wedi, hyny am brisoedd oddiwrth argraffwyr yn yr enwad am argraffu y gyfrol-yna ei gwerthu yn agos am y peth a elwir cott price. Trwy hyn celem y llyfr pedwar swllt am hanner coron; "ond byddai ei gylchrediad lawer yn helaethach, ac yn y pendraw dychwelyd clw yn ol i'r drYSQrfa. Trwy hyn byddai yr enwad yn cael caw A- chymmeriad y Pwyllgor yn sicrwydd o werth y lIyfr-byddái y,brawd a lafuriaii'w gyfansoddi, neu ei gyfieithu, yn cael tal cyf- iawn am ei amser a'i draflerth, byddai yrar- graffydd yn cael ei ddiogelu, a byddai yr enwad yn cael llyfr da am bris isel; Beyn olaf, byddai yr elwoll yn myned i fwyhau 1; Drysorfa. Dyna etto Lyfrau ein Hysgolion SalK bolhol. Yr ydym yn awr yn gorfod pryna. y cwbl oil gan daeceHwyr; ac er y miloedd llyfrau sydd yn cael eu hargraffu at wasan- aeth yr ysgol Sid, ni welodd neb erioed ddim ynddynt o duedd i ddadblygu egwyddorion y Bedyddwyr. Cymmerwn Lyfrauy Sunday School Union-Dosparth Cyntaf, Ail, a'r Trydydd. Pwy a welodd adnod ar fedydd yn un o honynt erioed ? Dim son am loan yn bedyddio; dim un cyfeiriad at fedydd Crist yn yr a/on dim sylw o'r bedydd yn Ainon, am fod dyfroedd lawer vno dim esbonio beth yw gwneyd dysgyblion, ac yna eu bedyddio; dim cyfeirio at y faith dyst- iolaeth a "yr hwn a gredo ac a fedyddier a cadwedig;" dim son am dair mil yn cael eu dwysbigo, a chael eu bedyddio. Na, maey taenellwyr mor ofalus i gadw bedydd Crist o lenyddiaeth yr ysgol SuI ag yw caethfeistri South America i gadw rhyddid o olwg plant. Ham. Yn awr, bydded i ni greu Llenyddifteth i'r Y sgol Sabbothol ein hunain. Pahatn yr ym-. ddibynwn ar y taenellwyr i barotoi ymborth i'n plant ni, pan y gallwn borotoi. iddynt yinborth iachus ein hunain ? Mae gan y Bedyddwyr

Y PYTHEFNOS.